Gwynfor Evans – Darlith Peter Hughes Griffiths

Peter Hughes Griffiths
Peter Hughes Griffiths

Gwynfor Evans, yn addas iawn, oedd testun y ddarlith gyntaf i’w thraddodi i Gymdeithas Hanes Plaid Cymru ar faes y Brifwyl Ddydd Llun, 6 Awst 2012.  Anerchwyd gan arweinydd y Blaid ar Gyngor Sir Gaerfyrddin, Peter Hughes Griffiths, a weithiai’n drefydd llawn-amser i Gwynfor a’r Blaid yn Shir Gâr. Traddododd fersiwn estynedig fel darlith goffa Enid Jones yn Festri Capel Heol Awst, Caerfyrddin Nos Wener 5 Hydref.  Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am ganiatad Peter i atgynhyrchu’r ddarlith honno ar wefan y Gymdeithas ac i Alun Lenny am ei gymorth caredig gyda’r lluniau.

.

.

.

GWYNFOR EVANS – Y DYN A’R GWLEIDYDD

Gwynfor Caerfyrddin 1966Ganwyd Gwynfor Richard Evans ar Fedi’r 1af 1912 – gan mlynedd yn ôl – yn fab i Dan a Cathrine Evans yn Y Goedwig, Somerset Road, Y Barri, Bro Morgannwg, ac yn frawd i Alcwyn a Ceridwen.

O astudio ei fywyd, darllen yn helaeth amdano a dod i’w adnabod yn bersonol – yr unig gasgliad y gallwn ni ddod iddo, a holl haneswyr y dyfodol rwyn siwr yw hyn:

Sut y llwyddodd un bod dynol i gyflawni cymaint yn ystod ei fywyd – ie, yn wleidyddol – ond hefyd mewn cymaint o feysydd eraill – a’r cyfan i gyd er mwyn Cymru.  Roedd Gwynfor Evans yn ŵr arbennig, arbennig iawn, ac yn berson na welwyd ymroddiad mor llwyr i’w wlad, ac am wn i, yn hanes diweddar ein cenedl.

Yn ôl un amcangyfrif fe deithiodd e dros filiwn a chwarter o filltiroedd yn ystod ei oes – er mwyn Cymru.  Ac yn ôl Graham Jones o’r Llyfrgell Genedlaethol – “Casgliad Gwynfor yw’r casgliad mwyaf a fedd y Llyfrgell, ac mae mhell o fod yn gyflawn o hyd.”

Yn ei gofiant i Gwynfor mae Rhys Ifans yn nodi iddo gyhoeddi ei filiynfed gair yn ei unfed llyfr ar ddeg yn 1989.  Cyhoeddodd nifer helaeth o lyfrau wedi hynny, a hyn i gyd ar wahân i’r cannoedd ar gannoedd o erthyglau, yn y Gymraeg a’r Saesneg yn fisol ar gyfer papurau Plaid Cymru, Y Ddraig Goch a’r Welsh Nation, yn ogystal â phapurau cenedlaethol a lleol eraill, ynghyd â  datganiadau wythnosol, taflenni a phamffledi di-ddiwedd – y cyfan yng nghyfnod y teipiadur –  lle mae’n cydnabod mai Rhiannon ei wraig fyddai’n gwneud y gwaith caled hwnnw i gyd iddo.  Hwn oedd cyfnod ‘grym y gair mewn print’ – cyfnod y darllen mawr, cyn ac yn ystod dyfodiad cynnar radio a theledu.

Meddai’r Dr Pennar Davies amdano –

“Mae’r enw yn rhan annatod o hanes deffroad Cymru yn yr ugeinfed ganrif.”

A Rhys Ifans ei gofiannydd eto –

“Gwynfor a greodd y ‘mudiad cenedlaethol’ – Gwynfor hefyd oedd tad Ymgyrch Senedd i Gymru …  Mae cofeb arhosol yr ymgyrch honno i’w chael ym Mae Caerdydd – Fe’i gelwir yn gynulliad, y symbol gloywaf, er gwell neu er gwaeth, o awydd y Cymry i fyw fel cenedl wleidyddol.”

“Gwynfor Evans oedd gwladgarwr mwyaf Cymru’r ugeinfed ganrif a gwnaeth ei ymroddiad i’w wlad drawsnewid rhagolygon y Cymry fel cenedl.” – Dyna’r frawddeg gyntaf i ddisgrifio’r person hwn yn ‘ Gwyddioniadur Cymru’ yr Academi Cymreig.  Derbyniodd Gymredoriaeth nifer o’n colegau ac ry ni’n sôn am y person a fu’n Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyson a llawer amlach na neb arall yn ein cyfnod ni.  Ar y diwedd fe restaf anrhydeddau a roddwyd iddo na ddaeth i ran neb arall ers canrifoedd – os o gwbl.

Dan a Cathrine Evans, a’u plant – Gwynfor (ar y chwith), Ceridwen ac Alcwyn
Dan a Cathrine Evans, a’u plant – Gwynfor (ar y chwith), Ceridwen ac Alcwyn

Roedd Capel y Tabernacl, Y Barri yn gartref ysbrydol i’r holl deulu gyda mam a thad Gwynfor yn cymryd rhan flaenllaw yno a’i dadcu Y Parchedig Ben Evans yn weinidog cyntaf y Tabernacl.  Ei dad yn ddiacon ac yn arweinydd y gân a chôr cymysg gyda dros gant o leisiau yn perfformio’r oratorios mawr yn gyson.  Yn y flwyddyn 2000 dadorchuddiwyd Ffenesr Liw newydd yn y capel i gofio am Dan a Catherine Evans.  Fe sefydlodd Dan a Cathrine Evans fusnesau llewyrchus ac enwog iawn yn nhref y Barri.

Gwynfor, capten Tîm Hoci’r Ysgol
Gwynfor, capten Tîm Hoci’r Ysgol

Bu Gwynfor yn Ysgol Ramadeg y Barri a daeth yn gapten ar Dîm Criced a Thîm Hoci’r ysgol ac fe ddaeth yn aelod o Dîm Criced Ysgolion Cymru yn 1930.  Yna, Coleg y Brifysgol Aberystwyth a  graddio yn y gyfraith – ac eto daeth yn aelod o dîm criced a hoci’r Brifysgol hefyd.

A phan yn y coleg digwyddodd dau beth a effeithiodd yn drwm iawn ar ei ddyfodol  – y cyntaf:

“Rhyfeddai ar ymroddiad llanciau a llancesau a fyddai’n gwerthu’r Ddraig Goch o gwmpas strydoedd Aberystwyth – Gwenant Davies, Eic Davies ac eraill.”

Ac yn ail –  “ond un diwrnod gwelodd bamffledyn melyn y tu allan i siop lyfrau yn Aberystwyth – The Economics of Welsh Self Government gan DJ Davies.  Symudodd y llyfryn hwn pob math o amheuaeth, ac yn haf 1934 aeth at Cassie Davies yn y Barri i ymuno â’r Blaid Genedlaethol.”

Meddai Cassie Davies a oedd ar staff Coleg y Barri  ar y pryd yn ei llyfr Hwb i’r Galon –

“A dyma pryd y dechreuodd dyn ifanc hynod o olygus o’r Barri, yn gwisgo blaser Coleg Aberystwyth alw i’m gweld er mwyn cael siarad am y Blaid newydd hon a gofyn am gael ymuno â hi.”

Aeth Gwynfor i Rydychen wedyn yn fyfyriwr a sefydlu cangen o’r Blaid yno a dod yn ysgrifennydd yr enwog Cymdeithas Dafydd ap Gwilym.  Graddiodd yno yn 1936.

Er iddo anfon erthygl o Rydychen i gylchgrawn ei hen ysgol ac i rannau ohoni ymddangos yn y Western Mail, yn Ionawr 1937 y cyhoeddwyd ei erthygl gyflawn gyntaf yn Y Ddraig Goch yn ymwneud â sefydlu Gwersyll Sain Tathan, ac yn Ysgol Haf Plaid Cymru yn y Bala y flwyddyn honno cynigiodd benderfyniad yn galw am roi safle swyddogol i’r iaith Gymraeg.  A wyddoch chi beth – fe gasglwyd 400,000 o lofnodion yn cefnogi’r cynnig hwnnw cyn i’r ail ryfel byd roi pen ar y gwaith.

Felly, fe welwch fod Gwynfor wedi cymryd ei gamau breision cyntaf yn yr hyn a ddatblygodd yn ymgyrch oes iddo – er mwyn Cymru.  Daeth yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Blaid yn genedlaethol yn 1937 ac o fewn chwe mlynedd, yn 1943 fe’i dewiswyd yn Is-Lywydd y Blaid.  Wedyn ar y 1af o Awst 1945 yng Nghynhadledd Llangollen (bum niwrnod cyn gollwng y bom ar Hiroshima) fe’i etholwyd yn Llywydd Plaid Cymru ac yntau ond yn 32 oed – a bu’n llywydd ac arweinydd am y 36 mlynedd nesaf – gan gychwyn ar ei genhadaeth fawr gydol ei oes.

Priodi, 1941 – Gwynfor a Rhiannon a’u teuluoedd (ei dad yng nghyfraith Dan Thomas ar y chwith)
Priodi, 1941 – Gwynfor a Rhiannon a’u teuluoedd (ei dad yng nghyfraith Dan Thomas ar y chwith)

Yn y cyfamser roedd e wedi priodi ei gymar oes Rhiannon ac yn byw yn Wernellyn, Llangadog ac wedi cychwyn menter busnes Tai Gerddi yno.  Rwyn hoffi ei ddisgrifiad o sut y syrthiodd e am Rhiannon.  Meddai Gwynfor yn ei lyfr Bywyd Cymro – pan alwodd e yn nhy mam a thad Rhiannon yng Nghaerdydd –

“Waeth i mi gyfaddef i’m calon golli curiad pan ddaeth Rhiannon i mewn i’r ystafell.  Pan welais hi ddeufis wedyn yng nghanol harddwch dydd o haf yn Islaw’r Dref a ffrog fach ysgafn iawn a byr amdani – roedd y boi o dref Y Barri yn ŵr colledig.”

Fe’i priodwyd ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1941, ac meddai Pennar Davies yn ei lyfr:  “Os bu’r nef erioed yn trefnu priodasau mae’n sicr iddi gael hwyl wrth lunio hon.  Ac ni ellir gorbrisio cyfraniad Rhiannon Evans at weithgarwch ei gŵr.”  Fe wna i gyfeirio at deulu’r Dalar Wen eto.

Safodd Gwynfor ei etholiad Seneddol cyntaf ym Meirionydd yn 1945.  Arwain Protest Llyn y Fan dydd Calan 1947 ac Abergeirw 1948, a’i ethol yn aelod o Bwyllgor Urdd y Graddedigion o Lys y Brifysgol ac o Gyngor yr Annibynwyr y flwyddyn honno yn ogystal ac Ysgrifennydd Cymreig y Gyngres Geltaidd a gyfarfu yn Nulyn – a chyd-annerch gydag Eamonn De Valera yng Nghaerdydd.  Mae’n rhaid bod yr edmygedd yng Nghymru yn fawr iawn ohono gan iddo fod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod genedlaethol Bae  Colwyn mor gynnar â 1947 ac yntau ond 34 oed.  Onid yw hi’n amlwg erbyn diwedd y 40’au fod Gwynfor Evans wedi sefydlu ei hun fel arweinydd cenedlaethol ac yn dderbyniol iawn gan ei bobl.

Arwain protest Abergeirw, 1948
Arwain protest Abergeirw, 1948

Etholwyd Gwynfor ar Gyngor Sir Caerfyrddin yn 1949 a bu’n Gynghorydd Sir am 25 mlynedd.  Roedd hi’n sefyllfa ddiddorol yn dilyn Etholiadau’r Cyngor Sir yn 1956.  Etholwyd 29 cynghorydd Annibynnol, 29 Cynghorydd Llafur a 2 Gynghorydd Plaid Cymru. Plaid Cymru’n dal y balans, ac yn fwy rhyfedd fyth Gwynfor Evans oedd enw y ddau gynghorydd Plaid Cymru – Gwynfor Evans y Betws, Rhydaman a Gwynfor Evans, Llangadog.  Fe aeth Gwynfor Evans y Betws a’r Cyngor Sir i’r Uchel Lys yn Llundain am nad oedd ffurflenni enwebu ar gyfer etholiad i’w cael yn Gymraeg – ac fe enillwyd yr achos a’r canlyniad pwysicaf i hyn oedd sefydlu Pwyllgor Syr Hughes Parry yn 1963 i ymchwilio i safle cyfreithiol yr iaith Gymraeg.

