Teyrnged i’r Barnwr Philip Richards (1946-2025)

Teyrnged i’r Barnwr Philip Richards (1946-2025)

Yn ei Angladd yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, 8 Hydref, 2025

Mae hon yn dasg nad ydw i – nac eraill yn y gwasanaeth hwn heddiw – yn ei dymuno na’i mwynhau. Cafodd ei gwthio arnom gan ddigwyddiadau diweddar. Gellir dweud am bawb sy’n bresennol y prynhawn yma y byddai yn well gennym beidio â bod yn angladd ein ffrind, Philip Richards; ac mai gwell gennym fyddai petai Phil yn wych, yn ddisglair ac yn hwyliog yn ein plith o hyd. Ond yr ydym lle’r ydym – wedi ymgynnull i’w gofio; i rannu ein gwybodaeth amdano – ac, yn anad dim, i ddathlu ei fywyd yn ein mysg.

Bydd eraill – yn enwedig aelodau ei deulu – yn siarad am y Phil ‘roedden nhw’n ei nabod a’i garu. Siaradaf innau fel ffrind iddo ac, o fod mor eofn, ar ran eraill yn ogystal â fi fy hun. Wrth wneud, mae’n bosib y bydd pwyntiau’n gorgyffwrdd rhyngom; ond fy nod yw osgoi gormod o’r rheiny drwy siarad am y Phil oedd yn hysbys i mi : cyfaill eithriadol o dda a ffyddlon dros drigain mlynedd, bron, rhwng Mawrth 1966 (pan gwrddais ag ef gyntaf mewn rali wleidyddol yn Aberdâr) a Gorffennaf eleni pan ymwelais i a phedwar ffrind ag ef ddiwethaf, yng Nghartref y Waverley, Penarth, ychydig cyn ei ben-blwydd yn 79 oed. Dylwn ychwanegu hefyd taw ef oedd Gwas Priodas fy mhriodas yn 1980.

Dechreuaf yn Saesneg, fel cyflwyniad. Byddaf yn parhau ac yn gorffen yn Gymraeg : iaith yr oedd Phil yn ei charu, wedi ei dysgu ac wedi ei ‘chyfreithloni’. Yn wir, o gofio bod ei gyrhaeddiad yn y Gymraeg cystal nes bod Arglwydd Ganghellor Cymru a Lloegr  wedi ei benodi’n gadeirydd y Pwyllgor Sefydlog ar Ddefnyddio’r Gymraeg yn Llysoedd Cymru, ac i Phil wrando ar achosion Llys y Goron yn Gymraeg, rhyfedd, wir, fyddai peidio â chydnabod yn ein hiaith ein hunain agwedd mor bwysig ar ei fywyd a’i lafur.

 

*  *  *  *  *

 

Ysgrifennodd Gerallt Lloyd Owen, bardd mwyaf canu caeth y Gymraeg yn niwedd yr 20G, awdl o’r enw ‘Afon’. Enillodd iddo Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1975. Ynddo, mae’n disgrifio atgofion ei blentyndod wrth chwarae ar lan afon, gan ddarlunio’r afon honno fel arwydd o fywyd ei hun. Dywed:

 

                                         Fy nyddiau, afon oeddynt,                  

                                         mân donnau fu oriau’r hynt. 

                                         Aethant fel breuddwyd neithiwr

                                         neu wib dail ar wyneb dŵr.                

 

Gellid dweud yn debyg am ein bywydau ni oll. Bu bywyd Phil, hefyd, fel afon : wedi’i fwydo gan nentydd ei wahanol gefndiroedd : ei fagwraeth;  addysg; deallusrwydd; ei gyfeillachu ffurfiannol; ei fywyd teuluol; profiadau ei yrfa a’i iechyd.

Yn y sylwadau sy’n dilyn, cyfeiriaf at y rhain mewn ffordd na fydd, gobeithio, yn cyffwrdd gormod â sylwadau cyfranwyr eraill. Byddaf yn gorffen gyda cherdd o fawl i Phil ar batrwm cywydd: mesur a fu – ac sy’n dal i fod – wrth wraidd traddodiad hir Cymreig o ganu mawl i bobol weddus ers dechrau’r 13G. Mae ein diweddar gyfaill Philip Richards yn fwy na theilwng o’m hymdrech fach i’w osod yn y traddodiad hwnnw.

*  *  *  *  *

Ganed Phil yn Nottingham ym 1946, yn sgil yr Ail Ryfel Byd, tra bu ei rieni yn byw oddi cartref oherwydd galwadau’r drin oedd newydd orffen. Doedd Phil byth yn gwbl gyfforddus â’r ffaith yma (er iddo ei gwisgo’n ddigon ysgafn wrth gwrs). Yn hynny o beth, bu mewn cwmni da yn y byd gwleidyddol Cymreig y byddai yn rhan ohono maes o law oherwydd gellid dweud yr un peth am David Loyd George (a aned ym Manceinion); Saunders Lewis (Lerpwl); Emrys Roberts (Leamington Spa) a Dafydd Wigley (Derby)!

Ymhen ychydig, dychwelodd y teulu bach i Gymru ar benodi tad Phil yn athro Hanes a Saesneg yng Nghaerdydd. Athrawes yn arbenigo ar ddysgu Saesneg yn y sector uwchradd oedd ei fam hefyd. Aeth Phil i Ysgol Uwchradd Caerdydd, ac oddi yno i Brifysgol Bryste i astudio’r Gyfraith gan raddio ym 1968.

O Fryste, aeth i Lundain gan sefyll arholiadau’r Bar yn yr Inner Temple ym 1969. Wedyn, gwnaeth tymor prawf gyda’r Barnwr Dewi Watkin Powell – cyfreithiwr gwladgarol a gafodd ddylanwad parhaol arno. Tra yn Llundain – mewn digwyddiad a drefnwyd gan Blaid Cymru – cwrddodd Phil â Dorothy George o Lanbradach. Ymhen dim, dychwelodd y ddau i Gaerdydd gan briodi ym 1971. Ganed Rhuanedd ym 1974 a Lowri ym 1978. Yn y man, aeth Phil yn aelod o’r siambrau mwyaf o fargyfreithwyr yng Nghymru yn Park Place, Caerdydd. Cafodd yrfa lwyddiannus fel bargyfreithiwr tan ei benodi yn Farnwr Llys y Goron yn 2001 : swydd a ddaliai nes ymddeol yn 2016.

Bu Phil yn ddyn o ddiddordebau eang. Does dim amser nawr i fanylu amdanynt oll; ond gellir crybwyll llenyddiaeth; pob math o gerddoriaeth o’r clasurol i’r felan [blues] a roc-a-rôl); pobol; teithio; ieithoedd; hanes a hanes teuluol; chwaraeon ac – ar lefel fwy difrifol – cyflwr y gymdeithas yr oedd yn rhan ohoni; ac wrth gwrs gwleidyddiaeth. Rhof heibio mwyafrif y pethau hyn nawr i ganolbwyntio ar y maes y des i i’w nabod orau ynddo, gwleidyddiaeth.

Cwrddais gyntaf â Phil ym 1966, pan ddaeth yn fyfyriwr ugain oed i Aberdâr i siarad dros ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol y dydd. Roeddwn i’n fyfyriwr Dosbarth Chwech ddeunaw oed, yn sefyll dros y Blaid yn ffug-etholiad Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr yr un adeg. Dyna ddechrau cyfeillgarwch rhyngom a barhaodd yn ddi-dramgwydd tan ei farwolaeth.

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Phil ei hun wrth sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiadau lleol yng Nghaerdydd ym 1971. Yna, sefodd fel ymgeisydd y Blaid ar gyfer San Steffan yng Ngogledd Caerdydd yn nau etholiad cyffredinol 1974 (Chwefror a Hydref).

Yn sgil buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin ym 1966, bu cynnwrf mawr yn rhai o etholaethau cymoedd de Cymru er budd y Blaid. Etholaethau Caerffili, Gorllewin y Rhondda a Merthyr gai’r sylw fel arfer; ond ‘roedd yr un peth yn wir am Gwm Cynon. Yno, ym 1970, cafodd ymgeisydd y Blaid 11,431 o bleidleisiau a 30% o’r holl bleidlais. Yn nau etholiad cyffredinol 1974, sgoriodd ei hymgeisydd bron i 12,000 o bleidleisiau (11,973 : 30% o’r cyfanswm) yn Chwefror; ac yna 8,133 pleidlais (21% o’r cyfan) ym mis Hydref. Felly, roedd etholaeth Aberdâr (‘Cwm Cynon’ i fod) yn dir ffrwythlon i Blaid Cymru – yn enwedig o gofio bod ar y cyngor lleol grŵp niferus o gynghorwyr fel sail i ymgyrch rymus.

Dyna a arweiniodd at wahodd Phil i fod yn ymgeistydd y Blaid yno ym 1975: gwahoddiad a dderbyniwyd ac a welodd y teulu ifanc yn symud i Aberpennar ac yna Cwmaman. Cyn bo hir, gofynnodd Phil imi fod yn asiant iddo; ond gan fy mod erbyn hynny’n gweithio i’r Blaid yn ganolog fy hun, teimlais na fyddai gen i’r amser angenrheidiol i ymroi i’r swydd. Yn y man, aeth y diweddar gynghorydd Aubrey Thomas, Penrhiwceiber, yn asiant iddo yn etholiad cyffredinol 1979.

Hyd yn hyn, ni soniais lawer yn gyhoeddus am helynt y blynyddoedd rhwng 1975 ac etholiad 1979, a dw i ddim yn bwriadu manylu gormod yma. Digon yw dweud na chafodd Phil chwarae teg gan bawb yn yr etholaeth oherwydd bod yr ymgeisydd seneddol blaenorol yn teimlo y dylai aros yn y rôl. Bu llai na hanner y blaid leol yn cytuno â hyn; ond dechreuwyd ymgyrch chwerw a phersonol i danseilio Phil. Dilynodd blynyddoedd o ymrafael a checru agored rhwng y ddwy garfan: y naill dros Phil a’r llall yn ei erbyn. Y canlyniad oedd cwymp sylweddol ym mhleidlais y Blaid yn etholiad 1979 (er inni gadw’r ernes gyda 10% o’r holl bleidlais). Ni fyddai yr un ymgeisydd – hyd yn oed Dewi Sant – wedi medru atal y fath gwymp yn yr amgylchiadau; ac fe deimlais i ac eraill taw gwarth oedd bod Phil wedi wynebu brad o’r fath.

Un o’r ychydig a ddaeth allan o’r ffradach ag anrhydedd arno oedd Phil. Mewn ymateb nodweddiadol, ni ymatebodd i’w danseilwyr yn y modd y’i tanseiliwyd. Ni wylltiodd; ni ffyrnigodd; ni fu’n sarhaus at neb. Yn hytrach, taflodd ei hun i waith yr etholaeth cyn ac ar ôl yr etholiad, gan fwrw gwreiddiau yn y gymuned leol a fyddai’n  dwyn canlyniad gwell o lawer iddo maes o law.

Ymaelododd yng Nghlwb Rygbi Aberpennar gan fynd yn Llywydd poblogaidd y clwb am flynyddoedd, Bu’n gadeirydd Cymdeithas Tai Cynon-Taf a chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Rhydfelen ar adeg gythryblus yn ei hanes. Cynghorai ’RHAG’ (Rhieni Dros Addysg Gymraeg) yn lleol a sirol. Ymgyrchai dros ysbyty newydd ac yn frwd dros y glöwyr a’u teuluoedd a fu ar streic am fisoedd ym 1984-85. Daeth y Shepherd’s Arms, Cwmaman yn lloches iddo; ac yn aml, wrth rannu diod yno, rhyfeddwn at ei allu i gyd-dynnu’n naturiol â’r mwyaf cyffredin, ac yntau’n fargyfreithiwr hŷn a darpar-farnwr. Nid pawb o bell ffordd fyddai am – na’n medru – gwneud hyn. Sail ei ddawn, wrth gwrs, oedd ei foneddigrwydd naturiol, a’r ffaith nad oedd asgwrn ymhongar ynddo.

Roedd ei ymroddiad a’i allu fel siaradwr cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn yn fodd i adfer hygrededd y Blaid yn yr etholaeth. Yn wir, gwnaeth ei brysurdeb a’i hawddgarwch lawer i ennill parch rhai a fu yn elynion gwleidyddol iddo o safbwynt pleidiol. Magodd gyfeillgarwch â chynghorwyr ac aelodau’r Blaid Lafur; ac ni chlywais neb o’u mysg yn ymosod arno’n bersonol. I’r gwrthwyneb!

Yn aml, telir pris gan wleidydd am fyw bywyd mor ofynnol, ac yn niwedd y 1980au daeth priodas Phil a Dorothy i ben – er iddynt ddal i barchu ei gilydd a charu’n ddi-gwestiwn eu dwy ferch. Bu’r cyfnod rhwng 1988 a 1991 yn her i Phil mae’n dêg dweud – nes iddo ddechrau ar gyfnod newydd yn ei fywyd ym 1991 wrth gwrdd â Julia. Arweiniodd hyn at eu priodi ym 1994 a geni Megan ym 1995. Cafodd hefyd trwy’r briodas hon lysfab, David, a fu’n annwyl ganddo, gan gwblhau ei deulu nes i saith o wyrion gyrraedd!.

Ond, bu gormod o’r hen awch gwleidyddol yn llechu ynddo; a gyda golwg ar gynulliad cenedlaethol i Gymru ar y gorwel ym 1997, ‘roedd Phil am roi un cais arall arni i gael ei ethol i’r corff newydd.

Yn dilyn etholiad cyffredinol Mai 1997, cafwyd ym Medi yr un flwyddyn refferendwm ynghylch sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i  Gymru. Enillwyd hwn o ychydig filoedd; ond, fel maen nhw’n dweud, “mae ‘un’ yn ddigon mewn democratiaeth” ac fe gafwyd Cynulliad neu ‘Senedd Cymru’ fel y mae heddiw.

