Hystings ym Mharadwys: Islwyn Ffowc Elis ac Is-etholiad Maldwyn 1962.
Darlithydd Robin Chapman.
Dydd Mercher 5 Awst 2015
Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau
Sleids y Ddarlith >> Hystings ym Mharadwys RobinChapman
Sain y Ddarlith >>
Gweithgareddau y Gymdeithas. Society Activites
Dydd Mercher 5 Awst 2015
Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau
Sleids y Ddarlith >> Hystings ym Mharadwys RobinChapman
Sain y Ddarlith >>
Ymhlith y Cymry a deithiodd i helpu’r ymgyrch dros annibyniaeth i’r Alban roedd Gwerfyl Hughes Jones, Llanuwchllyn a dau o Abertawe, Mari Evans a Dafydd Williams. Dyma gofnod answyddogol o’u hwythnos yn yr ‘Hen Ogledd’.
Dydd Llun 15 Medi 2014
‘Pob lwc’. Dyna’r ffarwel calonogol gawson ni wrth ymadael â’r Bala ar ein ffordd i’r Alban ychydig o ddyddiau cyn y refferendwm annibyniaeth, y tro cyntaf ers canrif i un o’r cenhedloedd Celtaidd herio grym y wladwriaeth Brydeinig.
Siomi ar yr ochr orau ychydig ar ôl croesi ffin yr Alban ar ôl clywed bod ardaloedd fel Dumfries a’r gororau yn llugoer. Roedd cynifer o bosteri o blaid annibyniaeth i’w gweld ar hyd y ffordd ag yr oedd yn erbyn, ac roedd fel pe bai’r tymheredd yn codi wrth i ni deithio drwy niwl yr hydref i’r gogledd i dref fach Balerno ar gyrion Caeredin a chartref ein ffrind Morag Dunbar, cantores werin o fri sy’n gyfarwydd iawn â Chymru.

Dydd Mawrth 16 Medi
Swyddfa Gordon MacDonald, aelod SNP o Senedd yr Alban oedd pencadlys yr ymgyrch Yes Scotland yn etholaeth Pentlands, Caeredin, a dyna’r lle aethon ni i weithio. Roedd y drefn yn eithriadol – gwaith yn barod i’r dwsinau o wirfoddolwyr fyddai’n troi lan a chroeso cynnes iawn gan Gordon a’i gydweithwyr i’r Cymry. Bron iawn fel yr awyrgylch yn is-etholiad Caerffili yn ôl yn y chwedegau – ond roedd rhywbeth tebyg ar led drwy’r Alban benbaladr.
Cyn hir roedden ni wrthi’n dosbarthu yn Saughton, ardal dosbarth gweithiol yng Nghaeredin – taflen fach bwrpasol yn crynhoi prif negeseuon yr ymgyrch ynghyd â phoster coch trawiadol yn annog pobl i bleidleisio Yes a rhoi diwedd am byth ar lywodraeth Dorïaidd! A’r teimlad oedd bod pobl yn gwrando ar y neges a’i thrafod, mewn ardal fyddai’n cael ei hystyried yn gadarnle i’r Blaid Lafur tan ychydig o flynyddoedd yn ôl.
Saib am fwyd yn y Sainsbury lleol, a’r dyn ifanc yn gweini tu ôl i’r cownter yn falch o weld ein bathodynnau – fe a’i ffrindiau’n gefnogol i’r ochr Yes, meddai. Yn ôl wedyn i ymgyrchu mewn ardal gyfagos, Stenhouse, ac ymdopi ac ambell i denement lle oedd rhaid perswadio un o’r trigolion i agor y drws i ni ledaenu’r newydd da!
Yna dal y bws 44 i ganol Caeredin i gwrdd â Neasa, menyw ifanc o Swydd Kerry yn Iwerddon sy’n byw yn y ddinas, a hynny yn y Cafe Royale, sydd er gwaetha’r enw yn dafarn arbennig sy’n ymffrostio yn ei chwrw traddodiadol. Ac roedd bwrlwm y refferendwm yno hefyd. Dyma Donny wrth y bar yn sôn am rai o’r Cymry oedd wedi helpu’r ymgyrch o blaid annibyniaeth, gan gynnwys un criw oedd yn gwersylla, wyrion Gwynfor Evans yn eu plith.