Yn  1949 arweiniodd Gwynfor Rali mwyaf uchelgeisiol Plaid Cymru erioed – Daeth 4,000 o bobl ynghyd i Fachynlleth er mwyn galw am Senedd i Gymru, ac yn dilyn araith Gwynfor nododd un gohebydd mai Gwynfor ac nid Aneurin Bevan a haeddai wisgo mantell areithiwr gorau Cymru.  Ralïau eraill Senedd i Gymru wedyn ym Mlaenau Ffestiniog yn 1950 ac yna’r Rali Fawr yng Nghaerdydd yn 1953 gyda chwarter miliwn o bobl wedi arwyddo deiseb i’w chyflwyno i Dŷ’r Cyffredin.  Safodd Gwynfor Etholiad Cyffredinol ym Meirionydd yn 1950, is-etholiad Aberdâr yn 1954 a Meirion eto yn 1955 a 1959.

A beth am frwydr Tryweryn?  Rali’r Bala yn 1956 –

“Nid cynt y cododd Mr Gwynfor Evans i siarad nag y cododd y miloedd yn y babell fawr i’w groesawu a rhoddi iddo gymeradwyaeth hir.”  Ac meddai Gwynfor yn ei lyfr Bywyd Cymro – “Ac eithrio’r ymgyrch dros Senedd i Gymru, Tryweryn oedd y bwysicaf o’n holl ymgyrchoedd.”  Mae arweiniad Gwynfor yn y frwydr honno wedi ei chofnodi’n fanwl a’r dirprwyaethau i Lerpwl ac yn y blaen yn ddigwyddiadau hanesyddol.  Meddai Gwynfor – “Roedd y Cymry mor unol ag y bydd cenedl byth.  Anwybyddwyd eu barn yn llwyr.  Dinoethwyd natur democratiaeth Cymru.”

Gorymdaith dros gymuned cwm Tryweryn yn Lerpwl
Gorymdaith dros gymuned cwm Tryweryn yn Lerpwl

Merch ifanc – Jennie Eirian Davies, gwraig i weinidog ym Mrynaman – a safodd am y tro cyntaf dros Blaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn yr Etholiad Seneddol yn 1955 ac eto mewn is etholiad yn 1957.  Meddai Dewi Thomas amdani yn y Gyfrol Deyrnged i Jennie Eirian –

“Ei hymroddiad diflino a’i dawn lachar hi yn y pumdegau yn fwy na dim a agorodd y drws i lwyddiant Gwynfor ym muddugoliaeth fawr Caerfyrddin yn nes ymlaen.”  Yn wir fe ddywedodd Jennie Eirian ei hun ar ol etholiad 1957 –   “Bydd y Blaid yn ennill y sedd hon o fewn 10 mlynedd.”  Fe wnaeth hynny yn 1966 – o fewn 9 mlynedd!

Ble rwy i’n mynd i ddechre dywedwch am fuddugoliaeth Gwynfor yn is-etholiad 1966?  Mae’r hanes hynny’n haeddu darlith gyflawn ar wahân. Fe gewch chi honno yn 2016 pan fyddwn ni’n dathlu 50 mlynedd y fuddugoliaeth!  Y cyfan rwyf am ddweud heno yw i’r ffaith i Gwynfor ennill y fuddugoliaeth honno newid cwrs hanes gwleidyddol Cymru am byth.  Cyhoeddodd Gwasg y Dryw record o Gwynfor yn siarad yn dilyn ei fuddugoliaeth –

“Gadewch i ni’n awr ewyllysio bywyd llawn i’n gwlad a mynnu cael sefydliad sy’n creu bywyd cyflawn.  Llywodraeth Cymreig yw’r sefydliad hanfodol.”  Dyna eiriau Gwynfor ar y record.  Ry ni wedi cael y sefydliad hwnnw bellach.  Ry ni ar y ffordd i Lywodraeth gyflawn Gymreig sef gweledigaeth lawn Gwynfor.

Gwynfor yn mynd mewn i Dŷ’r Cyffredin, 1966
Gwynfor yn mynd mewn i Dŷ’r Cyffredin, 1966

Ond, meddyliwch amdano yn mynd i ffau’r llewod yn Llundain ac i Dŷ’r Cyffredin –

“Wrth fy nhywys trwy’r ystafelloedd tê, cyfeiriodd Emrys Hughes at y bwrdd Cymreig – ‘I wouldn’t sit there if I were you’, meddai, ‘Your name is mud there.’  Ai Goronwy Roberts heibio yn y coridor heb edrych arnaf.  Mae’n anodd i neb gofio neu ddychmygu’n awr pa mor fileinig y bu George Thomas. Roedd hwnnw’n aruthr yn ei wrth Gymreictod ac yn filain…  Ef oedd arswyd cenedlaetholdeb Cymreig a’r iaith Gymraeg.”

Dyna’r lle yr aeth Gwynfor iddo, ond fe fanteisiodd e ar y sefydliad ymerodraethol hwnnw ar bob cyfle i frwydro tros Gymru ac i alw am hunan-lywodraeth.  Pethe fel hyn –

Gyda chymorth y Grŵp Ymchwil, daeth i’r casgliad mai’r dacteg orau fyddai iddo ymladd rhyfel guerrilla a gofyn cwestiynau dirifedi ynghylch cyflwr Cymru.  Byddai cwestiynau Gwynfor yn gyrru’r gwasanaeth sifil yn wallgo bost: erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf roedd e wedi gofyn dros 600 o gwestiynau a chyhoeddwyd pob cwestiwn a’r atebion ar ffurff tair cyfrol – Llyfrau Du Caerfyrddin.  Yna gosod achos Plaid Cymru ger bron y Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad yn 1969.

Colli Caerfyrddin wedyn yn 1970 – dilyn yr Arwisgo, gweithredu Cymdeithas yr Iaith a’r FWA (os oedd sut beth yn bod!).  Colli wedyn o 3 pleidlais ym

Mawrth 1974  a chael buddugoliaeth ysgubol wedyn yn Hydref 1974.  Am hanner awr wedi tri’r bore roedd 3,000 ar Sgwar Nott i glywed y canlyniad a bod Gwynfor wedi cael 23,325 o bleidleisiau.  Hon oedd yr unig sedd i Llafur golli’r noson honno ar draws y Deyrnas Unedig.  Nôl i Lundain unwaith eto ond gyda’r ddau Ddafydd erbyn hyn!  Yn aml byddai ei ddiwrnod gwaith yn dechrau am naw o’r gloch y bore ac yn ymestyn hyd oriau mân y diwrnod canlynol.

San Steffan – gyda’i gyd Aelodau Seneddol Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas
San Steffan – gyda’i gyd Aelodau Seneddol Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas

Faint sy’n gwir sylweddoli i’r cyfnod hwn fod yn allweddol i symud y ddadl ymlaen am Gynulliad i Gymru a’r Alban?   Pam?  Roedd tri cenedlaetholwr o Gymru yn y Senedd yn ogystal a saith o’r SNP o’r Alban.  Dim ond tri o fwyafrif oedd gan y Llywodraeth dros y pleidiau eraill.  Meddai Gwynfor – “Dyna’r sefyllfa wleidyddol mwyaf obeithiol y bum i ynddi erioed,” a gorfodwyd y Llywodraeth i ildio i’r symudiad tuag at sefydlu Cynulliad i Gymru a’r Alban  – a dyna gychwyn ar y daith anodd a hir honno sydd wedi ei chyrraedd bellach, yn fwy o lawer yn yr Alban nac yng Nghymru!

Fe drefnodd y Blaid Lafur y math o ofynion gyda’r Refferendwm am Gynulliad i Gymru a’r Alban fel roedd hi’n amhosibl i’r bleidlais Ie i ennill. Fe gofiwn am Neil Kinnock ac eraill o fewn y Blaid Lafur yn ymgyrchu’n gryf yn erbyn polisi eu plaid eu hunain a chael tragwyddol heol i wneud hynny.  Y canlyniad oedd Na i Gynulliad yng Nghymru yn 1979.   Rhys Ifans sy’n dweud eto –

“Bu llawer tro ar fyd yng ngyrfa Gwynfor, ond hon oedd yr ergyd drymaf. Iddo fe roedd y refferendwm yn bleidlais ar gwestiwn ysbrydol a dirfodol ynghylch bodolaeth Cymru.  Torrodd Gwynfor ei galon  a chyfaddefodd na wyddai beth a godai fwyaf o gyfog arno – gwaseidd-dra a thaeogrwydd y Cymry neu dwyll a llygredd y Blaid Lafur.”

Collodd yr Etholiad Cyffredinol a ddilynodd y Refferendwm oherwydd cyhoeddi arolwg barn y BBC ychydig  ddiwrnodau cyn yr etholiad a oedd yn dweud mai trydydd gwael fyddai Gwynfor.  Yn fy marn bersonol i roedd hyn i gyd wedi ei drefnu gan ‘y sefydliad’ i geisio cael gwared â Gwynfor o Dŷ’r Cyffredin. Yn wir, cyfaddefodd y BBC yn dilyn arolwg manwl i’r cwmni a gariodd allan yr arolwg barn eu bod yn ‘anerbyniol bell ohoni’!

Ymateb Gwynfor oedd – pe bai e wedi ennill yr etholiad hwnnw, gyda’i iechyd mor symol ar y pryd, fydde fe ddim yn dal ar dir y byw!  Ac yna yn 1981 ar ol 36 o flynyddoedd fel Llywydd Plaid Cymru fe roddodd Gwynfor y gorau iddi yn y Gynhadledd yma yng Nghaerfyrddin.

Dyna ichi ddarlun cyflym iawn o waith a dylanwad Gwynfor yn wleidyddol.

Oedd, roedd y dylanwad hwnnw’n fawr iawn a fydde ni fyth lle’r un ni heddi heb fod Gwynfor wedi cyflawni cymaint. Mae ei lwyddiant gwleidyddol yn cael ei gydnabod bellach gan bawb.  Gŵr arbennig iawn iawn.

Ond yr hyn sy’n rhyfedd am y gŵr hwn yw ei fod wedi cyflawni cymaint mwy ochr yn ochr neu yn wir ar wahân i’w yrfa wleidyddol.  A’r hyn rwy am geisio ei wneud nawr yw rhoi blas yn unig ichi, a’ch atgoffa o’r gwaith arloesol ac aruthrol arall  a wnaeth e.

A ble rwyn dechre dwedwch?

Rhai o lyfrau niferus Gwynfor
Rhai o lyfrau niferus Gwynfor

YR HANESYDD

 

Fydde Gwynfor yn dechrau pob araith  yn ddieithriad bron gyda gwers hanes. Sdim ots ble bydde fe, sdim ots beth fydde’r achlysur roedd Hanes Cymru yn rhan o’i neges.  Roedd e’n credu bod hi’n bwysig iawn iawn ein bod ni fel pobl yn dod i wybod ein hanes.  Ymgyrchodd am ddysgu Hanes Cymru yn ein hysgolion – mewn cyfnod pan oedd dim bron o hynny’n digwydd, ac fe aeth e ati i ysgrifennu a chyhoeddi llyfrau ac fe bwysodd ar eraill i wneud hynny hefyd – “Nod Gwynfor drwy gydol ei oes oedd deffro’r ymwybod cenedlaethol trwy drwytho pobl yn hanes Cymru ac adfer cof ei phobl a chryfhau eu hewyllys i fyw.” (Dr Geraint Jenkins)

Ysgrifennodd glasuron hanesyddol –Hanes Cymru/ History of  Wales, trwy’r South Wales Echo.  Yna, Aros Mae,  a Seiri Cenedl a Land of My Fathers.

Meddyliwch iddo fynd ati ar ddydd Nadolig 1970 i ysgrifennu’r ddwy ddalen gyntaf o nodiadau Aros Mae!  Roedd e ar werth ymhen 7 mis a gwerthwyd yr argraffiad cyntaf o 5,000 yn bur gyflym ac yna ail argraffiad buan.  Fe aeth Elin Garlick i’w gyfieithu i’r Saesneg a’i alw’n Land of My Fathers. Ail argraffwyd deirgwaith wedyn ac fe ddywedodd y cyhoeddwyr Tŷ John Penry – “hwn yw’n gwerthwr gorau ni o bob llyfr a gyhoeddwyd.”

Ond ei glasur arall hanesyddol yw Seiri Cenedl  sef portreadau a hanes 65 o wŷr a gwaragedd a gyfrannodd mewn gwahanol ffyrdd at adeiladu a chynnal ein cenedl.  Meddyliwch am yr holl waith ymchwil sydd ynghlwm wrth ysgrifennu llyfrau hanes a phenodau am bobl – a’r ffeithiau yn hollol gywir!

Fe wnes i gyfeirio ar y dechrau at Gwynfor fel awdur hynod o doreithiog – awdur rhyw 30 o lyfrau i gyd – yn ogystal â phamffledi a’r taflenni a’r erthyglau wedyn – diderfyn – yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Fe soniodd e wrtha i unwaith bod hi’n fwriad ganddo i ysgrifennu un llyfr arall yn dilyn ei holl deithio ar hyd ei oes trwy Gymru – sef llyfr ar Siopau Chips Cymru gan ei fod wedi bwyta mewn cymaint ohonyn nhw ar ei deithiau!!

