Cofio Harri Webb 1920 -1994

Nodwyd canmlwyddiant geni’r bardd gwladgarol nodedig Harri Webb gyda seremoni pan roddwyd blodau ar ei fedd yn Eglwys y Santes Fair, Penard, GĆ”yr (12 dydd Dydd Llun 7 Medi 2020). 

Ganwyd Harri Webb yn 45 Tycoch Road, Abertawe a’i fagu yn Catherine Street ger canol y ddinas.  Roedd gydag ef gysylltiadau teuluol cryf Ăą Phenrhyn Gwyr.

Daeth yn ffigur amlwg ym Mhlaid Cymru, gan olygu papur Saesneg y mudiad Welsh Nation a sefyll yn ymgeisydd drosti yn etholaeth Pontypwl yn etholiad cyffredinol 1970.

Enillodd Harri Webb fri yn fardd yn ystod y 1960au, pan ddechreuodd y mudiad cenedlaethol gynyddu yng nghymoedd diwydiannol y De, a bu’n gyfrannwr rheolaidd i’r cylchgrawn Poetry Wales.

Dywedodd yr Athro Emeritws Prys Morgan fod Harri Webb wedi llwyddo ennill poblogrwydd mawr fel bardd.

“Er bod ei waith yn bennaf yn Saesneg, doedd neb yn fwy o Gymro twymgalon na Harri “.

Rhoddwyd blodau ar y bedd gan Guto Ap Gwent, Kittle.


Guto Ap Gwent a’r Athro Prys Morgan wrth fedd Harri Webb
ar ĂŽl y sermoni yn Egwlys y Santes Fair,

Noddwyd y seremoni gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a’r Blaid yn Abertawe a GĆ”yr gyda chydweithrediad caredig Ficer Plwyf y Tri Chlogwyn, y Parchedig Peter Brooks a’i chynnal yn ĂŽl y rheolau ymbellhau cymdeithasol.

 

Manylion llawn o fywyd Harri Webb i’w cael yn:

https://www.independent.co.uk/news/people/obituary-harri-webb-1566453.html

Harri Webb 1920 – 1994

Ar ddathlu beth fyddai ei ben-blwydd yn 100 oed, dyma ffilm hyfryd am y bardd arbennig Harri Webb a’i gysylltiadau Ăą Merthyr. ‘Sing for Wales or shut your trap, all the rest’s a load of crap!’

 

Mae’r ffilm hon yn dangos ysbrydoliaeth bywyd a barddoniaeth Harri Webb ar bobl Merthyr: y rhai oedd yn ei adnabod, yn darllen ei gerddi ac yn edmygu ei wleidyddiaeth. Ysgrifennodd plant o dair ysgol gerddi a ysbrydolwyd gan ei waith ar gyfer cystadleuaeth. Pobl leol mewn Meic Agored misol yn darllen ei gerddi, yn canu caneuon ac yn perfformio cerddi a ysbrydolwyd ganddo. Yn cynnwys y dĂŽn thema ‘Colli Iaith’ yn cael ei ganu gan Erin Lancaster a’i gynhyrchu gan Gwyncy Jones. Mae Harri Webb yn byw trwy bob un ohonyn nhw…

Alcwyn Deiniol Evans 1942 – 2020

Alcwyn Deiniol Evans

Yn 78 mlwydd oed, bu farw Alcwyn Deiniol Evans yn ei gartref yn Heol Parc Romilly, Y Barri.  Yn gyn-Gyfarwyddwr Siop Adran enwog Dan Evans, roedd Alcwyn yn wyneb cyfarwydd ac yn ffigwr adnabyddus iawn ym mywyd cyhoeddus y Barri.

Ef oedd mab hynaf Gwynfor Evans, cyn-Lywydd Plaid Cymru a brodor o’r dref. Yn ystod ymgyrch yr is-etholiad yng Nghaerfyrddin ym mis Gorffennaf 1966, bu Alcwyn yn ymgyrchydd brwd dros y Blaid. Fe weithiodd yn ddygn er mwyn sicrhau llwyddiant ei dad pan enillodd y sedd a dod yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru. Roedd Alcwyn yn angerddol tuag at y Gymraeg a Chymreictod, gan gefnogi a hyrwyddo’r un credoau a gwerthoedd ñ’i dad.

Treuliodd dros 40 o flynyddoedd ym myd busnes, ac ‘roedd y siop deuluol, Dan Evans, yn agos iawn at ei galon. Roedd Alcwyn yn Ć”r bonheddig gan ennyn parch ac edmygedd ei staff a’i gwsmeriaid fel ei gilydd. Bu’n gyfrifol am nifer o adrannau o fewn y siop, ac roedd yn cael ei gydnabod fel arbenigwr yn y diwydiant teganau. Hyd yn ddiweddar arferai gyfrannu’n rheolaidd at raglenni teledu a radio, gan rannu ei wybodaeth a’i ddiddordeb yn raenus, caboledig a llawn brwdfrydedd.

