Glanmor Bowen-Knight 1945 – 2019: Teyrnged

Bu farw Glanmor Bowen-Knight, Tredegar, un o hoelion wyth y Blaid yng nghymoedd Gwent, yn ddiweddar.  Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n estyn ein cydymdeimlad i’w chwaer Rae a’r teulu.  Cewch ddarllen teyrnged iddo gan  ei gyfaill Hywel Davies yma.

 

GLANMOR BOWEN-KNIGHT: TEYRNGED

Cafodd ymadawiad y cyn-gynghorydd ac aelod gweithgar o Blaid Cymru Glanmor Bowen-Knight o Dredegar ei gofio’n deilwng yn Amlosgfa Llwydcoed Ddydd Mercher, 9 Hydref, 2019 mewn gwasanaeth dyneiddiol a fynychwyd gan gynulleidfa sylweddol o deulu a chyfeillion.

Yn eu plith y bu Dafydd Williams, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru, Jocelyn Davies, cyn Aelod Cynulliad y Blaid i Dde Ddwyrain Cymru, ac Alun Davies, cyn aelod o’r Blaid ac yn awr yn Aelod Cynulliad Llafur Blaenau Gwent.

Er yn wynebu her gorfforol ers ei blentyndod cynnar ac yn gorfod cerdded gyda chymorth ffyn, roedd Glanmor yn falch o gyhoeddi y buasai mewn amgylchiadau gwell yn ‘6-footer’. Yn wleidyddol, cadarnhawyd yr honiad hwnnw gan ei fywyd o ymroddiad llwyr i fudiad cenedlaethol Cymru.

Yn aelod o Blaid Cymru ers y 1960au, bu Glanmor yn gwasanaethu mewn nifer o ffyrdd yn swyddog Cangen Tredegar a phwyllgor etholaeth Glyn Ebwy / Blaenau Gwent. Roedd hefyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Tref Tredegar am flynyddoedd maith nes cyfnod ei nychdod terfynol.  Wrth ei alwedigaeth, roedd Glanmor yn horolegydd (glociwr), wedi’i hyfforddi fel dyn ifanc yng Ngholeg St Loye’s, Caerwysg. Roedd yn adnabyddus yn Nhredegar fel yr oriadurwr a gemydd a fyddai’n ddiwyd wrth ei waith mewn cornel o siop gemydd Gus Jones.

Megis yn ei waith, felly hefyd mewn gwleidyddiaeth byddai Glan yn defnyddio’i ymennydd trefnus a manwl yn bwrpasol iawn i adeiladu peiriant Plaid Cymru effeithiol ym man geni anaddawol Nye Bevan.  Roedd wrth ei fodd i weld ei waith ef ac eraill yn dwyn ffrwyth drwy yrfa brodor o Dredegar, yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru Steffan Lewis – er i ni ei golli mor drasig o ifanc – a’r etholiad Cynulliad Cenedlaethol yn etholaeth Blaenau Gwent yn 2016 ble bu’r Blaid bron yn fuddugol.

Yn briodol iawn, cafodd Glanmor dderbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Plaid Cymru.

Gedy chwaer, Rae, a’i ŵr Charles, ynghyd â theulu estynedig sylweddol, pob un ohonyn nhw’n falch ohono ac wedi’u hymroi i’w ofal.

D. Hywel Davies

Cofeb i Glyn James

Dadorchuddir Plac Glas er cof am y cenedlaetholwr amlwg Glyn James am 2:00pm Dydd Sadwrn 19 Hydref y tu faes i 9 Darran Terrace, Glyn Rhedynog / Ferndale, Rhondda CF43 4LG.  Fe’i dadorchuddir gan y Cynghorydd Geraint Davies ac fe drefnir y digwyddiad gan Archif y Maerdy.  Gweinir lluniaeth yng Nghlwb Dynion Busnes a Phroffesiynol, 65-66 Dyffryn Street, Glyn Rhedynog CF43 4EW, diolch i Archif y Maerdy.

Pwy Oedd Tad-cu Dafydd Iwan?

Y Parchedig Fred Jones (1877-1948) fu un o’r chwech a sefydlodd Blaid Cymru mewn cyfarfod ym Mhwllheli yn y flwyddyn 1925 ac un o’r Cilie, teulu enwog o feirdd Ceredigion.  Bu’n weinidog yn Rhymni, Treorci ac yn Nhal-y-bont Ceredigion, ac yn genedlaetholwr pybyr.

Bydd Dafydd Iwan yn siarad am hanes ei dad-cu mewn cyfarfod arbennig o Gymdeithas Hanes Plaid Cymru yn y Gynhadledd Flynyddol yn Abertawe am 4.40pm  yn y Grand Circle Bar ar Ddydd Gwener 4 Hydref 2019

Bydd yn siarad yn y Gymraeg gyda cyfieithu i’r Saesneg ar y pryd.

