Menna Battle, Rhyfelwraig Fwyn 1949 – 2020

Menna Battle, Rhyfelwraig Fwyn

Teyrnged gan Lindsay Whittle

Diwrnod tywyll o Ionawr.  Daeth aelodau Plaid Cymru, y teulu a chymdogion i dalu’r cymwynas olaf i Menna Battle, hoelen wyth Caerffili ers degawdau.

Yn wreiddiol o bentref Glyn Nedd, pentref y cadwodd gysylltiad ag ef ar hyd ei hoes.

Daeth Menna o’r diwedd i fyw yng Nghaerffili.  Yn genedlaetholwraig falch ac angerddol, fe daflodd ei hun i’r achos.  Hi fu Ysgrifennydd Cangen Penyrheol a gwasanaethodd yn ysgrifennydd yr Etholaeth am 17 o flynyddoedd.

Cafodd ei hethol i Gyngor Cymuned Penyrheol gan wasanaethu’i chymuned heb ddal dim yn Ă´l.  Pan benderfynodd “ymddeol”, symudodd i Abertridwr ble wrth gwrs y daeth yn ysgrifennydd y gangen.  A do, cafodd ei hethol i Gyngor Cymuned Cwm Aber.  Ei phartner ers 30 mlynedd John (bach) Roberts yw’r Cynghorydd Sir.

Ni fyddai’n hanner digon i ddweud ei bod yn gweithio yn ei chymuned.  Fe elwodd Clybiau llyfrau, Clwb Celf Cwm Aber, Undercurrents a’r Ĺľyl am ei gwaith diflino.

Ymladdodd yn ddewr yn erbyn clefyd Parkinsons yn ystod blynyddoedd olaf ei bywyd, ac achosodd tyfiant ar yr ymennydd i Menna golli ei brwydr, ac fe gollon ni yng Nghymru arwres.

Rhoddodd hi gymorth a chalondid i mi drwy gydol fy mywyd gwleidyddol, a byddaf yn ei dyled am byth.

I John bach ac wrth gwrs i’w mab Gareth a’i merch Ceri a’i wyrion, rydyn ni yng Nghymru yn eich dyled.  Diolch i chi am adael i’r achos fenthyg y rhyfelwraig garedig a mwyn hon.  Menna byddi’n byw yn ein calonnau am byth.

HEDD PERFFAITH HEDD.

Lindsay Whittle

Cofio Chris Rees 1931 – 2001

Chris yn y Gynhadledd

Cofion am yr arwr Chris Rees (1931-2001), y brodor o Abertawe a brofodd flwyddyn yn y carchar am sefyll yn erbyn gorfodaeth filwrol llywodraeth Llundain.  Sylfaenydd y sustem Wlpan o ddysgu Cymraeg ac ymgeisydd Plaid Cymru mewn sawl etholiad.  Byddai’n 90 heddiw, 6 Ionawr 2021. Llun gan y diweddar Alcwyn Deiniol gyda Chris Rees ar y chwith, Gwynfor a Rhiannon Evans a Winifred Ewing, SNP, gyda diolch i Rhoswen. 

 

 

 

Cofio Ioan Roberts 1941 – 2019

 

Daeth cannoedd o bobl – o Iwerddon, Yr Alban ac o bob rhan o Gymru – i angladd yr awdur, gohebydd a chenedlaetholwr mawr Ioan Roberts yn Chwilog, Gwynedd ar Ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2020.

Bu Ioan yn ganolog yng ngwaith y Blaid o ganol y 1960au ymlaen – nid fel un o’n prif swyddogion neu’n hymgeiswyr ond fel ysgrifennwr dawnus, creadigol a thoreithiog.  Bu’n gyfrifol am y rhan fwyaf o ddeunydd etholiadol cyn-Lywydd y Blaid Dafydd Wigley, sy’n sĂ´n am ei hiwmor anhygoel – yn gweld “ochr ddoniol mewn digwyddiadau ac amgylchiadau a phobol na fuasai’r rhan fwyaf ohonon ni yn ei weld”.

Yma fe gewch weld copĂŻau o’r teyrngedau yn ei angladd gan Gadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Dafydd Williams, perl o gywydd i Ioan gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd , a chofion personol ar ran teulu Ioan gan ei ferch Lois.  Ceir hefyd recordiad o’r gwasanaeth angladd a arweiniwyd gan y Parchedig Aled Davies.

Yn ystod y flwyddyn ers marwolaeth Ioan, ymddangosodd cyfrol o deyrngedau iddo gan  Wasg Carreg Gwalch.  Gyda chyflwyniad gan Lis Saville Roberts AS a’r golygydd Alun Jones, ceir 27 teyrnged yn Gymraeg a thair yn Saesneg  gan ffrindiau agos o Iwerddon a’r Alban, ynghyd â cherddi a darnau o waith Ioan ei hunan.  Gellir archebu’r llyfr pris ÂŁ8.50 drwy’r siopau llyfr.

Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n estyn ei chydymdeimlad i deulu Ioan ac yn diolch iddyn nhw ac i Wasg Garreg Gwalch am sicrhau cofio gyrfa un o gymeriadau mawr ein mudiad cenedlaethol.

 

Ioan Roberts; Teyrnged Alun Ffred. Capel Seilo, Chwilog. 04/01/2020

Deulu, gyfeillion.  Mae’r dyrfa luosog yma heddiw yn Chwilog yn tystio i’r parch oedd gynnon ni at Ioan ac i anwyldeb a direidi ei gymeriad.

Dw i’n siŵr eich bod fel teulu yn teimlo’r cydymdeimlad yn lapio amdanoch yn eich colled a’ch hiraeth. Diolch am y fraint i gael dweud gair, er y chwithdod. Dw i wedi fy siarsio gan Alwena i beidio bod yn rhy faith ac i beidio bod yn ddi-chwaeth. Felly, bydd raid cadw rhai straeon tan rywdro eto. Mae Myrddin wedi dal llawer o rin cymeriad Ioan yn ei gywydd ardderchog ac rydyn ni wedi clywed dawn dweud Ioan yn y pytiau ddarllenodd o.

Ie, Ioan Roberts, Ioan, Io Mo. Drannoeth clywed y newyddion trist mi es i weld Dora , gweddw Wil Sam. Ar y bwrdd o’i blaen roedd ei gyfrol ddiweddara am Geoff Charles a chyflwyniad gan Ioan iddi hi.  Hithau’n deud fel y byddai’n galw i’w gweld ar ddydd Sadwrn fel arfer.”  A mi ddeuda i ‘pam’ wrthach chi,” meddai hi,” Am mod i di deud wrtho fo rywdro ar Ă´l colli Wil mai ar ddyddiau Sadwrn y byddwn i’n teimlo hirath fwya’.”  Mi roedd ‘na rywbeth triw a chefnogol fel’na yn Ioan.

Ac mewn rhyw ffordd roedd tebygrwydd rhwng Wil a Ioan; y ddau yn seiri geiriau di-ail yn eu ffyrdd gwahanol; y ddau yn hoff o adrodd stori, y ddau yn fythol wyrdd, heb golli’r ‘hogyn’ o’u mewn yn llwyr. Yn 1989 mi gafodd Ioan wahoddiad i ddod i gynhyrchu cyfres Hel Straeon, cyfres yr oedd Wil Aaron wedi rhoi cychwyn iddi fel rhan o’i ymerodraeth yn Ffilmiau’r Nant. Ac mae’r teitl ‘Hel Straeon’ yn digwydd cyfleu llawer am fywyd Ioan; o ran ei fywyd proffesiynol – ar Ă´l un ‘false start’ – casglu ac adrodd hanesion wnaeth o drwy ei yrfa, fel newyddiadurwr, golygydd rhaglenni ac yn ei gyfrolau campus; a hynny mewn Cymraeg eglur di ffrils

Ac yn gymdeithasol, fel y gwyddoch yn dda, roedd o yn ei elfen yn adrodd straeon am droeon trwstan yr yrfa. Cof aruthrol am fanylion a dywediadau, hyd yn oed yn oriau man y bore pan oedd pawb call yn eu gw’lau yn cysgu. Pengroeslon, Rhoshirwaun oedd dechrau’r daith iddo fo a’i chwaer Katie ac er iddo adael Pen Llyn i goleg a chael gwaith, mynd a Llyn efo fo wnaeth o, yn ei iaith, ei oslef a’i natur addfwyn. Ac er mor falch oedd o o gael dod yn Ă´l a chyfrannu i fywyd y fro, – ac roedd cynllun Plas Carmel, er enghraifft, yn agos i’w galon, menter a fydd yn elwa o’ch cyfraniadau hael heddiw,- doedd dim yn blwyfol ynddo. Gweledigaeth genedlaethol oedd i’w wleidyddiaeth a rhyng genedlaethol fel y tystia’i ymwneud cyson ag Iwerddon a’r Alban.

Taniwyd y diddordeb yn Iwerddon yn gynnar a bu Ioan a chriw o ffrindiau yn ymweld yn gyson â Dulyn a’r Gorllewin.  Byddai’n adrodd stori – un ymhlith dwsinau – amdano fo a William Roberts, Wil Coed, wedi heirio car i deithio i Orllewin Iwerddon. Pe bydden nhw’n teithio mwy na hyn a hyn o filltiroedd byddai taliad pellach yn ddyledus. Ar Benrhyn Dingle roedd y pwrs yn gwagio a’r milltiroedd yn cynyddu, a dyma benderfynu trio twyllo’r huriwr trwy dreulio’r pnawn yn bagio’r car o gwmpas y Penrhyn er mwyn dadwneud milltiroedd y cloc. Aflwyddiannus fu’r ystryw mae’n debyg.  Parodd y dilĂŠit yn Iwerddon, yn ei phobl ac yn ei gwleidyddiaeth.  

