Bywyd Wynne Samuel

Gwladgarwr Arloesol – Bywyd Wynne Samuel

‘Dyn o ddawn aruthrol a weithiai galon ac enaid dros Gymru’ – dyna ddisgrifiad cryno o Wynne Samuel, un o bencampwyr cynnar Plaid Cymru.  Mae’n dod o’r portread hwn o wladgarwr arloesol – un a ystyriwyd ar un adeg yn arweinydd potensial o’r mudiad cenedlaethol.

Mae’r deyrnged hon gan gadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru Dafydd Williams yn olrhain gyrfa hynod Wynne, ac yn cyhoeddi nifer o luniau a ddogfennau am y tro cyntaf.  Seilir ar ddarlith ddarluniadol a draddodwyd yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberteifi Ddydd Gwener 5 Hydref 2018, ond mae’r testun wedi ei newid a’i ehangu’n sylweddol.  Fe gewch ei ddarllen yma.

Linc > Wynne SAMUEL

 

 

Dogfennau Vic Davies o 1967

GWYBODAETH NEWYDD AM ISETHOLIAD GORLLEWIN Y RHONDDA

Diolch yn fawr iawn i deulu’r diweddar Vic Davies, y Rhondda, am drosglwyddo i’r Gymdeithas Hanes ddogfennau hynod ddifyr am Isetholiad Seneddol Gorllewin Rhondda dros hanner can mlynedd yn ôl.

Mae’r casgliad yn cynnwys llyfr lloffion gyda thoriadau o’r wasg sy’n dwyn i gof holl fwrlwm yr ornest hanesyddol yn 1967 pan lwyddodd Vic Davies i dorri mwyafrif anferth y Blaid Lafur i lawr o 17,000 i 2,306 o bleidleisiau yn unig, gogwydd o 29 y cant i Blaid Cymru.

1967 Rhondda By-election

Yn ogystal mae nifer o lythyrau gwerthfawr iawn, gan gynnwys llongyfarchiadau gan arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, oedd wedi’i ethol yn Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin y flwyddyn gynt.

1967 Llongyfarch Vic Davies

Ceir hefyd lythyr ar ran yr SNP gan Dr Andrew Lees o Bearsden ger Glasgow yn gwahodd Vic Davies i deithio i’r Alban i gefnogi ymgyrch Winifred Ewing yn isetholiad Hamilton – yn benodol i gadw cwmni iddi hi wrth fynd i lawr pwll glo yn yr ardal.  Roedd Winnie Ewing wedi cwrdd â Vic rai wythnosau cyn hynny yng Nghynhadledd y Blaid yn Nolgellau.

Mae’n amlwg o weld cynnwys y pecyn fod Vic wedi derbyn y gwahoddiad, mynd i lawr y pwll glo a hefyd annerch rali – achos bod llythyr yn llawysgrifen Winnie Ewing a ysgrifenwyd ar 2 Hydref 1967 yn diolch o galon iddo am ddod a helpu eu gwneud yn llwyddiant.  Bedair wythnos wedyn, aeth Winnie Ewing ymlaen i ennill Hamilton ac ymuno gyda Gwynfor yn Senedd San Steffan.

Ar ôl copïo eitemau ar gyfer dibenion y Gymdeithas Hanes, anfonir y casgliad i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i fod yn rhan bwysig o archif Plaid Cymru.

Cyfweliad gyda Syd Morgan

Cyfweliad gyda Syd Morgan

Mae Syd Morgan yn rhan o frwydr Plaid Cymru ers pum degawd – ers y dyddiau pan redai gylchgrawn cenedlaetholgar yn y Brifysgol yn Abertawe yn ystod y 1960au.  Fe roes y gorau swydd weinyddu prifysgol er mwyn dod yn drefnydd llawn-amser i’r Blaid yng Nghwm Rhymni – a daeth yn un o’r cynghorwyr a ffurfiodd un o’r timau rheoli cyntaf Plaid Cymru yng nghymoedd y De.  Cewch glywed ragor am ei waith dros y mudiad cenedlaethol yn y cyfweliad hwn gyda chadeirydd Hanes Plaid, Dafydd Williams yma.

Syd Morgan (ar y chwith, uchaf), ymgeisydd y Blaid yn is-etholiad Pontypridd, Mis Chwefror, 1989

 

 

 

Nofel Newydd yn Olrhain y Cwrs i Ddatganoli

Nofel Newydd yn Olrhain y Cwrs i Ddatganoli

Adolygiad llyfr gan Dafydd Williams, Ysgrifennydd Plaid Cymru, 1971-1993 a Chadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru

Dyma’r llyfr i bawb sydd am wybod mwy am y degawdau tyngedfennol a arweiniai at y refferendwm datganoli llwyddiannus yn 1997.

‘Ten Million Stars Are Burning’ yw teitl nofel newydd ei chyhoeddi gan yr ysgrifennwr a sylwebydd adnabyddus John Osmond. 

Mae’r awdur wedi gosod tasg uchelgeisiol i’w chyflawni – sef adrodd sut y ceisiodd pobl Cymru ddod i delerau â’u hunaniaeth eu hunain drwy chwarter olaf yr ugeinfed ganrif; ac yn benodol sut y trodd cyflafan 1979 yn fuddugoliaeth o drwch blewyn erbyn 1997.

Ei ffordd o wneud hyn yw defnyddio dull y nofel ddogfennol, gyda dau brif gymeriad ffuglennol – a llu o bobl go iawn, pobl sy’n siarad â ni yn eu geiriau eu hun, gan ddefnyddio deunydd archif a chyfweliadau i’w hail-gyflwyno.  Dyma’r cyntaf o drioleg, ac mae’n delio â’r cyfnod rhwng 1973 a 1979.  Mae’r awdur yn addo dau arall, gan edrych ar yr 1980au a streic y glowyr; ac un arall fydd yn mynd â ni at 1997.

Mae yna lond gwlad o arwyr a dihirod, dros ddau gant ohonyn nhw i gyd.  Ar ochr yr angylion ceir Gwynfor Evans, a’i optimistiaeth ddi-ffael yn cadw cwmni i’r sgeptig disglair Phil Williams (sgeptig ynglŷn â bwriadau’r Blaid Lafur, hynny yw).

Yn ben ac ysgwyddau uwchben rhengoedd y dihirod ceir Leo Abse, gŵr y daeth Osmond i’w adnabod yn dda (gyda darlun manwl o sut y proffidiodd cwmni cyfreithiol Abse o’r system brydles yn y cymoedd tra byddai’i brif bartner yn ffromio yn erbyn ei drygioni).  Ac weithiau rwy’n dal i’w chael yn anodd credu bod tîm y Gwynfor delfrydol yn y diwedd yn drech nag un yr Abse dichellgar.

