Cofio Phil Williams (1939 – 2003) yn Eisteddfod Caerdydd

Bydd Plaid Cymru’n dathlu bywyd y diweddar Athro Phil Williams, ei hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili hanner can mlynedd yn ôl, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd (am 11:45am, dydd Iau 9 Awst).

Trefnir y cyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru yn ystafell Cymdeithasau 3 yn y Senedd, Bae Caerdydd.

“Ysbrydolodd Phil Williams genhedlaeth gyfan i sylweddoli’r hyn y gallai Cymru ei gyflawni – dim ond i’n cenedl ennill yr hawl i reoli ein bywydau ein hunain”, meddai Cadeirydd y Gymdeithas a chyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru, Dafydd Williams.

Bydd cyn-Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Ceredigion Cynog Dafis a Dafydd Williams yn arwain trafodaeth ar gyfraniad Phil Williams i Gymru yn y cyfarfod.

Bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg. 

 

 

 

Nofel Newydd John Osmond

Y degawdau pan ddaeth Cymru’n genedl wleidyddol: sut trodd 1979 yn 1997

Yma cewch wrando ar recordiad o sgwrs rhwng cadeirydd Hanes Plaid Dafydd Williams â John Osmond am ei nofel ddogfennol newydd Ten Million Stars Are Burning yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn y Pafiliwn, Llangollen ar Ddydd Gwener, 23 Mawrth 2018.

Dyma’r llyfr cyntaf mewn trioleg gan yr ysgrifennwr a sylwebydd adnabyddus John Osmond.  Mae’n olrhain y newidiadau mawr a fu yng Nghymru rhwng y ddau refferendwm datganoli yn 1979 a 1997 drwy lygaid dau gymeriad ffuglennol – a llu o bobl go iawn!

Tra bo’r ddau brif gymeriad yn ffuglennol, mae’r nofel yn cyflwyno disgrifiad ffeithiol manwl o’r degawd cyn y refferendwm datganoli cyntaf yn 1979 gan awdur a chwaraeodd ran weithgar a chanolog yn y prif ddigwyddiadau.  Mae’n darllen hanfodol i bawb sydd am ddeall cefndir i’r ymgyrch gan Blaid Cymru i ennill hunanlywodraeth i Gymru.

John Osmond (ar y dde) gyda chadeirydd Hanes Plaid Dafydd Williams mewn lansiad ymylol yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid yn Llangollen.
Yr awdur John Osmond (ar y dde) gyda Peter Finch yn y lansiad o’r nofel newydd yn Senedd Cymru.

Lansio Llyfr John Osmond

Gwahoddir aelodau o Gymdeithas Hanes Plaid Cymru i lansiad cynhadleddol o ‘Ten Million Stars Are Burning’, nofel sydd newydd ei chyhoeddi, yn ystod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn y Pafiliwn, Llangollen am 4:45yp brynhawn dydd Gwener 23 Mawrth 2018.

Dyma’r llyfr cyntaf mewn cyfres o dair cyfrol gan yr awdur a sylwebydd gwleidyddol adnabyddus, John Osmond. Mae’n cofnodi’r newidiadau sylweddol yng Nghymru a ddatblygodd rhwng y ddau refferendwm ddatganoli, yn 1979 a 1997, drwy lygaid dau gymeriad ffuglennol – a llu o bobl go iawn! Bydd John mewn sgwrs gyda Chadeirydd y Gymdeithas, Dafydd Williams.

Elwyn Roberts – Darlithiau

Elwyn Roberts, craig safadwy Plaid Cymru drwy ran helaeth o’r ugeinfed ganrif, oedd pwnc darlith flynyddol Cymdeithas Hanes y Blaid yn 2017.  Er gwaethaf ei gefndir yn y byd bancio, bu Elwyn Roberts yn genedlaetholwr penderfynol ac ymroddedig a roddodd ei gariad i Gymru o flaen unrhyw fuddiannau personol.

Disgrifiwyd ei waith dros Gymru gan gyn-arweinydd Plaid Cymru Dafydd Wigley, hanesydd Gwynn Matthews ac olynydd i Elwyn fel ysgrifennydd cyffredinol y Blaid, Dafydd Williams.  Cewch ddarllen gopïau llawn o’u darlithiau a gwrando ar recordiad o’r sesiwn ym mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn yn 2017.

 

Cofio Elwyn Roberts

Anerchiad gan Dafydd Wigley i Gymdeithas Hanes Plaid Cymru,

Eisteddfod Ynys Môn; Awst, 2017

Mae’n  bleser cael agor y cyfarfod hwn,  i gofio Elwyn Roberts, un o hoelion wyth y Blaid, ac mae’n addas  mai yma ar faes y Brifwyl ym Môn yr ydym yn ymgasglu, gan iddo fod hefyd yn drefnydd  yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.  Bu’n byw am ddegawdau ym Modorgan; er bod ei  wreiddiau yn Abergynolwyn, Meirionnydd.  Roedd yn un â’i ddylanwad i’w deimlo ledled Cymru. 

Mae gennym, fel cenedl, le nid yn unig i barchu’r goffadwriaeth Elwyn; ond hefyd i drosglwyddo’r cyfraniad a wnaed ganddo, fel ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd i dorchi llewys ac i gwblhau’r uchelgais oedd yn ei galon.  Roedd yn genedlaetholwr ymarferol a gredai fod buddugoliaeth yn tyfu ar sail trefniadaeth wleidyddol – trwy harneisio adnoddau pobol a chyllidol i wireddu uchel amcanion ein cenedl.

Bûm yn pendroni a allwn wneud cyfiawnder â’r testun, gan amau a oeddwn yn wir adnabod Elwyn Roberts. Efallai y byddai llawer o’r rhai a weithiodd gydag ef, yn cyfaddef teimladau cyffelyb: oherwydd roedd Elwyn, yn ogystal â bod yn ffigwr cenedlaethol ac yn heavyweight gwleidyddol, hefyd  yn ddyn hynod breifat.

Roedd Elwyn yn un o hanner dwsin a ddylanwadodd  yn sylweddol arna’ i’n bersonol, gan fy nhywys  – o oed ifanc – i weithio dros y Blaid. Y dylanwadau cenedlaethol eraill  oedd Gwynfor Evans a Saunders Lewis;   yn lleol yng Ngwynedd – Dafydd Orwig a Wmffra Roberts; ac o fewn fy nghenhedlaeth innau, y diweddar annwyl Phil Williams.  Gwerth nodi fod tri o’r rhain yn feibion i chwarelwyr llechi – Dafydd Orwig, Wmffra ac, ie, Elwyn Roberts.

Roedd Elwyn yn fab i Evan Gwernol  Roberts, chwarelwr yn Abergynolwyn; ei fam, Mabel, yn brifathrawes ysgol babanod.  Roedd Abergynolwyn mor bwysig iddo, fe drodd  hunangofiant,  yn gyfrol hanes Abergynolwyn – ‘doedd o byth yn siarad amdano fo ei hun!  Felly mae’n ymhyfrydu yn y llyfr mai drwy ymdrechion y Blaid, yn y 70au y cafodd y chwarelwyr, o’r hir hwyr, hawl i iawndal llwch.