Sefodd Phil ar gyfer y corff newydd yng Nghwm Cynon ym Mawrth, 1999, gan ennill 9,206 o bleidleisiau (42.5% o’r bleidlais gyfan): dim ond 677 o bleidleisiau yn llai na’r ymgeisydd Llafur (a gafodd 45.6% o’r holl bleidlais). Hwn oedd ei ganlyniad etholiadol gorau; ac er bod Julia wedi ei ddisgrifio (yn ddealladwy o ran ei theulu) fel peth “too close for comfort”, dw i’n siŵr y bydd hi’n maddau imi o ddweud taw colled anferth i Gwm Cynon fu’r golled agos yma.

Dyna oedd diwedd ymgyrchu gwleidyddol i Phil. O hynny ‘mlaen, rhoes ei ysgwydd y tu ôl i olwyn ei yrfa gyfreithiol gan fynd yn bennaeth siambrau ac, yn 2001, yn farnwr Llys y Goron gyda chyfrifoldeb am gynghori ar ddefnydd y Gymraeg yn y drefn gyfreithiol yng Nghymru. Bu’n farnwr am bymtheng mlynedd nes ymddeol yn 70 oed yn 2016. Yn yr un flwyddyn, fe’i anrhydeddwyd yn Y Fenni o’i wneud yn aelod o’r Orsedd am ei wasanaeth i’r Gymraeg ym myd y gyfraith ac addysg.

Daeth cyfnod machlud ei iechyd yn rhy gyflym o lawer wedi hynny. Yn Chwefror 2017, cafodd ddeiagnosis cychwynnol o’r clefyd a’i llethodd maes o law. Erbyn 2019, roedd pethau wedi gwaethygu nes i’w deulu a’i ffrindiau gael braw ynglŷn â’i  ddiogelwch personol. Pen draw hyn oedd iddo fynd yn 2021 i fyw mewn gofal yng Nghaerdydd ac yna Penarth.

Bu ei deulu yn ymweld yn ffyddlon ag e yno. Hefyd, ymwelodd cylch ohonom – yn hen gyfeillion gwleidyddol (David Evans, Dafydd Williams, Marc Phillips, Helen Mary Jones a minnau) – yn gyson. Doedd yr ymweliadau hyn ddim yn hawdd ac weithiau’n dipyn o her. Ond rydym yn falch ein bod wedi dal ati. Roedd Phil, ein cyfaill, yn ei haeddu.

Y tro olaf inni ymweld ag ef fu ar yr 16eg Gorffennaf, ryw bythefnos cyn ei ben-blwydd yn 79 oed. Fel arfer, bu hanner cyntaf yr awr a gaem gydag e yn ymdrech i ennyn ymateb; ond, fel arfer, byddai llygedyn o nabod yn corddi ynddo yn ystod yr ail hanner awr : yn enwedig wrth inni ganu i gyfeiliant banjo Dafydd Williams! Agorodd Phil ei lygaid y diwrnod arbennig hwnnw a dechreuodd wenu arnom. Ar ddiwedd yr awr, aethom, fesul un, i ffarwelio ag e dros dro. Erbyn i ‘nhro i ddod, tua’r diwedd, cydiodd yn fy llaw nes imi fethu yn hawdd ei dynnu’n rhydd – a doedd gen i mo’r galon i wneud hynny’n bwrpasol. Felly y buom nes egluro i’r lleill – a chyn i HMJ roi cusan mawr arall iddo ar ei dalcen. Hynny’n unig barodd iddo ryddhau ei afael.

Dyna sut y daeth ein cyfeillgarwch o drigain mlynedd i ben. Ni fyddaf yn ei anghofio. Y peth a’n cynhaliodd y diwrnod hwnnw oedd bod Phil wedi deall – os nad yn union pwy oeddem – ein bod yn gyfeillion iddo, ac yn meddwl y byd ohono.

Diolch am wrando. Tawaf â’r cywydd mawl “Er cof am y Barnwr Philip Richards” : dyn mawr yng Nghymru ei gyfnod os y bu un erioed.

 David Leslie Davies.


Teyrnged yn y Senedd i Phil Richards gan Rhys ab Owain. 24 Medi 2025  

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Naw cant tri deg dau o bleidleisiau ychwanegol, a byddai Phil Richards wedi dod yn Aelod yn y siambr yma yn 1999, fel yr Aelod cyntaf dros Gwm Cynon. Colled gwleidyddiaeth Cymru oedd ennill i system gyfiawnder ein gwlad. Fel nifer o genedlaetholwyr amlwg y cyfnod, cafodd Phil ddim ei eni yng Nghymru, ond nid man geni sy’n pennu cenedligrwydd, ac roedd Phil ar dân dros Gymru a’r Gymraeg. 

Roedd fy nhad a Phil yn unigryw yn y blaid yng Nghaerdydd ar ddechrau’r 1960au. Doedden nhw ddim yn gapelwyr iaith Gymraeg, ac roedd rhai yn eithaf drwgdybus o’r ddau rebel yma, ond mi wnaeth y ddau daflu eu hunain i ymgyrchu yng Nghaerdydd, yn aml mewn sefyllfaoedd anodd, ac yna fe aeth Phil i Gwm Cynon flynyddoedd cyn yr etholiad cyffredinol yn 1979 i sefyll dros y blaid yn yr etholiad anodd yna. Nid ymgeisydd parasiwt oedd Phil Richards.

Fe ddefnyddiodd ei sgiliau cyfreithiol i gynorthwyo’r blaid yn y 1970au a’r 1990au, cyfnodau allweddol yn hanes datganoli. Fe ymdaflodd Phil i normaleiddio’r Gymraeg yn y llys. Byddai’n cymell tystion i roi eu tystiolaeth yn eu hiaith gyntaf. Fe wnes i lawer o achosion drwy’r Gymraeg o flaen Phil. Fe ddaeth y dysgwr Cymraeg yn farnwr cyswllt y Gymraeg yng Nghymru, gan hyrwyddo’r iaith ar bob achlysur.

Penllanw hynny oedd i Phil ddod yn aelod o’r Orsedd fel Phil Pennar. Bu Dad a Phil yn yr un cartref am gyfnod, ac er nad oedd y ddau hen gyfaill yn adnabod ei gilydd oherwydd yr afiechyd creulon, roedd yn dod â rhyw deimlad braf inni bod y ddau gyda’i gilydd, a bob tro rôn i’n gweld Phil, roedd ei wên yn para o hyd. Mae Cymru wedi colli cawr o ddyn. Cawr ar goesau bach efallai, ond cawr heb os. Diolch yn fawr.

 

  

Teyrnged i Alan Jobbins 1940 – 2025

 

O edrych ar ei gefndir, ‘doedd Alan Jobbins ddim y person mwyaf amlwg i sefydlu Cymdeithas Hanes Plaid Cymru. Ganed ef yn 1940 i deulu di-Gymraeg dosbarth gweithiol yn Aberhonddu. Roedd cenedlaethau ar ochr ei fam wedi byw ym Mrycheiniog ac roedd teulu ei dad wedi dilyn camlas Sir Fynwy o Gasnewydd cyn ymsefydlu yn y dref. Roedd ei dad yn weithgar gydag undeb y gweithwyr rheilffyrdd ac yn pleidleisio i’r Blaid Lafur a bu Alan yn gefnogol o’r Blaid Lafur yn ddyn ifanc, cyn iddo ddod yn weithgar gyda’r Blaid, mudiad cenedlaethol a dysgu Cymraeg yn yr 1970au.

Yn ddi-os bu dylanwad ei wraig, Catherine, oedd o Eifionydd ac yn siaradwraig iaith gyntaf, yn drwm arno. Bu iddynt gwrdd mewn dawns yng Nghanolfan Cymry Llundain ar Gray’s Inn Rd Llundain yn 1965 lle roeddynt ill dau yn athrawon ymysg y miloedd o Gymry ifainc eraill. Wedi priodi bu i’r ddau dderbyn swyddi dysgu yn Chingola yn Zambia. Cafodd Zambia ddylanwad ar Alan. Yn ei henaint esboniodd wrthyf yn syml, “I saw other people have their own country and thought why can’t we have our own country too”. Nododd fod addysg a gweinyddiaeth yn gyfan gwbl Saesneg yn Zambia heb ddim cydnabyddiaeth o’r ieithoedd brodorol. Bu iddo resynu wrth weld bechgyn duon yn dod ar eu gliniau iddo am ei fod yn athro gwyn gan arddel enwau Saesneg yn hytrach nag enwau brodorol. Yn Zambia, gwelodd Alan gymariaethau â gwladychu Cymru.

Er mai Llafur oedd cefndir y teulu ac er nad oedd yn hoffi’r gwersi Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Aberhonddu mae’n rhaid bod sbarc weriniaethol Gymreig ynddo yn ifanc. Yn 1956 gyda’r Frenhines Elizabeth II newydd ei choroni ar daith drwy’r dref, wrthododd chwifio’r Union Jack, ac yn 1956 aeth yr athro hanes ag Alan a chriw o’r bois Lefel A i weld dadorchuddio cofeb maenhir Llywelyn yng Nghilmeri.

Yn ystod yr 1980au gyda dri blentyn ychydig yn hŷn, taflodd Alan ei hun fewn i’r bywyd gwleidyddol. Roedd yn un o’r nifer o aelodau’r Blaid bu’n gasglu bwyd i deuluoedd y glowyr oedd ar streic y tu allan i archfarchnad Asda Coryton yn 1984. Yn fachgen ifanc, cofiaf fwynhau wy a sglods mewn caffe ym Mhort Talbot lawiog wedi i ni fynychu rali i gefnogi Gwynfor dros sianel Gymraeg yn 1981. Ysgrifennodd lythyrau i garcharorion cydwybod yn yr Undeb Sofietaidd ar ran Amnest Ryngwladol, cododd arian i undeb Solidarnosc yng Ngwlad Pŵyl, a bu’n weithgar gyda’r mudiad Gwrth-Apartheid. Er iddo gael gwahoddiad i sefyll dros y Blaid Lafur gan gymydog oedd yn gynghorydd lleol, gwrthododd hynny, gan sefyll dros y Blaid mewn etholiad lleol yn yr Eglwys Newydd gan dderbyn lythyr bygythiol gan fudiad unoliaethol y ‘Red Hand Movement’.

Yn 1987 roedd yn un o aelodau cyntaf Ymgyrch Senedd i Gymru gan ddod, maes o law, yn ysgrifennydd y mudiad. Wedi buddugoliaeth wyrthiol datganoli yn 1997 parhaodd y mudiad i lobio ac ymgyrchu gan nad oedd y Cynulliad yn Senedd go iawn. Gyda llwyddiant refferendwm 2011 a throsglwyddo pwerau deddfu i Gymru daeth y MSC i ben a bu i Alan olygu llyfr gan John Graham Jones yn adrodd hanes y mudiad.

Yn yr 1990au cynnar taniwyd dychymyg ymarferol Alan gan fudiad yr undebau credyd – banciau nid-er-elw sydd i’w gweld ymhob plwyf yn Iwerddon a gwledydd eraill, ond yn rhyfedd ddigon, ddim yng Nghymru. Gydag hynny, unwaith eto, sefydlodd ef a chriw bychan o wladgarwyr Undeb Credyd Plaid Cymru. Buont yn weithgar yn ei swyddfa yn Nhŷ Gwynfor y Blaid yn ei gwahanol leoliadau ac yna yn Nhŷ’r Cymry ar Gordon Rd, y Rhâth, yn dosrannu a chynilo cannoedd o filoedd o bunnoedd dros gyfnod o 30 mlynedd cyn i’r Undeb Credyd ddod i ben tua 2019.

Ysbrydolwyd Alan i sefydlu Cymdeithas Hanes Plaid Cymru wrth iddo weld cymaint o’r hen do yn ein gadael. Deallodd bwysigrwydd cadw cofnod o’r hyn oedd wedi ei chyflawni. Nododd bod gan y pleidiau eraill ei cymdeithasau eu hunain ac felly bod angen un ar y Blaid hefyd.

Byddai wrth ei fodd gwybod bod y Gymdeithas yn dal i fynd ac yn dal i gydnabod cyfraniad mawr a bach cenedlaetholwyr triw dros y Blaid. Y deyrnged fwyaf iddo fyddai gwybod bod pobl yn ei gofio yntai, fel Cymro cadarn, a ymladdodd dros ei wlad.

Siôn T. Jobbins

mab Alan Jobbins

Teyrngedau i Owen John Thomas 1939 – 2024

Teyrnged Hywel

Mae fy nhad wedi’i amgylchynu gan ei bobl ef heddiw.

Byddai wedi mwynhau eich cwmni, cymaint o wynebau cyfarwydd i hel atgofion am yr hen ddyddiau.

Roeddwn i’n edmygu fy nhad, er na ddwedais hynny wrtho erioed.

Roedd fy nhad yn ‘multitasker’, yn athro yn ystod y dydd, yn ymgyrchydd gyda’r nos, ac yn ‘bouncer’  yng Ngllwb Ifor Bach ar y penwythnos.

Y llwybr hawdd mewn bywyd yw un o gydymffurfiaeth – mynd gyda’r llif, derbyn eich sefyllfa, a pheidio â gofyn am fwy.

Mae siarad yn erbyn anghyfiawnder, sefyll dros achos, a meiddio dychmygu dyfodol gwahanol yn gofyn am aberth personol ac yn dod â chost. Mae’n codi gwrychyn – yn cythruddo’r drefn sefydledig.

Doedd fy nhad ddim yn un i fynd gyda’r llif. Mewn gwirionedd, treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn nofio yn erbyn y llanw, yn ymdrechu am fwy, llawer mwy, i Gymru a’i phobl. Fe gasglodd fyddin o wirfoddolwyr gwahanol i nofio gydag ef – Dai Payne, Dez Harries, Terry O’Neill, Rhys Lewis, i enwi ond ychydig, ac sydd yn anffodus, ddim gyda ni mwyach, ond yn allweddol wrth wneud y camau caled ar y daith hir tuag at ddyfodol gwell. Ac wrth gwrs, ei ffrind annwyl Alan Jobbins sydd gyda ni heddiw.

