Janice Dudley 1944 – 2017

Menyw Wirioneddol Ysbrydoledig

Dai Lloyd AC yn rhoi teyrnged i Janice Dudley

Collodd y Blaid aelod unigryw yn gynharach eleni yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd ysbrydoledig a gweithgar o Gastell-nedd Port Talbot, Janice Dudley. Wnaeth Janice weithio’n ddiflino dros y Blaid dros nifer o flynyddoedd.

Yn 2004, ymunodd â rhengoedd cynrychiolwyr etholedig y Blaid yn dilyn ei hetholiad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, gan gynrychioli ward De Bryncoch. Cynrychiolodd ei hardal gydag egni ac ymroddiad, a chafodd hyn ei gydnabod gan drigolion lleol wrth iddynt ei hail-hethol dro ar ôl tro.

Roedd y gefnogaeth leol yma yn weladwy ym mis Mai eleni eto, gyda thrigolion Bryncoch yn sicrhau bod Janice yn ennill mwyafrif swmpus dros y Blaid Lafur. Ond nid oedd y lefel yma o gefnogaeth yn syndod – roedd Janice yn fenyw wirioneddol ysbrydoledig, bob amser mor bositif ac egnïol. Roedd y bersonoliaeth gynnes yma yn denu pobl o bob cefndir, yn ifanc ac yn hen, o bob plaid wleidyddol.

Eleni gwelwyd Janice yn cael ei anrhydeddu am flynyddoedd o weithredu lleol wrth ddod yn Faer Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot. Fel y disgwyl, rhoddodd Janice bopeth i’r rôl, a’i wneud yn ei ffordd angerddol ac urddasol ei hun.

Ers ei marwolaeth, bu teyrngedau’n llifo o ystod eang o bobl, ac mi ddaeth i’r amlwg y lefel o barch oedd gan bobl tuag ati.

Yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid yng Nghaernarfon, derbyniodd Amanda, sef merch Janice, wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ ar ran ei mam, am y blynyddoedd o waith caled a wnaeth Janice ar ran y blaid. Roedd yn anrhydedd gen i i allu cyflwyno’r wobr honno i gydnabod gwaith unigryw aelod blaenllaw yn yr ardal, ond rhywun oedd hefyd yn ffrind personol.

Bu colli Janice yn ergyd enfawr yn lleol, ond fel cydweithwyr a ffrindiau, rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth y gallwn i sicrhau bod ei hetifeddiaeth yn parhau yn Ne Bryncoch a thu hwnt.

Jim Criddle 1947 -2017

Cawr Diymhongar

Helen Mary Jones yn rhoi teyrnged i Jim Criddle

Cefais y fraint yn y Gynhadledd y mis diwethaf o gyflwyno gwobr gwasanaeth oes i deulu’r diweddar Jim Criddle, gweithiwr a chynghorydd Plaid Cymru am flynyddoedd ym Mhontllanfraith.

Yn ôl pob sôn bu Jim ar un cyfnod yn aelod o’r Blaid Lafur; chymrodd hi ddim yn hir iddo weld y goleuni. Cafodd ei berswadio gan ei hen ffrind Malcolm Parker i sefyll  dros Blaid Cymru mewn etholiad cyngor yn gynnar yn y 70au, a dyna gychwyn ar ymroddiad oes i Blaid Cymru a chyfanswm o dros 30 mlynedd o wasanaeth fel cynghorydd.

Yn ystod yr un cyfnod dechreuodd Jim ddysgu Cymraeg, a llwyddodd yn hynny o beth. Trwy’r gwersi yma y daeth ar draws ei wraig Rhian Heulyn, ac fe fagodd y ddau deulu Cymraeg ei iaith, Betsan, Geraint a Branwen. Daeth gweithio dros y Blaid yn brosiect teuluol. Mae’r plant yn cofio rheolau euraid Jim ynglŷn â thaflennu – cadwch y glwyd yn union fel ag yr oedd, peidiwch â phoeni cŵn a pheidiwch BYTH BYTHOEDD â dringo dros waliau rhwng gerddi – waeth faint o risiau y mae’n rhaid i chi eu dringo!

Lle bynnag roedd angen gweithio dros y Blaid, fe fyddai Jim yno – yn taflennu, canfasio, rhedeg y gangen, gweithio i’r Undeb Gredyd – dim y dasg oedd yn bwysig i Jim ond yr achos

Yn ogystal â’i waith dros Blaid Cymru fel cynghorydd, ei swydd fel athro a’i ymrwymiadau teuluol, roedd Jim, gyda’i wraig Rhian, yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg yng Ngwent. Bu’n frwydr galed, ond daeth llwyddiant. Roedd Jim mor falch pan agorwyd Ysgol Gyfun Gwynlliw.

Roedd Jim yn caru ei deulu, roedd yn caru ei gymuned ac roedd yn caru Cymru. Bu’n gweithio’n dawel dros yr hyn yr oedd yn credu ynddo. Bu farw’n rhy gynnar. Fe fydd ei deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn cofio’r cawr diymhongar. Mae Cymru angen rhagor o bobl fel Jim Criddle.

