Atgofion Michael Williams Dinbych y Pysgod

Sgwrs gyda Michael Williams, Dinbych-y-pysgod

Michael Williams
Michael Williams

Mae’r Cynghorydd Michael Williams, Dinbych-y-pysgod, yn cynrychioli Ward y Gogledd ac yn arwain grŵp penderfynol o aelodau Plaid Cymru ar Gyngor Sir Penfro.  Yn y sgwrs hon gyda Chadeirydd Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams mae’n disgrifio’r newid a ddaeth i’w fywyd ar ôl iddo gytuno â’r diweddar Wynne Samuel i sefyll fel ymgeisydd y Blaid.

 

 

 

 

 

 

Howard Davies 1950 – 2016

COLLI CAWR O’R CWM:

 

Ysigwyd ei gyfeillion a thrigolion yr ardal o glywed am farwolaeth y cyn-gynghorydd Howard Davies, Cwrt Alun Lewis, ar bnawn dydd Llun, 12 Medi, yn Ysbyty Merthyr. Roedd yn 66 oed.

 

Perthynai Howard i un o deuloedd mwyaf adnabyddus Cwmaman a thu hwnt. Hen dad-cu iddo oedd y bardd gwlad Isaac Edmunds (Alaw Sylen), Abercwm-boi, y bu ei englynion yn britho am flynyddoedd bapurau Cymraeg y fro yr oes a fu (Y Gwladgarwr a’r Darian). Merch y bardd, a mam-gu Howard i bob pwrpas, oedd un o artistiaid enwocaf Cwmaman a Chwm Cynon ei dydd: gwraig a elwid gan bawb (yn ôl ffasiwn yr oes) yn ‘Madam Elizabeth Edmunds Price’. O’r un ach y tarddai un o farnwyr amlycaf yr 20G, yr Arglwydd Ustus Edmund Davies a anwyd yn Aberpennar.

 

Edmund Davies, fel cyfreithiwr ifanc, fu’n amddiffyn un o’r ‘Tri’ a losgodd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth, Llŷn, ym 1936 – achos a roddodd yr hwb mwyaf (medd rhai) i genedlaetholdeb Cymreig yr 20G. Ef hefyd, fel barnwr profiadol, a glywodd achos y Great Train Robbers ym 1963; ac ef a benodwyd gan y prif weinidog Harold Wilson i gadeirio’r Ymchwiliad a fu i achos Trychineb Aber-fan (a ddigwyddod ar y 21 Hydref, 1966 – union hannercan mlynedd yn ôl i’r mis hwn).

 

Yn naturiol, bu Howard yn falch o’r cysylltiadau hyn ac yn eu harddel yn yr enw canol, Edmund, a gafodd gan ei rieni Trevor a Nancy Davies. Bu ei dad-cu arall (Tomos Dafis ‘Drapwr’ i’r hen drigolion) yn löwr ac yn ddiacon yn Seion ochr-yn-ochr â thad-cu’r gohebydd hwn. Bu ein mamau yn gyfeillion pennaf ar hyd eu hoesau hefyd – fel y bu Howard a minnau gydol ein dyddiau tan ei farw. Cymaint felly nes bod llawer, pan oeddem yn blant (ac oherwydd tebygrwydd enwau), yn tybied taw brodyr oeddem. Ar lawer cyfri, buom; a diau hyn sy’n peri imi ing am un a fu yn gyfaill cyntaf fy oes.

 

Carai Howard Gwmaman a’i phobl. Bu’n rhan amlwg o fywyd yr ardal ar hyd ei fywyd. Fe’i codwyd yn Byron Street a Milton Street a – lawn cymaint – Seion: yn un o ‘gywion’ Idwal Rees a saint yr achos teilwng hwnnw. Anorfod felly, wedi sefydlu Ysgol Gymraeg Aberdâr ym 1949, y byddai Howard yn mynd iddi ym 1955 gan aeddfedu’n Gymro naturiol o waed ac awydd tan y diwedd.