 

 

Golwg ar genedlaetholdeb cyn 1925

 

Mewn darlith gynhwysfawr ym Mhabell y Cymdeithasau 2, Ddydd Iau 8 Awst yr Eisteddfod yn Llanrwst 2019 bu Robin Chapman yn olrhain hanes y cyfnod cyn lansio Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925

Gellir darllen y ddarlith yma :- Golwg ar Genedlaetholdeb cyn 1925

Gallwch hefyd glywed recordiad o’r ddarlith >

 

 

 

 

Sefydlu Plaid Cymru – Olrhain y Cefndir

Sefydlu Plaid Cymru – Olrhain y Cefndir

Ceir cyfle i glywed sut y cafodd Plaid Cymru ei sefydlu, yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, Dyffryn Conwy eleni.

Bydd yr ysgolhaig nodedig, T Robin Chapman, yn olrhain hanes y cyfnod cyn lansio Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925 mewn darlith sy’n dwyn y teitl “Oni Fu Pensaer Eisoes Yn Ein Mysg?”.

Trefnir y ddarlith gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru, a dywed cadeirydd y Gymdeithas y Dr Dafydd Williams y bydd yn bwrw golwg ar gyfnod hanes sydd â gwersi hynod bwysig i’r Gymru gyfoes.

Mae Robin Chapman yn awdur a hanesydd amlwg, a’i waith yn cynnwys bywgraffiad am  Islwyn Ffowc Elis, sef Rhywfaint o Anfarwoldeb (2005) ac Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (2007).

Traddodir y ddarlith yn y Gymraeg ym Mhabell y Cymdeithasau 2, Ddydd Iau 8 Awst am 12:30pm.

Gyda chyfarchion: Dafydd Williams  (daitenby@gmail.com Tel: 07557 307667)

Eurig Wyn 1945 – 2019

Talwyd teyrngedau i’r cyn-ASE a chynghorydd Gwynedd Eurig Wyn, a fu farw yn 74 oed ar 26 Mehefin 2019.

Eurig Wyn gyda Jill Evans, cyd-Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru

 

Etholwyd Mr Wyn yn aelod o Senedd Ewrop i gynrychioli Cymru ym 1999, a bu’n gwasanaethu tan 2004. Yn nes ymlaen, cafodd ei ethol yn gynghorydd dros ward y Waunfawr ar Gyngor Gwynedd yn 2012, gan ildio’i sedd yn 2016. Bu hefyd yn gwasanaethu fel cynghorydd cymuned yn Waunfawr am nifer o flynyddoedd.

Yn ystod ei gyfnod yn Senedd Ewrop, yr oedd Mr Wyn yn aelod o bwyllgor diwylliant a deisebau’r senedd. Yr oedd hefyd yn aelod o’r ddirprwyaeth am gysylltiadau gyda De’r Affrig a’r ddirprwyaeth i Gyd-Bwyllgor Seneddol yr UE a’r Weriniaeth Siec.

Yn fwyaf amlwg, bu’n eiriolwr cadarn dros ffermwyr Cymru a’r diwydiant amaethyddol yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau, a bu’n aelod  o’r pwyllgor seneddol dros dro a sefydlwyd i ymateb i’r argyfwng hwnnw.

Yn yr angladd yn Waunfawr ar 3 Gorffennaf 2019 talwyd teyrngedau i Eurig Wyn gan ei fab Euros a Rhys a Llyr Ifans

Trefnu

 

 

Plaid Genedlaethol Cymru  (Sefydlwyd 1925)

Prif Swyddfeydd Plaid Cymru

1930 – 1946    Swyddfa’r Blaid Genedlaethol, Heol Bangor, Caernarfon

1950 – 1968   89 High Street, Bangor

1944 – 1947    48 Charles Street, Caerdydd

1947 – 1977     8 Queen Street, Caerdydd

1977 – 1997     51 Cathedral Road, Caerdydd

1997 – 2007     18 Park Grove, Caerdydd

2007 –                TÅ· Gwynfor, Anson Court, Atlantic Wharf, Caerdydd

 

Llywyddion

1925 – 1926  Lewis Valentine

1926 – 1939  Saunders Lewis

1939 – 1943  J E Daniel

1943 – 1945  Abi Williams

1945 – 1981  Gwynfor Evans

1981 – 1984  Dafydd Wigley

1984 – 1991  Dafydd Elis Thomas

1991 – 2000  Dafydd Wigley

2000 – 2003  Ieuan Wyn Jones

2003 – 2010  Dafydd Iwan

2010 – 2013  Jill Evans

 

Swyddogion Plaid Cymru

1925 – 1930   H R Jones  Trefnydd ac Ysgrifennydd

1930 – 1962   J E Jones  Ysgrifennydd

1962 – 1964   Emrys Roberts Ysgrifennydd

1964 – 1971   Elwyn Roberts Ysgrifennydd

1971 – 1993   Dafydd Williams Ysgrifennydd

1994 – 2002   Karl Davies  Ysgrifennydd

2003 – 2012   Gwenllian Lansdown. Prif Weithredwr

2011 – 2016   Rhuanedd Richards. Prif Weithredwr

2016 – 2020   Gareth Clubb. Prif Weithredwr

Hanes Plaid Cymru