Cofio Phil Williams Teyrnged Dafydd Williams

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd dydd Iau, 9 Awst 2018, bu Plaid Cymru’n dathlu bywyd y diweddar Athro Phil Williams, ei hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili hanner can mlynedd

Trefnwyd y cyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a rhoddwyd teyrngedau gan Dafydd Williams a Cynog Dafis a chyfraniad gan Dafydd Wigley.

Cofio Phil Williams

Teyrnged gan Dafydd Williams, Cadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru

Mae’n anodd credu ei bod yn bymtheng mlynedd ers colli Phil Williams.  Ac i’m cenhedlaeth i, anodd hefyd yw credu bod hanner can mlynedd wedi carlamu heibio ers yr isetholiad hanesyddol hwnnw yn etholaeth Caerffili.  Rydyn ni’n dal i aros am gofiant teilwng ohono fe, a gobeithio y daw hwnnw maes o law.  Ond mae llawer ar gof a chadw am y gŵr hwn o’r cymoedd a’i yrfa hynod – cymaint yn wir nes ei bod yn broblem penderfynu beth i’w  adael allan.  Diolch byth bod Cynog Dafis yma i edrych ar gyfraniad Phil i’n dealltwriaeth o bwysigrwydd yr amgylchedd, un o achosion mawr ei fywyd gorlawn. 

Roedd Phil yn bedair blynedd yn hyn na mi – cafodd ei eni yn Nhredegar, ar flaenau cymoedd glofaol Gwent, a’i fagu ym Margoed – a oedd, meddid, yn lleoliad i’r domen lo ail fwyaf yn y byd, ond bod neb yn siŵr iawn ble oedd y mwyaf!  Byddai’n hoff o olrhain ei achau ar y ddwy ochr, ei fam a’i dad i odre’r Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd hyn yn bwysig iddo – achos roedd stori ei dylwyth yn portreadu hanes ei wlad.  Dyma rieni ei dad yn dechrau eu bywyd priodasol ar fferm fach ucheldir Bryn Merched ger Llyn-y-fan.  Flynyddoedd wedyn, ceisiodd Phil gael hyd iddi, gan ddefnyddio hen fap 1870 – ond y cwbl oedd ar ôl oedd pentwr o gerrig.  Symudodd teulu ei dad i fferm yng Nghwm Rhymni – fferm a ddibynnai ar ffyniant y gymuned lofaol gerllaw.  Rhywbeth tebyg oedd hanes teulu ei fam – ei thad hi’n symud o waith mewn ffatri wlân yn ardal Llangadog i weithio yn y pyllau glo, gan ddibennu ei yrfa ym Margoed.

Felly cafodd Phil ei blentyndod yn un o dri o blant, David, Phil a Jennifer, yng Nghwm Rhymni, ble gweithiai ei dad yn athro, a nes ymlaen yn brifathro.  Roedd ei fam hefyd yn athrawes, oedd wedi mynd i’r Coleg Normal ­ – a dyma hanes drist – dywedai Phil bod ei chydfyfyrwyr yno yn gwatwar ei thafodiaith Gymraeg Wenhwyseg, a wnaeth hi ddim trosglwyddo’r iaith i’r plant.

Aeth Phil i Ysgol Lewis, Pengam ble daeth yn amlwg ei fod yn eithriadol o ddisglair.  Clywais ei frawd David yn ddiweddar yn adrodd hanes am roi lifft i Phil ar gyfer cyfweliad yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen – a dweud wrth y panel ei fod mewn gwirionedd a’i fryd ar Gaergrawnt i ddarllen gwyddoniaeth.  Ac roedd ei berfformiad gystal nes bod y dons yn Rhydychen yn fodlon cadw lle ar agor iddo, jyst rhag ofn!  Felly i Goleg Clare yng Nghaergrawnt yr aeth, fel David ei frawd – Phil  i ddarllen gwyddoniaeth, yn debyg i’w wncl, R.M. Davies, a fu wedyn yn Athro’r adran ffiseg yn Aberystwyth – a difyr meddwl y byddai Phil yn dilyn ôl traed ei ewyrth rai degawdau wedyn.  Buan iawn yng Nghaergrawnt y daeth ar draws defnydd cyfrifiadur – 1957 oedd hyn, cofiwch.  Ac o hynny ymlaen, byddai ar flaen y gad gyda thechnoleg.  Rwy’n cofio cael fy llorio ganddo, rywbryd yn y saithdegau gan ei osodiad treiddgar “All you need’s a modem”!  Doedd gen i fawr o syniad ar y pryd beth oedd modem neu e-bost – rown i’n credu ein bod ni yn Swyddfa’r Blaid ar frig y don gyda’n peiriant ffacs blaengar newydd!  Ac nes ymlaen, yn y chwedegau, pan alwodd am i bob cartref yng Nghymru feddu ar gyfrifiadur roedd pobl yn meddwl ei bod yn awgrym afrealistig – heddiw wrth gwrs mae’n cael ei gymryd yn ganiataol.

Ie, roedd Phil yn ddisglair, dim amheuaeth am hynny.  Ond roedd ganddo fwy i’w gynnig i’r byd na disgleirdeb yn unig.  Roedd gydag ef galon ac enaid a chydwybod – ac yn ffodus iawn i ni, fe ddaeth Cymru’n ganolbwynt i’w ddyheadau.  Fel un o blant y cymunedau glofaol, roedd ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth radical y cymoedd – ac yn 16 mlwydd oed, fe ymunodd â’r Blaid Lafur.  Yng Nghaergrawnt, bu’n gydawdur maniffesto Socialism for Tomorrow a alwodd am bwysigrwydd datganoli grym o Lundain, hynny ar ôl gweld dros ei hunan faint oedd y bwlch deallusol rhwng elit y Blaid Lafur a sosialaeth gwerin Cymru.

Rwy’n siŵr na fyddai Phil yn hoffi i mi ei gymharu mewn unrhyw ffordd â’r Apostol Pawl!  Ond mae rhaid y digwyddodd rhyw ‘eiliad ar y ffordd i Damascus’ iddo.  Mae’n debyg y bu dadleuon eithaf ffyrnig am wleidyddiaeth Cymru rhyngddo ef ag un o’i gyd-fyfyrwyr yng Nghaergrawnt, y diweddar Dr John Davies, a ddaeth i fod yn  un o’i ffrindiau agosaf.  Er gwaetha’r rheiny, er bod yr hadau wedi’u plannu siŵr o fod, i lawr ag ef i Gaerffili i helpu ymgyrch y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1959.  Ac yna, sioc.  Yna fe ddaeth ar draws ymgeisydd Plaid Cymru, John Howells.  Dyn wedi’i fagu ym Mhacistan, yn ddi-Gymraeg ac y gweithio i’r diwydiant awyrofod yng Nghaliffornia.  Fe chwalodd John Howells unrhyw ragfarn oedd ar ôl am Blaid Cymru a’i gweledigaeth.  Ac ar ôl darllen maniffesto’r Blaid, Cymru Rydd, daeth Phil Williams yn aelod ohoni.  Penderfynodd fod rhaid wrth sefydlu cangen o’r Blaid yng Nghaergrawnt gyda dau aelod i ddechrau – Phil a benododd John Davies yn ysgrifennydd, a John a benododd Phil yn gadeirydd!

O hyn ymlaen, byddai gwyddoniaeth yn gorfod ymgiprys â gwleidyddiaeth am ei sylw a’i amser.  Ar yr ochr wleidyddol, roedd drws Plaid Cymru yn llydan agored iddo, a dim prinder o alw am ei ddawn, a’i egni a’i amser.  Ond byddai gwyddoniaeth hefyd yn dynfa gyson – a, dwi’n meddwl, weithiau hefyd yn falm i’w enaid ar ôl unrhyw siomedigaethau gwleidyddol.  Yn 1962 priododd ag Ann Green a hanai o ardal Coed Duon yng Nghwm Sirhywi – ac fe ddaeth mab a merch, Iestyn a Sara.  Mae Ann yn artist o fri sy’n parhau i arddangos ei gwaith – ac roedd gan Phil ei hun ddiddordeb mawr yn y celfyddydau, yn ogystal â chwarae’r sacsoffon mewn sawl grŵp jazz dros y blynyddoedd, gan sefydlu grŵp Assembly Broadband yn y Cynulliad.

Yn 1964, safodd fel ymgeisydd Seneddol yng Nghaerffili, etholaeth y byddai’n ymladd dros y Blaid chwe gwaith.  Dyma’r ‘Dr Phil’ y deuthum i’w adnabod fel cyd-aelod o Grŵp Ymchwil Plaid Cymru, grŵp newydd yr oedd ef a Dafydd Wigley yn ei arwain.  Byddwn ni’n cyfarfod yn Llundain, a Phil yn dod o Gaergrawnt i gwrdd â ni.  Erbyn hyn, roedd e wedi’i benodi yn Gymrawd yn ei hen goleg, Clare, ac yn torri tir newydd yng  ngwyddoniaeth y gofod, gan helpu darganfod quasars.

Digon ar ei blât yn ei waith academaidd felly, ond roedd hi’n adeg o gynnwrf yng Nghymru, ac roedd e am chwarae rhan gyflawn.  Roedd Gwynfor yn y Senedd, ond heb yr adnoddau byddai rhywun y dyddiau hyn yn cymryd yn ganiataol – heb ddesg hyd yn oed ar y dechrau.  Ceisiodd y Grŵp Ymchwil, Dafydd a Phil yn enwedig, i lenwi’r bwlch rywfaint – gan helpu cael hyd i wybodaeth a llunio cwestiynau i’w rhoi ar lafar ac ar bapur yn y Senedd. 

Ac wedyn, daeth isetholiad Caerffili.  Roedd Phil wedi symud i swydd newydd yn Aberystwyth a minnau erbyn hyn ar staff y Blaid.  Roeddwn wedi ymgyrchu fel milwr troed o’r blaen, gan gynnwys yr isetholiadau yn Abertyleri, Caerfyrddin a Gorllewin y Rhondda, ond dyma’r tro cyntaf i mi helpu trefnu isetholiad o’r dechrau tan y diwedd.  Ac isetholiad i’w chofio oedd hi – pencadlys amlwg ar y Twyn gyferbyn â chastell Caerffili, sustem canfasio drylwyr, tîm lleol ardderchog – a’r fodurgad honno, pedwar cant o geir, medden nhw.

Ond beth wnaeth yr ymgyrch yn wirioneddpol gofiadwy oedd y ffordd aeth Phil ati i roi drosodd y neges o Gymru’n rhedeg ei bywyd ei hun yn genedl rydd.  Roedd cyfarfodydd ymhob rhan o’r etholaeth – y rheiny’n fwy fel ei seminarau yn y brifysgol na ralïau pleidiol, a chyfle i bobl holi a thrafod syniadau.  Daeth Phil o fewn 1,800 o bleidleisiau i ennill, gyda deugain y cant o’r bleidlais, gogwydd o 29 y cant, ar y pryd yr ail fwyaf erioed yn y Deyrnas Gyfun.

Hanner can mlynedd wedyn, mae’n bwysig cydnabod effaith pellgyrhaeddol yr ymgyrch hwnnw.  Isetholiad Caerffili a wthiodd llywodraeth Harold Wilson i symud ymlaen i sefydlu Comisiwn ar y Cyfansoddiad, proses yn y pendraw a arweiniodd at ddatganoli grym o Lundain.  Nid taw hwnnw oedd ei nod – pwysleisiodd Phil yr angen i Gymru ennill hunanlywodraeth gyflawn, a byddai’n barod iawn i arddel y term annibyniaeth.  Ond heb os, yn dilyn yr isetholiadau yng Nghaerfyrddin gyda Gwynfor, Gorllewin y Rhondda gyda Vic Davies a Hamilton yn yr Alban gyda Winnie Ewing – rhoddodd Caerffili hwb sylweddol ymlaen.

Bu gan Phil rôl allweddol wrth ddatblygu un o gyhoeddiadau pwysicaf y Blaid, y Cynllun Economaidd i Gymru, a gyflwynwyd i’r Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad yn 1970.  Yn sail i’r Cynllun oedd dadansoddiad cadarn o’r economi a gafodd ei lunio gan yr Athro Edward Nevin – dadansoddiad ‘mewnbwn-allbwn’ a fesurai sut byddai sectorau gwahanol o’r economi’n effeithio ar ei gilydd.  Roedd Nevin eisoes wedi llunio adroddiad pwysig yn 1957 a brofodd fod mwy o drethi’n cael eu casglu yng Nghymru na’r cyfanswm o wariant cyhoeddus, gwaith a wnaeth argraff fawr ar Phil cyn iddo ymuno â Phlaid Cymru.  Gyda bygythiadau i’r diwydiannau glo a dur, a’r miloedd o swyddi ynddyn nhw, roedd dadansoddiad fel hwn yn amlwg yn hollol ganolog i unrhyw strategaeth ar gyfer y dyfodol – ac yn wir roedd Nevin yn awyddus i’w waith gael ei ddefnyddio i’r perwyl hynny gan lywodraeth Harold Wilson.  Ond gwrthod a wnaeth y llywodraeth Lafur, gan gyhoeddi dogfen dila iawn, Cymru – Y Ffordd Ymlaen – a gwylltio Nevin!

Gwelodd  Dafydd Wigley a Phil eu cyfle, a pherswadio Nevin i adael i ni ddefnyddio’i waith i roi amcangyfrif cadarn o’r problemau diweithdra a fyddai’n debyg o daro Cymru yn y blynyddoedd i ddod.  Dyna un rhan o’r cynllun – diffinio maint y broblem.  Aeth ymlaen i gynnig patrwm o ganolfannau twf, diwydiannau newydd a sustem trafnidiaeth effeithiol i’w cysylltu.  Cynllun chwyldroadol a gipiodd sylw – rwy’n cofio ar ôl treulio noson gyfan wrth y llungopiwr Gestetner i gynhyrchu copïau ar gyfer y Wasg y wefr o weld prif stori dudalen flaen y South Wales Echo a’i phennawd bras – ‘We’ll make you rich if you let us – Plaid Cymru’.  A’r boddhad nes ymlaen o fod yno i glywed canmoliaeth i safon y cynllun gan yr Arglwydd Geoffrey Crowther, Cadeirydd y Comisiwn ar y Cyfansoddiad ac economegydd o fri.  Gwrthod gwrando gwnaeth Llundain, wrth gwrs.  Fe gollodd glo, dur ac amaethyddiaeth filoedd o swyddi, gan greu’r union drybini economaidd yr oedd Plaid Cymru’n rhagweld – ond heb y datblygiadau yn ein seilwaith a fyddai’n lliniaru’r effeithiau negyddol.

Tua’r un pryd â’i waith ar y Cynllun Economaidd, chwaraeodd Phil ran bwysig wrth berswadio Prydain i ymuno ag EISCAT, prosiect Ewropeaidd i astudio haenau uchaf yr atmosffer.  Cafodd ei benodi yn un o gyfarwyddwyr ac yna’n Gadeirydd y prosiect yn Kiruna, uwchben y cylch Arctig yn Sweden lle treuliai gryn dipyn o amser.  Unwaith eto, byddai gwleidyddiaeth yn gorfod cyd-redeg â gwyddoniaeth – ond roedd y profiad hwn yn cyfoethogi ei waith dros Gymru.  Byddai’n aml yn cymharu sefyllfa’r economi neu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gyda gwledydd Llychlyn.  Kiruna oedd hen ganolfan mwyngloddio haearn yn Sweden ond diolch i weledigaeth  ei llywodraeth annibynnol fe ddaeth y dre’n bencadlys ymchwil newydd i’r gofod.   Ac wrth ymweld ag arddangosfa am y trawsnewid yma fe welodd Phil sôn am dref ei mebyd – Bargoed – fel enghraifft o sut i beidio â thrin dirywiad economaidd!

Rywbryd yn y saithdegau, fe aeth Phil a mi ar daith i Ffrainc – gwaith gwyddonol iddo fe, gwyliau chep i mi!  Er nad oedd y tywydd mor wych ar y dechrau, a’i gar yn dioddef ambell i bwl o dro i dro, fe gyrhaeddon ni’r gyrchfan gyntaf – observatory EISCAT mewn lle anghysbell yng nghanol y Massif Centrale, filltiroedd o unrhyw far neu fwyty, ond Phil wrth ei fodd y trafod y darganfyddiadau diweddaraf gyda’i gyd-wyddonwyr – dynion ifanc i gyd yn gwisgo jeans a barfau!  Yna ymlaen at Grenoble am gynhadledd yn y brifysgol, ble roedd Phil yn cyfrannu i’r trafodaethau a minnau’n rhydd i grwydro’r ddinas.  Bob hyn a hyn ar hyd y ffordd drwy Ffrainc, byddai’r car yn dod i stop yn ddisymwth – a Phil yn neidio mas i dynnu llun – nid o gastell, na llyn na mynydd, ond wal – roedd gydag ef gasgliad helaeth o luniau close-up o gerrig neu briciau mur o bob man.

Byddai Phil wastad yn mynnu cywirdeb – mewn gwleidyddiaeth fel mewn gwyddoniaeth – a doedd e ddim yn fodlon derbyn ffeithiau neu ffigurau heb eu profi drosto fe ei hun.  Roedd yn anghyfforddus gydag ambell i osodiad gan y Blaid – am faint o ddŵr oedd yn cael ei allforio mewn blwyddyn er enghraifft – mae’n debyg bod hyn yn fwy na’r cyfanswm o law oedd yn syrthio ar ein gwlad!

