Mrs Iris Davies, Caerfyrddin, sy’n cofio gwaith y mudiad yn ôl yn y 1930au. Mae’n cofio un o gyfarfodydd cyntaf Gwynfor Evans (yn Rhydaman, tua 1937).
Cynhaliwyd cynhadledd ac ysgol haf y Blaid ym Merthyr Tudful ym 1958. Y lleoliad oedd yr ysgol ramadeg yng Nghastell Cyfarthfa, hen gartref y Crawshays, lle gallai’r teulu edrych ar draws y cwm ar eu heiddo proffidiol, sef gwaith haearn Cyfarthfa. Mae’r tri ffotograff yn dangos trafodaethau cynhadledd yn neuadd yr ysgol. Yn eistedd wrth y bwrdd ar y llwyfan mae’r Dr R. Tudur Jones (Is-lywydd y Blaid), Gwynfor Evans (Llywydd), J.E. Jones (Ysgrifennydd Cyffredinol) ac Emrys Roberts (Ysgrifennydd Cynorthwyol). Er i’r gynhadledd hon gael ei chynnal yng nghyfnod y gwaharddiad radio a theledu ar Blaid Cymru gan y Blaid Lafur a’r TorÏaid, mae rhaid bod rhyw gymaint o sylw’n cael ei roi iddi gan y cyfryngau: mae meicroffôn y BBC i’w weld ymhob llun. Llun 1: siaradwr anhysbys. A oes rhywun yn gwybod pwy ydyw? Llun 2: y siaradwr yw Trefor Beasley, rwy’n meddwl. Ydw i’n gywir? Wrth y bwrdd y tu draw i’r llwyfan mae’r cyfieithwyr, Meirion Lloyd Davies a Chris Rees. Dywedodd Meirion wrthyf yn ddiweddarach nad oedd offer cyfieithu-ar-y-pryd i’w cael yr adeg honno: byddai’r cyfieithwyr yn cymryd nodiadau tra oedd y siaradwr wrthi a chodi ar ôl iddo/iddi orffen i gyflwyno crynhoad Saesneg ar lafar er mwyn yr aelodau di-Gymraeg. Bu Meirion yn weinidiog gyda’r Presbyteriaid ar hyd ei oes wedyn. Roedd Chris wedi ymladd Gwyr yn Etholiad Cyffredinol 1955. Symudodd i Ddwyrain Abertawe ar gyfer 1959, pan oedden ni’n dau yn gyd-athrawon yn Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl. A phan gafodd y Blaid gwta pum munud ar y radio ac ar y teledu ym 1965 fe fu’n gyfrifol am y darllediad radio, gyda Gwynfor ar y teledu. Yn rhinwedd ei swydd fel Maer Merthyr, estynnodd y Cynghorydd (Llafur) Tal Lloyd groeso dinesig i gynadleddwyr 1958. Yna, ym 1970, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei fabwysiadu’n ymgeisydd Llafur dros etholaeth Merthyr. Roedd S.O. Davies wedi bod yn AS ers 1934, gan gyflwyno mesur senedd i Gymru i Dy’r Cyffredin ym 1955, yn gwbl groes i bolisi ei blaid. Ac ym 1970 fe’i dyfarnwyd ganddyn nhw yn rhy hen i barhau yn ei swydd ac yntau’n 84 oed. Ond safodd fel Llafurwr Annibynnol – ac ennill. Chris Rees oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholiad hwnnw. Pan gyhoeddwyd y canlyniad, cymerodd Chris y cam anarferol, nid yn unig o longyfarch S.O. yn galonnog ond hefyd o ddweud mor falch ydoedd, dan yr amgylchiadau, nad oedd yntau wedi ennill! Llun 3: y siaradwr yw Arthur Donaldson, cynrychiolydd yr SNP (daeth yn arweinydd ar y blaid honno ym 1960). Ar y wal y tu ôl i Emrys Roberts mae poster yn cyhoeddi cyfarfod cyhoeddus dan nawdd y Blaid yn erbyn y bom-H, i’w gynnal yn ystod cyfnod y gynhadledd mewn capel yn y dref, gydag anerchiadau gan y Dr Glyn [O.] Phillips, Gwynfor Evans a Michael Scott o’r Direct Action Committee against nuclear war Roedd y Direct Action Committee (1957-1961) yn gorff pasiffistaidd a sefydlwyd mewn ymateb i un o brofion Bom-H Prydain ar Christmas Island yn y Môr Tawel rhwng 1956 a 1967. Y nôd oedd cynorthwyo ‘the conducting of non-violent direct action to obtain the total renunciation of nuclear war and its weapons by Britain and all other countries as a first step in disarmament’.
GEMAU’R GYMANWLAD, CAERDYDD 1958, gan Philip Lloyd Roedd prif swyddfa’r Blaid i fyny’r grisiau mewn adeilad yn Stryd y Frenhines, Caerdydd yr adeg honno. Cafwyd cyflenwad o raglenni i’w gwerthu i’r cyhoedd, a’r elw’n mynd i’r Blaid. Yn y llun yma gwelir Glyn James yn eu gwerthu wrth y fynedfa ar waelod y grisiau. Sylwch ar y fersiwn Saesneg o enw’r Blaid.