Dwi’n cofio troedio strydoedd Caerdydd gyda fy nhad pan oeddwn i’n blentyn, yn stopio i ollwng taflenni, posteri a phlacardiau. O oedran ifanc, roeddwn ni’n gwybod fod fy nhad yn hoff o siarad, ac roedd gollwng taflen yn gallu troi’n gyfarfod llawn mewn dim o dro. A dyna lle, yn eistedd y tu allan yn Renault 4 ail-law fy nhad oedd heb system wres gweithredol, nes i a’m brodyr a’n chwiorydd ddysgu’r grefft o amynedd. A dwi’n golygu amynedd go iawn.

Ym mis Mai 1979, penderfynodd fy nhad sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiadau San Steffan yng Ngogledd Caerdydd. Roedd ei swyddfa ymgyrchu ar ben City Road yn y Rhath, ffordd oedd yn filltir o hyd yn llawn siopau, têc-awês, tafarndai a beiciau modur o Japan.

Yn ystod yr ymgyrch, byddwn i’n ymweld â’r swyddfa’n aml gyda dad. Roedd y lle’n fwrlwm o weithgarwch – blychau’n pentyrru, taflenni’n cael eu dosbarthu, a polion pren yn cael eu cysylltu â lluniau o fy nhad ar gyfer gerddi blaen pobl. Pe bai canlyniadau’r etholiad yn seiliedig ar ymroddiad, angerdd ac egni, byddai fy nhad wedi gadael y gweddill ar ei ôl. Yn anffodus, daeth yn olaf parchus iawn gyda 1,081 o bleidleisiau, dim ond 16,100 o bleidleisiau’n brin o fuddugoliaeth.

Ar fore Llun, aeth fy nhad yn ôl i’w swydd fel athro yn Ysgol Gynradd Gladstone, a mi es i i ddal bws rhif 25 i’r ysgol yn Llandaf. Wrth i’r bws fynd heibio City Road, heibio’r hen swyddfa ymgyrchu oedd bellach ar gau, gwelais faner Gymreig enfawr yn y ffenestr gyda’r geiriau canlynol o dani. Geiriau sydd heb fy ngadael erioed:

I am wounded but not yet slain
I will rise up and fight again.

Roeddwn i ond yn 12 oed ar y pryd, ond sylweddolais bryd hynny fod fy nhad yn rhyfelwr go iawn.

A bu’n ffyddlon i’w air, cododd eto a brwydrodd eto, ac fe’i hetholwyd yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol newydd ei ffurfio yn 1999. Dyna’r ysbryd oedd yn diffinio fy nhad.

Doedd e ddim yn berffaith, dim o bell ffordd. Roedd yr amser a roddwyd i’r achos yn golygu llai o amser ar gyfer y pethau tadol arferol. Ond roedd hynny’n iawn. Roedd yn ddyn da ac yn dad cadarn a oedd yn caru ei blant a’i deulu’n fawr. Roedd ei gyfarfodydd Plaid Cymru yn y nhafarn New Ely yn y 70au yn fanteisiol i ni fel plant hefyd. Daethon ni o hyd i gannoedd o fatiau cwrw, wnaeth orchuddio waliau ein ystafelloedd gwely am flynyddoedd.

Roedd fy nhad yn gymeriad, tipyn o gymeriad. Roedd e bob amser yn gwisgo’n smart, fel ei dad. Ac fel ei dad, doedd dim diddordeb ganddo mewn pethau materol. Pan wnaeth y Renault 4 roi’r gorau iddi, cafodd e’i gyfnewid am un addas ail-law. Roedd ei Ford Cortina felen yn adnabyddus yn y gymdogaeth. Pan oedd angen newid y fenders rhydlyd uwchben y teiars blaen, fe ffeindiodd bâr o fenders aqua marine a wnaeth y tro. Roedd rhywbeth am y car hwnnw a dynnai sylw. Cymaint felly, fe gafodd ei ddwyn bump gwaith o flaen y tŷ. Efallai bod poblogrwydd Starsky & Hutch ar y pryd wedi chwarae rhan. Pwy a ŵyr.

Mae’n anodd crynhoi bywyd ar ychydig ddarnau o bapur.

Fel llawer o bobl sy’n ymroi i newid cymdeithasol, unwaith y cychwynnodd fy nhad ar y llwybr hwn, doedd dim troi’n ôl. Daeth yn hollysol, yn waith ei fywyd.

Mae angen pobl fel dad arnom, fel John Benson, fel Alan Bates, pobl sy’n sefyll dros yr hyn sy’n iawn ac yn dal ati, beth bynnag fo’r gost. Dyna’r unig ffordd i newid ystyrlon ddigwydd.

Wrth edrych yn ôl ar fywyd fy nhad, dwi’n meddwl y gallaf ddweud yn ddiogel ei fod wedi gwneud y mwyaf o bob munud, ac wedi gwneud i bob munud gyfrif dros Gymru.

Mi fydda i’n dy golli, dad. Nos da.


Teyrnged Rhys

Roedd Dad yn ddyn ei filltir sgwar. Roedd yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn “Cairdiff born and Cairdiff bred” ac roedd ei acen a’i frwdfrydedd dros y Brifddinas yn amlwg i bawb. Roedd ganddo lwyth o straeon am drigolion a lleoliadau ei ieuenctid. Bydd rhai ohonom yma yn gweld hi’n anodd anghofio’r drafodaeth hir rhwng Dad ac Anti Elizabeth un Dydd Nadolig am ba liw oedd drws ffrynt ar Albany Rd yn y 1940au. Roedd yn hynod falch o’i rieni ac roedd yn dwlu ar ei chwiorydd, fel yr oeddent hwythau’n dwlu ar eu brawd bach. Gyda Anti Elizabeth ac Anti Martha roedd e’n wastad yn sicr o gael chwerthiniad, waeth pa mor wael oedd ei jôc!

Roedd Dad wastad ychydig yn rebel. Ar y pryd, roedd yn anarferol iawn, os nad yn ddigyffelyb, i rywun di-Gymraeg gyda thafodiaith gref Caerdydd ymuno â Plaid Cymru. Roedd ganddo egni a brwdfrydedd anhygoel. Rhaid bod ei ysgogiad wedi bod yn sioc i rai aelodau Plaid yng Nghaerdydd ar y pryd, ond roedd ganddo weledigaeth clir bod Cymru well yn bosib. Eto, roedd yn gwybod bod hynny’n gofyn am lawer o waith caled. Doedd Dad byth yn disgwyl i unrhyw un wneud gwaith nad oedd ef ei hun yn ei wneud.

Pan ymunodd Dad â Plaid Cymru yn y 50au hwyr, hi oedd y blaid fwyaf rhifol yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, oherwydd ymdrechion Dad, syrthiodd yr aelodaeth yn fuan.

Ie, clywsoch chi’n iawn. Ar ôl derbyn rhestr o’r aelodaeth gan y chwedlonol Nans Jones, sylweddolodd fy nhad fod yn rhaid bod rhywbeth o’i le, gan fod y rhestr yn cynnwys ymgyrchwyr ac aelodau etholedig o bleidiau eraill. Unwaith yn aelod o Plaid, yna aelod o Plaid am byth. Ymwelodd ag un cyfeiriad lle ddarganfuwyd mai lletywr oedd yr aelod Plaid, ond roedd wedi symud i ffwrdd yn y 1930au canol, dros chwarter canrif ynghynt!

Gyda’r rhestr aelodaeth nawr yn fwy realistig, dechreuodd y gwaith caled o ymgyrchu. Y dyddiau hynny roedd yna elyniaeth go iawn tuag at y Gymraeg a Phlaid Cymru yng Nghaerdydd.

Mae yna lawer o straeon am Dad yn ymgyrchu. Mae rhai, fel ei gyfarfyddiad â bonheddwr Seisnig dig gyda monocl, ddim yn medru cael eu hadrodd o bulpud capel. Mae eraill, fel pan dorrodd boteli llaeth yn ddamweiniol, cyn cuddio ei rosét yn gyflym a dweud wrth y preswylydd ei fod yn galw ar ran y Blaid Lafur, yn llawer mwy diniwed.

Er y diffyg llwyddiant etholiadol am ddegawdau, roedd Dad o hyd yn bositif. Mi fyddai’n edrych am rywbeth calonogol yn yr etholiadau mwya’ diflas. Rwy’n cofio adeg etholiad 1997, roedd Dad wrth ei fodd bod Ieuan Wyn Jones wedi cynyddu ei fwyafrif yn wyneb y don o gefnogaeth i’r Blaid Lafur a bod Plaid Cymru wedi cadw ei ernes mewn dros hanner o’r etholaethau. Eisiau cynnig gobaith i bobl ifanc oedd ei ysbrydoliaeth i sefydlu Clwb Ifor Bach wedi siom refferendwm ’79 a welodd Margaret Thatcher yn cael ei hethol.

Roedd y Gymraeg wedi hen farw o’r teulu pan aeth ati i ddysgu’r iaith. Iddo fe, rhodd oedd y Gymraeg a bu’n dysgu hi i oedolion am ddegawdau. Pan oedd y niferoedd yn rhy brin i gynnal y dosbarth dysgu Cymraeg yn Ysgol Gladstone, byddai Dad a Penri Jones yn croesi’r ffordd i fynwent Cathays i ychwanegu enwau at y gofrestr!

Credai gydag angerdd bod y Gymraeg yn rhan anatod o fywyd Caerdydd. Y ffaith bod cynifer o enwau llefydd yn Gymraeg yn y brifddinas oedd ei ysbrydoliaeth i ymchwilio a darganfod hanes cyfoethog yr iaith yng Nghaerdydd. Roedd wrth ei fodd yn darganfod hen enwau Cymraeg, ac mae nifer fel Nant Lleucu a Heol Plwca bellach yn cael eu defnyddio’n swyddogol.

Mae’n anodd credu heddiw mai polisi Cyngor Morgannwg hyd ddiwedd y 60au oedd bod rhaid i o leiaf un rhiant siarad yr iaith cyn i blentyn allu derbyn addysg Gymraeg. Ac yntau dal heb feistroli’r iaith, brwydrodd Dad i sicrhau bod fy mrawd John yn gallu derbyn addysg Gymraeg. Arweiniodd y newid polisi yma at dwf aruthrol mewn addysg Gymraeg yn y de-ddwyrain. Heddiw, daw dros 70% o ddisgyblion addysg Gymraeg Caerdydd o gartrefi di-Gymraeg.

Bu’n brwydro am ddegawdau yn erbyn ei gyflogwr, sef y cyngor sir, i ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Doedd e ddim yn bwysig iddo bod hyn yn niweidio ei yrfa. I Dad, roedd Cymru llawer pwysicach nag unrhyw fudd personol. Bu’n allweddol yn sefydlu nifer o ysgolion, a’i arbenigedd yn hanes Caerdydd yn ei alluogi i gynnig enwau addas.

Roedd Dad wrth ei fodd yn cwrdd â chyn-ddisgyblion o Gwrt yr Ala a Gladstone. Byddai nifer yn dweud wrtho sut y newidiodd Dad eu bywydau a’u deffro i’w Cymreictod. Pan fu farw Dad, cysylltodd nifer o’i gyn-ddisgyblion a siarad amdano ar y cyfryngau cymdeithasol. Disgrifiodd llawer ef fel eu hoff athro, a dywedodd llawer eu bod bellach yn siarad Cymraeg oherwydd ef, bod eu plant yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mai Dad oedd yn eu dysgu i ganu’r Anthem Genedlaethol. Ni allwn fyth fesur cyfraniad athro da ac ysbrydoledig.

Er iddo ymddeol o’r Cynulliad yn ôl yn 2007, roedd yn anhygoel yn y dyddiau ar ôl ei farwolaeth gweld nifer o’i gyn-etholwyr y bu’n ei helpu yn cysylltu. Pobl fel Michael O’Brien, dioddefwr camweinyddu cyfiawnder difrifol, a John Benson a Phil Jones, ymgyrchwyr di-flino dros weithwyr Allied Steel & Wire a’u teuluoedd.

Y diwrnod y bu farw, ffoniodd Geraint Davies, Aelod Cynulliad cyntaf y Rhondda, fi. Dywedodd wrtha i am yr holl gefnogaeth a roddodd Dad i’w ymgyrch lwyddiannus yn y Rhondda yn 1999, er bod hynny wedi lleihau siawns Dad o gael ei ethol. Roedd hynny’n nodweddiadol o Dad. Roedd Plaid Cymru a Chymru wastad yn dod cyn unrhyw elw personol.

Roedd y blynyddoedd olaf yn anodd iddo, ond nes i byth clywed Dad yn cwyno am ei hun erioed. Hyd at y diwedd, roedd ei wên pan welon ni ef yr un fath, ac roedd staff gofalgar Shire Hall yn gweld heibio ei salwch ac yn dangos caredigrwydd anhygoel tuag at Dad ac aton ni fel teulu.

Mae Dad yn gadael 12 o wyrion. Er ei gyfraniadau lu, dyma yw ei brif gyfraniad i’w genedl hoff.

Diolch i bobl fel Dad, trwy ei eiriau a’i weithredoedd, y mae modd i ni ganu heddiw gyda hyder ychwanegol:

“O bydded i’r hen iaith barhau.”