Ta waeth wedi mynychu Ysgolion Llidiardau a Botwnnog mae manylion ei addysg uwch ychydig yn niwlog.  Ond aeth i Fanceinion i astudio Peirianneg Sifil a chyfarfod yn ystod yr wythnos gyntaf y corwynt hwnnw a adwaenir fel Dafydd Wigley gan ddechrau cyfeillgarwch a barodd oes. Cyn bo hir aeth y ddau i rannu fflat, trefniant anffodus o ran gwaith academaidd mae’n debyg. Yn Ă´l Dafydd treuliwyd gormod o amser yn adrodd barddoniaeth, Ioan yn darllen Yeats i Dafydd. ac yntau yn adrodd Williams Parry yn Ă´l.  Mae croeso i chi gredu’r stori honno.  P’r un bynnag, gadawodd Wigley y coleg efo gradd – a gadawodd Ioan.

Flynyddoedd yn ddiweddarach wrth gynnal cyfweliad gyda neb llai na Syr Thomas Parry, gofynnodd y Marchog i Ioan, pa goleg a fynychodd a beth oedd pwnc ei radd? Cyfaddefodd Ioan y caswir.  Edrychodd y Syr arno yn syfrdan a dweud yn y llais dwfn yna, “Dyna beth ofnadwy i ddigwydd i ddyn.” Beth bynnag am hynny cafodd Ioan swydd yn Sir Drefaldwyn yn gofalu am bontydd a ffyrdd y Sir honno a dod i nabod gwerin y fro y daeth mor hoff ohoni . Rhannu tš gyda chriw o Ĺľyr ifanc syber a sobor! Yn ddiweddarach cafodd ddyrchafiad o fath i gadw golwg ar garthffosiaeth Sir Amwythig. O’r ddau gyfrifoldeb roedd o’n teimlo bod mwy o urddas yn y cyntaf.

Rywdro yn y cyfnod yma y daeth haid o fyfyrwyr cenedlaetholgar o’r Alban i Gaerdydd i gêm rygbi a chyfarfod Ioan a ffrindiau, ac er i Ioan drio dychwelyd ar fys yr Albanwyr a chael ei rwystro (gellwch ddychmygu’r helynt) dechreuodd cyfeillgarwch a mynd a dod cyson wrth i Ioan, ac Alwena yn ddiweddarach, wneud llu o gyfeillion yn yr Alban gan gynnwys Morag sydd yma heddiw. Ffrindiau sydd erbyn hyn yn rhan o deulu ehangach y Robertsiaid.

Wrth gwrs y peth pwysicaf ddigwyddodd i Ioan ym Maldwyn oedd cyfarfod lodes ifanc o’r enw Alwena tra’n canfasio dros Tedi Millward mewn etholiad cyffredinol sy’n profi gwerth canfasio dros y Blaid, wrach.  Mhen amser lluniwyd deuawd llwyddiannus, un â llais fel angel a’r llall heb lais o gwbl.  

Roedd o wedi dechrau cyfansoddi ambell erthygl i’r Cymro ar bentrefi cefn gwlad Maldwyn a phan ddaeth cyfle ymgeisiodd Ioan am swydd a dod yn aelod o staff y papur wythnosol. A dyna ddechrau gyrfa a dechrau dysgu crefft.  Yn yr hen ddull roedden nhw’n cael ei hyfforddi sut i ysgrifennu stori yn gofiadwy , yn syml a dealladwy, a fo yn y diwedd oedd y prif ohebydd ac yn penderfynu pa stori fyddai ar y dudalen flaen.  Fel y dwedodd Robin Evans a fu’n cydweithio efo fo ar dri chyfnod gwahanol, y deunydd, y cynnwys oedd yn bwysig i Ioan; gwasanaethu’r stori oedd yr arddull. “Sylwedd yn hytrach na steil.”

Wedi symud i Benycae, Wrecsam yn sgil gyrfa Alwena daeth Ioan i adnabod cymdeithas wahanol, un ddiwydiannol ac ôl ddiwydiannol ynghyd â chriw o Gymry Cymraeg newydd. Wedi tair blynedd yno daeth galwad o HTV yng Nghaerdydd gan neb llai na Gwilym Owen y pennaeth newyddion oedd yn awyddus i Ioan ddod yn olygydd rhaglen newyddion fywiog Y Dydd. Symud, nid i Gaerdydd ond i Bontypridd mwy gwerinol a gwneud cylch o ffrindiau newydd, yn Genedlaetholwyr a Sosialwyr Cymraeg a di Gymraeg ac o leiaf un Comiwnydd. Does dim sôn iddo ddod yn llawia efo unrhyw Dori chwaith.

Roedd dwy raglen newyddion gan HTV – Report Wales a’r Dydd – ond un stafell newyddion. Roedd tipyn o dyndra weithiau rhwng y ddau dĂŽm, yn rhannol am fod y Dydd yn cael ei darlledu am chwech o’r gloch, cyn Report Wales. Ond roedd Ioan a golygydd Report Wales, yr anfarwol egsentric Stuart Leyshon o Sgeti, yn cyd-dynnu’n dda ac enillodd Ioan barch yr hacs gyda’i broffesiynoldeb a’i hynawsedd.

Wrth gwrs doedd Ioan ddim yr hyn y byddech chi’n ei alw yn ‘company man’ a doedd y berthynas rhyngddo fo a’r uwch reolwyr ddim bob amser yn esmwyth. Cofio fo’n cael ei alw gerbron i gael ram dam yn dilyn digwyddiad bach anffodus yn Nulyn mewn gĂŞm rygbi; yn y cyfarfod cafodd ei siarsio ei fod o bob amser, ble bynnag yr ai, yn llys gennad i HTV. Weithiodd honna ddim! Yn rhyfeddol ddigon, er ei brysurdeb, bu’n golygu papurau’r Blaid, Y Welsh Nation a’r Ddraig Goch, yn y cyfnod yma gan losgi’r gannwyll yn hwyr i’r nos.  A phan ddaeth bygythiad Gwynfor i ymprydio dros Sianel Gymraeg dw i’n cofio Ioan yn holi be oeddem ni am wneud fel newyddiadurwyr pe digwyddai’r gwaethaf? Doedd o’n cael dim trafferth bod yn ddiduedd fel golygydd ond roedd yn Gymro a chenedlaetholwr yn gyntaf.

Yn eironig daeth creu S4C â’r Dydd i ben a chollodd Ioan ei swydd.  Cafodd ei siomi a bu’n gyfnod anodd dros ben iddo fo ac Alwena.  Daeth gwaredigaeth o du Gwilym Owen a oedd wedi cael cyfnod tymhestlog ei hun ac a ddaeth yn bennaeth newyddion Radio Cymru a chyflogi Ioan fel golygydd a chynhyrchydd. Roedd gan Ioan, fel nifer o newyddiadurwyr eraill, y parch mwya’ i Gwilym – fel pennaeth newyddion.  

Roedd gwyliau yn Iwerddon gyda’r teulu yn ddihangfa bwysig iddo fo. Conemarra, County Clare ac yn amlach na pheidio Penrhyn y Dingle a phentref bach Ballyferriter yn y Gaeltacht oedd diwedd y daith.  Yno y gwnaethpwyd ffrindiau newydd, ac yn arbennig James a Treasa, Geri a’r diweddar Scott a’u teuluoedd. Nhwthe bellach yn rhan allweddol o’r teulu ac yma heddiw.  Hudwyd Albanwyr a Chymry yno i’w canlyn i hel straeon, creu cerddoriaeth a chanu ac yfed ambell wydraid o win y gwan yn nhafarn Ui Chathain a Dick Mac.  A geiriau Ioan bob amser, beth bynnag yr amgylchiad, oedd “ Mae’n ddifyr ‘ma!”.

 
Ioan ac Alwena gyda’u ffrind Morag Dunbar (canol) o’r Alban ym mhenrhyn,  Corca Dhuine, Iwerddon

Y Meca, fel y disgrifiodd Myrddin o, oedd darn o dir ger TrĂĄ an FhĂ­ona, Traeth y Gwin â golygfa o benrhyn y Tair Chwaer o’ch blaen.  Tir garw, brwynog ydi’r maes, y tap dwr agosaf ryw hanner milltir i ffwrdd, toiled a siop rhyw filltir go lew a stormydd Awst yn chwipio yn ddi-ffael o’r Iwerydd. Lle delfrydol i wersylla. Ond i Ioan , a llawer o rai eraill, roedd, ac mae, rhin arbennig yn y lle.

Un o’r bobol y daeth Ioan i’w adnabod yno oedd Bertie Ahern a oedd ar y pryd yn Ganghellor y Trysorlys yn llywodraeth y wlad. Gwelodd Ioan, Bertie yn mynd â’i gi am dro ger y traeth ryw fore glawog.  Ganol y bore prynodd gopi o’r Irish Times a gweld bod yr arian Gwyddelig mewn helbul; ”Punt in Crisis” oedd y pennawd brawychus. Yn hwyrach yn y dydd, gan ei bod yn glawio mae’n debyg, galwodd Ioan yn nhafarn Ui Chathain a rhyfeddu bod y dywededig Bertie Ahern yno yn mwynhau peint. Cafodd ei gyflwyno iddo ac o ddiffyg dim byd arall i ddweud cyfeiriodd at y pennawd brawychus gan ryfeddu bod y gwleidydd heb ruthro nĂ´l am Ddulyn. Ateb sych Bertie oedd “ I never read the papers on holiday.”