 

Wedi iddo fynychu Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr (cyn oes Rhydfelen ac ysgolion tebyg), aeth i Goleg Hyfforddi Cyn-coed. Ond ni apeliai gyrfa athro iddo a gadawodd i ymuno a gwasanaeth Treth y Wlad yn Llanisien. Yno yr arhosodd nes iddo ymddeol ryw chwe blynedd yn ôl.

 

Os taw yng Nghaerdydd y bu ei draed weithiau, yng Nghwmaman y bu ei galon bob tro. Bu ganddo ddiddordeb affwysol mewn chwaraeon – paffio, reslo, ceffylau, moduro ac, yn arbennig, byd y bêl gron. Er nad oedd ef ei hun erioed yn fawr o chwaraewr ar y cae, ymroddodd at hybu pel-droed yng Nghwm Cynon a Chwmaman – lle byddai hynt FC Cwmaman bob amser yn denu ei bryd.

 

Bu’n ysgrifennydd ac yna’n gadeirydd y clwb am flynyddoedd di-ri; ac ef fu’n gwthio’n fwy na’r un i gael meysydd chwarae a chyfleusterau newydd i ieuenctid y cylch yng Nglynhafod (gan fynnu enw Cymraeg – ‘Canolfan Cwmaman’ – ar y cyfan).

 

Gwasanaethodd fel cynghorydd ardaloedd De Aberaman yn enw Plaid Cymru rhwng 1991-95 ac eto rhwng 2008 a 2012. Ar ddechrau’r ‘90au, fe’i penodwyd yn llywodraethwr ac yna’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Glynhafod: swydd a ddaliai tan ddiwrnod ei farw (er na fu modd iddo fod mor gyson â chynt yn eu cyfarfodydd yn ystod tri mis olaf ei fywyd). Bu’r swydd hon wrth fodd ei galon, ac uniaethai yn ddi-feth ag athrawon, rhieni a phlant yr ysgol gan roi o’i orau iddynt am chwarter canrif.

 

Dirywiodd iechyd Howard yn fawr yn ystod y pum mlynedd diwethaf a bu teithio ‘nôl ac ymlaen i ysbyty yn rhan annatod o’i fywyd. Cafodd gyfoeth o gefnogaeth gan ei gyfeillion – nid yn unig ar gyfnodau heulog ond pan fu’n fain arno hefyd. Dylid nodi enwau Philip a Beryl Northey, Alan Hoare, Gwyneth Edwards ac eraill mewn aur am eu ffyddlondeb di-ffael iddo dros gyfnod maith.

 

Cynhaliwyd angladd Howard yn Amlosgfa Llwydcoed fore Gwener, 23 Medi, gyda lluaws yn arddel parch ac yn talu’r gymwynas olaf iddo yno.

 

Fy mraint innau – er mor anodd – fu traddodi teyrnged o galon iddo: teyrnged a leisir hefyd yn yr englynion hyn…

 

DLD.

 

Cymru a Chwyldro’r Pasg – Darlith y Gynhadledd

Cymru a Chwyldro’r Pasg – Cenhadaeth Jack White yn 1916

Traddodir y ddarlith yn Saesneg gan Syd Morgan am 4yp Dydd Gwener, 21 Hydref yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Pafiliwn Llangollen.

Jack WhiteWrth i ni nodi canmlwyddiant Chwyldro’r Pasg eleni, mae Cymru wedi canolbwyntio ar wersyll-garchar Frongoch. Fodd bynnag, mae ail gysylltiad rhwng y ddwy genedl. Mae hwn yn bwrw goleuni ar sut yr adweithiodd Llafur i’r Chwyldro, gan ddylanwadu’n sylweddol ar y canfyddiad gan Blaid Genedlaethol Cymru o Iwerddon a Llafur am ddegawdau.