Teyrnged Dafydd Iwan

Diolch am y cyfle yma i ddweud gair am ddyn arbennig iawn. Nes i gyfarfod Owen John gyntaf mewn ysgol Haf ieuenctid y Blaid yn Llangollen rhywle nol yn ganol y 60’au, pan oeddem ni gyd yn ifanc. Ac o’n i wedi synnu a rhyfeddi ar y dyn ifanc yma o Gaerdydd oedd mor frwd, mor danllyd o frwd dros y Blaid a dros Gymru- a doedd e ddim yn siarad Cymraeg! Doeddwn i ddim wedi cwrdd a’r fath anifail- oedden i’n byw yn Llanuwchlyn! A nes i synnu a rhyfeddi ar y gwr ifanc am sawl diwrnod o’r wythnos yna.

Dwi’n meddwl mod i wedi gweld Owen John yn dechrau cael gafael ar yr iaith Gymraeg, achos oedd gen i ffrind gyda fi o Lanuwchlyn, a gwallt coch gyda fe, ac roedd rhywun yn amlwg wedi dweud wrth Owen John mai’r gair oedd gennom ni am rywun gyda gwallt coch oedd ‘cochyn’. Ac felly, bob tro roedd fy ffrind yn dod i mewn i’r stafell, roedd Owen John yn gweiddi “cochyn!” dros bobman. Ac roedd yn amlwg yn mwynhau sŵn y gair, a bod e’n gallu dweud gair Cymraeg a bod pobl yn ymateb. Doedd fy ffrind ddim yn ‘blesd o gwbl! Yn anffodus, fe wnaeth rhywun arall ddysgu iddo yn ystod yr wythnos bod yna air Cymraeg arall yn odli gyda ‘cochyn’, ac roedd Owen John wedi gwirioni fwy fyth bod gyda fe ddau air Cymraeg, y ddau yn odli, a’r ddau yn fendigedig eu sŵn. Ac felly bod tro roedd fy ffrind yn dod i mewn, byddai’n dweud “cochyn mochyn!”, a doedd fy ffrind ddim yn ‘blesd o gwbwl!

 A dwi’n meddwl mai dyna ddechrau taith Owen John i’r iaith Gymraeg. Achos nes i gyfarfod e dros y blynyddoedd, dros hanner can mlynedd, mewn cynhadledd, pwyllgor, rali a phrotest, a chanfasio ac wrth gwrs, erbyn hynny, yr oedd Owen John wedi meistroli’r iaith, heb golli dim o’i danbeidrwydd, heb golli dim o’i frwdfrydedd. A bob tro y byddwch yn cyfarfod ag Owen John, roeddech chi yng nghanol rhyw ymgyrch, drwy’r amser. Doedd e methu peidio a rhyfeddi, at y fath ynni, y fath ysbryd, a’r fath frwdfrydedd parhaus. Oeddwn i digwydd bod, ar y ffordd yma, yn prynu tannau i’r gitâr, gan mod i wedi penderfynu dal ati am ryw flwyddyn bach eto. A phwy oedd yno, a doeddwn i erioed wedi cwrdd â hi o’r blaen, oedd y ferch rydyn ni newydd glywed yn canu. A dyma Stacey’n dweud sut oedd Owen John wedi newid cwrs ei bywyd hi a’i theulu, wedi bod yn gefn iddi drwy’r cyfnod aeth hi drwyddi wrth ddysgu’r Gymraeg, wedi bod yn gefn iddyn nhw wrth symud i ysgol feithrin Gymraeg, ag i ysgol gynradd Gymraeg, ac Owen John yno drwy’r adeg yn gefn i bob ymgyrch.

Ac yna, wrth gwrs, Clwb Ifor Bach. Roedd pobl yn synnu bod Owen John yn un o brif sefydlwyr Clwb Ifor Bach. Pan fydd rhywbeth fel ‘na’n digwydd, sy’n gadael ei ôl ar eich diwylliant chi, mae’n cyniwau am flynyddoedd. Ni oedd yng Nghaerdydd yn ystod y 60’au, roedd hi’n boen, bron, i gyfarfod ag Owen John achos roedd e’n berwi dros rhywbeth o hyd. Yn berwi dros sefydlu’r clwb Cymraeg yma. Ac roeddech chi’n gwybod bod e mynd i ddigwydd. Blynyddoedd o ferwi ac ymgyrchu a pwyso a chodi arian, ac yn y diwedd, agorwyd drysau Clwb Ifor Bach. Dwi ddim yn gwybod beth oedd Owen John yn meddwl o’r lle erbyn diwedd, ond mae wedi bod yn gyfraniad aruthrol o bwysig, a wedi dod a rai i mewn. A dyna, wrth gwrs yw ein breuddwyd ni gyd, ac wrth gwrs, breuddwyd Owen John. Gwneud y Gymraeg yn iaith byw, a dod a’r Gymraeg i galon Caerdydd.

Roedd e wrth ei fodd gyda Chaerdydd. Mewn cariad gyda Chaerdydd. Gafodd sawl un ohonom ni’r profiad o fynd o gwmpas rhai o strydoedd Caerdydd gydag Owen John, ac yntau’n dweud “fan hyn oedd… fan hyn gyhoeddwyd…” Roedd yn gwybod hanes Caerdydd, ac yn clymu hanes Caerdydd gyda hanes y Gymraeg a hanes Cymru. A ddweud y gwir, un o ddadleuon mawr Owen John oedd, rydyn ni’n falch o Gaerdydd fel prifddinas, oherwydd ei bod hi, yn y bôn, yn y cychwyn, yn ddinas Gymraeg. Ac mae gennom ni gyd yr atgofion yma am ŵr oedd yn berwi o gariad dros Gymru, dros y Gymraeg, dros ei hanes, ag un a newidiodd fywyd Caerdydd a Chymru i raddau mwy nag y gwneith y ran fwyaf ohonom ni.

Roedd hi’n fraint cael nabod Owen John, a melys y cof amdano. Diolch amdano.


Teyrnged Lona Roberts

“Nawr te. Chi sy’n mynd o ddrws i ddrws i ganfasio, wyneb yn wyneb â pherson sydd yn eich wynebu chi, cofiwch: mae trysor ydych chi’n cynnig iddyn nhw. Dyfodol gwell i Gymru- a nhw yn rhan o hwnna!” Dyna oedd Owen John. Yn Plasnewydd, lawr fan hyn. Yn llawn ysbryd, angerdd a direidi. Yn fachgen ifanc, roedd e wedi’i wefreiddio. Y sbarc yna, wedi cael gafael ynddo. A fyntiau wedi ei dderbyn yn ran annatod o’i fywyd e.

Gaf i drio disgrifio shwt oedd hi ym Mhlaid Cymru ar ddechrau’r 50’au y ganrif ddiwethaf. Merch ifancaf teulu Gwyn Daniel ydw i. Un arall, fy nghad, fel Owen John, a ddaliwyd gan ddelfryd o Gymru fel y gallai fod. Athro ysgol oedd fy nhad yn ystod y dydd, ond gyda’r nos y byddai e’n rhwydweithio i gael y main i’r wal. Er mwyn i’w gael e nol siathre ar awr rhesymol, roedd mam yn mynnu mynd a fi gydag ef. Yn ifanc, roedden i’n cael ei adael gydag ef yn swyddfa Plaid Cymru ar Queen Street. Cyfnod pan fyddai ceir a bwsiau, yn llifo’n ‘fishi’ nol a mlan ar hyd y stryd honno. Y mynediad ar ochr siop, a wedyn roedd rhaid dringo grisiau cul, serth i gyrraedd y llawr cyntaf. Grisiau serth arall wedyn i gyrraedd yr ail lawr, a grisiau wedyn i gyrraedd y trydydd llawr ar ben yr adeilad. Ac yno, yr oedd ystafell fawr â dwy swyddfa. Wrth y fordydd roedd gwragedd mewn oedran yn eu cotiau a’u hetiau bach, a dynion mewn tei a siwt, a finnau’n cael eistedd gyda nhw… i stwffio amlenni, a disgwyl fy nhad. Pobl garedig ag annwyl, halen y ddaear. Yn eu plith roedd brawd a chwaer Mrs Gruffydd John Williams, priod yr athro enwog, a’i brawd, Tad Megan, ac Emrys Roberts.

Nawr dwi ddim yn gwybod sawl un ohonoch chi sydd yma prynhawn yma a gafodd y profiad o wrando ar Owen John yn disgrifio ei ymweliad cyntaf ar y swyddfa honno. Cyrraedd yn llawn afiaeth, gyda dau neu dri o ffrindiau i gynnig ei hunan at ennill y Gymry newydd. Dringo un set o risiau, dringo yr ail set o risiau, wedyn y trydydd, ac agor y drws. O’n i’n sgrechain chwerthin wrth wrando arno yn disgrifio’r profiad o agor y drws. Ond siomodd Owen John ddim, daliodd e ati. Daeth e wedyn i gysylltiad â Thŷ’r Cymru yn Heol Gordon, ac unwaith eto, derbyn y profiad o fod yn ran o bobl oedd lot fawr yn hŷn nag ef, ond ei bryd ar wella dyfodol Cymru.

Oeddwn i’n byw a bod yno fel plentyn, ymysg yr hen gelfi o dai cymwynaswyr. Rwy’n cofio’n dda y croeso a rhoddwyd i soffa a gyrhaeddwyd o’i chartref trwy garedigrwydd Mrs Dewi Watkin Powell. Mae’r Beibl yn sôn am y proffwyd Elliseus yn cydio ym mantell Elias y proffwyd, wrth i hwnnw gael ei gymryd i’r nefoedd. Cydiodd Owen John ym mantell Iorwerth Morgan a fu’n gymwynaswr mawr i’r tîm, a bu Owen John yn weithgar a diwyd yno gan sicrhau dyfodol pellach i’r tŷ. Diolch Owen John, a diolch i chi hefyd, ei deulu.

Mae Rhys wedi gofyn i fi ddarllen un o ddamhegion yr Arglwydd Iesu. Dyma i chi Dameg yr Hedyn Mwstard. Mae ddameg yma yn yr efengyl yn ôl Mathew, Marc a Luc. Dyma fel ‘ma hi yn yr efengyl yn ôl Mathew:

“Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a’i hau yn faes. Dyma’r lleiaf o’r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw’r mwyaf o’r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei ganghennau.”

A dyna hi, heb eglurhad yn y byd. Yn enghraifft odidog o’r modd y dysgai Iesu, yn enghraifft wych o’i sicrwydd yn llwyddiant ei genhadaeth. Mae Owen John bellach yn rhydd o’r hen glefyd creulon yna a’i caethiwodd cyhyd, ac mae e nawr ymysg ein cwmwl tystion gogoneddus ni. Mae e yn llinach y rai a blannodd hadau a meithrin yr ardd ym mhob tywydd. Yn hyderus y byddai yna gymwd, a hwnnw o dan fendith yr holl alluog. Cafodd y fraint o weld ei waith yn ffrwytho, a llawenhau yn hynny.

“Gan fod cymaint torf o dystion o’n cwmpas”, meddai’r llythyr at yr Hebreaid, “gan fod gymaint torf o dystion o’n cwmpas, gadewch i ni redeg yr yrfa sydd o’n blaen heb ddiffygio gan gadw ein golwg ar yr Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd.”

A nawr dyma rhannau o’r gair sanctaidd i’n cysuro a’n calonogi:

Medd y salmydd, “Fy enaid, bendithia’r Arglwydd, a’r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd, ef sy’n maddau fy holl gamweddau, yn iachau fy holl afiechyd, yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd. Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder. Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf. Yr Arglwydd yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf.”

A’r Arglwydd Iesu sy’n dweud: “Dewch ataf i, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac mi roddaf i orffwystra i chwi. Addfwyn ydwyf, ac ostyngedig o galon. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd. Fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel mae’r byd yn rhoi, yr wyf i’n rhoi i chwi. Peidiwch a gadael i ddim gynhyrfu’ch calon , a pheidiwch ag ofni. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon. Yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd.”

Ac o waith yr apostol Paul: “Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Yr wyf yn gwbl sicr na all angau nag einioes, na presennol na dyfodol, na grymusterau, na dim arall a grëwyd ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu, ein Harglwydd. Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth. O angau, ble mae dy fuddugoliaeth? O angau, ble mae dy golyn? Ond i dduw bo’r diolch, yr hwn sy’n rhoi’r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.

Boed clod i’w enw,

Amen.


 

Cofio O.P. Huws 1943 – 2025

COFIO O.P. HUWS

Ar ran aelodau Cangen Dyffryn Nantlle.

Roedd O.P. yn ysbrydoliaeth i ni i gyd; yn arweinydd wrth reddf ac yn llawn hwyl a direidi. Gweithiodd yn ddiflino ar gynghorau ac yn y gymuned dros les pobl y Dyffryn, i hybu cyfleon gwaith ac i warchod y Gymraeg a’n hetifeddiaeth. Dyn y bobol oedd yn gwneud y ‘pethau bychain’ ond un a oedd yn gweld ymhell. Bu ardal Nebo a Dyffryn Nantlle yn ffodus o gael y fath arian byw o gymeriad yn ein plith.

Doedd O.P. byth yn llonydd. Roedd gormod i’w wneud. Un o’i ddywediadau mynych oedd, “Os wyt ti isio rwbeth wedi’i wneud, gofyn i ddyn prysur.” A roedd O.P. yn ddyn prysur.

Ei arwr mawr oedd Wmffra Roberts, – Cynghorydd Sir ac Asiant Dafydd Wigley yn Etholiad Cyffredinol 1974. Dyn carismataidd ac yn ysbrydoliaeth i lawer. Roedd gan O.P. ddigon o dân yn ei fol fel Cymro ond dangosodd Wmffra iddo sut i sianelu hynny i ennill pleidleisiau, ennill etholiadau ac ennill calonnau gwerin gwlad.

A dyn pobol oedd O.P. A dyn y bobol; yn gwneud efo pawb. A nid rhyw genedlaetholdeb ‘welwch-chi-fi’ oedd un O.P. – ond un ymarferol. Dyn oedd yn cychwyn wrth ei draed bob amser.

Mewnlifiad i Nebo? Un ateb oedd creu Cymdeithas Fro i geisio cymhathu’r newydd ddyfodiaid. A dechrau dosbarth dysgwyr.