Leo Abse

Roeddwn yn adnabod nifer o’r actorion yn y ddrama gymhleth hon yn bur dda fy hun, a gallaf hefyd cadarnhau cywirdeb hanesyddol y digwyddiadau mae’r awdur yn eu croniclo.  Roedd eraill yn newydd i mi – megis Dan Jones, Aelod Seneddol Burnley ac yn Gymro Cymraeg, taeog a dalodd am gymorth Leo Abse i ddianc o grafangau’r llysoedd drwy gasglu llofnodion o blaid gwelliant gwrth-ddatganoli.

Mae’r llyfr yn bortread hynod ddifyr o’r frwydr dros hunanlywodraeth; a chan fod John Osmond ei hun wedi chwarae rhan wrth galon yr hanesion hyn, mae’n deg barnu bod elfen go gref o hunangofiant yng nghymeriad y prif gymeriad ffuglennol, newyddiadurwr y Western Mail sy’n dwyn yr enw Owen James.  Mewn gwirionedd mae gennyf gof o rywun yn gwneud defnydd o ffugenw tebyg iawn i gyfrannu erthyglau i’r Welsh Nation!

Un peth sy’n sicr – bydd yn nofel hon yn ddeunydd hanfodol i bawb sydd â diddordeb yn y frwydr dros y Gymru rydd.  Rwy’n ffaelu aros am y ddwy nesaf.

‘Ten Million Stars Are Burning’ gan John Osmond cyhoeddir gan Gomer, pris £11.99.

Plaid Cymru’n Cofio Wynne Samuel

Bydd sesiwn arbennig yn ystod cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn rhoi teyrnged i’r diweddar Dr Wynne Samuel.

Yn hanu o Ystalyfera yng Nghwm Tawe, helpodd Wynne Samuel sefydlu Plaid Cymru yng nghymoedd De Cymru ac fe ddaeth yn un o gynghorwyr cyntaf y Blaid pan enillodd sedd ar Gyngor Dosbarth Gwledig Pontardawe yn 1946.

Dr Wynne Samuel circa 1965, adeg ei benodi’n brif swyddog Cyngor Bwrdeistref Dinbych-y-Pysgod

Aeth ymlaen i ddod yn fargyfreithiwr ac arbenigwr amlwg ar lywodraeth leol, ac ar un adeg fe’i ystyrid yn arweinydd posibl i Blaid Cymru.  Yn 1965, fe’i penodwyd yn Glerc y Dre – neu Brif Weithredwr – Cyngor Bwrdeistref Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro a nes ymlaen fe oedd ysgrifennydd a symbylydd Cymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru.

Cofir gwasanaeth Wynne Samuel mewn darlith ddarluniadol a drefnir gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a’i thraddodi gan gadeirydd y Gymdeithas, y Dr Dafydd Williams.

” Roedd Wynne Samuel yn un o gymeriadau mwyaf Plaid Cymru’r ugeinfed ganrif”, meddai Dr Williams, a fu’n ysgrifennydd cyffredinol y Blaid rhwng 1971 a 1993.  “Mae’n hen bryd i ni roi clod teilwng iddo am ei wasanaeth eithriadol i Gymru a’i chymunedau lleol “. 

Cynhelir y ddarlith am 4:30pm, Dydd Gwener 5 Hydref yn ystod cynhadledd flynyddol y Blaid yn Theatr Mwldan, Aberteifi.  Traddodir yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i Saesneg.

Cofio Phil Williams Teyrnged Dafydd Williams

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd dydd Iau, 9 Awst 2018, bu Plaid Cymru’n dathlu bywyd y diweddar Athro Phil Williams, ei hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili hanner can mlynedd

Trefnwyd y cyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a rhoddwyd teyrngedau gan Dafydd Williams a Cynog Dafis a chyfraniad gan Dafydd Wigley.

Cofio Phil Williams

Teyrnged gan Dafydd Williams, Cadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru

Mae’n anodd credu ei bod yn bymtheng mlynedd ers colli Phil Williams.  Ac i’m cenhedlaeth i, anodd hefyd yw credu bod hanner can mlynedd wedi carlamu heibio ers yr isetholiad hanesyddol hwnnw yn etholaeth Caerffili.  Rydyn ni’n dal i aros am gofiant teilwng ohono fe, a gobeithio y daw hwnnw maes o law.  Ond mae llawer ar gof a chadw am y gŵr hwn o’r cymoedd a’i yrfa hynod – cymaint yn wir nes ei bod yn broblem penderfynu beth i’w  adael allan.  Diolch byth bod Cynog Dafis yma i edrych ar gyfraniad Phil i’n dealltwriaeth o bwysigrwydd yr amgylchedd, un o achosion mawr ei fywyd gorlawn. 

Roedd Phil yn bedair blynedd yn hyn na mi – cafodd ei eni yn Nhredegar, ar flaenau cymoedd glofaol Gwent, a’i fagu ym Margoed – a oedd, meddid, yn lleoliad i’r domen lo ail fwyaf yn y byd, ond bod neb yn siŵr iawn ble oedd y mwyaf!  Byddai’n hoff o olrhain ei achau ar y ddwy ochr, ei fam a’i dad i odre’r Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd hyn yn bwysig iddo – achos roedd stori ei dylwyth yn portreadu hanes ei wlad.  Dyma rieni ei dad yn dechrau eu bywyd priodasol ar fferm fach ucheldir Bryn Merched ger Llyn-y-fan.  Flynyddoedd wedyn, ceisiodd Phil gael hyd iddi, gan ddefnyddio hen fap 1870 – ond y cwbl oedd ar ôl oedd pentwr o gerrig.  Symudodd teulu ei dad i fferm yng Nghwm Rhymni – fferm a ddibynnai ar ffyniant y gymuned lofaol gerllaw.  Rhywbeth tebyg oedd hanes teulu ei fam – ei thad hi’n symud o waith mewn ffatri wlân yn ardal Llangadog i weithio yn y pyllau glo, gan ddibennu ei yrfa ym Margoed.

Felly cafodd Phil ei blentyndod yn un o dri o blant, David, Phil a Jennifer, yng Nghwm Rhymni, ble gweithiai ei dad yn athro, a nes ymlaen yn brifathro.  Roedd ei fam hefyd yn athrawes, oedd wedi mynd i’r Coleg Normal ­ – a dyma hanes drist – dywedai Phil bod ei chydfyfyrwyr yno yn gwatwar ei thafodiaith Gymraeg Wenhwyseg, a wnaeth hi ddim trosglwyddo’r iaith i’r plant.