Byddai’n cadw pob darn o bapur oedd yn berthnasol.  Rwy’n cofio unwaith yn yr wythdegau y bu tipyn o helynt am ddewis ymgeisydd isetholiad yng Nghwm Cynon – a’r cwbl yn dibynnu ar statws Adran y Menywod a’i chynrychiolaeth ar y Pwyllgor Gwaith – a oedd wedi’i sefydlu’n ddilys yn ôl rheolau’r Blaid ai peidio.  Phil ddaeth i’r adwy, gan ddarganfod y dystiolaeth o’r 1950au rywle yng nghanol tomen o bapur yn ei atig!  Fel canlyniad efallai, byddai bob amser yn teithio gyda sawl briffces – un ar gyfer gwaith y Blaid, un arall ar gyfer ei waith gwyddonol ac yn y blaen.

Wrth gwrs fyddai ddim yn hawdd cyflawni pob gorchwyl ar ei restr gwaith – ac weithiau fel Ysgrifennydd Cyffredinol byddwn i’n teimlo bod rhaid pwyso arno fe i gwblhau rhyw bapur polisi neu’i gilydd ar gyfer y Pwyllgor Gwaith neu’r Cyngor Cenedlaethol.  Yn amlach na heb, byddai’n dod yn ôl ar y ffôn gydag un o’i hoff gwestiynau, “Whats the absolute deadline?”.  Fel arfer, byddai’r ‘absolute deadline’ honno’n mynd heibio, ond rywsut neu’i gilydd fe fyddai’n ddi-ffael yn ei gynhyrchu mewn pryd.  Sawl gwaith fe arhosodd yn Swyddfa’r Blaid drwy’r nos i orffen rhyw waith felly, a chwdyn cysgu gydag ef i gael awr neu ddwy o gwsg cyn codi i’w gwblhau.   Ac wrth gwrs roedd y gwaith hwnnw o’r ansawdd uchaf – dyna paham y bydden ni yn y Blaid yn troi ato fe dro ar ôl tro am arweiniad.

Wrth wrando ar y newyddion y dyddiau hyn, bydda i’n aml yn pendroni beth fuasai barn Dr Phil pe byddai’n dal gyda ni?  Brexit, er enghraifft.  Roedd Phil yn Gymro Ewropeaidd i’r carn, ac er yn cefnogi agwedd y Blaid yn Refferendwm 1975, roedd e’n falch iawn pan fu’r holl ymrafael drosodd.  Flwyddyn wedyn, mewn araith bwysig i’r Ysgol Haf yn Llanbedr Pont Steffan, pwysleisiodd ei gefnogaeth i’r cysyniad o ‘Ewrop y Can Baner’, cymdeithas o wledydd rhydd.  Safodd fel ymgeisydd i Senedd Ewrop ddwywaith, yng Nghanol a Gorllewin Cymru yn 1984 a 1989, a chwarae rhan weithgar wrth ddatblygu cysylltiadau rhwng Plaid Cymru a phleidiau’r cenhedloedd a rhanbarthau bychain yn Ewrop.  Fe welodd yn glir beth sydd gyda ni fel gwledydd yn gyffredin, sef ein bod ni’n i gyd yn drefedigaethau mewnol o’r pwerau mawr.  Trueni na dderbyniwyd ei weledigaeth gan y sefydliad yn Llundain a’r prifddinasoedd eraill – go brin byddai sôn am Brexit ac y byddai pethau’n bur wahanol yng Nghatalunya a’r Alban – ac yng Nghymru o bosibl.

Daliodd Phil nifer o swyddi cenedlaethol gyda’r Blaid yn ystod ei yrfa, gan gynnwys swyddi’r Cadeirydd ac Is-lywydd, a bu sôn amdano nifer o weithiau fel arweinydd posibl.  Dwi ddim yn meddwl ei fod a’i bryd erioed ar hynny – heblaw am dynfa ei yrfa fel gwyddonydd, fuodd erioed yn ysu am rôl fel gwleidydd, er iddo ddweud mai cael ei ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol oedd anrhydedd fwyaf ei fywyd.

Fyddai byth chwaith yn poeni ormod am ei ddelwedd ei hun.  Soniodd y diweddar Patrick Hannan am y tro pan oedd y ddau ohonyn nhw’n cerdded i ginio prifysgol  mewn gwesty crand, Phil â helmet ar ei ben ac yn pwsho beic.  Pan gyrhaeddon nhw, dyma fe’n gadael y beic mewn toiled, gan ddweud taw fan yna byddai fe’n ei barcio’n aml!

Yn ddi-Gymraeg cafodd Phil ei fagu, er mai’r Gymraeg oedd iaith ei gyndeidiau ar y ddwy ochr.  Ond fe ddysgodd yr iaith yn drylwyr  – rhoddodd araith gymhleth yn y Gymraeg ar ddatblygu cynaliadwy i’r Cynulliad yn 2003.  Ond wrth dreulio bywyd yn ceisio rhagoriaeth, roedd yn ymwybodol taw yn Saesneg y gallai fynegi ei hun orau.  Dyna paham, ym marn John Davies, ei fod yn betrusgar siarad yr ieithoedd eraill y dysgodd, a’r rheiny’n cynnwys Swedeg, Norwyeg, Ffrangeg a Rwsieg yn ogystal â’r Gymraeg.

Ar ôl ymladd cynifer o etholiadau, tipyn o syndod oedd ennill!  Ond dyna ddigwyddodd yn 1999, annus mirabilis Plaid Cymru, a Phil yn cario baner y Blaid yn etholaeth Blaenau Gwent – a’i swyddfa ymgyrch yng nghanol Tredegar – ac yn sefyll ar y rhestr yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru.  Fe aeth y cyfrif yng Nglyn Ebwy ar gyfer sedd Blaenau Gwent ymlaen yn hwyr – ac erbyn i Phil gyrraedd y cyfrif rhanbarthol yng Nghasnewydd roedd popeth drosodd a phawb wedi mynd adref.  Pawb, hynny yw, ond dyn yn brwsio’r llawr – ac efe a ddywedodd fod ‘rhyw Brofessor’ wedi ennill sedd, ond heb droi lan i glywed y cyhoeddiad.  A byddai Phil wedyn yn hoffi dweud mai fel yna y cafodd gadarnhad ei fod wedi ennill etholiad – ar ôl pedwar degawd o ymgyrchu! 

Ac felly am y tro cyntaf fe ddaeth yn wleidydd llawn-amser, er y byddai’n treulio Dydd Llun fel arfer yn darlithio ac yn gweithio yn y labordy yn Aberystwyth.  Doedd y Cynulliad Cenedlaethol newydd ddim yn gynefin naturiol iddo fe a’i ddull o annerch falle, er rwy’n siŵr y byddai San Steffan gyda’i holl ‘knock about’ wedi apelio llai fyth.  Ond gwnaeth ei wybodaeth a’i ffordd ddiymhongar argraff ddofn  ar ei gyd- Aelodau, gymaint felly fel y cafodd ei ddewis yn Aelod Cynulliad y Flwyddyn am ei waith – hynny ym mlwyddyn gyntaf y Cynulliad gan Wobrau Gwleidyddol Channel 4 a hefyd y Western Mail.  Cafodd ei areithiau a’i brif gyfraniadau eraill i’r Cynulliad eu cyhoeddi mewn cyfrol hardd, diolch i Gwerfyl Hughes Jones, ac mae’r casgliad yn brawf o’r gofal a’r gallu a aeth i mewn i bopeth y cyflawnodd Phil drwy gydol ei oes.

Roedd aelodaeth o’r Cynulliad yn rhoi mynediad i stôr o wybodaeth, rhywbeth y defnyddiodd yn ddeheuig iawn i ddinoethi’r ffordd roedd y Trysorlys yn Llundain yn pocedu arian Ewropeaidd yn lle ei basio ymlaen i Gymru.  Unwaith eto, roedd ei gydweithio gyda Dafydd Wigley yn allweddol, a’r canlyniadau’n bellgyrhaeddol; yn eu plith disodli Alun Michael o’i swydd yn brif ysgrifennydd y Cynulliad ac – yn bwysicach fyth – gorfodi’r Canghellor Gordon Brown i dderbyn trosglwyddo arian o Ewrop i Gymru, £442 miliwn ohono fe,  yn lle ei sianelu i goffrau’r Trysorlys.

Rywsut yng nghanol ei holl brysurdeb, fe gafodd amser i gyfrannu i Wyddoniadur Cymru astudiaeth ysgolheigaidd ar wyddonwyr Cymru, un arall o’i hoff themâu.  Ac roedd yr un mor angerddol yn ei gefnogaeth i’r celfyddydau yng Nghymru – mae’n werth darllen ei araith i’r Cynulliad yn dathlu’r holl artistiaid roedd Cymru wedi’u cynhyrchu, ac yn galw am sefydlu oriel gelf gyfoes gydag adrannau rhanbarthol.

Siom i mi oedd clywed ei fod am ildio’i sedd yn y Cynulliad yn 2003.  Roedd gwyddoniaeth yn tynnu unwaith eto – a Phil a’i fryd ar dreulio mwy o amser ar ei ymchwil mewn astudiaethau’r gofod.  Yn sicr, roedd yn teimlo’n fwy cartrefol ymhlith ei gyd-wyddonwyr.   Nid bod pob gwyddonydd yn sant, a phob gwleidydd yn bechadur, dywedodd ef unwaith.  “Ond mae gyda nhw agwedd wahanol at y gwirionedd”, meddai. “Os yw gwyddonydd yn cyflwyno anwiredd yn fwriadol, bydd yn dryllio ei enw da am byth.  Ond mae gwleidyddion yn gwneud hynny drwy’r amser.”  Ac eto – ychydig cyn ei farwolaeth annhymig, roedd ganddo’r syniad i weithio’n ymchwilydd rhan-amser i Alun Ffred – a thrwy hynny barhau i gyfuno dau fywyd prysur.

Roedd ei farwolaeth, ac yntau ond yn chwe-deg pedwar blwydd oed, yn golled enfawr i lawer o bobl ymhob maes.  Gallwn ni ond diolch am ei barodrwydd i roi cymaint i achos Cymru.

Dyma fersiwn estynedig o’r araith i gyfarfod Cymdeithas Hanes Plaid Cymru a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Dydd Iau 9 Awst 2018

 

Llyfryddiaeth

‘Voice from the Valleys’.  Phil Williams.  Plaid Cymru (1981)

‘The Story of Plaid Cymru’.  Dafydd Williams.  Plaid Cymru (1990)

‘The Welsh Budget’.  Phil Williams.  Y Lolfa (1998)

‘Pam y dylai Cymru gael Hunanlywodraeth?’ Phil Williams.  Plaid Cymru (1997)

‘Professor Phil Williams’ (Ysgrif Goffa).  Meic Stephens.  The Independent.  13 Mehefin 2003

‘Phil Williams (1939-2003)’.  Cynog Dafis.  Planet, the Welsh Internationalist 152.  Summer 2003.

‘Phil Williams: The Assembly Years’.  Golygwyd gan Gwerfyl Hughes Jones.  Plaid Cymru (2004)

‘Rhag Pob Brad’.  Rhys Evans.  Y Lolfa (2005)

‘Be’ Nesa!’  Dafydd Wigley.  Cyfrol 4.  Cyfres y Cewri 10.  Gwasg Gwynedd (2013)

Cofio Phil Williams Teyrnged Cynog Dafis

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd dydd Iau, 9 Awst 2018, bu Plaid Cymru’n dathlu bywyd y diweddar Athro Phil Williams, ei hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili hanner can mlynedd

Trefnwyd y cyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a rhoddwyd teyrngedau gan Dafydd Williams a Cynog Dafis a chyfraniad gan Dafydd Wigley.

Cofio Phil Williams

Teyrnged gan Cynog Dafis

Mi allen i siarad am Phil, y polymath rhyfeddol o ddyn sut ag oedd-e, drwy’r dydd ond cwta 15 munud sy gen i ac rwyf am ganolbwyntio ar ei gyfraniad neilltuol iawn-e mewn materion gwyrdd – sef y pwnc pwysicaf – oes ca’i fentro’i ddweud-e – o bob pwnc yn y byd.

Ond alla’i byth â pheidio sôn am rai atgofion penodol.

 

Mae geni ddelwedd glir yn ‘y meddwl o’r tro cyntaf erioed i fi’i weld-e, yn Ysgol Haf y Blaid yn Llangollen 1961, peint o gwrw yn ei law, a’i wyneb yn pefrio wrth ymuno yn y canu oedd yn atseinio drwy’r bar – canu Cymraeg wrth gwrs. Ryn ni’n arfer meddwl am Phil fel meddyliwr – roedd e’n dweud mai darllen traethawd Ted Nevin ar ystadegau economi Cymru a barodd iddo-fe ymuno â’r Blaid – ond o’r galon a’r ymysgaroedd yr oedd ei angerdd dros Gymru a’r achos cenedlaethol yn codi. Yr angerdd ymysgarol yna a’i gyrrodd-e yn ei holl waith dros y Blaid gydol ei oes.

 

Yr ail atgof yw ohono-fe’n siarad yng nghyfarfod Pwyllgor Gwaith y Blaid Tachwedd 1964, ar ôl etholiad cyffredinol hynod siomedig, ar gynnig yr oedd John Bwlchllan i fi wedi’i roi ger bron y dylai’r Blaid roi’r gorau, dros dro, i ymladd etholiadau seneddol. Ac mae hynny’n atgoffa dyn o’r ffaith mai rebel oedd Phil yn y dyddiau hynny, aelod o grŵp Cilmeri, gydag Emrys Roberts, Ray Smith ac eraill, a oedd am foderneiddio trefniadaeth y Blaid a chyda llaw dorri tipyn ar grib Gwynfor yn y broses.

 

Ond gadewch i ni ddod at faterion gwyrdd, gan ddechrau gyda chanlyniad etholiadol siomedig arall, sef etholiad Ewrop 1989. Roedd gobeithion uchel gan y Blaid a’r paratoadau’n fanwl ond mewn tair mâs o bedair etholaeth Cymru, cad y Blaid ei gwthio i’r pedwerydd safle gan y Blaid Werdd. Rwy’n cofio’n glir am Phil yn y cyfrif yn Abertawe mewn sgwrs ddofn-gyfeillgar, gytgordus gyda Barbara McPake, ymgeisydd y Gwyrddiaid. Hawdd deall y cytgord – roedd Phil, fel gwyddonydd gofodol, wedi’i hen argyhoeddi o arwyddocâd aruthrol, arswydus yn wir, newid hinsawdd. Rwy’n cofio amdano-fe’n dweud, am ryw gyfarfod o wyddonwyr i drafod y wybodaeth ddiweddaraf am newid hinsawdd mai ‘arswyd iasol’ [‘cold terror’] oedd y teimlad.

 

Rai dyddiau cyn yr etholiad hwnnw, roedd Plaid Werdd Cymru wedi cael gwahoddiad i ddanfon cynrychiolwyr i gymryd rhan mewn sesiwn drafod ar Fore Sul Cynhadledd Dinbych 1989.  Cafodd y gwahoddiad i gwrdd eu danfon cyn yr etholiad.  Sefydlwyd cyd-weithgor rhwng y ddwy blaid i archwilio’r tir cyffredin, a Phil yn arwain dros y Blaid. Bu’n cyfarfod yn gyson dros gyfnod o rai misoedd. Daeth dau ganlyniad pwysig o’r broses yna.

 

1 Drafftiodd Phil gynnig manwl, hirfaith, hynod o radical, i Gynhadledd y Blaid yng Nghaerdydd 1990, ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Gallwn-ni ddyddio gwyrddio Plaid Cymru, sy wedi cael effaith eithaf pellgyrhaeddol ar wleidyddiaeth Cymru, mwy neu lai o’r dyddiad hwnnw.

 

2 Awdurdododd Pwyllgor Gwaith y Blaid etholaethau lleol i sefydlu pactiau etholiadol gyda’r Gwyrddiaid lle’r oedd cefnogaeth leol i hynny. Trefnwyd cytundebau lleol yn y De Ddwyrain ac yng Ngheredigion, lle’r enillwyd buddugoliaeth lachar yn 1992, a bu rhaid i fi wneud cyfnod estynedig o wasanaeth cenedlaethol yn San Steffan o ganlyniad. Roedd hyn i gyd wrth fodd calon Phil – roedd parodrwydd i weithio ar draws ffiniau pleidiol gyda phobl o gyffelyb fryd er mwyn cyflawni pethau gwerthfawr yn reddfol iddo-fe. Rwy’n cofio amdano’n dweud hynny wrtha’i gydag arddeliad pan gydweithiodd e a finnau i sefydlu grwp trawsbleidiol ar ynni adnewyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Rown innau, fel Phil, wedi cael ‘yn argyhoeddi’n gynnar o arwyddocâd chwyldroadol yr agenda werdd a chanlyniad hynny oedd bod Phil a finnau wedi dod i ddeall yn gilydd yn dda iawn. Perthynas anghyfartal oedd hon wrth gwrs fe oedd y guru a finnau’r disgybl fyddai’n gofyn cwestiynau a gwneud ambell i awgrym. Pan ges i’r cyfle i arwain dadl ar ynni adnewyddol yn Nhŷ’r Cyffredin, polisi Phil ar ynni adnewyddol a Chymru oedd sylwedd yr araith.

 

Rwyf am droi am funud at fater gwahanol, tra arwyddocaol hefyd. Fi oedd cyfarwyddyd polisi’r Blaid yn y cyfnod yn arwain at sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999. Ryw ddiwrnod daeth neges oddi wrth Phil yn dweud ei fod wedi darganfod nad oedd Cymru erioed wedi cael ceiniog o arian Ewropeaidd. Y? medden i. Beth am y cannoedd o filoedd oedd wedi dod i Gymru drwy raglenni Amcan 5b ac yn y blaen?  Ond roedd Phil wedi bod â’i ben yng nghyfrifon y Swyddfa Gymreig ac wedi darganfod bod pob ceiniog o arian Ewropeaidd yr oedd Cymru wedi’i derbyn, ar gyfer rhaglenni cymdeithasol, economaidd ac amaeth-amglycheddol, wedi eu hadfachu, drwy ddirgel ffyrdd, i’r Trysorlys Prydeinig.  Swindl nid llai a swindl oedd yn digwydd mewn amryw wledydd Ewropeaidd – y wladwriaeth ganolog yn defnyddio arian Ewropeaidd i chwyddo’i thrysorlysoedd ar draul y rhanbarthau a oedd i fod i elwa, a hynny’n hollol groes i fwriad yr Undeb Ewropeaidd i godi cyflwr economaidd ardaloedd tlotach.