Gordon Wilson, SNP 1938 – 2017- teyrnged gan Dafydd Wigley

Yn 79 mlwydd oed, bu farw cyn-arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban Gordon Wilson yn ddiweddar. Bu Gordon yn gyfaill mawr i Gymru. Mae Plaid Cymru’n estyn ein cydymdeimlad i’w weddw Edith a’i deulu, ac i’n cyfeillion yn yr Alban a’r tu draw. Ceir teyrnged yma gan ei gyfaill Dafydd Wigley a weithiodd gydag ef dros ein dwy wlad.

Gordon Wilson, SNP – teyrnged gan Dafydd Wigley

Roedd Gordon yn gyfaill mawr i Gymru ac yn genedlaetholwr i’r carn.

Cofiaf i’r ddau ohonon ni gyfarfod yn ysgol haf Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1965 pan fu’n Ysgrifennydd Cenedlaethol yr SNP, a bu’n ymweld â Chymru lawer dro.

Cafodd y ddau ohonon ni ein hethol i San Steffan ym Mis Chwefror 1974 a chydweithio drwy ddyddiau drycin Deddfau Datganoli 1978 a’r Refferenda yn 1979 pan rwystrodd y rheol anghyfiawn 40% yr Alban rhag ennill eu Cynulliad Cenedlaethol, er gwaethaf cefnogaeth y rhan fwyaf o’r bobl yn y wlad honno a bleidleisiodd.

Yn yr etholiad nesaf a ddilynodd gwymp llywodraeth James Callaghan, collodd yr SNP 9 o’u 11 sedd – gyda neb ond Gordon a Donald Stewart ar ôl i gydweithio gyda Dafydd Elis Thomas a minnau.

Aethon ni ymlaen i ddadlau’r achos dros ein dwy genedl, nes i Gordon golli ei sedd yn Dundee yn 1987. Erbyn hynny, roedd Margaret Ewing ac Andrew Welsh wedi adennill eu seddi, a chawson nhw gwmni Alex Salmond, gan arwain at yr ymgyrch a sicrhaodd ein dwy senedd yn y pendraw.

Bu Gordon yn berson allweddol, ar adeg dyngedfennol o dyfiant yr SNP yn blaid seneddol o bwys. Mae ar yr Alban ddyled enfawr iddo ac rydyn ni yng Nghymru yn cofio amdano.

Ifor Jenkins 1927 – 2017

‘Welwn ni ddim mo’i debyg ‘to’

Arian byw o ddyn, y disgrifiad gore, dyn a wasanaethodd ei gymuned ar sawl lefel am gyfnod hir.

Roedd cannoedd yn yr angladd yn Eglwys Mihangel Sant, Tongwynlais, ar Fawrth 20, a dwsinau’n gwrando tu fas. Roedd Ifor George Jenkins wedi marw’n 90 oed a derwen gadarn wedi cwympo. Yn y gwasanaeth Band Dirwest Tongwynlais oedd yn cyfeilio, yr un roedd wedi ymuno ag e yn 1953 pan oedd yn canu’r cornet.
Ifor Jenkins arweiniodd ymgyrch i adnewyddu’r hen ffynnon

Cafodd ei eni a’i fagu yn Ffynnon Taf cyn mynd i Ysgol Ramadeg y Bechgyn Caerffili. Pan oedd yn llanc gwibiai yn ôl ac ymlaen ar feic yn cludo negeseuon i’r heddlu oedd yn yr orsaf fydd yn cael ei hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru.

Un diwrnod aeth i mewn i swyddfa recriwtio a phenderfynu ymuno â’r llynges. Os yw’r stori’n wir, yn lle derbyn cyfarwyddyd negododd Ifor fel y gallai ymuno â’r adran gyflenwi. Fe aeth i Ceylon ac ar ddiwedd y rhyfel fe gafodd gynnig aros yn y llynges ond fe ddaeth yn ôl am fod ei deulu’n bwysig.

Ar ôl y rhyfel fe oedd asgellwr chwimwth y tîm rygbi. Roedd yn gynghorydd Taf-Elái o 1973 tan 1991, fe a Gordon Bunn yn gwasanaethu’r ardal i’r Blaid cyn i Gerald Edwards ymuno â’r criw. Ymfalchïodd Ifor yn y ffaith ei fod yn Faer Taf-Elái yn 1991-2, yr aelod cyntaf o Blaid Cymru i ddala’r swydd.

Pan oedd yn gynghorydd roedd wedi gweithio’n galed yn gwella tai, yn dod o hyd i dai i bobol leol. Yr adeg honno roedd gan gynghorydd fwy o rym. Yn 1993 fe ddaeth yn gadeirydd Tai Hafod a Chymdeithas Gofal ac Atgyweirio (Pen-y-bont).

Un o’i hoff feysydd oedd addysg. Fe gynorthwyodd i sefydlu’r ysgol feithrin yn Ffynnon Taf. Fe ddaeth yn llywodraethwr Ysgol Gynradd Ffynnon Taf – roedd wedi bod yn ddisgybl ac yn gwybod ei hanes i gyd.