Caewyd drysau siop Dan Evans am y tro olaf yn 2006, ac fel Ć”yr i’r sylfaenydd, fe gofnododd Alcwyn hanes y siop a chyhoeddi’r llyfr, Siop Dan Evans Y Barri (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) sy’n gronicl hanesyddol a chymdeithasol pwysig o’r busnes a’r dref.  Yn ddiweddarach bu Alcwyn yn gweithio yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, lle cafodd gyfle pellach i rannu ei ddiddordeb, ei frwdfrydedd a’i gariad tuag at Gymru, ei harferion a’i thraddodiadau.

Bydd bwlch enfawr ar ei ĂŽl, yn enwedig i Rhoswen ei wraig a Trystan ei fab. Fe gofir am Alcwyn yn y Barri a thu hwnt am ei wĂȘn lydan, ei ddidwylledd, ei hiwmor a’i garedigrwydd eithriadol.

Geraint Evans

 

 

Rhys Lewis 1937 – 2020

Roedd Rhys Lewis (1937-2020) yn un o hoelion wyth Plaid Cymru yng Nghanol Caerdydd am flynyddoedd lawer. Yn ffigwr holl-bresennol yng nghyfarfodydd y Blaid, roedd ei ymroddiad, ei ddoethineb a’i sgiliau trefnu yn ysbrydoliaeth cyson i’r holl Aelodau.

Fe’i ganwyd ym Machynlleth, ond ymsefydlodd ei deulu yng Nghaerdydd pan oedd Rhys ond yn blentyn 1 oed, ac yn ddi-os roedd e’n falch o fod yn fachgen o’r Ddinas.  Er oedd Cymraeg yn ei deulu, collwyd hynny i raddau helaeth wrth iddynt ymgartrefu yn y ddinas, a phriodolodd Rhys ei feistrolaeth o’r Gymraeg i’w addysg ac i athro ysbrydoledig yn Ysgol Cathays.

Cafodd yrfa lwyddiannus fel newyddiadurwr o fewn BBC Cymru a chwmnĂŻau darlledu annibynnol, gan borthi ei ddiddordeb mewn materion cyfoes yng Nghymru.  Roedd y swyddi hynny yn cyfyngu ar y ffyrdd y gallai gyfrannu at waith Plaid wleidyddol, ond gwnaeth yn iawn am hynny ar ĂŽl ymddeol, pan fachodd ar y cyfle i weithio’n llawn amser gyda’i gyfaill gydol oes, Owen John Thomas yn ystod dau dymor cyntaf y Cynulliad (1999 – 2007). Fel garddwr brwd roedd wedi arfer Ăą meithrin planhigion ac ar adeg pan nad oedd y ddeddfwrfa newydd yn cael ei derbyn gan nifer, gweithiodd Rhys yn ddiflino i ddangos perthnasedd y Cynulliad i bobl Caerdydd.  Yr oedd yn berson gofalgar a bu’n helpu llawer o aelodau’r Blaid a’u teuluoedd trwy gyfnodau anodd.

Roedd Rhys yn ymfalchĂŻo yn ei hoffter o faterion Ffrengig. Roedd wrth ei fodd yn treulio amser yn Ffrainc a doedd e byth yn colli cyfle i ddefnyddio ei Ffrangeg. Yr oedd yn gredwr cadarn yng Nghymru fel cenedl Ewropeaidd, ac yr oedd canlyniad y refferendwm Ewropeaidd yn peri loes iddo.

Roedd afiechyd diweddar wedi cyfyngu ar ei allu i ganfasio a dosbarthu taflenni, ond doedd hynny ddim yn ei rwystro rhag cyfrannu at ymgyrchoedd Plaid Cymru mewn ffyrdd eraill–  trwy drefnu, trwy gysylltu Ăą chefnogwyr, trwy ei hiwmor, a thrwy rannu ei syniadau gwleidyddol.

Tra yn yr ysbyty am gyflwr arall cafodd Covid-19 afael arno, a bu farw ar Ebrill 12fed.   Estynnwn ein cydymdeimlad dwys i’w  wraig Sue, ei blant Geraint, Menna a Non a’i wyrion Gwen, Sophie, Alice, Nel a Cesia. Roedd Rhys yn mwynhau gwin da ac rwy’n siĆ”r y bydd llawer ohonom yn codi gwydraid er cof am Ć”r bonheddig a gwir gwladgarwr Cymreig.