Prisiau tai yn codi’n afresymol? Trefnu protest yn Nebo ac yna meddiannu tir tŷ cyfagos oedd ar werth am grocbris a chysgu mewn pabell ar y lawnt i dynnu sylw at yr argyfwng. A hynny’n codi gwrychyn cymdogion wrth gwrs.

Sylwi wrth ganfasio rhyw bentref bod y boblogaeth yn heneiddio a diffyg teuluoedd ifanc. Be wnaethen ni? Sefydlu Antur Nantlle a blynyddoedd o bwyllgora a threfnu. Ond bellach mae dros gant o bobl yn gweithio yn swyddfeydd a gweithdai’r Antur.

Ond nid hynny’n unig.Pan ddaeth ymgyrch dros sefydlu Sianel Deledu Gymraeg gwrthododd dalu’r ffi drwydded, – fo a’i gyfaill Bryn Mosely o Nebo, a’r ddau yn cael cyfnod yn Walton. Byddai’r straeon yn llifo am ei arhosiad byr yn y carchar a’r ‘cymeriadau’ ymhlith ei gyd letywyr. Ond roedd yna hefyd gydymdeimlad dwfn efo’r rhai hynny oedd wedi eu dal mewn cylch di-ddiwedd o fod mewn ac allan o garchar. “Pa obaith oedd gynnyn nhw?” oedd ei gwestiwn.

Ond nid dyn i anobeithio oedd O.P. Roedd gormod i’w wneud a syniadau i’w gwireddu! Galwais i’w weld yn Bryngwyn pan oedd y cancr wedi ei gaethiwo ac er ei boen llifodd y sgwrs. Wrth adael dyma fo’n dweud, “Diolch am alw. Diolch am y sgwrs. I ble’r aeth y blynyddoedd dwed?” Doedd gen i ddim ateb wrth gwrs. Ond dw i’n gwybod un peth, sef bod Owen Pennant Huws wedi gwneud defnydd llawn o’i flynyddoedd o yn ei Ddyffryn mabwysiedig ynghanol ei deulu a’i gymdogaeth. Bydd bwlch mawr ar ei ôl.

 

Alun Ffred

 

 

Teyrnged i’r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas 1946 – 2025

Teyrnged traddodwyd yn Angladd Yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 14 Mawrth 2025  gan Aled Eirug   

Rydym yma i ddathlu bywyd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Dafydd Elis-Thomas o Nant Conwy – a oedd yn fwy adnabyddus i’r mwyafrif ohonom ni yma, fel ‘Dafydd Êl’. Fe’i ganed ar y 18fed o Hydref 1946, a bu farw ar y 7fed o Chwefror 2025.

Mae e wedi ei gydnabod fel un o wleidyddion mwyaf dylanwadol Cymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf, yn ‘garreg sylfaen’ Senedd Cymru ac yn gawr gwleidyddol.

Fe’i ganed yng Nghaerfyrddin, a’i fagu yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy. Roedd ei dad, W. E. Thomas, yn weinidog amlwg gyda’r Presbyteriaid, a’i fam, Eirlys, yn arweinydd diwylliannol yn ei chymuned. Mewn cyngherddau capel ac ysgol, roedd Dafydd yn blentyn aeddfed cyn ei amser; fe’i hyfforddwyd i berfformio’n gyhoeddus, ac o’i ddyddiau cynnar, magodd y gallu i ddadlau’n gyhoeddus. Ei gof gwleidyddol cyntaf oedd yr ymgyrch o blaid Senedd i Gymru yn y 1950au, a bechgyn Llanrwst yn cael eu hanfon i’r Fyddin dan orfodaeth milwrol, adeg argyfwng Suez.

Yn 1958, daeth yn aelod o CND, ac yn 1962, ymunodd â Phlaid Cymru. Yn 1964, aeth i Brifysgol Bangor, lle, fel myfyriwr hynod o ddisglair, yr enillodd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg, a chlod fel dadleuwr cyhoeddus galluog, gwleidydd myfyrwyr a beirniad llenyddol craff.

Fel cadeirydd adran ieuenctid Plaid Cymru, gwrthwynebodd Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969, yn eirionig ddigon ag ystyried y cyfeillgarwch cynnes a ddatblygodd rhwng Dafydd a’r Tywysog Charles yn ddiweddarach. Yn Chwefror 1974, enillodd Dafydd sedd Meirionnydd a dod yn Aelod Seneddol ieuengaf Tŷ’r Cyffredin, yn 27ain mlwydd oed. Fel Aelod Seneddol egnïol ac ymgyrchydd gweithgar, cefnogodd argymhellion Llafur ar gyfer datganoli grym i Gymru, ond methu wnaeth yr ymdrech honno. Yn dilyn y siom, symudodd Plaid Cymru tuag at y chwith.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, dangosodd ddewrder wrth wrthwynebu rhyfel y Falklands/Malvinas, a pharodrwydd i fod yn amhoblogaidd wrth symud y gwrit ar gyfer isetholiad Fermanagh a De Tyrone ar ôl marwolaeth ei Haelod Seneddol, yr ymprydiwr o’r IRA, Bobby Sands.

Yn 1984, daeth yn Llywydd ar Blaid Cymru. Arweiniodd hi i gefnogi streic y glowyr, ac uniaethodd gydag achosion mawr y degawd – gwrth-Thatcheriaeth, y mudiad iaith, Comin Greenham, a’r ymgyrch gwrth-apartheid.

Trwy gydol ei fywyd, bu ganddo gysylltiad agos gyda chefn gwlad. Roedd e’n gerddwr a rhedwr bwdfrydig yn ei thirwedd , ac yn gefnogwr cynnar i’r mudiad amgylcheddol.

Ar ôl 18 mlynedd yn Nhŷ’r Cyffredin, yn 1992, cymerodd y cam dadleuol o dderbyn sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ac fe’i penodwyd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, lle sicrhaodd bod yr iaith yn cael ei gweld fel iaith i bawb, a’i bod uwchlaw gwleidyddiaeth plaid.

Ym Mai 1999, etholwyd Dafydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn ddiamau, uchafbwynt mwyaf ei yrfa oedd dod yn Llywydd cyntaf y Cynulliad. Gweithiodd gyda’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, i wreiddio’r sefydliad newydd ym mywyd Cymru, a sicrhaodd gartref eiconig i’r Cynulliad – adeilad y Senedd, a enillodd wobrau am ei chynllun, sydd yn cyfleu egwyddorion democratiaeth dryloyw.

Daeth refferendwm 2011 â breuddwyd y Dafydd ifanc o Senedd ddeddfwriaethol yn fyw. Ar ôl iddo sefyll i lawr fel Llywydd y flwyddyn honno, gadawodd Blaid Cymru – ar ddiwrnod ei benblwydd yn saith deg oed – i ddod yn Aelod annibynnol. Yn 2017, fe’i penodwyd yn Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru – swydd yr oedd yn ei charu ac a oedd yn gwbl addas iddo fe.

Roedd yn ddrygionus, yn heriol, yn ddifyr a phryfoclyd, ond roedd Dafydd hefyd yn ddyn dwys a difrifol – cynhaliodd ei ddiddordeb mewn semioteg iaith, athroniaeth a’r celfyddydau, ac mewn crefydd; symudodd yn raddol o Galfiniaeth asgetig yr eglwys Bresbyteriadd, trwy ryddfrydiaeth yr Annibynwyr, i’r Eglwys yng Nghymru, lle bu’n ganon lleyg yma yn y Gadeirlan hon.

Credai ei gyfeillion hyd yn oed y gallai Dafydd fod yn anghyson yn ei farn wleidyddol – byddai e’n dadlau yn hytrach mai addasu i realiti gwleidyddol y cyfnod a wnai. Roedd yn graff, yn fywiog, yn rhyfeddol o swynol, yn gwrtais ac yn ysbrydoledig. Mae ei feirniaid wedi ei gymharu i gameleon gwleidyddol, a’i farnu am fethu ffrwyno ei hyblygrwydd deallusol. Yn sicr, gallai fod yn gyndyn a thynnu’n groes, ac roedd ei allu i gyflwyno barn wleidyddol anghonfensiynol yn medru bod yn rhyfeddol. Ond roedd yn driw i’w gred sylfaenol fod yr hyn a wnai er lles Cymru.

Deallodd yr angen i Blaid Cymru ymestyn ei thiriogaeth wleidyddol, ac fel Llywydd, gwyddai am bwysigrwydd sicrhau cyfreithlondeb y Cynulliad newydd, a gydnabyddid gan aelodau’r teulu Brenhinol er enghraifft, a fynychodd bob agoriad o’r Senedd.

Bu ei gyfrifoldebau cyhoeddus yn niferus, ond talodd bris amdanynt. Aberthodd amser gyda’r teulu ar gyfer anghenion ei blaid, Seneddau a’r cyhoedd. Daeth ei fuddugoliaeth etholiadol gyntaf yn 1974 fel sioc seismig iddo ef ac Elen, ac fe’i cafodd hi’n anodd i gydbwyso’r galwadau lu ar ei amser. Dywedodd un o’i feibion, yn gofiadwy, mai dull Dafydd o ymdopi oedd ‘byth i edrych yn y drych ôl – y rear-view mirror – ond wastad i edrych ymlaen.

Nid yn y byd cyhoeddus a gwleidyddol yn unig, wrth gwrs, y gwelir ei golli. Mae’n golled enfawr i’w deulu – i Mair, ei wraig, ei feibion Rolant, Meilyr a Cai, eu mam a chyfaill Dafydd, Elen, a’i wyrion – Mali, Osian, Llew a Bleddyn, sydd wedi colli taid cariadus.

Yn dilyn marwolaeth Dafydd, derbyniodd Mair gannoedd o lythyrau o gydymdeimlad. Hoffwn ddarllen darn o un llythyr yn unig:

‘Roeddwn i yn ofnadwy o flin i glywed y newyddion trist iawn am eich gŵr, ac roeddwn am ysgrifennu er mwyn anfon fy nghydymdeimlad dyfnaf posib. Ym mhopeth, daeth eich gŵr ag annibyniaeth meddwl a haelioni ysbryd, heb sôn am ei ffraethineb, a oedd yn arbennig o drawiadol i mi. Bydd ein bywyd cyhoeddus gymaint tlotach heb ei bresenoldeb meddylgar ac ysgogol.

‘Ychydig iawn o bobl sydd wedi cyfrannu gymaint i fywydau eu cenedl, mewn cymaint o feysydd, am gyhyd. Rwy’n gobeithio y bydd o gysur i chi yn eich colled, i wybod am y parch enfawr at eich gŵr sydd gan gymaint o bobl o bob rhan o gymdeithas.’

Teyrnged emosiynol ddofn gan y Brenin Charles, y bu i’w gyfeillgawrch gyda Dafydd barhau dros gyfnod o hanner can mlynedd.

Yn fy achos i, Dafydd oedd fy nghyfaill agosaf, weithiau yn gynghorydd doeth, ‘weithiau yn heriol, bob amser yn ddifyr’. , a dyn braf i rannu gwydraid o win gydag e. Gwleidydd dewr a beiddgar, carwr diwylliant a ieithoedd Cymru, a gwladgarwr i’r carn. Mae Cymru, ei deulu, a phob un ohonom ni, yn dlotach o’i golli. Fodd bynnag, diolchwn am fywyd llawn wedi’i fyw yn dda, a dathlwn Dafydd El, un o benseiri ein cenedl.

 

 

 

Teyrngedau i Emrys Roberts 1931 – 2025

EMRYS ROBERTS  1931-2025

Cenedlaetholwr a radical digyfaddawd a ddaeth yn arweinydd cyntaf Cyngor dan reolaeth Plaid Cymru.

Dafydd Williams

Y tro cyntaf i mi gwrdd ag Emrys Roberts oedd mewn sesiwn o’r Gymdeithas Ddadlau ym Mhrifysgol Caeresg, ble roeddwn i’n fyfyriwr economeg yn y chwedegau cynnar.  Cawsom araith effeithiol, gyda chryn dipyn o sôn am faterion rhyngwladol a’r bom niwclear.  Gyda’i wallt du cyrliog, dyma rywun llawn carisma, un o areithwyr huotlaf Plaid Cymru.  Ond yr hyn y cofiaf orau yw ei hiwmor cynnil wrth ddelio gyda chwestiynau pryfoclyd.   Mynnodd rhywun mai’r unig reswm dros ddymuno ennill hunanlywodraeth i Gymru oedd cael yr hawl i fynd i ryfel.  Na, meddai Emrys, cynllun y Blaid oedd palu ar hyd Clawdd Offa a thynnu Cymru mas i ganol yr Iwerydd!

Cafodd Emrys Roberts ei eni yn 1931, a’i fagu yn Leamington Spa.  Gyda’i dad yn hanu o Flaenau Ffestiniog roedd Cymraeg yn y teulu, ond Saesneg oedd iaith yr aelwyd – dysgodd Gymraeg yn drwyadl ar ôl i’r teulu symud i Gaerdydd yn 1941.  Yn ddeng mlwydd oed, aeth i Ysgol Uwchradd Cathays gan ymuno â’r dosbarth Cymraeg, a chael Elvet Thomas yn athro Cymraeg.

Yn ystod ei arddegau fe drodd yn genedlaetholwr pybyr, ond wastad yn un a fynnai dorri’i gwys ei hun.  Dangosodd yn gynnar ei gyfuniad o radicaliaeth a digrifwch: er iddo benderfynu nad oedd yn credu mewn Duw, daliai i fynychu’r capel ac fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd yr Ysgol Sul – ar yr amod eu bod nhw’n deall ei fod yn anffyddiwr!  Treuliodd gyfnod yng ngharchar Caerdydd am ymwrthod ag ymuno â’r lluoedd arfog, a hynny ar sail cenedlaetholdeb.  Ar ôl ei ddiswyddo o’r gwasanaeth suful oherwydd ei safiad, aeth i’r Brifysgol yng Nghaerdydd a’i ethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn 1954/55.