‘Fe o’dd Mistyr Ffynnon Taf,’ meddai’r cyn Cynghorydd Adrian Hobson, un o’i ffrindiau agosâ. ‘Ro’dd yn nabod pawb, yn creu argraff ar bobol ble bynnag o’dd e’n mynd.’

Ifor drefnodd lifoleuadau i’r clwb pêl-droed a diogelu adeilad y ffynnon. Roedd yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Crochendy Nantgarw a dadlau’n effeithiol o blaid ailagor y gwaith yn 1991. Roedd yn aelod o is-bwyllgor y clwb rygbi a chwarae rhan allweddol yn y broses adleoli. Cefnogodd y clwb bowlio i’r carn.

Fe ddaeth yn rheolwr Gwasg Ladycat ar Stad Ddiwydiannol Trefforest ac ar un adeg roedd yn rheolwr gwerthu a’i gwsmeriaid yn estyn o Gaerwysg i Birmingham a draw i orllewin Cymru. Mewn colegau yn Aberdâr a Phontypridd roedd yn ddarlithydd astudiaethau busnes.

‘Roedd yn llawn egni,’ meddai Adrian. ‘Wy ddim yn siŵr o ble da’th yr egni. Bydd y pentre’n dlotach hebddo fe.’

Oherwydd ei frwdfrydedd, ei ddyfalbarhad, ei gynhesrwydd a’i hiwmor roedd pob plaid yn ei barchu. ‘Ro’dd e’n ddyn agored iawn,’ meddai Adrian. ‘Os nag o’dd e’n cytuno â rhywbeth, fe fydde fe’n dweud yn syth. Ro’dd yn ddibynadwy.

‘Yn fwy na dim, ro’dd e’n onest ac yn egwyddorol. Dim byd mawreddog. Wy erio’d wedi cwrdd â rhywun fel Ifor. Welwn ni ddim mo’i debyg ‘to.’

Ein rhodd oedd dyn amryddawn.
Ein cur, heb ei ddur na’i ddawn.

Martin Huws

 

Howard Davies 1950 – 2016

COLLI CAWR O’R CWM:

 

Ysigwyd ei gyfeillion a thrigolion yr ardal o glywed am farwolaeth y cyn-gynghorydd Howard Davies, Cwrt Alun Lewis, ar bnawn dydd Llun, 12 Medi, yn Ysbyty Merthyr. Roedd yn 66 oed.

 

Perthynai Howard i un o deuloedd mwyaf adnabyddus Cwmaman a thu hwnt. Hen dad-cu iddo oedd y bardd gwlad Isaac Edmunds (Alaw Sylen), Abercwm-boi, y bu ei englynion yn britho am flynyddoedd bapurau Cymraeg y fro yr oes a fu (Y Gwladgarwr a’r Darian). Merch y bardd, a mam-gu Howard i bob pwrpas, oedd un o artistiaid enwocaf Cwmaman a Chwm Cynon ei dydd: gwraig a elwid gan bawb (yn ôl ffasiwn yr oes) yn ‘Madam Elizabeth Edmunds Price’. O’r un ach y tarddai un o farnwyr amlycaf yr 20G, yr Arglwydd Ustus Edmund Davies a anwyd yn Aberpennar.

 

Edmund Davies, fel cyfreithiwr ifanc, fu’n amddiffyn un o’r ‘Tri’ a losgodd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth, Llŷn, ym 1936 – achos a roddodd yr hwb mwyaf (medd rhai) i genedlaetholdeb Cymreig yr 20G. Ef hefyd, fel barnwr profiadol, a glywodd achos y Great Train Robbers ym 1963; ac ef a benodwyd gan y prif weinidog Harold Wilson i gadeirio’r Ymchwiliad a fu i achos Trychineb Aber-fan (a ddigwyddod ar y 21 Hydref, 1966 – union hannercan mlynedd yn ôl i’r mis hwn).

 

Yn naturiol, bu Howard yn falch o’r cysylltiadau hyn ac yn eu harddel yn yr enw canol, Edmund, a gafodd gan ei rieni Trevor a Nancy Davies. Bu ei dad-cu arall (Tomos Dafis ‘Drapwr’ i’r hen drigolion) yn löwr ac yn ddiacon yn Seion ochr-yn-ochr â thad-cu’r gohebydd hwn. Bu ein mamau yn gyfeillion pennaf ar hyd eu hoesau hefyd – fel y bu Howard a minnau gydol ein dyddiau tan ei farw. Cymaint felly nes bod llawer, pan oeddem yn blant (ac oherwydd tebygrwydd enwau), yn tybied taw brodyr oeddem. Ar lawer cyfri, buom; a diau hyn sy’n peri imi ing am un a fu yn gyfaill cyntaf fy oes.