Aeth Phil i Ysgol Lewis, Pengam ble daeth yn amlwg ei fod yn eithriadol o ddisglair.  Clywais ei frawd David yn ddiweddar yn adrodd hanes am roi lifft i Phil ar gyfer cyfweliad yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen – a dweud wrth y panel ei fod mewn gwirionedd a’i fryd ar Gaergrawnt i ddarllen gwyddoniaeth.  Ac roedd ei berfformiad gystal nes bod y dons yn Rhydychen yn fodlon cadw lle ar agor iddo, jyst rhag ofn!  Felly i Goleg Clare yng Nghaergrawnt yr aeth, fel David ei frawd – Phil  i ddarllen gwyddoniaeth, yn debyg i’w wncl, R.M. Davies, a fu wedyn yn Athro’r adran ffiseg yn Aberystwyth – a difyr meddwl y byddai Phil yn dilyn ôl traed ei ewyrth rai degawdau wedyn.  Buan iawn yng Nghaergrawnt y daeth ar draws defnydd cyfrifiadur – 1957 oedd hyn, cofiwch.  Ac o hynny ymlaen, byddai ar flaen y gad gyda thechnoleg.  Rwy’n cofio cael fy llorio ganddo, rywbryd yn y saithdegau gan ei osodiad treiddgar “All you need’s a modem”!  Doedd gen i fawr o syniad ar y pryd beth oedd modem neu e-bost – rown i’n credu ein bod ni yn Swyddfa’r Blaid ar frig y don gyda’n peiriant ffacs blaengar newydd!  Ac nes ymlaen, yn y chwedegau, pan alwodd am i bob cartref yng Nghymru feddu ar gyfrifiadur roedd pobl yn meddwl ei bod yn awgrym afrealistig – heddiw wrth gwrs mae’n cael ei gymryd yn ganiataol.

Ie, roedd Phil yn ddisglair, dim amheuaeth am hynny.  Ond roedd ganddo fwy i’w gynnig i’r byd na disgleirdeb yn unig.  Roedd gydag ef galon ac enaid a chydwybod – ac yn ffodus iawn i ni, fe ddaeth Cymru’n ganolbwynt i’w ddyheadau.  Fel un o blant y cymunedau glofaol, roedd ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth radical y cymoedd – ac yn 16 mlwydd oed, fe ymunodd â’r Blaid Lafur.  Yng Nghaergrawnt, bu’n gydawdur maniffesto Socialism for Tomorrow a alwodd am bwysigrwydd datganoli grym o Lundain, hynny ar ôl gweld dros ei hunan faint oedd y bwlch deallusol rhwng elit y Blaid Lafur a sosialaeth gwerin Cymru.

Rwy’n siŵr na fyddai Phil yn hoffi i mi ei gymharu mewn unrhyw ffordd â’r Apostol Pawl!  Ond mae rhaid y digwyddodd rhyw ‘eiliad ar y ffordd i Damascus’ iddo.  Mae’n debyg y bu dadleuon eithaf ffyrnig am wleidyddiaeth Cymru rhyngddo ef ag un o’i gyd-fyfyrwyr yng Nghaergrawnt, y diweddar Dr John Davies, a ddaeth i fod yn  un o’i ffrindiau agosaf.  Er gwaetha’r rheiny, er bod yr hadau wedi’u plannu siŵr o fod, i lawr ag ef i Gaerffili i helpu ymgyrch y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1959.  Ac yna, sioc.  Yna fe ddaeth ar draws ymgeisydd Plaid Cymru, John Howells.  Dyn wedi’i fagu ym Mhacistan, yn ddi-Gymraeg ac y gweithio i’r diwydiant awyrofod yng Nghaliffornia.  Fe chwalodd John Howells unrhyw ragfarn oedd ar ôl am Blaid Cymru a’i gweledigaeth.  Ac ar ôl darllen maniffesto’r Blaid, Cymru Rydd, daeth Phil Williams yn aelod ohoni.  Penderfynodd fod rhaid wrth sefydlu cangen o’r Blaid yng Nghaergrawnt gyda dau aelod i ddechrau – Phil a benododd John Davies yn ysgrifennydd, a John a benododd Phil yn gadeirydd!

O hyn ymlaen, byddai gwyddoniaeth yn gorfod ymgiprys â gwleidyddiaeth am ei sylw a’i amser.  Ar yr ochr wleidyddol, roedd drws Plaid Cymru yn llydan agored iddo, a dim prinder o alw am ei ddawn, a’i egni a’i amser.  Ond byddai gwyddoniaeth hefyd yn dynfa gyson – a, dwi’n meddwl, weithiau hefyd yn falm i’w enaid ar ôl unrhyw siomedigaethau gwleidyddol.  Yn 1962 priododd ag Ann Green a hanai o ardal Coed Duon yng Nghwm Sirhywi – ac fe ddaeth mab a merch, Iestyn a Sara.  Mae Ann yn artist o fri sy’n parhau i arddangos ei gwaith – ac roedd gan Phil ei hun ddiddordeb mawr yn y celfyddydau, yn ogystal â chwarae’r sacsoffon mewn sawl grŵp jazz dros y blynyddoedd, gan sefydlu grŵp Assembly Broadband yn y Cynulliad.

Yn 1964, safodd fel ymgeisydd Seneddol yng Nghaerffili, etholaeth y byddai’n ymladd dros y Blaid chwe gwaith.  Dyma’r ‘Dr Phil’ y deuthum i’w adnabod fel cyd-aelod o Grŵp Ymchwil Plaid Cymru, grŵp newydd yr oedd ef a Dafydd Wigley yn ei arwain.  Byddwn ni’n cyfarfod yn Llundain, a Phil yn dod o Gaergrawnt i gwrdd â ni.  Erbyn hyn, roedd e wedi’i benodi yn Gymrawd yn ei hen goleg, Clare, ac yn torri tir newydd yng  ngwyddoniaeth y gofod, gan helpu darganfod quasars.

Digon ar ei blât yn ei waith academaidd felly, ond roedd hi’n adeg o gynnwrf yng Nghymru, ac roedd e am chwarae rhan gyflawn.  Roedd Gwynfor yn y Senedd, ond heb yr adnoddau byddai rhywun y dyddiau hyn yn cymryd yn ganiataol – heb ddesg hyd yn oed ar y dechrau.  Ceisiodd y Grŵp Ymchwil, Dafydd a Phil yn enwedig, i lenwi’r bwlch rywfaint – gan helpu cael hyd i wybodaeth a llunio cwestiynau i’w rhoi ar lafar ac ar bapur yn y Senedd. 

Ac wedyn, daeth isetholiad Caerffili.  Roedd Phil wedi symud i swydd newydd yn Aberystwyth a minnau erbyn hyn ar staff y Blaid.  Roeddwn wedi ymgyrchu fel milwr troed o’r blaen, gan gynnwys yr isetholiadau yn Abertyleri, Caerfyrddin a Gorllewin y Rhondda, ond dyma’r tro cyntaf i mi helpu trefnu isetholiad o’r dechrau tan y diwedd.  Ac isetholiad i’w chofio oedd hi – pencadlys amlwg ar y Twyn gyferbyn â chastell Caerffili, sustem canfasio drylwyr, tîm lleol ardderchog – a’r fodurgad honno, pedwar cant o geir, medden nhw.

