Anthony Packer 1940 – 2014

Anthony PackerCOFIO LLYSGENNAD O BENARTH A GREODD GYSYLLTIADAU RHWNG CYMRU A LITHWANIA

Rhoddwyd teyrngedau i aelod hirdymor o Blaid Cymru oedd yn Gonswl Mygedol Lithwania yng Nghymru.

Bu farw Anthony Packer, 74 oed, o Salisbury Avenue, Penarth, ar ôl brwydr yn erbyn canser y brostad yn Hosbis Marie Curie Caerdydd a’r Fro.  Daeth tyrfa fawr i Eglwys Sant Joseff ar gyfer offeren i’r meirw ble clywodd y gynulleidfa am ei gyflawniadau lluosog, gan gynnwys nifer o straeon doniol.

Gŵr o gampau academaidd niferus, dyn teulu cariadus a storïwr o fri, roedd ganddo lu o ffrindiau a chysylltiadau.  Roedd yn gymdeithasgar, hapus i gynnal sgwrs a hoff o ddadleu bod gwyn yn ddu, gyda golwg direidus yn ei lygad.

Un o’i brif gampau oedd creu cysylltiadau rhwng Cymru a Lithwania, wrth helpu sicrhau hunaniaeth ryngwladol i Gymru yn Ewrop.  Credai y gallai hybu achos Cymru drwy geisio cydnabyddiaeth o Gymru, ei hiaith, ei diwylliant a’i nodweddion ac fel lle i wneud busnes ar lefel rhyngwladol.  Yn benodol fe geisiodd ddatblygu cysylltiadau clos rhwng Cymru a’r gwledydd Baltaidd, ac fe oedd un o sylfaenwyr y Gymdeithas Faltaidd yng Nghymru yn 1991.

Chwe wythnos cyn datganiad unochrog Lithwania, arweiniodd ddirprwyaeth i’r wlad (ac eto yn 1993) i helpu’r awdurdodau ddatblygu system addysg a sefydliadau eraill yn rhydd o ddylanwad Sofietaidd.

Er bod y wlad yn dal dan reolaeth Moscow, ymwelodd â phencadlys Sajudis, y mudiad dros Lithwania annibynnol, gyda neges o gefnogaeth gan Blaid Cymru, nodyn syml o gefnogaeth a chydymdeimlad ag amcanion y mudiad, yr un cyntaf felly gan unrhyw blaid wleidyddol Brydeinig.

Y weithred herfeiddiol honno arweiniodd at gyfarfod a chyfeillgarwch nes ymlaen gyda Vytautas Landsbergis, Arlywydd cyntaf Lithwania annibynnol.  Yn ystod ei amser yn Gonswl Mygedol, fe greodd gysylltiadau cryf rhwng prifysgolion yng Nghymru a Lithwania yn ogystal â threfnu ymweliad â Chymru gan Vytautas Landsbergis.

Perswadiodd Landsbergis i gyhoeddi ei hunangofiant, gan helpu ei gyfieithu, golygu a’i gyhoeddi.  Yn ddiweddar derbyniodd Urdd y Seren Ddiplomataidd, gwobr uchaf Gwasanaeth Diplomataidd Lithwania, mewn cydnabyddiaeth o’i waith.

Ganwyd Anthony Packer yng Nghaerllion yn 1939 a’i fagu yn Hengoed.  Cafodd ei addysg mewn ysgolion gramadeg ym Mhengam a’r Barri cyn astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd (Hanes), Coleg Cuddesdon, Rhydychen (Diwinyddiaeth), Ysgol Economeg Llundain (Gweinyddiaeth Gymdeithasol) a Phrifysgol Lerpwl (Gwaith Cymdeithasol Seiciatryddol).

Dechreuodd ei yrfa yn Llundain yn athro cyn dod yn weithiwr cymdeithasol seiciatryddol mewn ysbytai lleol.  Nes ymlaen fe ddaeth yn Brif Weinyddwr Cymdeithas Lles teuluoedd ac yn Brif Hyfforddwr mewn cwnsela plant yn sefydliad byd-enwog Clinig Tavistock yn Llundain.

Dymunodd ddychwelyd i Gymru gyda’i wraig Ann a’u tri o blant (pedwar wedyn) a daeth yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd.  Ar y dechrau fe rannodd ei amser rhwng yr Adran Gwaith Cymdeithasol a’r Adran Addysg cyn symud   ymlaen i weithio’n llawn-amser i’r Adran Addysg o 1984 nes iddo ymddeol yn 2001.  Dysgodd Gymraeg iddo’i hun gan helpu hyrwyddo ei defnydd mewn addysg a gwaith cymdeithasol ledled Cymru.

Bu am bedair blynedd yn gyd-olygydd y cyfnodolyn academaidd, y Cylchgrawn Addysg Gymreig, ac am ddwy flynedd yn gadeirydd Adran Economeg a Chymdeithaseg gydag Urdd Graddedigion Cymru.