Ym Mis Ebrill 1916 daeth Jack White i Forgannwg ar genhadaeth i achub James Connolly rhag ei ddienyddio. Methodd; fe saethwyd Connolly yr un bore ag y cafodd White ei arestio. Mae’r cyflwyniad hwn yn edrych ar cri de cœur White: “Cafodd Connolly ei saethu gan fintai saethu Brydeinig a llofruddiwyd sosialaeth yn Iwerddon gyda chydsyniad a chymorth negyddol sosialwyr asgell-chwith Prydeinig”.

 

Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, 4pm Dydd Gwener 21 Hydref 2016

Cynhadledd Plaid Cymru Pafiliwn Llangollen

Aneurin Richards 1923 – 2016

‘Dyn o egwyddor’

Teyrnged Jim Criddle i Aneurin Richards

 

Aneurin RichardsAneurin oedd William Aneurin Richards i bawb, heblaw ei wraig. Bill oedd e iddi hi. Roedd yn Uwch-beiriannydd gyda’r Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dreulio’r rhan fwyaf o’i oes yng Ngwent, er mai brodor o Gapel Hendre oedd e’n wreiddiol. Roedd yn Gynghorydd Sir yn Islwyn rhwng 1973 a 1996 ac yng Ngwent rhwng 1977 a 1981. Fe wnaeth e sefyll fel ymgeisydd Seneddol yn Abertyleri yn y ddau etholiad cyffredinol a ddigwyddodd yn 1974, a hefyd yn Islwyn ar gyfer 1983 a 1987.

Ni all y ffeithiau moel roi darlun clir o’r dyn ei hun. Fe oedd y dyn ddaeth a Helen Mary Jones a Jocelyn Davies mewn i’r Blaid ac ef a ‘berswadiodd’ Allan Pritchard i sefyll mewn etholiad. Roedd yn ddyn o egwyddor, dyn galluog a dyn urddasol tu hwnt. Roedd yn uchel ei barch ymysg y swyddogion a’r aelodau ar y ddau gyngor y buodd yn gwasanaethu iddynt. Fe wnaeth oruchwylio’r gwaith o sefydlu cangen Islwyn o Blaid Cymru pan wnaeth wardiau Abercarn ac Abertyleri uno â wardiau Bedwellte, gan sicrhau fod seiliau ariannol yr etholaeth yn gadarn yn sgil ei waith fel Trysorydd. Fe oedd yr arweinydd grŵp drwy gydol ei yrfa o 20 mlynedd mewn llywodraeth leol ac roedd yn dangos y ffordd gyda’i egwyddorion cryf a’i esiampl gadarn gan ennyn parch ac edmygedd ei gyfoedion. Roeddem i gyd yn gweld ein hunain fel ‘plant ein tad’ – roeddem yn ei alw’n Dad, gan edmygu ei allu deallusol a’i arbenigedd mewn polisi tai. Cafodd ei wneud yn llefarydd y Blaid ar y mater yn sgil ei arbenigedd ar y pwnc. Fe ddywedom erioed mai ei foto oedd ‘teimlwch yn rhydd i anghytuno â mi’ ond doedd e ddim yn unben o unrhyw ddisgrifiad, gan ei fod yn dadlau ei safbwynt mewn modd rhesymegol a theg. Roedd yn eithriadol o hael gyda’r Blaid ac fe lwyddodd i gynnal ei ddiddordeb tan y diwedd un. Ei waddol yw etholaeth weithredol, hunangynhaliol yn ogystal ag atgofion a pharch y rheini mae wedi eu gadael ar ei ôl.

 

GWYNETH MENAI WILLIAMS, 1938-2016

GWYNETH MENAI WILLIAMS, 1938-2016    

Syrthiodd un o gonglfeini’r hen Gwmaman o’i lle ym muriau Amser pan glýwyd diwedd Gorffennaf am farwolaeth Gwyneth Menai Williams, Dan-y-rhiw, ychydig cyn iddi gyrraedd ei phen-blwydd yn 78 oed.   Ymroddai at ei chymuned ac at wleidydda, gan sefyll droeon yn enw Plaid Cymru i’w hethol i hen Gyngor Bwrdeisdref Cwm Cynon. Er i’r Blaid bryd hynny roi tîmau cryf gerbron a threfnu yn egnïol yn wardiau Aberaman a De Aberaman, Gwyneth, gan amla’ oedd ymgeisydd blaen yr ymdrech a’i hwyneb cyhoeddus amlycaf. Cymaint felly nes iddi gael ei ‘nabod gan lawer tan y diwedd fel ‘Gwyneth Plaid’.  