Marc Phillips

 

 

Glanmor Bowen-Knight 1945 – 2019: Teyrnged

Bu farw Glanmor Bowen-Knight, Tredegar, un o hoelion wyth y Blaid yng nghymoedd Gwent, yn ddiweddar.  Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n estyn ein cydymdeimlad i’w chwaer Rae a’r teulu.  Cewch ddarllen teyrnged iddo gan  ei gyfaill Hywel Davies yma.

 

GLANMOR BOWEN-KNIGHT: TEYRNGED

Cafodd ymadawiad y cyn-gynghorydd ac aelod gweithgar o Blaid Cymru Glanmor Bowen-Knight o Dredegar ei gofio’n deilwng yn Amlosgfa Llwydcoed Ddydd Mercher, 9 Hydref, 2019 mewn gwasanaeth dyneiddiol a fynychwyd gan gynulleidfa sylweddol o deulu a chyfeillion.

Yn eu plith y bu Dafydd Williams, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru, Jocelyn Davies, cyn Aelod Cynulliad y Blaid i Dde Ddwyrain Cymru, ac Alun Davies, cyn aelod o’r Blaid ac yn awr yn Aelod Cynulliad Llafur Blaenau Gwent.

Er yn wynebu her gorfforol ers ei blentyndod cynnar ac yn gorfod cerdded gyda chymorth ffyn, roedd Glanmor yn falch o gyhoeddi y buasai mewn amgylchiadau gwell yn ‘6-footer’. Yn wleidyddol, cadarnhawyd yr honiad hwnnw gan ei fywyd o ymroddiad llwyr i fudiad cenedlaethol Cymru.

Yn aelod o Blaid Cymru ers y 1960au, bu Glanmor yn gwasanaethu mewn nifer o ffyrdd yn swyddog Cangen Tredegar a phwyllgor etholaeth Glyn Ebwy / Blaenau Gwent. Roedd hefyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Tref Tredegar am flynyddoedd maith nes cyfnod ei nychdod terfynol.  Wrth ei alwedigaeth, roedd Glanmor yn horolegydd (glociwr), wedi’i hyfforddi fel dyn ifanc yng Ngholeg St Loye’s, Caerwysg. Roedd yn adnabyddus yn Nhredegar fel yr oriadurwr a gemydd a fyddai’n ddiwyd wrth ei waith mewn cornel o siop gemydd Gus Jones.

Megis yn ei waith, felly hefyd mewn gwleidyddiaeth byddai Glan yn defnyddio’i ymennydd trefnus a manwl yn bwrpasol iawn i adeiladu peiriant Plaid Cymru effeithiol ym man geni anaddawol Nye Bevan.  Roedd wrth ei fodd i weld ei waith ef ac eraill yn dwyn ffrwyth drwy yrfa brodor o Dredegar, yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru Steffan Lewis – er i ni ei golli mor drasig o ifanc – a’r etholiad Cynulliad Cenedlaethol yn etholaeth Blaenau Gwent yn 2016 ble bu’r Blaid bron yn fuddugol.

Yn briodol iawn, cafodd Glanmor dderbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Plaid Cymru.

Gedy chwaer, Rae, a’i Ć”r Charles, ynghyd Ăą theulu estynedig sylweddol, pob un ohonyn nhw’n falch ohono ac wedi’u hymroi i’w ofal.

D. Hywel Davies

Eurig Wyn 1945 – 2019

Talwyd teyrngedau i’r cyn-ASE a chynghorydd Gwynedd Eurig Wyn, a fu farw yn 74 oed ar 26 Mehefin 2019.

Eurig Wyn gyda Jill Evans, cyd-Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru

 

Etholwyd Mr Wyn yn aelod o Senedd Ewrop i gynrychioli Cymru ym 1999, a bu’n gwasanaethu tan 2004. Yn nes ymlaen, cafodd ei ethol yn gynghorydd dros ward y Waunfawr ar Gyngor Gwynedd yn 2012, gan ildio’i sedd yn 2016. Bu hefyd yn gwasanaethu fel cynghorydd cymuned yn Waunfawr am nifer o flynyddoedd.

Yn ystod ei gyfnod yn Senedd Ewrop, yr oedd Mr Wyn yn aelod o bwyllgor diwylliant a deisebau’r senedd. Yr oedd hefyd yn aelod o’r ddirprwyaeth am gysylltiadau gyda De’r Affrig a’r ddirprwyaeth i Gyd-Bwyllgor Seneddol yr UE a’r Weriniaeth Siec.