Gwasanaethai Anthony yn Drysorydd Bord Gron Ryngwladol dros Hyrwyddo Cwnsela (IAC-IRTAC) o 1983 i 1992.  Bu hefyd yn ymddiriedolwr Canolfan Cymru dros Faterion Rhyngwladol a Thrysorydd a Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru.  Ef hefyd a gynrychiolodd Esgob Catholig Caerdydd ar bwyllgor llywio Fforwm 3 Ffydd y Deyrnas Gyfun.

Bu’n Llywydd Cymdeithas Gonsylaidd dros Gymru a’i hysgrifennydd am chwe blynedd, gan lywyddu dros ehangiad sylweddol a hyrwyddo’i hamcanion o hybu busnes a chysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a’r gwledydd a gynrychiolid gan ei 29 aelod.

Goroesir Anthony Packer gan ei wraig Ann, ei fam, Gleeda, ei blant Rhiannon, David, Cerian a Tomos, merched-yng-nghyfraith Frida a Sasha, meibion-yng-nghyfraith Tony a Geraint, a’i wyrion Kajsa, Oliver, Tomos, Elis, Alys, Annest, William a Steffan.

Allan Pritchard 1943 – 2014

Allan PritchardBu farw Allan Pritchard yn Chwefror 2014, cyn arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a ddisgrifiwyd yn “Gawr y Cymoedd”, wedi ymladd yn erbyn cancr.

Mae Allan, a oedd yn 71 ac yn byw yn Oakdale, yn gadael ei wraig Pauline a’i dwy ferch Kailey a Rhayna yn ogystal â thri o wyrion.

Dywedodd Lindsay Whittle, AC Dwyrain De Cymru, “Gwasanaethodd Allan am ddau dymor yn ddirprwy i fi pan oeddwn i’n arweinydd a bu’n arweinydd cyngor Caerffili wedi i fi gael fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Roedd Allan yn un o gewri’r cymoedd, yn gymeriad oedd yn llawn ei groen ac yn ymroddedig i wneud ei orau dros ei gymuned ac i gymunedau eraill ar draws y fwrdeistref sirol.

“Roedd Allan yn gerddor, yn fardd, yn chwaraewr rygbi o’r radd flaenaf, yn ddyn teuluol ac yn Genedlaetholwr Cymraeg. Roedd yn Gymro ym mhob ffordd. Teimlaf i’r byw golled ar ôl ffrind agos. Torrwyd ei fywyd yn fyr llawer iawn yn rhy gynnar.

Dywedodd Jocelyn Davies, cyd AC dros Ddwyrain De Cymru, a fu’n aelod o hen gyngor Islwyn gydag Allan: “Roedd Allan ar dân dros ei bentref genedigol, Oakdale – y byddai pob amser yn cyfeirio ato fel y ddinas ar y bryn – yn ogystal â dros ei gymuned a’i wlad ac ni phylodd ei frwdfrydedd ar hyd y blynyddoedd.

“Cysegrodd Allan ei fywyd i wasanaeth cyhoeddus gyda chefnogaeth a dealltwriaeth ei deulu rhyfeddol. Roedd yn wleidydd o ymroddiad a wynebai pob her, byth yn osgoi penderfyniadau anodd. Roedd ei ymddeoliad yn haeddiannol ond llawer yn rhy fyr.”

Dywedodd Colin Mann, arweinydd Plaid Cymru ar gyngor Caerffili: “Roedd Allan yn wirioneddol yn gawr, nid yn unig o ran ei faint ond hefyd o ran ei bersonoliaeth a’i gred. Gwasanaethodd ei blaid a’i wlad ag anrhydedd am ddegawdau lawer.

“Brwydrodd Allan yn ddewr yn erbyn cancr ac ar yr adeg anodd hon mae’n meddyliau yn troi at Pauline, ei ferched a’u teuluoedd.”

Dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru: “Roedd Allan yn ddyn rhyfeddol a roddodd cymaint i achos cenedlaetholdeb Gymraeg.

“Roedd ei ymroddiad, ei gred a’i allu i ysbrydoli eraill ac i’w gwneud yn frwdfrydig heb ei ail, tra roedd ei hiwmor a’i gariad o fywyd yn heintus. Roedd pob amser yn gefnogol i fi’n bersonol. Am ei deulu yr ydw i’n meddwl nawr. ”

Ymunodd Allan Pritchard â Phlaid Cymru wedi trychineb Aberfan ac fe’i etholwyd yn gynghorydd i hen Gyngor Bwrdeistref Islwyn yn 1979. Gadawodd yr awdurdod yn 1991 oherwydd galwadau gwaith ond wedi dyfodiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili penderfynodd sefyll drachefn yn 1999 gan ennill ei hen sedd yn ward Penmaen yn ôl.

Pan ddaeth Plaid Cymru i rym yn yr awdurdod yn 1999 fe’i etholwyd yn ddirprwy arweinydd gyda chyfrifoldeb dros Bersonél a Moderneiddio. Yn 2008 pan ddaeth y Blaid yn ôl i rym, daeth eto yn ddirprwy arweinydd ac yn Aelod Cabinet dros Adnoddau Dynol a Materion Cyfansoddiadol.