Ond beth wnaeth yr ymgyrch yn wirioneddpol gofiadwy oedd y ffordd aeth Phil ati i roi drosodd y neges o Gymru’n rhedeg ei bywyd ei hun yn genedl rydd.  Roedd cyfarfodydd ymhob rhan o’r etholaeth – y rheiny’n fwy fel ei seminarau yn y brifysgol na ralïau pleidiol, a chyfle i bobl holi a thrafod syniadau.  Daeth Phil o fewn 1,800 o bleidleisiau i ennill, gyda deugain y cant o’r bleidlais, gogwydd o 29 y cant, ar y pryd yr ail fwyaf erioed yn y Deyrnas Gyfun.

Hanner can mlynedd wedyn, mae’n bwysig cydnabod effaith pellgyrhaeddol yr ymgyrch hwnnw.  Isetholiad Caerffili a wthiodd llywodraeth Harold Wilson i symud ymlaen i sefydlu Comisiwn ar y Cyfansoddiad, proses yn y pendraw a arweiniodd at ddatganoli grym o Lundain.  Nid taw hwnnw oedd ei nod – pwysleisiodd Phil yr angen i Gymru ennill hunanlywodraeth gyflawn, a byddai’n barod iawn i arddel y term annibyniaeth.  Ond heb os, yn dilyn yr isetholiadau yng Nghaerfyrddin gyda Gwynfor, Gorllewin y Rhondda gyda Vic Davies a Hamilton yn yr Alban gyda Winnie Ewing – rhoddodd Caerffili hwb sylweddol ymlaen.

Bu gan Phil rôl allweddol wrth ddatblygu un o gyhoeddiadau pwysicaf y Blaid, y Cynllun Economaidd i Gymru, a gyflwynwyd i’r Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad yn 1970.  Yn sail i’r Cynllun oedd dadansoddiad cadarn o’r economi a gafodd ei lunio gan yr Athro Edward Nevin – dadansoddiad ‘mewnbwn-allbwn’ a fesurai sut byddai sectorau gwahanol o’r economi’n effeithio ar ei gilydd.  Roedd Nevin eisoes wedi llunio adroddiad pwysig yn 1957 a brofodd fod mwy o drethi’n cael eu casglu yng Nghymru na’r cyfanswm o wariant cyhoeddus, gwaith a wnaeth argraff fawr ar Phil cyn iddo ymuno â Phlaid Cymru.  Gyda bygythiadau i’r diwydiannau glo a dur, a’r miloedd o swyddi ynddyn nhw, roedd dadansoddiad fel hwn yn amlwg yn hollol ganolog i unrhyw strategaeth ar gyfer y dyfodol – ac yn wir roedd Nevin yn awyddus i’w waith gael ei ddefnyddio i’r perwyl hynny gan lywodraeth Harold Wilson.  Ond gwrthod a wnaeth y llywodraeth Lafur, gan gyhoeddi dogfen dila iawn, Cymru – Y Ffordd Ymlaen – a gwylltio Nevin!

Gwelodd  Dafydd Wigley a Phil eu cyfle, a pherswadio Nevin i adael i ni ddefnyddio’i waith i roi amcangyfrif cadarn o’r problemau diweithdra a fyddai’n debyg o daro Cymru yn y blynyddoedd i ddod.  Dyna un rhan o’r cynllun – diffinio maint y broblem.  Aeth ymlaen i gynnig patrwm o ganolfannau twf, diwydiannau newydd a sustem trafnidiaeth effeithiol i’w cysylltu.  Cynllun chwyldroadol a gipiodd sylw – rwy’n cofio ar ôl treulio noson gyfan wrth y llungopiwr Gestetner i gynhyrchu copïau ar gyfer y Wasg y wefr o weld prif stori dudalen flaen y South Wales Echo a’i phennawd bras – ‘We’ll make you rich if you let us – Plaid Cymru’.  A’r boddhad nes ymlaen o fod yno i glywed canmoliaeth i safon y cynllun gan yr Arglwydd Geoffrey Crowther, Cadeirydd y Comisiwn ar y Cyfansoddiad ac economegydd o fri.  Gwrthod gwrando gwnaeth Llundain, wrth gwrs.  Fe gollodd glo, dur ac amaethyddiaeth filoedd o swyddi, gan greu’r union drybini economaidd yr oedd Plaid Cymru’n rhagweld – ond heb y datblygiadau yn ein seilwaith a fyddai’n lliniaru’r effeithiau negyddol.

Tua’r un pryd â’i waith ar y Cynllun Economaidd, chwaraeodd Phil ran bwysig wrth berswadio Prydain i ymuno ag EISCAT, prosiect Ewropeaidd i astudio haenau uchaf yr atmosffer.  Cafodd ei benodi yn un o gyfarwyddwyr ac yna’n Gadeirydd y prosiect yn Kiruna, uwchben y cylch Arctig yn Sweden lle treuliai gryn dipyn o amser.  Unwaith eto, byddai gwleidyddiaeth yn gorfod cyd-redeg â gwyddoniaeth – ond roedd y profiad hwn yn cyfoethogi ei waith dros Gymru.  Byddai’n aml yn cymharu sefyllfa’r economi neu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gyda gwledydd Llychlyn.  Kiruna oedd hen ganolfan mwyngloddio haearn yn Sweden ond diolch i weledigaeth  ei llywodraeth annibynnol fe ddaeth y dre’n bencadlys ymchwil newydd i’r gofod.   Ac wrth ymweld ag arddangosfa am y trawsnewid yma fe welodd Phil sôn am dref ei mebyd – Bargoed – fel enghraifft o sut i beidio â thrin dirywiad economaidd!

Rywbryd yn y saithdegau, fe aeth Phil a mi ar daith i Ffrainc – gwaith gwyddonol iddo fe, gwyliau chep i mi!  Er nad oedd y tywydd mor wych ar y dechrau, a’i gar yn dioddef ambell i bwl o dro i dro, fe gyrhaeddon ni’r gyrchfan gyntaf – observatory EISCAT mewn lle anghysbell yng nghanol y Massif Centrale, filltiroedd o unrhyw far neu fwyty, ond Phil wrth ei fodd y trafod y darganfyddiadau diweddaraf gyda’i gyd-wyddonwyr – dynion ifanc i gyd yn gwisgo jeans a barfau!  Yna ymlaen at Grenoble am gynhadledd yn y brifysgol, ble roedd Phil yn cyfrannu i’r trafodaethau a minnau’n rhydd i grwydro’r ddinas.  Bob hyn a hyn ar hyd y ffordd drwy Ffrainc, byddai’r car yn dod i stop yn ddisymwth – a Phil yn neidio mas i dynnu llun – nid o gastell, na llyn na mynydd, ond wal – roedd gydag ef gasgliad helaeth o luniau close-up o gerrig neu briciau mur o bob man.

