Etholiad Merthyr 1970

S.O. – CYMÊR A CHYMRO

Bu S.O. Davies yn AS Llafur dros Ferthyr Tudful o 1934 hyd 1970. Cafodd ei ethol am y tro cyntaf mewn is-etholiad yn dilyn marwolaeth yr AS ILP lleol gyda 51% o’r bleidlais (yn erbyn rhyddfrydwr, ymgeisydd ILP a chomiwnydd) a 68% yn etholiad cyffredinol 1935 yn erbyn yr ILP yn unig. Ond am weddill ei yrfa, cafodd gefnogaeth gan ganrannau a amrywiai rhwng 74% ac 81%. Y Pleidwyr a safodd yn ei erbyn yn y 50au a’r 60au oedd Trevor Morgan (fel cenedlaetholwr annibynnol), Ioan Bowen Rees a Meic Stephens.

Ond cyn etholiad 1970 cafodd gohebydd gyda’r Merthyr Express gip ar restr o ddarpar-ymgeiswyr y Blaid Lafur drwy Gymru, Lloegr a’r Alban. Roedd enw S.O. Davies yno, gyda’r symbol * yn ei ymyl. Gofynnodd y gohebydd i’r argraffwyr beth oedd ei arwyddocâd a chael yr ateb ei fod yn golygu ‘not re-adopted’ gan fod y blaid leol wrthi yn y broses o ddewis olynydd i S.O., er na fu trafodaeth rhyngddyn nhw ac yntau am y penderfyniad. Cyhoeddodd y Merthyr Express y newydd syfrdanol hwn am ollwng un a oedd wedi gwasanaethu ei bobl fel cynghorydd lleol, maer ac aelod seneddol am ddegau o flynyddoedd.

  

Mae’r gweddill yn chwedl. Safodd S.O. fel ymgeisydd ‘Llafur Annibynnol’ (na fyddai’n gyfreithiol-bosib heddiw), gan ennill 51% o’r bleidlais yn erbyn y Llafurwr swyddogol Tal Lloyd (cyn-faer arall). Drwy gyd-ddigwyddiad rhyfedd, dyna’r union ganrannau (o’u talgrynnu) a gafodd yr S.O. buddugol a’i wrthwynebydd rhyddfrydol yn is-etholiad 1934. Yn 1958 cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yng Nghastell Cyfarthfa, a Tal Lloyd oedd y maer a groesawodd yr aelodau yn swyddogol i’r fwrdeistref yn rhinwedd ei swydd.

Chris Rees oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn 1970. Dywedodd wrthyf un tro nad llongyfarch S.O. a wnaeth yn unig yn y cyfrif ond ychwanegu mai dyna’r tro cyntaf iddo fedru dweud mor falch ydoedd nad oedd wedi ennill ei hun! A gwn am o leiaf un aelod o’r Blaid a fu’n helpu S.O. yn ei ymgyrch.

Roedd S.O. Davies yn wladgarwr. Yn y cofnod Wikipedia amdano dywedir: Largely indifferent to party discipline, he defied official Labour policy by championing such causes as disarmament and Welsh nationalism. Cefnogodd fudiad deiseb Senedd i Gymru yn y 1950au, gan ymuno â’r siaradwyr ar y llwyfan mewn rali a drefnwyd gan Blaid Cymru yng Nghaerdydd ym Medi 1953 (gw. y llun ar dudalen 297 o Tros Gymru, J.E. a’r Blaid gan J.E. Jones, 1970). Ac yn 1955 cyflwynodd ei fesur ‘Government of Wales’ yn Nhŷ’r Cyffredin, a baratowyd gyda chymorth gan arbeniwyr o blith aelodau’r Blaid. Ond yn ôl y disgwyl, ni fu ei ymgais yn llwyddiannus.

Dyma un rhan ddifyr o’r drafodaeth ar lawr y Tŷ. Dywedodd S.O. bod cefnogaeth i’r mesur yn dod o ‘Monmouthshire, Cardiff, West —’. Torrodd George Thomas (AS Gorllewin Caerdydd) ar ei draws gan honni: ‘The hon. Gentleman will not get much support there’. Gorffennodd S.O. ei frawddeg yn feistrolgar: ‘— Rhondda, and other places’.

Bu farw S.O. Davies yn 1972, ac yn yr is-etholiad a enillwyd i Lafur gan Ted Rowlands gyda 48.5% o’r bleidlais, cafodd Emrys Roberts, ymgeisydd Plaid Cymru 37.

PHILIP LLOYD

 

Cofio Glyn James

Dadorchuddiwyd Plac Glas er cof am y cenedlaetholwr amlwg Glyn James Dydd Sadwrn 19 Hydref y tu faes i 9 Darran Terrace, Glyn Rhedynog / Ferndale, Rhondda. 

Dadorchuddiwyd  y Plac gan y Cynghorydd Geraint Davies a cafwyd anerchiadau gan Cennard Davies a Jill Evans A.E. Cafwyd cyfraniad cerddorol gan Gôr y Morlais. Trefnwyd y digwyddiad gan Archif y Maerdy a’u hysgrifennydd David Owen.  