Ymunodd â staff Plaid Cymru yn 1957, i ddechrau gyda’r dasg o drefnu’r ymgyrch i rwystro boddi Cwm Tryweryn.  Helpodd drefnu darlledu rhaglenni anghyfreithlon ar sianeli teledu’r BBC wrth i’w rhaglenni nhw gau i lawr am y noson, a safodd yn ymgeisydd San Steffan mewn nifer o etholaethau’r De.  Daeth yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid yn 1960: ychydig a wyddwn wrth wrando arno’n areithio yng Nghaeresg y byddwn innau’n dilyn yn ei gamau ymhen rhyw ddegawd.  Ond roedd ei gyfnod ef wrth y llyw yn y blynyddoedd cyn is-etholiad Caerfyrddin yn un anodd, gyda thyndra rhwng carfannau gwahanol yn y mudiad, gan orfodi Emrys i adael ei swydd yn 1964 yn dilyn ffrwgwd cyhoeddus.

Er hynny, gadawodd argraff fawr ar aelodau’r Blaid, yn enwedig yng nghymoedd De Cymru.  Ar ôl cyfnod yn trefnu eisteddfod ryngwladol yn ardal Teeside, dychwelodd ef a Margaret i Gymru, a maes o law daeth yn swyddog cysylltiadau cyhoeddus i Fwrdd Ysbytai Cymru.  Fyddai neb wedi synnu pe byddai wedi cadw ei ben dan y pared ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd.  Ond gŵr o argyhoeddiad dwfn oedd Emrys, a phan ddaeth gwahoddiad yn 1972 i sefyll yn ymgeisydd y Blaid yn is-etholiad Merthyr Tudful bu raid iddo gytuno.

Bu’r cyfnod yn dyngedfennol i Blaid Cymru.  Ar ôl y fuddugoliaeth felys yng Nghaerfyrddin, a’r canlyniadau agos yng Ngorllewin y Rhondda a Chaerffili, erbyn 1970 doedd gan y Blaid yr un sedd yn San Steffan.  Prysurodd Llafur i alw’r is-etholiad yn sydyn, ac rwy’n cofio i Neil Kinnock broffwydo y bydden nhw’n claddu’r Blaid.  Ond nid felly y bu: llifodd cenedlaetholwyr o bob cwr o Gymru i weithio yn y gwynt a’r glaw.  Ymddangosodd posteri ymhobman yn yr etholaeth a thorrwyd mwyafrif y Blaid Lafur i 3,710.

O hynny ymlaen, cryfhaodd sefyllfa’r Blaid yn y De yn gyffredinol.  Cipiodd Emrys sedd ar Gyngor Merthyr yn ardal Troedyrhiw, ac yn 1976 daeth buddugoliaeth syfrdanol yn y fwrdeistref – aeth Plaid Cymru â 21 o’r 33 sedd, gydag Emrys yn arweinydd y Cyngor, yr un cyntaf erioed dan reolaeth swyddogol Plaid Cymru.  Ceir darllen ei hunangofiant ar wefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, www.hanesplaidcymru.org (edrychwch am Chwilen neu Ddwy yn fy Mhen, yn yr adran Cyhoeddiadau).

 

*Ganed Emrys Pugh Roberts ar 30 Tachwedd 1931.  Bu farw ar 9 Ionawr 2025.

————————————

Hefyd ar wefan y BBC  > Emrys Roberts BBC Cymru Fyw 

 

————————————-

Datganiad yn y Senedd gan Rhys ab Owen AS 29/01/2025

Yr areithiwr gorau iddo glywed erioed. Dyna farn Vaughan Roderick am Emrys Roberts. Ganed yn Leamington Spa, ond yn 10 mlwydd oed symudodd i Gaerdydd. Trwy Gapel Minny Street, ysgol Cathays a’i fodryb Bet, dysgodd Emrys y Gymraeg. Yn Cathays, roedd e’n un o griw o fechgyn a ddaeth yn rhugl yn yr iaith, gan gynnwys Bobi Jones a Tedi Millward.

Yn wrthwynebydd cydwybodol, gwrthododd wneud gwasanaeth milwrol wedi’r ail ryfel byd, ac fe’i dedfrydwyd i garchar Caerdydd. Tra roedd e yno, fe grogwyd Mahmood Mattan. Gwelodd Emrys Roberts yr hiliaeth yn erbyn Mahmood, a gwelodd ei gyd-garcharorion Somali yn gorfod cloddio’r bedd, a quicklime yn cael ei roi yn y bedd.

Roedd meddylfryd rhyngwladol gan Emrys. Roedd yn flaenllaw yn yr Ymgyrch Diarfogi Niwclear, ac roedd ganddo barch enfawr tuag at Castro a Chiwba. Ei ddyhead mawr oedd gweld Cymru yn eistedd yn ochr yn ochr â Chiwba yn y Cenhedloedd Unedig.

Fe safodd dros y Blaid mewn sawl isetholiad amlwg, a fe oedd arweinydd cyngor Merthyr ar ddiwedd y 1970au. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y darllediadau anghyfreithlon a ddigwyddodd pan wnaeth y BBC wahardd darllediadau gwleidyddol gan y Blaid.

Er iddo ddal swyddi blaenllaw o fewn Plaid Cymru, mae’n deg i ddweud na welodd llygaid yn llygaid ag arweinyddiaeth y blaid ar bob achlysur. Roedd yn sosialydd wrth reddf, ac fe weithiodd yn galed i wthio’r blaid i’r cyfeiriad hynny. Roedd popeth a wnaeth Emrys wedi’i wreiddio yn yr hyn oedd orau i Gymru ac i bobloedd y byd. Roedd e’n ddyn caredig, ac fe brofais innau o’r caredigrwydd hynny ar hyd y blynyddoedd.

Mae’n fraint talu teyrnged i Emrys yn y Senedd. Roedd yn rhan o griw bychan a fynnodd bod Cymru yn genedl, a ffrwyth eu hymdrechion hwy yw’r Senedd yma. Diolch yn fawr.


Teyrnged o’r papur bro ‘CwmNi’

Emrys Roberts (1931 – 2015)

 thristwch derbyniwyd y newyddion ym mis Ionawr am farwolaeth un o gewri gwleidyddol ein gwlad. Bydd nifer o’n darllenwyr yn cofio’r cyfaill Emrys Roberts pan oedd yn byw yn nalgylch “Cwmni” ym Maesycwmer.

Bu’n  ymgyrchydd diflino dros genedlaetholdeb Cymru drwy sefyll etholiadau niferus ac wrth ei waith fel golygydd un o’n papurau lleol. Yn Lloegr cafodd ei eni ond dysgodd siarad Cymraeg wedi i’r teulu symud i Gaerdydd ac i Emrys ddysgu Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Cathays. Parhau gwnaeth e yn y ddinas drwy ddilyn cwrs gradd yn y Brifysgol yno. Yn y brifysgol bu’n llywydd Undeb y Myfyrwyr rhwng 1954 ac 1955. Hefyd bu’n mynychu capel Annibynnol Minny Street y ddinas a  bu’n wrthwynebydd cydwybodol rhag consgripsiwn.  

 Cawsom erthygl ddiddorol gan Philip Lloyd yn rhifyn mis Chwefror am ymgyrch wych Emrys ym Merthyr Tudful yn 1972. Cawsom ein hatgoffa am yr hyn ddigwyddodd wedi marwolaeth yr enwog S.O.Davies a fu’n Aelod Seneddol y fwrdeistref rhwng 1934 a 1970. Yn ei erthygl am “S.O.” roedd Philip Lloyd yn ein hatgoffa o’r ffordd anffodus y cafodd S.O wybod nad oedd wedi’i enwebu i sefyll yn enw’r Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol 1970. Ond doedd S.O. ddim yn ddyn i dderbyn y fath sarhad a phenderfynodd sefyll yn yr Etholiad hwnnw fel ymgeisydd Llafur Annibynnol. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1972 dewisodd Llafur Ted Rowlands i sefyll yn enw’r blaid honno. Ac Emrys Roberts gododd i’r her o wrthwynebu’r ymgeisydd newydd hwn. Cafwyd ymgyrchu tanbaid ac wedi i Ted Rowlands wrthod her i gymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus  gydag Emrys, bedyddiodd nifer o gefnogwyr y Blaid Ted Rowlands yn ‘Yellow Teddy’ gan chwifio tedi bêrs bach melyn o’i flaen. Ond yn y diwedd traddodiad Llafuraidd etholwyr Merthyr a orfu. Cafodd y Blaid ganlyniad calonogol yn 1972  ond colli tir wnaethon nhw pan safodd Emrys yn erbyn Ted Rowlands yn Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974.

Is Etholiad 13eg o Ebrill 1972
Ted Rowlands 15,562 48.5%
Emrys Roberts 11,852 37.09%

Etholiad 28ain Chwefror 1974
Ted Rowlands 20,486  64.1%
Emrys Roberts  7,336  22.9%          

Etholiad 10fed o Hydref1974
Ted Rowlands 22,386  71.3%
Eurfyl ap Gwilym2,962  9.4%

Ond doedd dylanwad Emrys ddim wedi dod i ben gyda chanlyniadau’r etholiadau seneddol oherwydd enillodd sedd ar Gyngor Bwrdeistref Merthyr gan ei dal rhwng 1975 ac 1981. Ac ef fu’n arwain grŵp Plaid Cymru pan enillon nhw reolaeth fel y blaid fwyaf yn y fwrdeistref rhwng 1976 ac 1979.

Enillodd Blaid Cymru fuddugoliaeth yma yn ardal “Cwmni” drwy ennill rheolaeth dros Gyngor Dosbarth Cwm Rhymni yn ystod yr un cyfnod. Dyma  oedd y tro cyntaf i’r Blaid Genedlaethol ennill rheolaeth ar gynghorau pwysig. Bydd Pleidwyr Cwm Rhymni hefyd yn cofio i Emrys fod yn olygydd y Caerphilly Advertiser ddechrau’r saith degau.

Fe gofiwn hefyd mai yn ystod Etholiadau Cyffredinol 1974 yr enillodd Dafydd Wigley, Caernarfon a Dafydd Elis Thomas, Meirionydd eu seddi yn y ddwy etholiad. A bu Dafydd ac Elinor Wigley yn byw ym Merthyr yr adeg yma ac yn gyfranwyr sylweddol i lwyddiant y Blaid yma yn y De.

                                                                               Ben Jones

 

Brian Arnold (1941-2023)

Mae gwefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n cyhoeddi teyrnged i’r diweddar gyn-gynghorydd Brian Arnold, Ynysybwl, aelod ffyddlon o’r Blaid a chynghorydd gweithgar ac ymroddedig i’w gymuned.

Ymunodd Brian â’r Blaid yn 1957 pan oedd 16 mlwydd oed ac fe’i etholwyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Gymuned  Ynysybwl yn 1986, gan wasanaethu ar y cyngor hwnnw am gyfnod o 26 o flynyddoedd.

Nes ymlaen fe ddaeth yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Cwm Cyngor a Chyngor Sir Rhondda Cynon Taf ac fe gadwodd ei sedd ar y cyngor am gyfnod o dair blynedd ar ddeg ac ennill parch gan bobl o bob plaid wleidyddol.

Awdur y deyrnged yw cyd-aelod o’r Blaid yng Nghwm Cynon, yr hanesydd D. Leslie Davies ac fe gewch ei darllen yma.

Charlotte Aull Davies, 1942-2023

Americanes ddawnus a ddaeth yn Gymraes frwd

Dafydd Williams

Rywbryd yng nghanol y saithdegau, cerddodd Americanes ifanc i mewn i brif swyddfa Plaid Cymru yng Nghaerdydd.  Yr oedd Charlotte Aull  a’i bryd ar ddarganfod popeth am Gymru a’i mudiad cenedlaethol. Bu disgwyl iddi ddychwelyd dros yr Iwerydd ar ôl cwblhau’i PhD, ond – yn ffodus i Gymru – fel arall y bu.

Cafodd Charlotte ei geni yn Lexington, Kentucky, un o dri o blant.  Enillodd radd mewn mathemateg ac yna MSc ym Mhrifysgol Mississippi cyn troi at anthropoleg gymdeithasol, hynny yw astudio cymunedau a’u diwylliant.  Ac ar gyfer ei PhD yng Ngogledd Carolina, Cymru oedd y wlad y dewisodd i’w hastudio.

Ynghyd â phersonoliaeth hyfryd, roedd gan Charlotte benderfyniad tawel.  Oriau ar ôl glanio yng ngwledydd Prydain, bu yn Nhŷ’r Cyffredin yn cyfweld â Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.  Nes ymlaen mewn siop lyfrau sylwodd ar ŵr bonheddig yn craffu ar res o lyfrau Cymreig – neb llai na’r bardd Harri Webb, ac fe gafodd yntau  ei gyfweld yn y fan a’r lle!

Diau mai Gwynfor a awgrymodd ymweliad â mi yn swyddfa’r Blaid i ddarganfod mwy a chael rhestr o bobl eraill i’w holi.  Ond go brin y gwelodd neb y canlyniad hapus – y byddai Charlotte yn priodi fy ffrind Hywel Davies, newyddiadurwr, cenedlaetholwr ac awdur llyfr safonol ar hanes ugain mlynedd gyntaf Plaid Cymru.  Daeth Charlotte yn rhugl yn y Gymraeg wrth gyflawni gwaith maes ar gyfer ei PhD ym Mangor a Chaerdydd.