Byddai Phil wastad yn mynnu cywirdeb – mewn gwleidyddiaeth fel mewn gwyddoniaeth – a doedd e ddim yn fodlon derbyn ffeithiau neu ffigurau heb eu profi drosto fe ei hun.  Roedd yn anghyfforddus gydag ambell i osodiad gan y Blaid – am faint o ddŵr oedd yn cael ei allforio mewn blwyddyn er enghraifft – mae’n debyg bod hyn yn fwy na’r cyfanswm o law oedd yn syrthio ar ein gwlad!

Byddai’n cadw pob darn o bapur oedd yn berthnasol.  Rwy’n cofio unwaith yn yr wythdegau y bu tipyn o helynt am ddewis ymgeisydd isetholiad yng Nghwm Cynon – a’r cwbl yn dibynnu ar statws Adran y Menywod a’i chynrychiolaeth ar y Pwyllgor Gwaith – a oedd wedi’i sefydlu’n ddilys yn ôl rheolau’r Blaid ai peidio.  Phil ddaeth i’r adwy, gan ddarganfod y dystiolaeth o’r 1950au rywle yng nghanol tomen o bapur yn ei atig!  Fel canlyniad efallai, byddai bob amser yn teithio gyda sawl briffces – un ar gyfer gwaith y Blaid, un arall ar gyfer ei waith gwyddonol ac yn y blaen.

Wrth gwrs fyddai ddim yn hawdd cyflawni pob gorchwyl ar ei restr gwaith – ac weithiau fel Ysgrifennydd Cyffredinol byddwn i’n teimlo bod rhaid pwyso arno fe i gwblhau rhyw bapur polisi neu’i gilydd ar gyfer y Pwyllgor Gwaith neu’r Cyngor Cenedlaethol.  Yn amlach na heb, byddai’n dod yn ôl ar y ffôn gydag un o’i hoff gwestiynau, “Whats the absolute deadline?”.  Fel arfer, byddai’r ‘absolute deadline’ honno’n mynd heibio, ond rywsut neu’i gilydd fe fyddai’n ddi-ffael yn ei gynhyrchu mewn pryd.  Sawl gwaith fe arhosodd yn Swyddfa’r Blaid drwy’r nos i orffen rhyw waith felly, a chwdyn cysgu gydag ef i gael awr neu ddwy o gwsg cyn codi i’w gwblhau.   Ac wrth gwrs roedd y gwaith hwnnw o’r ansawdd uchaf – dyna paham y bydden ni yn y Blaid yn troi ato fe dro ar ôl tro am arweiniad.

Wrth wrando ar y newyddion y dyddiau hyn, bydda i’n aml yn pendroni beth fuasai barn Dr Phil pe byddai’n dal gyda ni?  Brexit, er enghraifft.  Roedd Phil yn Gymro Ewropeaidd i’r carn, ac er yn cefnogi agwedd y Blaid yn Refferendwm 1975, roedd e’n falch iawn pan fu’r holl ymrafael drosodd.  Flwyddyn wedyn, mewn araith bwysig i’r Ysgol Haf yn Llanbedr Pont Steffan, pwysleisiodd ei gefnogaeth i’r cysyniad o ‘Ewrop y Can Baner’, cymdeithas o wledydd rhydd.  Safodd fel ymgeisydd i Senedd Ewrop ddwywaith, yng Nghanol a Gorllewin Cymru yn 1984 a 1989, a chwarae rhan weithgar wrth ddatblygu cysylltiadau rhwng Plaid Cymru a phleidiau’r cenhedloedd a rhanbarthau bychain yn Ewrop.  Fe welodd yn glir beth sydd gyda ni fel gwledydd yn gyffredin, sef ein bod ni’n i gyd yn drefedigaethau mewnol o’r pwerau mawr.  Trueni na dderbyniwyd ei weledigaeth gan y sefydliad yn Llundain a’r prifddinasoedd eraill – go brin byddai sôn am Brexit ac y byddai pethau’n bur wahanol yng Nghatalunya a’r Alban – ac yng Nghymru o bosibl.

Daliodd Phil nifer o swyddi cenedlaethol gyda’r Blaid yn ystod ei yrfa, gan gynnwys swyddi’r Cadeirydd ac Is-lywydd, a bu sôn amdano nifer o weithiau fel arweinydd posibl.  Dwi ddim yn meddwl ei fod a’i bryd erioed ar hynny – heblaw am dynfa ei yrfa fel gwyddonydd, fuodd erioed yn ysu am rôl fel gwleidydd, er iddo ddweud mai cael ei ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol oedd anrhydedd fwyaf ei fywyd.

Fyddai byth chwaith yn poeni ormod am ei ddelwedd ei hun.  Soniodd y diweddar Patrick Hannan am y tro pan oedd y ddau ohonyn nhw’n cerdded i ginio prifysgol  mewn gwesty crand, Phil â helmet ar ei ben ac yn pwsho beic.  Pan gyrhaeddon nhw, dyma fe’n gadael y beic mewn toiled, gan ddweud taw fan yna byddai fe’n ei barcio’n aml!

Yn ddi-Gymraeg cafodd Phil ei fagu, er mai’r Gymraeg oedd iaith ei gyndeidiau ar y ddwy ochr.  Ond fe ddysgodd yr iaith yn drylwyr  – rhoddodd araith gymhleth yn y Gymraeg ar ddatblygu cynaliadwy i’r Cynulliad yn 2003.  Ond wrth dreulio bywyd yn ceisio rhagoriaeth, roedd yn ymwybodol taw yn Saesneg y gallai fynegi ei hun orau.  Dyna paham, ym marn John Davies, ei fod yn betrusgar siarad yr ieithoedd eraill y dysgodd, a’r rheiny’n cynnwys Swedeg, Norwyeg, Ffrangeg a Rwsieg yn ogystal â’r Gymraeg.

Ar ôl ymladd cynifer o etholiadau, tipyn o syndod oedd ennill!  Ond dyna ddigwyddodd yn 1999, annus mirabilis Plaid Cymru, a Phil yn cario baner y Blaid yn etholaeth Blaenau Gwent – a’i swyddfa ymgyrch yng nghanol Tredegar – ac yn sefyll ar y rhestr yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru.  Fe aeth y cyfrif yng Nglyn Ebwy ar gyfer sedd Blaenau Gwent ymlaen yn hwyr – ac erbyn i Phil gyrraedd y cyfrif rhanbarthol yng Nghasnewydd roedd popeth drosodd a phawb wedi mynd adref.  Pawb, hynny yw, ond dyn yn brwsio’r llawr – ac efe a ddywedodd fod ‘rhyw Brofessor’ wedi ennill sedd, ond heb droi lan i glywed y cyhoeddiad.  A byddai Phil wedyn yn hoffi dweud mai fel yna y cafodd gadarnhad ei fod wedi ennill etholiad – ar ôl pedwar degawd o ymgyrchu! 