 

Pan ddaeth Phil yn AC Cynulliad yn 1999 roedd hyn yn fater o’r pwys mwyaf, a Chymru erbyn hyn wedi cymhwyso ar gyfer cronfeydd Amcan 1 – miliynau lawer o bunnoedd. Doedd dim sicrwydd, a dweud y lleiaf, y byddai’r cyllid Ewropeaidd yma yn wirioneddol ychwanegol i’r bloc Cymreig, sef holl gyllid y Cynulliad Cenedlaethol. Gwrthododd Gordon Brown, ac allodd Alun Michael ddim, gwarantu y byddai cyllid Amcan 1 yn ychwanegol a chanlyniad hynny  fuodd (1) i’r Cynulliad ddisodli Alun Michael yn Chwefror 2001 a (2) i Lywodraeth San Steffan ildio ar y mater yna mewn datganiad, os cofia’i’n iawn ym mis Gorffennaf. Fe fyddai cyllid Amcan 1 yn wirioneddol ychwanegol i’r bloc. Cymrodd y Blaid Lafur y clod. Ond oni bai am Phil, mae’n go saff i ddweud, byddai twyll y Trysorlys wedi parhau, o leiaf am gyfnod. Meddyliwch mewn difrif am y golled i economi Cymru yn yr amgylchiadau hynny.

 

Buodd cyfraniad Phil i waith y Cynulliad cyntaf, ac yntau’n aelod o bwyllgor yr economi, yn nodedig. Rwy’n cofio fel y byddai bob amser yn paratoi’i areithiau’n fanwl ac yn eu hymarfer yn ofalus. Byddai’n gweithio bob awr o’r dydd a’r nos ac eithrio ambell i solo ar y sacsoffon yn diasbedain drwy’r coridorau rhwng 10 ac 11. Ond rwy’n rhyw deimlo iddo-fe brofi elfen o siom o ddiffyg cyfeiriad y Llywodraeth o dan Alun Michael a Rhodri Morgan. Yn niffyg unrhyw gyfeiriad strategol, cafodd datblygu cynaliadwy ei ddehongli, nid fel cyfle i Gymru achub y blaen mewn sectorau amgylcheddol newydd, ond fel cyfres o rwystrau i ddatblygiad yn enw cadwraeth a gwarchod y dirwedd. Yn ystod y pedair blynedd yna llwyddwyd i dagu, yn hytrach nag ysgogi, twf ynni adnewyddol er enghraifft.

 

Serch hynny, cael bod yn aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol cyntaf, serch mor gyfyngedig ac anfoddhaol oedd pwerau a chapásiti mewnol hwnnw, oedd uchafbwynt  ei yrfa wleidyddol, os nad ei fywyd ac mae’r ffaith iddo gael y fraint aruchel yna’n destun llawenydd i’r rhai a gafodd ei adnabod – braint aruchel arall. Coffa da am y disglair a’r annwyl Phil Williams.

 

Dyma araith i gyfarfod Cymdeithas Hanes Plaid Cymru a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Dydd Iau 9 Awst 2018

 

 

Teyrnged i Drefnydd Allweddol Plaid Cymru

Talwyd teyrngedau ar faes Eisteddfod Ynys Môn 2017 i Elwyn Roberts – un o hoelion wyth Plaid Cymru a fu’n allweddol i’w datblygiad yn ystod yr 20fed ganrif.

Mewn sesiwn a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru dywedodd Llywydd Anrhydeddus y Blaid Dafydd Wigley fod Elwyn Roberts yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd.

“Roedd yn genedlaetholwr cwbl ymarferol a gredai fod buddugoliaeth yn tyfu ar sail trefniadaeth wleidyddol”, meddai.

Brodor o Abergynolwyn, Meirionnydd fu Elwyn Roberts ac yn fab i chwarelwr llechi.  Aeth i weithio i’r banc ar ôl gadael yr ysgol a dod yn aelod o Blaid Cymru yn ei ddyddiau cynnar – gan sefydlu cangen ym Mlaenau Ffestiniog a ddaeth y fwyaf yng Nghymru.

Cafodd ei ryddhau o’i waith yn y banc sawl gwaith – i fod yn drefnydd etholiadol i Gwynfor Evans ym Meirionnydd yn 1945 ac wedyn i wasanaethu’r Eisteddfod Genedlaethol cyn dod yn drefnydd Gwynedd i Blaid Cymru a’i gyfarwyddwr cyllid yn 1951.

Yn y cyfarfod cofio cafwyd teyrngedau hefyd gan yr awdur Gwynn Matthews a chyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Dafydd Williams.  A soniodd Cyril Jones, cynrychiolydd i Gwynfor Evans yn isetholiad Caerfyrddin y 1966, am y rhan allweddol yr oedd wedi chwarae wrth ennill y sedd gyntaf erioed i Blaid Cymru yn Senedd San Steffan.

Clywyd sut yr oedd gwaith Elwyn Roberts wedi sicrhau na fydd Plaid Cymru’n methdalu nifer o weithiau.  A dywedodd Dafydd Wigley sut daeth galw iddo drefnu’r ymgyrch trawsbleidiol dros ddeiseb Senedd i Gymru yn y 1950au.

“Pan gymerodd Elwyn drosodd y cyfrifoldebau, roedd y ddeiseb wedi rhedeg ers dwy flynedd ac ond ychydig gannoedd o enwau arni. Gafaelodd Elwyn yn yr awenau gyda’i unplygrwydd nodweddiadol, a llwyddodd i gynyddu nifer yr enwau i dros chwarter miliwn.”

Dyma rhannau o’r areithiau ar 10 Awst 2017 yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yng nghyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru i Gofio Elwyn Roberts. 

Dafydd Wigley

 

Gwynn Matthews

 

Dafydd Williams

 

 

 

 

Cyfarfod Teyrnged a Cerdd yn dilyn ei farwolaeth yn 1989

Darlith Syd Morgan Cymru a Chwyldro’r Pasg

Cymru a Chwyldro’r Pasg – Cenhadaeth Jack White yn 1916

Traddodwyd y ddarlith yn Saesneg gan Syd Morgan am 4yp Dydd Gwener, 21 Hydref yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Pafiliwn Llangollen.

Jack White

 

 

Wrth i ni nodi canmlwyddiant Chwyldro’r Pasg eleni, mae Cymru wedi canolbwyntio ar wersyll-garchar Frongoch. Fodd bynnag, mae ail gysylltiad rhwng y ddwy genedl. Mae hwn yn bwrw goleuni ar sut yr adweithiodd Llafur i’r Chwyldro, gan ddylanwadu’n sylweddol ar y canfyddiad gan Blaid Genedlaethol Cymru o Iwerddon a Llafur am ddegawdau. Ym Mis Ebrill 1916 daeth Jack White i Forgannwg ar genhadaeth i achub James Connolly rhag ei ddienyddio. Methodd; fe saethwyd Connolly yr un bore ag y cafodd White ei arestio.

 

Cynhaldledd Plaid Cymru Pafiliwn Llangollen

Cymru a Chwyldro’r Pasg – Darlith y Gynhadledd

Cymru a Chwyldro’r Pasg – Cenhadaeth Jack White yn 1916

Traddodir y ddarlith yn Saesneg gan Syd Morgan am 4yp Dydd Gwener, 21 Hydref yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Pafiliwn Llangollen.

Jack WhiteWrth i ni nodi canmlwyddiant Chwyldro’r Pasg eleni, mae Cymru wedi canolbwyntio ar wersyll-garchar Frongoch. Fodd bynnag, mae ail gysylltiad rhwng y ddwy genedl. Mae hwn yn bwrw goleuni ar sut yr adweithiodd Llafur i’r Chwyldro, gan ddylanwadu’n sylweddol ar y canfyddiad gan Blaid Genedlaethol Cymru o Iwerddon a Llafur am ddegawdau.

Ym Mis Ebrill 1916 daeth Jack White i Forgannwg ar genhadaeth i achub James Connolly rhag ei ddienyddio. Methodd; fe saethwyd Connolly yr un bore ag y cafodd White ei arestio. Mae’r cyflwyniad hwn yn edrych ar cri de cœur White: “Cafodd Connolly ei saethu gan fintai saethu Brydeinig a llofruddiwyd sosialaeth yn Iwerddon gyda chydsyniad a chymorth negyddol sosialwyr asgell-chwith Prydeinig”.

 

Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, 4pm Dydd Gwener 21 Hydref 2016

Cynhadledd Plaid Cymru Pafiliwn Llangollen

DJ a Noelle Davies – Darlith Richard Wyn Jones

Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016 cyflwynwyd darlith gan Yr Athro Richard Wyn Jones  am ŵr a gwraig a helpodd osod sylfeini Plaid Cymru. Bu’r Dr DJ Davies a’i briod Dr Noëlle Davies yn ffigurau amlwg yn ystod degawdau cyntaf y blaid genedlaethol. Yn gyn-löwr a deithiodd America gynt, fe ddatblygodd David James Davies bolisi economaidd y Blaid – gan groesi cleddyfau ambell dro gyda llywydd y mudiad, Saunders Lewis – yn ystod tridegau’r 20fed canrif. Roedd arbenigedd y ddau ar bolisi economaidd Gwyddelig a Sgandinafaidd yn ddylanwadol iawn, a chyhoeddodd DJ Davies ddogfen bwysig Can Wales afford Self-Government?, gyda’i ateb pendant, ‘Ie’!

2016Richard Wyn Jones

Darlith Richard Wyn Jones 2 Awst 2016

djdavies1956

 

 

 

DJDavies 1938 Cymoedd tan gwmwlb2016 Eisteddfod

Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop

Mae’n bryd sylweddoli gwir arwyddocâd un o brif arweinwyr Plaid Cymru, Saunders Lewis, medd un arall o gyn-lywyddion y Blaid, Dafydd Wigley.

Dafydd Wigley

Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n falch i gyhoeddi yn ei chyfanrwydd ddarlith sylweddol gan Dafydd Wigley ar ‘Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop’.  Traddodwyd y ddarlith ym Mhenarth yn dilyn dadorchuddio plac glas i gofio bywyd Saunders Lewis ar y tŷ yn Westbourne Road ble treuliodd traean o’i fywyd.

Mae Dafydd Wigley yn trafod gweledigaeth Saunders Lewis o briod le Cymru yn Ewrop; ac yn bwrw goleuni ar ei athroniaeth gymdeithasol – yn arbennig ei alwad i ddosrannu meddiant adnoddau naturiol yn nwylo’r bobl ‘fel na all na’r wladwriaeth nac unigolyn neu gasgliad o unigolion, ormesu’n economaidd ar deuluoedd gwerin’.  Sut aflwydd felly, mae’n gofyn, all neb honni bod Saunders Lewis yn perthyn i’r adain dde eithafol?

Seilir y cynnwys ar ddarlith gynharach a draddodwyd i Ganolfan Hanes Uwch Gwyrfai, ac rydyn ni’n ddiolchgar i aelodau’r Ganolfan am eu parodrwydd i ni gyhoeddi’r fersiwn estynedig hwn.  Bwriedir cyhoeddi fersiwn Saesneg nes ymlaen.

 

 

Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop

 

Cadeirydd a Chyfeillion –

Dwi’n falch iawn, o gael dilyn y seremoni pnawn’ma  o osod plac ar gartref Saunders Lewis  yn Stryd Westbourne, Penarth, drwy gael  traddodi’r ddarlith hon heno. Beth bynnag ein gwleidyddiaeth, tybiaf y gallwn gytuno fod Saunders Lewis  yn un o gewri cenedlaethol Cymru yn yr ugeinfed ganrif; ac mae’n dda o beth ein bod yn cydnabod a chofio ein harweinyddion ym mhob oes.

Saunders Lewis, Plaid Cymru ac Ewrop – testun amserol, wrth i ni symud tuag at refferendwm arall ar ein haelodaeth o Undeb Ewrop

Mae’r testun yn amserol, wrth i ni symud tuag at refferendwm arall ar ein haelodaeth o Undeb Ewrop: sef  Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop. Rwyf yn falch o’r cyfle – a’r anrhydedd – oherwydd mae pob un o’r elfennau hyn yn gwbl greiddiol i’m gwleidyddiaeth; ac yn arbennig dylanwad Saunders Lewis.

Saunders Lewis 1WW

Ysywaeth, dros y degawdau diweddar, bu tuedd i fychanu a difrïo ei weledigaeth wleidyddol, a’i ddaliadau; yn rhannol gan elynion gwleidyddol Plaid Cymru;  yn rhannol gan rai sy’n beirniadu Saunders o sicrwydd parlwr cefn yr oes hon, ar sail ei safbwynt a’i werthoedd oedd yn berthnasol i amgylchiadau’r oes o’r blaen – oes oedd â gwerthoedd tra gwahanol i’r oes hon.  Os ca’i addasu geiriau bardd Seisnig:

Mae’r drwg a wneir gan ddyn yn ei oroesi   

           A’r da yn cael ei gladdu gyda’r corff.       

Ond mae ‘na rhai eraill sydd wedi camu i’r bwlch i geisio a chael dealltwriaeth  fwy gwastad, er enghraifft y cyhoeddiadau gan  yr Athro Richard Wyn Jones a’r Dr Emyr Williams; a heno fe  ychwanegaf rhai o’m sylwadau fy hun i geisio chwalu peth o’r cam-farnu a fu ar Saunders Lewis a’i ddaliadau.

******

Dim ond yn raddol y  deuthum i wybod am Saunders Lewis – gan fy mod o genhedlaeth oedd yn rhy ifanc i’w gofio fel arweinydd plaid. Erbyn i mi  ymhél a gwleidyddiaeth, roedd Saunders wedi  hir encilio o’r llwyfan i’w gornel ym Mhenarth, gan godi ambell sgwarnog o bryd i’w gilydd gyda’i ddramâu , a fyddai’n ypsetio gwleidyddion Cymru. Ac fe gododd glamp o ddraig pedigri gorau erioed  gyda’i ddarlith radio – a’ r ddarlith honno  ddaeth â mi i glywed ei lais am y tro cyntaf.

Enw yn unig oedd Saunders Lewis i mi, cyn Chwefror 1962, pan ddigwydd i mi droi mlaen y radio yn fy stafell ym Mhrifysgol Manceinion –  i wrando ar bytiau Cymraeg ar y Welsh Home Service. Roedd y rhaglen eisoes wedi dechrau, a minnau felly dim callach pwy oedd yn siarad. Cefais fy swyno gan y llais tenau,  anghyfarwydd,  oedd yn deud pethau mawr; pethau mawr iawn! Pwy oedd o? Beth oedd y cyd-destun?  Ie, darlith “Tynged yr Iaith” –  minnau’n gwbl ddamweiniol wedi troi i mewn i wrando.

Cefais gyfarfod Saunders Lewis dair gwaith yn unig; ac yna cefais y fraint annisgwyl o gludo’i arch  yn ei angladd, gorchwyl ar y cyd efo  Meredydd Evans, Geraint Gruffydd a Dafydd Iwan.  Golygai hynny lawer iawn i mi – ond ni allwn ddirnad  paham y cefais y fath fraint.  Hoffwn feddwl fod hyn oherwydd bod yr agenda Ewropeaidd – fy nhestun heno – yr un mor hanfodol iddo ef ac ydyw i minnau.

Hanner y gwir yw awgrymu nad oeddwn yn gyfarwydd â Saunders Lewis. Roedd y llais a glywais dros y radio yn ddieithr oherwydd dewis Saunders, dros ail hanner ei fywyd, i fyw bron fel meudwy; a hynny’n rhannol oherwydd – yn sgil llosgi’r Ysgol Fomio gwrthodiad Prifysgol Cymru i’w ail benodi i’w swydd yn Abertawe, er yn ddiweddarach cafodd le yng Nghaerdydd. “Hoff wlad, os gelli hepgor dysg…”.  Pwy allai ei feio pebae wedi chwerwi?  ‘Roeddwn felly, o reidrwydd, yn gweld SL drwy lygaid eraill; a’r hyn oedd wedi fy nghyffwrdd fwyaf oedd gwaith Williams Parry,  a’i thema fawr am yr Haf a ddaeth yn Aeaf.  Er iddo encilio, ni allwn ddianc rhagddo. Roedd  cysgod SL yn rhedeg ymlaen i’n cyfnod ni.

‘Roeddwn wrth gwrs yn ymwybodol o ran  ganolog Saunders Lewis  yn hanes sefydlu’r Blaid Genedlaethol; ac wrth i  mi ddarllen polisïau’r Blaid, cefais fy  swyno gan ei weledigaeth o briod le Cymru – a’r dreftadaeth Gymreig – o fewn prif lif diwylliant Ewrop.  Mae’r Ewrop Unedig  bellach yn fwy na breuddwyd ac mae’n rhan o’n bywyd beunyddiol.

Y sawl a ddaeth a dylanwad Saunders Lewis yn fwyaf uniongyrchol  i mi oedd fy nhad-yng-nghyfraith, y diweddar Emrys Bennett Owen. Ymunodd Emrys â’r Blaid Genedlaethol yn y tridegau – yn Sir Drefaldwyn. Dylanwad mawr Saunders Lewis a berodd hynny; ac un o’i hoff atgofion oedd iddo fod yn y Pafiliwn yng Nghaernarfon, ymhlith y deng mil a groesawodd y tri o’r carchar. Byddai Emrys byth yn adrodd yr hanes heb fynnu y gallai Saunders, y funud honno, fod wedi troi’r dorf yn wenfflam pe ddymunai: ond nid dyna oedd dewis y cawr bach gyda gweledigaeth unigryw. Nid demagog mohono, beth bynnag honiadau ei elynion.