Y CRISTION A’R HEDDYCHWR

Fe glywson ni’r Parchedig Beti Wyn James a Mererid Hopwood yn crynhoi pwysigrwydd a chyfraniad Gwynfor yn y ddau faes hwn yn y gwasanaeth coffa a gynhaliwyd yng Nghapel y Priordy bnawn Sul Medi’r 2il. Felly, wna i eto ond nodi rhai o’r prif ffeithiau.

Bu’n athro Ysgol Sul  ar bobl ifainc yn ei gapel Providence Llangadog am flynyddoedd lawer, a’r hyn sy’n arbennig oedd hyn – ble bynnag yr oedd Gwynfor ar y nos Sadwrn – bron yn ddieithriad byddai’n dychwelyd ar gyfer ei ddosbarth Ysgol Sul y diwrnod wedyn.  Darllenwch bennod gyfan am Gwynfor y Cristion a phennod gyfan am Gwynfor yr Heddychwr yn llyfr Pennar Davies – maent yn rhoi darlun manwl a chyflawn i ni o ddyfnder ffydd a meddwl y dyn.

Amddiffyn tir Cymru – yn llwyddiannus – Trawsfynnydd, 1951
Amddiffyn tir Cymru – yn llwyddiannus – Trawsfynnydd, 1951

Magwyd ef ar aelwyd Gristnogol yn y Barri a’i dadcu’r Parchedig Ben Evans yn weinidog cyntaf Capel y Tabernacl.  Roedd ei wncwl Idris (brawd ei dad) yn weinidog hefyd ac yn bregethwr o’r radd flaenaf.  Daeth Gwynfor yn  Gadeirydd Undeb Eglwysi yr Annibynnwyr Cymraeg pan ond yn ddeugain a dwy oed.  Ni chafodd neb mor ifanc ei ethol erioed cyn hynny.  A bu Guto ei fab hefyd yn Llywydd yr Undeb yn ddiweddar.

Mae’n bwysig cofio i Gwynfor yn ei araith gyntaf ar lawr Tŷ’r Cyffredin seilio ei obaith dros Gymru ar y gwerthoedd Cristnogol yn ei hetifeddiaeth.

Ymgymerodd â nifer o swyddi yng nghyfundrefn yr Annibynnwyr hefyd a bu’n allweddol yn sefydlu Tŷ John Penry a’i weinyddiaeth.  Roedd e’n berson ymarferol yn ei Gristnogaeth.

“Rwyn heddychwr yn gyntaf a chenedlaetholwr wedyn” oedd geiriau Gwynfor ac fe gafodd ryddhad diamod pan fu ger bron Tribiwnlys milwrol yng Nghaerfyrddin yn 1940.  Ac yn dilyn ysgrifennu ei erthygl gyntaf ynglŷn â San Tathan yn 1937 fe ddaeth o dan ddylanwad ei arwr mawr George M LL Davies, gan ddod yn Ysgrifennydd  Mudiad Heddychwyr Cymru ac yng ngofal y babell yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938.  Trwy ei oes bu’n arwain protestiadau a siarad mewn Ralïau Heddwch – Rali Abertawe 1940, Rali Fawr Epynt lle y trowyd 400 o bobl allan o’u cartrefi, Rali Abergeirw 1948 a’r llun enwog o Rali Trawsfynydd yn 1951 – rhain i gyd yn erbyn y Swyddfa Ryfel yn cymryd tiroedd Cymru.

Bu Cymdeithas y Cymod yn ddyledus iawn iddo am ei gymorth a’i arweiniad ac fe gyhoeddodd Gwynfor nifer o lyfrynnau a phamffledi fel They Cry Wolf a Wales Against Conscription.  Yna, yn 1973, cyflwynodd ei ddarlith enwog yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd – Cenedlaetholdeb Di-Drais.  Bu yr un mor gefnogol i Fudiad CND hefyd ac fe siaradodd yn gryf iawn dro ar ôl tro yn erbyn y rhyfel yn Fietnam ac fe’i cynigiodd ei hun fel tarian ddynol yn Hanoi yn 1968 – ond fe wrthodwyd mynediad i’r grŵp – ond roedd y weithred yn nodweddiadaol o ŵr na allai sefyll a gwylio’r fath laddfa.  Ac meddai Dafydd Elis Thomas amdano yn un o gylchlythyron Cymdeithas y Cymod:

“Ganwyd yr enaid mawr hwn yn y ganrif fwyaf treisgar yn hanes y byd.  Yn nhywyllwch yr ugeinfed ganrif ryfelgar a threisgar bu ei fywyd yn olau.”

BRWYDRO DROS YR IAITH

Fe fuodd Gwynfor yn allweddol yn yr ymgyrch i sicrhau Radio i Gymru ac yn 1939 dilëodd y BBC raglenni Cymru yn llwyr.  Yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybie yn 1944 fe gyflwynodd Gwynfor ddarlith i lond capel ar Radio Yng Nghymru.  Cyhoeddwyd y ddarlith yn Gymraeg ac yn Saesneg ac fe wrthwyd 10,000 o gopiau ohoni!  Dadleuodd Gwynfor dros ymreolaeth ym maes darlledu, ac i dorri stori arall yn y frwydr yn fyr – fe gafwyd hynny ac fe etholwyd Gwynfor yn aelod  o Bwyllgor Ymgynghorol Cymreig y BBC yn 1946.

Bu’n frwydr hir ond fe sicrhawyd BBC Cymru a Radio Cymru a Radio Wales maes o law.

Buddugoliaeth – dechrau gwasanaeth teledu Cymraeg S4C, 1982
Buddugoliaeth – dechrau gwasanaeth teledu Cymraeg S4C, 1982

Gwelodd Gwynfor hefyd erbyn canol y 50’au byddai dyfodiad teledu yn peri newid chwyldroadol yn y gyfundrefn gyfathrebu a bod bygythiad mawr i’r iaith Gymraeg a’n diwylliant.  Gwthiodd Gwynfor y syniad hwnnw o deledu Cymru, ond ni chododd y llywodraeth fys bach i helpu, ac ni lwyddodd i gyflawni ei amcan.  Gwnaeth Gwynfor araith seneddol bwysig yn 1969 yn galw’n glir ar y llywodraeth i sefydlu Sianel Gymraeg ac fe wyddoch am yr ymgyrchu honno yn y 70’au.  Mae hanes yr ymgyrch i sicrhau sefydlu S4C yn un a gysylltir gyda Gwynfor a’i fwriad i ymprydio ar ôl i’r Llywodraeth Dorïaidd dorri eu gair – mae’r stori honno’n ddarlith arall wrth i ni ymhen y mis ddathlu 30 mlynedd o ddarlledu ar S4C.

A’r peth arall yr wyf am ei nodi – ar wahân i’r arweiniad di-ildio a roddodd Gwynfor i bob agwedd o’r iaith oedd ei ymgyrch am Goleg Cymraeg.  Roedd Gwynfor yn aelod o Lys y Brifysgol ac fe gynigiodd yn 1951 y dylid sefydlu Coleg Cymraeg ac fe sefydlwyd pwyllgor i ystyried hynny.  Roedd pawb yn erbyn ond Gwynfor.  Paratodd Gwynfor Femorandwm manwl i ddangos yr angen am y math hwn o goleg yng Nghymru eto yn 1953.  Ar hyd y blynyddoedd fe fu e wrthi – ymgyrch arall ganddo yn 1973 ac yna yn 1986 wrth annerch y Seremoni Raddio Gymraeg gyntaf a drefnwyd gan Undeb by Myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth.  Mawr fu ei ddycnwch a’i ddylanwad di-ildio – a bellach mae’r Coleg Cymraeg hwnnw yn bod a’i Ganolfan Weinyddol yma yng Nghaerfyrddin yn Y Llwyfan.

Y DYN TEULU

“Ni fyddai byth yn dweud wrthym ni na’n plant – ‘cer i ffwrdd. Rwyn rhy brysur’, ac ni chododd erioed fys atom i’n ceryddu.  Roedd ei amynedd gyda’r plant yn ddibendraw.”  Dyna eiriau Meinir ei ferch.  Fe symudon nhw i fyw o Wernellyn i’r Dalar Wen yn 1953 – “Anrheg priodas fy nhad oedd y Dalar Wen wedi ei gohirio am bymtheng mlynedd” meddai Gwynfor.  Roedd popeth yng ngwneuthuriad y tŷ o Gymru a Dewi Prys brawd Rhiannon a’i cynlluniodd.”

Fe gawson nhw 7 o blant ac mewn ymateb i newyddiadurwr fe ddywedodd Gwynfor mai ei hoff ddywediad Beiblaidd oedd – “Ffrwythwch ac amlhewch a llenwch y ddaear”.  Hoffai chwarae gyda’r plant – a gwisgo lan fel Anti Jini gan dwyllo’r wyrion mai hanner chwaer o America oedd hi.  Hoffai gerdded wedyn gyda’r plant, a’r hoff le oedd y Garn Goch – lle y gwasgarwyd ei lwch a lle mae’r garreg goffa iddo wrth droed y Garn honno.  Fel ei dad, roedd Gwynfor yn gerddorol hefyd a hoffai ganu’r piano. Yn ôl ei frawd Alcwyn byddai Gwynfor yn tueddu i fynd at y piano pan oedd pwysau’r byd arno, ac wrth chwarae byddai’n medru ymlacio’n hyfryd.

Fe symudodd Gwynfor a Rhiannon i Dalar Wen arall ym Mhencarreg ger Llanybydder yn haf 1984 i ymddeol.  Cynhaliwyd swper fawr ffarwelio yn Neuadd Llangadog gyda’r ardal yn talu teyrnged i ddau a wnaeth gymaint dros Gymreictod eu cymdogaeth dros gyfnod o 45 o flynyddoedd.  Pan etholwyd 17 o aelodau Plaid Cymru i’r Cynulliad cyntaf yn 1999 fe ddaethon nhw gyd i Bencarreg i weld Gwynfor a Rhiannon.  Galwodd Winnie Ewing gyda Rhodri, Cynog a Roy Llywelyn heibio hefyd.

Gwynfor a’i deulu
Gwynfor a’i deulu

Maddeuwch i mi am ddyfynu hyn o ddarn yn Saesneg, ond rwy am ei ddweud yn y gwreiddiol am ei fod yn dangos yn glir mawredd y person hwn.  Ar y diwrnod cyn i Gwynfor ddathlu ei 90 oed dyma yr ysgrifennwyd amdano yn y Western Mail.  Y pennawd oedd – ‘Pacifist giant of Welsh culture whose place in history is secured – Wales celebrates 90 years of Gwynfor’:

“Gwynfor Evans has been described as ‘one of the greatest souls of the 20th century.  Alongside Lloyd George and Aneurin Bevan he is one of the last century’s three greatest Welsh politicians.  But he arguably stands alone and ahead of them all in the measure of his influence and is one of the few people from any era recognised solely by their Christian name.

“Gwynfor’s place in history is secure, and not just through his achievements and influence but his public acclaim.  He was chosen by readers of Wales on Sunday as Millenium Icon ahead of Lloyd George and Aneurin Bevan, voted Welsh Person of the Millemium ahead of Owain Glyndŵr by readers of Y Cymro and was reader’s choice in the Western Mail’s Person of the Millenium Award.  They were popular endorsements of the greatest living Welshman of the 20th century.”

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli  2000 yr ymddangosodd Gwynfor yn gyhoeddus am y tro olaf, ac i dderbyn Gwobr Anrhydedd Cymry’r Cyfanfyd am oes o waith dros Gymru. Roedd y seremoni’n llawn emosiwn wrth i’r pafiliwn gorlawn anrhydeddu y gwr arbennig hwn.

Ac i orffen rwyf am ddyfynu’r Athro Geraint Jenkins yn ei anerchiad o werthfawrogiad yn y Gymanfa Ganu Fawr a gawson ni yng Nghapel Heol Awst i gofio am Gwynfor yn fuan ar ôl ei farw.  Dyma ddywedodd e –

“Ewch ati i ganmol ac anrhydeddu’n gyhoeddus enw Gwynfor drwy godi cofgolofn urddasol iddo.  Pa le gwell i godi cofeb urddasol nag yma yng Nghaerfyrddin, lle y profodd ei awr fawr ar 14 Gorffennaf 1966 fel y gall eich plant a phlant eich plant ddod yma i ryfeddu at un o eneidiau mawr ein cenedl.”  Ac fel y gwyddoch chi mae’r gwaith hwnnw yn awr wedi ei gychwyn gyda’r bwriad o gyflawni’r gofeb erbyn 2016 sef hanner can mlwyddiant y fuddugoliaeth fawr honno yn 1966.