Ac felly am y tro cyntaf fe ddaeth yn wleidydd llawn-amser, er y byddai’n treulio Dydd Llun fel arfer yn darlithio ac yn gweithio yn y labordy yn Aberystwyth.  Doedd y Cynulliad Cenedlaethol newydd ddim yn gynefin naturiol iddo fe a’i ddull o annerch falle, er rwy’n siŵr y byddai San Steffan gyda’i holl ‘knock about’ wedi apelio llai fyth.  Ond gwnaeth ei wybodaeth a’i ffordd ddiymhongar argraff ddofn  ar ei gyd- Aelodau, gymaint felly fel y cafodd ei ddewis yn Aelod Cynulliad y Flwyddyn am ei waith – hynny ym mlwyddyn gyntaf y Cynulliad gan Wobrau Gwleidyddol Channel 4 a hefyd y Western Mail.  Cafodd ei areithiau a’i brif gyfraniadau eraill i’r Cynulliad eu cyhoeddi mewn cyfrol hardd, diolch i Gwerfyl Hughes Jones, ac mae’r casgliad yn brawf o’r gofal a’r gallu a aeth i mewn i bopeth y cyflawnodd Phil drwy gydol ei oes.

Roedd aelodaeth o’r Cynulliad yn rhoi mynediad i stôr o wybodaeth, rhywbeth y defnyddiodd yn ddeheuig iawn i ddinoethi’r ffordd roedd y Trysorlys yn Llundain yn pocedu arian Ewropeaidd yn lle ei basio ymlaen i Gymru.  Unwaith eto, roedd ei gydweithio gyda Dafydd Wigley yn allweddol, a’r canlyniadau’n bellgyrhaeddol; yn eu plith disodli Alun Michael o’i swydd yn brif ysgrifennydd y Cynulliad ac – yn bwysicach fyth – gorfodi’r Canghellor Gordon Brown i dderbyn trosglwyddo arian o Ewrop i Gymru, £442 miliwn ohono fe,  yn lle ei sianelu i goffrau’r Trysorlys.

Rywsut yng nghanol ei holl brysurdeb, fe gafodd amser i gyfrannu i Wyddoniadur Cymru astudiaeth ysgolheigaidd ar wyddonwyr Cymru, un arall o’i hoff themâu.  Ac roedd yr un mor angerddol yn ei gefnogaeth i’r celfyddydau yng Nghymru – mae’n werth darllen ei araith i’r Cynulliad yn dathlu’r holl artistiaid roedd Cymru wedi’u cynhyrchu, ac yn galw am sefydlu oriel gelf gyfoes gydag adrannau rhanbarthol.

Siom i mi oedd clywed ei fod am ildio’i sedd yn y Cynulliad yn 2003.  Roedd gwyddoniaeth yn tynnu unwaith eto – a Phil a’i fryd ar dreulio mwy o amser ar ei ymchwil mewn astudiaethau’r gofod.  Yn sicr, roedd yn teimlo’n fwy cartrefol ymhlith ei gyd-wyddonwyr.   Nid bod pob gwyddonydd yn sant, a phob gwleidydd yn bechadur, dywedodd ef unwaith.  “Ond mae gyda nhw agwedd wahanol at y gwirionedd”, meddai. “Os yw gwyddonydd yn cyflwyno anwiredd yn fwriadol, bydd yn dryllio ei enw da am byth.  Ond mae gwleidyddion yn gwneud hynny drwy’r amser.”  Ac eto – ychydig cyn ei farwolaeth annhymig, roedd ganddo’r syniad i weithio’n ymchwilydd rhan-amser i Alun Ffred – a thrwy hynny barhau i gyfuno dau fywyd prysur.

Roedd ei farwolaeth, ac yntau ond yn chwe-deg pedwar blwydd oed, yn golled enfawr i lawer o bobl ymhob maes.  Gallwn ni ond diolch am ei barodrwydd i roi cymaint i achos Cymru.

Dyma fersiwn estynedig o’r araith i gyfarfod Cymdeithas Hanes Plaid Cymru a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Dydd Iau 9 Awst 2018

 

Llyfryddiaeth

‘Voice from the Valleys’.  Phil Williams.  Plaid Cymru (1981)

‘The Story of Plaid Cymru’.  Dafydd Williams.  Plaid Cymru (1990)

‘The Welsh Budget’.  Phil Williams.  Y Lolfa (1998)

‘Pam y dylai Cymru gael Hunanlywodraeth?’ Phil Williams.  Plaid Cymru (1997)

‘Professor Phil Williams’ (Ysgrif Goffa).  Meic Stephens.  The Independent.  13 Mehefin 2003

‘Phil Williams (1939-2003)’.  Cynog Dafis.  Planet, the Welsh Internationalist 152.  Summer 2003.

‘Phil Williams: The Assembly Years’.  Golygwyd gan Gwerfyl Hughes Jones.  Plaid Cymru (2004)

‘Rhag Pob Brad’.  Rhys Evans.  Y Lolfa (2005)

‘Be’ Nesa!’  Dafydd Wigley.  Cyfrol 4.  Cyfres y Cewri 10.  Gwasg Gwynedd (2013)

Cofio Phil Williams Teyrnged Cynog Dafis

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd dydd Iau, 9 Awst 2018, bu Plaid Cymru’n dathlu bywyd y diweddar Athro Phil Williams, ei hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili hanner can mlynedd

Trefnwyd y cyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a rhoddwyd teyrngedau gan Dafydd Williams a Cynog Dafis a chyfraniad gan Dafydd Wigley.

Cofio Phil Williams

Teyrnged gan Cynog Dafis

Mi allen i siarad am Phil, y polymath rhyfeddol o ddyn sut ag oedd-e, drwy’r dydd ond cwta 15 munud sy gen i ac rwyf am ganolbwyntio ar ei gyfraniad neilltuol iawn-e mewn materion gwyrdd – sef y pwnc pwysicaf – oes ca’i fentro’i ddweud-e – o bob pwnc yn y byd.

Ond alla’i byth â pheidio sôn am rai atgofion penodol.

 

Mae geni ddelwedd glir yn ‘y meddwl o’r tro cyntaf erioed i fi’i weld-e, yn Ysgol Haf y Blaid yn Llangollen 1961, peint o gwrw yn ei law, a’i wyneb yn pefrio wrth ymuno yn y canu oedd yn atseinio drwy’r bar – canu Cymraeg wrth gwrs. Ryn ni’n arfer meddwl am Phil fel meddyliwr – roedd e’n dweud mai darllen traethawd Ted Nevin ar ystadegau economi Cymru a barodd iddo-fe ymuno â’r Blaid – ond o’r galon a’r ymysgaroedd yr oedd ei angerdd dros Gymru a’r achos cenedlaethol yn codi. Yr angerdd ymysgarol yna a’i gyrrodd-e yn ei holl waith dros y Blaid gydol ei oes.