Dydd Mercher 17 Medi
Nid pawb oedd o blaid wrth reswm. Yn ymgyrchu yn ardal Broomhouse fe gwrddon ni â menyw 92 mlwydd oed oedd yn pleidleisio ‘Nae!’, a’i fflat yn blaster o bosteri’r ymgyrch No. Er hynny, yn Broomhouse hefyd roedd y gefnogaeth i’r ochr Yes yn ddigon amlwg. Fel arall oedd y wasg fodd bynnag. Y diwrnod cyn y refferendwm roedd y papurau tabloid yn ffyrnig yn erbyn, heb unrhyw ymgais i roi lle i’r ddwy ochr. A hyn yn adlewyrchu natur yr ornest, gyda’r Sefydliad i gyd yn taflu popeth oedd gyda nhw i rwystro’r Alban rhag symud ymlaen – barwniaid y wasg yn ymuno â mawrion gwleidyddol San Steffan, bancwyr, a rhai o benaethiaid cwmnïau mawrion i greu ofnau.
Yn y prynhawn aeth Colin â ni draw i’r Oxgang Road i ddosbarthu sticeri munud olaf i draffig oedd yn aros wrth oleuadau dros dro – nid y dull hyfrytaf o ledaenu’r gair. Hawdd canfod y gwahaniaeth rhwng pobl y ceir moethus â’r lleill; y mwyaf cysurus eu byd yn tueddu gwrthod yn swta, gydag ambell eithriad, pobl gyffredin yn barotach i dderbyn y posteri glas Yes gyda gras. Ond roedd y llif o bobl ifainc a gerddai adref o’r ysgol ar ôl pedwar o’r gloch y prynhawn yn ochri’n gryf â’r achos cenedlaethol – a rhai ohonyn nhw dros 16 oed yn gallu pleidleisio’r trannoeth. Dyna stori fawr y refferendwm, mae’n siŵr – gwrthwynebiad ofnus yr henoed yn erbyn gobaith herfeiddiol yr ifainc am ddyfodol gwell. Un arolwg ar ddiwrnod y pleidleisio yn darganfod bod mwyafrif pobl dan 55 oed wedi pleidleisio Ie.

Dydd Iau 18 Medi
Y diwrnod tyngedfennol wedi gwawrio. Roedd pecyn sylweddol o gardiau atgoffa pobl eisoes yn y car a bant â ni i ardal Wester Hailes i’w dosbarthu. Ardal i’w chymharu â Threlái yng Nghaerdydd, medd rhai, ond ein strydoedd ni yn ddymunol iawn. Roedd plant adref o’r ysgol wrth gwrs ar ddiwrnod y pleidleisio, ac wrth deithio’r strydoedd dyma gwrdd â geneth ifanc a’i brawd yn cynnal eu harolwg eu hun o ffordd oedd y gwynt yn chwythu, drwy edrych ar bosteri mewn ffenestri a gofyn ambell i gwestiwn wrth bawb oedd yn pasio – a 22-1 o blaid Yes oedd y canlyniad (gan gynnwys tri o Gymru wrth gwrs!).
Wrth i ni ddod at ddiwedd y gwaith, pwy ddaeth rownd y cornel ond dau wyneb adnadbyddus, Lis ac Emyr Puw o Lanuwchllyn, wedi’u hanfon ar yr un dasg! A dyna geisio cyfrif faint o Gymry oedd wedi gweithio yn y refferendwm o blaid rhyddid, ugeiniau os nad cannoedd mae rhaid, yn gwrthbwyso lleisiau negyddol gwleidyddion Llafur.