Gellid honni ei fod uwchlaw gwleidyddiaeth, gan nad oedd yn chwennych grym, ond yn hytrach yn ceisio deffro cenedl.

Y tro cyntaf i mi gyfarfod â Saunders Lewis oedd yn gynnar ym 1975, pan gynhaliwyd refferendwm i gadarnhau aelodaeth Prydain o’r Farchnad Gyffredin.  Roeddwn mewn lle cyfyng o fewn y Blaid, ar y pryd,  fel un a gefnogai uno Ewrop. Roedd y Blaid wedi colli’r weledigaeth oedd gan Saunders adeg sefydlu’r Blaid –  sef mai o fewn y cyd-destun Ewropeaidd yr oedd cenedlaetholdeb Cymreig yn canfod cartref naturiol, allblyg ac egwyddorol,  yn driw i’w gwreiddiau hanesyddol a’i gwareiddiad Cristnogol. Fel hyn y disgrifiais  yn y gyfrol O Ddifri, fy nghyfarfod â Saunders ym 1975, ar ôl sôn am ddylanwad darlith radio 1962:

Flynyddoedd yn ddiweddarach, cefais y fraint o’i gyfarfod er na allwn – mwy na’r rhan fwyaf o’m cenhedlaeth, ddweud fy mod wedi cael cyfle i’w adnabod.  Dyma sylfaenydd y Blaid, athrylith a bontiai’‘r canrifoedd o’r oesoedd canol i’r ganrif nesaf, arwr a gynigiodd y cyfan  trwy aberth cyfrifol Penyberth.  Gellid honni ei fod uwchlaw gwleidyddiaeth, gan nad oedd yn chwennych grym, ond yn hytrach yn ceisio deffro cenedl.  Efallai ei fod hefyd uwchlaw ei gydwladwyr oherwydd nad oedd unrhyw beth cyffredin ynglŷn ag ef.

“Pan oeddwn yn teimlo fwyaf unig o fewn  y Blaid, sef yn ystod cyfnod y refferendwm ar ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd, euthum i’w weld yn ei gartref ym Mhenarth. Gwyddwn wrth gwrs am bwysigrwydd Ewrop yn ei olwg ac ‘roeddwn innau’n argyhoeddedig mai o fewn cyd-destun Ewropeaidd y gallai Cymru ddarganfod lle addas i gyfrannu’n waraidd a pherthnasol i’r byd.  Cefais groeso tywysogaidd, ac yntau yn fy holi yn craffu ar yr atebion, ac yn diolch yn wresog imi am alw heibio.”

Soniais hefyd yn y gyfrol honno am yr ail dro i mi fynd i weld Saunders, ar ôl i mi gael f’ethol yn Llywydd i’r Blaid ym 1981, cwta dwy flynedd ar ôl refferendwm trychinebus 1979. Y tro hwn, mentrais fod yn hy a mynd ä photel o win yn fy llaw. Daeth Dafydd Williams, Ysgrifennydd y Blaid, gyda mi. Cawsom groeso cynnes, er bod Saunders i’w weld wedi torri erbyn hynny. Teimlwn ei fod fel tai’n gwerthfawrogi ein bod ni, y genhedlaeth newydd yn y Blaid, yn uniaethu ag ef wrth fynd i edrych amdano. Dyn bach o ran corff oedd Saunders, a daeth i mewn gyda llai na ffanffer o bresenoldeb; derbyniodd y botel win, oeddwn mewn ffordd,  yn ei chyflwyno iddo fel ernes o heddwch; roedd ei wyneb yn drist, ond yn ceisio canfod gwen;  cymerodd un golwg ar y label, gan ebychu, yn fwy clywadwy nag a fwriadodd, dwi’n sicr  “HM” enfawr, fel pebae’n camu o glawr llyfrau R S Thomas; a gosod y botel o’r neilltu. Ond wedyn cawsom sgwrs waraidd arall am y weledigaeth Ewropeaidd.

 

*******

Saunders Lewis

Gadewch, felly,  i mi ddisgrifio sut yr oedd Saunders Lewis, o’i ddyddiau cynnar fel arweinydd y Blaid Genedlaethol, yn gosod ei ddaliadau gwleidyddol yn y cyd-destun Ewrop. Gwnaed hyn yn eglur yn ei ddarlith fawr, yn Ysgol Haf cyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth ym 1926.

Yn y ddarlith, a gyhoeddwyd gan y Blaid, dan y teitl  “Egwyddorion Cenedlaetholdeb”, dywed SL fel a ganlyn :

Yn yr oesoedd canol yn Ewrop, nid oedd unrhyw wlad yn……. Hawlio mai ei llywodraeth hi, o fewn ei therfynau ei hun, oedd yn ben ac yn unig awdurdod.  Fe gydnabyddai pob cenedl a phob brenin bod awdurdod uwch nag awdurdod gwlad, bod deddf goruwch deddf y brenin, a bod llys y gellid apelio ati oddiwrth pob llys gwladol. Yr Awdurdod hwnnw oedd yr awdurdod moesol,  awdurdod Cristnogaeth. Yr Eglwys Gristnogol oedd pennaeth Ewrop a deddf yr eglwys oedd yr unig ddeddf derfynol. Yr oedd Ewrop, am dro, yn un, pob rhan ohoni’n cydnabod ei dibyniad,  pob gwlad yn cydnabod nad oedd hi’n rhydd na ganddi  hawl o gwbl i’w llywodraethu ei hun fel y mynnai, a heb falio am wledydd eraill.  Ac unoliaeth Ewrop yn y cyfnod hwnnw,  ei hunoliaeth mewn egwyddor foesol a than un ddeddf, oedd diogelwch diwylliant pob gwlad a bro.  Canys un o syniadau dyfnaf yr Oesoedd canol, syniad a etifeddodd Cristnogaeth oddiwrth y Groegiaid, oedd y syniad bod unoliaeth  yn cynnwys lluosogrwydd.  Un ddeddf ac un gwareiddiad  a oedd drwy Ewrop achlân; ond yr oedd i’r ddeddf  honno a’r gwareiddiad hwnnw, wahanol ffurfiau a llawer lliw.

“Oblegid bod un ddeddf ac un awdurdod drwy Ewrop, yr oedd y gwareiddiad Cymreig yn ddiogel, a’r iaith Gymraeg a’r dulliau neilltuol Cymreig  mewn cymdeithas a bywyd.  Nid oedd y syniad am annibyniaeth yn bod yn Ewrop, na’r syniad am genedlaetholdeb.  Ac felly ni feddylid bod gwareiddiad un rhan yn berygl i  wareiddiad rhan arall, nac ieithoedd lawer yn elyn i unoliaeth.

   “Beth gan hynny,  yw ein cenedlaetholdeb ni? Hyn:……gwadu lles unffurfiaeth wleidyddol, a dangos ei heffeithiau drwg; dadlau felly dros egwyddor unoliaeth  ac amrywiaeth.  Nid brwydro dros annibyniaeth Cymru ond dros wareiddiad Cymru.  Hawlio rhyddid i Gymru, nid annibyniaeth iddi.  A hawlio iddi le yn Seiat y Cenhedloedd ac yn seiat Ewrop yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad……. Fe ddaw Ewrop i’w lle eto pan gydnabyddo’r gwledydd eu bod oll yn ddeiliaid ac yn ddibynnol……Mynnwn felly, nid annibyniaeth, eithr rhyddid. Ac ystyr rhyddid yn y mater hwn  yw cyfrifoldeb. Yr ydym ni sy’n Gymru, yn hawlio ein bod yn gyfrifol am wareiddiad a dulliau bywyd cymdeithasol yn ein rhan ni o Ewrop.  Dyna uchelfryd politicaidd y Blaid Genedlaethol.”

Gallwn weld o hyn, mor gwbl ganolog i weledigaeth wleidyddol Saunders Lewis, yw’r cyd-destun Ewropeaidd. A dwi ddim am hollti blew ynglŷn â’r  gair “annibyniaeth”.  Mae’n gallu golygu cymaint o amrywiol bethau i wahanol bobl.  Ystyr annibyniaeth i UKIP ydi gadael Undeb Ewrop; ei ystyr i’r SNP ydi cael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Bu i Saunders ei hun, ar un achlysur o leiaf,  ddefnyddio’r term, pan ddywedodd yn ei  araith  yn Ysgol Haf Llanwrtyd, 1930:  “Fe awn i’r Senedd …i ddatguddio i Gymru sut y mae’n rhaid gweithredu er mwyn ennill Annibyniaeth.” (DG Medi 1930).

Os ydi’r mwyaf oll yn cymysgu ei ieithwedd, pwy ydym ni i hollti blew!  Y syniadaeth fawr sy’n bwysig; ac yn hynny o beth, ‘doedd dim dyryswch, dim amheuaeth,  ble saif Saunders Lewis.

Hawlio i Gymru “ei lle yn seiat Ewrop yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad.”

 

                                      *****

 

Mae adnoddau naturiol Cymru i’w trin er budd y genedl Gymreig; y dylid gwasgaru meddiant drwy’r boblogaeth fel na all na’r wladwriaeth nac unigolyn neu gasgliad o unigolion, ormesu’n economaidd ar deuluoedd gwerin. 

Mae D Myrddin Lloyd, yn ei draethawd ar syniadau gwleidyddol Saunders Lewis, hefyd yn cyfeirio at y thema Ewropeaidd, wrth ysgrifennu fel a ganlyn:

Sylfaen foesol ac ysbrydol, felly, sydd i genedl; nid yw ei thynged  a’i gwerth yn sefyll ar unrhyw ffurf o annibyniaeth lwyr; ac nid am hynny y mae ei hurddas yn gofyn. Gall ymgyflwyno i lawer math o berthnaseddau. A gall ddygymod yn hawdd â llawer rhwymedigaeth. Rhinwedd ynddi hi ei hun yw ei rhyddid, ac fel y mae personau’n ymglymu’n naturiol i deuluoedd, i gymdogaethau, ac i amrywiol gymdeithasau eraill,  fel y maent yn cael eu hunain mewn cyfathrach â’r cyd-ddynion,  felly y mae cenhedloedd yn rhinwedd y ddeddf  foesol yn arddel aml berthynas â’i gilydd.

“Yn ei ymosodiad ar Ffasgaeth ym 1934 (erthygl bwysig y dewisir ei hanghofio’n aml) dywedodd Saunders Lewis fod Ffasgaeth yn dal mai i’r wladwriaeth y perthyn pob unigolyn, a bod hawliau’r Wladwriaeth yn ddiamod. ‘Deil y Blaid Genedlaethol Gymreig mai cymdeithas o gymdeithasau yw’r genedl, a bod hawliau’r cymdeithasau llai, megis y teulu, y fro, yr undeb llafur, y gwaith, y capel neu’r eglwys, bob un yn deilwng o barch.

“Nid oes” …. A dwi’n dal i ddyfynnu erthygl D Myrddin Lloyd “Nid oes gan y Wladwriaeth hawl foesol o gwbl i dreisio hawliau’r  cymdeithasau hyn ac y mae hawliau hefyd y tu allan i ffiniau’r genedl y dylai pob dyn a phob gwlad eu parchu.’

“Hawdd tarddu aml ddatganiadau Saunders Lewis  o blaid hawliau awdurdod lleol, a thros egwyddor cydweithrediad, a gwasgaru eiddo a rheolaeth, o’r ddysgeidiaeth hon.  Hefyd mae’r ddysg organaidd hon yn peri iddo weld y genedl fel rhan o rywbeth ehangach, sef bywyd Ewrop, a  Chred;  a’r byd cyfan. Yn ymgyfoethogi mewn iawn-berthynas â hwy, a’i deiliaid yn rhydd ac yn byw eu bywyd llawn yn unig os coleddir yr iawn berthynas hon.”

Wrth gyfeirio at ei gyfres “Cwrs y Byd” yn y Faner, dywed ei olygydd ar y pryd, Gwilym R Jones am SL “Bu’n ddolen gydiol rhwng y Cymry a’u traddodiad – a rhyngom a’n traddodiad Ewropeaidd hefyd.”  Yn sicr ddigon, roedd gweledigaeth Saunders Lewis yn rhannol seiliedig ar etifeddiaeth Cymru a darddai o’i gwreiddiau Ewropeaidd.

Peidier felly a meddwl mai rhinweddau masnachol undod Ewrop oedd wrth fôn y weledigaeth hon; i’r gwrthwyneb. Ystyriaeth eilradd oedd unrhyw fanteision materol; oblegid nid ar sail faterol, ond ysbrydol, y gosododd  Saunders ei weledigaeth; a tharddiad Ewropeaidd y dimensiwn ysbrydol oedd yn bwysig iddo. Gwelir hyn yn un erthygl yn Ysgrifau Dydd Mercher, sef detholiad o erthyglau Cwrs y Byd a ymddangosodd yn y Faner rhwng 1930 a 1945. Dywed fel a ganlyn:

Hanes gwareiddiad Ewrop – hanes delfryd ysbrydol ydyw… Olrhain y delfryd hwnnw a rydd ystyr i astudio hanes Ewrop; hynny a rydd undod i Ewrop.  Gall fod cant a mil o ddylanwadau ar fywyd gwlad ac ar ei fordd o fyw.  Ond yr hyn a ddaw i mewn i’w bywyd hi fel tynged, a benderfyna ei rhan hi  yn etifeddiaeth Ewrop, yw’r delfryd moesol arbennig hwn, sef y delfryd a luniwyd gyntaf erioed gan Roeg.  Groeg yw cychwyn ein gwareiddiad ni a llun Groeg sydd arno hyd heddiw.”

Yn  sicr byddai Saunders Lewis a rhywbeth i’w ddweud am y sefyllfa sydd ohoni parthed perthynas Groeg â’r Undeb Ewropeaidd fel y mae’n datblygu’r dyddiau hyn. A thybiaf y byddai’n gweld gwerth gwareiddiad Groeg fel eu cyfraniad mawr i Ewrop a hynny can-driliwn bwysicach na’r straffig sydd ynglŷn â’r Ewro heddiw.

Difyr hefyd yw nodi geiriau Patricia Elton Mayo, yn ei llyfr “Roots of Identity: Adnabod y gwreiddiau”, ble mae’n ysgrifennu “As an author and playwright well known on the continent, but unknown in England (Saunders Lewis) has stressed the European context of Welsh culture, which was certainly true before the English occupation isolated Wales from the mainstream of European cultural development.”; ac mae persbectif o’r math – sy’n tarddu oddi allan i Gymru, ond yn gweld datblygiadau cenedlaethol yng Nghymru fel rhan o symudiad Ewropeaidd, yn cadarnhau’n dehongliad o berthnasedd safbwynt Saunders Lewis.

 

***

 

Bu Saunders, wrth gwrs, yn olygydd y Ddraig Goch am flynyddoedd yng nghyfnod cynnar y Blaid. Byddai’n manteisio ar bob cyfle i ddod â dimensiwn Ewrop i’w ddadansoddiad.  Er enghraifft, mewn erthygl olygyddol a sgrifennodd ar gyfer rhifyn Awst 1929, dan y pennawd “Yma a thraw yn Ewrop: y lleiafrifoedd yn deffro”.  Wedi iddo nodi deffroad cenedlaethol yn Fflandrys, Catalunya, Malta, Llydaw ac Alsace, mae’n gofyn:

“Beth a brawf hyn oll? Prawf fod lleiafrifoedd Ewrop, y gwledydd bychain a lyncwyd gan rai mwy yng nghyfnodau gormes a chanoli llywodraeth, bellach yn deffro ym mhob rhan o’n cyfandir ni ac yn dwyn ysbryd a delfryd newydd i wleidyddiaeth Ewrop. (Nodwch yr ymadrodd “ein cyfandir ni”! – yn tydio’n adrodd cyfrolau?)

 Â ymlaen:

“Arbenigrwydd a nerth Ewrop, o’i chymharu hi ag America, yw amrywiaeth gyfoethog ei gwareiddiad hi.  Oblegid hynny, er mynd arweiniad economaidd y byd, am dro beth bynnag, i America, fe erys arweiniad meddyliol ac ysbrydol y byd yn Ewrop……Os yw hyn yn gywir, cywir hefyd yw ein dadl ni mai mudiad er bendith i Ewrop a’r byd yw’r  mudiad ymreolaeth yng Nghymru ac yn y gwledydd eraill oll; mudiad ydyw sy’n ychwanegu at gyfoeth Ewrop, yn sicrhau iddi adnoddau newyddion  a’i galluoga hi i gadw arweiniad ysbrydol y byd, er gwaetha ei hen ddallineb, ac i ychwanegu at ddedwyddwch  a thrysorau meddyliol a chynhaliol gwareiddiad.

Mae’n parhau….

“ Dyma’r efengyl a bregethwyd ers y cychwyn yn y Ddraig Goch . Yr athrawiaeth Ewropeaidd hon hefyd sy’n cymell arweinwyr ar y cyfandir, megis M. Maurice Duhamel (arweinydd y mudiad Llydewig). Na chreded neb mai ryw fudiad bychan disylw, unig, yw’r mudiad ymreolaeth Cymreig.  Na; rhan ydyw o’r mudiad mwy sydd yn ceisio arwain Ewrop yn ôl o fateroliaeth ymerodrol,  o gystadleuaeth gibddall y galluoedd canolog mawrion, i wleidyddiaeth newydd, gwleidyddiaeth sydd wedi ei sylfaenu ar ddyfnach deall o wir  natur a gwerth gwareiddiad y gorllewin.  Dyma’r wers i ni; gwasanaethu Cymru a gwaredu Cymru, yw gwasanaethu Ewrop a’r ddynoliaeth.”