Flynyddoedd yn ddiweddarach fe drefnodd Ioan i Dafydd Wigley gyfarfod Ahern yn y DĂĄil pan oedd yn Taoiseach Iwerddon a bĂťm i ac eraill yn dyst i ddau wleidydd praff yn mwynhau trafodaeth fywiog. Daeth cyfnod Pontypridd i ben gyda galwad Wil Aaron. Roedd yn dipyn o rwyg a menter i’r teulu symud o Bontypridd lle roedden nhw wedi bwrw gwreiddiau dwfn ac yn dechrau magu teulu.  Ond dod wnaethon nhw a dan arweiniad medrus Ioan a’i gyfaill Wil Owen ddatblygodd y gyfres Hel Straeon yn un o rai mwya’ poblogaidd y sianel.

Cyfrannodd hefyd sgriptiau a syniadau i’r gyfres Almanac. Bu cyfnod Hel Straeon yn un prysur a chynhyrchiol; teithiwyd i America i olrhain hanes y cymunedau Cymraeg a bu cyfresi yn Iwerddon ac yn yr Alban.  Mewn gwersyll milwrol ar Ynys Benbecula y cyflwynodd o Fajor mawr mwshtashog i Lyn Ebenezer gyda’r geiriau, “Major Fairclough of the British Army, may I present Lyn Ebenezer who was a major too, in the Free Wales Army.”  

Tynnwyd y plwg yn anfaddeuol o gynnar ar y gyfres yn un o’r adrefniadau mae pob sefydliad yn ei ystyried yn gwbl hanfodol. Unwaith eto roedd Ioan yn ddigyflog ac yn flin.  Gyda llaw, er tegwch, cystal cyfaddef bod Ioan yn medru bod yn flin ac yn bigog ar adegau.  Pan fyddai Alwena yn y cwmni clywid y gorchymyn, “Bu’istaw Ioan.”  Ta waeth cafodd waith ar gyfres materion cyfoes y Byd ar Bedwar ond roedd yn haeddu gwell.  Un o bleserau’r blynyddoedd diweddar iddo oedd teithiau Robat Gruffydd a Meibion y Machlud – rhyw fath o Last of the Summer Wine rhyngwladol- lle mwynhawyd cwmnĂŻa a Jaz gorfodol yn ninasoedd Berlin, Donostia, Madrid a Lisbon.

Ond esgorodd hyn maes o law ar gyfnod cynhyrchiol iawn o ran cyhoeddi llyfrau.  Roedd o eisoes wedi golygu cyfrol goffa Elfed Lewis, ‘Cawr ar goesau byr’ a’r gyfrol ‘Achos y bomiau bach’.  Roedd o hefyd wedi golygu dwy o gyfrolau hunangofiant ei gyfaill Dafydd Wigley sy’n talu teyrnged i’w farn wleidyddol dreiddgar.  I Garreg Gwalch sgrifennodd ‘Hanes C’mon Midffild’ a ‘Pobl drws nesa – taith fusneslyd drwy Iwerddon’ y clywsoch ddyfyniadau ohoni yn gynt, yn ogystal â ‘Rhyfel Ni’ am brofiadau milwyr o Gymru a Phatagonia yn Rhyfel y Malvinas. 

Dyma ddywed Myrddin,”Pan fyddai’n sgwrsio efo pobl am brofiadau poenus a phersonol iawn, roedden nhw’n medru ymddiried yn Ioan i gyfleu eu straeon yn gywir a chyda gofal a chydymdeimlad.”  Ac yn Ă´l Dylan Iorwerth “ Roedd yn newyddiadurwr craff ac yn sgwenwr da…Y tu Ă´l i’r wen a’r tynnu coes roedd ganddo feddwl praff.”  I’r Lolfa golygodd dair cyfrol hynod o waith ei hen gydweithiwr y ffotograffydd Geoff Charles, gan dreulio wythnosau yn tyrchu yn archif y Llyfrgell Genedlaethol.  Dim ond gair da oedd ganddo i staff y lle. Ac yn goron ar y cyfan roedd cyfrol hardd ar fywyd a gwaith y ffotograffydd o Ruddlan ac Efrog Newydd, Philip Jones Griffiths .

Gweithiwr araf oedd o meddai Alwena ond un gofalus a thrylwyr. Ac mi alla inne dystio i’r un gofal pan fu’n gweithio fel swyddog y wasg efo mi.  Doedd o byth yn gollwng dim o’i law heb ei saernĂŻo.  Ac mae cyfrol y bu’n ymlafnio gyda hi am ddegawd ar y ‘Cylch Catholig’ ar fin dod o’r wasg mae’n debyg.  Roedd o mewn cymaint o wewyr am hon fel yr ymneilltuodd i leiandy i gael heddwch ac ysbrydoliaeth i sgwennu.  Fe barodd un noson boenus o oer a distaw mewn cell cyn dianc am ei fywyd yn Ă´l i Bwllheli.  

Mae rhagor i’w ddweud, llawer yn rhagor, ond mi fedra i deimlo ei bensel goch yn hofran uwch y sgript.  Mae pob gwahanu yn boenus wrth gwrs ond fel adroddwr chwedlau siawns na fyddai’n gwerthfawrogi bod y lleoliad ym Mhorthdinllaen yn drawiadol, yng nghwmni teulu wedi gwydraid o win yn y Tš Coch.  Ac felly heddiw yr ydym yn dathlu bywyd Cymro cywir a balch, bywyd llawn, bywyd cynhyrchiol ac afieithus, llawn direidi, dagrau a chwerthin.  Mae’n stori gwerth ei hadrodd.  Diolch.

Alun Ffred

 

Io Mo

O Roshirwaun, drws hiraeth
yw’r tir hud tu draw i’r traeth –
ynys cyfeillion annwyl
yng ngwres eu hanes a’u hwyl,
ynys byw yn rhydd am sbel:
Ioan oedd bron yn Wyddel.

 

Dyna fu’i haf, dyna’i fyd:
adlen mewn cae tywodlyd;
adlen lawen a chenedl
o gân a cherdd, gwin a chwedl
Clann y Dwnnan; yntau’n dad,
yn gerrynt llawn o gariad.

 

Adlen heb stormydd pwdlyd
bro a fu’n cilio cyhyd.
Yr un ddadl gaed mewn adlen
ag yn Llšn, ond gwyn ei llen,
yn gip ar ros o olwg prudd
cociau Ĺľyn hagrwch cynnydd.

 

Adlen oedd i deulu. Nef
uwch edrych ar rych hydref,
uwch llaw’r aildorchi llewys,
uwch holl galedwaith a chwys
nythu gwenith y gwanwyn
ym maes ei gynefin mwyn.

 

Do, bu’i hiwmor a’i stori –
stôr ei sach – yn iach i ni;
gloywai ei lais gwmni gwlad
efo’i finiog ddyfyniad.
Dawn y co’ hwn nid yw’n cau:
co’ deud-hi’r anecdotau.

 

Heno, adlen huodledd –
mae’n awr ei lapio mewn hedd.
Gŵr ffraeth aeth i’w Gatraeth o
ond caf benodau cofio
mor fyw. Wrth y môr a’i fae,
y gorwel biau’r geiriau.

Myrddin ap Dafydd.

 

Ioan – Cyfaill, Cymro a Chenedlaetholwr

Cwrddais â Ioan am y tro cyntaf rywbryd yng nghanol y 1960au, ble a phryd yn union dwi ddim yn siĹľr.  Ond yn sicr roedden ni’n ddau’n ffrindiau erbyn gaeaf 1967 pan ymunais â staff llawn-amser Plaid Cymru gan ddechrau gyda rhyw fis o waith yn y swyddfa yn Stryd Fawr, Bangor.  Erbyn hynny, roedd Ioan yn aelod gweithgar o’r Blaid ers nifer o flynyddoedd – yn Ă´l pob tebyg ers 1959 o leiaf pan aeth i Brifysgol Manceinion a rhannu fflat gyda Dafydd Wigley. 

Am fwy na hanner canrif felly chwaraeodd ran werthfawr dros ben yn rhengoedd y mudiad cenedlaethol.  Bu’n ganolog yng ngwaith y Blaid – nid fel un o’n prif swyddogion neu’n hymgeiswyr ond fel ysgrifennwr dawnus, creadigol a thoreithiog ac fel aelod oedd yn fodlon gwneud y gwaith caib a rhaw.  Cafodd fyw mewn rhannau gwahanol o Gymru – yng nghefn gwlad Pen Llšn, ar y gororau a hefyd yng nghalon y Cymoedd ym Mhontypridd – ac ymhobman y trigai byddai’n cyfrannu’n helaeth at Gymreictod a chenedlaetholdeb yr ardal.

Fel y dywed ysgrifennydd Cangen Pwllheli, ei gyfaill oes Wil Roberts (Wil Coed) – Cymru, Cymreictod a’r Gymraeg oedd pethau Ioan ers yn ifanc iawn, “eu dehongli a’u cyflwyno i’w gyd-Gymry ac i’w gyd-Geltiaid oedd ei ffon fara, a daeth yn un o gyfathrebwyr gorau a difyrraf ei oes”.