 

Carai Howard Gwmaman a’i phobl. Bu’n rhan amlwg o fywyd yr ardal ar hyd ei fywyd. Fe’i codwyd yn Byron Street a Milton Street a – lawn cymaint – Seion: yn un o ‘gywion’ Idwal Rees a saint yr achos teilwng hwnnw. Anorfod felly, wedi sefydlu Ysgol Gymraeg Aberdâr ym 1949, y byddai Howard yn mynd iddi ym 1955 gan aeddfedu’n Gymro naturiol o waed ac awydd tan y diwedd.

 

Wedi iddo fynychu Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr (cyn oes Rhydfelen ac ysgolion tebyg), aeth i Goleg Hyfforddi Cyn-coed. Ond ni apeliai gyrfa athro iddo a gadawodd i ymuno a gwasanaeth Treth y Wlad yn Llanisien. Yno yr arhosodd nes iddo ymddeol ryw chwe blynedd yn ôl.

 

Os taw yng Nghaerdydd y bu ei draed weithiau, yng Nghwmaman y bu ei galon bob tro. Bu ganddo ddiddordeb affwysol mewn chwaraeon – paffio, reslo, ceffylau, moduro ac, yn arbennig, byd y bêl gron. Er nad oedd ef ei hun erioed yn fawr o chwaraewr ar y cae, ymroddodd at hybu pel-droed yng Nghwm Cynon a Chwmaman – lle byddai hynt FC Cwmaman bob amser yn denu ei bryd.

 

Bu’n ysgrifennydd ac yna’n gadeirydd y clwb am flynyddoedd di-ri; ac ef fu’n gwthio’n fwy na’r un i gael meysydd chwarae a chyfleusterau newydd i ieuenctid y cylch yng Nglynhafod (gan fynnu enw Cymraeg – ‘Canolfan Cwmaman’ – ar y cyfan).

 

Gwasanaethodd fel cynghorydd ardaloedd De Aberaman yn enw Plaid Cymru rhwng 1991-95 ac eto rhwng 2008 a 2012. Ar ddechrau’r ‘90au, fe’i penodwyd yn llywodraethwr ac yna’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Glynhafod: swydd a ddaliai tan ddiwrnod ei farw (er na fu modd iddo fod mor gyson â chynt yn eu cyfarfodydd yn ystod tri mis olaf ei fywyd). Bu’r swydd hon wrth fodd ei galon, ac uniaethai yn ddi-feth ag athrawon, rhieni a phlant yr ysgol gan roi o’i orau iddynt am chwarter canrif.

 

Dirywiodd iechyd Howard yn fawr yn ystod y pum mlynedd diwethaf a bu teithio ‘nôl ac ymlaen i ysbyty yn rhan annatod o’i fywyd. Cafodd gyfoeth o gefnogaeth gan ei gyfeillion – nid yn unig ar gyfnodau heulog ond pan fu’n fain arno hefyd. Dylid nodi enwau Philip a Beryl Northey, Alan Hoare, Gwyneth Edwards ac eraill mewn aur am eu ffyddlondeb di-ffael iddo dros gyfnod maith.

 

Cynhaliwyd angladd Howard yn Amlosgfa Llwydcoed fore Gwener, 23 Medi, gyda lluaws yn arddel parch ac yn talu’r gymwynas olaf iddo yno.

 

Fy mraint innau – er mor anodd – fu traddodi teyrnged o galon iddo: teyrnged a leisir hefyd yn yr englynion hyn…

 

DLD.

 

Aneurin Richards 1923 – 2016

‘Dyn o egwyddor’

Teyrnged Jim Criddle i Aneurin Richards

 

Aneurin RichardsAneurin oedd William Aneurin Richards i bawb, heblaw ei wraig. Bill oedd e iddi hi. Roedd yn Uwch-beiriannydd gyda’r Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dreulio’r rhan fwyaf o’i oes yng Ngwent, er mai brodor o Gapel Hendre oedd e’n wreiddiol. Roedd yn Gynghorydd Sir yn Islwyn rhwng 1973 a 1996 ac yng Ngwent rhwng 1977 a 1981. Fe wnaeth e sefyll fel ymgeisydd Seneddol yn Abertyleri yn y ddau etholiad cyffredinol a ddigwyddodd yn 1974, a hefyd yn Islwyn ar gyfer 1983 a 1987.