Wedyn roedd rhaid troi am ganol Caeredin i brofi tipyn o wefr yr ymgyrch. Yn sgwâr Charlotte ble gawson ni hyd i le parcio, yn ogystal â’r posteri Ie bu sawl Jac yr Undeb i’w gweld, prawf bod nifer yn y sector bancio a phroffesiynol yn erbyn annibyniaeth i’w gwlad. Ond lawr o flaen adeilad trawiadol Senedd yr Alban yr ymgyrch o blaid oedd i’w gweld ymhobman, yn dorf liwgar o bosteri glas a baneri’r Alban ac ambell i gerbyd corn siarad yn gyrru heibio i gynhyrfu pethau. Ac yn siambr y Senedd ei hun, sgwrs â dyn ifanc oedd yn gweithio yn y diwydiant olew ac yn hanu o ardal Gellifedw, Abertawe: fe soniodd am ffrind oedd wedi mynd i bleidleisio Na ond yn bennu drwy fwrw pleidlais o blaid.
Y noson honno yn y Filltir Frenhinol, cwrddon ni â nifer o bobl ifanc o Gatalunya a Gwlad y Basg, draw ar eu gwyliau i gymryd rhan mewn digwyddiad hanesyddol a’u canu a dawnsio’n ychwanegu at yr hwyl a’r teimlad bod rhywbeth gwirioneddol fawr ar fin digwydd. Bu tipyn o ddadl gyda mintai o’r grwp Better Together y tu allan i orsaf bleidleisio – a hwythau o blaid taflegrau Trident, go brin y byddwn ni’n dod i ryw gonsensws!

Dydd Gwener 19 Medi
Wedyn yn ôl i Balerno i aros am y canlyniad. Am y tro cyntaf, roeddwn i’n dechrau gobeithio y gallai’r ymgyrch o blaid ennill y dydd, er cymaint i’r pen ddal i ddweud fel arall. Siom felly oedd gweld y cyngor cyntaf i ddatgan, Clackmannan, fynd i’r ochr No ac i’r gobaith am chwyldro bylu. Ychydig o gwsg cyn gweld ardal Fife yn cadarnhau y byddai rhaid i’r Alban aros rhai blynyddoedd o leiaf cyn ymuno â’r byd. Braidd yn drist oedd cerdded strydoedd Caeredin i lawr i’r Senedd unwaith yn rhagor, a’r tywydd tarthog yn drych o’n teimladau. Taro ar draws yr Athro Richard Wyn Jones ar y Filltir Frenhinol, a’i ddadansoddiad ef yn gryno fel arfer. Wedyn ymlwybro i’r Senedd a gweld ambell i Ddraig Goch yn y dorf, oedd dipyn yn fwy tawedog na’r diwrnod cynt. Ddiwedd y prynhawn, ergyd arall o glywed drwy neges destun bod arweinydd yr SNP Alex Salmond yn ymddiswyddo ac yntau gymaint o arwr drwy’r gwledydd Celtaidd.
Ond ar y daith yn ôl i Gymru’r noson honno, roedden ni’n dal i deimlo’r cyffro o fod mewn brwydr wirioneddol hanesyddol am enaid chwaer-genedl. Gyda’r genhadlaeth iau o blaid, does dim amheuaeth gen i y bydd yr Alban yn cerdded ymlaen i annibyniaeth. Os collwyd y frwydr hon, mae’r freuddwyd yn dal yn fyw.
Dafydd Williams
Ymlaen i’r frwydr
gan Alan Jobbins.
Teithiodd ysgrifennydd Cymdeithas Hanes y Blaid Alan Jobbins gydag Owen John a Sian Thomas i’r Alban i roi cymorth i’r ymgyrch Ie yn ystod y refferendwm annibyniaeth. Dyma’i stori.
Wrth lanio yn Glasgow roeddwn i’n pendroni beth oedd o flaen Owen, Sian a minnau. A Glasgow’n ddinas bleidiol i Lafur, pa obaith oedd ar gyfer pleidlais ‘Ie’?
Yn fuan iawn, roedden ni yng nghanol yr ymgyrch. Canfasio, dosbarthu taflenni i gartrefi ac yn y strydoedd, canu a llafarganu mewn tyrfaoedd fflach – yn ogystal â churo drysau a staffio gorsafoedd pleidleisio. Un cof arbennig yw canfasio mewn ardal ddifreintiedig ble byddai pleidleisiwr ar ôl pleidleisiwr yn ateb ‘Ie’.