Pan ddes i nabod Io gyntaf, roedd yn gweithio fel peiriannydd pontydd i gyngor Sir Amwythig, ond yn byw filltir neu ddwy ar ochr Cymru o’r ffin ym mhentref Y Crugion (Criggion) yn Sir Drefaldwyn – fe ges i aros yna sawl gwaith a chael sawl tro hwyliog yn ei gwmni o gwmpas y sir.  Fel y dywed Wil Coed, fe gynorthwyodd ymgyrch ymgeisydd y Blaid Islwyn Ffowc Elis adeg isetholiad Maldwyn yn 1962, gan ddyfeisio ffurflen gofnodi canfasio a ddaeth yn sylfaen ymgyrchoedd etholiadol y Blaid tan droad y ganrif.  Roedd gyda ni gyflenwad o’r ffurflenni hyn yn Swyddfa Ganol Plaid Cymru ar gyfer etholiadau mewn ardaloedd gwledig ble, yn aml iawn, byddai enwau’r etholwyr yn nhrefn y wyddor yn hytrach na threfn ddaearyddol – tipyn o ben tost i drefnydd etholiad gan y byddai angen ail-sgrifennu’r enwau a chyfeiriadau er mwyn canfasio o dš i dš a chofnodi’r canlyniadau’n effeithiol.  Roedden nhw wedi’u hargraffu mewn nifer o liwiau – ni wn ai Ioan oedd wedi meddwl am y manylyn bach hynny ond credaf mai yn ei lawysgrifen ef oedd y penawdau.

Roedd Ioan ymhlith yr heidiau o bobl ifanc afieithus a dyrrodd i Gaerfyrddin Gorffennaf 1966 i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor.  Ac mae Wil Coed yn nodi ei fod wedi ymgyrchu’r un mor frwd ddegawdau wedyn dros Liz Saville Roberts yn Nwyfor Meirionnydd a thros Hywel Williams yn Arfon yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019.

Roedd Ioan yn sosialydd naturiol yn ogystal â bod yn genedlaetholwr brwd, a deallais wedyn fod ei dad a gwreiddiau gwerinol ei deulu’n ddylanwad pwysig ar gwrs ei fywyd.  Pan symudodd Alwena ac yntau i Bontypridd, fe wnaeth ffrindiau ymhlith undebwyr llafur yn ogystal â chenedlaetholwyr a byddai wrth ei fodd yng nghanol y criw amryliw a fynychai Glwb y Bont yn y dre.  Roedd y ddau wedi prynu tš ar ben y bryncyn yn ardal Graigwen, a phan ddaeth isetholiad Pontypridd yn gynnar yn y flwyddyn 1989, Ioan oedd yn llunio’r rhan fwyaf o lenyddiaeth etholiadol Plaid Cymru.

Oherwydd natur ei waith fel gohebydd – i’r Cymro’n gyntaf ond wedyn i gwmni HTV a’r BBC – bu rhaid iddo gyfrannu at waith Plaid Cymru heb fod yn rhy amlwg, er nad allai neb fod mewn amheuaeth ble gorweddai’i galon.  Ac os bu rheolau’r gwaith yn cystadlu gyda’i ymroddiad i achos Cymru, byddai’n fawr o dro cyn eu torri’n racs. 

Rwy’n cofio un achlysur yn ystod berw dyddiau cynnar ymgyrch etholiad cyffredinol – 1987 rwy’n credu – pan ganodd y ffĂ´n: Ioan newydd ddod mas o gyfarfod gohebwyr ble cawson nhw gyfarwyddid sut i adrodd y frwydr rhwng y pleidiau ar sianelau’r BBC yng Nghymru.  Y drefn fyddai rhoi amser gynta’i gyd ar raglenni newyddion i’r ‘ymgyrch Brydeinig’, ac wedyn dogn arall at yr ymgyrch yng Nghymru.  Canlyniad trefn o’r fath wrth gwrs fyddai torri’n sylweddol ar unrhyw sylw i Blaid Cymru – a hynny heb ystyried yr holl oriau byddai’r pleidiau eraill yn eu derbyn ar y sianelau Prydeinig.   Ond mae gwybodaeth mewn pryd yn werth ffortiwn – diolch i Ioan (a gohebydd arall a ddaeth â chopi o’r cyfarwyddid i’r swyddfa erbyn hanner dydd) llwyddon ni ddarbwyllo penaethiaid y Gorfforaeth i newid y cynllun, a rhoi rhywbeth ychydig yn fwy cyfiawn y eu lle.

Roedd Ioan hefyd yn gweithio fel golygydd papur Cymraeg Plaid Cymru, Y Ddraig Goch, er nad oedd modd cyhoeddi hynny i’r byd a’r betws oherwydd cyfyngiadau’i swyddi.  Gyda’i ddawn gynhenid i ysgrifennu’n rhwydd a chael ongl wahanol ar bethau, byddai bob amser yn llwyddo cynhyrchu papur diddorol a difyr.  Bu’n gyfrifol hefyd am y rhan fwyaf o ddeunydd etholiadol cyn-Lywydd y Blaid Dafydd Wigley.  Mae Dafydd yn ychwanegu ei fod hefyd â hiwmor anhygoel – yn gweld ‘ochr ddoniol mewn digwyddiadau ac amgylchiadau a phobol na fuasai’r rhan fwyaf ohonon ni yn ei weld’.  A does dim amheuaeth ei fod yn llygad ei le – roedd wastad hwyl i’w gael yn ei gwmni, fel storĂŻwr, gwrandäwr a chyfaill cywir.  Ac roedd ganddo gof anhygoel  – y gallu i gofio manylion a’u hailadrodd yn union.  Dim rhyfedd fod ganddo’r ddawn o wneud ffrindiau ymhobman – a’u cadw.

Ioan ac Alwena a ddenodd griw o Gymru ac o’r Alban i deithio dros y mĂ´r flwyddyn ar Ă´l blwyddyn i ben pellaf Iwerddon i Gaeltacht Corca Dhuibhne, neu benrhyn Dingle, ac yna gwrdd â llu o Wyddelod a fyddai’n dod yna ar eu gwyliau.  Bydden ni’n teimlo fel rhan o un teulu mawr gyda Ioan, Alwena, SiĂ´n a Lois.  Y tu hwnt i dref An Daingean neu Dingle oedd Tir na n’Og Ioan – pentref Baile an FheirtĂŠaraigh (Ballyferriter). 

Rywsut neu’i gilydd, roeddech chi’n sicr o ddod ar draws pobl diddorol yng nghwmni Ioan.  Unwaith es i gydag ef i gwrdd â’r ysgolhaig Donncha Ó ConchĂşir, cyn-brifathro ysgol gynradd y pentref a chadeirydd y gymdeithas gydweithredol.  Dro arall, pan fuodd y ddau ohonon ni’n ymlacio yn nhafarn Dic Macs, Dingle, pwy gamodd heibio gyda gwen fawr ond y Taoiseach, Charles Haughey, siĹľr o fod ar ei ffordd yn Ă´l i’w ynys wyliau bersonol, Inis Mhic AoibhleĂĄin.  Roedd Ioan yn cicio’i hunan wedyn am beidio â dodi’i fab SiĂ´n, bryd hynny’n faban, ym mreichiau Charlie a thynnu llun sydyn – bu’n ffotograffydd brwd.  Daeth i adnabod Bertie Ahern, Taoiseach arall nes ymlaen, yn ddigon da i Bertie gofio’i enw cyntaf yn iawn.

Tipyn o brofiad oedd bod ymhlith y dyrfa o bobl o Iwerddon a’r Alban a phob rhan o Gymru pan ddaeth yr amser i ddweud ffarwel wrth ein hen ffrind. Byddai Ioan ei hun wedi bod wrth ei fodd yn ein cwmni.

Dafydd Williams

 

Dad gan Lois

I ddechrau, hoffem fel teulu ddiolch o galon i chi am yr holl gefnogaeth yr ydan ni wedi’i dderbyn yn ystod ein profedigaeth. Mae’r holl negeseuon, ymweliadau, teyrngedau, a’r bara brith, wedi helpu i liniaru rhywfaint ar y galar yr ydan ni’n ei deimlo yn y cyfnod hwn o sioc a thristwch. Rydan ni’r to iau wedi cael cyfle dros y dyddiau diwethaf i ddysgu hyd yn oed yn fwy am dad, a dod i’w adnabod o’r newydd bron, drwy lygaid ei gyfeillion a’i gydweithwyr, wrth ddarllen eich atgofion chi ohono fo. Roedd SiĂ´n a finnau’n awyddus i gymryd y cyfle hwn i rannu ychydig o straeon efo chi amdano fo, o safbwynt ei blant.

Wel, mae’n troi allan fod dad yn dipyn o foi, yndoedd?! Wrth gwrs, mi’r oedd SiĂ´n a finnau’n gwybod hynny’n iawn yn barod, ond ar ddiwedd y dydd, Dad oedd o i ni ynde. Wrth edrych yn Ă´l, rydw i’n gwerthfawrogi fod ganddo fo stĂ´r o amynedd efo ni pan oedden ni’n blant. Roedd o’n arfer dweud wrthym fel y byddai SiĂ´n, yn hogyn bach ar eu gwyliau’n yr Alban, yn mynnu fod o a mam yn sdopio’r car bob tro y byddan nhw’n gweld darn o lyn, fel y gall o fynd allan i daflu cerrig iddo fo. Dw i’n gwybod fod dad wedi ildio bob tro, ac mi fyddai’n pasio’r amser drwy ffilmio SiĂ´n yn taflu cerrig ar ei gamera fidio, ac mae’r fidios hyn gynnon ni o hyd. Mi fydda fo’n gwneud lot o hynny – ein dilyn ni efo’i gamra, gan wneud hynny mewn ffordd hollol dawel heb dynnu unrhyw sylw ato fo’i hun. Mor falch fod y fidios bach gwerthfawr yma gynnon ni i’w trysori am byth – diolch am hynny, dad!