 

Y Parchedig Fred Jones un o sylfaenwyr y Blaid

Y Parchedig Fred Jones (1877-1948) fu un o’r chwech a sefydlodd Blaid Cymru mewn cyfarfod ym Mhwllheli yn y flwyddyn 1925 ac un o’r Cilie, teulu enwog o feirdd Ceredigion.  Bu’n weinidog yn Rhymni, Treorci ac yn Nhal-y-bont Ceredigion, ac yn genedlaetholwr pybyr.

Dafydd Iwan yn traddodi darlith am ei dad-cu, Fred Jones, un o sefydlwyr Plaid Cymru.  Hefyd yn y llun, Ben Lake AS a gadeiriodd y sesiwn yng Nghynhadledd y Blaid yn Abertawe 4 Hydref 2019.

 

 

 

 

 

Dyma recordiad o anerchiad Dafydd Iwan a gyflwynwyd gan Ben Lake, Aelod Seneddol Cerdigion.

 

 

Glanmor Bowen-Knight 1945 – 2019: Teyrnged

Bu farw Glanmor Bowen-Knight, Tredegar, un o hoelion wyth y Blaid yng nghymoedd Gwent, yn ddiweddar.  Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n estyn ein cydymdeimlad i’w chwaer Rae a’r teulu.  Cewch ddarllen teyrnged iddo gan  ei gyfaill Hywel Davies yma.

 

GLANMOR BOWEN-KNIGHT: TEYRNGED

Cafodd ymadawiad y cyn-gynghorydd ac aelod gweithgar o Blaid Cymru Glanmor Bowen-Knight o Dredegar ei gofio’n deilwng yn Amlosgfa Llwydcoed Ddydd Mercher, 9 Hydref, 2019 mewn gwasanaeth dyneiddiol a fynychwyd gan gynulleidfa sylweddol o deulu a chyfeillion.

Yn eu plith y bu Dafydd Williams, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru, Jocelyn Davies, cyn Aelod Cynulliad y Blaid i Dde Ddwyrain Cymru, ac Alun Davies, cyn aelod o’r Blaid ac yn awr yn Aelod Cynulliad Llafur Blaenau Gwent.

Er yn wynebu her gorfforol ers ei blentyndod cynnar ac yn gorfod cerdded gyda chymorth ffyn, roedd Glanmor yn falch o gyhoeddi y buasai mewn amgylchiadau gwell yn ‘6-footer’. Yn wleidyddol, cadarnhawyd yr honiad hwnnw gan ei fywyd o ymroddiad llwyr i fudiad cenedlaethol Cymru.

Yn aelod o Blaid Cymru ers y 1960au, bu Glanmor yn gwasanaethu mewn nifer o ffyrdd yn swyddog Cangen Tredegar a phwyllgor etholaeth Glyn Ebwy / Blaenau Gwent. Roedd hefyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Tref Tredegar am flynyddoedd maith nes cyfnod ei nychdod terfynol.  Wrth ei alwedigaeth, roedd Glanmor yn horolegydd (glociwr), wedi’i hyfforddi fel dyn ifanc yng Ngholeg St Loye’s, Caerwysg. Roedd yn adnabyddus yn Nhredegar fel yr oriadurwr a gemydd a fyddai’n ddiwyd wrth ei waith mewn cornel o siop gemydd Gus Jones.

Megis yn ei waith, felly hefyd mewn gwleidyddiaeth byddai Glan yn defnyddio’i ymennydd trefnus a manwl yn bwrpasol iawn i adeiladu peiriant Plaid Cymru effeithiol ym man geni anaddawol Nye Bevan.  Roedd wrth ei fodd i weld ei waith ef ac eraill yn dwyn ffrwyth drwy yrfa brodor o Dredegar, yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru Steffan Lewis – er i ni ei golli mor drasig o ifanc – a’r etholiad Cynulliad Cenedlaethol yn etholaeth Blaenau Gwent yn 2016 ble bu’r Blaid bron yn fuddugol.

Yn briodol iawn, cafodd Glanmor dderbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Plaid Cymru.

Gedy chwaer, Rae, a’i ŵr Charles, ynghyd â theulu estynedig sylweddol, pob un ohonyn nhw’n falch ohono ac wedi’u hymroi i’w ofal.

D. Hywel Davies

Cofeb i Glyn James

Dadorchuddir Plac Glas er cof am y cenedlaetholwr amlwg Glyn James am 2:00pm Dydd Sadwrn 19 Hydref y tu faes i 9 Darran Terrace, Glyn Rhedynog / Ferndale, Rhondda CF43 4LG.  Fe’i dadorchuddir gan y Cynghorydd Geraint Davies ac fe drefnir y digwyddiad gan Archif y Maerdy.  Gweinir lluniaeth yng Nghlwb Dynion Busnes a Phroffesiynol, 65-66 Dyffryn Street, Glyn Rhedynog CF43 4EW, diolch i Archif y Maerdy.

Hanes Plaid Cymru