 

Yr ail atgof yw ohono-fe’n siarad yng nghyfarfod Pwyllgor Gwaith y Blaid Tachwedd 1964, ar ôl etholiad cyffredinol hynod siomedig, ar gynnig yr oedd John Bwlchllan i fi wedi’i roi ger bron y dylai’r Blaid roi’r gorau, dros dro, i ymladd etholiadau seneddol. Ac mae hynny’n atgoffa dyn o’r ffaith mai rebel oedd Phil yn y dyddiau hynny, aelod o grŵp Cilmeri, gydag Emrys Roberts, Ray Smith ac eraill, a oedd am foderneiddio trefniadaeth y Blaid a chyda llaw dorri tipyn ar grib Gwynfor yn y broses.

 

Ond gadewch i ni ddod at faterion gwyrdd, gan ddechrau gyda chanlyniad etholiadol siomedig arall, sef etholiad Ewrop 1989. Roedd gobeithion uchel gan y Blaid a’r paratoadau’n fanwl ond mewn tair mâs o bedair etholaeth Cymru, cad y Blaid ei gwthio i’r pedwerydd safle gan y Blaid Werdd. Rwy’n cofio’n glir am Phil yn y cyfrif yn Abertawe mewn sgwrs ddofn-gyfeillgar, gytgordus gyda Barbara McPake, ymgeisydd y Gwyrddiaid. Hawdd deall y cytgord – roedd Phil, fel gwyddonydd gofodol, wedi’i hen argyhoeddi o arwyddocâd aruthrol, arswydus yn wir, newid hinsawdd. Rwy’n cofio amdano-fe’n dweud, am ryw gyfarfod o wyddonwyr i drafod y wybodaeth ddiweddaraf am newid hinsawdd mai ‘arswyd iasol’ [‘cold terror’] oedd y teimlad.

 

Rai dyddiau cyn yr etholiad hwnnw, roedd Plaid Werdd Cymru wedi cael gwahoddiad i ddanfon cynrychiolwyr i gymryd rhan mewn sesiwn drafod ar Fore Sul Cynhadledd Dinbych 1989.  Cafodd y gwahoddiad i gwrdd eu danfon cyn yr etholiad.  Sefydlwyd cyd-weithgor rhwng y ddwy blaid i archwilio’r tir cyffredin, a Phil yn arwain dros y Blaid. Bu’n cyfarfod yn gyson dros gyfnod o rai misoedd. Daeth dau ganlyniad pwysig o’r broses yna.

 

1 Drafftiodd Phil gynnig manwl, hirfaith, hynod o radical, i Gynhadledd y Blaid yng Nghaerdydd 1990, ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Gallwn-ni ddyddio gwyrddio Plaid Cymru, sy wedi cael effaith eithaf pellgyrhaeddol ar wleidyddiaeth Cymru, mwy neu lai o’r dyddiad hwnnw.

 

2 Awdurdododd Pwyllgor Gwaith y Blaid etholaethau lleol i sefydlu pactiau etholiadol gyda’r Gwyrddiaid lle’r oedd cefnogaeth leol i hynny. Trefnwyd cytundebau lleol yn y De Ddwyrain ac yng Ngheredigion, lle’r enillwyd buddugoliaeth lachar yn 1992, a bu rhaid i fi wneud cyfnod estynedig o wasanaeth cenedlaethol yn San Steffan o ganlyniad. Roedd hyn i gyd wrth fodd calon Phil – roedd parodrwydd i weithio ar draws ffiniau pleidiol gyda phobl o gyffelyb fryd er mwyn cyflawni pethau gwerthfawr yn reddfol iddo-fe. Rwy’n cofio amdano’n dweud hynny wrtha’i gydag arddeliad pan gydweithiodd e a finnau i sefydlu grwp trawsbleidiol ar ynni adnewyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Rown innau, fel Phil, wedi cael ‘yn argyhoeddi’n gynnar o arwyddocâd chwyldroadol yr agenda werdd a chanlyniad hynny oedd bod Phil a finnau wedi dod i ddeall yn gilydd yn dda iawn. Perthynas anghyfartal oedd hon wrth gwrs fe oedd y guru a finnau’r disgybl fyddai’n gofyn cwestiynau a gwneud ambell i awgrym. Pan ges i’r cyfle i arwain dadl ar ynni adnewyddol yn Nhŷ’r Cyffredin, polisi Phil ar ynni adnewyddol a Chymru oedd sylwedd yr araith.

 

Rwyf am droi am funud at fater gwahanol, tra arwyddocaol hefyd. Fi oedd cyfarwyddyd polisi’r Blaid yn y cyfnod yn arwain at sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999. Ryw ddiwrnod daeth neges oddi wrth Phil yn dweud ei fod wedi darganfod nad oedd Cymru erioed wedi cael ceiniog o arian Ewropeaidd. Y? medden i. Beth am y cannoedd o filoedd oedd wedi dod i Gymru drwy raglenni Amcan 5b ac yn y blaen?  Ond roedd Phil wedi bod â’i ben yng nghyfrifon y Swyddfa Gymreig ac wedi darganfod bod pob ceiniog o arian Ewropeaidd yr oedd Cymru wedi’i derbyn, ar gyfer rhaglenni cymdeithasol, economaidd ac amaeth-amglycheddol, wedi eu hadfachu, drwy ddirgel ffyrdd, i’r Trysorlys Prydeinig.  Swindl nid llai a swindl oedd yn digwydd mewn amryw wledydd Ewropeaidd – y wladwriaeth ganolog yn defnyddio arian Ewropeaidd i chwyddo’i thrysorlysoedd ar draul y rhanbarthau a oedd i fod i elwa, a hynny’n hollol groes i fwriad yr Undeb Ewropeaidd i godi cyflwr economaidd ardaloedd tlotach.

 

Pan ddaeth Phil yn AC Cynulliad yn 1999 roedd hyn yn fater o’r pwys mwyaf, a Chymru erbyn hyn wedi cymhwyso ar gyfer cronfeydd Amcan 1 – miliynau lawer o bunnoedd. Doedd dim sicrwydd, a dweud y lleiaf, y byddai’r cyllid Ewropeaidd yma yn wirioneddol ychwanegol i’r bloc Cymreig, sef holl gyllid y Cynulliad Cenedlaethol. Gwrthododd Gordon Brown, ac allodd Alun Michael ddim, gwarantu y byddai cyllid Amcan 1 yn ychwanegol a chanlyniad hynny  fuodd (1) i’r Cynulliad ddisodli Alun Michael yn Chwefror 2001 a (2) i Lywodraeth San Steffan ildio ar y mater yna mewn datganiad, os cofia’i’n iawn ym mis Gorffennaf. Fe fyddai cyllid Amcan 1 yn wirioneddol ychwanegol i’r bloc. Cymrodd y Blaid Lafur y clod. Ond oni bai am Phil, mae’n go saff i ddweud, byddai twyll y Trysorlys wedi parhau, o leiaf am gyfnod. Meddyliwch mewn difrif am y golled i economi Cymru yn yr amgylchiadau hynny.