ETHOLAETH CAERFFILI
CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU
Sgwrs wedi’i darlunio gan Philip Lloyd
Radio Free Wales
Radio Ceiliog
Hanes darlledu anghyfreithlon – y frwydr am yr hawl i Blaid Cymru gael darlledu’n wleidyddol
Clwb Rygbi Caerffili
Nos Iau, Medi’r 26ain am 7:30
Mynediad am Ddim
Croeso cynnes i bawb
Atgofion am John Howell (1928 – 2009)
Ganwyd John yn Lahore yn 1928 yn ystod cyfnod y Raj Prydeinig i rieni Cymreig, a fe’i magwyd ymhell o Gymru. Treuliodd y rhan fwyaf o’i flynyddoedd cynnar yn Yr India ble cafodd ei addysg. Yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Bryste i astudio Peirianneg Fecanyddol. Roedd ymysg y rhai a gymerodd ran yng nghynnydd etholiadol Plaid Cymru yn ystod y 50au a’r 60au. Safodd ddwywaith fel ymgeisydd seneddol yng Nghaerffili yn 1959 a 66. Disgrifiwyd y blynyddoedd hyn fel gwir drobwynt Plaid Cymru.
Nid gwleidydd cadair freichiau oedd John. Meddai ar bersonoliaeth garismataidd a hiwmor direidus. Roedd yn areithiwr huawdl a safodd ar sgwâr aml i gymuned lofaol, weithiau yn siarad â chynulleidfa o un hen ŵr a chi! Denodd ei garisma nifer o bobl ifanc i’r ymgyrch genedlaethol. Un tro siaradodd gydag uchelseinydd mewn sgwâr gwag am fanteision hunan lywodraeth i Gymru. O’r golwg, tu allan i dy cyfagos safai’r academydd ifanc Phil Williams, benderfynodd ,wedi clywed John yn siarad yr ymunai a Phlaid Cymru er ei fod ar y pryd yn aelod o’r Blaid Lafur.
“Dyma yn hollol annisgwyl, ymgeisydd dros genedlaetholdeb a ddrylliodd fy rhagfarnau. Magwyd John Howell yn ddi-gymraeg ym Mhacistan wedi gweithio yn y diwydant aerospace yng Nghaliffornia.” (Phil Williams “Voice from the Valleys” 1959-1975)
Nid Phil Williams oedd yr unig un i ddod dan ddylanwad personoliaeth, huodledd ac argyhoeddiad John. Ar achlysur arall a John a’i asiant Alf Williams yn canfasio gyda’r uchelseinydd ym Mhontlotyn, roedd gwr ifanc, newydd gyrraedd gartref o’i waith ac yn bwyta ei swper yn yr ystafell gefn yn gwrando’n astud. Tipyn yn ddiweddarach roedd Dave Watkins ei hun allan yn canfasio gyda Phil Williams yn etholiad 1964 yn ailadrodd y profiad blaenorol , uchelseinydd, rhes o dai gwag, dim adyn o gwmpas a dim drws ar agor!
“Paid becso Phil ma ‘na un boi yn cael ei swper, mae’n gwrando’n ofalus a fory fydd e lawr yn dy dŷ di eisie ymuno” (voice from the Valley)
Roedd John yn hyblyg yn y modd yr ymgyrchai. Unwaith ag yntau yn canfasio gydag Owen John Thomas ddaethant at siop gornel gwr o Bacistan a dyma John yn cyflwyno’i hun i’r siopwr yn Urdu ( iaith gyntaf John) er mawr syndod i’r perchennog. “O ba wlad ydych chi’n dod” gofynnodd y siopwr. “O Bacistan” meddai John “Ie ie meddai’r siopwr ond o ba genedl” “Dwi ,fel chithau yn Bacistani” meddai John, er mawr ddifyrrwch i’r siopwr!
O gofio iddo gael ei fagu a’i addysgu mewn ysgol yn Lahore a sefydlwyd ar gyfer addysgu arweinwyr y Raj roedd ymroddiad John i genedlaetholdeb yn rhyfeddol.
Does dim dwywaith bod dylanwadau ei fywyd cynnar yn Yr India, ble tystiolaethodd i ddatblygiad y sefydliad cenedlaethol dan arweiniad Gandhi ac yn ddiweddarach gweld ailgydio yng nghenedlaetholdeb Ffrengig yn Quebec yng Nghanada ble bu’n gweithio fel peirianydd aerospace wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad ei ymwybyddiaeth wleidyddol.
Fe’i gorfodwyd i roi’r gorau i gymryd rhan weithredol ym Mhlaid Cymru pan darwyd ef a Multiple Sclerosis ond parhaodd ei ddiddordeb brwd ym mywyd gwleidyddol Cymru a bu’n gefnogwr di-syfl i’r blaid gydol ei oes.
Ymunwch â ni eleni ar ddydd Sadwrn 14 Medi 2013.
Ymgynnull ym Maes Parcio, Ysgol Tregib, Llandeilo, SA19 6TB am 4.00yp.
Ymlaen i’r gofeb. Cyflwyniad byr.
Wedyn am 7yh noson o adloniant gyda ‘Jac y Do’ a bwffe yn y Mountain Gate, Rhydaman.
Dim ond £15 elw i Gronfa Cofeb Gwynfor.
Rhaid archebu ymlaen llaw i’r noson
01269 842151
Nans Couch, Swyddog yn Swyddfa’r Blaid ym Mangor ac yna Caerdydd
Yn siarad gyda Stephen Thomas ac Eluned Bush
1964 – 1971
1971 – 1974