Mae hynna’n ei deud hi, o’r galon ac mewn geiriau digamsyniol.

Mae SL hefyd yn gweld ymreolaeth Cymru fel rhan o sefydlu gwell drefn ryngwladol; trefn a fyddai’n ceisio a datrys anghydfod drwy ddulliau heddychlon, nid trwy ymladd rhyfel waedlyd o’r math y cafodd yntau’r profiad ysgytwol o ymladd ynddi. Mae ei bwyslais ar ddatblygu cyfundrefnau rhyngwladol – a’i rybuddion cyson o’r perygl na fynnai Lloegr fod yn rhan o drefn o’r math, yn gefndir i wleidyddiaeth Gwynfor, a’r ddolen euraidd a redodd hyd yn oed hyd heddiw, drwy safiad Adam Price yn erbyn rhyfel anghyfreithlon Tony Blair yn Irac.

Mae’n werth rhoddi sylw manwl i hyn.  Yn ei erthygl “Lloegr ac Ewrop a Chymru” a gyhoeddwyd yn Nhachwedd  1927 ac a gynhwyswyd yn y gyfrol Canlyn Arthur, a gyhoeddwyd ym 1938, dywed SL:

Beth yw polisi tramor Lloegr?  Datganwyd ei egwyddor yn derfynol ac yn bendant gan Syr Austen Chamberlain yng nghyfarfod Seiat y Cenhedloedd (sef yr hen League of Nations) fis Medi.  Ebr ef (ac mae SL yma yn dyfynu  Austen Chamberlain – a chraffwch ar y geiriau): ‘Y mae Lloegr yn perthyn i undeb gwledydd sy’n hŷn na Seiat y Cenhedloedd, sef Ymerodraeth Prydain ac os y daw gwrthdrawiad  rhwng y Seiat a’r Ymerodraeth, rhaid yw i ni  bledio’r Ymerodraeth yn erbyn y Seiat.’

“Pan ddywedodd Chamberlain hynny, llefarodd dros Loegr, nid dros blaid.  Yr un fu egwyddor Ramsey MacDonald pan oedd yn Weinidog Tramor; a’r un fu egwyddor y Rhyddfrydwyr.  Yn awr, yn rhinwedd yr egwyddor hon, y mae Lloegr – ysywaeth,  rhaid i ni ddweud y mae Prydain Fawr – er ei bod yn naturiol ac yn  ddaearyddol ac o ran yn hanesyddol, yn perthyn i Ewrop ac yn angenrheidiol i Ewrop – eto yn gwadu  ei pherthynas  a’i chyfrifoldeb ac yn gadael Ewrop heddiw , megis ym 1914 a chynt, yn ansicr am ei pholisi.”

Gallem, yn un mor gywir, ddeud hyn heddiw.  Aiff Saunders ymlaen gyda’r datganiad allweddol-bwysig ganlynol, a wnaeth lawer i liwio fy naliadau gwleidyddol innau:-

Dwyn Undeb politicaidd ac economaidd i Ewrop yw un o anghenion cyntaf ein canrif ni.  Gwelir hynny yn glir gan wledydd bychain Ewrop, ac er mwyn sicrhau hynny y lluniwyd ganddynt y Protocol sy’n rhwymo gwledydd i setlo dadleuon drwy gyf-lafaredd,  a deddf, ac yn galw ar yr holl wledydd eraill i ymuno i gosbi unrhyw wlad a dorro eu hymrwymiad.

“Er mwyn hynny hefyd, y myn y cenhedloedd bychain  rwymo pob gwlad i ardystio i adran Ddewisol ……. Ystatud Llys Sefydlog Barn Gydwladol.  Amcan yr Adran ddewisol  yw cael gan y gwledydd dderbyn barn y llys yn derfynol ar ddadleuon rhyngddynt a thrwy hynny arbed rhyfel.

“Fe wrthoda Lloegr.  Gwrthoda hefyd  adran Ddewisol y Protocol. Gwrthoda’r Protocol oherwydd, a hithau’n rhan o Ymerodraeth sydd  bron yn gwbl tu allan i Ewrop, ni fyn hi rhwymo ei hun i Ewrop. Gwrthoda’r Adran Ddewisol yn gyntaf…    “am na all y Llywodraeth sicrhau, pe byddai barn y llys yn anffafriol i Brydain, y gellid ei ddwyn i ddeddf drwy Senedd Prydain” ac yn ail  oblegid bod yr Ymerodraeth yn ddigon eang a chryf i fedru amddiffyn ei hawliau heb bwyso ar lys barn……….

Deëller effeithiau politicaidd hyn.  Pe derbynai holl wledydd Ewrop y Protocol a’r Adran Ddewisol, yna – a bwrw i un o’r gwledydd dorri ei llw a mynd i ryfel – byddai holl wledydd y Protocol yn rhwym o ymosod arni, a gwybod hynny a fyddai’r ataliaeth sicraf a ellid ar hyn o bryd ar ryfyg un wlad unig.

 

“Ond , heb Brydain yn y Protocol, a Phrydain hefyd yn rhydd oddiwrth y Llys Barn Gydwladol, ni ellid gwybod  beth a wnelai hi;  a’r ansicrwydd hwnnw – y posibilrwydd bargeinio am help Prydain a wnâi ryfyg a rhyfel unwaith eto, megis ym 1914, yn bosibl.  Hynny yw, fe geidw Prydain  o hyd at ei pholisi traddodiadol o goleddu ansicrwydd  yn Ewrop a hithau’n rhydd i ymledu ac ymgyfoethogi yn ei hymerodraeth fawr a’i threfedigaethau.

“Gwelir hefyd fod tueddiadau economaidd Lloegr yn llawn cymaint â’i thueddiadau gwleidyddol, yn arwain  i ryfel.  Gobaith heddwch gwleidyddol Ewrop yw cael Prydain yn rhan hanfodol o  undeb cenhedloedd Ewrop…..

Ond  ym Mhrydain  a  oes traddodiad Ewropeaidd?  A oes yma genedl a fu’n rhan wreiddiol o wareiddiad y Gorllewin, yn meddwl yn null y  gorllewin  ac yn gallu deall Ewrop; ac yn gallu cydymdeimlo â hi?  Yr ateb yw: Cymru.

“Y Cymry yw’r unig genedl ym Mhrydain a fu’n rhan o Ymerodraeth  Rufain, a sugnodd laeth y Gorllewin yn faban, a chanddi waed y gorllewin yn ei gwythiennau. Fe all Gymru ddeall Ewrop canys y mae hi’n un o’r teulu. Os oes rhaid dewis, fel y myn Chamberlain, rhwng yr ymerodraeth a Seiat y Cenhedloedd, nid oes amau beth yw tuedd Cymru.  Iddi hi erioed, ac i’w goreugwyr mewn meddwl a dysg, bu’r gyfathrach ag Ewrop yn ddadeni ac yn ysbrydoliaeth.  Ni bu’r Ymerodraeth ond enw iddi a sŵn diystyr.

“Fe dyfodd Cymru i fyny  gydag Ewrop, gyda gwledydd cred,  dan yr un ddisgyblaeth a chan adnabod yr unryw ffodion. Ond wedi dinistrio datblygiad Cymru, ac yng nghanrifoedd gwendid a nychtod Cymru, y tyfodd Ymerodraeth Lloegr – ac yn ddieithr i Gymru. Gan hynny, y mae traddodiad Cymru yn gwbl groes i athrawiaeth Chamberlain, a rhaid i’w pholisi tramor hi fod yn wahanol.  A dyna’r rheswm y rhaid iddi fynnu sedd yn Seiat y Cenhedloedd, fel y gallo hi fod yn lladmerydd Ewrop ym Mhrydain ac yn gadwyn i glymu Lloegr a’r Ymerodraeth wrth genhedloedd cred a  Seiat y Cenhedloedd.”

Dyna i chi neges o 88 mlynedd yn ôl – neges y gallech ei hail-dehongli efo hanes Irac.  Mae’n neges sydd, i mi, heb unryw os nac onibai, yn gyfangwbl berthnasol i’r byd sydd ohoni heddiw. O’r gwreiddiau hyn y mae mudiad cenedlaethol Cymru wedi tyfu; a gwae ni os anghofiwn hynny.

Mewn erthyglau eraill yn y Ddraig Goch, yn y tridegau, mae’n honni ei fod   “yn eglur bod cyfathrach agos ag Ewrop yn ffynhonnell pob Dadeni i ddiwylliant Cymraeg

 

Ar adeg arall,  dywed SL “Bu Lloegr unwaith yn rhan o Ewrop”, gan wedyn ddadlau mai “Drwy ennill Ymerodraeth y mae’r Saeson wedi colli Lloegr” (DG Hydref 1930).  Mae’r gosodiad hwn yn haeddu darlith iddo’i hun!

 

********

 

Yr hyn sydd raid i ni gofio, yn yr  oes hynod faterol sydd ohoni, ydi fod  gwareiddiad cenedlaethol Cymru yn cynnwys ein hetifeddiaeth ddiwylliannol – ein hiaith, ein llenyddiaeth, ein barddoniaeth, ein cerddoriaeth, ein celfyddydau cain – a  llawer mwy. Ond mae hefyd yn cynnwys ein gwerthoedd, megis y pwyslais a roddir o fewn ein hetifeddiaeth gymdeithasol, ar gydraddoldeb; ar werth cymdeithas fel y cyfryw,  ac nid gwerth yr unigolyn a’r teulu yn unig; ar yr elfen o gydweithio a chyd-ymdrechu i warchod ein buddiannau.

Dyma hanfod y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng gwleidyddiaeth Cymru a gwleidyddiaeth Lloegr; ac oherwydd fod y Blaid Lafur Gymreig yn  mynnu clymu ei hun i’r Blaid Lafur Seisnig, mae’n methu a datblygu athroniaeth a rhaglen wleidyddol ar sail ein gwerthoedd cenedlaethol ni,  fel sylfaen i’w pholisïau o fewn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae hyn yn f’arwain yn ddigon twt at y “Deg pwynt polisi” a luniwyd gan SL.  Cyhoeddwyd rhai o’r erthyglau a gyfrannodd SL  i’r Ddraig Goch, yn y gyfrol Canlyn Arthur  ym 1937. Yn eu plith, mae erthygl a luniwyd ym 1933 dan y teitl “Deg Pwynt Polisi”.  Yr hyn sy’n ddifyr, o gofio fod rhai haneswyr yn gosod gwleidyddiaeth SL ym mhrif ffrwd Democrat Cristnogol Ewropeaidd, mai trywydd adain chwith sy’n ymddangos yn y Deg Pwynt.

Er enghraifft mae’n sôn am ddosrannu perchenogaeth tir – ar gyfnod pan oedd rhai ystadau mawrion yn dal i fodoli; roedd yn sôn am rôl undebau llafur yn y broses o gynllunio’r economi ac o safbwynt trefniant diwydiant;  hawliai fod adnoddau naturiol Cymru i’w trin “er budd y genedl Gymreig”; y dylid gwasgaru meddiant drwy’r boblogaeth – a dyfynnaf –  “fel na all  na’r wladwriaeth nac unigolyn neu gasgliad o unigolion, ormesu’n economaidd ar deuluoedd gwerin”.  Yng ngwyneb hyn oll, sut aflwydd – SUT AFLWYDD – allai unryw un hanner call awgrymu mai gwleidydd adain dde eithafol  oedd Saunders Lewis?

Mae cyfalafiaeth ddiwydiannol a chystadleuaeth economaidd ….  yn ddrwg dirfawr ac yn gwbl groes i athrawiaeth cenedlaetholdeb cydweithredol.

Fe welir hyn fwyaf ym Mhwynt 3 o’r Deg Pwynt Polisi:

“3) Mae cyfalafiaeth ddiwydiannol a chystadleuaeth economaidd –  rydd oddiwrth reolaeth llywodraeth gwlad (h.y. masnach rydd) –  yn ddrwg dirfawr ac yn gwbl groes i athrawiaeth cenedlaetholdeb cydweithredol.”

Mae’n werth oedi am eiliad ar y geiriau hyn, gan eu bod yn allweddol bwysig i’r ffordd y mae Undeb Ewrop wedi tyfu. Diben Cymuned Ewrop, o’r dyddiau cynnar, oedd, i hyrwyddo masnach rydd ond i ganiatáu hynny DIM OND o fewn fframwaith cymdeithasol.  Doedd llawer ym Mhrydain heb ddechrau dirnad hyn ym 1975, adeg y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r “Farchnad Gyffredin”.  Felly roedd yr adain dde fasnachol Seisnig yn ysu am aelodaeth o’r gyfundrefn newydd ble gallasant, yn eu tyb hwy, greu fwy fyth o elw preifat.  Mewn gwrthgyferbyniad, fe ymatebodd y chwith drwy wrthwynebu aelodaeth o’r Farchnad Gyffredin, er mwyn rhwystro ‘r corfforaethau mawr.

Ond roeddent wedi camddeall y weledigaeth Ewropeaidd: sef yr uchelgais o greu Ewrop gymdeithasol llawn cymaint â’r Ewrop economaidd: y “Social Europe” a ddaeth yn rhan hanfodol o’r frwydr dros y bennod gymdeithasol o fewn cyfansoddiad yr Undeb Ewropeaidd; a phan ganfu Maggie Thatcher a’i chriw  fod oblygiadau gwaraidd o’r math yn rhan o’r weledigaeth, bu iddynt yn fuan iawn gamu nôl. Dyna pam y gwelwch lawer ar adain dde Lloegr bellach yn ffyrnig yn erbyn  Undeb Ewrop; ac elfennau blaengar y chwith, ac eithrio efallai Mr Corbyn, o’i phlaid; a dyna ble tybiaf, y byddai SL heddiw.

Er nad oes unryw un o’r deg pwynt polisi yn cyfeirio yn benodol at y cyd-destun Ewropeaidd, mae Pwynt 3 yn seiliedig ar y rheidrwydd o ganfod dulliau o reoli  gweithredu cyfalafol benrydd, ac yn dangos y ffordd tuag at undod cyfandirol  fel y fframwaith anhepgor i’r cyfryw bwrpas.

Byddai’n wirion i mi honni mod i’n cytuno â phob gair a ddeilliodd o enau Saunders Lewis; nac, yn wir, y cyfan o’r Deg Pwynt Polisi.  Yn amlwg, roedd rhai pethau a oedd, efallai, yn gredadwy yn eu cyfnod – ond sy’n edrych yn hurt, braidd, heddiw. Cymerwch, er enghraifft, pwynt 8 yn y deg pwynt polisi – sef y nod o ddad-ddiwydiannu cymoedd y De. Mae’n ddigon posib cydymdeimlo â’r amcan o safbwynt polisi gwyrdd yr oes hon; mae’n bosib hefyd rannu’r amheuaeth a oedd dulliau cynhyrchu diwydiant trwm pryd hynny, yn dderbyniol yn nhermau iechyd, corfforol a meddyliol, y gweithwyr.

Ond breuddwyd gwrach oedd meddwl y gallai pawb fynd yn ôl i gefn gwlad a byw fel tyddynwyr. Wedi deud hynny, roedd Saunders ddim ar ben ei hun yn awgrymu hynny.  Roedd dyhead SL i  weld Cymru’n edrych tuag at ei hardaloedd gwledig am ysbrydoliaeth, yn rhan o symudiad drwy Ewrop, yn y 20au’r 30au i fynd yn ôl i’r tir; ac arweiniodd hyn at nifer o fudiadau gwledig blaengar yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Erthygl hynod ddifyr yn  Canlyn Arthur, yw’r un ar Tomáš Masaryk ac adfywiad cenedlaethol Bohemia.  Masaryk lwyddodd i osod sylfaen i ‘r weriniaeth Tsiec sydd ohoni heddiw.  Roedd  Masaryk, fel Saunders Lewis, yn  pwysleisio rôl diwylliant fel un o hanfodion y gymuned genedlaethol; ac fel SL, roedd yn gweld ei wlad o fewn fframwaith Ewropeaidd ac o fewn delfrydau Ewrop. Edmygai Saunders ef oherwydd iddo “ddeffro enaid y genedl” a chyflawni hyn ddim trwy ddulliau rhyfel, ond trwy weithredu’n ddi-drais. Mae Saunders yn uniaethu a gweledigaeth Masaryk, gan ddeud:

Iddo ef, yr oedd bod yn Fohemiad da yn golygu bod yn Ewropead da hefyd”

gan ychwanegu

“…yr oedd gan Fasaryk pob amser dau gartref, Bohemia ac Ewrop. Dyna’r unig genedlaetholdeb y gallaf i ei edmygu…”

A minnau, hefyd!

Roedd yr agwedd allblyg –  y syniad y gallai SL fod yn gartrefol bron unrywle yn Ewrop –  yn naturiol yn lliwio ei agwedd yntau tuag at bobl sy’n symud i Gymru: ‘doedd ei genedlaetholdeb ddim yn seiliedig ar godi muriau o gwmpas Cymru; yn hytrach dywedodd “Rhaid troi’r estroniaid yn Gymry a rhoddi iddynt y meddwl Cymreig, y diwylliant Cymreig, a’r Iaith Gymraeg.”   Er fel y gwyddom, weithiau haws deud na gwneud! Ac roedd yn poeni y gallai Cymru, ar ôl ennill ymreolaeth,  ddilyn patrwm yr Iwerddon gan droi’n ddiwylliannol fewnplyg.

*****

Yn ei gyfraniad pwysig i’r gyfrol “Presenting Saunders Lewis” mae Dafydd Glyn Jones, wrth ysgrifennu am “Aspects of his work: his politics”, yn nodi  – ac mae’n od braidd i mi ddyfynnu Dafydd Glyn yn y Saesneg, wrth iddo gyfeirio at y gyfrol Canlyn Arthur – ond, dyna ni, dyma ddywed Dafydd Glyn:

 

Canlyn Arthur assumes throughout that the nation is the normal  form of society in Europe and the basis of Western civilization……To be, to exist and to be recognized  by other  communities as existing, this, Saunders Lewis maintained, is the only way to extraversion and normality, the only way Wales can fully and creatively participate in a wider community.