Ganwyd Elwyn ym 1905, ac roedd yn ddyn o’i genhedlaeth. Roedd cysgod y rhyfel byd cyntaf, yn drwm arno, fel oedd chwyldro Iwerddon a dirwasgiad y diwydiannau trymion.  Ni chafodd addysg brifysgol – yn wir, ni hidiai lawer am yr addysg a gafodd  yn ysgol Ramadeg Tywyn, a oedd yn llawer rhy Seisnig iddo.

Ar ôl gadael ysgol aeth i weithio i’r banc,  ble fu  am chwarter canrif, yn gyntaf yn Blaenau Ffestiniog, wedyn Bethesda – dwy gymuned chwareli – ac yna, Llandudno  gan godi’n ddirprwy reolwr ac yntau prin yn drideg oed.

Gallai fod wedi esgyn yn uchel yn y  byd  bancio: ond  roedd dyfodol Cymru’n bwysicach iddo na gyrfa a chyfoeth.  Ymunodd â’r Blaid Genedlaethol yn ei dyddiau cynnar; yn un ar hugain oed, fe  sefydlodd gangen Blaenau Ffestiniog – y  gangen fwyaf oedd gan y Blaid  drwy Gymru benbaladr.  Pryd hynny, fel drwy ei yrfa,  gweithiai’n ddygn yn y cefndir, i eraill gael y sylw fel ceffylau blaen.

Pan ddaeth rhyfel ym 1939, gwrthododd Elwyn â listio yn y lluoedd arfog; gwnaeth hyn ar sail cenedlaetholdeb, nid heddychiaeth.  Gwrthododd gydnabod hawl gwladwriaeth Lloegr I’w orchymyn i ymladd drostynt. Gofynnodd un o’r Tribiwnlys iddo  “Fel Cymro ydach chi’n sefyll, ynte?”  Atebodd Elwyn, gyda’i hiwmor sarrug, a’i agwedd gwbl sarhaus tuag at y sefydliad Seisnig,   “Na, fel Tsieini!” Cafodd ei orfodi i weithio fel dyn dal llygod mawr yn ardal Corwen.

Yn ystod y rhyfel – drwy anogaeth Saunders Lewis a J.E. Daniel –  sefydlwyd “Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymru” – yng ngeiriau Gwynfor, “y mudiad cenedlaethol pwysicaf i weithio dros Gymru yn ystod y rhyfel”. Trefnwyd ralïau ledled Cymru, a’r un mwyaf llwyddiannus oll oedd un a gynhaliwyd ym Mae Colwyn.  Holodd Gwynfor pwy oedd yn gyfrifol am gael y math dorf.  Cafodd ar ddeall mai clerc banc ifanc oedd wedi cyflawni’r math wyrth.  Dyna ‘r tro cyntaf i Gwynfor gyfarfod Elwyn; ac fe ffurfiwyd partneriaeth a ddylanwadodd ar ddyfodol ein cenedl. 

Rhaid bod y banc yn meddwl yn uchel ohono, oherwydd er gwaethaf ei genedlaetholdeb tanbaid cafodd ddychwelyd i’r banc cyn diwedd y rhyfel.  Pan safodd Gwynfor dros Feirionnydd yn etholiad 1945, gwnaeth yntau  gais i’r Banc i ryddhau Elwyn i weithio fel trefnydd; a chytunodd y banc i hynny!  Mae Rhys Ifans, yn ei gyfrol ar Gwynfor yn sôn am Elwyn yn serennu fel asiant etholiadol – a dwi’n dyfynnu – “ar gownt ei galedwch diarhebol”.

Dychwelodd Elwyn i’r banc  ar ôl  yr etholiad;  ond roedd ei allu trefniadol yn hysbys, a chafodd wahoddiad i weithio fel Trefnydd Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn, 1947 – gan gael y banc  i’w ryddhau, eto!

Cafodd ei ben-bachu eto i weithio  fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ym 1951.  Ni ddychwelodd i’r banc wedi hynny, a chafodd ei benodi gan y Blaid, yn Drefnydd Gwynedd a Chyfarwyddwr Cyllid.

Daeth galw arall arno – iddo drefnu’r ymgyrch trawsbleidiol dros Senedd i Gymru. Pan gymerodd Elwyn drosodd, roedd y ddeiseb wedi rhedeg ers dwy flynedd ac ond ychydig gannoedd o enwau arni. Gafaelodd Elwyn yn yr awenau gyda’i unplygrwydd nodweddiadol,  a llwyddodd i gynyddu nifer yr enwau i dros chwarter miliwn.  Arweiniodd hyn i S.O. Davies AS gyflwyno Mesur Senedd i Gymru yn San Steffan ym 1956.

Ym 1958, Elwyn drefnodd wibdaith lwyddiannus  Gwynfor Evans i’r Unol Daleithiau.  Cymerodd Gwynfor ran mewn darllediad a welwyd gan ugain miliwn o bobl; cafodd groeso cynnes  gan John L Lewis arweinydd Undeb Glowyr America; a  threfnodd Elwyn i Gwynfor gael gwahoddiad i gyfarfod â’r Arlywydd Eisenhower – ond i  Lysgenhadaeth Prydain ei rwystro.

Roedd galwadau eraill yn dal i lifo. Pan gafodd gwmni Teledu Cymru anhawster i godi arian ym 1962, at Elwyn y trowyd, a llwyddodd i godi buddsoddiadau i’r fenter, a fyddai heddiw’n cyfateb i dros £1 miliwn.  Roedd codi arian yn un o gryfderau Elwyn: ef, yn ddiweddarach, berswadiodd ddyn busnes cyfoethog i gyflogi Gwynfor,  fel ymgynghorydd rhwng 1970 a 1974, wedi iddo golli Caerfyrddin – a Gwynfor, i bob pwrpas, ar y clwt yn ariannol.

 Tynnwyd Elwyn i mewn i geisio achub Clywedog rhag cael ei boddi, a dyfeisiodd gynllun i gannoedd brynu llathen sgwâr o dir y Cwm, a fyddai’n dyrysu  Corfforaeth Birmingham – cynllun aflwyddiannus, gwaetha’r modd, oherwydd cyngor cyfreithiol diffygiol.

Ym  1964 penodwyd Elwyn yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid .  Derbyniodd y swydd – a hynny ar adeg eithriadol o anodd yn hanes y Blaid – ar yr amod y cai weithio o swyddfa Bangor. 

Mae’n deg cydnabod nad oedd pawb o fewn y Blaid yn gallu ymateb yn bositif i bersonoliaeth Elwyn, i’w “galedwch diarhebol” nac i’r math o genedlaetholdeb “traddodiadol” a gynrychiolai; nac i’w uniongrededd ceidwadol o safbwynt trin arian.

Mae llawer wedi ei ysgrifennu am y tensiwn rhwng Emrys Roberts, a weithredai tan 1964, fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid yn swyddfa Caerdydd, ac Elwyn Roberts, rheolwr cyllid y Blaid, a weithredai o swyddfa  Bangor. Gallwn, yn bersonol, weld rhinweddau mawr yn y ddau hyn a gyfrannodd cymaint at lwyddiant y Blaid yn eu gwahanol ffyrdd.

Chwaraeodd Elwyn ran allweddol mewn nifer o ymgyrchoedd, gan gynnwys isetholiad Caerfyrddin 1966, ble bu’n cydweithio â’r Cynrychiolydd, Cyril Jones. Elwyn  sicrhaodd yr adnoddau i ennill y dydd.  Ac Elwyn gafodd y fraint o hysbysu Gwynfor, wrth iddo gyrraedd y cownt, ei fod wedi ennill!