Yn fwyaf amlwg, bu’n eiriolwr cadarn dros ffermwyr Cymru a’r diwydiant amaethyddol yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau, a bu’n aelod  o’r pwyllgor seneddol dros dro a sefydlwyd i ymateb i’r argyfwng hwnnw.

Yn yr angladd yn Waunfawr ar 3 Gorffennaf 2019 talwyd teyrngedau i Eurig Wyn gan ei fab Euros a Rhys a Llyr Ifans

Teyrngedau i Steffan Lewis 1984 – 2019

Cofio Steffan Lewis

Talwyd teyrngedau i’r diweddar Steffan Lewis AC, a fu farw’n 34 oed ar ĂŽl brwydr ddewr yn erbyn canser.

Cynhaliwyd angladd Steffan yn Eglwys Gymraeg Abercarn a sefydlwyd gan yr Arglwyddes Llanofer, Gwenynen Gwent a ymgyrchai dros yr iaith Gymraeg a’n traddodiadau yn y 19edd canrif.  Ceir yma eiriad teyrngedau a draddodwyd yn yr angladd gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price a’r cyn- Aelod Cynulliad Jocelyn Davies, ynghyd Ăą chofion personol am Steffan gan Gadeirydd Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams. Arweiniwyd y gwasanaeth ar y 25 Ionawr 2019 gan y Parchedig Aled Edwards.

 

Teyrnged i Steffan gan Adam Price

Colled sy’n ein tynnu ni ynghyd heddiw, mewn cwlwm tyn o ing.  Colli mab, colli gĆ”r, colli tad, colli cyfaill.  Ond drwyddi draw colli Cymro mawr.  Gwlad sy’n galaru am yfory na fydd fu Cymru erioed.  O herwydd hanes  hir o golli, brwydr a brawd.   Colli Cadwallon a Rhodri a Gruffydd a Llywelyn.  Lawgoch a GlyndĆ”r.  Ac yn y rhestr o bendefigion nawr yr ychwanegwn enw llywiawdwr lluoedd arall, ein hannwyl Steffan. 

Ac eto wedi plethu yn y boen, mae ‘na wirionedd arall i’w weld yn y gwagle. Colli, colli, colli – ac eto mynnu byw er gwaetha popeth yw hanes ein cenedl.

Mae rhywbeth od am y ffaith ein bod ni fel cenedl y Cymry yma o hyd  – yn sefyll fan hyn dim ond ychydig filltiroedd o’r ffin dan drwyn cenedl fu am ddwy ganrif yn feistr y byd. Oedd bywyd Steffan, dyn o Went, yn Gymro croyw, cadarn yn symbol o’r ffaith, bod yn y genedl eiddil hon, yng ngeiriau Islwyn Ffowc Elis, yntau hefyd yn ddyn o ymyl y ffin, rhyw athrylith i barhau.

Mae Cymru yn dal yn byw o herwydd ein bod ni yn ewyllysio hynny,  oherwydd y gwydnwch rhyfeddol hynny sy’n plygu heb dorri.   Fe welwyd hynny ar ei ganfed ym mlwyddyn olaf Steffan, ac yntau yn llwyddo i fyw hyd yr eithaf, yn cyfrannu hyd y diwedd, yn cipio einioes o ddannedd ei waeledd cynifer o weithiau er mwyn dal i wneud gwahaniaeth dros y bobl a’r wlad a garodd ac a garodd yntau.  Mentrodd dro ar ĂŽl tro yn erbyn Goleiath ar ddydd na Ć”yr gwyrth.

Steffan gyda’i deulu yn siambr y Cynulliad

Wrth feddwl am y deyrnged hon mi feddyliais i am y teyrngedau godidog yr oedd Steffan ei hun wedi eu rhoi i Glyn Erasmus a Jim Criddle.  Yr oedd ers ei lencyndod wedi cyfri henaduriaid y Blaid yn ffrindie mynwesol.

O herwydd roedd Steffan yn deall taw ras gyfnewid ydy’r frwydr dros Gymru ac na fydd diwedd iddi fyth.

Mae ‘na gyfrifoldeb arnon ni gyd nawr felly i beidio Ăą gollwng y ffagl i’r llaid.

“Pan gyrchom i’r gad bydd dy gleddyf fel fflam o’n blaenau

Pan gymerom gyngor bydd dy air fel cĂąn yn ein cof

Pan ddysgom ein plant, bydd dy enw’n soniarus yn ein haraith

A phan na byddwn ni

Gan genedlaethau sy nghudd dan blyg y blynyddoedd

Cenedlaethau na wybyddant na’n henwau ni na dim amdanom

Fe’th ystyrir di’n ddewr

Fe’th gyfrir di’n ddoeth

Fe’th elwir di’n fawr.”