Nid taflu cerrig oedd yn mynd a fy mryd i pan oeddwn i’n iau chwaith, ond mynd i Bortmeirion. Well i fi egluro, er mae’n siĹľr y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o hyn yn barod, ond mi fysa gan mam gyfnodau o’r flwyddyn lle fysa ganddi ryw steddfod neu bwyllgor mwy neu lai bob penwythnos, felly roedd hi fyny i dad ein hentyrteinio ni. Mi aeth o a fi i Bortmeirion unwaith, a dyna ni wedyn. Roeddwn i’n mynnu ein bod ni’n mynd yno bob penwythnos, nes bod ei gerdyn teyrngarwch wedi mynd yn hen racsyn blĂŞr, ac mi fysa fo’n gadael i fi chwarae am oriau wrth y cwch bach ar lan y dĹľr yn fy myd bach fy hun. Mae’n siĹľr fod o’n hollol, hollol bord, ond wnaeth o erioed wneud i ni deimlo fel bod unrhyw beth yn bwysicach iddo fo na’r ddau ohonan ni pan oeddan ni efo fo. Doedd dim pall ar amynedd dad wedi i ni ddod yn oedolion chwaith, a wastad yno i wrando ac i helpu efo unrhyw broblem, bach neu fawr, gan dueddu i orffen pob sgwrs efo ‘fyddi di’n ok sdi’ a tap solad ar y pen i ni. Dim ond fis yn Ă´l, roedd rhaid i SiĂ´n ac yntau fynd i’r ardd drws nesaf i ddismantlo trampolĂŽn Cadi, gan ei fod o wedi hedfan yno, dros nos, dros y gwrych pan oedd hi’n stormus. Tra’r oedd SiĂ´n yn gwylltio a bytheirio wrth ymgymryd â’r dasg (mi’r oedd o’n horwth o beth i fod yn deg, ac mi’r oedd hi’n dywyll erbyn hyn), roedd dad yn aros yn cĹľl braf, ac yn chwerthin iddo fo’i hun bob hyn a hyn – roedd o’n gallu gweld yr ochr ddoniol i bob argyfwng, sy’n crynhoi dad i’r dim.

Roedd o’n dad direidus iawn. Mi ddywedodd o wrth Siôn unwaith ei fod o’n arfer chwarae i Arsenal, a Siôn druan yn mynd i’r ysgol diwrnod wedyn a dweud wrth bawb. Mae Sion yn cyfaddef ei hun wedyn, o weld dad yn cicio pêl, y dylai fod wedi sylweddoli nad oedd hi’n stori wir. Dw i’n cofio fi’n ysgol gynradd hefyd, yn dechrau dysgu am siapiau ac onglau, a gofyn iddo fo ‘be di polygon?’ ac yn syth bin, yr ateb gesh i: ‘parot wedi marw’.

Cymro i’r carn oedd dad, a hynny’n ar ei fwyaf amlwg, mae’n siĹľr, yn ystod gemau Cymru. Disgrifiodd Sion fel y byddai ganddo fo wastad ddagrau yn ei lygaid pan fyddai’r anthem yn cael ei chanu, a phan fysa’r ddau ohonyn nhw’n mynd i wylio gem bĂŞl-droed Cymru, yn hytrach na gweiddi ‘Wales! Wales!’ fel pawb arall yn y dorf, mi fysa fo’n gweiddi ‘Cymru! Cymru!’ drostyn nhw. Doeddwn i ddim gwybod yn hynny tan i Sion ddeud wrtha i ddiwrnod o’r blaen,  ac mi ges i bwl o chwerthin gan mod innau’n gwneud yr union ’run fath.

Fedra i ddim diolch ddigon iddo fo am ein dysgu am bwysigrwydd gwleidyddiaeth. Mi fydda i’n colli ein sgyrsiau hir am y newyddion, dyfodol Cymru, y Blaid… yn aml mi fyddai’r sgyrsiau hyn yn para oriau, ymhell i ganol nos weithiau. Ar noson Etholiad Cyffredinol 2017 mi arhosodd dad a fi i fyny drwy’r nos, a mi’r oedd y ddau ohonan ni jysd â mynd yn wirion – erbyn i Ben ennill Ceredigion, dw i’n meddwl mai ‘hysterical’ ydi’r gair mwya addas i ddisgrifio sut oeddan ni’n teimlo – a bihafio. Dw i’n falch iawn, mewn ffordd, na fydd rhaid iddo fo fynd drwy’r artaith o weld effaith Brexit  ar y Gymru fach yr oedd o mor falch ohoni.

Wel, does dim posib i ni sĂ´n am dad heb sĂ´n am ein gwyliau chwedlonol bob mis Awst efo’r garafĂĄn. Mynd i’r Eisteddfod gynta, wrth gwrs, ac wedyn draw â ni i’r Iwerddon. Roedd o’n arfer deud ei fod o’n teimlo’n euog am beidio mynd â ni i lefydd mwy exotic pob haf, yn enwedig pan ddysgodd o fod Tomos yn arfer cael mynd i lefydd fel Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Yr Almaen, Yr Eidal ac ati ar wyliau teuluol! Ar bapur, mae’n siĹľr nad ydi gwyliau carafĂĄn, mewn cae ar benrhyn hollol exposed yn ne orllewin Iwerddon, heb unrhyw fath o gyfleusterau, yn swnio fel y gwyliau delfrydol. Ond i ni, dyna’r oedd o. Be gewch chi well na threulio pythefnos yng nghwmni ffrindiau arbennig y gwnaeth o a mam flynyddoedd cyn i ni gael ein geni, mewn adlen gysurus, mewn cae oedd yn nefoedd pan oedd hi’n braf…ond y lle mwya diawledig pan fysa’r tywydd yn troi. Roedd y gwyliau a’r ffrindiau hyn yn rhodd amhrisiadwy i ni gan ein rhieni, ac yn gymaint o ran o bwy ydan ni erbyn hyn. Mae o wedi dysgu lot i ni am y gallu i gymdeithasu gyda phobl o bob oed, a sut i fwynhau ein hunain. Diolch eto, dad, a llaw ar fy nghalon, fyswn i byth yn newid y profiadau gafon ni am wyliau ar y Costa del Sol.

O’n i’n sĂ´n gynna am y ffaith mai’r Eisteddfod fydda’n dod gynta, cyn Werddon, eto yn y garafĂĄn, a byddai hynny fatha ryw pre-med cyn y gwyliau mawr Gwyddelig! Ond i Sion a fi, roedd ’Steddfod efo dad yn dipyn o boen yn din. Mae pawb yn tueddu i feddwl am mam fel yr un Eisteddfodol, yn dydyn, ond efo dad, fysan ni’n yn cael gweld chwarter y maes tasa ni’n gadael iddo fo siarad efo pawb fel roedd o isio gneud! I ddiddanu ein hunain, byddai’n rhaid i ni ddyfeisio gemau, fel ‘sawl cam mae dad yn gallu cymryd cyn gweld rhywun arall mae o’n nabod a sdopio’ – y record? 2 gam!! Fyddan ni hefyd yn lladd ein hunain chwerthin yn clywed pawb yn galw dad yn ‘Io Mo’, a methu’n glir â deall pam. Oedd ganddo fo enw canol? Morris? Morgan? Mohammed? Troi allan, nagoedd, oedd o jysd yn swnio’n catchy. Dydw i ddim yn meddwl erbyn hyn fod dad yn meindio i bobl ei alw fo’n Io Mo, ond pan oni’n iau, oni’n meddwl fod o’n ei gasĂĄu o. RĹľan dw i’n deall mai ddim yn licio i Sion a fi ei alw fo’n hynny oedd o! Pan o’n i’n arfer gweld rhywun o’n i’n gwybod oedd yn arfer gweithio efo dad (ac mae ‘na lot fawr ohonoch chi!), fyswn i’n mynd atyn nhw gan ddeud reit swil “dw i’ meddwl ella’ch bod chi’n nabod dad…” “o, pwy di dy dad felly?” “Ioan Roberts….” yn amlach na pheidio, fyddai na fawr ddim ymateb am eiliad neu ddwy, ac wedyn yn sydyn, “Oooo! Io Mo ti’n feddwl!!”

Mae’n amhosib cyfleu mor fawr fydd y golled ar ei Ă´l, ond un cysur pwysig ydi ei fod o wedi cael dod yn daid i Cadi Shân fach. Roedd o’n ymfalchĂŻo yn ei rĂ´l newydd, ac yn ei chymryd o ddifrif. Nes i erioed feddwl y bysan ni’n ei weld o’n codi, ar Ă´l cyn lleied o berswâd, i fynd i ddawnsio efo hi ganol y stafell fyw, ac mor hapus i gael ei orfodi ganddi i wisgo ei het flodeuog hi ar ei ben. Pan fysa Cadi’n cael pylia o wrthod bwyta wrth y bwrdd bwyd, a phawb yn gwneud eu gorau i gadw gwyneb syth, pwy ydach chi’n meddwl oedd y cynta, yn ddi-ffael, i ddechrau chwerthin? Wel dad siĹľr iawn, a ninnau wedyn yn ei cholli hi’n lân hefyd! Mae’n deud lot am natur ein magwraeth a’n perthynas efo’n rhieni fod dad, mam, Sion, Sarah a Cadi, oll yn cyd-fyw mor ddi-lol dan yr un to dros y blynyddoedd diwethaf – ddim yn rhywbeth hawdd i unrhyw deulu, dw i’n siĹľr y bysach chi’n cytuno. A mod innau hefyd mynd adref yn ddeddfol, ddwywaith yr wythnos i’w gweld nhw ers i fi symud i Gaernarfon. Mae hyn yn deyrnged wirioneddol i’r berthynas glos a ffurfiwyd rhyngom, ac mae cael dweud mai Io Mo oedd ein tad yn fraint y byddwn ni’n ei chario efo ni gyda balchder am weddill ein hoes.