Dechreuodd weithio yn 1957 yn 15 mlwydd oed gyda’r Bwrdd Glo Cenedlaethol dan hyfforddiant i weithio dan y ddaear a gweithiodd ei ffordd drwy’r rhengoedd i ddod yn rheolwr personél yng ngweithfeydd glo Oakdale ac enillodd ddyfarniad Rheolwr Personél gorau’r Flwyddyn y Bwrdd Glo.

Pan gaeodd y lofa, symudodd i Ymddiriedolaeth Busnes Ieuenctid y Tywysog yn 1993 fel rheolwr rhanbarthol dros Dde Cymru gan roi cymorth i dros 300 o bobol ifanc ddifreintiedig i sefydlu busnesau eu hunain.

Yn 1996, daeth Allan Pritchard yn Gyfarwyddwr Datblygiadau dros Ymddiriedolaeth Datblygu Tredegar, i helpu adfywio’r hen dref. Daeth ei ffocws â chysyniadau newydd i’r ardal megis seibergaffis a chyfleoedd hyfforddiant ar gyfer pobol ag anawsterau dysgu.

Roedd yn ddyn rygbi brwdfrydig ac yn gyn gapten ar Dredegar, y Coed Duon, Oakdale a Sir Fynwy (Gwent)

Yn adfyfyrio ar ei yrfa wleidyddol wedi iddo golli ei sedd yn 2012, rhestrodd Allan Pritchard yr hyn a gyflawnodd fel hyn:

· Arwain ymgyrch lwyddiannus yn erbyn y bwriad o gau Ysgol Gyfun Oakdale

· Tystio i ddatblygiad Parc Busnes Oakdale ar safle hen waith glo Oakdale, lle cyflogir mwy o bobol nag a oedd yn gweithio yn y lofa cyn iddo gau yn 1989.

· Arwain Caerffili i i gyflawni’r nod o fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i negydu Cytundeb Un Statws a chyflwyno Cyflog Cyfartal i fenywod ar gyflog isel.

· Cyflwyno cynlluniau llwyddiannus iawn ar gyfer hyfforddiant a phrentisiaethau o fewn y cyngor

· Rhewi treth y cyngor am ddwy flynedd yn olynol, yr unig gyngor yng Nghymru i gyflawni hyn.

· Adfywio canol trefi gydag Adfywiad Glowyr y Coed Duon, agor llyfrgelloedd newydd neu rhai wedi’u hadnewyddu ynghyd â gwasanaethau cwsmeriaid yn gyntaf ym Margoed, Rhisga, y Coed Duon, Abercarn a Chaerffili

 

Teyrnged i Eirian Llwyd 1951 – 2014

Eirian LlwydYn dawel yn Ysbyty Gwynedd yn Ionawr 2014 ac wedi salwch byr bu farw’r genedlaetholwraig a’r arlunydd Eirian Llwyd yn 63 oed.  Roedd Eirian yn wraig i gyn-arweinydd Plaid Cymru a’r cyn aelod Cynulliad a Seneddol dros Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones.  Roedd hefyd yn fam arbennig i dri o blant, Gerallt, Gwenllian ac Owain, ac yn nain i chwech o wyrion ac wyresau.

Datganiad gan y teulu.

Mae cyfraniad Eirian wedi bod yn amhrisiadwy – mi roddodd oes o gariad i’w ffrindiau a’i theulu, oes o wasanaeth i’w chenedl a’i chyd-ddyn, ac yn fwy diweddar mae hi wedi gweithio gydag angerdd ym maes y celfyddydau.

Cymhwysodd fel nyrs yn Lerpwl 1969-73 ac yna gweithredu fel bydwraig yn Ysbyty Llanelwy.

Hanai o Brion ger Dinbych, ac yr oedd yn caru ei hardal a’r fro ei magwyd hi ynddo yn angerddol. Lle bynnag y treuliai ei hamser, dychwelai i Danywaen, fferm y teulu, yn gyson i dderbyn maeth ac ysbrydoliaeth. Roedd John ei brawd a Bethan ei chwaer yn golygu cymaint iddi.

Priododd gyda Ieuan yn 1974 – deugain mlynedd a mwy o gariad a chyfeillgarwch cadarn.

Mi roddodd Eirian pob cefnogaeth posibl iddo yn ystod ei yrfa wleidyddol fel Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad, Arweinydd Plaid Cymru ac fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru’n Un. Heb ei chefnogaeth gyson a pharhaol hi ni allai fod wedi cyflawni cymaint.

Bu’n gweithio i hybu lle merched mewn gwleidyddiaeth, gan fod yn gyfrifol am welliannau i gyfansoddiad y Blaid yn y 1980au a sicrhau lle amlycach i ferched ym mhrif bwyllgorau’r Blaid. Brwydrodd yn erbyn rhagfarnau oddi mewn i’w phlaid ei hun a thu hwnt, a gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau tegwch a chyfartaledd i ferched yn rhengoedd y pleidiau gwleidyddol.