 

In my last conversation with Steffan a few days before he passed we talked about many, many things.  Steffan was a man, in Whitman’s phrase, that contained multitudes.  He had a large heart and a huge intellect – and those things don’t often come together.  He was a brilliant orator and a champion listener – and that combination is rarer still.  He was as we know courageously honest and he wanted me to know he had only a short time left.  As I held him there were moments of silent sadness, but we also laughed a lot.

We pondered together the last message that he could convey through me to you.  And his face was illuminated with a mischievous grin when he said, I know, we’ll ask them to pledge themselves to giving up beer and wine until we secure Welsh independence, forcing some of you into an excruciating choice between two of the things you loved the most.  You know who you are.  

He really wanted to see that independent Wales he said.

And he wished so much the prognosis would change.  Knowing Steffan as we do I think he meant not so much now for himself but for Wales, for us, and for Celyn.

There was always a great sense of urgency about Steffan.  Not for him the languid language of independence as a long-term goal.  He wanted us to get there while he was yet young. He had the same boundless energy – but also perhaps the same foreknowledge that all of us have but limited time – that propelled the young John F Kennedy, to end his campaign speeches with those words of Robert Frost:  “The woods are lovely, dark and deep. But I have promises to keep /And miles to go before I sleep/And miles to go before I sleep.”

The Monday morning after the terrible news I couldn’t face going into a Senedd with an empty seat. So I went for a run around the Bay.  My face contorted with exhaustion and grief, an elderly gentleman offered his words of kindness and encouragement: “Not far to go now. Not far”.  I stopped to look out over the clouds in the Bay, and suddenly shafts of sunlight cut through onto the water.  In Sunday school we learned to call that Jacob’s ladder – but for me now these rays of sunshine will be for ever Steffan’s.

And it put me in mind of the inauguration of Jack Kennedy, that other great leader who gave a nation new hope.

Robert Frost was due to read out a poem he had written especially for the occasion, but as he approached the podium a sudden glare of sunlight meant he couldn’t read his text.  So instead he read out another poem from memory, “A Gift Outright”.

“The land was ours before we were the land’s.
She was our land more than a hundred years
Before we were her people.  She was ours
In Massachusetts, in Virginia,
But we were England’s, still colonials,
Possessing what we still were unpossessed by,
Possessed by what we now no more possessed.
Something we were withholding made us weak
Until we found out that it was ourselves
We were withholding from our land of living,
And forthwith found salvation in surrender.
Such as we were we gave ourselves outright
To the land vaguely realizing westward

Such as she was, such as she would become.”

The poem is about a sense of one-ness between a people and their land.

Monmouthshire perhaps is Wales’ Massachusetts, Virginia its Gwent, where the magnetic pull of the border is strongest, where to be Welsh is not an accident of birth but an act of defiant will.  Do we choose to withhold ourselves from Wales, to follow the easy paths of personal ambition and material success, or do we sacrifice ourselves for Wales?  Steffan’s answer was never really in doubt.  His mother Gail made sure of that.  Steffan found salvation in surrendering himself to Wales.  His life to his last was a gift outright to the nation.

Cymru to Steffan was par excellence a country of companionship.  He wanted to plant it thick as trees along mountain-top and valley floor, and for our shores and our rivers to constantly water its roots.  He wanted us to be indissoluble, inseparable, compatriots all, with our arms around each other’s necks, Cuumraag in Manx means comrade after all. And this dear comrade wanted Wales – all of Wales – to cwtch up close.

Like his great mentor and hero Phil Williams, Steffan railed against what Phil called the false ‘psychology of distance’ which divided our nation.

This is Steffan in 2012 in an email to Rhuanedd and me:

“We should talk about ending the Walian.  We are not south Walians, north Walians, west Walians etc. Yes, Wales is a community of communities but the artificial regionalisation of Wales and the cynical divides based on language, geography, urban v rural are the tools of those who seek to divide us to protect the political status quo, for their narrow self-interest.  Wales is at its best when Wales is one – One Wales (yes, with capital letters), facing common challenges together.  This is needed more than ever as our country faces a full frontal assault from the UK Government”.

Steffan was a proud Gwentian, but keen to emphasise its fundamental Welshness.  How Zephaniah Williams and John Frost were both Welsh speakers .  As was the miner Edward Morgan – the Dic Penderyn of Monmouthshire – executed at age 35 as a leader of Tarw Scotch. Though it was the working class Welsh culture of these valleys that was the crucible in which Steffan’s personality was forged – he was also quite struck, and no doubt amused, by the stories of Lady Llanofer, insisting her staff only spoke Welsh, and wearing a bespoke Welsh costume, made out of the finest materials, with a superb diamond leek in her black silk hat. 