Ioan a’i deulu

 

Recordiad o Angladd Ioan Roberts  4 Ionawr 2020

 

 

Ioan (chwith) fel gwas priodas i’w gefnder, y Parchedig Reuben Roberts, Mis Hydref 1959 – a’r un bobl mewn dathliad eu priodas aur, Mis Hydref 2019: Ioan Roberts, Reuben Roberts, Aelwen Roberts a Dr Helen Wyn Jones

 

 

 

Cofio Harri Webb 1920 -1994

Nodwyd canmlwyddiant geni’r bardd gwladgarol nodedig Harri Webb gyda seremoni pan roddwyd blodau ar ei fedd yn Eglwys y Santes Fair, Penard, GĹľyr (12 dydd Dydd Llun 7 Medi 2020). 

Ganwyd Harri Webb yn 45 Tycoch Road, Abertawe a’i fagu yn Catherine Street ger canol y ddinas.  Roedd gydag ef gysylltiadau teuluol cryf â Phenrhyn Gwyr.

Daeth yn ffigur amlwg ym Mhlaid Cymru, gan olygu papur Saesneg y mudiad Welsh Nation a sefyll yn ymgeisydd drosti yn etholaeth Pontypwl yn etholiad cyffredinol 1970.

Enillodd Harri Webb fri yn fardd yn ystod y 1960au, pan ddechreuodd y mudiad cenedlaethol gynyddu yng nghymoedd diwydiannol y De, a bu’n gyfrannwr rheolaidd i’r cylchgrawn Poetry Wales.

Dywedodd yr Athro Emeritws Prys Morgan fod Harri Webb wedi llwyddo ennill poblogrwydd mawr fel bardd.

“Er bod ei waith yn bennaf yn Saesneg, doedd neb yn fwy o Gymro twymgalon na Harri “.

Rhoddwyd blodau ar y bedd gan Guto Ap Gwent, Kittle.


Guto Ap Gwent a’r Athro Prys Morgan wrth fedd Harri Webb
ar Ă´l y sermoni yn Egwlys y Santes Fair,

Noddwyd y seremoni gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a’r Blaid yn Abertawe a GĹľyr gyda chydweithrediad caredig Ficer Plwyf y Tri Chlogwyn, y Parchedig Peter Brooks a’i chynnal yn Ă´l y rheolau ymbellhau cymdeithasol.

 

Manylion llawn o fywyd Harri Webb i’w cael yn:

https://www.independent.co.uk/news/people/obituary-harri-webb-1566453.html

Harri Webb 1920 – 1994

Ar ddathlu beth fyddai ei ben-blwydd yn 100 oed, dyma ffilm hyfryd am y bardd arbennig Harri Webb a’i gysylltiadau â Merthyr. ‘Sing for Wales or shut your trap, all the rest’s a load of crap!’

 

Mae’r ffilm hon yn dangos ysbrydoliaeth bywyd a barddoniaeth Harri Webb ar bobl Merthyr: y rhai oedd yn ei adnabod, yn darllen ei gerddi ac yn edmygu ei wleidyddiaeth. Ysgrifennodd plant o dair ysgol gerddi a ysbrydolwyd gan ei waith ar gyfer cystadleuaeth. Pobl leol mewn Meic Agored misol yn darllen ei gerddi, yn canu caneuon ac yn perfformio cerddi a ysbrydolwyd ganddo. Yn cynnwys y dĂ´n thema ‘Colli Iaith’ yn cael ei ganu gan Erin Lancaster a’i gynhyrchu gan Gwyncy Jones. Mae Harri Webb yn byw trwy bob un ohonyn nhw…

Alcwyn Deiniol Evans 1942 – 2020

Alcwyn Deiniol Evans

Yn 78 mlwydd oed, bu farw Alcwyn Deiniol Evans yn ei gartref yn Heol Parc Romilly, Y Barri.  Yn gyn-Gyfarwyddwr Siop Adran enwog Dan Evans, roedd Alcwyn yn wyneb cyfarwydd ac yn ffigwr adnabyddus iawn ym mywyd cyhoeddus y Barri.

Ef oedd mab hynaf Gwynfor Evans, cyn-Lywydd Plaid Cymru a brodor o’r dref. Yn ystod ymgyrch yr is-etholiad yng Nghaerfyrddin ym mis Gorffennaf 1966, bu Alcwyn yn ymgyrchydd brwd dros y Blaid. Fe weithiodd yn ddygn er mwyn sicrhau llwyddiant ei dad pan enillodd y sedd a dod yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru. Roedd Alcwyn yn angerddol tuag at y Gymraeg a Chymreictod, gan gefnogi a hyrwyddo’r un credoau a gwerthoedd â’i dad.

Treuliodd dros 40 o flynyddoedd ym myd busnes, ac ‘roedd y siop deuluol, Dan Evans, yn agos iawn at ei galon. Roedd Alcwyn yn Ĺľr bonheddig gan ennyn parch ac edmygedd ei staff a’i gwsmeriaid fel ei gilydd. Bu’n gyfrifol am nifer o adrannau o fewn y siop, ac roedd yn cael ei gydnabod fel arbenigwr yn y diwydiant teganau. Hyd yn ddiweddar arferai gyfrannu’n rheolaidd at raglenni teledu a radio, gan rannu ei wybodaeth a’i ddiddordeb yn raenus, caboledig a llawn brwdfrydedd.

Caewyd drysau siop Dan Evans am y tro olaf yn 2006, ac fel Ĺľyr i’r sylfaenydd, fe gofnododd Alcwyn hanes y siop a chyhoeddi’r llyfr, Siop Dan Evans Y Barri (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) sy’n gronicl hanesyddol a chymdeithasol pwysig o’r busnes a’r dref.  Yn ddiweddarach bu Alcwyn yn gweithio yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, lle cafodd gyfle pellach i rannu ei ddiddordeb, ei frwdfrydedd a’i gariad tuag at Gymru, ei harferion a’i thraddodiadau.

Bydd bwlch enfawr ar ei Ă´l, yn enwedig i Rhoswen ei wraig a Trystan ei fab. Fe gofir am Alcwyn yn y Barri a thu hwnt am ei wĂŞn lydan, ei ddidwylledd, ei hiwmor a’i garedigrwydd eithriadol.

Geraint Evans

 

 

Rhys Lewis 1937 – 2020

Roedd Rhys Lewis (1937-2020) yn un o hoelion wyth Plaid Cymru yng Nghanol Caerdydd am flynyddoedd lawer. Yn ffigwr holl-bresennol yng nghyfarfodydd y Blaid, roedd ei ymroddiad, ei ddoethineb a’i sgiliau trefnu yn ysbrydoliaeth cyson i’r holl Aelodau.

Fe’i ganwyd ym Machynlleth, ond ymsefydlodd ei deulu yng Nghaerdydd pan oedd Rhys ond yn blentyn 1 oed, ac yn ddi-os roedd e’n falch o fod yn fachgen o’r Ddinas.  Er oedd Cymraeg yn ei deulu, collwyd hynny i raddau helaeth wrth iddynt ymgartrefu yn y ddinas, a phriodolodd Rhys ei feistrolaeth o’r Gymraeg i’w addysg ac i athro ysbrydoledig yn Ysgol Cathays.

Cafodd yrfa lwyddiannus fel newyddiadurwr o fewn BBC Cymru a chwmnĂŻau darlledu annibynnol, gan borthi ei ddiddordeb mewn materion cyfoes yng Nghymru.  Roedd y swyddi hynny yn cyfyngu ar y ffyrdd y gallai gyfrannu at waith Plaid wleidyddol, ond gwnaeth yn iawn am hynny ar Ă´l ymddeol, pan fachodd ar y cyfle i weithio’n llawn amser gyda’i gyfaill gydol oes, Owen John Thomas yn ystod dau dymor cyntaf y Cynulliad (1999 – 2007). Fel garddwr brwd roedd wedi arfer â meithrin planhigion ac ar adeg pan nad oedd y ddeddfwrfa newydd yn cael ei derbyn gan nifer, gweithiodd Rhys yn ddiflino i ddangos perthnasedd y Cynulliad i bobl Caerdydd.  Yr oedd yn berson gofalgar a bu’n helpu llawer o aelodau’r Blaid a’u teuluoedd trwy gyfnodau anodd.

Roedd Rhys yn ymfalchĂŻo yn ei hoffter o faterion Ffrengig. Roedd wrth ei fodd yn treulio amser yn Ffrainc a doedd e byth yn colli cyfle i ddefnyddio ei Ffrangeg. Yr oedd yn gredwr cadarn yng Nghymru fel cenedl Ewropeaidd, ac yr oedd canlyniad y refferendwm Ewropeaidd yn peri loes iddo.

Roedd afiechyd diweddar wedi cyfyngu ar ei allu i ganfasio a dosbarthu taflenni, ond doedd hynny ddim yn ei rwystro rhag cyfrannu at ymgyrchoedd Plaid Cymru mewn ffyrdd eraill–  trwy drefnu, trwy gysylltu â chefnogwyr, trwy ei hiwmor, a thrwy rannu ei syniadau gwleidyddol.

Tra yn yr ysbyty am gyflwr arall cafodd Covid-19 afael arno, a bu farw ar Ebrill 12fed.   Estynnwn ein cydymdeimlad dwys i’w  wraig Sue, ei blant Geraint, Menna a Non a’i wyrion Gwen, Sophie, Alice, Nel a Cesia. Roedd Rhys yn mwynhau gwin da ac rwy’n siĹľr y bydd llawer ohonom yn codi gwydraid er cof am Ĺľr bonheddig a gwir gwladgarwr Cymreig.