“That participation,moreover, is indispensible if self-government  is to have any meaning. A Welsh parliament is  necessary not in order that  Wales may retire  into self-sufficiency, but also that she may recover  her contact with Europe. Possibly the most radical feature  of “Y Ddraig Goch”’s  policy in the twenties and thirties, was its  advocacy of a European Union of independent states……  and a basic condition for the success of that Union was that the countries of Britain  be part of it.”

Yn ôl Dafydd Glyn Jones, un o’r dylanwadau mwyaf ar Saunders Lewis oedd yr ysgolar Pabyddol Ffrengig, Jacques Maritain.  Tydwi ddim yn ddigon o foi i ddechrau pwyso a mesur cyfraniad Maritain; ond fel y deallaf y peth, ef oedd un o’r arweinwyr yn Ffrainc a fynnodd fod amgenach lwybr i feddylfryd pabyddol Ffrainc na chael ei ysgubo i’r mudiad lled-ffasgaidd Action Francaise, yr oedd ar un adeg yn aelod ohoni –  mudiad  a arweiniodd at gyfundrefn Vichy.

Yn hytrach, roedd delfrydiaeth Maritain yn cynnwys rhyddid yr unigolyn, yr angen am drefn o fewn cymdeithas  a phlwraliaeth newydd sy’n osgoi unbeniaeth a cheidwadaeth laissez-faire. Ac mae’n tynnu n sylweddol ar y syniad o gyfraith naturiol sy’n cyfateb i gyfraith foesol.

Yn ôl Dafydd Glyn, “Mae hyd’noed y darllen mwyaf arwynebol o Ganlyn Arthur yn dangos beth yw maint dyled Saunders Lewis i ffilosoffi cymdeithasol Maritain.”

Bu fyw Jacques Maritain, rhwng 1882 a 1973,  ac mae o’n greadur difyr dros ben. Bu’n ddylanwadol yn y gwaith o ddrafftio’r Datganiad Hawliau Dynol (Universal Declaration of Human Rights); roedd yn un o sefydlwyr y Brifysgol Alltud yn America ar gyfer Ffrancwyr oedd yn ymladd efo de Gaulle yn erbyn Hitler.  Fe ymgyrchodd i ddwyn sylw at erchyllterau’r Holocaust.  Cyhoeddodd gyfrol ym 1936, “Integral Humanism” ac edrychir arno fel un a ysbrydolodd y mudiad Democrat Cristnogol yn Ewrop.

Ym 1946, ar ôl ail-sefydlu llywodraeth ddemocrataidd yn Ffrainc, penodwyd Maritain yn llysgennad Ffrainc i’r Vatican; daeth yn gyfaill mawr i Bab Pawl y 6ed; ac roedd yn ffrind mynwesol i Robert Schuman, Gweinidog Tramor Ffrainc – y sawl a all hawlio, fwy na neb,ei fod yn sylfaenydd  Undeb Ewrop!  Dyna i chi ddipyn o CV.

Ond pam ddylem weld hyn yn bwysig wrth asesu cyfraniad Saunders Lewis i Gymru yng nghyd-destun Ewrop?  Dwi’n tynnu sylw penodol at hyn oherwydd bod ‘na lu o elynion Saunders Lewis a’r Mudiad Cenedlaethol Cymreig, sydd – hyd yn oed heddiw – yn bachu  ar hanner cyfle i bardduo Saunders Lewis fel gwleidydd a thueddiadau at y dde ffasgaidd: tybient fod cenedlaetholdeb Cymreig yn perthyn, rywsut, i fudiadau adain dde cyfandir Ewrop, a ddaeth â Hitler i rym yn yr Almaen, Mussolini yn yr Eidal, Franco yn Sbaen a Salazar ym Mhortiwgal – fel unbenaethau  ar eu gwledydd.

Bu beirniadaeth lem o safbwynt Saunders Lewis, yn arbennig adeg yr ail ryfel byd – a hyn yn bennaf oherwydd bod cyfres erthyglau Cwrs y Byd  wedi cymryd agwedd gwrthryfel cyson. Tra roedd agwedd o’r math  yn sylfaenol o safbwynt heddychol, agwedd Gwynfor Evans a llu o bleidwyr eraill –  nid o safbwynt heddychol yr oedd Saunders Lewis yn edrych ar y mater.  Yn hytrach, roedd  ei wrthwynebiad yn fwy seiliedig ar  ei atgasedd o imperialaeth – a oedd hynny’n deillio o’r Almaen, o Brydain, o Rwsia neu o America.

I raddau roedd agwedd Saunders Lewis tuag at yr ail ryfel byd yn tarddu o’r dadansoddiad mai imperialaeth ronc oedd achos y rhyfel byd cyntaf. I’r graddau hynny, roedd yn gaeth i’w genhedlaeth – un a ddioddefodd mewn modd mor erchyll yn y Rhyfel Mawr.  Imperialaeth arweiniodd at y rhyfel byd cyntaf;  a’r rhyfel cyntaf arweiniodd at Ffasgiaeth Hitler a’r ail ryfel byd.

Ond doedd beirniadaeth Cwrs y Byd o rhai o agweddau a dulliau rhyfel Prydain ddim – o bell, bell ffordd  –  yn golygu fod SL rywsut yn edmygu Hitler a Musolini.  Yn bendifaddau, doedd o ddim. Cofiwch  pwy ddywedodd, am Mussolini “ The Roman genius …the greatest law-giver amongst men”?  Nid Saunders Lewis, ond, gredech chi – Ia, Winston Churchill.

A phwy ddywedodd “I have  never doubted the fundamental greatness of Hitler…I have never withdrawn one particle of the admiration  which I personally felt for him”?  Nid Saunders Lewis, ond David Lloyd George (1937).

Efallai fod gelynion gwleidyddol y Blaid yn ceisio esgusodi eu hagweddau eu hunain yn y tridegau, drwy bardduo Saunders Lewis gyda’r awgrym fod ei gwrthwynebiad i ryfel fel arf o bolisi, rywsut yn deillio o gydymdeimlad â ffasgaeth.  Ysgrifennodd dyn o’r enw Gwilym Davies erthygl yn y Traethodydd ym 1942 yn honni y byddai’r Gymru yr anelai Saunders Lewis amdani, yn wlad unbenaethol, Ffasgaidd a Phabyddol.

Rwtsh pur ydi hyn yn fy marn i; ond mae’n dda fod ymchwilwyr eraill bellach yn canfod mai amgenach ddylanwadau sydd yn ganolog i ni ddeall meddylfryd Saunders Lewis.  Ac mae’n dda gennyf gyfeirio at gyfrol yr Athro Richard Wyn Jones, Prifysgol Caerdydd, ar “Blaid Cymru  a’r cyhuddiad o Ffasgiaeth” a  ddaeth i’r casgliad “Nid oedd dim a oedd yn Ffasgaidd ynglŷn â syniadau a safbwyntiau ‘r Blaid fel corff  na’i harweinwyr.”

Wrth drafod lleoliad Saunders Lewis ym mywyd diwylliannol Cymru, dywed:  “Pechod mawr Lewis, ei bechod gwreiddiol, fel petai, oedd iddo herio’r unffurfiaeth barn a geid yng Nghymru’r cyfnod ynglŷn â natur gwir Gymreictod”.

Oherwydd nad oedd yn llyncu’r consensws ynglŷn â natur gwerin Cymru;  oherwydd ei fod yn arddel parch tuag at werthoedd hanesyddol y genedl a oedd yn wrthun i rai chwyldroadwyr; oherwydd ei fod yn  gwrthod gweld ymrwymiad Cristnogol Cymru yn nhermau ymneilltuaeth yn unig; ac oherwydd ei fod yn mynnu lle canolog i’r iaith Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru – oherwydd hyn oll,  roedd yn fygythiad i’r sefydliad gwleidyddol Cymreig a bu raid cysylltu ei syniadau â ffasgiaeth er mwyn eu pardduo’n drwy’r cysylltiad.

Casgliad yr Athro Richard Wyn Jones oedd bod y math gyhuddiad “nid yn unig yn arddangos anwybodaeth lwyr o syniadau Lewis ei hun,  ond anwybodaeth yr un mor llethol o gyd-destun syniadaethol mwy cyffredinol y cyfnod rhwng y rhyfeloedd byd.”

*****

Saunders Lewis

Ac fel cyfraniad pwysig i’r  drafodaeth hon, mae’n dda gennyf dynnu sylw at waith y Dr Emyr Williams, prif ymchwilydd y Blaid yn San Steffan,  a enillodd ddoethuriaeth yng Nghaerdydd gyda’i thesis ar “The Social and Political thought of Saunders Lewis” – gwaith sydd wedi cael llawer rhy ychydig o sylw ac sy’n ganolog i’n testun heno.

Mae Emyr Williams hefyd yn olrhain dylanwad Maritain ar Saunders; ac mae’n  datgan yn ei draethawd – trosaf ei eiriau i’r Gymraeg:

Casgliad Maritain ydi fod y cysyniad o “sofraniaeth” yn anghywir o’i hanfod, gan fod awdurdod gwleidyddol yn tarddu o’r bobl, o’r corff gwleidyddol (y body politic); ac  nad ydyw’n disgyn o’r oruchel.  Mae hyn yn sylfaenol i ddeall meddylfryd Saunders Lewis ynglŷn â’r cysyniad o sofraniaeth…”

Dwi’n ddyledus i Emyr Williams am ei help ac am gael astudio ei waith ymchwil.  Ymhlith ei gasgliadau oedd:

 Fod y syniad o archwladwriaeth ganoledig Ewropeaidd yn wrthun i SL;

 Fod ei weledigaeth yn seiliedig ar yr egwyddorion o ffederaliaeth a sybsidiaredd;

 Fod ei fodel ar gyfer Ewrop yn un o – a dyfynnaf – “multilevel, plural governance”;

 Fod yr elfen o barhad diwylliannol cenedlaethol yn rhan annatod o’r cysyniad Ewropeaidd, ac yn rhan ganolog o hunaniaeth Ewrop.

Yn ôl Emyr Williams, “Pabyddiaeth a Ffrancoffilia Saunders Lewis oedd yr elfennau a’i gyrrodd i weld y diwylliant Cymreig fel rhan o dreftadaeth Gristnogol Ewropeaidd ehangach; a’i gymell i geisio â symud Cymru i ffwrdd o’i pherthynas blwyfol â Lloegr a Phrydain, a cheisio ei chael i gysylltu, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol, gyda’r byd ehangach.

Mae Saunders Lewis yn cydnabod iddo gael ei ddylanwadu gan waith Emrys ap Iwan – yn benodol felly gan lyfr T Gwynn  Jones ar Emrys ap Iwan, a ddisgrifiwyd gan SL fel “Un o’r llyfrau hynny sy’n newid hanes ac yn dylanwadu ar genhedlaeth gyfan, gan ei hysbrydoli a rhoddi cyfeiriad i’w meddyliau.”.

Roedd Emrys ap Iwan, fel Saunders Lewis yn cael llawer o’i ysbrydoliaeth o Ffrainc; a hefyd o’r Almaen ble bu’n athro.  Mae’n werth tynnu sylw at gyngor Emrys ap Iwan i bobl Cymru:

Darllenwch lyfrau Almeinig i ledu’ch gwybodaeth; rhai Ffrengig i ddysgu gosod y wybodaeth mewn trefn; rhai Saesneg i werthfawrogi sut i ddefnyddio’r wybodaeth; a’r hen lyfrau Cymraeg i’ch galluogi i rannu’r wybodaeth i’ch cyd-Gymry mewn dull Cymreig!”

Emrys ap Iwan fathodd y term “ymreolaeth”; gan ei ddiffinio mewn termau ffederal a defnyddio’r Swisdir fel sail.

Yn ôl Saunders Lewis, bu’r athronydd a hanesydd Ffrengig, Etienne Gilson, yn un o’r prif ddylanwadau arno; ac roedd Gilson ei hun yn awdurdod ar waith Descartes,  a – nodwch hyn –  yn cydweithio’n glos â Jacques Maritain!

****

Dywed rhai mai ei ddeffroad personol i bwysigrwydd canolog y dimensiwn Ewropeaidd a ddaeth â SL i ddatblygu ei ymwybyddiaeth wleidyddol a chenedlaethol. Ond nid o safbwynt economaidd a milwrol y gwelodd SL bwysigrwydd canolog Ewrop i hunaniaeth a gwleidyddiaeth  Cymru.  Disgrifir ei weledigaeth Ewropeaidd yn y gyfrol “Saunders Lewis, ei feddwl a’i waith”, yn y bennod gan Catherine Daniel dan y  teitl “Saunders Lewis: Ewropead”, fel a ganlyn:

Pan ddarganfu Mr Saunders Lewis fod Llenyddiaeth Cymru yn tarddu oddi wrth ffynonellau ysbrydol dyfnaf Ewrop, nid gormod yw dweud iddo gychwyn chwyldro ysbrydol yn ein hanes cenedlaethol.  Dywedodd yn ddiweddar am y llenyddiaeth hon: ‘Os saif barddoniaeth glasurol y beirdd Cymreig  ar ei phen ei hun, yr esboniad yw mai ei deunydd yw’r syniad athronyddol bod gan gyfanwaith y Gristnogaeth ei le yn nheyrnas fawr y drefn ddwyfol, a lluniwyd cywydd ac awdl gan grefftwyr eofn yn ddrych llachar o’r drefn honno.

Gwelodd  ef fel y gwarchedwir yn y llenyddiaeth hon y gwerthoedd ysbrydol hynny  sydd hyd yn oed heddiw yn gynhysgaeth fyw i wareiddiad Ewrop; ac aeth ati i’w holrhain at eu tarddiadau, a’u diffinio…….. Gan sylweddoli  pwysigrwydd  cyfanrwydd y mynegiant Cymreig aeth Mr Lewis  ati i egluro fel y mae llenyddiaeth Cymru  yn rhan o fawredd ysbrydol Ewrop.  Yn nwyster ei weledigaeth, daeth hanes y genedl yn llyfr agored iddo; deallodd ei chyfrinach; efe yw athro mawr  llenyddiaeth Gymraeg.

Oddi yma, gan gymaint y gwirionedd a ddarganfu, y cam nesaf anorfod iddo ef oedd ceisio amddiffyn y gwerthoedd ysbrydol hyn ym mywyd y genedl. ….Gwelodd yn eglur fod difa’r pethau hyn yn fygythiad i einioes y genedl a throdd y llenor yn wleidydd.  Gwelodd wleidyddiaeth fel cadarnhad allanol o awydd mwyaf mewnol y genedl am gyfiawnder.  Gwelodd fod gan ddeddfwriaeth Gristnogol natur sacramentaidd. Yr oedd troi i wleidydda yn gam anorfod… yn ddyletswydd gwbl ddiriaethol….. Rhoddodd i Gymru fynegiant gwleidyddol am y tro cyntaf ers pum canrif….. Ymrôdd i’r gwaith fel at alwedigaeth. “

****

Dwi wedi son am SL a’r meddylfryd Ewropeaidd; a hefyd yr arweiniad a roddodd SL i’r Blaid ar fater Ewrop.  Ga’i felly gyfannu’r cylch drwy sôn am y Blaid ac Ewrop .  Cyfeiriais yn gynharach at sut y bu i mi gyfarfod SL adeg Refferendwm Ewrop, 1975.  Yr eironi mawr, felly, oedd i’r Blaid a fu yn ei dyddiau cynnar iawn, yn hyrwyddo gweledigaeth o Ewrop unedig, a Chymru yn rhan ohoni, erbyn y chwedegau, a’r Undeb Ewropeaidd bellach mewn bodolaeth , wedi cefnu ar y weledigaeth.  Neu o leiaf wedi ei gosod o’r neilltu, yn rhannol o dan ddylanwad y chwith Seisnig.

Roedd agwedd negyddol y Blaid tuag at y Farchnad Gyffredin – a thrwy hynny, tuag at Ewrop fel cysyniad gwleidyddol – wedi tyfu yn y chwedegau, ar sail cyfuniad o ffactorau, oedd fel petaent yn dod at ei gilydd i greu gwrthwynebiad oedd yn ymddangos yn rhesymegol – ond oedd i mi yn gwbl adweithiol.

Roedd Gwynfor yn gwrthwynebu’r Farchnad Gyffredin oherwydd ei ofn, fel heddychwr, y byddai’n tyfu’n rym milwrol niwclear. Ceisiais innau ei berswadio mai NATO, nid y Gymuned Ewropeaidd, oedd y ffrynt filwrol niwclear; ond yn ofer. Roedd hefyd yn ofni y byddai Ewrop yn tyfu’n un wladwriaeth ganoledig – y Deyrnas Gyfunol ar raddfa gyfandirol.

Roedd fy nghyfaill annwyl, Phil Williams, yn gwrthwynebu Cymuned Ewrop oherwydd iddo ei gweld fel “Clwb Cyfalafol”. Dyma oedd trywydd y chwith Seisnig pryd hynny – Michael Foot a Tony Benn yn eu plith; sef fod y Farchnad Gyffredin yn gynllwyn yn erbyn y gweithwyr.  Allwn i ddim derbyn hynny. Hanfod yr Undeb Ewropeaidd oedd creu telerau cyfartal ar gyfer gweithwyr y gwahanol wledydd, yn hytrach na’u gadael i’w llarpio gan angenfilod cyfalafol.