Bu farw Gwynfor Richard Evans fore Iau 21 Ebrill 2005 yn 92 oed yn ei gartref yn y Dalar Wen, Pencarreg.  Dywed Rhys Ifans: “Roedd Gwynfor am ddychwelyd i’r Garn Goch, i’r pridd, daear Cymru, y ddaear a roes fod i’w weledigaeth.  Ond wrth i’w lwch ddiflannu i’r pedwar gwynt, erys y gwaddol … newidiodd Gwynfor Evans gwrs hanes Cymru.”

Ac meddai’r Dr Geraint Jenkins: “Ei fwriad oedd adeiladu cenedl rydd, gyfrifol a hyderus drwy adfer cof ei phobl a chryfhau ei hewyllys i fyw – ac fe ddylsem gofio amdano fel ‘Llusernwr y canrifoedd coll’.  Dro ar ôl tro roedd Gwynfor yno yn sefyll yn y bwlch – mae ei fywyd yn ddrych o hanes Cymru o 1940 ymlaen.  Sail bywyd Gwynfor oedd ei Gristnogaeth a’i heddychiaeth.”

A brawddegau olaf Rhys Ifans yn ei gofiant swmpus oedd: “ Ni wnaeth neb fwy na Gwynfor yn ystod yr ugeinfed ganrif.  Nid hon oedd y Gymru Gymraeg Gristnogol y breuddwydiodd Gwynfor amdani, ond Cymru yw hi o hyd.  Roedd Cymru, y genedl a garodd mor angerddol, wedi goroesi, rhag pob brad.”

Peter Hughes Griffiths

 

JE – Pensaer Plaid Cymru Teyrnged Dafydd Williams

Trefnodd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru gyfarfod arbennig yn ystod y Gynhadledd yn Llandudno ym Mis Medi 2011 i gofio bywyd JE Jones a fu’n Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru rhwng 1930 a 1962.  Dyma deyrnged gan Gadeirydd y Gymdeithas ac un o’i olynwyr, Dafydd Williams.

JE, Pensaer Plaid Cymru1927 J E Jones

Mae llun cynnar yn oriel Plaid Cymru, llun o Ysgol Haf Llangollen a dynnwyd yn 1927.  Ac ar ben y rhes gyntaf fe welwch ddyn ifanc â gwallt cyrliog, ei wyneb yn llawn egni a brwdfrydedd.  Wrth gwrs nabyddes i erioed y JE cryf, cydnerth yna oedd wrth ei fodd yn crwydro mynyddoedd Cymru.  Erbyn i mi ddod i’w adnabod yng nghanol y chwedegau roedd ei iechyd wedi torri – hynny, meddai rhai, oherwydd gorweithio di-baid dros achos Cymru.  Ond roedd ei ymroddiad i Gymru mor amlwg ag erioed.

Fe aned John Edward Jones ym Mis Rhagfyr 1905.  Roedd felly ryw ddeng mlynedd yn iau na Saunders Lewis a Lewis Valentine, ac yn wahanol iddyn nhw’n perthyn i’r genhedlaeth ffodus a ddihangodd erchyllterau’r rhyfel byd cyntaf.  Ei ardal enedigol oedd Melin-y-wig, ardal fryniog ryw saith milltir o Gorwen a deg o Ruthun, ardal Owain Glyndŵr felly.  Ac os chwiliwn am esboniad am ei gariad at dir, iaith ac etifeddiaeth Cymru, gwrandewch ar ei ddisgrifiad o’r olygfa o’r tir uwchben ei gartref, fferm o’r enw Hafoty Fawr:  “O droi’n araf o’r chwith i’r dde, gwneud un tro’n llawn, gwelem oddi yno orwel pell o fynyddoedd godidog Gwynedd a Phowys – mynyddoedd Iâl; holl res hir y Berwyn; y tair Aran; a’r ddwy Arennig, Fawr a Bach; Moel Siabod; yna holl banorama Eryri, yr Wyddfa a’r Grib Goch a’r ddwy Glyder a’r Tryfan a’r ddwy Garnedd, Dafydd a Llywelyn, hyd y Foel Fras; rhyngom a’r rhain yr oedd gwastatir maith lliwgar Mynydd Hiraethog; ag i gwblhau’r cylch cyflawn, Mynyddoedd Clwyd gyda Moel Famau a’i thŵr ar ei phen.”  Bron yn farddoniaeth; a bron y gellwch ddweud fod JE yn genedlaetholwr o’i grud: mae’n falch o ddisgrifio’i hun yn ‘Fab y Mynydd’.

Mae JE wedi gadael ei hanes ei hun yn ei gyfrol bwysig Tros Gymru: JE a’r Blaid – hanner hunangofiant, hanner hanes deugain mlynedd gyntaf Plaid Cymru.  Collodd ei dad cyn iddo gyrraedd blwydd oed, ond rywsut fe lwyddodd ei fam i gadw’r fferm deuluol i fynd, gyda chymorth ei thylwyth, dau frawd JE yn enwedig, y ddau wedi gadael ysgol yn 14 oed a’r ddau dipyn yn hŷn nag ef.  Cwrs bywyd gwahanol iawn oedd o flaen JE, er cymaint roedd yntau wrth ei fodd gyda gwaith y fferm a bywyd gwledig Melin-y-Wig, gyda’i holl gyngherddau ac eisteddfodau.  Fe aeth i ysgol ramadeg y bechgyn yn y Bala, Ysgol Tŷ Tomen, gan letya yn y Bala yn ystod yr wythnos.  Ond er bod y Bala yn ardal Gymraeg ei hiaith, roedd bron popeth yn yr ysgol yn Saesneg.  Tybed faint oedd hyn yn creu adwaith a’i droi o blaid y Gymraeg?  Mae ganddo stori o sut y bu iddo ef a bachgen arall gymryd safiad yn achos athro feistr oedd yn gas yn erbyn disgybl a’i Saesneg yn brin – a llwyddo rhoi stop iddo.  Yn ystod y gwyliau ym Mis Awst 1923, ar ôl mynd â llwyth o wyau a menyn o’r fferm i siop y pentref, dyma fe’n darllen ar y ffordd yn ôl am gyfarfod yn y Wyddgrug, cyfarfod o fudiad gyda’r enw od ‘Y Tair G’, sef y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig.  Hon oedd un o’r tair ffrwd a ddelai ynghyd maes o law i ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru, a rhyw flwyddyn wedyn daeth JE yn aelod ohoni, wrth iddo fynd i Brifysgol Bangor i astudio Cymraeg, Saesneg a Mathemateg, “cyfuniad braidd yn anghyffredin”.

Rywbryd wedyn, clywodd sôn am enedigaeth Plaid Genedlaethol Cymru draw ym Mhwllheli; ac ym Mis Hydref 1926 aeth i gyfarfod y Blaid yng Nghaernarfon, gan lenwi ffurflen ymaelodi yn y fan a’r lle.  Dyn ifanc tenau, gwelw ei olwg o’r enw HR Jones oedd yn casglu’r ffurflenni: go brin yr oedd JE yn sylweddoli y byddai’n yn ei olynu yn Ysgrifennydd y Blaid ymhen pedair blynedd.  O fewn mis, roedd cangen o’r Blaid wedi’i sefydlu yn y coleg ym Mangor , a JE yn ysgrifennydd iddi; gyda bron 80 o aelodau erbyn tymor yr haf 1928.  Fe oedd ymgeisydd y Blaid mewn ffug etholiad ym Mis Tachwedd 1927 – ac yn ennill!  Tybed ai dyna’r tro cyntaf i Blaid Cymru ennill etholiad?  “Dysgais y pryd hwnnw,” meddai, “y gellid ennill Saeson rhonc deallus yn haws nag ambell Gymro gwasaidd.”[i]

Ond gyda’r blynyddoedd yn y Brifysgol ar ben, roedd rhaid chwilio am waith.  A’r dirwasgiad eisoes yn y gwynt, fe wnaeth gynnig am swydd athro yn nwyrain Llundain – a’i chael, un o bedwar allan o 60 ymgeisydd.  Mae’n debyg y treuliwyd y rhan fwyaf o’r cyfweliad yn trafod hunanlywodraeth i Gymru!  Ymhen dim o amser roedd e’n ysgrifennydd Cangen y Blaid yn Llundain, er ei fod hefyd yn cael amser i chwarae pêl-droed i ail dîm Cymry Llundain, a thenis yn yr haf.

Yna, tro ar fyd.  Bu farw HR Jones, prif symbylydd bodolaeth Plaid Cymru, ar ôl salwch hir.  Er gwaethaf pryderon nad oedd modd fforddio’r swydd, penderfynodd arweinwyr Plaid Cymru fod rhaid wrth olynydd llawn amser.  Ymateb JE, a ffrind iddo yn Llundain, gohebydd y Guardian o’r enw Gwilym Williams, oedd anfon cais i mewn – gan ddefnyddio’n union yr un geiriad, a rhoi enwau ei gilydd ar gyfer geirda!  JE a benodwyd – i swydd roedd yn ei charu: “yn Ysgrifennydd a Threfnydd mudiad rhyddid Cymru y bûm o Ragfyr 1930 hyd Fai 1962, pan ddywedodd yr hen galon na allai ddal mwy.”[ii]

JE Jones – pensaer Plaid Cymru yn ei swyddfa yng Nghaernarfon
JE Jones – pensaer Plaid Cymru yn ei swyddfa yng Nghaernarfon

Mae’n ddiddorol cymharu’r ddau Jones, HR a JE.  Un manylyn, dibwys efallai ond difyr: llwyddodd y ddau adfer enw traddodiadol eu milltir sgwâr; o Nasareth yn ôl i Ddeiniolen yn achos HR, ac o Gynfal i Melin-y-Wig yn achos JE.  Yn sicr ceir tebygrwydd cymeriad rhwng y ddau mewn un cyfeiriad – cariad diwyro at Gymru a’r Gymraeg, a gweledigaeth o’u cenedl yn un o wledydd cyflawn y byd.  A’r parodrwydd i weithio’n ddi-baid.  Rwy’n ddiolchgar i Dewi Rhys, mab JE, am ei atgofion ohono fe: “Doedd byth yn segur. Byddai ar ei draed tua 5 bob bore – un ai ar y teipiadur bach, neu yn y tŷ gwydr lle’r oedd yn ‘ymlacio’ wrth drawsblannu cannoedd o blanhigion bach, a’r ardd bob haf yn fôr o liw.  Roedd wrth ei fodd yn clywed sgwrs pobl yn pasio oedd yn gwneud sylwadau am yr ardd.  Nid oedd yn segur hyd yn oed ar wyliau. Ysgrifennai ddyddiaduron a’u clymu’n llyfrau wedi dod adref. Dyma oedd sylfaen y llyfr Tro i’r Swistir.”

Ond mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau hefyd yn ddadlennol.  Byddai JE, yn ôl ei arfer, yn canmol ei ragflaenydd, ond mae’n derbyn bod canghennau a rhanbarthau wedi llesgáu a marw yn ystod ei gyfnod o afiechyd:  “I bob pwrpas, bu raid i mi ad-adeiladu’r Blaid o’r gwaelod.”[iii] Mae prif hanesydd Plaid Cymru, Hywel Davies, yn mynd ymhellach, gan ddisgrifio HR fel un â gweledigaeth fawr, yn hiraethu am weithredu’n gadarn yn hytrach na gwaith desg.  Mewn gwrthgyferbyniad, roedd  JE “er yn barod i weithredu’n radicalaidd, wedi’i fendithio â natur ddyfal oedd yn fwy addas i’r dasg o gynllunio trefniadau’n ofalus” (cyfieithiad).[iv] Mae Hywel Davies hefyd yn nodi cefndir JE yn un o raddedigion y Brifysgol ac yn athro hyfforddedig, gan farnu bod hyn yn ei wneud yn fwy cyfforddus ymhlith yr aelodau roedd y Blaid yn eu denu.

Dechreuodd JE ar ei swydd ar 1 Rhagfyr 1930, gan weithio o swyddfa fechan yng Nghaernarfon drws nesaf i westy Pendref ble cafodd lety.  Hyn oedd dechrau cyfnod 32 o flynyddoedd pan ddaeth yn ganolbwynt gweithgarwch y Blaid.  Cyn hir roedd JE wedi sefydlu ei hun yn ffocws cyfathrebu a gwybodaeth am y Blaid; ac enillodd Plaid Cymru fri am ansawdd ac ystod ei chyhoeddiadau.  Yn ei phedair blynedd gyntaf o fodolaeth cyn ei benodi, dim ond un pamffledyn sylweddol a gyhoeddwyd gan y Blaid, sef Egwyddorion Cenedlaetholdeb gan Saunders Lewis.  Gyda JE wrth y llyw, dechreuodd gynhyrchu lli cyson o lenyddiaeth.  Mae’n werth nodi i’r cynnyrch hwn gynnwys nifer o weithiau swmpus ar bolisi economaidd – er enghraifft The Economics of Welsh Self-Government gan Dr DJ Davies (Gorffennaf 1931) a dau gan Saunders Lewis ar yr angen am gyngor datblygu yn 1933, a rhan llywodraeth leol wrth ddatblygu diwydiant (1934).  Cyhoeddwyd y rhain ochr yn ochr â’r Ddraig Goch, a ddechreuodd ychydig cyn sefydlu Plaid Cymru, a’i chyd-ymdaith yn yr iaith fain, y Welsh Nationalist, a sefydlwyd yn 1932.