Marc Phillips

 

 

Glanmor Bowen-Knight 1945 – 2019: Teyrnged

Bu farw Glanmor Bowen-Knight, Tredegar, un o hoelion wyth y Blaid yng nghymoedd Gwent, yn ddiweddar.  Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n estyn ein cydymdeimlad i’w chwaer Rae a’r teulu.  Cewch ddarllen teyrnged iddo gan  ei gyfaill Hywel Davies yma.

 

GLANMOR BOWEN-KNIGHT: TEYRNGED

Cafodd ymadawiad y cyn-gynghorydd ac aelod gweithgar o Blaid Cymru Glanmor Bowen-Knight o Dredegar ei gofio’n deilwng yn Amlosgfa Llwydcoed Ddydd Mercher, 9 Hydref, 2019 mewn gwasanaeth dyneiddiol a fynychwyd gan gynulleidfa sylweddol o deulu a chyfeillion.

Yn eu plith y bu Dafydd Williams, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru, Jocelyn Davies, cyn Aelod Cynulliad y Blaid i Dde Ddwyrain Cymru, ac Alun Davies, cyn aelod o’r Blaid ac yn awr yn Aelod Cynulliad Llafur Blaenau Gwent.

Er yn wynebu her gorfforol ers ei blentyndod cynnar ac yn gorfod cerdded gyda chymorth ffyn, roedd Glanmor yn falch o gyhoeddi y buasai mewn amgylchiadau gwell yn ‘6-footer’. Yn wleidyddol, cadarnhawyd yr honiad hwnnw gan ei fywyd o ymroddiad llwyr i fudiad cenedlaethol Cymru.

Yn aelod o Blaid Cymru ers y 1960au, bu Glanmor yn gwasanaethu mewn nifer o ffyrdd yn swyddog Cangen Tredegar a phwyllgor etholaeth Glyn Ebwy / Blaenau Gwent. Roedd hefyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Tref Tredegar am flynyddoedd maith nes cyfnod ei nychdod terfynol.  Wrth ei alwedigaeth, roedd Glanmor yn horolegydd (glociwr), wedi’i hyfforddi fel dyn ifanc yng Ngholeg St Loye’s, Caerwysg. Roedd yn adnabyddus yn Nhredegar fel yr oriadurwr a gemydd a fyddai’n ddiwyd wrth ei waith mewn cornel o siop gemydd Gus Jones.

Megis yn ei waith, felly hefyd mewn gwleidyddiaeth byddai Glan yn defnyddio’i ymennydd trefnus a manwl yn bwrpasol iawn i adeiladu peiriant Plaid Cymru effeithiol ym man geni anaddawol Nye Bevan.  Roedd wrth ei fodd i weld ei waith ef ac eraill yn dwyn ffrwyth drwy yrfa brodor o Dredegar, yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru Steffan Lewis – er i ni ei golli mor drasig o ifanc – a’r etholiad Cynulliad Cenedlaethol yn etholaeth Blaenau Gwent yn 2016 ble bu’r Blaid bron yn fuddugol.

Yn briodol iawn, cafodd Glanmor dderbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Plaid Cymru.

Gedy chwaer, Rae, a’i Ĺľr Charles, ynghyd â theulu estynedig sylweddol, pob un ohonyn nhw’n falch ohono ac wedi’u hymroi i’w ofal.

D. Hywel Davies

Eurig Wyn 1945 – 2019

Talwyd teyrngedau i’r cyn-ASE a chynghorydd Gwynedd Eurig Wyn, a fu farw yn 74 oed ar 26 Mehefin 2019.

Eurig Wyn gyda Jill Evans, cyd-Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru

 

Etholwyd Mr Wyn yn aelod o Senedd Ewrop i gynrychioli Cymru ym 1999, a bu’n gwasanaethu tan 2004. Yn nes ymlaen, cafodd ei ethol yn gynghorydd dros ward y Waunfawr ar Gyngor Gwynedd yn 2012, gan ildio’i sedd yn 2016. Bu hefyd yn gwasanaethu fel cynghorydd cymuned yn Waunfawr am nifer o flynyddoedd.

Yn ystod ei gyfnod yn Senedd Ewrop, yr oedd Mr Wyn yn aelod o bwyllgor diwylliant a deisebau’r senedd. Yr oedd hefyd yn aelod o’r ddirprwyaeth am gysylltiadau gyda De’r Affrig a’r ddirprwyaeth i Gyd-Bwyllgor Seneddol yr UE a’r Weriniaeth Siec.

Yn fwyaf amlwg, bu’n eiriolwr cadarn dros ffermwyr Cymru a’r diwydiant amaethyddol yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau, a bu’n aelod  o’r pwyllgor seneddol dros dro a sefydlwyd i ymateb i’r argyfwng hwnnw.

Yn yr angladd yn Waunfawr ar 3 Gorffennaf 2019 talwyd teyrngedau i Eurig Wyn gan ei fab Euros a Rhys a Llyr Ifans

Teyrngedau i Steffan Lewis 1984 – 2019

Cofio Steffan Lewis

Talwyd teyrngedau i’r diweddar Steffan Lewis AC, a fu farw’n 34 oed ar Ă´l brwydr ddewr yn erbyn canser.

Cynhaliwyd angladd Steffan yn Eglwys Gymraeg Abercarn a sefydlwyd gan yr Arglwyddes Llanofer, Gwenynen Gwent a ymgyrchai dros yr iaith Gymraeg a’n traddodiadau yn y 19edd canrif.  Ceir yma eiriad teyrngedau a draddodwyd yn yr angladd gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price a’r cyn- Aelod Cynulliad Jocelyn Davies, ynghyd â chofion personol am Steffan gan Gadeirydd Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams. Arweiniwyd y gwasanaeth ar y 25 Ionawr 2019 gan y Parchedig Aled Edwards.

 

Teyrnged i Steffan gan Adam Price

Colled sy’n ein tynnu ni ynghyd heddiw, mewn cwlwm tyn o ing.  Colli mab, colli gĹľr, colli tad, colli cyfaill.  Ond drwyddi draw colli Cymro mawr.  Gwlad sy’n galaru am yfory na fydd fu Cymru erioed.  O herwydd hanes  hir o golli, brwydr a brawd.   Colli Cadwallon a Rhodri a Gruffydd a Llywelyn.  Lawgoch a GlyndĹľr.  Ac yn y rhestr o bendefigion nawr yr ychwanegwn enw llywiawdwr lluoedd arall, ein hannwyl Steffan. 

Ac eto wedi plethu yn y boen, mae ‘na wirionedd arall i’w weld yn y gwagle. Colli, colli, colli – ac eto mynnu byw er gwaetha popeth yw hanes ein cenedl.

Mae rhywbeth od am y ffaith ein bod ni fel cenedl y Cymry yma o hyd  – yn sefyll fan hyn dim ond ychydig filltiroedd o’r ffin dan drwyn cenedl fu am ddwy ganrif yn feistr y byd. Oedd bywyd Steffan, dyn o Went, yn Gymro croyw, cadarn yn symbol o’r ffaith, bod yn y genedl eiddil hon, yng ngeiriau Islwyn Ffowc Elis, yntau hefyd yn ddyn o ymyl y ffin, rhyw athrylith i barhau.

Mae Cymru yn dal yn byw o herwydd ein bod ni yn ewyllysio hynny,  oherwydd y gwydnwch rhyfeddol hynny sy’n plygu heb dorri.   Fe welwyd hynny ar ei ganfed ym mlwyddyn olaf Steffan, ac yntau yn llwyddo i fyw hyd yr eithaf, yn cyfrannu hyd y diwedd, yn cipio einioes o ddannedd ei waeledd cynifer o weithiau er mwyn dal i wneud gwahaniaeth dros y bobl a’r wlad a garodd ac a garodd yntau.  Mentrodd dro ar Ă´l tro yn erbyn Goleiath ar ddydd na Ĺľyr gwyrth.

Steffan gyda’i deulu yn siambr y Cynulliad

Wrth feddwl am y deyrnged hon mi feddyliais i am y teyrngedau godidog yr oedd Steffan ei hun wedi eu rhoi i Glyn Erasmus a Jim Criddle.  Yr oedd ers ei lencyndod wedi cyfri henaduriaid y Blaid yn ffrindie mynwesol.

O herwydd roedd Steffan yn deall taw ras gyfnewid ydy’r frwydr dros Gymru ac na fydd diwedd iddi fyth.

Mae ‘na gyfrifoldeb arnon ni gyd nawr felly i beidio â gollwng y ffagl i’r llaid.

“Pan gyrchom i’r gad bydd dy gleddyf fel fflam o’n blaenau

Pan gymerom gyngor bydd dy air fel cân yn ein cof

Pan ddysgom ein plant, bydd dy enw’n soniarus yn ein haraith

A phan na byddwn ni

Gan genedlaethau sy nghudd dan blyg y blynyddoedd

Cenedlaethau na wybyddant na’n henwau ni na dim amdanom

Fe’th ystyrir di’n ddewr

Fe’th gyfrir di’n ddoeth

Fe’th elwir di’n fawr.”

 

In my last conversation with Steffan a few days before he passed we talked about many, many things.  Steffan was a man, in Whitman’s phrase, that contained multitudes.  He had a large heart and a huge intellect – and those things don’t often come together.  He was a brilliant orator and a champion listener – and that combination is rarer still.  He was as we know courageously honest and he wanted me to know he had only a short time left.  As I held him there were moments of silent sadness, but we also laughed a lot.