Ni all y ffeithiau moel roi darlun clir o’r dyn ei hun. Fe oedd y dyn ddaeth a Helen Mary Jones a Jocelyn Davies mewn i’r Blaid ac ef a ‘berswadiodd’ Allan Pritchard i sefyll mewn etholiad. Roedd yn ddyn o egwyddor, dyn galluog a dyn urddasol tu hwnt. Roedd yn uchel ei barch ymysg y swyddogion a’r aelodau ar y ddau gyngor y buodd yn gwasanaethu iddynt. Fe wnaeth oruchwylio’r gwaith o sefydlu cangen Islwyn o Blaid Cymru pan wnaeth wardiau Abercarn ac Abertyleri uno â wardiau Bedwellte, gan sicrhau fod seiliau ariannol yr etholaeth yn gadarn yn sgil ei waith fel Trysorydd. Fe oedd yr arweinydd grŵp drwy gydol ei yrfa o 20 mlynedd mewn llywodraeth leol ac roedd yn dangos y ffordd gyda’i egwyddorion cryf a’i esiampl gadarn gan ennyn parch ac edmygedd ei gyfoedion. Roeddem i gyd yn gweld ein hunain fel ‘plant ein tad’ – roeddem yn ei alw’n Dad, gan edmygu ei allu deallusol a’i arbenigedd mewn polisi tai. Cafodd ei wneud yn llefarydd y Blaid ar y mater yn sgil ei arbenigedd ar y pwnc. Fe ddywedom erioed mai ei foto oedd ‘teimlwch yn rhydd i anghytuno â mi’ ond doedd e ddim yn unben o unrhyw ddisgrifiad, gan ei fod yn dadlau ei safbwynt mewn modd rhesymegol a theg. Roedd yn eithriadol o hael gyda’r Blaid ac fe lwyddodd i gynnal ei ddiddordeb tan y diwedd un. Ei waddol yw etholaeth weithredol, hunangynhaliol yn ogystal ag atgofion a pharch y rheini mae wedi eu gadael ar ei ôl.

 

GWYNETH MENAI WILLIAMS, 1938-2016

GWYNETH MENAI WILLIAMS, 1938-2016    

Syrthiodd un o gonglfeini’r hen Gwmaman o’i lle ym muriau Amser pan glýwyd diwedd Gorffennaf am farwolaeth Gwyneth Menai Williams, Dan-y-rhiw, ychydig cyn iddi gyrraedd ei phen-blwydd yn 78 oed.   Ymroddai at ei chymuned ac at wleidydda, gan sefyll droeon yn enw Plaid Cymru i’w hethol i hen Gyngor Bwrdeisdref Cwm Cynon. Er i’r Blaid bryd hynny roi tîmau cryf gerbron a threfnu yn egnïol yn wardiau Aberaman a De Aberaman, Gwyneth, gan amla’ oedd ymgeisydd blaen yr ymdrech a’i hwyneb cyhoeddus amlycaf. Cymaint felly nes iddi gael ei ‘nabod gan lawer tan y diwedd fel ‘Gwyneth Plaid’.  

Brwydrai Gwyneth yn ddi-dor yn erbyn dominiddiaeth y Blaid Lafur, oedd wedi ennill popeth yn y ward ers y 1920au cynnar. Sefodd ym 1973, 1976, 1979, 1983 (pan rannwyd Aberaman yn Ogledd a De), 1986 a 1987. Y flwyddyn honno, bu iddi bron â llwyddo disodli un o gynghorwyr y Blaid Lafur yn Ne Aberaman o ennill 742 pleidlais i 766 Llafur.   Ym 1991, ar ôl i Gwyneth ac eraill fraenaru’r tir, torrodd argaeau y Blaid Lafur ac enillodd y Blaid dair sedd De Aberaman ar y cyngor dosbarth mewn un trawiad a gyda mwyafrifoedd da, gan wneud yn debyg yng ngornest y cyngor sir ym 1993 wrth ennill 65% o’r bleidlais.   By Gwyneth ar ben ei digon – er ychydig yn eiddigeddus taw i eraill y ‘syrthiodd Jericho’ ac nid iddi hi (oedd yn adwaith naturiol wrth gwrs). Daliai i fod yn weithgar er na sefodd hi eto. Pe bai modd, ni chollai funud o bresenoldeb y tu allan i orsaf bleidleisio Cwmaman mewn etholiad, na’r un Cyfrif chwaith, nes iddi golli ei symudedd fwyfwy wrth heneiddio.

Fel asiant y Blaid yn etholiadau’r ardal yr adeg honno, gwyddwn fod ei phresenoldeb yn unig o bwys yn y Cwm a mawr fyddai fy niolch iddi.   Gedy ei chymar, Norman; tair merch, Susan, Janet a Siân; eu gwŷr hwythau; ei hwyrion a’i hwyresau; ei brawd Gareth a’i wraig a llu o gyfeillion i alaru amdani.   Ond dathlwn hefyd ei henw; ei chymeriad hoenus; ei synnwyr digrifwch heintus a’i chyfraniad parod i’w chymuned ac i bawb o’i chwmpas.   Gwir y dywedir bod coffa da ar led amdani.

Dewi Wynne Thomas, 1925 – 2015

Cymeriad diddorol, unigryw oedd Dewi Wynne Hughes Thomas – er taw ‘Dewi’ yn unig fyddai’n ddigon i bawb yn Aberdar ar un adeg, ac ar Hirwaun yn benodol, wybod yn syth am bwy y byddech yn sôn.