Pwysleisiwyd tanysgrifio ac ymgyrchoedd gwerthu yn hytrach na rhoi’n rhad ac am ddim, er i JE ddatblygu’r arfer o ‘feithrin tawel’, gan ddanfon y cyhoeddiad diweddaraf ynghyd â llythyr cyfeillgar i nifer dethol o bobl enwog – yr artist Augustus John oedd un a ymunodd â’r Blaid fel canlyniad. Cofiaf (er cywilydd) i Gwynfor Evans sôn yn aml am  brinder cyhoeddiadau gan y Blaid yn ystod y 1970au a’r 1980au o’i gymharu â chyfnod JE wrth y llyw.

Wedyn bu cysylltiadau cyhoeddus.  Wrth iddo berswadio eraill i gynhyrchu’r cyhoeddiadau manwl, JE ei hun oedd y meistr ar gasglu’r dyfyniad trawiadol a’r ffeithiau allweddol, yr hyn a alwodd yn ‘fwledi’.  Arweiniodd hyn yn naturiol at gyfathrebu drwy’r wasg, maes y daeth yn grefftwr arno – yn llunio datganiadau i’r wasg a meithrin newyddiadurwyr fel ei gilydd.  Rwy’n dwli ar ei sylwadau cynnil ar rai o’i gyd-genedlaetholwyr yn y maes hwn: “Fe’i cefais yn un o’r pethau anosaf, yn y blynyddoedd cynnar, i ddysgu ein swyddogion lleol – ysgrifenyddion neu ohebyddion – i ysgrifennu ‘darnau effeithiol i’r Wasg ac i feithrin cyfathrach gyfeillgar â gŵyr y Wasg.  Gydag amser, fodd bynnag, fe ddaeth hynny.”  Gallasai JE ddysgu tric neu ddau i sbin-ddoctoriaid yr 21ain ganrif: mae’i gyngor ar ddefnyddio’r wasg yn dal yr un mor wir heddiw ag erioed, er gwaethaf holl newidiadau oes y rhyngrwyd, Facebook a Twitter.

Un flaenoriaeth gynnar oedd adeiladu’r Blaid o’r dyrnaid bach o bobl  a etifeddodd yn 1930.  Proses poenus o araf oedd hyn, er i JE fynd ati â’i ddull nodweddiadol o drylwyr, gan symud o sir i sir, wrth brocio aelodau i sefydlu pwyllgorau sirol ac, o dipyn i beth, canghennau.  Bu Saunders Lewis yn llym ei feirniadaeth am arafwch y cynnydd: ar ddiwedd 1935, ar ôl canmol gwaith JE fe ofynnodd: “Ond pa le y mae ei ddisgyblion?  Byddai trefnydd o’r un rhyw ymhob Pwyllgor Rhanbarth yn gweddnewid hanes y Blaid.”

Ond yma mae’n werth dwyn i gof rhai ffeithiau amlwg.  Roedd Plaid Cymru yn dal yn fach.  Roedd hefyd (yn nhermau oedran ei haelodau) yn ifanc.  Oherwydd ei bod yn fach ac yn ifanc yr oedd hefyd yn dlawd, yn dlawd iawn.  Hyn sy’n esbonio i raddau paham taw ychydig o etholiadau a ymladdodd – un sedd Seneddol yn 1929, dwy yn 1931 (Sir Gaernarfon a’r Brifysgol), lawr i un yn 1935.  Gyda llaw, etholiad 1935 oedd y cyntaf i’r Blaid ddefnyddio’r dull o ganfasio – techneg a addaswyd gan JE o’i gysylltiadau â phleidiau yn Nenmarc, Iwerddon a Lloegr.  Ychydig iawn hefyd oedd yr etholiadau lleol a ymladdwyd.  Efallai nad  tlodi sydd i’w feio am bopeth – cwynodd DJ Williams yn chwyrn am y diffyg ysbryd i ymladd, gan ddisgrifio pwyllgor sirol Caerfyrddin yn “gorff marw”.[v] Cofiwch taw 1935 oedd hyn!

Un dechneg a gyflwynwyd gan JE i fynd i’r afael â phroblemau ariannol y Blaid oedd Cronfa Gŵyl Ddewi, a seiliwyd ar brofiad Fianna Fáil.  Cododd yr apêl gyntaf, yn 1934, y cyfanswm tywysogaidd o £250!  Ochr yn ochr â chodi’r aelodaeth a chyllid ymladdwyd ymgyrchoedd – hynny ar ystod eang o bynciau.  Un enghraifft yn unig – yn fuan ar ôl dechrau ar ei swydd lansiodd ymgyrch i boblogeiddio’r defnydd o faner Cymru yn lle Jac yr Undeb oedd yn bla ymhobman.  Y targed cyntaf oedd Castell Caernarfon – a neb llai na David Lloyd George oedd ei Gwnstabl.  Cais cymedrol dros ben, un anodd ei wrthod, oedd ei gam cyntaf – statws cyfartal i’r ddwy faner ar Ddydd Gŵyl Dewi.  Cafodd y llythyr a ddanfonwyd ymlaen gan Lloyd George i’r Gweinidog yn Llundain ymateb negyddol llawn dirmyg – yn union beth oedd JE ei eisiau.  Fe’i cyhoeddodd ar unwaith!

Ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1932, wedi’i wisgo o’r corun i’r sawdl mewn lifrai beic modur fe dalodd JE ei chwe cheiniog a dringo’r grisiau i ben Tŵr yr Eryr, ble cyfarfu â thri arall yn y cynllwyn, gan gynnwys nai Lloyd George, WRP George.  Yna fe dynnwyd Jac yr Undeb i lawr a chodi’r Ddraig Goch yn ei le, gan staplo’r rhaffau’n sownd wrth y polyn – roedd cynllunio JE wrth gwrs wedi cynnwys morthwyl a staplau yn ei sach.  Wrth weld baner fawr y Ddraig Goch ar y tŵr fe gafwyd bonllefau o gymeradwyaeth a pherfformiad sydyn o Hen Wlad Fy Nhadau wrth dorf ar y Maes islaw; er y daeth yr heddlu lleol mewn fawr o dro, a chyn hir aeth Jac yr Undeb yn ôl i’w safle arferol.  Nes ymlaen yn y dydd, fodd bynnag, a hynny’n gwbl annibynnol, cyrhaeddodd grŵp o fyfyrwyr Plaid Cymru o Fangor ar ben lori.  Llwyddon hwythau esgyn Tŵr yr Eryr a mynd â Jac yr Undeb, a gafodd dynged anffodus ar y Maes.

Erbyn Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn wedyn fe welwyd tro bedol ar ran y llywodraeth.  Cafodd Draig Goch fawr ei chodi cyfuwch â Jac yr Undeb mewn seremoni yng Nghastell Caernarfon gyda David Lloyd-George ei hun yn llywyddu!  Cyn hir byddai baner Cymru’n cwhwfan o bob adeilad llywodraeth ar 1 Mawrth: maes o law trefnai JE i ganghennau’r Blaid bwyso ar yr awdurdodau lleol i ddilyn.  Yna fe ofalodd gynhyrchu rhagor o faneri, a’u gwerthu am elw defnyddiol.

Ymhlith ymgyrchoedd eraill cafwyd statws yr iaith Gymraeg – er enghraifft, rhoi cywilydd ar Swyddfa’r Post i dderbyn amlenni taledig gydag enwau lleoedd Cymraeg – i’w dilyn gan ymgyrch lwyddiannus i sicrhau rhaglenni radio Cymraeg ar y BBC.  Un thema amlwg yn yr holl ymdrechion hyn – ac mewn llawer mwy – oedd eu cynllunio manwl a’u natur holistaidd – byth yn colli cyfle am gyhoeddusrwydd da.  Amlygwyd y gofal hwn ar adeg llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth ym Mis Medi 1936, cyrch a fu’n nodedig am ei gyfrinachedd a’i sylw trwyadl i fanylion.  Roedd hyn yn cynnwys spïwraig – merch ifanc o’r enw Alaw Non Rees, a gadwai olwg ar faint o bren oedd yn cyrraedd y safle.

JE oedd un o saith a chwaraeodd ran uniongyrchol yn y weithred – cerddodd ran o’r ffordd yn ôl i Gaernarfon ar hyd y rheilffordd i osgoi cael ei ddal.  Y bore trannoeth yn ei lety derbyniodd lythyr oddi wrth Saunders Lewis – a ymddiheurodd am beidio â rhoi gwybod iddo am y llosgi!  Alibi oedd hwn wrth gwrs – doedd dim modd y gallai arweinwyr y Blaid fforddio gweld ei swyddfa ar gau a’u trefnydd mewn carchar ar adeg mor dyngedfennol.  Arhosodd JE yn rhydd ei draed i drefnu protestiadau ar hyd a lled y wlad.  Mae Dewi Rhys yn cofio gweld bwndeli o frysnegeseuon a anfonwyd i’r Tri a gyhuddwyd – Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams – brysnegeseuon yr oedd JE wedi’u trefnu: yn ôl y gyfraith rhaid oedd eu trosglwyddo ar unwaith, hyd yn oed yn ystod prawf Uchel Lys, gan helpu cynyddu’r argraff o gefnogaeth ymhlith y cyhoedd.  Ef hefyd a drefnodd y rali fwyaf erioed i’w galw gan y Blaid – bu tyrfa o 12,000 yn croesawu’r Tri yn ôl i Gaernarfon o Wormwood Scrubs.

Bu Penyberth a’r ddau achos Uchel Lys a’i dilynodd yn benllanw i Blaid Cymru cyn y rhyfel. Mae JE yn dadlau fod llawer o’r gefnogaeth newydd a enillwyd i’r Blaid wedi’i cholli ar ôl gwrthwynebu coroni Siôr VI, penderfyniad a wnaed yn ystod cyfnod pan oedd Saunders Lewis yn y carchar a JE yn dost.  Defnyddiodd gwrthwynebwyr y ffaith fod Lewis wedi troi at y ffydd Gatholig i gyhuddo Plaid Cymru o fod â chysylltiad â ffasgaeth.  Bu dechrau’r rhyfel yn her anferth – hyd yn oed yn fygythiad i fodolaeth y Blaid, fel y cyfaddefodd Saunders Lewis yn agored ar y pryd.  Ond rywsut fe barhaodd Plaid Cymru, hyd yn oed yn tyfu mewn dylanwad fel yr aeth y rhyfel yn ei blaen.  Tarodd yn ôl at eu gelynion yn hyderus ac egnïol.  Gwrthwynebai wasanaeth milwrol gorfodol, gyda JE yn wynebu chwe llys a thribiwnlys dros gyfnod o dair blynedd, ac yn gwneud hynny mewn steil.  Ymladdodd bob modfedd o’r ffordd i geisio achub dros 40,000 erw o dir ym Mynydd Epynt rhag eu rheibio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i’w defnyddio’n faes tanio.  Felly ym mis Ebrill 1940, cerddai JE y mynyddoedd unwaith yn rhagor, gan ymweld â phob fferm a wynebai berygl; ond cafodd Llundain ei ffordd.

Cynllunio strategaeth dwy blaid genedlaethol – Aelod Seneddol cyntaf yr SNP Dr Robert McIntyre yn ymuno ag arweinwyr Plaid Cymru, 1945
Cynllunio strategaeth dwy blaid genedlaethol – Aelod Seneddol cyntaf yr SNP Dr Robert McIntyre yn ymuno ag arweinwyr Plaid Cymru, 1945

O 1942 ymlaen roedd hi’n amlwg bod tro ar fyd.  Enillodd Saunders Lewis 23 y cant o’r bleidlais mewn isetholiad ar gyfer Prifysgol Cymru: noda JE (gyda chryn foddhad) ddisgrifiad ohono fel trefnydd ‘cyfrwys’ – “assiduous, astute and untiring agent”.[vi] Ac roedd ganddo achos arall i fod yn llawen.  Yn 1940 priododd ag Olwen Roberts, ysgrifennydd rhanbarth Caernarfon, mewn seremoni a lywyddwyd gan Lewis Valentine.  Byddai dau o blant, Angharad a Dewi Rhys, yn dilyn.