Elwyn Roberts oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru drwy’r cyfnod mwyaf  anhygoel yn ei hanes –  isetholiadau Caerfyrddin,  Rhondda Fawr ym 1967, Caerffili ym 1968, heibio  miri’r arwisgo ym 1969 gan ymddeol ym 1971.  Yn syth ar ôl ymddeol – fel petai heb wneud digon dros y Blaid,  cymerodd Elwyn drosodd y swydd ddi-dâl fel  Trysorydd Cenedlaethol y Blaid.

Yn rhinwedd y swydd, aeth ati eto i drefnu – trefnu codi arian  drwy nosweithiau llawen a chyngherddau Tribannau Pop!  Alla’i ddychmygu neb llai tebyg nag Elwyn, yn ei dop-cot llwyd, ei het a’i briff-ces,  fel trefnydd  digwyddiadau roc a rôl y 70au . Ond cododd filoedd i’r achos, ac ef greodd y sylfaen gyllidol ar gyfer etholiadau 1974 pan  enillodd y Blaid dair sedd yn San Steffan.

Efallai fod trefnu ymgyrchoedd etholiadol wedi creu’r awydd ynddo  i fwrw i’r dasg ei hun, oherwydd, yn syth ar ôl ymddeol cafodd ei ethol yn Gynghorydd Sir  yn Ynys Môn; ac yna i Gyngor newydd Gwynedd ym 1973.  Arhosodd fel cynghorydd tan 1985 – gan chwarae rhan flaenllaw i wella economi Gwynedd.

Y tro cyntaf i mi gyfarfod Elwyn oedd ym 1962. Roeddwn yn fyfyriwr ym Manceinion a newydd ymuno â’r Blaid. Yn ystod gwyliau’r coleg, mynychais gyfarfod o Gangen Caernarfon yn y People’s Café – ar y Maes yn y dref.  Elwyn oedd yn siarad yno a soniais yn y gyfrol “O ddifri” sut y cerddodd i mewn yn gwbl bwrpasol a’i brief-case yn orlawn. Daeth nid i  fân-drafod, llai fyth i gymdeithasu,  ond yn hytrach i’n cyfarwyddo. Fo oedd yn gosod yr agenda a’r blaenoriaethau, fel ryw Gomisar sofietaidd.

Yn fuan wedyn, galwais heibio ei swyddfa ym Mangor ac roedd hynny’n brofiad. Trefnai’r gwaith fel peiriant ac roedd yn feistr corn ar bawb a phopeth – fel dwi’n sicr y gallai Nans Couch – Nans Gruffydd fel yr oedd pryd hynny – dystiolaethu o brofiad personol.

Doedd gan Elwyn fawr o amser i ffyliaid – a dangosai hynny’n weddol amlwg.  Ond pe gwelai fod gan rywun gyfraniad i wneud i’r mudiad cenedlaethol, doedd dim yn ormod o drafferth iddo. Penderfynodd yn weddol gynnar fod gennyf innau rywbeth  i’w gynnig – ac fe gymerodd ddiddordeb mawr ym mhopeth a wnawn dros gyfnod o flynyddoedd.

Fo oedd tu cefn i’m mhenodi i weithio fel trefnydd etholaeth Arfon o Fehefin hyd Hydref 1964, ar ôl i mi raddio a chyn dechrau gweithio, cyfnod oedd  yn arwain at etholiad  cyffredinol 1964. Roedd wedi awgrymu, yn gynharach, y dylwn – ar ôl graddio – fynd i chwilio am waith i gymoedd y De i ddod i nabod Cymru’n well.  Pan ddeallodd mod i am fynd i weithio efo cwmni Ford yn Dagenham, fe ffieiddiodd am sbel – roedd wedi digio efo fi oherwydd, mae’n debyg, y tybiodd y byddwn innau’n diflannu o’r Blaid ac o wleidyddiaeth Cymru, fel bu hanes cymaint o fechgyn ifanc pryd hynny.

Cadarnhawyd ei ofnau ar ôl iddo ef a Wmffra Roberts geisio a’m mherswadio i sefyll yn Arfon yn etholiad Mawrth 1966; a minnau’n gwrthod yn fflat ystyried y math beth  – wedi’r cyfan roeddwn ond dwy ar hugain oed, ac roedd llawer yn rhy gynnar.  Ond roedd Elwyn wedi plannu’r syniad yn fy mhen y dylwn baratoi ar gyfer y math bosibilrwydd yn y dyfodol.

Pan welais Elwyn yng Nghaerfyrddin, y Sadwrn olaf cyn yr isetholiad 66, roedd ei agwedd tuag ataf yn dal yn  sarrug, a dweud y lleiaf. Anfonodd fi allan i ganfasio heb fawr ddim sgwrs – roeddwn yn y “bad books” go iawn. Ond pan ddychwelais i adrodd am drwch y gefnogaeth yn y dre, roedd wedi meirioli.  Dwedodd mai dyna’r ymateb drwy’r etholaeth – ac mewn llais isel, rhag i neb glywed, sibrydodd “Dwi’n credu fod Gwynfor am ennill”.

Yn sgil yr isetholiad, aeth nifer ohonom – Phil Williams, Dafydd Williams, Eurfyl ap Gwilym, Gareth Morgan Jones, Rod Evans ac eraill – ati i ffurfio Grŵp Ymchwil y Blaid – i helpu Gwynfor efo agweddau o’i waith seneddol,  ac i baratoi Cynllun Economaidd i Gymru.  Roedd hynny’n plesio Elwyn yn ddirfawr – a darparodd heb berswâd, gyllid o ryw hanner can punt y mis, i ni allu llogi swyddfa fechan iawn a chyflogi teipydd rhan amser.

O fod wedi methu a’m cael i sefyll yn Arfon, Elwyn berswadiodd Bwyllgor Rhanbarth Meirion i’m gwahodd i sefyll yno yn etholiad 1970, er fy mod yn byw yn Llundain ac  yn gweithio i gwmni Mars yn Slough.  Rhoddodd Elwyn gefnogaeth ymarferol i mi o ran adnoddau’r Blaid yn ganolog.

Erbyn 1972, roeddwn wedi dychwelyd i fyw yng Nghymru, yn gweithio efo cwmni Hoover ym Merthyr ac wedi fy ethol i Gyngor Merthyr – roedd fel pe bae cynllun cyfnod hir Elwyn ar fy nghyfer, o’r diwedd yn symud ymlaen fel yr oedd wedi bwriadu.  Pan gefais f’ethol dros Arfon, cefais eto  bob cefnogaeth ganddo, fel y cefais  pan sefais i olynu Gwynfor fel Llywydd.

Er bod Elwyn yn gymaint o gefn i mi, ac yn f’ystyried yn dipyn o protégé iddo, prin allwn ddeud fy mod yn ei wir adnabod – dim ond unwaith bûm heibio ei gartref ym Modorgan – a hynny i bigo ryw bapurau – a phrin erioed y cefais unrhyw sgwrs â’i wraig Nansi. Un felly oedd Elwyn; ac doedd dim dewis ond ei dderbyn fel yr oedd – oherwydd fyddai dim byd yn ei newid.  Roedd fel craig yr oesoedd, yn gyson, yn gadarn, yn unplyg ac yn gwbl ymroddedig i Gymru.