Dewi Wynne Thomas 1925-2015 Aberdar

Fe’i ganed yng Nghwmbach ar 2 Mawrth, 1925 i rieni oedd â’u gwreiddiau (fel cynifer bryd hynny) yng ngorllewin Cymru: gyda theulu ei dad yn hanu o Sir Benfro a theulu ei fam yn tarddu o Bontrhydfendigaid, Ceredigion. A gellid dweud â chryn wirionedd nad oedd Dewi ei hun heb arlliw’r gwladwr ar ei iaith, ei osgo a’i Gymreictod.
Fe’i codwyd o fewn teulu o Fedyddwyr a fynychai capel Bethania, Cwmbach cyn i Dewi ei hun ymaelodi yn Ramoth ar ôl iddo symud i Hirwaun i fyw, a chyn iddo, maes o law, ymuno â’r Eglwys Gatholig. Nid ef oedd yr unig Gymro Cymraeg i gymryd y cam annisgwyl hwn gan fod eraill o’r ardal (Dewi Davies, Heol-y-felin; Ieuan Wyn Jones, Penrhiwceiber; Mair Owen, Cwmaman) wedi gwneud yn debyg o’i flaen. Ond daliai i fod yn gam digon prin yn y ganrif ddiwethaf i’w wneud yn neilltuol.

Aeth Dewi i Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberdâr cyn mynd i’r RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yno, hyfforddodd fel mordwywr (navigator). Wedi’r Rhyfel, ail-hyfforddodd fel syrfëwr gyda’r NCB yn yr Ysgol Fwyngloddio yn Nhrefforest a aeth yn Brifysgol De Cymru wedyn. Ym 1949, priododd â’i wraig Josie, un o deulu Susan a Michael Burke, Hirwaun a ganed iddynt ferch, Madeleine, a godwyd yn Gymraes o’r iawn ryw.

Wedi cyfnod gyda’r NCB, gweithiai Dewi fel syrfëwr i gwmni John Laing ar sawl cywaith mawr a fu ar droed yn Lloegr yn ystod y 1950au, gan gynnwys Atomfa Sizewell, y Bull Ring, Birmingham, a’r M1. Cofiai Madeleine ei thad yn ei gyrru hi a’i mam ar hyd rhan o’r draffordd honno y noson cyn iddi gael ei hagor yn swyddogol gan y Frenhines yn Nhachwedd 1959 !

Symudodd Dewi a’i deulu yn ôl i Gymru ddiwedd 1959 gan ymgartrefu yn Aberhonddu. Yno, a than ei ymddeol, gweithiai fel syrfëwr o fewn llywodraeth leol, gan gynnwys i gynghorau Brycheiniog, Morgannwg, Abertawe ac Aberdâr (neu Gwm Cynon fel y daeth i fod ym 1974). Ond bu ei orwelion yn ehangach na’i waith dyddiol yn unig; a thra’n byw yn Aberhonddu ddechrau’r ’60au, cymerodd gam arall a’i osododd ar wahan i relyw ei gyfoedlion – hyd yn oed ei gyd-Gymry. Ymunodd â Phlaid Cymru. Nid oedd Dewi yn un i gelu barn na chuddio egwyddor pe bai argyhoeddiad yn ei daro.

Ymunodd â’r Blaid cyn i’r fath beth dyfu’n gyffredin fel y mae bellach. Dyma gyfnod cyn is-etholiad Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin (1966), cynnwrf etholiadol y ’60au a’r ’70au ac ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd, maes o law, at senedd (o fath) i Gymru a chodi statws y Gymraeg. Yn hyn o beth, gellid dweud yn deg y bu Dewi yn un o gnewyllyn o arloeswyr – yn sicr yn yr ardaloedd yma – a heriai’r Blaid Lafur yn ei chaerau pan nad oedd modd disgrifio’r fath weithred ond fel ‘talcen go galed’ !

Ond dyna sut un ydoedd: yn eirias dros y Gymraeg a thros yr hyn a gredai oedd er lles Cymru a’i phobl. Nid llugoer mohono mewn dim a wnai !

Ar symud i Tudor Tce., Hirwaun, ym 1963, aeth yn gynghorydd yn enw’r Blaid ar Gyngor Gwledig y Rugos (peth tra anghyffredin ar y pryd); ac ym 1964, safodd fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Aberdâr (fel y’i gelwid ar y pryd). Er iddo ennill ond 2,723 pleidlais (7.2%) o gymharu â’r 29,106 (77.4%) a gafodd Arthur Probert i’r Blaid Lafur, gwnaeth ei farc yn anrhydeddus: cadwodd ernes y Blaid (peth digon prin bryd hynny) ac aeth heibio i’r 2,165 a gafodd ei gyfaill a’i gyd-Aberdariad, Trefor Morgan, yn etholaeth anos fyth Brycheiniog a Maesyfed.

Gosododd sylfaen i eraill adeiladu arni o gofio taw ymgyrch 1964 oedd y gyntaf erioed i mi, fel glaslanc 16 oed – ac eraill y gallwn eu henwi – ymuno ynddi ar ran Plaid Cymru. Mwyn yw’m cof o droi i fyny yn ‘swyddfa’ etholiad y Blaid am y tro cyntaf a chael Dewi Thomas a Ted Walters yn cymryd yn garedig ata’i gan ddweud “Dera man’yn, ‘ach’an, i ni ddyngos iti beth i ‘neud” wrth baratoi taflenni i’w dosbarthu !