Brwydrai Gwyneth yn ddi-dor yn erbyn dominiddiaeth y Blaid Lafur, oedd wedi ennill popeth yn y ward ers y 1920au cynnar. Sefodd ym 1973, 1976, 1979, 1983 (pan rannwyd Aberaman yn Ogledd a De), 1986 a 1987. Y flwyddyn honno, bu iddi bron â llwyddo disodli un o gynghorwyr y Blaid Lafur yn Ne Aberaman o ennill 742 pleidlais i 766 Llafur.   Ym 1991, ar ôl i Gwyneth ac eraill fraenaru’r tir, torrodd argaeau y Blaid Lafur ac enillodd y Blaid dair sedd De Aberaman ar y cyngor dosbarth mewn un trawiad a gyda mwyafrifoedd da, gan wneud yn debyg yng ngornest y cyngor sir ym 1993 wrth ennill 65% o’r bleidlais.   By Gwyneth ar ben ei digon – er ychydig yn eiddigeddus taw i eraill y ‘syrthiodd Jericho’ ac nid iddi hi (oedd yn adwaith naturiol wrth gwrs). Daliai i fod yn weithgar er na sefodd hi eto. Pe bai modd, ni chollai funud o bresenoldeb y tu allan i orsaf bleidleisio Cwmaman mewn etholiad, na’r un Cyfrif chwaith, nes iddi golli ei symudedd fwyfwy wrth heneiddio.

Fel asiant y Blaid yn etholiadau’r ardal yr adeg honno, gwyddwn fod ei phresenoldeb yn unig o bwys yn y Cwm a mawr fyddai fy niolch iddi.   Gedy ei chymar, Norman; tair merch, Susan, Janet a Siân; eu gwŷr hwythau; ei hwyrion a’i hwyresau; ei brawd Gareth a’i wraig a llu o gyfeillion i alaru amdani.   Ond dathlwn hefyd ei henw; ei chymeriad hoenus; ei synnwyr digrifwch heintus a’i chyfraniad parod i’w chymuned ac i bawb o’i chwmpas.   Gwir y dywedir bod coffa da ar led amdani.

DJ a Noelle Davies – Darlith Richard Wyn Jones

Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016 cyflwynwyd darlith gan Yr Athro Richard Wyn Jones  am ŵr a gwraig a helpodd osod sylfeini Plaid Cymru. Bu’r Dr DJ Davies a’i briod Dr Noëlle Davies yn ffigurau amlwg yn ystod degawdau cyntaf y blaid genedlaethol. Yn gyn-löwr a deithiodd America gynt, fe ddatblygodd David James Davies bolisi economaidd y Blaid – gan groesi cleddyfau ambell dro gyda llywydd y mudiad, Saunders Lewis – yn ystod tridegau’r 20fed canrif. Roedd arbenigedd y ddau ar bolisi economaidd Gwyddelig a Sgandinafaidd yn ddylanwadol iawn, a chyhoeddodd DJ Davies ddogfen bwysig Can Wales afford Self-Government?, gyda’i ateb pendant, ‘Ie’!

2016Richard Wyn Jones

Darlith Richard Wyn Jones 2 Awst 2016

djdavies1956

 

 

 

DJDavies 1938 Cymoedd tan gwmwlb2016 Eisteddfod

Darlith Eisteddfod am Dr DJ a Dr Noëlle Davies

2016Richard Wyn JonesDathlu bywyd pâr unigryw yn hanes Plaid Cymru

Bydd cyfle i bobl a ddaw i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni hanes gŵr a gwraig a helpodd gosod sylfeini Plaid Cymru.