Erbyn 1945, daeth Plaid Cymru mâs o heldrin y rhyfel yn gryfach nag erioed.  Am y tro cyntaf gallai hawlio ei bod yn blaid Cymru gyfan, gan ymladd saith o seddi yn yr etholiad cyffredinol.  Yn ystod yr haf dewisodd arweinydd newydd, Gwynfor Evans, 33 oed: byddai ef a JE yn cydweithredu’n glos am y degawd a hanner oedd i ddod.  Mewn gwirionedd, medd Hywel Davies, o 1945 ymlaen yn hytrach nag o 1925 mae modd ystyried Plaid Cymru’n blaid wleidyddol, er ei bod yn dal yn blaid mewn cyflwr embryonig.[vii]

Unwaith yn rhagor bu rhaid ymladd ymgais gan y Weinyddiaeth Ryfel i gipio tir Cymru, y tro yma yn Nhrawsfynydd, Meirionnydd, ac yn llwyddiannus.  Unwaith eto JE a gyfrannodd ei ddawn greadigol: trefnwyd cyrch ffug tra aeth y prif fintai ar hyd heolydd cefn gwlad i ddechrau blocâd a barodd ddau ddiwrnod.  Erbyn 1950 roedd Plaid Cymru’n gweithio’n egnïol o fewn ymgyrch Senedd i Gymru.  Trefnodd JE gyfres o ralïau dros chwarter canrif.  Bu rali 1953 ymhlith y fwyaf a welwyd yng Nghaerdydd.  Yn groes i’w arfer cymerodd y gadair – ond ei fewnbwn gwirioneddol oedd cynllunio a gweithredu.  Roedd y paratoadau’n cynnwys relái o redwyr yn dwyn ffaglau o Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth i Erddi Soffia yng Nghaerdydd: fe sicrhaodd JE fod yr areithiau a negeseuon yn parhau’n ddigon hir i’r dorf rygbi oedd yn ymadael â Pharc yr Arfau weld yr orymdaith a ddilynai’r rali.  Roedd hefyd yn ymwneud ag amddiffyn Cwm Tryweryn rhag ei foddi gan ddinas Lerpwl, erbyn hyn gyda mwy o gymorth.

JE yn cadeirio Rali Senedd i Gymru yng Ngerddi Soffia, Caerdydd, 1953
JE yn cadeirio Rali Senedd i Gymru yng Ngerddi Soffia, Caerdydd, 1953

Wrth gwrs roedd gan JE Jones ei feirniaid.  Teimlai rhai na allai rhywun o’i gefndir gwledig Cymraeg uniaethu â’r cymunedau diwydiannol, di-Gymraeg yn y deheubarth a’r gogledd-ddwyrain.  Credaf fod ei hanes gwaith yn dangos fel arall.  Mae Tros Gymru yn llawn cyfeiriadau at yr angen i apelio i’r rhai di-Gymraeg.  Cefnogodd JE symud swyddfa’r Blaid o Gaernarfon i Gaerdydd yn 1946 – yn wir fe’n bersonol a gafodd hyd i ystafelloedd yn 8 Queen Street.  Mae Dewi Rhys yn cofio bod yr agoriad swyddogol wedi digwydd ar 1 Mawrth, diwrnod ei eni, gyda “Dad yn trio bod mewn dau le’r un pryd, fel arfer”!  Diolch i’w waith fe lwyddodd Plaid Cymru i ledaenu ei gorwelion yn y De ar ôl y rhyfel.

Byddai JE ei hun yn amharod iawn i feirniadu ei gyd-genedlaetholwyr.  Dyma un enghraifft brin: ar ôl canmol arweinyddiaeth Saunders Lewis, aeth mor bell â rhoi’r sylw hwn: “Ond tyfodd ynddo duedd i fod â rhagfarn anghywir weithiau, o blaid neu yn erbyn rhai mathau o bobl; er enghraifft, gallodd awgrymu, am un a oedd lawn cyn ddewred ag ef ei hun, mai llwfrdra oedd ei basiffistiaeth.”  Y ‘rhywun’ dan sylw wrth gwrs oedd Gwynfor Evans.

Arwain gorymdaith Senedd i Gymru
Arwain gorymdaith Senedd i Gymru

Teimlai eraill ei fod yn rhy agos at elite y Blaid; yn arbennig pan fo straen o fewn y rhengoedd, er enghraifft yn ystod ymgyrch Tryweryn.  Yn 1950, roedd cyn-arweinydd y Blaid, Saunders Lewis, yn breifat yn beirniadu ‘parchusrwydd’ JE, parchusrwydd roedd yn ei gymharu’n anffafriol â thactegau’r Gweriniaethwyr Cymreig.  Ond gŵr teyrngar wrth reddf oedd JE, ymroddedig i gefnogi Plaid Cymru a’i arweinyddiaeth etholedig, doed a ddelo.  Yr oedd wedi profi ei barodrwydd i weithredu’n gadarn: dangoswyd hynny gan ei barodrwydd yn ystod blynyddoedd y rhyfel i wrthwynebu gorfodaeth filwrol fel cenedlaetholwr ac wynebu carchar os bu rhaid.  ‘Parchusrwydd’ Plaid Cymru’n hytrach nag eiddo JE oedd testun cwyn Saunders Lewis; ac roedd ei weithrediadau’n ddrych o benderfyniad Gwynfor Evans ar ôl y rhyfel i roi Plaid Cymru ar gwrs i fod yn blaid i Gymru gyfan yn hytrach na grŵp pwyso cenedlaetholgar.

Wrth edrych yn ôl, yr hyn sy’n drawiadol yw parodrwydd a gallu JE i aros yn ei swydd, er gwaethaf yr holl broblemau a’r pwysau a wynebai’r Blaid.  A fyddai Plaid Cymru wedi goroesi’r 1930au, y 40au a’r 50au heb JE wrth y llyw?  Efallai, ond mae’n anodd gen i weld sut.  Mae ei garreg fedd ym Melin-y-Wig yn dwyn yr ymgysegriad ‘JE Jones, Pensaer Plaid Cymru’ – teyrnged addas i’r un a luniodd fudiad cenedlaethol Cymru.

Claddwyd JE Jones (1905-1970) mewn mynwent gyferbyn â’r capel ym Melin-y-Wig.  Mae plac ar fur yr ysgoldy a fynychai hefyd yn coffáu ei fywyd.  Mae’r englyn yma ar ei fedd.

Pryderu dros Gymru gaeth – ac er hon

Gwario’i holl gynhysgaeth.

Byw’n gyfan i’w gwasanaeth,

Marw’n wir dros Gymru wnaeth.

 


[i] Ibid,t.40

[ii] Ibid, t.70

[iii] JE Jones, Tros Gymru: JE a’r Blaid, t.97.

[iv] D Hywel Davies, The Welsh Nationalist Party 1925-1945:  A Call to Nationhood (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1983), t.187.

[v] D Hywel Davies, The Welsh Nationalist Party, t.204.

[vi] JE Jones, Tros Gymru: JE a’r Blaid, t.271.

[vii] D Hywel Davies, The Welsh Nationalist Party, t.268.

Yn y dechreuad … D.Hywel Davies

CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU, 25 MAWRTH, 2011

YN Y DECHREUAD …

Gan D.Hywel Davies B.A., M.Sc.(Econ.)

FEL sy’n addas i gyfarfod cyntaf Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, rwyf am eich cymryd am dro yn ôl i’r cyfnod cynharaf yn hanes ffurfiant y mudiad. Ond nid i’r digwyddiad enwog a gynhaliwyd ym Mhwllheli ym 1925 ond at un arall a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ym 1924. Alla i ddim cynnig lleoliad llawer mwy cyffrous, mae gen i ofn: y Maesgwyn Temperance Hotel oedd y lle a drefnwyd ym Mhwllheli; y Queen’s Café yw’r gorau alla i gynnig i chi yng Nghaernarfon.

Mae hi’n nos Sadwrn yr ugeinfed o fis Medi, 1924, ac mae cryn nifer o bobl Caernarfon a’r ardal yn cerdded i gyfeiriad y Queen’s Café ynghanol yr hen dref. Mae hi wedi bod yn flwyddyn o gyffro gwleidyddol – sef ffurfiad Llywodraeth Brydeinig am y tro cyntaf gan y Blaid Lafur newydd dan arweinyddiaeth Ramsay Macdonald ’nol ym mis Ionawr. Llywodraeth leiafrifol ydyw, ac mae sôn y bydd Etholiad Cyffredinol arall yn o fuan. Dim pryderon gyda David Lloyd George am hynny. Mae Bwrdeistref Caernarfon yn gadarn iddo ef – ac mae siŵr o fod yn cynllwyno sut y gall ail-gipio allweddNumber 10 rywdro yn y dyfodol. Ond y Blaid Lafur sydd bellach ar i fyny ac eisoes wedi cyrraedd statws yr ail blaid yn yr unig Senedd oedd ganddynt ar y pryd.

Nid Prydain yw’r pwnc trafod ymhlith y rhai sy’n anelu am y Queen’s Café heno. Cymru yw’r pwnc. Gwleidyddiaeth Cymru. Cymru heb gorff cenedlaethol gwleidyddol. Cymru heb fudiad cenedlaethol. Cymru heb is-ganghennau o’r pleidiau Prydeinig i gydnabod ei statws cenedlaethol. Cymru heb y Ddraig Goch ar dyrrau Castell Caernarfon.

Ond mae ’na rywfaint o gyd-destun gwleidyddol Cymreig. Yn benodol, oherwydd ei hanes blaenorol fel prif-lefarydd Cymru yn San Steffan, methiant y Blaid Ryddfrydol fel corff i ail-godi cwestiwn datganoli. Mater crefyddol yw’r datblygiad perthnasol mwyaf diweddar. Cafodd Eglwys Loegr yng Nghymru ei datgysylltu fel rhan o eglwys y wladwriaeth Brydeinig. Yn ei lle, ym 1921, sefydlwyd yr Eglwys yng Nghymru fel eglwys annibynnol Gymreig. Ond gyda’r datganoli crefyddol hwnnw, roedd fel petai’r awelon yn diflannu o hwyliau datganoli gwleidyddol Cymru. Ond nid yn llwyr.

Cynhaliwyd nifer o gynadleddau rhwng 1918 a 1922 i drafod datganoli. Dyrnaid o Aelodau Seneddol Rhyddfrydol unigol a’u trefnodd gan wahodd cynrychiolwyr o gynghorau lleol a mudiadau eraill. Bach iawn oedd yr ymateb i’r gynhadledd gyntaf a gynhaliwyd yn Llandrindod. Cytunwyd y byddai ‘self-government’ yn fuddiol i Gymru ond heb ddiffiniad. Heb dderbyn gwahoddiad i hon, roedd y Blaid Lafur newydd yn gweld y cyfan fel ystryw Ryddfrydol i geisio dal gafael ar bleidleisiau gwladgarwyr Cymreig. Mynegodd Llafurwyr de Cymru eu cefnogaeth nhw i ymreolaeth ym 1918 fel gwnaeth Cynghrair Llafur Gogledd Cymru ym 1924. Serch hynny, fel dywedodd y Llafurwr pwysig David Thomas, a gefnogai ddatganoli, y wir frwydr oedd honno rhwng llafur a chyfalaf.

Y gynhadledd fwyaf llwyddiannus oedd honno ym 1919, eto yn Llandrindod. Cytunwyd yn frwd i alw am ‘full local autonomy’, eto heb ddiffiniad. A galwyd am Ysgrifennydd Gwladol i Gymru ond gyda mwyafrif llai wedi dadlau poeth. Disgrifiodd y Western Mail y cytundeb a gafwyd fel ‘something in the nature of a miracle .. [though it] left the question very much where it found it.’

Chafwyd mawr mwy o oleuni pan ofynnodd grŵp bach o Aelodau Seneddol Rhyddfrydol i’r Prif Weinidog – yr hen genedlaetholwyr David Lloyd George – ym 1920 i greu Ysgrifennydd i Gymru. “Go for the big thing!” atebodd ef, ond ddeallodd neb mo hynny. Cynigiodd David Matthews, AS Rhyddfrydol Cenedlaethol Dwyrain Abertawe, fesur ym 1921 yn galw eto am Ysgrifennydd Gwladol i Gymru, ond doedd neb yn talu sylw. Roedd pethau eraill ar feddyliau arweinwyr y Blaid Ryddfrydol ganolog. Y Blaid Lafur yn arbennig.

Bellach roedd yr ysbrydoliaeth Gymreig yn lleihau’n gyflym. Cynhaliwyd y gynhadledd olaf yn y gyfres hon yn yr Amwythig ym 1922 – yn ddigon eironig ar ddydd llofnodi’r Caniatâd Brenhinol i sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Prin oedd y gefnogaeth. Methodd yr ychydig oedd yn bresennol gytuno hyd yn oed i gefnogi mesur preifat Murray Macdonald A.S, The Government of Scotland and Wales a alwai am ddatganoli ffederal. Meddai cylchgrawn y Welsh Outlook, ‘The futile Shrewsbury Conference on March 31st last and the ridiculous debate which followed it in the House of Commons on April 28th, marked the nadir of the Welsh Home Rule movement, and only a small remnant of those who supported it escaped pessimism and despair.’ Methodd mesur Murray Macdonald. Roedd hi’n ddiwedd cyfnod. Diflannodd datganoli yn San Steffan.