Daliai Dewi i weithio fel syrfëwr a bu wrthi’n helpu gosod yr A465 newydd (‘Ffordd Blaenau’r Cymoedd’) a agorwyd ym 1964. Gweithiai am flynyddoedd fel syrfëwr ysgolion a meysydd chwarae i awdurdodau addysg y cyffiniau ac ymrodd i’r gymuned y bu’n byw ynddi gan weithredu fel warden Clwb Ieuenctid y Rugos, clerc Cyngor Plwyf Penderyn ac fel aelod ffyddlon Cymrodorion Aberdâr.

Ym 1979, priododd ei ferch Madeleine (cyfreithiwr erbyn hynny) â Neil Bidder a ganwyd iddynt ddau fab, Rhys a Patrick, yn y man. Gyda hyn, daeth Dewi a Josie yn dad-cu a mam-gu balch. Ymhen ychydig, ac yntau yn ei chwedegau, penderfynodd Dewi droi at yr Eglwys Gatholig fel gweddill ei deulu. Er bod hyn yn gam annisgwyl i rai, ymrodd yn ddidwyll i’w eglwys newydd. Diddorol, wrth fynd heibio, yw nodi bod Madeleine – a fagwyd yn Gatholig – yn un o arweinwyr ac ymddiriedolwyr Y Cylch Catholig: mudiad yn yr Eglwys Babyddol sy’n anelu at godi statws a defnydd y Gymraeg oddi mewn i’r cymundeb Catholig.

Wedi iddo ymddeol oddeutu 1990, penderfynodd Dewi a Josie symud i Gaerdydd i fod yn nes at eu merch a’i theulu yno. Cymerai Dewi bob cyfle i chwarae tenis a rygbi gyda’i ŵyrion; ond, o dipyn i beth, aeth Josie dan lach afiechyd yn ystod deng mlynedd olaf ei hoes. Yn dilyn ei marwolaeth, cafodd Dewi rai blynyddoedd o deithio’r byd – i’r Swisdir, Sbaen ac UDA – cyn iddo ddechrau colli ei olwg wrth heneiddio. Bu rhaid iddo hefyd golli rhan o un goes ac aeth i fyw mewn gofal yng nghartref Dyfryn Ffrwd, Nantgarw – lle (fel y dywed ei ŵyr Rhys) y rhoddodd Dewi “wersi dwys yn y Gymraeg i’r staff yn gyfnewid am y gofal a gai” !

Bu farw Dewi yn dawel, yn 90 oed, yng nghartref Dyffryn Ffrwd ar yr 28 Rhagfyr 2015 a chynhaliwyd offeren requiem iddo yn Eglwys Sant Therese de Lisieux, Hirwaun ar ddydd Llun, 11 Ionawr, 2016 gyda chladdedigaeth ym mynwent Aberdâr wedyn.

Yn un o’r gwasanaethau Cymreiciaf a gaed yn yr eglwys honno, mae’n debyg, darllenwyd yn Gymraeg gan ei ŵyr, Patrick, a thraddodwyd teyrnged i’w dad-cu gan Rhys: y naill ŵyr yn athro yn Llundain a’r llall yn economegydd gyda banc canolog UDA, y Federal Reserve, yn San Francisco. Canwyd Calon Lân ar ddechrau’r offeren a Dros Gymru’n Gwlad i’w diweddu: dau emyn a grynhodd cymaint a nodweddai fywyd anrhydeddus a chyfraniad gwerthfawr Dewi Wynne Thomas, Hirwaun, gŵr y bu yn fraint ei ‘nabod.

(Carwn ddiolch i Madeleine am ei chymorth wrth baratoi’r ysgrif hon).

 

DLD.

 

 

 

                                                                                                                                      Clochdar-276:

Teyrnged i Glyn Erasmus 1945 – 2016

Teyrnged i Glyn Erasmus

gan Jim Criddle a’i ffrindiau yn y Coed Duon.

Glyn Erasmus

Roedd Plaid Cymru mewn sioc pan glywon ni am farwolaeth Glyn ac ers hynny rydym wedi bod yn galaru. Bu farw yn gwbl annisgwyl yn ei gartref yn y Coed Duon nos Wener, Ionawr 15fed.

Fe ymunodd Glyn â’r Blaid flynyddoedd lawer yn ôl, ar adeg pan nad oedd bod yn aelod yn ffasiynol nag yn ffordd o gael troed ar yr ysgol yrfaol. Fe ymunodd oherwydd ei fod yn caru ei wlad ac yn mwynhau her. Yn wir, roedd yn ddyn oedd yn ei elfen pan roedd yn wynebu her. Roedd ei waith proffesiynol fel peiriannydd yn golygu ei fod angen teithio’n aml gan fynd ag ef dramor a llesteirio ei allu i gyfrannu tuag at wleidyddiaeth Cymru.  Ond pan ddaeth yn drefnydd ar Grŵp Cynghorwyr CCBC cafodd y rhyddid i ymrwymo ei hun lawn-amser i’r achos cenedlaethol.