Eirian oedd yn gyfrifol am sefydlu Cangen y Rhyl o Gymorth i Fenywod yn y 1970au a 1980au. Perswadiodd Cyngor Sir Clwyd a’r Cyngor Bwrdeistref i ariannu hafan neu noddfa i ferched yn y dref, a helpodd i sicrhau cartref dros dro i ferched a phlant oedd yn dioddef trais yn y cartref. Brwydrodd yn galed i newid agweddau oddi mewn i’r asiantaethau lleol, megis adrannau gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth iechyd a’r heddlu. Roedd hyn mewn cyfnod pan nad oedd llawer o’r asiantaethau yn cydnabod bod angen ymyrraeth mewn achosion o drais yn y cartref.

Cymhwysodd fel ymwelydd iechyd ar ôl symud i Ynys Môn a bu’n gweithio yn y maes hwnnw tan ddiwedd y 1990au. Roedd yn uchel ei pharch a’i chonsyrn am blant a theuluoedd mewn angen yn amlwg iawn. Brwydrodd i sicrhau chwarae teg iddynt. Ysgrifennodd thesis ar ddamweiniau i blant yn y cartref ac fe drefnodd seminar ar y pwnc gan ddod a’r holl asiantaethau dan yr un to. Gweithredwyd nifer o’r argymhellion, gan gynnwys gwneud llefydd chwarae i blant yn fwy diogel.

Yn 2001, newidiodd gyfeiriad a graddiodd ym maes arlunio yn Athrofa Caerdydd. Arbenigodd ym maes print a dangoswyd ei gwaith yn gyson yng Nghymru a thu hwnt. Creodd waith mewn sawl cyfrwng print a’i gwaith yn aml yn seiliedig ar fyd natur, henebion ag eglwysi Ynys Môn, gan ddefnyddio cyfryngau megis torluniau, ysgythriadau a lithograff.

Gyda dwy ffrind, sefydlodd gwmni Y Lle Print Gwreiddiol, i ddod a phrintiadau gwreiddiol nifer o artistiaid blaenllaw Cymru i sylw cynulleidfa ehangach. Teimlai Eirian yn angerddol fod angen gwerthfawrogi a deall printiadau gwreiddiol yn well, a’i gweld fel ffordd eitha fforddiadwy o brynu gwaith gwreiddiol gan rai o artistiaid gorau’r genedl. Dechreuodd y fenter drwy gynnal stondin yn Neuadd Arddangos yr Eisteddfod Genedlaethol, ac erbyn hyn, aethpwyd a’r gwaith i sawl oriel yng Nghymru, gan gynnwys Ucheldre yng Nghaergybi, Plas Glyn y Weddw Llanbedrog, Wrecsam a Chaerdydd. Yn ddiweddar aethpwyd a gwaith gwneuthurwyr print o Gymru i Frwsel ac Amsterdam.

Roedd Eirian wedi cynnull cyfarfodydd o wneuthurwyr print ledled Cymru a cheisio dwyn perswâd arnynt i sefydlu Cyngor Print yng Nghymru. Gwelai hyn fel ffordd i roi llwyfan hyd yn oed yn well i artistiad.

Mewn sawl ffordd yr oedd Eirian yn arloeswraig, yn ymgyrchydd o argyhoeddiad a chanddi weledigaeth glir o’r hyn yr oedd angen ei wneud ym mha bynnag faes y gweithiai ynddo. I lawer o’i chyfoedion a chydweithwyr yr oedd yn ysbrydoliaeth.

Yn fam arbennig i dri o blant, Gerallt, Gwenllian ac Owain, mae hi wedi ymfalchïo yn eu llwyddiant ac mae’n nain i chwech o wyrion ac wyresau, Elin a Tomos, Annest a Rhodri, Morgan a Megan. Mae Eirian wedi gofalu amdanynt yn gyson ac wedi trosglwyddo iddynt ei chariad at gelf ac at fyd natur.

Roedd Eirian yn genedlaetholwraig frwd, a bu’n ymgyrchu dros y Gymraeg gyda Chymdeithas yr Iaith gan gymryd rhan mewn llu o brotestiadau yn y 1960s a 1970s. Yn y Blaid gweithiodd yn agos gyda Ieuan, ac yntau yn dibynnu llawer arni am gefnogaeth, am gyngor a gwaith ymgyrchu.

Roedd gan Eirian ffydd gref, ac yn ystod ei salwch, fe ddangosodd gadernid anghyffredin, ac wynebu’r cyfan gyda gras ac urddas. Daethom i’w hadnabod yn well a bu’n fraint i’w theulu a chyfeillion agos fod yn ei chwmni. Rydym yn well pobl o’r herwydd.