Bu’r Dr DJ Davies a’i briod Dr Noëlle Davies yn ffigurau amlwg yn ystod degawdau cyntaf y blaid genedlaethol.

Yn gyn-löwr a deithiodd America gynt, fe ddatblygodd David James Davies bolisi economaidd y Blaid – gan groesi cleddyfau ambell dro gyda llywydd y mudiad, Saunders Lewis – yn ystod tridegau’r 20fed canrif.

Priododd â Noëlle Ffrench, a hanodd o Iwerddon, ar ôl iddyn nhw gwrdd yng Ngholeg Rhyngwladol y Bobl yn Elsinore, Denmarc ac fe geisiodd y ddau sefydlu rhywbeth tebyg yn eu cartref, Pantybeiliau, Y Fenni.

Roedd arbenigedd y ddau ar bolisi economaidd Gwyddelig a Sgandinafaidd yn ddylanwadol iawn, a chyhoeddodd DJ Davies ddogfen bwysig Can Wales afford Self-Government?, gyda’i ateb pendant, ‘Ie’!

Traddodir darlith yn Gymraeg ar hanes y pâr unigryw hwn gan yr Athro Richard Wyn Jones ar faes yr Eisteddfod am 2:30pm, Dydd Mawrth, 2 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2.

Mae Richard Wyn Jones Athro yng Ngwleidyddiaeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn dwyn y teitl Iwerddon, Denmarc Cymru  a’r Byd: cenedlaetholdeb rhyngwladol DJ a Dr Noëlle Davies, bydd gan un o’n harbenigwyr gwleidyddol amlycaf  gyfraniad amserol iawn i’w gynnig yn sgil y refferendwm diweddar ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Noddir y digwyddiad gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a dywed Cadeirydd y Gymdeithas, Dafydd Williams: “Mae dyfodiad y brifwyl i’r Fenni yn gyfle gwych i ddathlu bywydau DJ a Noëlle – gwnaeth y ddau ohonyn nhw gymaint i osod seiliau cadarn i’n mudiad cenedlaethol.”

 Llun:  Yr Athro Richard Wyn Jones

2016 Eisteddfod

 

Dewi Wynne Thomas, 1925 – 2015

Cymeriad diddorol, unigryw oedd Dewi Wynne Hughes Thomas – er taw ‘Dewi’ yn unig fyddai’n ddigon i bawb yn Aberdar ar un adeg, ac ar Hirwaun yn benodol, wybod yn syth am bwy y byddech yn sôn.

Dewi Wynne Thomas 1925-2015 Aberdar

Fe’i ganed yng Nghwmbach ar 2 Mawrth, 1925 i rieni oedd â’u gwreiddiau (fel cynifer bryd hynny) yng ngorllewin Cymru: gyda theulu ei dad yn hanu o Sir Benfro a theulu ei fam yn tarddu o Bontrhydfendigaid, Ceredigion. A gellid dweud â chryn wirionedd nad oedd Dewi ei hun heb arlliw’r gwladwr ar ei iaith, ei osgo a’i Gymreictod.
Fe’i codwyd o fewn teulu o Fedyddwyr a fynychai capel Bethania, Cwmbach cyn i Dewi ei hun ymaelodi yn Ramoth ar ôl iddo symud i Hirwaun i fyw, a chyn iddo, maes o law, ymuno â’r Eglwys Gatholig. Nid ef oedd yr unig Gymro Cymraeg i gymryd y cam annisgwyl hwn gan fod eraill o’r ardal (Dewi Davies, Heol-y-felin; Ieuan Wyn Jones, Penrhiwceiber; Mair Owen, Cwmaman) wedi gwneud yn debyg o’i flaen. Ond daliai i fod yn gam digon prin yn y ganrif ddiwethaf i’w wneud yn neilltuol.