We pondered together the last message that he could convey through me to you.  And his face was illuminated with a mischievous grin when he said, I know, we’ll ask them to pledge themselves to giving up beer and wine until we secure Welsh independence, forcing some of you into an excruciating choice between two of the things you loved the most.  You know who you are.  

He really wanted to see that independent Wales he said.

And he wished so much the prognosis would change.  Knowing Steffan as we do I think he meant not so much now for himself but for Wales, for us, and for Celyn.

There was always a great sense of urgency about Steffan.  Not for him the languid language of independence as a long-term goal.  He wanted us to get there while he was yet young. He had the same boundless energy – but also perhaps the same foreknowledge that all of us have but limited time – that propelled the young John F Kennedy, to end his campaign speeches with those words of Robert Frost:  “The woods are lovely, dark and deep. But I have promises to keep /And miles to go before I sleep/And miles to go before I sleep.”

The Monday morning after the terrible news I couldn’t face going into a Senedd with an empty seat. So I went for a run around the Bay.  My face contorted with exhaustion and grief, an elderly gentleman offered his words of kindness and encouragement: “Not far to go now. Not far”.  I stopped to look out over the clouds in the Bay, and suddenly shafts of sunlight cut through onto the water.  In Sunday school we learned to call that Jacob’s ladder – but for me now these rays of sunshine will be for ever Steffan’s.

And it put me in mind of the inauguration of Jack Kennedy, that other great leader who gave a nation new hope.

Robert Frost was due to read out a poem he had written especially for the occasion, but as he approached the podium a sudden glare of sunlight meant he couldn’t read his text.  So instead he read out another poem from memory, “A Gift Outright”.

“The land was ours before we were the land’s.
She was our land more than a hundred years
Before we were her people.  She was ours
In Massachusetts, in Virginia,
But we were England’s, still colonials,
Possessing what we still were unpossessed by,
Possessed by what we now no more possessed.
Something we were withholding made us weak
Until we found out that it was ourselves
We were withholding from our land of living,
And forthwith found salvation in surrender.
Such as we were we gave ourselves outright
To the land vaguely realizing westward

Such as she was, such as she would become.”

The poem is about a sense of one-ness between a people and their land.

Monmouthshire perhaps is Wales’ Massachusetts, Virginia its Gwent, where the magnetic pull of the border is strongest, where to be Welsh is not an accident of birth but an act of defiant will.  Do we choose to withhold ourselves from Wales, to follow the easy paths of personal ambition and material success, or do we sacrifice ourselves for Wales?  Steffan’s answer was never really in doubt.  His mother Gail made sure of that.  Steffan found salvation in surrendering himself to Wales.  His life to his last was a gift outright to the nation.

Cymru to Steffan was par excellence a country of companionship.  He wanted to plant it thick as trees along mountain-top and valley floor, and for our shores and our rivers to constantly water its roots.  He wanted us to be indissoluble, inseparable, compatriots all, with our arms around each other’s necks, Cuumraag in Manx means comrade after all. And this dear comrade wanted Wales – all of Wales – to cwtch up close.

Like his great mentor and hero Phil Williams, Steffan railed against what Phil called the false ‘psychology of distance’ which divided our nation.

This is Steffan in 2012 in an email to Rhuanedd and me:

“We should talk about ending the Walian.  We are not south Walians, north Walians, west Walians etc. Yes, Wales is a community of communities but the artificial regionalisation of Wales and the cynical divides based on language, geography, urban v rural are the tools of those who seek to divide us to protect the political status quo, for their narrow self-interest.  Wales is at its best when Wales is one – One Wales (yes, with capital letters), facing common challenges together.  This is needed more than ever as our country faces a full frontal assault from the UK Government”.

Steffan was a proud Gwentian, but keen to emphasise its fundamental Welshness.  How Zephaniah Williams and John Frost were both Welsh speakers .  As was the miner Edward Morgan – the Dic Penderyn of Monmouthshire – executed at age 35 as a leader of Tarw Scotch. Though it was the working class Welsh culture of these valleys that was the crucible in which Steffan’s personality was forged – he was also quite struck, and no doubt amused, by the stories of Lady Llanofer, insisting her staff only spoke Welsh, and wearing a bespoke Welsh costume, made out of the finest materials, with a superb diamond leek in her black silk hat. 

He was himself a gem of a man, and so it’s fitting that he will be followed by a Jewell.  And I know that it gave Steffan great comfort to know that he could pass the baton on to someone equally able and committed.

He touched us all in different ways, and it stings to know we’re no longer able to reach out and touch him. 

 

Before I conclude I should like to read out some special messages of condolences that we have received.

Firstly from Nicola Sturgeon, Scotland’s First Minister

“I was lucky to know Steffan.  I first met him when he supported Leanne at those famous TV debates.  I could see then what a keen mind he had and what a compassionate individual he was.  As a result it was no surprise to me when he was elected in 2016.  Steffan was a truly lovely man and a first rate politician.  He had the good fortune in life to marry Shona,  a Scots woman, and his young son Celyn has perhaps the even better fortune to be both Welsh and Scottish.  Shona and Celyn can be enormously proud of what Steffan achieved and as you celebrate his life today, my thoughts, and those of Steffan’s friends and colleagues in Scotland are with all of our friends in Wales.”

And secondly on behalf of the Irish Government, Ambassador Adrian O’Neill

“I was very saddened to learn of the untimely passing of Steffan Lewis and, on behalf of the Irish Government, I extend my sympathies to Steffan’s wife Shona and his son Celyn and to all his colleagues in Plaid Cymru and the Welsh Assembly.  He will be remembered not only for his notable career in Welsh politics but also for his drive and passion in furthering bilateral relations between Ireland and Wales”.

In remembering Steffan here now our hearts are both beguiled and broken.

But he would not want us to despair in this our land of living.

So every morning when we wake let’s wake for him.  When we rise, let it be the rising of a nation.

As Steffan’s years were halved let’s re-double our efforts on his behalf. 

Steffan never learned to take his time so nor should we. He achieved so much in such a short while, inscribing in the arc of his life a great promise of things to come. Its realisation now falls to us.

Our future may lie beyond the horizon, but it is not beyond our control.  Nothing is inevitable, no irresistible tide of history will determine our destiny.  It is up to us.

We do not have far to go.  The future is in our hands.

So let’s build it together in the name of one we loved.

And who loved us in return.

Such was the strength of that love that one nation would never be enough to contain it. 

Steffan dreamed of creating a Celtic Union so he fashioned his own in bonding forever with Shona.

So it’s fitting we should say our goodbyes on that great Scottish poet Robbie Burns’ birthday.

And so I’ll end with his words to a dear departed friend that feel so apt today:

“Few hearts like his, with virtue warm’d,

Few heads with knowledge so inform’d:

If there’s another world, he lives in bliss;

If there is none, he made the best of this.”

Steffan, 13 oed, yn annerch Cynhadledd Plaid Cymru 1997

Steffan Lewis – Teyrnged Bersonol

gan Dafydd Williams, Cadeirydd, Cymdeithas Hanes Plaid Cymru

Fe ddes i adnabod Steffan yn ystod yr etholiadau cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999.  Phil Williams oedd ymgeisydd y Blaid yn etholaeth Blaenau Gwent ac fel cyfaill iddo ef a chyn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru fe fues i’n rhan o’r ymgyrch fywiog a weinyddid o’n swyddfa yn y stryd fawr yn Nhredegar.  Byddai Steffan yn dod yn rheolaidd, yn troi lan bron bob dydd ar Ă´l i’r ysgol ddod i ben.  Roedd tua 14 oed ar y pryd, ond roedd yn amlwg i bawb fod gydag ef botensial sylweddol.

Wrth i’r amser fynd heibio, roedd yn dda gweld iddo ddefnyddi’r ddawn gynhenid yna.  Pan safodd Steffan i annerch cynhadledd y Blaid neu’r Cyngor Cenedlaethol, byddai pobl yn gwrando.  Dangosodd eglurdeb gweledigaeth a dadansoddiad treiddgar o faterion cymhleth – yn arbennig o gynnydd herciog datganoli.  Llwyddai roi drosodd ei syniadau mewn ffordd gwbl ddiymhongar, ac fe enillodd gynulleidfa gynyddol.  Nid oedd yn syndod felly iddo gael ei ddewis ar ben rhestr ymgeisyddion Plaid Cymru yn Ne-ddwyrain Cymru na chlywed am y parch a roed iddo gan aelodau ar draws y pleidiau yn y Cynulliad – rhywbeth fu’n hatgoffa ni o’r parch a gawsai Phil Williams rai blynyddoedd ynghynt.

Tua deunaw mis yn Ă´l, gwnaeth Steffan amser i deithio i Abertawe i gyfarfod ag aelodau o’r Blaid mewn noson gymdeithasol yn Abertawe, a rhoi gwybod i ni am y datblygiadau diweddaraf a’r holl gymhlethdodau a ddaeth yn sgil y refferendwm Brexit.  Bu hwnnw’n achlysur hyfryd ac ysbrydoledig a lwyddodd roi hwb i’n gweithgareddau yn Abertawe a GĹľyr, noson na fyddwn ni fyth yn anghofio.  Fe ddaeth y newydd creulon am ei ddiagnosis fel ergyd anferth, a hynny ychydig o wythnosau yn unig ar Ă´l iddo fod gyda ni, ac amhosibl amgyffred y poen a’r galar yng nghalonnau ei deulu.

Estynnwn ein cydymdeimlad a’n dymuniadau gorau i Shona, Celyn a’r teulu i gyd.

Dafydd Williams

 

Galarwyr y tu allan i Eglwys Cymraeg Abercarn

 

Hanes Plaid Cymru