He was himself a gem of a man, and so it’s fitting that he will be followed by a Jewell.  And I know that it gave Steffan great comfort to know that he could pass the baton on to someone equally able and committed.

He touched us all in different ways, and it stings to know we’re no longer able to reach out and touch him. 

 

Before I conclude I should like to read out some special messages of condolences that we have received.

Firstly from Nicola Sturgeon, Scotland’s First Minister

“I was lucky to know Steffan.  I first met him when he supported Leanne at those famous TV debates.  I could see then what a keen mind he had and what a compassionate individual he was.  As a result it was no surprise to me when he was elected in 2016.  Steffan was a truly lovely man and a first rate politician.  He had the good fortune in life to marry Shona,  a Scots woman, and his young son Celyn has perhaps the even better fortune to be both Welsh and Scottish.  Shona and Celyn can be enormously proud of what Steffan achieved and as you celebrate his life today, my thoughts, and those of Steffan’s friends and colleagues in Scotland are with all of our friends in Wales.”

And secondly on behalf of the Irish Government, Ambassador Adrian O’Neill

“I was very saddened to learn of the untimely passing of Steffan Lewis and, on behalf of the Irish Government, I extend my sympathies to Steffan’s wife Shona and his son Celyn and to all his colleagues in Plaid Cymru and the Welsh Assembly.  He will be remembered not only for his notable career in Welsh politics but also for his drive and passion in furthering bilateral relations between Ireland and Wales”.

In remembering Steffan here now our hearts are both beguiled and broken.

But he would not want us to despair in this our land of living.

So every morning when we wake let’s wake for him.  When we rise, let it be the rising of a nation.

As Steffan’s years were halved let’s re-double our efforts on his behalf. 

Steffan never learned to take his time so nor should we. He achieved so much in such a short while, inscribing in the arc of his life a great promise of things to come. Its realisation now falls to us.

Our future may lie beyond the horizon, but it is not beyond our control.  Nothing is inevitable, no irresistible tide of history will determine our destiny.  It is up to us.

We do not have far to go.  The future is in our hands.

So let’s build it together in the name of one we loved.

And who loved us in return.

Such was the strength of that love that one nation would never be enough to contain it. 

Steffan dreamed of creating a Celtic Union so he fashioned his own in bonding forever with Shona.

So it’s fitting we should say our goodbyes on that great Scottish poet Robbie Burns’ birthday.

And so I’ll end with his words to a dear departed friend that feel so apt today:

“Few hearts like his, with virtue warm’d,

Few heads with knowledge so inform’d:

If there’s another world, he lives in bliss;

If there is none, he made the best of this.”

Steffan, 13 oed, yn annerch Cynhadledd Plaid Cymru 1997

Steffan Lewis – Teyrnged Bersonol

gan Dafydd Williams, Cadeirydd, Cymdeithas Hanes Plaid Cymru

Fe ddes i adnabod Steffan yn ystod yr etholiadau cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999.  Phil Williams oedd ymgeisydd y Blaid yn etholaeth Blaenau Gwent ac fel cyfaill iddo ef a chyn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru fe fues i’n rhan o’r ymgyrch fywiog a weinyddid o’n swyddfa yn y stryd fawr yn Nhredegar.  Byddai Steffan yn dod yn rheolaidd, yn troi lan bron bob dydd ar ĂŽl i’r ysgol ddod i ben.  Roedd tua 14 oed ar y pryd, ond roedd yn amlwg i bawb fod gydag ef botensial sylweddol.

Wrth i’r amser fynd heibio, roedd yn dda gweld iddo ddefnyddi’r ddawn gynhenid yna.  Pan safodd Steffan i annerch cynhadledd y Blaid neu’r Cyngor Cenedlaethol, byddai pobl yn gwrando.  Dangosodd eglurdeb gweledigaeth a dadansoddiad treiddgar o faterion cymhleth – yn arbennig o gynnydd herciog datganoli.  Llwyddai roi drosodd ei syniadau mewn ffordd gwbl ddiymhongar, ac fe enillodd gynulleidfa gynyddol.  Nid oedd yn syndod felly iddo gael ei ddewis ar ben rhestr ymgeisyddion Plaid Cymru yn Ne-ddwyrain Cymru na chlywed am y parch a roed iddo gan aelodau ar draws y pleidiau yn y Cynulliad – rhywbeth fu’n hatgoffa ni o’r parch a gawsai Phil Williams rai blynyddoedd ynghynt.