Aeth Dewi i Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberdâr cyn mynd i’r RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yno, hyfforddodd fel mordwywr (navigator). Wedi’r Rhyfel, ail-hyfforddodd fel syrfëwr gyda’r NCB yn yr Ysgol Fwyngloddio yn Nhrefforest a aeth yn Brifysgol De Cymru wedyn. Ym 1949, priododd â’i wraig Josie, un o deulu Susan a Michael Burke, Hirwaun a ganed iddynt ferch, Madeleine, a godwyd yn Gymraes o’r iawn ryw.

Wedi cyfnod gyda’r NCB, gweithiai Dewi fel syrfëwr i gwmni John Laing ar sawl cywaith mawr a fu ar droed yn Lloegr yn ystod y 1950au, gan gynnwys Atomfa Sizewell, y Bull Ring, Birmingham, a’r M1. Cofiai Madeleine ei thad yn ei gyrru hi a’i mam ar hyd rhan o’r draffordd honno y noson cyn iddi gael ei hagor yn swyddogol gan y Frenhines yn Nhachwedd 1959 !

Symudodd Dewi a’i deulu yn ôl i Gymru ddiwedd 1959 gan ymgartrefu yn Aberhonddu. Yno, a than ei ymddeol, gweithiai fel syrfëwr o fewn llywodraeth leol, gan gynnwys i gynghorau Brycheiniog, Morgannwg, Abertawe ac Aberdâr (neu Gwm Cynon fel y daeth i fod ym 1974). Ond bu ei orwelion yn ehangach na’i waith dyddiol yn unig; a thra’n byw yn Aberhonddu ddechrau’r ’60au, cymerodd gam arall a’i osododd ar wahan i relyw ei gyfoedlion – hyd yn oed ei gyd-Gymry. Ymunodd â Phlaid Cymru. Nid oedd Dewi yn un i gelu barn na chuddio egwyddor pe bai argyhoeddiad yn ei daro.

Ymunodd â’r Blaid cyn i’r fath beth dyfu’n gyffredin fel y mae bellach. Dyma gyfnod cyn is-etholiad Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin (1966), cynnwrf etholiadol y ’60au a’r ’70au ac ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd, maes o law, at senedd (o fath) i Gymru a chodi statws y Gymraeg. Yn hyn o beth, gellid dweud yn deg y bu Dewi yn un o gnewyllyn o arloeswyr – yn sicr yn yr ardaloedd yma – a heriai’r Blaid Lafur yn ei chaerau pan nad oedd modd disgrifio’r fath weithred ond fel ‘talcen go galed’ !

Ond dyna sut un ydoedd: yn eirias dros y Gymraeg a thros yr hyn a gredai oedd er lles Cymru a’i phobl. Nid llugoer mohono mewn dim a wnai !

Ar symud i Tudor Tce., Hirwaun, ym 1963, aeth yn gynghorydd yn enw’r Blaid ar Gyngor Gwledig y Rugos (peth tra anghyffredin ar y pryd); ac ym 1964, safodd fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Aberdâr (fel y’i gelwid ar y pryd). Er iddo ennill ond 2,723 pleidlais (7.2%) o gymharu â’r 29,106 (77.4%) a gafodd Arthur Probert i’r Blaid Lafur, gwnaeth ei farc yn anrhydeddus: cadwodd ernes y Blaid (peth digon prin bryd hynny) ac aeth heibio i’r 2,165 a gafodd ei gyfaill a’i gyd-Aberdariad, Trefor Morgan, yn etholaeth anos fyth Brycheiniog a Maesyfed.

Gosododd sylfaen i eraill adeiladu arni o gofio taw ymgyrch 1964 oedd y gyntaf erioed i mi, fel glaslanc 16 oed – ac eraill y gallwn eu henwi – ymuno ynddi ar ran Plaid Cymru. Mwyn yw’m cof o droi i fyny yn ‘swyddfa’ etholiad y Blaid am y tro cyntaf a chael Dewi Thomas a Ted Walters yn cymryd yn garedig ata’i gan ddweud “Dera man’yn, ‘ach’an, i ni ddyngos iti beth i ‘neud” wrth baratoi taflenni i’w dosbarthu !