Roedd yr ymgyrch ‘Ie’ yn fendigedig, yn drefnus ac yn weithgar – hyd yn oed yn sicrhau na fyddwn ni’n llwgu!
Roedd Sgwâr San Siôr yn ysbrydoliaeth, gyda baneri, bandiau, areithiau a chymeradwyo. Dim ond ychwanegu i’r hwyl wnaeth gweiddi’r grŵp o Unoliaethwyr yn chwifio Jac yr Undeb.
Aeth y canlyniad yn Glasgow o’n plaid ni – a bydd Refferendwm arall yn anorfod. Ond pryd? Gyda stranciau Cameron ac arweinwyr y pleidiau undebol eraill, cyn hir.
Llun: Alan Jobbins yn Glasgow – cefnogi’r ymgyrch ‘Ie’

Mae’r Ffotograffydd Tudur Owen, o Groesor, wedi cyflwyno cyfres o luniau yn dyddio nôl i 1964 i Gymdeithas Hanes Plaid Cymru. Ymhlith y lluniau mae Cyfarfod Mabwysiadu Elystan Morgan yn Ymgeisydd 1964. Dathliadau yng Nghynhadledd Plaid Cymru 1996 yn dilyn llwyddiant Gwynfor Evans yn yr Is-etholiad, ymgyrch Is-etholiad Caerffili 1968 ac ymgyrch Dafydd Wigley ym Meirionnydd 1970.
Dywedodd Dafydd Williams, Cadeirydd y Gymdeithas, “Mae’r casgliad yma yn ychwanegiad sylweddol i’r archif ac rydym yn falch fod gweithgarwch a bwrlwm cyfnod y 1960au i’w weld yn amlwg yn y lluniau.
“Difyr yw gweld wyneb Winnie Ewing a mintai o’n ffrindiau o’r SNP yn y lluniau, a hynny mewn sawl frwydr gofiadwy – arwydd o’r cyfeillgarwch rhwng ein dwy blaid ar hyd y blynyddoedd.
“Mae’n diolch yn fawr i Tudur Owen am gyflwyno’r casgliad.”

Cofiwch wrando ar Phillip Lloyd yn siarad am ddarlledu anghyfreithlon yn y 50au a’r 60au ar raglen John Hardy ‘Cadw Cwmni’ dydd Llun 20ed Ionawr,
S4C. Caiff y rhaglen ei hailddarlledu ar Sadwrn y 25ain Ionawr hefyd.
Y BLAID FFASGAIDD YNG NGHYMRU. PLAID CYMRU A’R CYHUDDIAD O FFASGAETH
Mae’r llyfr uchod gan yr Athro Richard Wyn Jones [ Prifysgol Caerdydd ] ar werth nawr a bydd y cyfieithiad ar werth ar yr 20ed o fis Mai 2014

Daeth cant o bobl i gyfarfod arbennig i gofio 90ain pen-blwydd o’r cyfarfod cyntaf o’r Mudiad Cymreig, grŵp a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru – gan synnu’r gŵr gwadd, yr Athro Richard Wyn Jones, un o brif ysgolheigion ym maes gwleidyddiaeth.
Fe gynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol, cudd yn Bedwas Place, Penarthar Ionawr 7, 1924, ac ymhlith y rhai fu yno bryd hynny oedd y darlithydd a dramodydd, Saunders Lewis, a drigai ym Mhenarth dros flynyddoedd lawer.
Yn ystod y digwyddiad y mis yma, siaradodd yr Athro Richard Wyn Jones am bwysigrwydd cyfarfodydd y grŵp a’u dylanwad wrth ddatblygu cysylltiadau gyda chenedlaetholwyr yng ngogledd Cymru a sefydliad swyddogol Plaid Cymru’r flwyddyn ddilynol.
Eglurodd sut y daeth y polisïau a luniwyd gan y grŵp yn bolisïau i Blaid Cymru ei hun yn ei blynyddoedd cyntaf.