Teyrnged i Nigel Jenkins 1949 – 2014

Nigel JenkinsDywedodd Bethan Jenkins AC: “Yr oedd Nigel Jenkins , fu farw heddiw yn 64 oed, yn un o lenorion mwyaf ymrwymedig Cymru a hefyd yn un o’i mwyaf eclectig. Enillodd wobrau lawer, gan gynnwys Gwobr Llyfr y Flwyddyn ym 1996. Yr oedd yn aelod ffyddlon o Blaid Cymru, ac yn fy e-bostio’n rheolaidd gyda meddyliau a syniadau am sut y gallai Plaid Cymru fod yn weithredol o ran helpu i wella ardal Gorllewin de Cymru, yn ogystal â’i farn ei hun hefyd am ddyheadau am Gymru Weriniaethol y dyfodol. “Cefnogodd ein hymgyrch leol yn Abertawe yn erbyn cau siop lyfrau Dylan Thomas, a’r ymgyrch yn erbyn unrhyw syniad o israddio Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe. Bu’n weithgar ers tro byd yn CND Cymru, ac y mae aelodau o CND Cymru wedi cysylltu â mi i fynegi eu tristwch am ei farwolaeth, ac i gydnabod ei waith ymgyrchu. “Bu’n olygydd y cylchgrawn dylanwadol ‘Radical Wales’, a bu’n weithgar iawn yn Undeb Ysgrifenwyr Cymru. Roedd wedi dysgu Cymraeg ac yn gefnogwr brwd i’r iaith. “Bydd bwlch mawr ar ei ôl, yn enwedig ymysg y sawl sy’n ymwneud â llenyddiaeth ac â gwleidyddiaeth y chwith yng Nghymru.” Dywedodd Dr Dai Lloyd, darpar-ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer Gorllewin Abertawe: “Roedd gwaith Nigel Jenkins yn ysbrydoliaeth i Cymru gyfan. Roedd gydag ef y ddawn werthfawr o’n helpu ni chwerthin amdanon ni ein hunain, yn ein dwy iaith – ond ar yr un pryd werthfawrogi’r hyn sydd gan ein cenedl i’w gyfrannu i’r byd. “Fel Dylan Thomas, sydd â chanmlwyddiant ei eni eleni, mae ei farddoniaeth a’i gyhoeddiadau rhyddiaith arbennig wedi rhoi Abertawe, Gŵyr a Chymru ar lwyfan y byd. ” Rown i’n ffodus o’i adnabod yn dda – aeth ein plant i’r un ysgolion Cymraeg ac fe groesodd ein llwybrau’n aml, yn wleidyddol yn ogystal ag yn ddiwylliannol “Bydd colled mawr ar ei ôl, yn ardal Abertawe yn arbennig, ond bydd ei lais unigryw’n parhau i fyw yn ei waith ysbrydoledig.” Dywedodd Dr Dai Lloyd, darpar-ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer Gorllewin Abertawe: “Roedd gwaith Nigel Jenkins yn ysbrydoliaeth i Cymru gyfan.  Roedd gydag ef y ddawn werthfawr o’n helpu ni chwerthin amdanon ni ein hunain, yn ein dwy iaith – ond ar yr un pryd werthfawrogi’r hyn sydd gan ein cenedl i’w gyfrannu i’r byd. “Fel Dylan Thomas, sydd â chanmlwyddiant ei eni eleni, mae  ei farddoniaeth a’i gyhoeddiadau rhyddiaith arbennig wedi rhoi Abertawe, Gŵyr a Chymru ar lwyfan y byd. ” Rown i’n ffodus o’i adnabod yn dda – aeth ein plant i’r un ysgolion Cymraeg ac fe groesodd ein llwybrau’n aml, yn wleidyddol yn ogystal ag yn ddiwylliannol “Bydd colled mawr ar ei ôl, yn ardal Abertawe yn arbennig, ond bydd ei lais unigryw’n parhau i fyw yn ei waith ysbrydoledig.”

Glyn Owen 1932 – 2013

Ar 5 Tachwedd 2013 bu farw un o gymeriadau mwyaf hynod Plaid Cymru, y cyn-gynghorydd Glyn Owen, Cwm Cynon.  Yma ceir teyrnged y hanesydd D. Leslie Davies, Aberdâr gyda’n diolch iddo am ei ganiatâd i’w gyhoeddi.

TEYRNGED I’R DIWEDDAR GLYN OWEN (1932-2013), I’W CHYFLWYNO YNG NGWASANAETH EI ANGLADD YN EGLWYS SANT ELFAN, ABERDÂR,

DDYDD GWENER, 15fed TACHWEDD, 2013:

Glyn Owen

Lluniais y sylwadau hyn am y diweddar Glyn Owen ar ei gais – ysgrifenedig a llafar. Fe’u lluniais gyda’i ddymuniadau ef mewn golwg. Diolchaf iddo am ymddiried y dasg imi, i’w chyflawni (gobeithio) gyda phriodoldeb ac urddas.

……………

Lliwgar a phwrpasol. Yn swynol-ddadleuol. Gŵr difyr ond cythryblus. Person hwylus a fedrai fod yn dra ‘styfnig. Dyn hael ond darbodus. Dyn o drugaredd a fedrai fod yn ddidostur pe deimlai angen. Cyfaill ffyddlon oedd weithiau mor anwadal.  Gwleidydd a enynnai teyrngarwch a gelyniaeth yn gymesur fel bron neb arall y gallaf feddwl amdano neu amdani – ac eithrio, efallai, Margaret Thatcher (er na ddiolchai imi am ddweud hynny!).