Mae’n dda ein bod ni heddiw yn ei gofio, oherwydd mae gan y Blaid a’r genedl lawer i ddiolch iddo:  Elwyn Roberts,  “Y graig safadwy drwy dymhestloedd”;  y math graig sydd o’r golwg dan wyneb y tir, ond oedd mor hanfodol  os oeddem am adeiladu dyfodol cenedl ar seiliau cadarn.  Diolch amdano a diolch am wrando.

 

 

‘Elwyn y Dyn’

Atgofion Gwynn Matthews

Diolch am y gwahoddiad i rannu  fy adnabyddiaeth o Elwyn, a diolch o galon i Dafydd Wigley am y portread arbennig gawsom ni.  Pwy all ychwanegu i’r pictiwr hwnnw o Elwyn fel ffigwr cenedlaethol?  Dwi ddim yn mynd i geisio gwneud hynny – beth rwy’n mynd i’w wneud yw sôn am Elwyn y dyn – y dyn y mae cymaint o bobl wedi ei gael yn anodd i fynd o dan ei groen.

Gwnes i gyfarfod ag Elwyn gyntaf yn 1961.  Roeddwn i’n fachgen ysgol ar y pryd a doedd  amgylchiadau’r cyfarfod ddim gyda’r hapusaf, oherwydd gwŷs ges i  ymddangos ger ei fron mewn Pwyllgor Rhanbarth! 

Mi oeddwn i wedi sefydlu cangen ysgol o’r Blaid yn Ysgol Ramadeg Dinbych ddechrau’r chwedegau.  Byddem ni’n cyfarfod yn yr awr ginio yn yr ysgol mewn ystafelloedd gwahanol yn ddiarwybod i’r staff.  Roedd hynny’n bosibl  oherwydd bod gen i fathodyn yn dweud ‘Prefect’ ( a hawl felly i adael disgyblion i mewn i’r adeilad) – ond y drwg oedd bod athrawon yn gallu dod heibio, agor y drws a gofyn “What’s going on here, then?”.  Os oedd yn Sais, roeddwn i’n gallu dweud, “Oh, it’s the Welsh Society, sir”.  Ac roedd hynny’n iawn.  Un tro ddaru’r athro ysgrythur ddod a gofyn a oedden ni’n cynnal cyfarfod gweddi – ac mae’n flin gen i gyfaddef i mi ateb fy mod! 

Y ffaith yw, roedd yna berygl cael ein dal, ond maes o law fe gawson ni ddefnyddio Swyddfa’r Blaid yn y dre.  Ond roedd rhywun wedi achwyn fod plant ysgol yn mynd a dod o’r swyddfa ac yn cadw reiat.  A felly dyma fi’n cael gwŷs i fynd i’r Pwyllgor Rhanbarth a rhoi cyfrif  amdanaf fy hun a’m cyd-ddisgyblion, o flaen neb llai na Mr Elwyn Roberts!

I’r rhai ohonoch oedd wedi adnabod Elwyn, gallwch chi ddychmygu sut deimlad oedd ymddangos o’i flaen!  Roeddwn i yn deall – allwch ddim wafflo efo hwn.  Ond y gwir yw mi ddaru o ddod allan o’n plaid ni, a dweud bod perffaith ryddid i ni ddefnyddio’r swyddfa o hynny ymlaen.

Ychydig nes ymlaen, yn 1968, fel y dywedodd Dafydd Williams, mi ges i fy mhenodi ar staff y Blaid.  Fe ges i gyfweliad ym Mhwllheli yn dilyn cyfarfod mabwysiadu Robyn Lewis.  Dyma Elwyn yn dod ata’i ar y diwedd,  – “Reit” medde fo, “dwi eisiau i chi helpu fi lenwi bŵt y car efo’r holl daflenni yma.”  Ac fel oeddwn i’n llenwi’r bŵt, roedd o yn fy holi.  A phan oeddwn i wedi llenwi’r bŵt, dyma fo’n dweud, ” ‘Dech chi wedi cael y swydd”.  Cyfweliad byrraf fy mywyd.

Fel mae Dafydd Wigley wedi dweud, dyn preifat oedd o.  A byddwn i’n dweud ei fod yn ddyn swil mewn gwirionedd.  Ac efallai, roedd ganddo ryw ffasâd sydd gan bobl swil yn aml sy’n gwneud i chi feddwl eu bod nhw’n llai cynnes nag ydyn nhw. Yn y bôn, mi roedd Elwyn yn ddyn cynnes. 

Ac fel yr awgrymodd Dafydd Wigley, pan gafodd o hamdden, ddaru o ddim sgwennu amdano’i hun ond sgwennu am ei fro – sgwennu am yr ardal roddodd ei werthoedd iddo. [Wrth Odre Cadair Idris]  Yno mae o’n sôn am ei blentyndod, ac mae un frawddeg sy’n dipyn o syndod.  Sôn mae o am ei ysgol, ac am athro yr oedd ganddo dipyn o feddwl ohono, Mr Fielding.  O’r Iseldiroedd y deuai teulu Mr Fielding, ond roedd o’n medru Cymraeg.

A dyma’r frawddeg oedd yn fy nharo fel un eithriadol: “Cofiaf rai o’r gwersi mewn rhifyddeg, er bod yn gas gen i’r pwnc.” Meddai hwn, y consuriwr ffigyrau!   Y dyn oedd yn medru cael arian o’r awel – ac roedd yn gas ganddo rifyddeg!  Dywed fod Cymraeg a hanes lleol yn fwy at ei ddant o lawer.  Ie, brogarwch oedd y sail i wladgarwch Elwyn, ac fel mae Dafydd Wigley wedi’i ddisgrifio, gwladgarwch dipyn bach yn hen-ffasiwn.  A baswn i’n cytuno – gwerthoedd y Gymru Gymraeg Anghydffurfiol oedd ganddo.

 Rwy’n cofio mewn un gynhadledd, ddechrau’r saithdegau, fod un o ganghennau’r Rhondda wedi gyrru cynnig gerbron am i’r Blaid sefydlu clybiau yfed. Dim ond dau gerdyn oedd wedi dod i fyny – y cynigydd a’r eilydd.  A dyma Elwyn yn dod ata’i a dweud, “Gwynn, mae rhaid i chi siarad!”  Oeddwn i’n ddim wedi bwriadu siarad ond meddai,  “Mae’n rhaid i chi siarad yn erbyn hwn!  Bobol bach, beth ydech  chi’n meddwl byddai cefnogwyr Goronwy Roberts, y dirwestwr mawr, yn ei ddweud yn Arfon pe baem ni’n pasio’r cynnig yma?” A wyddoch chi, roedd rhaid i mi fynd, ar ddau funud o rybudd, a siarad yn erbyn sefydlu clybiau yfed.  Methu ddaru’r cynnig, ond nid oherwydd unrhyw beth ddywedais i!

Eto, rhan o’i werthoedd Anghydffurfiol oedd ei heddychiaeth.  Rwy’n gwybod mai fel cenedlaetholwr y safodd o yn erbyn gwasanaeth milwrol, ond fe allai fod wedi gwneud hynny fel heddychwr hefyd.