Mudodd y pâr i’r Unol Daleithiau yn 1985 pan gafodd Charlotte gynnig swydd darlithydd ym Mhrifysgol De Carolina.  Erbyn hyn, roedd gyda nhw ferch ddyflwydd oed – Elen Gwenllian, a fabwysiadwyd yn 1983.  Yn ôl i Gymru daeth y teulu bach yn 1988, gan fyw mewn nifer o fannau yn y Gogledd a’r De cyn setlo yn Nhreforys – Hywel yn dilyn ei yrfa yn y byd teledu a Charlotte ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd nifer yn gyfarwydd â’i chlasur Welsh Nationalism in the Twentieth Century (1989).  Er i’r llyfr ymddangos ar adeg ddigon tywyll i obeithion Cymru, torrodd dir newydd drwy olrhain y perthynas rhwng cenedlaetholdeb a ffactorau strwythurol, megis datblygiad y wladwriaeth Gymreig. 

Yn 1992, penodwyd Charlotte yn ddarlithydd, ac yn 2000 yn uwch-ddarlithydd mewn cymdeithaseg ac anthropoleg.  Bu’n awdur toreithiog, a’i llyfr Reflexive Ethnography (1998) yn dal yn destun allweddol i’r sawl sy’n astudio pobloedd a’u diwylliannau.  Mae ei chydweithwyr yn cofio’i charedigrwydd, ei hysbryd cydweithredol a’i hymroddiad llwyr i gyfiawnder cymdeithasol.  Roedd yn awdurdod yn ei phwnc, ac yn hynod agos atoch chi ac yn boblogaidd ymhlith ei myfyrwyr.

Ysgrifennai nifer helaeth o bapurau academaidd, yn ogystal â chyfrannu at Barn a’r cylchgrawn Planet.  Rhwng 2007 a 2012 bu Hywel a hithau’n cynhyrchu’r Papur Gwyrdd, cylchgrawn amgylcheddol a gyflwynai’r frwydr fawr dros y blaned yn yr iaith Gymraeg.  Ail-lansiwyd y Papur Gwyrdd yn wefan yn 2021.  Roedd hi hefyd yn aelod gweithgar o Blaid Cymru, gan wasanaethu yn Ysgrifennydd ac yn Drysorydd i Gangen Dwyrain Abertawe.  Safodd yn ymgeisydd dros y Blaid ar gyfer sedd ar Gyngor Abertawe yn ward Treforys.

Arhosodd Charlotte yn Americanes frwd, gan gadw ei dinasyddiaeth Americanaidd, ymweld â’i theulu’n aml  a dathlu Dydd Annibyniaeth a’r Diolchgarwch mewn steil.  Cadwai olwg barcud ar wleidyddiaeth ei mamwlad – mae’n deg nodi nad oedd yn deyrngar i Donald Trump!  Yn ogystal â dwli ar jazz, roedd gyda hi ddiddordeb oes mewn ceffylau a marchogaeth, cariad a gyflwynodd i Hywel ac Elen – i’r fath raddau bod Hekkla,merlyn Ynys yr Iâ oedd yn rhodd i Elen, wedi croesi’r Iwerydd i fyw yng Nghymru!

Bu Charlotte yn frwd ei chefnogaeth i achos Cymru a’r iaith Gymraeg, i gyfiawnder cymdeithasol a heddwch.  Bu’n llywodraethwr Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-Lan, Treforys.  Bu’n hoff o gerdded mynyddoedd, beicio a garddio, fel y nododd cyfaill a chymydog, y Prifardd Robat Powell:

Ein Charlotte ddoeth, Charlotte dda – a gofiwn

drwy nos gyfyng gaeaf’,

ac o’r ardd daw atgo’r ha’

i ddyn, a bydd hi yna!

Estynnwn ein cydymdeimad i Hywel ac Elen, a’i gŵr hithau Adam. 

Ganed Charlotte Aull Davies ar 8 Hydref, 1942.  Bu farw ar 18 Chwefror, 2023.

Mae’r deyrnged hon yn fersiwn estynedig o’r erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mis Mehefin 2023 o’r cylchgrawn Barn.  Diolchwn i’r golygydd Menna Baines am ei chydweithrediad caredig.

Wil Roberts 1943 – 2022

Wil Roberts, neu Wil Coed fel yr oedd pawb yn ei nabod, yn gymeriad amlwg ym Mhlaid Cymru a fu farw yn ystod Mis Hydref 2022.  Bu’n weithgar ymhob ymgyrch y Blaid o’r chwe-degau ymlaen ac yn ysgrifennydd effeithiol Cangen Pwllheli.  Cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Wigley a draddododd deyrnged yn ei angladd ac fe’i cyhoeddir yma’n llawn.

Er cof am Wil Coed….Teyrnged.

Bore da! I shall be speaking mainly in Welsh; but on behalf of Siw and the family,  I want to thank everyone for their words of sympathy and to those of you from near and far, who are here today. I have made available an English translation of my script, which I hope will enable you to follow my address.

Gyfeillion annwyl –  Fe roddwn y byd am beidio â bod yma heddiw; ond does dim yn y byd a fyddai wedi’m hatal  rhag ymateb i gais Siw a’r teulu, i mi dalu gair o deyrnged  i un fu’n gyfaill arbennig i ni i gyd, mewn amrywiol ffyrdd ar wahanol adegau o’n bywydau. Un annwyl iawn sydd bellach a’i rawd wedi ei rhedeg; a chyfraniad oes – i’w deulu, i’w fro ac i’w genedl, ysywaeth, wedi dod i ben.

Borema, mae’n cydymdeimlad o waelod calon yn estyn allan i Siw, i Dewi ac Ifan; ac i Quintin sydd hefyd yn rhan o’r teulu;  ac i’r wyrion Jordan, Mia a Cai – yr oedd  Wil yn Daid hoffus iddynt; ac i’r teulu oll. A gwn y bydd pob un ohonom eisiau diolch i Siw am y gofal cariadus a roddodd i Wil dros y blynyddoedd; ac yn arbennig, yn ystod y cyfnod olaf heriol y bu raid iddynt ei wynebu fel teulu.

Mae Siw efo’r sicrwydd a gaiff o’i ffydd, wedi ei seilio yn achos yr Eglwys hon; a bydd hynny’n angor iddi yn y stormydd y mae’n byw drwyddynt. Siw, wrth gwrs, wedi ei magu yn y traddodiad Pabyddol yng Nghaerdydd ac wedi dod dan ddylanwad yr enwog Dad Gregory FitzGerald; ac mae ei ffydd, a’r Eglwys Babyddol, wedi bod yn nerth iddi drwy’r blynyddoedd. 

A diolch i’r Esgob Emeritws  Edwin Regan, am ei arweiniad heddiw, a hefyd drwy’r cyfnod anodd diweddar; ac i bawb sy’n gysylltiedig â’r achos  yma am eich cynhaliaeth o Siw a’r teulu; am eich caredigrwydd tuag atynt; a’ch help ymarferol mewn cyfyngder. A diolch, hefyd, i’r Archddiacon Andrew Jones am y cymorth eithriadol  a roddodd yntau, hefyd, i’r teulu.

Mae Siw wedi gofyn i mi dynnu sylw at y ffaith y bydd croeso i bawb ddod wedyn am luniaeth i Glwb Golff,  Pwllheli. Bydd y claddu ym mynwent Deneio wedi’r gwasanaeth; ond i’r rhai nad ydynt am ddod i’r fynwent, mae croeso iddynt fynd ar unwaith i’r Clwb Golff. 

Ganwyd William Owen Roberts ar 23 Rhagfyr, 1943; yn fab i J.O a Catherine Roberts, Cefn Coed, Chwilog – ac felly, fel Wil Cefn Coed yr oedd pawb yn ei nabod, neu Wil Coed, yn ddiweddarach. Roedd ei dad, J.O Roberts,  yn rheolwr y Ffatri Laeth yn Rhydygwystl; ac yn gynghorydd  Sir Gaernarfon.

Mae llawer o’n to ni ddim yn sylweddoli fod Wil yn efaill, ond, yn drychinebus o drist,   bu farw ei chwaer ar ei genedigaeth; a dan yr amgylchiadau, roedd yn wyrth i Wil oroesi. A  dioddefodd y teulu  drychineb arall pan fu i frawd iau Wil – sef Richard – gael ei ladd yn un ar bymtheg oed, mewn damwain motor-beic.

Ond dwi o dan orchymyn gan Siw i beidio â bod yn rhu lleddf yn fy sylwadau heddiw, ond yn hytrach i ni gofio Wil fel cyfaill llawen a llon, fel yr oedd i ni oll. Gwnaf fy ngorau i barchu hynny.

Ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, aeth Wil, yn y lle cyntaf, i astudio Milfeddygaeth yn  Lerpwl; ond tra roedd ei waith ar bapur yn wych, roedd yn cael anhawster gyda’r Saesneg ar lafar – rhywbeth digon cyffredin pryd hynny i blant o gefn gwlad Cymru.

Felly aeth adra i weithio yn y Ffatri Laeth am flwyddyn, cyn  cael ei dderbyn i Brifysgol Cymru, Bangor, ble roedd yn yr un flwyddyn â Dafydd Elis Thomas – da gweld Dafydd yma heddiw. Enillodd Wil radd dda iawn mewn amaethyddiaeth.

Tua pryd hynny cyfarfûm innau am y tro cyntaf âWil. Roeddwn yn gweithio dros wyliau’r haf i’r Blaid yn Arfon. Trefnais i gyfarfod â chriw ifanc ym Mhwllheli gan roddi iddynt doman o Welsh Nations – papur Saesneg y Blaid, i’w dosbarthu o ddrws i ddrws.

Synhwyrais fod gennyf  broblem: roedd Wil ac Osborn Jones (cyfaill ysgol i Wil, a da ei weld yntau, a Glesni yma heddiw hefyd) – roedd y ddau  yn sgyrnygu arnaf. Medda un ohonynt “Mae ‘na hen ddigon o bapurau Saesneg yn cael eu darllen ym Mhwllheli”; gan fygwth fy ngadael efo mynydd o bapurau gwrthodedig. Fe gafwyd cyfaddawd o ryw fath – a da deud bu Osborn, Wil a minnau yn gyfeillion gydol oes!

Ar ôl graddio ym Mangor,  enillodd Wil ysgoloriaeth i astudio am radd uwch mewn Economeg Amaethyddol yn Aberystwyth. Yn ddigon naturiol, aeth Wil ymlaen wedyn i weithio gydag Adran Amaeth Cymru yng Nghaerdydd; ac roedd wrth ei fodd yn teithio o amgylch ffermydd Bro Morgannwg – a synnu wrth ganfod faint o’r ffermwyr oedd, pryd hynny, yn Gymry Cymraeg; a hwythau mor falch o gael delio a gwas sifil Cymraeg ei iaith.

Aeth Wil ymlaen wedyn i weithio efo Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan, gyda’r cyfrifoldeb o deithio o amgylch Cymru, yn recordio sgyrsiau efo ffermwyr; ac mae ei waith, hyd heddiw,  yn un o drysorau’ r Amgueddfa Werin.

Roedd Wil yn Bleidiwr i’r carn, a dim ofn datgan hynny. Er gwaethaf ei atal deud, roedd yn fodlon curo ar ddrysau ledled Cymru; a ble bynnag yr oedd na rali, neu brotest, neu isetholiad, byddai Wil yno. 

Erbyn 1970, roedd Wil wedi cyfarfod Siw; a ble gredech chi oedd y fangre cariadus ble bu iddynt gyfarfod? Mewn cyfarfod o Bwyllgor Rhanbarth Plaid Cymru, yng Nghaerdydd! A Siw, bryd hynny, yn un ar bymtheg oed; a Wil deng mlynedd yn hŷn na hi.

Roedd Siw, er yn ei harddegau, wedi hen arfer canfasio – a gwerthu’r Welsh Nation o ddrws i ddrws yng Nghaerdydd.  Cystal nad oedd Wil wedi wfftio ar werthu papur Saesneg yng Nghaerdydd fel yr oedd ym Mhwllheli!

Bu i Wil a Siw  ddechrau canlyn y flwyddyn wedyn, ym 1971 – y flwyddyn y bu i Elinor a minnau symud i fyw ym Merthyr; a dyna ble cefais gyfarfod Siw am y tro cyntaf – hi a Wil yn canfasio mewn isetholiad enwog; ac yn aros  yn ein cartref, ble – yn gwbl ddi-steil, roedd hanner Cymru yn campio mewn cydau cysgu, ar lawr y tŷ!

Roedd Wil efo rhinwedd arbennig iawn – roedd yn gallu cysgu yn rhywle, dan unrhyw amgylchiadau – cymaint felly iddo, ar un achlysur, ddisgyn I gysgu tra roedd yn teithio ar gefn ei feic ar y Lôn Goed – a chael coblyn o godwm!

Roedd Wil yn un yr oedd damweiniau yn hoff o’i ganfod! Un tro, bu iddo falu ei droed yn yfflon gan beiriant torri gwair.

Damwain arall a gafodd Wil oedd, tra’n blentyn ysgol, yn chwarae yn y cae ac yn gosod ei got ar lawr; ni sylwodd fod moch yn y cae nesa; daeth un mochyn busneslyd,  i synhwyro beth oedd y dilledyn ar lawr – a bwyta’r got yn y man a‘r lle. Cafodd Wil andros o row gan ei fam!

Ar adeg arall, tra yn Aberystwyth, cafodd ddamwain car ddifrifol  tra’n teithio efo’i gyfaill mawr, Geraint Eckley pan – wrth fynd dros fryncyn, tarodd rew du ar y ffordd, a thorrwyd cefn Wil mewn tri lle. Ystyr arall i’w enw Wil Cefn Coed. Mae Geraint yn ymddiheuro gan, am resymau iechyd teulu, mae’n methu a bod efo ni.

Soniodd Geraint wrthyf sut y byddai Wil yn cael ryw syniad da i’w ben ar amrant; yna ffwrdd â fo. Un bore ym 1969,  cyhoeddodd Wil i’w gyd-letywyr yn Aberystwyth, ei fod am fynd i weld yr enwog D J Williams yn Abergwaun y diwrnod hwnnw. Aeth Geraint efo fo; a landio ar DJ yn gwbl ddirybudd; cael croeso mawr; a dod yn gyfeillion mynwesol. Bu Wil wedyn i Abergwaun hanner dwsin o weithiau, i sgwrsio â DJ a holi am ei hanes.