Bu’r nodweddion hyn (a mwy) i gyd yn rhan o gymeriad y gŵr dawnus a chymhleth hwn, Glyn Owen, a fu farw ddydd Mawrth y 5ed Tachwedd ar ôl wynebu salwch a ddygodd oddi arno, yn raddol, gymaint o’r asbri a’r craffter a’i nodweddai ym mlodau’i oes.

Fy mwriad heddiw yw sôn yn gryno nid yn gymaint am Glyn Owen y gŵr preifat ond, fel y gofynnodd Glyn imi wneud, y gŵr cyhoeddus a fu, ar un adeg, yn gymaint ran o fywyd Cwm Cynon, Morgannwg a Chymru.

Fe’i ganed ym Meisgyn, Aberpennar ym 1932, yr ieuengaf o chwe phlentyn. Ganed ei dad – glöwr – yn Abercwmboi gan symud wedyn i Aberpennar. Dwedodd Glyn wrtho’i taw un o ogledd Cymru fu tad ei dad ac mai un o Flaenau Ffestiniog oedd ei fam. Gadawodd Glyn Ysgol Eilradd Fodern Meisgyn yn 15 oed ym 1947 ac aeth i weithio am gyfnod ar y rheilffyrdd, meddai. Cyflawnodd Wasanaeth Milwrol gyda’r RAF rhwng 1952-54 cyn croesi’r byd gyda’r Llynges Fasnachol ac yna dychwelyd adre’. Soniodd iddo weithio dan-ddaear am ychydig wedi iddo ddychwelyd; ond bu awydd arno, meddai, i weithio i’w hun ar sail ei brofiad a’i allu naturiol.

Cefais yr argraff droeon fod amodau ei blentyndod wedi bod yn reit anodd a herfeiddiol. Pa syndod o gofio iddo gael ei eni yng nghyfnod economaidd caletaf, mwyaf dirwasgedig a chyfyng maes-glo de Cymru gydol yr 20G ? Fel yn achos pob un ohonom, diau y cafodd amodau ei blentyndod ddylanwad ar weddill ei fywyd ac ar ei fyd-olwg oherwydd, fel y dywed Wordsworth, “y plentyn yw tad y dyn”.

Fel dyn-busnes lleol y daeth Glyn gyntaf i adnabyddiaeth ehangach yng Nghwm Cynon. Ar ddychwelyd yno, gwnaeth ei gartref yng Nghwmbach gan agor siop ddillad a fyddai’n gwerthu nwyddau yn uniongyrchol ac ar gredyd. Dyma ddechrau busnes yr aeth Glyn iddo fwyfwy yn ddiweddarach yn ei yrfa: cyllid masnachol a phersonol.

Ond, nid fel darparwr credyd y gwnaeth Glyn ei farc parhaol dros gyfnod yng Nghwm Cynon a thu hwnt. Ei gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru yn ystod y ’60au a’r ’70au fydd yn gofiant iddo. Hwn fydd yn rhoi iddo le yn hanes Cymru yng nghyfnod o newid mawr yn naws wleidyddol y wlad a’i llywodraethu, ac mewn agweddau cyhoeddus tuag at y Gymraeg. Croesawodd Glyn y newidiadau hyn gan ymfalchïo o feddwl ei fod wedi cyfrannu peth atynt – ac yn arbennig at ennill Cynulliad etholedig i Gymru ym 1997.

Bu iddo ran sicr  yn y datblygiadau hyn wrth gyfrannu’n ddirfawr yn ei ddydd tuag at greu’r momentwm gwleidyddol oedd yn hanfodol i’w sicrhau. Mae diolch mawr yn ddyledus iddo am ei gyfraniad amserol a sylweddol .

Nid yw amser yn caniatáu imi fanylu ar yr ymgyrchoedd, etholiadau, cyfarfodydd, areithiau; styntiau cyhoeddus, gwrthdystiadau, ralïau a’r swyddi gwleidyddol y bu Glyn, yn ymwneud â nhw yn ei brifiant. Rhaid i’r manylion ‘danteithiol’ hyn aros nes imi lunio’m memoirs !

Bu egni ac ymroddiad Glyn yn ystod y blynyddoedd hyn yn ffenomen – fel corwynt a swnami yn un. Cymaint felly fel nad oedd ei elynion gwleidyddol yn gwybod yn aml beth oedd wedi eu taro na sut i ymateb. Heb wneud pwynt gwleidyddol ynghylch y peth, tegwch yn unig yw dweud hyn. Cyfran o’i egni – a fu ar adegau mor greadigol, ond weithiau’n wrthgynhyrchiol – fydd ar gael i ymchwilwyr y dyfodol ei chodi yng nghyfryngau’r cyfnod, ond mae peth o’r dystiolaeth yno.