Rwy’n cofio un achlysur adeg yr Arwisgo pan oedd y diweddar ROF Wynne (Garthewin) wedi bod yn mynegi teimladau honedig amwys ynglŷn â’r defnydd o drais mewn ymgyrchoedd dros ryddid cenedlaethol. Gwnaeth aelod weddol flaenllaw o’r Blaid amddiffyn ROF Wynne. Fe wylltiodd Elwyn: “Fo! Fo o bawb! Tase fo’n gweld gwn iawn, base fo’n gwneud yn ‘i glôs!”

Roedd Elwyn yn medru gwylltio, rhaid cyfaddef hynny.  Rwy’n cofio dod o un Eisteddfod lle roedd o wedi ffromi gydag un o weision ffyddlonaf y Blaid, Nans Jones.  (Nans Jones, rhaid dweud, oedd yn tramgwyddo Elwyn yn amlach na neb arall ar y staff!) Pan aeth Elwyn i stondin Y Ddraig Goch (yn y cyfnod pan na nad oedd gan bleidiau gwleidyddol hawl i gael stondin ar y Maes) beth welai o dan y bwrdd ond copïau o lyfr garddio JE Jones.  Beth fyddai Nans yn ei wneud pan welai rywun oedd yn adnabod JE yn dod i mewn i’r babell ond cynnig y llyfr garddio iddyn nhw – yn lle cynnig pamffledi’r Blaid!! “A beth bynnag”, meddai Elwyn, “pryd gafodd JE amser i arddio?”

Bu Elwyn yn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. [Eisteddfod Llanrwst, 1951, oedd un o’r rhain.] Un dydd Llun, trefnodd fod Cynan yn dod i Lanrwst i archwilio Cylch yr Orsedd, achos yn ystod yr wythnos flaenorol roedd penseiri wedi bod wrthi yn gosod y meini  yn eu trefn (yn y dyddiau cyn bod rhai plastig, meini go iawn felly).  Ond dros y penwythnos, roedd y ffarmwr wedi gadael i’r bustych ddod ar y safle i bori.  A dyma eiriau Elwyn, “Wyddoch chi beth, roedd y bustych yn codi’u cynffonau yn erbyn y meini – ac aeth Cynan yn wallgof!  ‘Ydach chi ddim yn sylweddoli’, meddai Cynan, ‘fod y meini hyn yn gysegredig?'”. Roedd yn amlwg o wyneb Elwyn wrth  iddo ddweud yr hanes fod ganddo syniad o’r absẃrd.

 Un diwrnod roedden ni’n trafod ceir.  Ymhlith y swyddi bu Elwyn yn eu gwneud oedd gwerthu ceir ail-law. Un da dwi’n siŵr  – roedd ganddo’r ddawn i wahanu pobl â’u harian – megis y gwnaeth flynyddoedd yn ddiweddarach fel Trysorydd y Blaid!  Gwerthai geir dros ddyn busnes o Fae Colwyn, Mr Bill Knowles. Roedd Bill Knowles yn dipyn o gymeriad, yn Dori amlwg, a daeth yn Faer Bae Colwyn. (Fel mae’n digwydd, yn ystod y chwedegau, ddaru o droi’n Bleidiwr, a bu’n Gadeirydd Pwyllgor Rhanbarth Gorllewin Dinbych.)   A dod yn ôl at ein sgwrs, dyma Elwyn yn dweud, Gwynn, os byth y bydd rheiddiadur y car yn gollwng dŵr, dwi’n gwybod sut i’w setlo fo.  Mae isio tywallt paced o bupur i mewn iddo fo, a gwneith hynny i selio fo – rhywbeth ddysgodd Bill Knowles i mi!” Nid oes gan werthwyr ceir ail-law enw da bob amser, ond pe baech chi’n gofyn i mi a fyddwn i’n prynu car ail-law gan Elwyn mi fyddwn yn ateb, “Baswn, o baswn!”

Roedd o weithiau rwy’n meddwl yn or-wyliadwrus.  Dwy enghraifft fach.  Roedd grŵp ymchwil, dan Dewi Watcyn Powell rwy’n credu, wedi paratoi cyfansoddiad i’r Gymru rydd (a chafwyd cynhadledd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd i’w dderbyn).  Un pwnt a  godwyd oedd beth i alw cynrychiolydd y Goron.  Roedd ‘Viceroy’ allan o’r cwestiwn, ac roedd teimlad fod ‘Governor-General’ yn rhy imperialaidd. Dyma nhw’n penderfynu ei alw’n ‘Dinesydd Cyntaf’, ‘First Citizen’.  Roedd Elwyn yn teimlo fod hyn yn rhy elitaidd i’r Blaid.

“Fedrwch chi’n feddwl, Gwynn, am enw arall fel pennaeth rhywbeth?”

“Wel, mae pennaeth seremonïol Prifysgol yn cael ei alw’n Ganghellor,” meddwn i.

” O reit dda, ia, rwy’n lico hynny – Canghellor Cymru.”

“O feddwl am y peth”, medde fi, “dyna yw teitl prif weinidog yr Almaen.”

“Bobol bach – fedrwn ni ddim cael hynny!  Meddyliwch beth fyddai’r Daily Post yn ei wneud o ‘r peth!”

A ‘First Citizen’ oedd hi!

Rwy’n cofio un diwrnod, roedden ni’n trafod bywyd teuluol, am wn i, a dyma fo’n darganfod mai eglwyswr oeddwn i.  Ac roedd o eisiau egluro rhywbeth i mi.

Yr adeg honno, roedd pob plaid wleidyddol yn cael gwahoddiad i fynd i ryw addoldy ar y Sul o flaen eu cynhadledd.  Roedd yn cael ei drefnu ymlaen llaw, wrth gwrs, pwy fyddai’n rhoi’r gwahoddiad.

“Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad ydw’i erioed wedi gofyn i ni gael gwahoddiad i fynd i eglwys, ac mi ddylwn i egluro paham.  Y rheswm yw bod gweddi dros y Frenhines yn rhan o wasanaeth yr eglwys, ac mae arna’i ofn i ryw benboethyn gerdded allan o’r gwasanaeth – a beth fyddai’r papurau yn ei wneud o hynny?”

Ie, gorwyliadwrus, weithiau, efallai.

Ond beth yw’r argraffiadau ohono sy’n parhau? Disgyblaeth, dycnwch a diffuantrwydd.

Disgyblaeth – disgyblaeth bersonol, disgyblaeth mewn gwaith.  Os oeddech chi yn gwneud eich rhan, fyddai Elwyn ddim yn brin o’ch gwerthfawrogi.  Ond os cafodd siom, roedd yn gadael i chi wybod!  Gwnes i ei siomi unwaith – mi fethais fy mhrawf gyrru.  “Damia chi!”.

Dycnwch – dyfalbarhad yn wyneb anawsterau a siom.  Cofiaf Haf 1969 ( haf yr Arwisgiad) – roedd yn gyfnod anodd enbyd – ac un o brif bryderon Elwyn oedd y byddai’r Raffl Haf yn methu!  Roedd y Raffl Haf yn bwysig – dyna le oedd ein cyflogau yn dod ohono – ond cadw ei nerf wnaeth Elwyn.

Yn olaf, ac yn flaenaf, diffuantrwydd.  Dyn cywir.  Rwyf wedi gweithio i nifer o bobl, rhai ohonynt yn bobl dda iawn,  ond mae fy mharch mwyaf, ar sail ei ymroddiad diarbed, i Elwyn.