Na. Doedd dim llawer o reswm dros fod yn obeithiol gyda’r gwladgarwyr Cymreig hynny oedd yn nesáu at eu dishgledi o de yn y Queen’s Café. Ond, gyda’r brwdfrydedd sydd wedi bod yn ganolog i’n mudiad, byddant, siŵr o fod, yn f’ateb. ‘Hold on! Mae criw gwych o fyfyrwyr wedi codi helynt cenedlaethol ardderchog yn Aberystwyth yn lled ddiweddar. Ac ym Mangor – mae cymdeithas y myfyrwyr yno – cymdeithas Y Tair G – yn llawn bwrlwm Cymreig. A dyna’r sgolor Saunders Lewis yn codi nyth cacwn i boeni’r Cymry parchus, rhagrithiol. Oes, mae ’na obaith!”

Yn barod i’w croesawu i’r Queen’s Café oedd gwr 24 mlwydd oed o’r enw H.R.Jones, chwarelwr oedd wedi gorfod troi’n drafeiliwr – hynny yw arwerthwr teithiol – oherwydd afiechyd. O bentref Ebenezer oedd H.R. – er roedd e’n arwain ymgyrch ar y pryd i gael Deiniolen yn ôl fel enw arno. Fe oedd wedi galw’r cyfarfod ynghyd heno gyda’r pwnc llawer mwy o ddyfodol y genedl. Roedd H.R.Jones wedi bod yn danfon llythyrau allan un ar ôl y llall i bawb y gwyddai amdanynt eu bod yn wladgarwyr – yn bell ac agos, mawr a man. Dewch, meddai, i osod mudiad cenedlaethol gwleidyddol annibynnol Cymreig ar gerdded. Dyn swil oedd H.R. Dyn tawel. Ond roedd e’n berwi gyda rhwystredigaeth.

Cynhadledd arall oedd wedi’i ypsetio’n arbennig. Roedd hon wedi cael ei chynnal yn ystod yr haf gan un o’r mudiadau bach gwlatgar oedd yn codi ac yn diflannu fel tan siafins wrth i’r Cymry pybyr chwilio am ffordd ymlaen. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – sef yr un cyntaf o’r enw hwnnw. Urdd y Delyn – yn rhagflas o Urdd Gobaith Cymru. Byddin Cymru y frwdfrydig Fones Mallt Williams o Landudoch (heb arf mewn golwg, er yr enw). Undeb y Ddraig Goch yn Lerpwl. Cymdeithas Cymru Well William George, sef brawd Lloyd George. Byddin yr Iaith y tro hwn, yn cynnal eu cyfarfod blynyddol yn Llandrindod. Er bygythiad ei enw, doedd dim milwrol am Fyddin yr Iaith: roedd aelodau i fod i wisgo bathodyn y mudiad, i siarad Cymraeg mor aml â phosib mewn llefydd fel swyddfeydd post a gorsafoedd trenau, ac i fynnu statws swyddogol i’r iaith Gymraeg. Yn ystod y gynhadledd, roedd mudiad pitw arall gydag enw mawr – Adran Ymreolaeth Cynghrair y Cenedlaetholwyr Cymreig – wedi cynnal eu cyfarfod nhw. Cafwyd areithiau. Cafwyd apêl.

Arswyd, roedd H.R. yn flin. Danfonodd fwy eto o lythyrau. Roedd hi’n bwrw llythyrau H.R. yng Nghymru! Roedd y Parch J. Seymour Rees yn Nhreorci yn falch i gael un. Roedd D.J.Williams yn hapus i dderbyn un yn Abergwaun. Roedd Iorwerth Peate wrth ei fodd, er byddai rhai cwestiynau ganddo. A threfnodd H.R. ei gyfarfod yn y Queen’s Café gyda’r nod o‘sefydlu cymdeithas ar gyfer ymreolwyr ifainc.’

Roedd yn wir, hefyd, bod yr academig a’r ceidwadwr Saunders Lewis – ceidwadwr gydag ‘c’ fach ond ‘C’ go fawr hefyd! – wedi achosi cryn syndod ond flwyddyn ynghynt trwy araith a draddododd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug. Rhoddodd sioc ysgytwol i wladgarwyr hirwyntog wrth alw am sefydlu gwersylloedd i ddysgu disgyblaeth. Ond cofiwch mai Lieutenant John Saunders Lewis oedd yn siarad, un a fu yn y ffosydd yn ystod y Rhyfel Mawr ac a anafwyd. Meddai: ‘Nid cynhadledd a achub ein cyflwr eithr disgyblaeth ac ufudd-dod. Na cheisiwch gynhadledd lle y gall holl glebrwyr Cymru areithio’n ddi-fudd, ond y flwyddyn nesaf ffurfiwch fataliwn a gwersyll Cymreig, a phob Cymro a fynno wasanaethu ei wlad i ddyfod yno a drilio ynghyd am bythefnos ac ufuddhau i orchmynion milwriaid fel y caffont wers mewn gweithio ynghyd yn dawel a heb ffraeo, pawb yn fodlon ufuddhau ac i’w gosbi onis gwnelo. A gwnewch hyn am bum mlynedd, heb glebran. Drilio heb arfau, ac felly yn gwbl agored ac heb dorri cyfraith unrhyw wlad, ond ein paratoi ein hunain felly i dderbyn deddfau ac arweiniad gan Gymry. Pe gawn gant neu hanner cant neu ugain yn unig y flwyddyn gyntaf i wneuthur hyn, dyna fudiad pwysicaf Cymru ers dyddiau Glyndŵr. Yr wyf yn hollol ddifrifol.’

Roedd angen i Lewis ychwanegu’r frawddeg olaf honno. Doedd cenedlaetholwyr Cymru ddim i fod i siarad fel hyn. Ond dyna’r math o rwystredigaeth oedd ymhlith cenhedlaeth ifancach. Roedd ymateb arbennig Saunders Lewis yn unigryw, yn estron, ac fe gafodd ei fflangellu. ‘Ffwlbri noeth,’ meddai wythnosolyn Y Darian yng Nghymoedd y de am ei gynllun. ‘The most stupid of reactionaries’ oedd ymateb y Western Mail. ‘Hotheads who propose to give the undergraduates of the Welsh colleges military training in holiday camps!’ meddai’r South Wales News.

Yr unig un i fynegi syniadau tebyg oedd Ambrose Bebb, cyfaill Lewis a cheidwadwr arall gydag ‘c’ fach ond oedd â goblygiadau mwy. Roedd Bebb wedi symud ymlaen o Aberystwyth i astudio a darlithio ym mhrifysgol y Sorbonne ym Mharis. Yno, daeth Bebb o dan ddylanwad mudiad asgell dde Charles Maurras. Cafodd ef, hefyd, ei ysbrydoli i ddatgan yr angen am ddisgyblaeth gymdeithasol dan arweiniad cryf gwleidyddol mewn erthygl ysgrifennwyd ganddo ym 1923. Gyda mwy o rethreg nag o ymresymu, llwyddodd Bebb i gysylltu enwau Lenin a Mussolini â’i gilydd fel patrwm o arwyr i’w hystyried gan y Cymry. Yn fuan, roedd Saunders Lewis a Bebb yn cael eu hadnabod fel pobl Sinn Féin.

Felly, gyda chynadleddau datganoli’r Rhyddfrydwyr gwanllyd wedi methu, y Blaid Lafur newydd ar gynnydd, ynghyd â datganiadau ymfflamychol Lewis a Bebb – roedd gan dyrfa’r Queen’s Café gryn dipyn ar eu platiau.

A dyna nhw’n cyrraedd y Queen’s. Ymhlith y bobl ifainc mae Gwilym R. Jones, un a fyddai’n dod yn Olygydd ar bapur wythnosol pwysig Y Faner. Dyma sut y disgrifiodd ef y cyfarfod: ‘Roedd yn y cyfarfod tua deugain ohonom. Yr oedd yno athrawon, chwarelwyr, gweinidogion, meddyg – ac un trafeiliwr gwelw,’ sef H.R. ei hun. ‘Y trafeiliwr hwn a gynullasai’r cyfarfod, ond ni ddywedai fawr ddim. Nerfus, floesg, bwnglera. Eisiau ‘byddin’ i amddiffyn Cymru a’r iaith.’ Fel rhyw ymgais i gael person o statws wrth y llyw, y meddyg gwlatgar, y Dr Llwyd Owain, Cricieth, oedd yn cadeirio. Ond H.R. oedd sbardun yr achlysur.

Roedd H.R.Jones yn cael ei ystyried yn arbenigwr ar hanes Iwerddon. Rhaid cofio bod brwydr waedlyd Iwerddon i sicrhau rhyddid o rwymau Llundain yn gefndir i’r cyfan o’r trafodaethau ynglŷn ag ymreolaeth yng Nghymru wedi diwedd y Rhyfel Mawr. Barn HR yn ôl ei gyfeillion oedd bod angen gweithgarwch radical tebyg, gan gynnwys trais, i hyrwyddo achos cenedlaetholdeb Cymru hefyd. Byddai’n cael ei ddyfynnu gan Gwilym R. Jones yn ddiweddarach yn datgan yn groyw,“Fedrwn ni byth ddeffro cenedl sy’ wedi cysgu mor hir heb aberthu mwy. Rhaid inni ddiodde’ … rhaid colli gwaed. Mae’n mudiad ni’n rhy ddof, a ninnau’n llwfr.”

Byddai Saunders Lewis yn dweud amdano, “H.R. oedd yr unig un yn ein plith y gellid dychmygu am Michael Collins yn rhoi swydd iddo, un na ellid na’i siocio na’i ddychryn, un a wnâi unrhyw beth, heb falio am ganlyniadau, os dygai ddydd rhyddid Cymru yn agosach.’

Gyda hyn i gyd yn gefndir, datganodd y Dr Llwyd Owen o’r gadair efallai y gellid croesawu ‘agwedd filwriaethol’ i’r mudiad cenedlaethol newydd, ond na fyddai lle i ddulliau ‘trais’. Ategwyd ei sylw gan o leiaf un arall a feirniadodd yn swta unrhyw awgrym o’r hyn a ddisgrifiwyd ganddo fel ‘dulliau Rwsaidd neu Wyddelig.’ Ond dadleuodd un o gymrodyr H.R., Evan Alwyn Owen, i’r gwrthwyneb y byddai ‘cyflwyno tipyn o Sinn Fféin’ i’r mudiad yn gallu bod yn gynorthwyol. Meddai cyfaill arall, y newyddiadurwr Gwilym Williams, ei fod o blaid ‘gorymdeithio gyda drylliau’ a’i fod yn cytuno gydag‘athroniaeth [Patrick] Pearse’.

Ond ni chafwyd unrhyw oleuni pellach yn y Queen’s y noson honno ar gwestiwn dulliau. Ni chafwyd, ’chwaith, gytundeb manwl ar ba fath o ymreolaeth fyddai o fudd i Gymru. Serch hynny, fe gytunwyd ar sefydlu mudiad newydd. Gan adlewyrchu’r teimlad mai’r hyn oedd yn hanfodol oedd cymdeithas a fyddai’n hollol ymroddedig, cytunwyd ar yr enw Byddin Ymreolwyr Cymru a mabwysiadwyd llw o ffyddlondeb yn y gobaith o sicrhau trefnu effeithiol. Ond ar ddulliau gwleidyddol oedd y pwyslais. Meddai H.R.Jones mewn nodyn i’r wasg, ‘Amcanu am ymreolaeth a wnawn ni heddiw, nid yn adfail y Deyrnas Gyfunol ond trwy ymresymu ein hawliau. Hawlir gennym ni, y genedl hynaf yn Ewrop, Senedd a chartref, trwy ba un y trefnir ffordd i’n cenedl ddatblygu ei bywyd ar linellau Cymreig.’

Roedd y ffaith bod cyfarfod y Queen’s Café yn achlysur cyhoeddus yn golygu bod gan y wasg ddigon o ddeunydd i fod yn feirniadol. Dilornus oedd y North Wales Chronicle: ‘Those present,’ meddai, ‘outnumbered the famous tailors of Tooley Street, but, like the latter, their ambition has brought a touch of comedy into a movement which has as much attraction for faddists as a lamp light has for moths.’

Roedd yr Herald Cymraeg lleol yn fwy siomedig na dig: ‘Nid oedd y cyfarfod o ymreolwyr y cylch a gynhaliwyd yng Nghaernarfon y dydd Sadwrn o’r blaen yn unrhyw help i’r mudiad; ond yn hytrach fel arall. Yr oedd y cwbl yn rhy anghyfrifol a phlentynnaidd. Gresyn mawr yw symud ymlaen gyda mudiad mor bwysig heb baratoad priodol ar ei gyfer, a heb sicrhau siaradwyr dylanwadol.’

‘Chwarae plant,’ cwynodd y Darian yn y De.