Tua deunaw mis yn ĂŽl, gwnaeth Steffan amser i deithio i Abertawe i gyfarfod ag aelodau o’r Blaid mewn noson gymdeithasol yn Abertawe, a rhoi gwybod i ni am y datblygiadau diweddaraf a’r holl gymhlethdodau a ddaeth yn sgil y refferendwm Brexit.  Bu hwnnw’n achlysur hyfryd ac ysbrydoledig a lwyddodd roi hwb i’n gweithgareddau yn Abertawe a GĆ”yr, noson na fyddwn ni fyth yn anghofio.  Fe ddaeth y newydd creulon am ei ddiagnosis fel ergyd anferth, a hynny ychydig o wythnosau yn unig ar ĂŽl iddo fod gyda ni, ac amhosibl amgyffred y poen a’r galar yng nghalonnau ei deulu.

Estynnwn ein cydymdeimlad a’n dymuniadau gorau i Shona, Celyn a’r teulu i gyd.

Dafydd Williams

 

Galarwyr y tu allan i Eglwys Cymraeg Abercarn

 

Cofio Geraint Thomas 1950 – 2018

Dyn mawr ei bersonoliaeth oedd Geraint Thomas. Gadawodd argraff annileadwy ar bawb a ddaeth i’w nabod. Magwyd ei sgiliau gwleidyddol yn ifanc: yn 12 oed llwyddodd gorfodi sgowtiaid Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth i chwifio’r Ddraig Goch yn lle jac yr undeb. Roedd seiliau’r ymgyrchwr wedi’i gosod. Ynghyd ñ’i gyfoedion Sharon Morgan, Sian Edwards, Dai Rees, Tony Jenkins ac eraill, bu’n rhan o ymchwydd egnïol y criw ifanc a gyfrannai gymaint at fuddugoliaeth Gwynfor yn ’66.

Roedd gan Geraint allu ymenyddol eithriadol (‘Proff’ oedd ei lysenw), hiwmor miniog ac ysfa dibendraw i ddysgu am y byd o’i gwmpas. Darllenai’n ddi-baid a byddai’n trafod unrhyw bwnc dan haul gydag unrhyw un, a hynny o safbwynt deallus a gwybodus. Graddiodd o Goleg yr Iesu, Rhydychen cyn dychwelyd i Gymru a dilyn gyrfa ym maes cynllunio.

Roedd Geraint yn ymgeisydd seneddol yn Aberafan yn ’74 a ’79, a bu’n gynghorydd tref am gyfnod hir yng Nghaerfyrddin, gan gyfrannu’n helaeth at les y dref oedd mor agos at ei galon.

Mewn cymaint o ffyrdd ni wireddwyd gwir potensial y dyn ifanc, a hynny oherwydd afiechyd a lethai ar hyd y blynyddoedd.  Ond fe’i gofir fel un talentog ac egnĂŻol a lwyddodd ysbrydoli eraill gyda’i frwdfrydedd. Tynnai pobl at eu gilydd;  roedd yn rym positif.

Yn sgil ei farwolaeth diweddar yn 68 oed mae wedi gadael atgofion hoffus a gwen ar wyneb pawb o’i ffrindiau. Mae colled ar ei îl, nid yn lleiaf i’w ferch, Ceridwen a’r wyrion.

Marc Phillips

Cofio John Harries 1925 – 2018

Talwyd teyrngedau i John Harries, Tycoch, Abertawe, aelod ffyddlon o Blaid Cymru, a fu farw yn 93 oed yn ystod Mis Awst.

Bu John yn beilot gyda’r RAF tua diwedd y rhyfel pan wasanaethodd yn y Dwyrain Pell cyn dychwelyd i gymhwyso’n bensaer, a gweithio yn Llundain ac yna Abertawe.  Daeth yn bensaer parhaol gyda’r Brifysgol yn Abertawe nes ymddeol yn gynnar yn 1982.

Mae’i deulu’n hanu o ardal Dinas Cross yn Sir Benfro, a byddai John yn atgoffa pobl taw fe oedd aelod hynaf Capel Tabor yn y pentref.  Cafodd ei fagu mewn nifer o leoedd yn ne a gorllewin Cymru nes i’w deulu symud i Lundain, ble addysgwyd John yn ysgol Streatham. 

Priododd ei wraig gyntaf, Gwenda, yn 1956 a ganwyd dau fab – Huw, sydd bellach yn byw yn y Swistir a Bryn, sydd wedi setlo yn Llundain.  Yn drist iawn, bu farw Gwenda yn ifanc, ac yn 1970 priododd Joy nes ei marwolaeth hithau yn 1996.  Daliodd John yn weithgar tan y blynyddoedd diweddar, gan helpu’n gyson gydag ymgyrchoedd y Blaid yn ei wyth-degau. 