 

Cofio Elwyn Roberts

Teyrnged gan Dafydd Williams

Des i nabod Elwyn Roberts yn dda ar ôl ymuno â staff Plaid Cymru – am flwyddyn i fod – bron hanner can mlynedd yn ôl, ym Mis Rhagfyr 1967.  Roeddwn wedi cyfarfod ag ef cyn hynny mewn ysgolion haf a’r Gynhadledd, a hefyd ar ddiwrnod cofiadwy yn ystod Isetholiad Caerfyrddin ym 1966. 

Ond yn Swyddfa’r Blaid, Pendre, Bangor y cefais weld y dyn ei hun wrth ei waith bob dydd.  Byddai yno’n ddi-ffael ben bore, ac yn dal ati fel arfer  ar ôl i’r cloc ar y wal yn dweud wrthon ni fynd adre. 

Roedd hi’n gyfnod cyffrous.  Yn dilyn isetholiadau Caerfyrddin a Gorllewin y Rhondda’r flwyddyn wedyn, a Gwynfor yn y Senedd, roedd aelodaeth ar i fyny, ac angen sianelu’r tyfiant hwnnw’n batrwm effeithiol o ganghennau a rhanbarthau ar draws y wlad.  Fel Ysgrifennydd Cyffredinol a Phrif Drefnydd –  dyna oedd teitl ei swydd –  byddai Elwyn Roberts yn delio â’r holl broblemau a ddaeth yn sgil y tyfiant hwnnw, a’r llu o ymwelwyr a fyddai’n galw heibio.

Buan iawn ddes i sylweddoli bod angen rhywun o ddawn, profiad a chymeriad arbennig iawn i fod wrth y llyw.  Rhywun fyddai’n cadw’r llong i fynd yn ei blaen ar gwrs diwyro, drwy hindda a drycin.  A heb os, Elwyn Roberts oedd y gŵr hwnnw.

Yn y cefndir byddai’n gweithredu wrth gwrs.  Er ei fod yn llawn gallu annerch cynhadledd neu gyngor pe bai rhaid, nid y llwyfan cyhoeddus oedd ei gynefin naturiol.

Mae gen i yn fy meddwl lun byw iawn ohono, wrth ei ddesg yn ei siaced – anaml y byddai’n diosg hwnnw – a hances teidi yn y boced top.  Ac yno’n gweithio gydag ef roedd merch ifanc o Ben Llŷn, Nans Gruffydd – Nans Couch erbyn hyn.  Mae Nans yn methu bod gyda ni heddiw oherwydd galwadau teuluol, ond rwy’n ddiolchgar iawn iddi am ei hatgofion.

Fel hyn mae hi’n cofio amdano: “Fo yn sicr oedd yn o fy arwyr yn y Blaid a braint oedd cydweithio efo fo.  Dyn yr ail filltir oedd Elwyn – gweithiwr diflino a roes ei yrfa yn y banc o’r neilltu er mwyn gwasanaethu ei genedl.  Ef fu’r dylanwad mwyaf arnaf … Roedd gweithio efo Elwyn yn well nag unrhyw goleg”.

Roedd Elwyn yn hoff o’i de.  Bron bob awr yn y prynhawn, byddai’r ddau ohonon ni’n clywed llais yn deisyfu o’r stafell gefn: “Oes paned dwym yn y tebot?”   A – cyfaddefiad yn dod! – Nans fyddai’n rhoi ei gwaith o’r neilltu i ddarparu pot o de newydd.  1967 oedd hynny, cofiwch!

Wrth gwrs, yn bell cyn i Nans na minnau ddod i’r golwg, roedd Elwyn eisoes wedi rhoi degawdau o’i fywyd i Gymru a’r Blaid – a hynny ar adegau anodd iawn.  Meddyliwch am hyn:

  • Elwyn yn drefnydd etholiad i Gwynfor Evans ym Meirionnydd yn 1945, yn ennill clod am “ei galedwch diarhebol” fel asiant yn ôl yr awdur Rhys Evans – gyda llaw, yn ystod yr ymgyrch honno, trefnodd gyfarfod cyhoeddus o flaen cofgolofn Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd – am 11:30pm y nos!
  • Ddeng mlynedd wedyn yn 1955 – cael ei ryddhau gan y Blaid i achub ymgyrch Senedd i Gymru, a llwyddo hefyd.
  • Neu hyn – yn 1961, codi £62,525 i lansio cwmni Teledu Cymru.

Ac alla’i byth ag olrhain ei holl waith yn codi arian i gadw Plaid Cymru rhag methdalu – dro ar ôl tro, a thrwy bob dull a modd.  Dim syndod iddo gael ei ddyfynu 45 o weithiau yn llyfr Rhys Evans yn ei gofiant am Gwynfor Evans.

Yn 1971, yn annisgwyl iawn, fe ddes i’n olynydd i’r gŵr anhygoel hwn, hynny ar ôl wâc ar y prom yn Aberystwyth gyda Gwynfor, ond stori arall yw honno!  Sut yn y byd oedd llenwi ei sgidie fe?  Rown i’n gwybod yn iawn na allaf byth ei efelychu.

Ond yn ffodus i mi, os oedd Elwyn wedi ymddeol o fod yn Ysgrifennydd Cyffredinol, roedd ei gyfraniad i Blaid Cymru yn bell, bell o fod drosodd.  Yn yr un flwyddyn, fe ddaeth yn Drysorydd mewn enw – swydd yr oedd mewn gwirionedd yn cyflawni ers blynyddoedd.  Ac – anodd falle i rai ohonoch chi gredu hyn – diolch i’w waith caib a rhaw mewn hinsawdd wleidyddol fwy ffafriol, fe wellodd sefyllfa ariannol y Blaid yn sylweddol.

Ac ymlaen ag ef i gyflawni gyrfa newydd fel aelod o Gyngor Sir Gwynedd gan gynrychioli Bodorgan yma yn Sir Fôn, a dal nifer o swyddi cyhoeddus – ar Gorfforaeth Ddatblygu Cymru ac  Awdurdod Iechyd Gwynedd yn eu plith.

Roeddwn i’n ddigon ffodus i ymweld nifer o weithiau â’i gartref – byngalo ar gornel heol fach wledig ym mhentref Bodorgan o’r enw Peniarth, gyda’i do wedi’i growtio yn steil Ynys Môn (clywais lawer am ‘grouting’!) a’r tu fewn yn bictiwr.  Bob tro fe gawn groeso cynnes a charedig gan Elwyn a’i wraig Nansi – trist meddwl bod Elwyn yn treulio blynyddoedd olaf ei fywyd heb ei chwmni afieithus hi.

Clywais am farwolaeth Elwyn Roberts mewn sgwrs ffôn â Gwerfyl yn y Swddfa Ganol y diwrnod cyn ei gladdu, a minnau yn yr Alban gyda’m rhieni ac yn methu mynychu ei angladd.  Roedd yn gysur ymweld â’i fedd yn eglwys Abergynolwyn rai misoedd wedyn.

Ga’i felly derfynu gydag apêl.  Mae gwir angen croniclo hanes bywyd yr arwr unigryw hwn – y bancwr droes yn drefnydd mudiad cenedlaethol.  Mae’r deunydd crai i’w gael – yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae cyfrolau o waith papur yn ei gasgliad, a digon o inc coch bid siŵr!  Mae’n stori werth ei hadrodd – testun teilwng iawn o PhD a llyfr wedyn.  Beth amdani, haneswyr Cymru?