Daliai Dewi i weithio fel syrfëwr a bu wrthi’n helpu gosod yr A465 newydd (‘Ffordd Blaenau’r Cymoedd’) a agorwyd ym 1964. Gweithiai am flynyddoedd fel syrfëwr ysgolion a meysydd chwarae i awdurdodau addysg y cyffiniau ac ymrodd i’r gymuned y bu’n byw ynddi gan weithredu fel warden Clwb Ieuenctid y Rugos, clerc Cyngor Plwyf Penderyn ac fel aelod ffyddlon Cymrodorion Aberdâr.

Ym 1979, priododd ei ferch Madeleine (cyfreithiwr erbyn hynny) â Neil Bidder a ganwyd iddynt ddau fab, Rhys a Patrick, yn y man. Gyda hyn, daeth Dewi a Josie yn dad-cu a mam-gu balch. Ymhen ychydig, ac yntau yn ei chwedegau, penderfynodd Dewi droi at yr Eglwys Gatholig fel gweddill ei deulu. Er bod hyn yn gam annisgwyl i rai, ymrodd yn ddidwyll i’w eglwys newydd. Diddorol, wrth fynd heibio, yw nodi bod Madeleine – a fagwyd yn Gatholig – yn un o arweinwyr ac ymddiriedolwyr Y Cylch Catholig: mudiad yn yr Eglwys Babyddol sy’n anelu at godi statws a defnydd y Gymraeg oddi mewn i’r cymundeb Catholig.

Wedi iddo ymddeol oddeutu 1990, penderfynodd Dewi a Josie symud i Gaerdydd i fod yn nes at eu merch a’i theulu yno. Cymerai Dewi bob cyfle i chwarae tenis a rygbi gyda’i ŵyrion; ond, o dipyn i beth, aeth Josie dan lach afiechyd yn ystod deng mlynedd olaf ei hoes. Yn dilyn ei marwolaeth, cafodd Dewi rai blynyddoedd o deithio’r byd – i’r Swisdir, Sbaen ac UDA – cyn iddo ddechrau colli ei olwg wrth heneiddio. Bu rhaid iddo hefyd golli rhan o un goes ac aeth i fyw mewn gofal yng nghartref Dyfryn Ffrwd, Nantgarw – lle (fel y dywed ei ŵyr Rhys) y rhoddodd Dewi “wersi dwys yn y Gymraeg i’r staff yn gyfnewid am y gofal a gai” !

Bu farw Dewi yn dawel, yn 90 oed, yng nghartref Dyffryn Ffrwd ar yr 28 Rhagfyr 2015 a chynhaliwyd offeren requiem iddo yn Eglwys Sant Therese de Lisieux, Hirwaun ar ddydd Llun, 11 Ionawr, 2016 gyda chladdedigaeth ym mynwent Aberdâr wedyn.

Yn un o’r gwasanaethau Cymreiciaf a gaed yn yr eglwys honno, mae’n debyg, darllenwyd yn Gymraeg gan ei ŵyr, Patrick, a thraddodwyd teyrnged i’w dad-cu gan Rhys: y naill ŵyr yn athro yn Llundain a’r llall yn economegydd gyda banc canolog UDA, y Federal Reserve, yn San Francisco. Canwyd Calon Lân ar ddechrau’r offeren a Dros Gymru’n Gwlad i’w diweddu: dau emyn a grynhodd cymaint a nodweddai fywyd anrhydeddus a chyfraniad gwerthfawr Dewi Wynne Thomas, Hirwaun, gŵr y bu yn fraint ei ‘nabod.

(Carwn ddiolch i Madeleine am ei chymorth wrth baratoi’r ysgrif hon).

 

DLD.

 

 

 

                                                                                                                                      Clochdar-276:

Hanes Plaid Cymru