Roedd gan Glyn y ddawn o fod â meddwl trefnus ac agwedd drylwyr tuag at bopeth a wnâi. Yn sgil hyn disgwyliai weld taflenni data, adroddiadau a’r math o gynllunio oedd wedi ei selio ar wybodaeth fanwl a chywir. Roedd yn rhywun oedd yn barod i herio’r drefn pan roedd yn gweld bod pobl yn rhoi teimlad greddfol cyn y ffeithiau, waeth pwy bynnag oedd y person hwnnw. Doedd neb yn fwy hoff o ddadl nag oedd Glyn a gyda’i hiwmor direidus byddai wastad yn gofyn “pam”?

Roedd Glyn yn weithredol ar bob lefel o’r Blaid: fe safodd fwy nag unwaith fel ymgeisydd mewn etholiadau Cyngor yn Islwyn a Chaerffili; roedd yn Gynghorydd Tref dros y Coed Duon lle’r oedd yn Faer rhwng 2014 a 2015; roedd yn Gadeirydd Cangen Sirhywi; Trysorydd ei Etholaeth; Cadeirydd yr Undeb Gredyd; Cynrychiolydd Rhanbarthol ar gyfer y De Ddwyrain ac wrth gwrs yn Drysorydd Plaid Cymru (ond nid bob un o’r rhain ar unwaith!). Roedd Glyn llawn egni a rhoddai ei amser yn hael, er ei fod yn casáu gwastraffu eiliad. Roedd yn troi lan i bob dim a wastad yn fodlon gwneud y math o dasgau lle mae angen trefn a manylder, cyn belled â’i fod yn credu bod y canlyniad yn un gwerth ei gyrraedd. Roedd yn arbennig o dda yn cefnogi aelodau ieuengach y Blaid ac mi gafodd lawer iawn ohonyn nhw help ganddo i sefydlu eu gyrfaoedd gwleidyddol.

Roedd Glyn yn genedlaetholwr mawr, ond nid oedd iddo owns o sentimentaliaeth a gallai fod yn eithaf pengaled: doedd ganddo ddim cywilydd o’r ffaith ei fod wedi mopio â’i deulu. Roedd yn siarad amdanynt gyda balchder pur, yn enwedig ei wyres gyntaf Bronnie, ac roedd ei ringtone ‘Lady in Red’ ar gyfer ei wraig Carol yn dweud y cwbl.

Berian Williams 1928 – 2015

Cofio Berian Williams

Nid pawb sy’n cael ei adnabod gan ei enw bedydd yn unig. Roedd Gwynfor, Saunders ymhlith yr ychydig rhai. Roedd Berian yn un yn yr un cwmni. Roedd Berian yn ddigon i bawb a oedd yn ei adnabod.

Berian Williams Hirwaun

Bu farw Berian Williams, 30 Glan Nant St., Hirwaun ar yr 20fed o Awst yn Ysbyty Tywysog Siarl. Ganwyd Berian ar 1 Rhagfyr 1928. Cafodd ei fedyddio yn Ramoth, Eglwys y Bedyddwyr ac aeth i Brifysgol Sheffield lle graddiodd mewn Botaneg. Dewisodd Berian fynd i Sheffield am fod ei dad wedi astudio yng Ngholeg y Glowyr yno ac wedi cael bendith wrth fynychu’r capel Cymraeg.

Dysgodd Berian yn Ysgol Quarry Bank, Lerpwl. Sefydlodd Sadwrn Siarad er mwyn hybu’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc. Bu bron iddo ddysgu’r enwog John Lennon. Gwelwyd y ddau mewn llun a dynnwyd o ddisgyblion a staff yr ysgol. Dysgodd wedyn yng Nghaer, ac yn ystod ei gyfnod yn Arberth daeth i gysylltiad â Waldo Williams, y bardd, heddychwr a chenedlaetholwr. Bu’n gyrru’r gwron o un pen o Sir Benfro i’r llall. Cafodd waith fel darlithydd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a chyfarfu lu o enwogion y genedl. Bu’n Is-warden yn Neuadd Pantycelyn pan oedd yr hanesydd John Davies yn warden. Cyfieithodd llawer o lyfrau Saesneg i’r Gymraeg gan gynnwys Llyfr y Anifeiliaiad a Llyfr y Coed.

Dyn tawel oedd Berian a oedd yn hoffi opera, drama, crefydda, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r pethau. Roedd yn Gymro i’r carn. Roedd yn feirniad eisteddfodol a charai ei deulu yn angerddol. Prynodd dŷ ei rieni yn ôl pan ddychwelodd i Hirwaun. Ymaelododd yn Nebo a bu’n addoli gyda’r gweddill ffyddlon yn Seion wedi i adeilad Nebo gau. Os ewch i www.hanesplaidcymru.org cewch weld nifer o ffilmiau a wnaed gan Berian o Eisteddfodau ganol yr ugeinfed ganrif.

Cafwyd angladd teilwng iddo yn Ramoth. Clywyd teyrnged iddo gan ei nith Rhian. Cydymdeimlwn ag Eirlys, Eryl, Rhian ac Adrian.

GM

Teyrnged o’r papur-bro Clochdar, Hydref 2015

 

 

Hanes Plaid Cymru