I’m cenhedlaeth i, ac i’r to iau, mae hanes Elwyn Roberts yn ysbrydoliaeth – ac yn sialens.  Mae llwyddiant Plaid Cymru heddiw, waeth beth fo’r anawsterau, yn deillio o’r hadau a blannwyd gan Elwyn a’i gyfoedion.

Rhyfedd meddwl ei fod wedi ffarwelio â ni bron ddegawd cyn ennill y frwydr i sefydlu cynulliad cenedlaethol.  Byddai fe wedi bod wrth ei fodd – a byddai wedi rhoi rhywbeth am gael profi a chyfranogi o’r llwyddiant hwnnw.  Diolch am ei fywyd, mae’n haeddu pob anrhydedd.

 

Mary Jones 1949 -2017

Esiampl i Bawb

Teyrnged i Mary Jones gan Elfyn Llwyd

Roedd gan Mary’r gallu bob amser i roi gwen ar wynebau pawb. Gallai hefyd godi arswyd ar rai – yn arbennig gelynion Plaid Cymru, achos oedd yn agos iawn at ei chalon. Er ei phrysurdeb byddai gan Mary bob amser i weithio dros y Blaid. Yn ei hamser bu Mary’n:

  • Gadeiryddes Cylch Meithrin Llanrwst
  • Ysgrifenyddes Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Gwydir am saith mlynedd
  • Un o Sylfaenwyr Clwb Gwerin Sgidiau Hoelia ac yn trefnu’r holl weithgareddau a nosweithiau
  • Arwain Clwb Ffermwyr Ifanc Llanrwst a’i llywio i ennill Rali Eryri dwy waith
  • Am 23 mlynedd yn rhedeg caffi ym Mart Llanrwst, Paned a Gwên – rhaid oedd talu am y baned meddai ond roedd y wên am ddim!
  • Aelod brwd o Bwyllgor Sioe Llanrwst ac yn Gadeiryddes yn 2010

Toedd Mary byth yn hanner gwneud unrhyw beth. Roedd ganddi ymlyniad bore oes i glwb pêl-droed Manchester United ac fel enghraifft o’r parch tuag ati daeth llythyr i law diwrnod neu ddau wedi iddi ein gadael. Hoffwn ddyfynnu rhan o’r llythyr hwnnw,

“I just want to write to you to thank you for your loyal support and devotion to the club. I understand that you are having a difficult time but hope that it helps to know that myself, the players and staff are all thinking of you. Jose Mourinho.”

Fel brodor o Ddyffryn Conwy roeddwn yn ymwybodol o waith da Mary dros y degawdau ond wedi i mi gael fy enwebu i sefyll yn etholiad 1992 deuthum i weithio’n agos â hi gan dderbyn llu o gynghorion doeth. Byddai’n fy ffonio i ddweud pan yr oedd Mart pwysig yn Llanrwst er mwyn i mi gael cyfarfod cyn gymaint â phosib o’r ffermwyr lleol. Dro arall yn fy nghynghori i beidio trafferthu siarad efo un neu ddau, “Blydi Tori – wast ar amser!”

Hi oedd y cyntaf allan efo’r taflenni ac yn canfasio, ac mae gwleidyddion yn son am y rhai sy’n cerdded y filltir olaf – hi oedd yr enghraifft orau i mi wybod amdani ac os oedd hi yn ymgymryd ag unrhyw waith – gwyddom ei fod felly wedi ei wneud.

Cofiaf, unwaith neu ddwy, wedi ymlâdd ar ôl diwrnod caled o ganfasio ac awydd rhoi’r gorau iddi am y tro. Dyna Mary’n dweud, “dim ond dwy stad arall – tyrd efo fi”. Pwy allai ei gwrthod? Roedd ei gweithgareddau diflino’n esiampl i bawb.

Y tro olaf i mi gael sgwrs iawn â hi oedd yn Sioe Llanrwst ym mis Awst. Er ei bod mewn cystudd mawr roedd y wên gynnes yn amlwg, fel arfer.

Rwy’n falch o ddweud fod Mary wedi cael gwybod iddi gael ei hanrhydeddu gan y Blaid yn y Gynhadledd yng Nghaernarfon. Roedd hi ar ben ei digon. Mae’r Blaid wedi colli aelod ffyddlon a chryf ac mae pawb a gafodd y fraint o’i hadnabod wedi colli ffrind annwyl iawn. Diolch amdani.

 

 

Janice Dudley 1944 – 2017

Menyw Wirioneddol Ysbrydoledig

Dai Lloyd AC yn rhoi teyrnged i Janice Dudley

Collodd y Blaid aelod unigryw yn gynharach eleni yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd ysbrydoledig a gweithgar o Gastell-nedd Port Talbot, Janice Dudley. Wnaeth Janice weithio’n ddiflino dros y Blaid dros nifer o flynyddoedd.

Yn 2004, ymunodd â rhengoedd cynrychiolwyr etholedig y Blaid yn dilyn ei hetholiad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, gan gynrychioli ward De Bryncoch. Cynrychiolodd ei hardal gydag egni ac ymroddiad, a chafodd hyn ei gydnabod gan drigolion lleol wrth iddynt ei hail-hethol dro ar ôl tro.

Roedd y gefnogaeth leol yma yn weladwy ym mis Mai eleni eto, gyda thrigolion Bryncoch yn sicrhau bod Janice yn ennill mwyafrif swmpus dros y Blaid Lafur. Ond nid oedd y lefel yma o gefnogaeth yn syndod – roedd Janice yn fenyw wirioneddol ysbrydoledig, bob amser mor bositif ac egnïol. Roedd y bersonoliaeth gynnes yma yn denu pobl o bob cefndir, yn ifanc ac yn hen, o bob plaid wleidyddol.

Eleni gwelwyd Janice yn cael ei anrhydeddu am flynyddoedd o weithredu lleol wrth ddod yn Faer Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot. Fel y disgwyl, rhoddodd Janice bopeth i’r rôl, a’i wneud yn ei ffordd angerddol ac urddasol ei hun.

Ers ei marwolaeth, bu teyrngedau’n llifo o ystod eang o bobl, ac mi ddaeth i’r amlwg y lefel o barch oedd gan bobl tuag ati.

Yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid yng Nghaernarfon, derbyniodd Amanda, sef merch Janice, wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ ar ran ei mam, am y blynyddoedd o waith caled a wnaeth Janice ar ran y blaid. Roedd yn anrhydedd gen i i allu cyflwyno’r wobr honno i gydnabod gwaith unigryw aelod blaenllaw yn yr ardal, ond rhywun oedd hefyd yn ffrind personol.

Bu colli Janice yn ergyd enfawr yn lleol, ond fel cydweithwyr a ffrindiau, rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth y gallwn i sicrhau bod ei hetifeddiaeth yn parhau yn Ne Bryncoch a thu hwnt.

Jim Criddle 1947 -2017

Cawr Diymhongar

Helen Mary Jones yn rhoi teyrnged i Jim Criddle

Cefais y fraint yn y Gynhadledd y mis diwethaf o gyflwyno gwobr gwasanaeth oes i deulu’r diweddar Jim Criddle, gweithiwr a chynghorydd Plaid Cymru am flynyddoedd ym Mhontllanfraith.