Bu Glyn yn aelod etholedig am ryw bymtheng mlynedd o Gyngor Tref Aberdâr a’i olynydd, Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon. Cafodd ei ethol i Gyngor Sir Morgannwg a’r corff a olynodd hwnnw, Cyngor Sir Morgannwg Ganol. Credaf na fu yn hanes y cyrff hyn gyfnodau mwy bywiog a chythryblus na phan fu e’n aelod diwyd, di-flewyn-ar-dafod ohonynt. Bryd hynny, bu gwleidyddiaeth yn hwyl yn ogystal â phwysig – ac i Glyn yn anad neb y bu’r diolch !

Ei waith gyda Phlaid Cymru a roes i Glyn ei ddylanwad mwyaf ar fywyd cyhoeddus Cymru’r pryd. Wna i ddim eich llethu â’r manylion, ond fe ail-drefnodd ei chyllid i’w gwneud yn fwy uchelgeisiol ac effeithiol na chynt. Sarnodd ar gyrn rhai o wneud – ond pris y dasg fu hynny iddo.

Gweithiodd Glyn yn ddygn ar ymgyrchoedd ei blaid yn isetholiadau dramatig Gorllewin y Rhondda (1967), Caerffili (1968) a Merthyr (1972) ac fel asiant iddi yn Aberdâr yn etholiad cyffredinol 1970 pan fu Dr Gareth Morgan Jones yn ymgeisydd y Blaid. Effaith y gornestau hyn fu bygwth gafael y Blaid Lafur ar ran helaeth o faes glo de Cymru, gan ysgwyd ei hunanhyder am nad oedd hi wedi wynebu her mor ddifrifol ers cenedlaethau. Dyma’r momentwm gwleidyddol a arweiniodd, i raddau helaeth, at refferenda 1979 a 1997. Bu gan Glyn Owen ran fawr yn hyn oll: rhan nad yw wedi derbyn hyd yn hyn y sylw mae’n ei haeddu.

Chwyldrôdd dulliau ymgyrchu cyffrous Glyn Owen etholiadau cyffredinol 1970 a 1974 yn etholaeth Aberdâr (fel yr oedd ar y pryd) i’w gwneud y mwyaf cofiadwy ers llwyddiant Keir Hardie a’r Blaid Lafur yma ddechrau’r 20G. Gellir awgrymu hyn o ddifri heb anghofio ymgyrchoedd clodwiw Wynne Samuel a Gwynfor Evans ar ran y Blaid yn yr etholaeth ym 1946 a 1954..

Am ei bod wedi digwydd rhwng isetholiadau Caerffili (1968) a Merthyr Tudful (1972), ac yng nghyd-destun etholiad cyffredinol, tueddir weithiau i golli golwg ar bwysigrwydd ymgyrch 1970 yn Aberdâr – a drefnwyd gan Glyn.  Ei harwyddocâd oedd ei bod yn sefyll yn nilyniant yr is-etholiadau hynny fel rhybudd pellach i’r Blaid Lafur bod ei gafael ar y maes-glo yn llacio. Bu’r 11,431 pleidlais a gafodd Gareth Morgan Jones yn Aberdâr ym 1970 (cant yn fwy nag a gafodd y Blaid yn Arfon yr un flwyddyn) yr un mor arwyddocaol â’r is-etholiadau a enwid. Y deyrnged orau i Glyn oedd bod pob un o’r pleidiau eraill wedi dechrau efelychu ei ddulliau wedi hynny. Ni fu etholiadau’r Cymoedd yr un wedi i Glyn fwrw ati !

Uchafbwynt ei yrfa wleidyddol fu sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn nau etholiad cyffredinol 1974. Siom iddo fu canlyniad yr ail ohonynt; ond noder taw’r 11,973 pleidlais a gafodd Glyn yn etholiad cyntaf 1974 (ond 27 pleidlais yn fyr o 12,000) fu’r bleidlais uchaf i unrhyw ymgeisydd yn erbyn y Blaid Lafur yn yr etholaeth ers 1924 (pan gafodd y Rhyddfrydwr 15,201 yn erbyn George Hall). Nid oes un ymgeisydd gwrthbleidiol wedi trechu’i gamp ers 1974 chwaith. Erbyn 2014, bydd ei gamp wedi sefyll am 90 o flynyddoedd. Yn naturiol, ymfalchïai yn hyn yn ei henaint a gwelai fel gwaddol o fath.

Erbyn 1985, dechreuodd pethau fynd o chwith yn wleidyddol i Glyn. Am wahanol resymau, penderfynodd roi’r ffidil etholiadol yn y to i ganolbwyntio ar ei fusnes. Mae llawer y gellir ei ddweud am y cyfnod – fel y gŵyr amryw sy yma heddiw; ond gwell tynnu gorchudd cymod a brawdoliaeth dros yr hanes.

Roedd Glyn yn gymeriad cymhleth: yn  gystadleuol ond hefyd yn garedig. Bu’n hael yn darparu bws i gludo disgyblion am ddim i’r Ysgol Gymraeg leol pan fygythiai’r cyngor sir godi tâl arnynt ac ar blant Catholig – ond neb arall – am y fath wasanaeth. Gwn mor ffyddlon y gallai fod wrth y sawl a barchwyd ganddo (fy mam yn eu plith), ac mor garedig y bu wrth fudiadau ac unigolion oedd wrth fodd ei galon.