Bellach, rydym yn gweld hynny: rheolau Ewrop sy’n mynnu cyfiawnder rhwng gwlad a gwlad, rhwng gweithlu a gweithlu; sy’n rhoddi tryloywder i’r cwsmer.  Gwleidyddion yr adain dde – UKIP a’u cyfeillion – sy’n dadlau yn erbyn rheolau – megis diogelwch y gweithiwr,  tryloywder prisiau, a hawl i symud i chwilio am waith.

Roedd eraill o fewn y Blaid yn feirniadol oherwydd y tybient na fyddai lle i ieithoedd bychain, fel y Gymraeg o fewn Ewrop unedig. Byddai dan bwysau, meddent, nid yn unig gan y Saesneg, ond gan y Ffrangeg – gan edliw sut yr oedd Llywodraeth Ffrainc yn trin ein cefndryd yn Llydaw.

Roedd eraill, dilynwyr Leopold Kohr a Schumacher, yn reddfol gredu fod popeth oedd o’i hanfod yn fawr, felly hefyd, o’i hanfod yn ddrwg: “Bach sy’n brydferth” oedd thema’r oes.

Roedd rhai yn ofni y byddai creu Ewrop unol yn troi’r cyfandir yn fewnplyg, fel y byddai’n cefnu ar y trydydd byd; a pholisïau masnach Ewrop o’u hanfod yn ddrwg i fasnach y trydydd byd.

Ac roedd rhai aelodau’r Blaid nad oeddynt yn llyncu’r un o’r dadleuon hyn – eto’n  barod  i dderbyn y ddadl na ddylai Cymru ddod yn rhan o egin wladwriaeth Ewrop onid oedd gennym ein llais ein hunain o fewn unrhyw gyfundrefn newydd a ddatblygai.

Cyhoeddwyd pamffledyn gan y Blaid ym 1971 a olygwyd gan Gwynn Mathews.  Eglurodd mai crynhoi agwedd Plaid Cymru tuag at y drafodaeth oedd yn mynd rhagddi rhwng Llywodraeth Prydain a’r Gymuned Economaidd Ewrop, oedd pwrpas y pamffledyn. Roedd yn fwriadol yn osgoi’r  cwestiwn damcaniaethol, o beth fyddai agwedd Cymru annibynnol tuag at ddod yn aelod o’r Farchnad Gyffredin! Pwysleisiodd fod y polisi yn un dros dro, ar gyfer “y presennol”;  ac na ellid disgwyl i’r polisi aros yr un peth dros amser.  Llawn cystal hynny!

Ond roedd safbwynt y Blaid wedi ei chrisialu’n ddigamsyniol, gan gynigion a basiwyd gan ei Chynhadledd ym 1967, 1968  a 1970;  yn anterth dylanwad Gwynfor Evans fel Llywydd a’i unig Aelod Seneddol. Dywedodd Gwynfor yn Nhŷ’r Cyffredin, ar 9fed Mai, 1967:

“What is certain is that, whatever price England will have to pay for entry into the Common Market, Wales will have to pay a higher one.  Indeed, if the situation is as bad as I  have described it, to put Wales into the Common Market without a Government of her own, will be an act of criminal folly and..is… to write off Wales as a nation.”

Wrth gwrs y byddai’n llawer gwell pebae gan Gymru ei llywodraeth ei hun, yn trafod telerau aelodaeth ac yn sicrhau iddi, lais o fewn y gyfundrefn Ewropeaidd.  Ond nid oherwydd  Ewrop yr oeddem yn y sefyllfa ddiymadferth oedd ohoni. Teimlwn yn bersonol nad oedd Gwynfor wedi deall yr awydd ymhlith cymaint o genhedloedd bychain a rhanbarthau hanesyddol cyfandir Ewrop, oedd yn rhannu’n breuddwydion, yn gwrthwynebu gor-ganoli, ac yn gweld yr elfen ffederal – oedd mor bwysig ym meddylfryd Saunders Lewis – fel ffordd o sicrhau eu dyfodol hwy hefyd, ac nid fel bygythiad i’w bodolaeth.  Ac roedd sosialwyr ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn yr Eidal, yn gweld mor hanfodol oedd adeiladu yr Ewrop Gymdeithasol fel modd o wrthsefyll grym corfforaethau cyfalafol.

Pan rydych yn meddwl am y 28 gwladwriaeth sydd heddiw yn aelodau llawn o Undeb Ewrop, a bod 8 ohonynt â phoblogaeth llai na Chymru, sut aflwydd allwn honni nad oes lle i genhedloedd bychain o fewn unoliaeth ein cyfandir?

A chyda’r Iwerddon, a ymunodd yr un pryd â Phrydain, yn dangos sut y gellid gweithio gyda graen Ewrop i sicrhau cryfach economi,  a chyfiawnder na chafwyd erioed dan lywodraeth Llundain, roedd digon o sail i gredu y gallai gwledydd bychain gael lle derbyniol o fewn yr Undeb newydd.  “Amrywiaeth mewn unoliaeth” oedd delfrydiaeth Saunders Lewis; gweledigaeth oedd yn gyson â’r “Ewrop aux cent drapeaux” – “Ewrop y can faner”.  Ond rywle ar hyd y daith, cefnodd y Blaid ar hyn – dros dro.

Ym 1975 roeddwn i’n teimlo’n bur unig. Roedd gennym dri AS – a dau ohonynt, Dafydd El a Gwynfor – yn gwrthwynebu’r Farchnad Gyffredin. Roedd y Blaid am ymgyrchu dan y slogan  “Ia i Ewrop, Na i’r Farchnad Gyffredin” – safbwynt y credais oedd yn gwbl orffwyll.

Cymerodd ddegawd arall cyn i’r Blaid ddod at ei choed – ac yn ôl i gyfeiriad gweledigaeth Saunders. Ond roedd yntau wedi marw yn hir cyn etholiad Senedd Ewrop 1999, pan gafodd y Blaid  ei chanran uchaf erioed o’r  bleidlais, mewn unrhyw etholiad drwy Gymru benbaladr,  gan ennill dwy o bum sedd Cymru.  Cymerodd Jill Evans ac Eurig Wyn eu seddi o fewn Grŵp oedd yn rhannu’r un weledigaeth –  Grŵp Cynghrair Rydd Ewrop oedd yn cynnwys Aelodau o’r Alban, Andalwsia, Galisia, Gwlad y Basg a Fflandrys. Ac rydym wedi cydweithio’n hapus, o fewn y Grŵp, gyda’n chwaer pleidiau ar draws  cyfandir Ewrop.

Y llynedd, ceisiodd unoliaethwyr Prydeinig yn y tair plaid yn San Steffan wneud eu gorau glas i gael arweinyddion Ewrop i ddatgan na fyddai lle i Alban annibynnol o fewn Undeb Ewrop.  Ond methiant fu eu  hymdrech, er i wleidyddion Llundain lwyddo i gael ambell wleidydd o Sbaen i ategu hyn oherwydd eu hofn am ddyfodol Catalunya. Ni lwyddodd hyn i  newid meddwl lawer o Sgotiaid;  a doedd hynny, chwaith, ddim yn ddigon i ddychryn pleidleiswyr Catalunya yn eu refferendwm-drwy-etholiad eleni  rhag cefnogi annibyniaeth. Yn sgil yr etholiad cyffredinol ym Mhrydain fis Mai diwethaf, does fawr neb yn San Steffan bellach yn credu na ddaw’r Alban yn wlad annibynnol – yn ôl pob tebyg o fewn degawd – gwlad fach arall fydd yn aelod llawn o Undeb Ewrop, ochr-yn-ochr â Chatalunya; ac yn llawnder amser, Cymru hefyd.

Rydym yn awr  yn wynebu refferendwm arall ar ein perthynas ag Ewrop. ‘Dwi’n derbyn fod rhai agweddau o’r Undeb Ewrop yn achosi rhwystredigaeth – rhai elfennau cymharol ddibwys, megis  Brwsel yn mynnu diffinio siocled yn wahanol i ni, neu eisiau sythu bananas!  Glo man ydi hyn yn y darlun mawr. Mae ‘na le mwy difrifol i feirniadu’r Undeb am fethu â chanfod dull mwy adeiladol o helpu Groeg; ac am fethu â chael gweledigaeth ar sut i helpu ffoaduriaid, er go brin all Brydain glochdar.  Teg hefyd yw condemnio’r methiant, dros ddegawd a mwy, i archwilio cyfrifon yr Undeb yn brydlon.  Yn sicr, mae lle i gael gwell trefn yn y materion hyn.

O safbwynt heno, yr hyn sy’n bwysig i ni ei gofio ydi, yn gyntaf,  pam yr oedd SL yn edrych i’n gwreiddiau Ewropeaidd am ysbrydoliaeth?  ‘Roedd hynny  am resymau diwylliannol a chrefyddol, gan mai ein gwreiddiau Ewropeaidd sydd wedi creu ein hunaniaeth a’n diwylliant. O’r gwreiddiau hyn y mae ein gwerthoedd wedi datblygu; ac mae’r agwedd hon, i mi yn gwbl  sylfaenol.

Ond mae ‘na reswm arall eithriadol bwysig, paham na ddylem daflu ymaith y gwaith a wnaed i uno’n cyfandir.  Rydym yn cael ein hatgoffa beunydd am hanes gwaedlyd y rhyfel byd cyntaf; ac mae rhai ohonom yma heno, yn ddigon sicr o fod â pherthnasau a ddioddefodd – o bosib  a gollodd eu bywydau – yn y ddau ryfel arswydus a ymladdwyd rhwng cenhedloedd Ewrop yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.  Gadewch i ni byth anghofio mai er mwyn osgoi gweld y math gyflafan yn ein cyfandir ni, y daeth pobl at ei gilydd yn sgil yr ail ryfel, i geisio â chreu undod newydd, heddychlon, yn ein cyfandir.

Wrth geisio crynhoi,  gai ddod yn ôl at Dr Emyr Williams – sydd, yn ei thesis, yn tanlinellu’r  ffaith nad yw SL yn gosod sofraniaeth genedlaethol mewn gwladwriaeth annibynnol,  fel conglfaen ei genedlaetholdeb Cymreig.  Ac mae hyn yn ei wneud, yn ôl rhai gwyddonwyr gwleidyddol, yn unigryw o fewn ei gyfnod – ac o bosib, ymhell o flaen ei amser.  Yn sicr ddigon, nid yw wedi ei ynysu yn y gorffennol canoloesol, fel y byddai ei elynion gwleidyddol yn hoffi i chi gredu.

Gweithiodd  Emyr Williams ar ei thesis yn rhannol oherwydd  na fu ymdrech  ers y 70au i  adolygu syniadau gwleidyddol SL yng ngoleuni’r newidiadau anferthol y deugain mlynedd diwethaf – newidiadau megis :

 mynediad Prydain i’r Gymuned Ewropeaidd;

 datblygiad pennod gymdeithasol Ewrop; cwymp comiwnyddiaeth ac ail-uno Ewrop;

 dyfodiad gwledydd bychain yn aelodau llawn o Undeb Ewrop;

 sefydlu senedd ddeddfwriaethol i Gymru;

 pasio deddfau sy’n rhoddi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg; ac nid lleiaf,

 y chwyldro yn yr Alban dros y 12 mis  diwethaf.

 

Mae’r rhain oll yn ategu’r alwad dros ail-asesu gwerthoedd a neges wleidyddol SL.

Dywed Emyr Williams am SL:

“…yn hytrach na gweld lle ar gyfer y genedl Gymreig o fewn hierarchaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, mae’n gweld Undeb gwleidyddol ac economaidd Ewrop  fel yr elfen hanfodol ar gyfer bywiogrwydd “cenhedloedd bach Ewrop” o fewn cyfundrefn egalitaraidd. Mae’r cysyniad o Undeb Ewrop felly yn ganolog i’w feddylfryd gwleidyddol”.

Mae’r genadwri’n dod mewn brawddeg – a dyfynnaf yn y  Saesneg gwreiddiol:

The development of the European Union, as well as its inherent principle of subsidiarity and multilevel governance, therefore requires that Saunders Lewis’ thoughts be re-examined.”

Felly heno, yn briodol iawn yma ym Mhenarth, ei gartref am dros ddeng    mlynedd ar hugain,  a gaf i alw ar bobl llawer mwy cymwys na mi, i ail-yfed o ffynnon syniadaeth Saunders Lewis, gan dderbyn ei berthnasedd canolog i ddarlun mawr ein siwrne genedlaethol. Gallwn, yng Nghymru’r  unfed ganrif ar hugain, yng ngeiriau Williams Parry, “Llawenhau fod lle yn hon” ac atseinio’r alwad  “Rhowch iddo sedd, rhowch iddo swydd”  oblegid na allwn mwyach adael yn segur yn ei gell, “y dysgedicaf yn ein mysg.”

***********

/diwedd

Cofio yr Athro Griffith John Williams a’i wraig, Elizabeth

 

Cofio GJ WilliamsElenid Jones, Wyn James ac Emrys Roberts

Nos Iau, 3 Rhagfyr am 7.30pm yng nghapel Bethlehem, Gwaelod-y-garth cynhaliwyd noson i gofio cyfraniad yr Athro Griffith John Williams a’i wraig, Elizabeth.

Roedd aelodau o’u teuluoedd – Elenid Jones ac Emrys Roberts  – yn rhannu eu hatgofion amdanynt, ac roedd yr Athro E. Wyn James yn rhoi sgwrs ar y testun, “Gweld gwlad fawr yn ymagor”: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis.

Dyma sgwrs E Wyn James –

 

 


Cofio Dau o Fawrion Cymru

Trefnir noson i gofio bywydau dau o sylfaenwyr Plaid Cymru yng Ngwaelod y Garth (am 7.30pm, Nos Iau 3 Rhagfyr 2015 yng nghapel Bethlehem).

Griffith John Williams

Testun y noson, a gynhelir gan Gymdeithas Hanes Plaid  Cymru, yw’r Athro Griffith John Williams a’i wraig Elisabeth, a fu’n allweddol wrth ffurfio’r Blaid yn ystod yr 1920au.

Yn eu cartref yn Bedwas Place, Penarth y cynhaliwyd cyfarfod yn 1924, gyda Saunders Lewis ac Ambrose Bebb yn bresennol, a agorodd y ffordd i lansio Plaid Cymru’r flwyddyn ganlynol – gydag Elisabeth yn drafftio’r cofnodion.

Bu Griffith John Williams (1892-1963) yn athro Prifysgol, yn fardd ac yn ysgolhaig Cymreig a enillodd fri am ei astudiaeth wreiddiol o yrfa Iolo Morgannwg.

Ymhlith ei gyfraniadau oedd pamffledyn a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru am draddodiad Cymreig Gwent a amlinellodd hawl yr hen Sir Fynwy i’w hystyried ei hun i fod yn rhan annatod o Gymru ddegawdau cyn sicrhau ei statws.

Roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn enwog am ei chefnogaeth ddiwyro o’r iaith Gymraeg a’r ffordd Gymreig o fyw – wrth fynnu bod cofnodion o Gyngor Plwyf Pentyrch yn cael eu cadw yn y Gymraeg,

Sonnir yn yr ardal fel y byddai Mrs Williams yn cerdded heb wahoddiad i mewn i’r ysgol i ddysgu Cymraeg i’r plant, meddai ei nai, cyn-arweinydd Plaid Cymru Cyngor Merthyr, Emrys Roberts.

Yn ystod gweithgareddau’r noson bydd yr Athro E. Wyn James yn annerch ar y testun “Gweld gwlad fawr yn ymagor: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis” tra bydd aelodau o’u teuluoedd – Elenid Jones ac Emrys Roberts – yn rhannu eu hatgofion amdanynt.

Hefyd bydd arddangosfa o ran o’r eiddo a gafodd ei adael gan y cwpl i Amgueddfa Sain Ffagan.

—————————————————–

“Cymru am Byth”

Ymrwymiad Hynod Mrs Griffith John Williams

“Cymru am Byth” oedd geiriau olaf Mrs G.J. Williams wrth iddi farw ym 1979 yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd. Cymru Rydd a Chymraeg oedd ei breuddwyd ers yn ferch fach ym Mlaenau Ffestiniog. Ac am hynny y brwydrai trwy gydol ei bywyd.

Dyddiau Cynnar

Ganed Elisabeth Roberts – y pedwerydd o 6 o blant Richard ac Elinor Roberts, 9 Leeds St yng nghanol tref y Blaenau – ym 1891. Milwr yn Ne Affrig ac wedyn chwarelwr yn Chwarel Oakley oedd Richard, yn wreiddiol o Landdeusant, Sir Fon. Hanai ei wraig Elinor o Drawsfynydd ac ar ôl i’w mam farw ymfudodd gweddill y teulu i’r Wladfa. Agorodd ei thad y gwesty cyntaf yn y Gaiman (lle y dywedir i Butch Cassidy a’r Sundance Kid aros am gyfnod wrth ffoi o gyfraith yr Unol Daleithiau). Erbyn hyn mae’r adeilad yn gartref i Ysgol Gerdd y Gaiman. Ond arhosodd Elinor yng Nghymru i briodi a magu 6 o blant.

Roedd Richard ac Elinor am i’w plant gael addysg dda, ond ni allent fforddio danfon mwy na dau ohonynt i’r coleg. Y cyntaf oedd Huw, y bachgen hynaf, a ddaeth yn weinidog gyda’r Bedyddwyr ac a dreuliodd flynyddoedd maith wedyn yn athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Llanelli. “Huw Bobs” oedd yr enw a roed arno yno mae’n debyg.

Aeth Elisabeth i goleg Aberystwyth i astudio’r Gymraeg. Cyd-ddisgybl iddi oedd Griffith John Williams o Gellan, Ceredigion a’r ddau ohonynt wedi cysegru eu bywydau i astudio a hybu’r iaith Gymraeg. Aeth Elisabeth yn athrawes y Gymraeg yng Nghilfynydd, Pontypridd ac yn y Cendl (Beaufort) ar gyrion Penycae (Ebbw Vale). Cafodd Griffith John swydd yn adran Gymraeg y coleg yng Nghaerdydd a phan briodasant, yn ôl yr arfer y dyddiau hynny bu raid i Elisabeth roi’r gorau i’w swydd.