Yn ei angladd, dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru Dafydd Williams y byddai John ymhlith y cyntaf i ddod i helpu mewn isetholiadau – fel arfer gyda’r Ddraig Goch yn cyhwfan o’i gar a chorn siarad yn atseinio neges y Blaid.

John Harries (chwith) gydag Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru Gorllewin Abertawe, Guto ap Gwent, yn y cyfrif yn y 1970au.

Gyda’i ddawn dechnegol, fe ddaeth John yn gyfrifol am ddarparu set llwyfan Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru ac yn creu gorchestwaith y byddai’r pleidiau mawr yn talu cannoedd o filoedd o bunnau am rywbeth tebyg – gan ddylunio, cynllunio ac adeiladau set llwyfan uchelgeisiol mewn caban yn ei ardd yn Nhycoch.

“Roedd John yn genedlaetholwr ymroddedig gyda syniadau radical – ac fe gredodd  mewn gweithio i droi ei weledigaeth yn ffaith”, meddai.

 

Mary Jones 1949 -2017

Esiampl i Bawb

Teyrnged i Mary Jones gan Elfyn Llwyd

Roedd gan Mary’r gallu bob amser i roi gwen ar wynebau pawb. Gallai hefyd godi arswyd ar rai – yn arbennig gelynion Plaid Cymru, achos oedd yn agos iawn at ei chalon. Er ei phrysurdeb byddai gan Mary bob amser i weithio dros y Blaid. Yn ei hamser bu Mary’n:

  • Gadeiryddes Cylch Meithrin Llanrwst
  • Ysgrifenyddes Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Gwydir am saith mlynedd
  • Un o Sylfaenwyr Clwb Gwerin Sgidiau Hoelia ac yn trefnu’r holl weithgareddau a nosweithiau
  • Arwain Clwb Ffermwyr Ifanc Llanrwst a’i llywio i ennill Rali Eryri dwy waith
  • Am 23 mlynedd yn rhedeg caffi ym Mart Llanrwst, Paned a GwĂȘn – rhaid oedd talu am y baned meddai ond roedd y wĂȘn am ddim!
  • Aelod brwd o Bwyllgor Sioe Llanrwst ac yn Gadeiryddes yn 2010

Toedd Mary byth yn hanner gwneud unrhyw beth. Roedd ganddi ymlyniad bore oes i glwb pĂȘl-droed Manchester United ac fel enghraifft o’r parch tuag ati daeth llythyr i law diwrnod neu ddau wedi iddi ein gadael. Hoffwn ddyfynnu rhan o’r llythyr hwnnw,

“I just want to write to you to thank you for your loyal support and devotion to the club. I understand that you are having a difficult time but hope that it helps to know that myself, the players and staff are all thinking of you. Jose Mourinho.”

Fel brodor o Ddyffryn Conwy roeddwn yn ymwybodol o waith da Mary dros y degawdau ond wedi i mi gael fy enwebu i sefyll yn etholiad 1992 deuthum i weithio’n agos Ăą hi gan dderbyn llu o gynghorion doeth. Byddai’n fy ffonio i ddweud pan yr oedd Mart pwysig yn Llanrwst er mwyn i mi gael cyfarfod cyn gymaint Ăą phosib o’r ffermwyr lleol. Dro arall yn fy nghynghori i beidio trafferthu siarad efo un neu ddau, “Blydi Tori – wast ar amser!”

Hi oedd y cyntaf allan efo’r taflenni ac yn canfasio, ac mae gwleidyddion yn son am y rhai sy’n cerdded y filltir olaf – hi oedd yr enghraifft orau i mi wybod amdani ac os oedd hi yn ymgymryd ag unrhyw waith – gwyddom ei fod felly wedi ei wneud.

Cofiaf, unwaith neu ddwy, wedi ymlĂądd ar ĂŽl diwrnod caled o ganfasio ac awydd rhoi’r gorau iddi am y tro. Dyna Mary’n dweud, “dim ond dwy stad arall – tyrd efo fi”. Pwy allai ei gwrthod? Roedd ei gweithgareddau diflino’n esiampl i bawb.

Y tro olaf i mi gael sgwrs iawn Ăą hi oedd yn Sioe Llanrwst ym mis Awst. Er ei bod mewn cystudd mawr roedd y wĂȘn gynnes yn amlwg, fel arfer.

Rwy’n falch o ddweud fod Mary wedi cael gwybod iddi gael ei hanrhydeddu gan y Blaid yn y Gynhadledd yng Nghaernarfon. Roedd hi ar ben ei digon. Mae’r Blaid wedi colli aelod ffyddlon a chryf ac mae pawb a gafodd y fraint o’i hadnabod wedi colli ffrind annwyl iawn. Diolch amdani.

 

 

Hanes Plaid Cymru