Ond rhaid dod ‘nôl at hanes Wil. Bu i Wil a Siw briodi yn 1973  yn Eglwys Pedr Sant, Caerdydd – ac roedd ‘na hanes i hynny hefyd! 

Roedd Wil eisoes wedi cyflwyno Siw i’r offeren Gymraeg a gynhaliwyd yn y Bontfaen; a gwasanaeth Cymraeg oedd y gwasanaeth priodas, efo’r enwog Esgob Mullins yn eu priodi. ‘Roedd ‘na  ddau swyddog yn gyfrifol am drefnu’r gwasanaeth – a hwythau heb drafod yn iawn pwy oedd  i forol fod y cofrestrydd yn bresennol; a chanfod yn ystod y gwasanaeth, nad oedd gofrestrydd yno! Panic glan!  Dyma anfon rhywun i chwilota o gwmpas Caerdydd am gofrestrydd.

Y delynores druan, Eleri Owen, hen ffrind i Elinor a minnau – yn gorfod canu’r delyn am dros hanner awr, tan ymddangosodd ddirprwy gofrestrydd i  gwblhau’r hanfodion cyfreithiol. Ar ddiwedd dwy awr hir iawn, roedd Wil a Siw  yn ŵr a gwraig!

Yn syth ar ôl y briodas, roedd Wil yn cychwyn ar swydd newydd, sef fel is-Ysgrifennydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymru, oedd â’i Swyddfa yng Nghaernarfon.

Bu raid torri’r mis mel yn fyr, gan fod bos newydd Wil  wedi ei gymryd yn wael.  Glaniodd Wil i swydd newydd, a thŷ newydd,  mewn cynefin newydd yn ogystal â phriodi!

Roedd eu cartref newydd mewn stad fechan yn Llandwrog; eu cymdogion  yn cynnwys  Huw Jones, Sain, a Siân;  Menna a Cheredig Davies, Cyngor Gwynedd; efo Osborn a Glesni ynghyd â Gerallt Lloyd Owen ac Alwena rownd y gornel; Richard Morris Jones a Manon Rhys i fyny’r ffordd; a John a Gwenno Hywyn fawr bellach. Sôn am bentref oedd yn nodweddu’r Gymru Newydd ifanc, obeithiol,  oedd ohoni yn y saithdegau.

Roedd yn newid byd sylweddol I Siw; ond roedd Wil yn ei gynefin; ac yn ei elfen. Yn ôl Osborn,  Wil oedd y cymeriad yn Llandwrog oedd cadw pawb at ei  gilydd. Roedd Wil efo dawn anghyffredin o allu gwneud efo pawb; un o’r bobl mwyaf hoffus a ganfûm erioed.

 Ac roedd Wil yn rhywun y gallwn innau, fel Aelod Seneddol, droi ato, am arweiniad; a gallwn bob amser ymddiried yn ei farn.

Tybia Siw y byddai Wil, o gael ei amser eto, wedi studio hanes a’r Gymraeg.  Deleit Wil oedd sgwennu i’r papur newydd. Bu ganddo golofn ar amaethyddiaeth yn y Cymro; a bu’n sgrifennu i bapurau’r Herald, dan y ffug enw Thomas Parry (rhai yn meddwl mai Prifathro Aberystwyth oedd y gohebydd, cystal ei arddull). A bu’n weithgar gyda’r criw bach oedd yn cynhyrchu’r Ddraig Goch a’r Welsh Nation.

Roedd hyn yn waith trwm a chyfrifol; ond roedd gan Wil hiwmor iach a welwyd wrth iddo ysgrifennu llythyrau gogleisiol a dadleuol i’r Herald, dan yr enw “Twtws Parri, Llandwrog”- gan fynegi safbwyntiau a fyddai’n gwylltio ambell drigolyn parchus yn y pentref. Ac roedd pawb yn methu â dyfalu pwy oedd y Twtws Parri ‘ma. Dim ond ychydig o gyfeillion agos oedd yn sylweddoli mai Twtws oedd enw cath Wil a Siw!                                         

Roedd Wil yn dynnwr lluniau o fri ac am gyfnod bu’n  ffotograffydd swyddogol dros y Western Mail mewn gemau rygbi rhyngwladol.

Bu Wil a Siw yn byw yn Llandwrog am bum mlynedd a phryd hynny cafodd Wil  ei benodi’n  brisiwr tir  ac eiddo i Gyngor Gwynedd. Ac yna, symud nôl i fyw yng Nghefn Coed am ddeng mlynedd;  ac oddiyno symud i’r Ala, ble buont fel teulu am drideg-chwe blynedd, hyd heddiw.

Roedd Wil yn un darbodus efo arian. Un tro daeth Siw ac yntau i lawr i Lundain i gael cinio gyda mi yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ar ôl cyrraedd  cyrion Llundain, bu iddynt sylweddoli fod Wil wedi gadael ei siwt adra! Gan dybio y byddai’n rhaid iddo wisgo siwt yn ystafell bwyta grand yr Arglwyddi, aeth i sawl siop – a dychryn o weld y prisiau. Cafodd o hyd i siop elusen, ble dalodd bumpunt am siaced; a doeddwn innau ddim callach!

Fe gofiaf fel ddoe y diwrnod y dywedodd Wil wrthyf, ugain mlynedd yn ôl, a hynny yn stesion Crewe – ei fod newydd glywed fod cancr y brostad arno. Roedd wedi cael sgytiad; ond roedd yn derbyn y neges efo agwedd gwbl bositif, na fyddai’n gadael i’r cyflwr yn diffinio gweddill ei fywyd, o ba bynnag hyd y byddai hynny.  Ond bu iddo ymddeol o’i waith gyda Chyngor Gwynedd i roddi cyfle llawn i’w gorff ymwared â’r cancr; ac ar ôl pum mlynedd, cafodd y neges  bositif fod y cyflwr wedi diflannu.

A felly fu;  parhaodd Wil dros bymtheg mlynedd i chwarae ei ran ar ei aelwyd; a rhan yn ei gymdeithas yma ym Mhwllheli; yn weithgar efo Cangen y Blaid; yn cynorthwyo Siw yn ei gwaith gyda’r Eglwys hon; ac yn dal i ysgrifennu – gan gynnwys teyrnged  arbennig i’w gyfaill Ioan Roberts , yn y gyfrol “Cofio Ioan”.

Ac yna, ychydig cyn y Covid, daeth y cancr yn ôl. Oherwydd y Clo, ni chafodd Wil, am gyfnod, fynd i mewn i Ysbyty. Cafodd brofion niferus; a rheini’n dal i awgrymu fod y cancr wedi cilio eto. Ond wedyn, yn ddiweddarach, gwelwyd symptomau eilwaith a bu i Wil gael codwm yn y tŷ.

Roedd pryder ei fod wedi dioddef strôc; ond nid felly fu. Roedd y cancr wedi ymosod ar ei asgwrn cefn. A chafodd driniaeth hir yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd. Yna, fis Mai eleni,  bu i’w asgwrn cefn chwalu. Wedi hynny, bu am wythnosau yn Ysbyty Bryn Beryl, ble y cafodd ofal rhagorol; roedd Wil a Siw yn hynod ddiolchgar i’r staff yno.

Pan fûm heibio Bryn Beryl yng Ngorffennaf, roedd Wil mewn hwyliau da; yn sgwrsio â phawb; ond yn ysu am gael adra at Siw. A gofynnodd Wil i mi ddiolch i bawb a fu’n cysylltu ag ef yn yr Ysbyty; ac i bawb  a adawodd negesau iddo efo Siw, yn ystod ei waeledd.

A phan gafodd Wil ddod adra ddiwedd Awst, darparwyd gwely arbennig iddo yn y tŷ; a  bu cyngor Gwynedd yn wych yn gosod ramp ar ei gyfer ac offer i’w helpu cael o gwmpas.

Cafodd help therapyddion Jo a Natasha o Bryn Beryl, a help gan Wasanaeth “Tuag Adref”, o Ysbyty Alltwen, yn darparu gofal yn y tŷ; ac roedd Wil a Siw yn uchel iawn eu canmoliaeth iddynt. A bu Nyrsys Ardal yn galw dydd a nos, dros saith wythnos.  Mae’r teulu yn talu‘r clod uchaf posib i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd; a braf yw clywed hynny. Ond mae un person y mae Siw eisiau i mi enwi’n benodol – sef Bonnie, y mae llawer ohonoch yn ei hadnabod, trwy ei gwaith yn yng Nghanolfan y Gwystl. Galwodd pob nos yng nghartref Wil a Siw, i’w lanhau a gofalu amdano; a heb ei chymorth hi, dywed Siw go brin y gallai fod wedi ymdopi .….a gwneud hynny yn gwbl ddi-dâl.  Yn ‘does ‘na bobl da yn yr hen fyd ma, dudwch?

Gwelais Wil am y tro olaf yn ei gartref yn yr Ala, bythefnos yn ôl, ar  ddydd Mercher y 5ed o Hydref.  Roedd yn ei wely; gyda chyffuriau  trwm yn ei lethu; ond bu’n bosib i mi gynnal sgwrs ddifyr ac ystyrlon gydag ef; ei feddwl yn dal yn sionc; a’i ddaliadau cenedlaetholgar mor frwd ag erioed.

Pan soniais am y Rali Fawr dros annibyniaeth yng Nghaerdydd y Sadwrn cynt, y cefais y fraint o’i hannerch,  roedd ei lygaid yn pefrio; roedd am glywed mwy o’r hanes. A phan soniais y byddwn yn cyflwyno Mesur yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Gwener nesaf, i warchod pwerau Senedd Cymru, roedd Wil yn frwd ei gymeradwyaeth.

Dwn i ddim a oedd Wil, pryd hynny, yn gwybod – fel yr oedd Siw wedi’m rhybuddio minnau – mai go brin y byddai’n gweld diwedd y mis i glywed ffawd yr ymdrech seneddol. Cwta hanner awr gefais efo fo; roedd yn amlwg yn  blino; ac roedd yn briodol i mi gilio; ond ddim cyn iddo fyny ysgwyd llaw – a’r gafael hwnnw yn fy llaw mor gadarn, efallai’n fwy cadarn, nag erioed.

Does run ohonom yn gwybod beth ydi trefn rhagluniaeth – a gawn ni ddeall, wedi gadael y fuchedd hon, am beth sy’n digwydd i’n hanwyliaid, i’n dyheadau, i’n cymdeithas, i’n bro ac i’n cenedl. Ond os oes chwarae teg yn y Cynllun mawr yr ydym oll yn rhan ohoni, dylai ysbryd Wil fod gyda ni yn y brwydrau yr ydym yn dal i’w hymladd – dros ein hamgylchedd gwledig; a dros gyfiawnder cymdeithasol, dros  ryddid cenedlaethol, dros lewyrch diwylliannol a thros heddwch rhyngwladol.

Mae Wil gyda ni ym mhob un o’r ymdrechion hyn; ni aiff yn angof; a ni fydd yn segur; bydd yr atgof amdano yn ein tanio yn ein hymdrechion; a thrwy hynny, bydd yntau, hefyd, yn rhan o’r fuddugoliaeth fawr.

Diolch iddo; melys y goffadwriaeth a heddwch i’w lwch .

 

Dafydd Wigley

21 Hydref, 2022.

Penri Jones 1943 – 2021

Bu farw Penri Jones, Awdur Jabas, Cynghorydd a Cymro i’r carn yn 78 mlwydd oed.

Dyma ran o deyrnged Liz Saville Roberts:

Mae Penri’n adnabyddus i genedlaethau o Gymry ledled ein gwlad fel yr awdur a greodd y cymeriad Jabas. Ond roedd cymaint, cymaint mwy i Penri: yn awdur ar sawl nofel, roedd hefyd yn athro Cymraeg a gwleidydd lleol uchel ei barch.

Cefais y fraint o weithio gyda Penri pan agorwyd Coleg Meirion Dwyfor yn 1993. Roedd o’n un o blith nifer o athrawon uwchradd a ddewisodd ddod i’r coleg newydd er mwyn cynnig addysg o’r salon uchaf trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal â gweithredu fel athro arweiniol, cynrychiolai gymuned Llanbedrog ar Gyngor Gwynedd fel cynghorydd Plaid Cymru lle daliodd bortffolio addysg ar y Bwrdd am sawl blwyddyn gan chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a gweithredu polisi iaith y sir.

Roedd Penri hefyd yn gynrychiolydd undeb ar gyfer undeb athrawon, UCAC. Ar ei gais yntau ymunais ag UCAC, gan ddod yn gynrychiolydd undeb ar ei ôl, ac oherwydd ei anogaeth sefais fel cynghorydd sir yn 2004. Heb ei gefnogaeth, ni fyddwn erioed wedi mentro i wleidyddiaeth. Mae arnaf ddyled bersonol sylweddol iddo.

Pob cydymdeimlad â Mair a’r teulu a chyfeillion lu Penri.

‘Cariad angerddol tuag at Gymru’
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn fod Penri Jones yn
“genedlaetholwr, dyn y pethe, un oedd â dawn geiriau arbennig ac a
ddylanwadodd ar gannoedd o blant fel athro”.
“Roedd yn fraint cydweithio â Penri oedd mor gadarn ei farn, gŵr cwbl
ddiymhongar, dyn ei filltir sgwâr ac a oedd â chariad angerddol tuag at Gymru, y Gymraeg a phopeth oedd yn ymwneud â Llŷn,” meddai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Simon Glyn, cadeirydd y cyngor: “Gwasanaethodd Penri yn frwd dros ei ardal a thros Gymru am flynyddoedd lawer a bydd coffa da amdano fel aelod o Gyngor Gwynedd ac yn arbennig waith allweddol wrth ddatblygu polisi iaith y sir.”

Hanes Plaid Cymru