Cyfeiriodd Gwilym R.Jones ei hun at yr hyn a alwai’n fwnglera. Ond cafwyd cyfarfod, a hwnnw’n gyfarfod cyhoeddus. Roedd bod mor agored – gan wahodd pobl i’r Queen’s Café – yn ddull gwahanol iawn o weithredu i fudiad cenedlaethol arall oedd wedi cael ei sefydlu ar ddechrau’r un flwyddyn. Crëwyd hwnnw gan Saunders Lewis, Ambrose Bebb a Gruffudd John ac Elisabeth Williams ym Mhenarth, ym mhreifatrwydd cartref teulu’r Williams. Doedd fawr neb yn gwybod amdano oherwydd mudiad cyfrinachol ydoedd. Y Mudiad Cymreig oedd yr enw a gai ei sibrwd yn dawel rhwng ei ddyrnaid o aelodau. Eu bwriad oedd aros yn gyfrinachol am gyfnod amhenodol. Fyddai hynny ddim yn anodd gan iddynt benderfynu defnyddio Breiz Atao, papur Llydaweg mudiad cenedlaethol Llydaw, fel prif gyfrwng eu syniadau. Meddai Gruffudd John Williams yn ddiweddarach, ‘Roedd y Ffrangeg a’r Llydaweg wedi troi llawer o bobl i ffwrdd.’ O leiaf roedd Byddin Ymreolwyr Cymru wedi cyrraedd penawdau’r wasg, ac, fel yr honnir, mae pob cyhoeddusrwydd yn gyhoeddusrwydd da.

Serch hynny, proses nid digwyddiad oedd y Queen’s Café. Roedd H.R.Jones wedi rhoi cychwyn ar weithgarwch a fyddai’n ganolog o bwysig yn natblygiad ein mudiad cenedlaethol. Bu cryn drafod ar noson gynta’r Queen’s. Y broblem oedd na chytunwyd ar amcanion clir. Yn wir, bu bron i Fyddin Ymreolwyr Cymru ddod i ben, yn gymdeithas fach fyrhoedlog arall. Dadleuai rhai o blaid ymuno gyda mudiad myfyrwyr Prifysgol Bangor, sef Y Tair G. Ond gwrthwynebwyd hyn gan drysorydd y Fyddin, sef Evan Alwyn Owen. Nod Evan, fel H.R., oedd sefydlu plaid wleidyddol annibynnol. Cytunwyd cwrdd yn y Queen’s Café eto ar Ragfyr 20 i drafod materion ymhellach. Ar y noson honno, cynigiodd Evan y dylid gollwng yr enw Byddin Ymreolwyr Cymru gan fabwysiadu’r enw Plaid Genedlaethol Cymru yn ei le. Dylai’r blaid hon, meddai, godi arian, noddi ymgeiswyr seneddol, cydweithredu gyda chenedlaetholwyr yr Alban, a datgan mai aelodaeth Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd oedd ei nod. A dyna a fu. Tri mis wedi’i sefydlu, diflannodd Byddin Ymreolwyr Cymru gan ail ffurfio ar unwaith fel Plaid Genedlaethol Cymru. Roedd lle’r Queen’s Café yn saff, wel yn weddol saff yn y llyfrau hanes.

Y Parch Lewis Valentine M.A., gweinidog gyda’r Bedyddwyr, ddewiswyd fel Llywydd y Blaid Genedlaethol newydd, ac H.R.Jones, wrth gwrs, ddaeth yn Ysgrifennydd. Aeth H.R. ati ar unwaith i geisio denu gwladgarwyr o bob cwr o’r wlad i ymuno â’r Blaid Genedlaethol. Mae’n ymddangos ei fod wedi clywed rhyw ychydig am fodolaeth y Mudiad Cymreig swil yn y de, ac fe dderbyniodd Saunders Lewis un o’i lythyrau. Heb wastraffu dim amser, dechreuodd y Blaid Genedlaethol fach annibynnol newydd ar ei weithgarwch a oedd yn hollol wleidyddol ei natur. Llwyr wleidyddol oedd natur eu gweithgarwch. Protestiwyd yn erbyn bwriad y Llywodraeth ganolog i ddarnio’r Bwrdd Addysg Canolog Cymreig ac i gau swyddfa ranbarthol yr Adran Bensiynau yng Nghaerdydd. Galwyd am farnwyr Cymraeg i lysoedd gogledd Cymru. Cysylltwyd â gwleidyddion gan alw arnynt i gefnogi ymreolaeth i Gymru. Yn ganolog oedd y syniad mae ar sail yr uned genedlaethol, a gyda pharch at yr iaith Gymraeg, y dylid trefnu llywodraethu Cymru. Yn benodol ynglŷn ag ystyriaethau ieithyddol, y ffaith arloesol oedd mai’r Gymraeg oedd iaith y blaid wleidyddol newydd hon oedd wedi’i sefydlu yng Nghaernarfon. Trwy’r iaith Gymraeg y cafodd ei ffurfio ac y dechreuodd ymgyrchu.

Yn ganolog i bopeth bellach oedd yr angen i ehangu aelodaeth ac i osod y Blaid ar seiliau cenedlaethol. Ac roedd y trafodaethau rhwng H.R.Jones a Saunders Lewis yn hollbwysig i’r broses honno. Nid peth rhwydd oedd delio â Saunders Lewis. Yn y cyfnod cynnar hwn, fe fynnodd eglurhad llwyr ar ddau faes polisi yn benodol cyn cytuno ymuno â’r Blaid Genedlaethol, hynny yw, ynglŷn â statws yr iaith Gymraeg a natur y gweithredu gwleidyddol. O ran statws yr iaith, cytunai mai ‘Gorfodi’r Gymraeg’ ddylai fod y polisi, meddai, fel roedd H.R.Jones wedi nodi, ond mynnodd fod hyn yn golygu bod y Gymraeg yn iaith gweinyddiad cynghorau lleol, ac iaith ysgolion. Ynglŷn â natur y gweithredu gwleidyddol, cytunai Saunders Lewis, eto, gyda’r nod o ‘Dorri pob cysylltiad â phleidiau gwleidyddol Cymru a Lloegr’. Ond aeth ymhellach. Mynnodd yn ogystal y dylid torri pob cysylltiad gyda ‘Senedd Loegr’ gan weithio’n unig drwy gynghorau lleol Cymru. ‘Ni ddaw dim i Gymru fyth drwy Senedd Loegr,’ meddai, ‘Yn awr, os mabwysiadwch chi fel plaid y ddwy egwyddor yna yn llwyr, mi ymunaf gyda chwi ar unwaith.’

Nid un i oedi oedd H.R.Jones. Cyn i Saunders dderbyn ateb, roedd taflen yn ei law yn datgan ei fod eisoes yn is-lywydd i’r Blaid newydd. Ffromai Lewis a mynnai eglurhad. Ond wrth ei gyd-aelodau yn y Mudiad Cymreig dirgel, roedd yn datgan yn fuan ei falchder bod eu holl syniadau wedi cael eu derbyn. Byddant yn gallu gweithredu fel ‘bloc national’ – yn Ffrangeg Saunders – y tu fewn i’r Blaid newydd oedd wedi codi mor annisgwyl i’w chadw at eu hegwyddorion hwy. ‘Fel y gwelwch,’ meddai,’ heb yn wybod iddynt, maent i gyd yn aelodau o’n mudiad ni.’

Un mater arall oedd ar ôl. Mynnai Saunders Lewis gael cyfarfod i osod y Blaid Genedlaethol ar sail genedlaethol. Roedd y Queen’s Café, Caernarfon, wedi cyflawni’r wyrth gychwynnol. Byddai Saunders Lewis yn nodi, ‘Credaf ei bod yn gywir dweud mai H.R.Jones a sylfaenodd y Blaid Genedlaethol Gymreig’. Nawr aeth H.R. ati i drefnu cyfarfod bach, preifat ar gyfer saith* cynrychiolydd i gwrdd yn y Maesgwyn Temperance Hotel, Pwllheli, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Awst 1925. Ond stori arall yw honno.

Dim ond chwech a gyrhaeddodd, wedi i D.J.Williams golli ei drên.

Atgofion am Is-etholiad Maldwyn 1962

RHAI ATGOFION AM IS-ETHOLIAD 1962

gan Trefor Edwards

Mae’n syn meddwl fod naw mlynedd wedi mynd heibio er Is-etholiad 1962 ym Maldwyn. Dyna’r tro cyntaf i’r Blaid ddangos y faner ac o ystyried hynny mae’n deg dweud i’n cynnydd fod arwyddocaol iawn. Pe bai’r Blaid wedi sefyll ym Maldwyn er 1945, dyweder, yna mae lle i gredu y byddai’r cynnydd yn amlycach fyth. Ac fel y sylwodd Dr. Phil Williams ar ôl yr Etholiad diwethaf, yn yr etholaethau hynny y bu ymladd dros gyfnod helaeth o amser y cafwyd yr ymateb gorau. Ond nid bwriad hyn o lith yw tynnu llinyn mesur dros weithwyr cynnar y Blaid yn y sir, oherwydd fe wn yn dda am yr anawsterau, a’r gwaith a gyflawnwyd ganddynt.

Etholiad diddorol a dweud y lleiaf a fu’r Is-etholiad ym 1962, ac mae rhai profiadau prin, bythgofiadwy yn mynnu ymwthio i’r cof. Un ohonynt oedd mynd i Fangor un noson i geisio dwyn perswâd ar Islwyn Ffowc Elis i sefyll fel ymgeisydd. Bu’r daith yn ôl o Fangor yng nghwmni’r Parch. Arthur Thomas ar ôl cael ateb cadarnhaol yn felys fer a’n hysbrydoedd ar ei huchelfannau. Nid edrychodd Maldwyn yn brydferthach na’r noson honno ac ysbryd y ‘Gwanwyn’ yn y tir.

Yr ail atgof yw ymweliad y diweddar J.E. Jones â’r sir i baratoi am yr ymgyrch. Nid oedd ei iechyd yn dda o gwbl, fe wyddwn hynny, ond ni wyddwn ei fod mewn cymaint o boen corfforol, fel y cyfaddefodd wrthyf rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Roedd ei dasg yn enfawr ond aeth ati yn ei ffordd gadarn i wneud yr hyn a allai. Daeth i’n gweld i’r tŷ ryw fin nos ac amlinellu cynlluniau’r frwydr er gwaethaf ei salwch. Siaradai ac ysgrifennai yn ddi-stop â’i feddwl yn glir a threfnu ar hyd yr amser. Nodweddiadol o’i drylwyredd oedd y modd yr ai ati i drefnu cyfarfodydd. Map O.S. manwl ar y bwrdd o’n blaenau a J.E. am gynnal cyfarfod mewn pob tref, pentref a hyd yn oed y mân bentrefi a’r ardaloedd. Lle bynnag y gwelai J.E. glwstwr o dai ar y map roedd rhaid cynnal cyfarfod yno. Y Belan a Threfnannau a Phenygarnedd! Roedd Bwlchyddâr yn cael ystyriaeth hefyd, ond sylweddolwyd fod hwnnw yn Sir Ddinbych! Braint i mi oedd cael cydweithio â dyn a ddisgyblodd ei hunan mor llwyr i achos rhyddid Cymru, ac a wnaeth hynny heb golli dim o anwyldeb cynhenid ei bersonoliaeth fawr.

Fe drefnwyd nifer fawr o gyfarfodydd yn ystod yr Is-etholiad hwnnw, diolch i drylwyredd J.E. ac hefyd, wrth gwrs, oherwydd y gallem alw ar hufen siaradwyr cyhoeddus Cymru. Fel y cyfeiriodd Islwyn Ffowc Elis at yr ymgyrch yn ddiweddar, ymgyrch plannu’r had fu’r Is-etholiad ac fe’i plannwyd yn rymus iawn cyn belled ag yr oedd cyfarfodydd yn y cwestiwn.

Yr un a wnaeth fwyaf o waith gyda’r cyfarfodydd corn siarad oedd yr enwog Glyn James o’r Rhondda, y “corniwr” mwyaf effeithiol a glywais i erioed. Nid anghofiaf fyth ei araith ar brif stryd Llanfair Caereinion. Ninnau’r gweithwyr yn y swyddfa yn Brook House un amser cinio yn gorfod rhoi heibio’n gwaith a gwrando’n fud arno. Yna, y diweddar, anfarwol Fred Jones, Llanfair Caereinion, un o aelodau cynnar y Blaid yn y sir yn rhuthro i mewn i’r swyddfa, y dagrau’n treiglo i lawr ei ruddiau, ac yn ebychu fel tôn gron, “Rasol inne!” a “Fachgien bech!”.

Ie’n wir, etholiad i’w gofio oedd Is-etholiad 1962. Erbyn hyn mae’r had wedi egino a’r egin yn glasu bryniau Maldwyn. Fe ddaw’r cynhaeaf a bydd melys y medi. Ni all ein gelynion ond ei ohirio mwyach.

(Allan o MALDWYN, Montgomery Newsletter of Plaid Cymru. Rhif 2. Haf 1971.)

Hanes Plaid Cymru