Yn ogystal â Saunders Lewis, yn bresennol yn y cyfarfod hanesyddol cyntaf oedd yr hanesydd, Ambrose Bebb, a pherchnogion y tŷ yn Bedwas Place, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig, G. J. Williams a’i wraig Elizabeth.
Trefnwyd y dathliad diweddar gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o’r Blaid, ac ymhlith y cant a ddaeth oedd criw teledu.
Clywodd ystafell dan ei sang yn y Windsor Arms groeso i’r Athro Jones, aelodau a chefnogwyr y Blaid a thrigolion lleol â diddordeb yn hanes gwleidyddiaeth ym Mhenarth gan Gadeirydd y Gangen leol Adrian Roper.
Cadeirydd y cyfarfod oedd Alun Ffred Jones, sy’n Aelod Cynulliad ac yn ŵyr i’r Parchedig Ffred Jones, a ymunodd â’r grŵp ar ôl ei gyfarfod cyntaf.
Rhoddodd Cadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams, bleidlais o ddiolch i’r siaradwyr a’r trefnwyr.
Sain Darlith Richard Wyn Jones-
Ymhlith y gynulleidfa yn y dathliad oedd ymgeiswyr San Steffan a Chynulliad y Blaid ar gyfer De Caerdydd a Phenarth, Ben Foday a Dr Dafydd Trystan Davies, a etholwyd yn gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru’r llynedd.
Y Newyddion ar S4C
Cyhoeddwyd rhifyn gyntaf o gylchlythyr Cymdeithas Hanes Plaid Cymru
Gallwch ei ddarllen yma >> Cylchlythyr
Yng Nghynhadledd y Blaid,, Hydref 2013, roedd Yvonne Balakrishnan ar ran y Gymdeithas Hanes wedi paratoi arddangosfa o Ferched ym Mhlaid Cymru yn ystod y Blynyddoed Cynnar.
Ymhlith y merched a gofnodir yn yr arddangosfa mae –
Cassie Davies, Tegwen Clee, Eileen Beasley, Nesta Roberts
Priscie Roberts, Mai Roberts, Efelyn Williams, Kate Roberts
Dr Ceinwen H. Thomas, Cathrin Huws, Caerdydd, Jennie Gruffydd
Nans Jones, Nora Celyn Jones, Llinos Roberts, Lerpwl
Dyma rhai o’r protreadau –

CHWALU’R CELWYDDAU YN Y GYNHADLEDD
Recordiad o’r cyfarfod
Paham mae nifer o wleidyddion Prydeinig wedi mynd ati i bardduo Plaid Cymru gyda’r gri o fod yn ffasgaidd, a hynny heb rithyn o dystiolaeth? A sut cawson nhw lwyddo i barhau i wneud hyn ers cymaint o amser?
Dyna thema cyfarfod ymylol niferus yn y Gynhadledd Flynyddol yn Aberystwyth eleni a anerchwyd gan yr hanesydd gwleidyddol Professor Richard Wyn Jones. Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddodd yr Athro Jones ddadansoddiad manwl o’r cyhuddiadau hyn a fyddai’n cael eu hail-adrodd o dro i dro dros y saith degawd diwethaf. Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan yr Athro Daniel Williams dan nawdd Cangen Aberystwyth a’r gymdeithas hanes ar y cyd.
Mae’r llyfr yn waith darllen hanfodol i bob cenedlaetholwr. Mae’n dinoethi’r celwydd a ledaenwyd ers degawdau gan wleidyddion gwrth-Gymreig mileinig.
‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’: Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth (2013).
Richard Wyn Jones. Gwasg y Brifysgol.
ETHOLAETH CAERFFILI
CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU
Sgwrs wedi’i darlunio gan Philip Lloyd
Radio Free Wales
Radio Ceiliog
Hanes darlledu anghyfreithlon – y frwydr am yr hawl i Blaid Cymru gael darlledu’n wleidyddol
Clwb Rygbi Caerffili
Nos Iau, Medi’r 26ain am 7:30
Mynediad am Ddim
Croeso cynnes i bawb