 

Buodd cyfraniad Phil i waith y Cynulliad cyntaf, ac yntau’n aelod o bwyllgor yr economi, yn nodedig. Rwy’n cofio fel y byddai bob amser yn paratoi’i areithiau’n fanwl ac yn eu hymarfer yn ofalus. Byddai’n gweithio bob awr o’r dydd a’r nos ac eithrio ambell i solo ar y sacsoffon yn diasbedain drwy’r coridorau rhwng 10 ac 11. Ond rwy’n rhyw deimlo iddo-fe brofi elfen o siom o ddiffyg cyfeiriad y Llywodraeth o dan Alun Michael a Rhodri Morgan. Yn niffyg unrhyw gyfeiriad strategol, cafodd datblygu cynaliadwy ei ddehongli, nid fel cyfle i Gymru achub y blaen mewn sectorau amgylcheddol newydd, ond fel cyfres o rwystrau i ddatblygiad yn enw cadwraeth a gwarchod y dirwedd. Yn ystod y pedair blynedd yna llwyddwyd i dagu, yn hytrach nag ysgogi, twf ynni adnewyddol er enghraifft.

 

Serch hynny, cael bod yn aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol cyntaf, serch mor gyfyngedig ac anfoddhaol oedd pwerau a chapásiti mewnol hwnnw, oedd uchafbwynt  ei yrfa wleidyddol, os nad ei fywyd ac mae’r ffaith iddo gael y fraint aruchel yna’n destun llawenydd i’r rhai a gafodd ei adnabod – braint aruchel arall. Coffa da am y disglair a’r annwyl Phil Williams.

 

Dyma araith i gyfarfod Cymdeithas Hanes Plaid Cymru a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Dydd Iau 9 Awst 2018

 

 

Cofio Phil Williams (1939 – 2003) yn Eisteddfod Caerdydd

Bydd Plaid Cymru’n dathlu bywyd y diweddar Athro Phil Williams, ei hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili hanner can mlynedd yn ôl, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd (am 11:45am, dydd Iau 9 Awst).

Trefnir y cyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru yn ystafell Cymdeithasau 3 yn y Senedd, Bae Caerdydd.

“Ysbrydolodd Phil Williams genhedlaeth gyfan i sylweddoli’r hyn y gallai Cymru ei gyflawni – dim ond i’n cenedl ennill yr hawl i reoli ein bywydau ein hunain”, meddai Cadeirydd y Gymdeithas a chyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru, Dafydd Williams.

Bydd cyn-Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Ceredigion Cynog Dafis a Dafydd Williams yn arwain trafodaeth ar gyfraniad Phil Williams i Gymru yn y cyfarfod.

Bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg. 

 

 

 

Lansio Llyfr John Osmond

Gwahoddir aelodau o Gymdeithas Hanes Plaid Cymru i lansiad cynhadleddol o ‘Ten Million Stars Are Burning’, nofel sydd newydd ei chyhoeddi, yn ystod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn y Pafiliwn, Llangollen am 4:45yp brynhawn dydd Gwener 23 Mawrth 2018.

Dyma’r llyfr cyntaf mewn cyfres o dair cyfrol gan yr awdur a sylwebydd gwleidyddol adnabyddus, John Osmond. Mae’n cofnodi’r newidiadau sylweddol yng Nghymru a ddatblygodd rhwng y ddau refferendwm ddatganoli, yn 1979 a 1997, drwy lygaid dau gymeriad ffuglennol – a llu o bobl go iawn! Bydd John mewn sgwrs gyda Chadeirydd y Gymdeithas, Dafydd Williams.

Teyrnged i Drefnydd Allweddol Plaid Cymru

Talwyd teyrngedau ar faes Eisteddfod Ynys Môn 2017 i Elwyn Roberts – un o hoelion wyth Plaid Cymru a fu’n allweddol i’w datblygiad yn ystod yr 20fed ganrif.

Mewn sesiwn a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru dywedodd Llywydd Anrhydeddus y Blaid Dafydd Wigley fod Elwyn Roberts yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd.

“Roedd yn genedlaetholwr cwbl ymarferol a gredai fod buddugoliaeth yn tyfu ar sail trefniadaeth wleidyddol”, meddai.

Brodor o Abergynolwyn, Meirionnydd fu Elwyn Roberts ac yn fab i chwarelwr llechi.  Aeth i weithio i’r banc ar ôl gadael yr ysgol a dod yn aelod o Blaid Cymru yn ei ddyddiau cynnar – gan sefydlu cangen ym Mlaenau Ffestiniog a ddaeth y fwyaf yng Nghymru.

Cafodd ei ryddhau o’i waith yn y banc sawl gwaith – i fod yn drefnydd etholiadol i Gwynfor Evans ym Meirionnydd yn 1945 ac wedyn i wasanaethu’r Eisteddfod Genedlaethol cyn dod yn drefnydd Gwynedd i Blaid Cymru a’i gyfarwyddwr cyllid yn 1951.

Yn y cyfarfod cofio cafwyd teyrngedau hefyd gan yr awdur Gwynn Matthews a chyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Dafydd Williams.  A soniodd Cyril Jones, cynrychiolydd i Gwynfor Evans yn isetholiad Caerfyrddin y 1966, am y rhan allweddol yr oedd wedi chwarae wrth ennill y sedd gyntaf erioed i Blaid Cymru yn Senedd San Steffan.

Clywyd sut yr oedd gwaith Elwyn Roberts wedi sicrhau na fydd Plaid Cymru’n methdalu nifer o weithiau.  A dywedodd Dafydd Wigley sut daeth galw iddo drefnu’r ymgyrch trawsbleidiol dros ddeiseb Senedd i Gymru yn y 1950au.

“Pan gymerodd Elwyn drosodd y cyfrifoldebau, roedd y ddeiseb wedi rhedeg ers dwy flynedd ac ond ychydig gannoedd o enwau arni. Gafaelodd Elwyn yn yr awenau gyda’i unplygrwydd nodweddiadol, a llwyddodd i gynyddu nifer yr enwau i dros chwarter miliwn.”

Dyma rhannau o’r areithiau ar 10 Awst 2017 yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yng nghyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru i Gofio Elwyn Roberts. 

Dafydd Wigley

 

Gwynn Matthews

 

Dafydd Williams

 

 

 

 

Cyfarfod Teyrnged a Cerdd yn dilyn ei farwolaeth yn 1989

Hanes Plaid Cymru