Gwreiddiau Plaid Cymru

Roedd Elisabeth yn arbennig yn gymeriad cryf iawn – yn gwybod ei meddwl ei hun ac yn barod iawn i fynegi ei safbwynt. Roedd hi’n fenyw weithgar iawn hefyd a chwiliai bob amser am ffordd i roi ei syniadau ar waith. Roedd hi a Griffith John yn poeni’n arw am ddyfodol yr iaith Gymraeg yn y cyfnod wedi’r rhyfel byd cyntaf ac aethant ati i wahodd un neu ddau o gyfeillion i’w cartref ym Mhenarth i drafod y sefyllfa. Yno, ym Mis Ionawr 1924, y penderfynodd 4 ohonynt – Griffith ac Elisabeth ynghyd a Saunders Lewis ac Ambrose Bebb – sefydlu mudiad a fyddai’n brwydro dros wlad a fyddai’n rhydd ac yn Gymraeg ei hiaith. Penodwyd Ambrose Bebb yn Gadeirydd y grŵp, Saunders Lewis yn Ysgrifennydd a Griffith John Williams yn Drysorydd. Ond Elisabeth gymerodd gofnodion yn cyfarfod ac mae’n fwy na thebyg mai hi oedd yn mynnu gwneud rhywbeth ymarferol ac nid siarad amdano’n unig. Yn ei hangladd yng Nghapel Bethlehem, Gwaelod y Garth ychydig filltiroedd y tu allan i Gaerdydd, dywedodd y gweinidog, y Parchedig Rhys Tudur, mae dipyn o her oedd ymweld â Mrs Williams yn ei chartref Bryn Taf, achos ar bob ymweliad byddai’n rhoi rhestr newydd iddo o bethau y dylid eu gwneud a mynnu holi ynglŷn â hynt yr holl brosiectau eraill a roddwyd iddo ar yr ymweliad blaenorol – a hyn cofiwch pan oedd hi yn ei hwythdegau ac wedi bod yn weddw ers rhyw ugain mlynedd.

Yn y misoedd ar ôl y cyfarfod cyntaf hwnnw ym Mhenarth ymunodd eraill megis D.J. Williams a’r criw bach cyntaf ac yna clywed am grŵp tebyg yn y gogledd o gwmpas HR Jones. Daeth y ddau yma at ei gilydd, wrth gwrs, yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli ym 1925 i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru.

Traddodiad Llenyddol Morgannwg a Gwent

Roedd Griffith John Williams yn ddarlithydd penigamp ar ieitheg a gramadeg Gymraeg ond canolbwyntiai hefyd ar draddodiad ieithyddol a llenyddol Bro Morgannwg a Gwent. Efe, wrth gwrs, oedd y prif awdurdod ar waith yr amryddawn Iolo Morgannwg (daeth ei ddisgynnydd, Taliesin Williams, yn gyfaill i Griffith John ac Elisabeth) ac fe benodwyd Griffith John yn Athro’r Gymraeg yng Nghaerdydd ar ôl i WJ Gruffudd gael ei ethol i’r senedd. A phan symudodd T.J. Morgan (tad Rhodri Morgan) o Gaerdydd i fod yn Athro’r Gymraeg yng ngholeg Abertawe penodwyd Saunders Lewis i’r swydd wag yng Nghaerdydd yn ei le.

O’r dechrau, aeth Griffith John ac Elisabeth i grwydro pob rhan o Gwent a Morgannwg ac yn aml Elisabeth oedd yn cadw cofnodion o’r hyn a ddarganfyddwyd. Aeth hi gyda’i gwr sawl gwaith hefyd i’r Eidal ar drywydd y pabydd Griffith Roberts a aeth yno i osgoi erledigaeth grefyddol yn Lloegr adeg Elizabeth l. Daeth yn ffigwr amlwg yno, yn ysgrifennydd i Cardinal Borromeo ym Milan. Yno y sgrifennodd y geiriadur cyntaf yn yr iaith Gymraeg – un o ddiddordebau eraill Griffith John.

Nid gwneud nodiadau yn unig oedd cyfraniad Elisabeth i waith ei gwr – ond eu cadwa’u trefnu’n daclus hefyd. Yn wir fe gynlluniodd gwpwrdd arbennig a degau o ddroriau bychain union y maint cywir i gadw’r holl nodiadau ar ddarnau bach o bapur – i gyd yn eu lle a’u trefn briodol. Gwnaethpwyd y cwpwrdd yma – a chryn dipyn o ddodrefn arall yn Bryn Taf, Gwaelod-y-Garth lle ymgartrefodd y ddau o 1929 ymlaen – gan ffatri ddodrefn a sefydlwyd gan y Crynwyr ym Mrynmawr adeg y dirwasgiad – mwy am hynny eto.

Roedd Elisabeth hefyd yn helpu paratoi deunydd i’w argraffu – yn enwedig felly’r gwaddol o ddeunydd a adawodd Griffith John ar ei ôl pan fu farw ym 1963.

Maes Addysg

Er na allai Elisabeth ddal swydd athrawes wedi iddi briodi, roedd ei diddordeb mewn addysg Gymraeg yn parhau. Yn Bryn Taf yng Ngwaelod y Garth y trafodwyd hybu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a’r angen am ysgol Gymraeg yn ardal Caerdydd.

Wedi’r ail ryfel byd sefydlwyd ffrwd Gymraeg yn un o ysgolion y ddinas nes cael ysgol iawn yn Llandaf – a’r enw a roed ar yr ysgol oedd Bryn Taf.

Lleolir Bryn Taf, Gwaelod-y-Garth nesaf at fynediad cefn i ysgol y pentref. Adeg hoe rhwng gwersi’r ysgol, roedd Elisabeth yn annog y plant i ddod dros y Ion fechan i mewn i ardd Bryn Taf lle y byddai’n canu’r delyn a dysgu’r plant i ddawnsio. (Roedd y delyn hon yn perthyn gynt i Evan James, Pontypridd ac ar yr union delyn yma y cyfansoddwyd Hen Wlad fy Nhadau. Yn ddiweddarach rhoddwyd y delyn i Ysgol Rhydfelen i’w defnyddio gan delynorion ifainc a threfnwyd i John Thomas, gwneuthurwyr telynau yng Ngwaelod-y-Garth, ei hatgyweirio. Pan symudodd Ysgol Rhydfelen fe roddwyd y delyn i Amgueddfa Pontypridd). Pe bai’r tywydd yn anffafriol, pan fyddai’r plant yn ymweld â Bryn Taf, aent i mewn i’r tŷ a dysgu gwneud hetiau, neu gychod papur – a’r cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg er na fedrai’r rhan fwyaf o’r plant siarad yr iaith. Roedd Elisabeth yn gyndyn iawn i droi i’r Saesneg gan gredu y byddai’r plant yn dysgu Cymraeg yn rhwydd dim ond wrth ddal ati i siarad â nhw yn yr iaith.

Ceir hanesion hefyd iddi gerdded i mewn i’r ysgol yn aml a chymryd dosbarth drosodd a rhoi gwers Gymraeg iddynt – a’r staff yn ofni ymyrryd! Roedd rhai o’r plant yn mynd o gwmpas y pentref o ddrws i ddrws bob blwyddyn i gasglu ar gyfer y genhadaeth dramor. Gwyddent na fyddent yn cael dimai goch yn Bynt Taf oes nad oeddent yn gofyn yn Gymraeg. Mae yna bobl uniaith Saesneg yn byw yn y pentref o hyd sy’n gallu adrodd yn rhugl y cyfarchiad Cymraeg oedd yn rhaid ei ddefnyddio wrth ymweld â Mrs Williams!

Gwreiddiau UCAC a Sain Ffagan

Bu’r annwyl Gwyn Daniel yn Brifathro ar Ysgol Gwaelod-y-Garth am gyfnod yn yr amser yma ac roedd yn ymweld â Griffith John ac Elisabeth y aml iawn am sgwrs wedi’r ysgol. Yma y dechreuwyd trafod a chynllunio ffurfio undeb athrawon i Gymru – a dyna oedd gwreiddyn Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) y bu Gwyn Daniel yn Ysgrifennydd cyntaf arni.

Ym 1968 rhoddodd Mrs Williams swm sylweddol i UCAC er mwyn sefydlu Ysgoloriaeth Bryn Taf i roi cymorth ymarferol i Gymry Cymraeg ifainc oedd dan anfantais gorfforol neu feddyliol.

Roedd Gwaelod-y-Garth yn rhan o blwyf Pentyrch, ar gyrion Caerdydd. Roedd Mrs Williams yn mynychu holl gyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor Plwyf ac yn mynnu siarad yn Gymraeg bob tro. Yn wir, er bod nifer o Saeson heb sôn am Gymry di-Gymraeg ar y Cyngor o dro i dro, roedd hi’n allweddol wrth sicrhau y gellid siarad Cymraeg neu Saesneg yn y cyfarfodydd. Yn fwy na hynny, cedwid cofnodion swyddogol y Cyngor yn Gymraeg yn unig hyd at wedi’r ail ryfel byd. Bron yr unig eiriau Saesneg a glywid ganddi erioed oedd pan oedd hi’n dynwared yn chwareus ryw Sais ar y Cyngor Plwyf a atebai bob tro pan ofynnid a oedd y cofnodion yn gywir “l suppose so” mewn acen  grach iawn er nad oedd yn gallu deall y cynnwys!

Roedd lorwerth Peate, a ddaeth wedyn yn guradur cyntaf yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, yn ymwelydd aml a Bryn Taf hefyd yn ystod yr ail ryfel byd ac yno y trafodwyd y syniad o sefydlu amgueddfa o’r fath. Ni wn pwy gafodd y syniad yn wreiddiol ond gallwn fod yn bur sicr mai Elisabeth oedd un o’r rhai pennaf i fynnu y dylid gwireddu’r syniad yn hytrach na siarad amdano’n unig.

Darparu Gwaith

Er mor frwd dros yr iaith Gymraeg, roedd ei diddordebau’n fwy eang o lawer na hynny’n unig. Roed hi’n deall yn iawn na fyddai iaith a thraddodiadau’r wlad yn parhau os nad oedd modd i gymunedau Cymraeg eu cynnal eu hunain yn economaidd. Roedd hi’n ysgrifennu’n ddi-baid at Awdurdodau Lleol Cymru i’w hannog i brynu unrhyw nwyddau angenrheidiol gan gwmnïau lleol ac i ddefnyddio  cwmnïau lleol ar gyfer pethau megis argraffu.

Roedd hi hefyd yn gohebu a mudiad y ”Co-op” yn yr Alban a chael ganddynt restrau maith o’r defnydd a wnaethant hwy o gynhyrchwyr lleol ac wedyn annog y mudiad yng Nghymru i ddilyn eu hesiampl a phrynu nwyddau lleol Cymreig lle bynnag oedd hynny’n bosibl.

O Waelod-y-Garth i Lundain

Unwaith eto fe ddangosodd ei diffyg amynedd a siarad yn unig. Roedd diweithdra’n cynyddu ymhlith dynion y pentref yn y tridegau, a sylweddolodd Mrs Williams mai’r menywod oedd yn dioddef bennaf gan mai arnyn nhw y syrthiai’r cyfrifoldeb o sicrhau digon o fwyd i’r teulu. Aeth ati i greu gwaith i grŵp o ferched y pentref – gan gadw hen grefft yn fyw’r un pryd.

Mae Bryn Taf yn dŷ go fawr ac yno stafelloedd ar yr ail Iawr na wnaed llawer o ddefnydd ohonynt. Trefnodd Mrs Williams i’r merched ddysgu sut i gwiltio. Roedd hi’n paratoi’r patrymau ar sail patrymau traddodiadol ar gyfer pethau fel clustogau a chwrlidau gwely a pherswadiodd rai o blant yr ysgol i fynd allan i’r caeau a’r lonydd i gasglu gweddillion gwlân defaid o’r perthi er mwyn eu llenwi. Talwyd i saer lleol wneud y fframau pren angenrheidiol ar gyfer y gwaith cwiltio a sefydlwyd gweithdy yn llofftydd Bryn Taf. Mrs Williams ei hun oedd yn gyfrifol am brynu deunydd addas ac am werthu’r cynnyrch.

Yr adeg yma, mae’n debyg, yr ymgysylltodd a siop fawr David Morgan yng Nghaerdydd a’u perswadio i drefnu arddangosfa o grefftau tŷ traddodiadol Cymreig – a ddaeth yn achlysur blynyddol nodedig am flynyddoedd maith yn yr Aes yng Nghaerdydd a Mrs Williams yng nghlwm wrth y peth ar hyd yr amser. Ond sylweddolodd Mrs Williams nad oedd gan bobl de Cymru lawer o arian yn ystod y dirwasgiad i brynu holl gynnyrch grŵp cwiltio Gwaelod-y-Garth, felly dyma hi’n hogi ei phac a mynd ag esiamplau o’u gwaith i siopau mawr Llundain. Erbyn hyn roedd merched Gwaelod-y-Garth yn cynhyrchu betgynau hardd ac roedd siop enwog Liberty yn Llundain yn talu £25 yr un amdanynt – fyddai’n gyfystyr a sawl cant o bunnoedd heddiw. Enillwyd gwobr Brydeinig am y cynnyrch ac mae enghraifft neu ddwy o’r betgynau hynod o gain yma i’w gweld o hyd yn Amgueddfa Sain Ffagan.

Roedd Mrs Williams yn gefnogol iawn i’r Crynwyr pan benderfynasant agor ffatri ddodrefn i roi gwaith i bobl ardal Brynmawr. Fel y nodwyd eisoes, hi gynlluniodd y cwpwrdd mawr arbennig y cedwid holl nodiadau ymchwil ei gwr ynddo a threfnu i’r ffatri newydd adeiladu’r cwpwrdd i’w gofynion hi. Prynodd nifer sylweddol o ddodrefn arall gan y cwmni hefyd, yn enwedig dodrefn ystafell wely. Fe geir hanes y fenter hon yn Brynmawr mewn llyfryn diddorol iawn a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch. Fe geir ynddo restr o bobl a brynodd ddodrefn o’r cwmni. Mae’n ddiddorol sylweddoli fod y rhan fwyaf ohonynt yn gyfeillion i Griffith John Williams a’i wraig. Er na ellir profi hynny, wrth gwrs, rwy’n weddol sicr mai hi oedd wedi rhoi pwysau ar bob un ohonynt i gefnogi’r fenter newydd hon!

Deallodd Mrs Williams er y gallai ei gwaith gyda nifer o bentrefwyr Gwaelod-y-Garth fod o les iddynt hwy, na allai fod yn ateb cyflawn i’r argyfwng a wynebai holl hen ardaloedd diwydiannol y de. Ysgrifennodd at weinidog pob capel ac eglwys yn y de-ddwyrain a’u hannog i ddod ynghyd i drafod beth ellid ei wneud i ymateb i’r sefyllfa – rhaid cofio bod gweinidogion ac offeiriaid yn bobl ddylanwadol iawn yn y gymdeithas yr adeg honno. Daeth cannoedd ynghyd i’r cyfarfod a drefnodd Mrs Williams yng Nghaerdydd a hi eto yn cymryd y cofnodion – bu raid iddi fynd a menyw arall gyda hi yn gwmni -yr unig ddwy ferch yn y cyfarfod niferus hwnnw – gan na fyddai’n weddus yr adeg honno i fenyw fod ar ei phen ei hun yn y fath gwmni! – Dyma oedd dechrau’r ymgyrch i sicrhau mwy o waith i ddynion yr ardal, ymgyrch a fu’n gyfrifol am sefydlu Ystâd Fusnes gyntaf Cymru yn Nhrefforest – o fewn tafliad carreg bron i Waelod-y-Garth ar ochr arall Cwm Taf.

 Cofio’r Blaid

Trwy’r holl weithgaredd yma, bu Mrs Williams yn driw i’r Blaid a helpodd ei sefydlu yn ôl ym 1924 a 1925. Roedd hi’n gohebu, er enghraifft, a Robert Maclntyre, llywydd yr SNP ar y pryd, i drafod ai doeth neu beidio fyddai ymgyrchu dros benodi Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Ym mhumdegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf gwelwyd hi’n gyson iawn ym mhrif swyddfa’r Blaid yn Stryd y Frenhines, Caerdydd – yn aml yng nghwmni ei brawd Hendri (sef fy nhad, W.H.) yn stwffio pethau i mewn i amlenni a diweddaru’r cofnodion aelodaeth ac ati. A phan ddeuthum yn un o arweinwyr Cyngor Merthyr Tudful yn enw’r Blaid yn y saith degau – y corff etholedig cyntaf erioed y bu’r Blaid yn gyfrifol amdano – roedd hi bob amser yn barod ei hawgrymiadau ynglŷn á’r hyn y dylai’r Cyngor ei wneud. (Roeddwn yn deall sylwadau’r Parch Rhys Tudur i’r dim!)

A phan fu farw, aeth holl lyfrau Bryn Taf i’r Llyfrgell Genedlaethol, y dodrefn a pheth o’r gwaith cwiltio i Sain Ffagan a’r gweddill – gan gynnwys Bryn Taf ei hun – i Blaid Cymru. Ni chafodd hi a Griffith John unrhyw blant eu hunain. Cymru a’r Cymry oedd eu plant nhw a mawr oedd eu gofal amdanynt. Os gwireddir y geiriau “Cymru am Byth”, bydd y ddau ohonynt wedi cyfrannu’n sylweddol at y genedl rydd honno.

Emrys Roberts

 

 

 

 

 

 

Hanes Plaid Cymru