Yn ôl pob sôn bu Jim ar un cyfnod yn aelod o’r Blaid Lafur; chymrodd hi ddim yn hir iddo weld y goleuni. Cafodd ei berswadio gan ei hen ffrind Malcolm Parker i sefyll  dros Blaid Cymru mewn etholiad cyngor yn gynnar yn y 70au, a dyna gychwyn ar ymroddiad oes i Blaid Cymru a chyfanswm o dros 30 mlynedd o wasanaeth fel cynghorydd.

Yn ystod yr un cyfnod dechreuodd Jim ddysgu Cymraeg, a llwyddodd yn hynny o beth. Trwy’r gwersi yma y daeth ar draws ei wraig Rhian Heulyn, ac fe fagodd y ddau deulu Cymraeg ei iaith, Betsan, Geraint a Branwen. Daeth gweithio dros y Blaid yn brosiect teuluol. Mae’r plant yn cofio rheolau euraid Jim ynglŷn â thaflennu – cadwch y glwyd yn union fel ag yr oedd, peidiwch â phoeni cŵn a pheidiwch BYTH BYTHOEDD â dringo dros waliau rhwng gerddi – waeth faint o risiau y mae’n rhaid i chi eu dringo!

Lle bynnag roedd angen gweithio dros y Blaid, fe fyddai Jim yno – yn taflennu, canfasio, rhedeg y gangen, gweithio i’r Undeb Gredyd – dim y dasg oedd yn bwysig i Jim ond yr achos

Yn ogystal â’i waith dros Blaid Cymru fel cynghorydd, ei swydd fel athro a’i ymrwymiadau teuluol, roedd Jim, gyda’i wraig Rhian, yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg yng Ngwent. Bu’n frwydr galed, ond daeth llwyddiant. Roedd Jim mor falch pan agorwyd Ysgol Gyfun Gwynlliw.

Roedd Jim yn caru ei deulu, roedd yn caru ei gymuned ac roedd yn caru Cymru. Bu’n gweithio’n dawel dros yr hyn yr oedd yn credu ynddo. Bu farw’n rhy gynnar. Fe fydd ei deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn cofio’r cawr diymhongar. Mae Cymru angen rhagor o bobl fel Jim Criddle.

Cyfarfod Cofio Elwyn Roberts

Ar 10 Awst 2017 yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn cynhaliwyd cyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru i Gofio Elwyn Roberts. 

Dyma rhan o’r areithiau

Dafydd Wigley

 

Gwynn Matthews

 

Dafydd Williams

 

 

 

Teyrnged i Drefnydd Allweddol Plaid Cymru

Talwyd teyrngedau ar faes Eisteddfod Ynys Môn 2017 i Elwyn Roberts – un o hoelion wyth Plaid Cymru a fu’n allweddol i’w datblygiad yn ystod yr 20fed ganrif.

Mewn sesiwn a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru dywedodd Llywydd Anrhydeddus y Blaid Dafydd Wigley fod Elwyn Roberts yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd.

“Roedd yn genedlaetholwr cwbl ymarferol a gredai fod buddugoliaeth yn tyfu ar sail trefniadaeth wleidyddol”, meddai.

Brodor o Abergynolwyn, Meirionnydd fu Elwyn Roberts ac yn fab i chwarelwr llechi.  Aeth i weithio i’r banc ar ôl gadael yr ysgol a dod yn aelod o Blaid Cymru yn ei ddyddiau cynnar – gan sefydlu cangen ym Mlaenau Ffestiniog a ddaeth y fwyaf yng Nghymru.

Cafodd ei ryddhau o’i waith yn y banc sawl gwaith – i fod yn drefnydd etholiadol i Gwynfor Evans ym Meirionnydd yn 1945 ac wedyn i wasanaethu’r Eisteddfod Genedlaethol cyn dod yn drefnydd Gwynedd i Blaid Cymru a’i gyfarwyddwr cyllid yn 1951.

Yn y cyfarfod cofio cafwyd teyrngedau hefyd gan yr awdur Gwynn Matthews a chyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Dafydd Williams.  A soniodd Cyril Jones, cynrychiolydd i Gwynfor Evans yn isetholiad Caerfyrddin y 1966, am y rhan allweddol yr oedd wedi chwarae wrth ennill y sedd gyntaf erioed i Blaid Cymru yn Senedd San Steffan.

Clywyd sut yr oedd gwaith Elwyn Roberts wedi sicrhau na fydd Plaid Cymru’n methdalu nifer o weithiau.  A dywedodd Dafydd Wigley sut daeth galw iddo drefnu’r ymgyrch trawsbleidiol dros ddeiseb Senedd i Gymru yn y 1950au.

“Pan gymerodd Elwyn drosodd y cyfrifoldebau, roedd y ddeiseb wedi rhedeg ers dwy flynedd ac ond ychydig gannoedd o enwau arni. Gafaelodd Elwyn yn yr awenau gyda’i unplygrwydd nodweddiadol, a llwyddodd i gynyddu nifer yr enwau i dros chwarter miliwn.”

Dyma rhannau o’r areithiau ar 10 Awst 2017 yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yng nghyfarfod gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru i Gofio Elwyn Roberts. 

Dafydd Wigley

 

Gwynn Matthews

 

Dafydd Williams

 

 

 

 

Cyfarfod Teyrnged a Cerdd yn dilyn ei farwolaeth yn 1989

Cofio Elwyn Roberts

Cyfraniad Elwyn Roberts ( 1904- 1988 )

 i Gymru a’r Mudiad cenedlaethol

 

1pm Dydd Iau 10 Awst 2017

Pabell y Cymdeithasau 1

Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

 

Cynhelir sesiwn arbennig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i gofio cyfraniad y diweddar Elwyn Roberts i Gymru a’i mudiad cenedlaethol.

 

Trefnir y sesiwn am 1pm, Dydd Iau 10 Awst 2017 ym Mhabell y Cymdeithasau 1 gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.

 

Roedd Elwyn Roberts yn ddylanwad aruthrol ar y Blaid, gan sicrhau ei chadw yn fyw a gweithredu drwy adegau anodd iawn, meddai cadeirydd y Gymdeithas Hanes, Dafydd Williams.

 

“Fe fu’n gyfarwyddwr  cyllid, ysgrifennydd cyffredinol a thrysorydd cenedlaethol, ac fel angor i Blaid Cymru drwy flynyddoedd helbulus ail hanner yr ugeinfed ganrif”, meddai.

 

“Fe’i cofir hefyd fel trefnydd athrylithgar ymgyrch Senedd i Gymru yn y pum-degau.

 

“Ac ar ôl ymddeol o’i swydd lawn-amser, fe ddaeth yn gynghorydd sir effeithiol yn Ynys Môn – felly mae’n addas iawn ein bod ni’n talu teyrnged iddo ar faes y Brifwyl eleni.”

 

Bydd modd clywed am hanes y gŵr rhyfeddol hwn yng nghwmni panel sy’n cynnwys Dafydd Wigley a Gwynn Matthews.

 

22 Gorffennaf 2017

 

Cyswllt:  Dafydd Williams, Ffôn: 07557 307667 (daitenby@gmail.com)

 

 

Hanes Plaid Cymru