 

Bu ganddo – mae ganddo o hyd – ei feirniaid. Efallai bydd gan rai rywbeth i’w ddweud amdano o hyd. Efallai bu ganddynt bwynt rywbryd, wn i ddim. Ond nid dyna’r Glyn Owen y dewisaf i ei gofio.

Nid oes un ohonom yn ddigon gwyn ein gwedd i farnu arall yn ddidostur fel y gwnaeth rhai am ben Glyn. Cymeradwyaf iddynt bennod 8 (adn. 2-11) Efengyl Ioan.  Yno, mae torf o bobl weddus yn dod at Iesu Grist i’w brofi, gan ddwyn ato fenyw a oedd wedi ymddwyn mewn ffordd a ofynnai ei llabyddio dan Gyfraith Moses. Gwahoddodd Iesu’r sawl oedd yn ddi-fai i daflu’r garreg gyntaf. Thaflodd neb ddim. Sleifiodd pawb ymaith mewn embaras.

Yn hytrach na barnu, beth am geisio, os yw’n bosib, cymod gyda’r byd a phawb ynddo oherwydd, yn ôl y bardd Henry Vaughan o Sir Frycheiniog, mae peth o’r dwyfol ym mhob un:

Cerdda gyda’th gymheiriaid…. Nid oes na ffynnon

na deilen fach heb ei hemyn boreol. Mae pob llwyn

a phob derwen yn gwybod YR WYF I; oni fedri ganu… ?”

 

                                                                                     David Leslie Davies.

                                                                                     15 Tachwedd, 2013.

§§§

Glyn Owen16 Glyn Owen17b Glyn Owen21 Glyn Owen 04

 

Y Ddraig Goch  Gwanwyn Spring 2015   Diolch i Math Williams

Glyn Owen

David Leslie Davies

Lliwgar a phwrpasol. Yn swynol ddadleuol. Gŵr difyr ond cythryblus. Person hwylus a fedrai fod yn dra ‘styfnig. Dyn hael ond darbodus. Dyn trugarog fedrai fod yn ddidostur pe deimlai angen. Cyfaill ffyddlon oedd weithiau mor anwadal. Gwleidydd a enynnai teyrngarwch a gelyniaeth yn gymesur fel bron neb arall y gallaf feddwl amdano neu amdani – ac eithrio, efallai, Margaret Thatcher (er na ddiolchai imi am ddweud hynny!).

Ei gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru yn ystod y ’60au a’r ’70au fydd cofiant Glyn Owen. Bu’n aelod etholedig o Gyngor Tref Aberdâr a’i olynydd, Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon am bymtheg mlynedd. Fe’i etholwyd i Gyngor Sir Morgannwg ac yna Cyngor Sir Morgannwg Ganol. Ni fu cyfnodau mwy bywiog a chythryblus yn eu hanes na phan fu’n aelod diwyd, di-flewyn-ar-dafod ohonynt!

Chwyldrôdd ei ddulliau ymgyrchu cyffrous etholiadau cyffredinol 1970 a 1974 yn etholaeth Aberdâr, cymaint nes bod pob un o’r pleidiau wedi efelychu ei ddulliau wedi hynny. Uchafbwynt ei yrfa wleidyddol fu sefyll fel ymgeisydd yn nau etholiad cyffredinol 1974. Bu canlyniad yr ail etholiad yn siom; ond noder taw’r 11,973 pleidlais a gafodd Glyn yn etholiad cyntaf 1974 fu’r bleidlais uchaf i unrhyw ymgeisydd yn yr etholaeth yn erbyn y Blaid Lafur ers 1924.

Gwn mor ffyddlon y gallai fod wrth y sawl a barchwyd ganddo (fy mam yn eu plith), ac mor garedig y bu wrth fudiadau ac unigolion oedd wrth fodd ei galon. Bu ganddo ei feirniaid. Ond yn hytrach na barnu, beth am geisio, os yw’n bosib, cymod gyda’r byd a phawb ynddo. Fel dywed y bardd Henry Vaughan o Sir Frycheiniog, mae peth o’r dwyfol ym mhob un.

John Howell (1928-2009)

John HowellAtgofion am John Howell  (1928 – 2009)

Ganwyd John yn Lahore yn 1928 yn ystod cyfnod y Raj Prydeinig i rieni Cymreig, a fe’i magwyd ymhell o Gymru.  Treuliodd y rhan fwyaf o’i flynyddoedd cynnar yn Yr India  ble cafodd ei addysg. Yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Bryste i astudio Peirianneg Fecanyddol.  Roedd ymysg y rhai a gymerodd ran yng nghynnydd etholiadol Plaid Cymru yn ystod y 50au a’r 60au.  Safodd ddwywaith fel ymgeisydd seneddol yng Nghaerffili yn 1959 a 66.  Disgrifiwyd y blynyddoedd hyn fel gwir drobwynt Plaid Cymru.

Nid gwleidydd cadair freichiau oedd John.  Meddai ar bersonoliaeth garismataidd a hiwmor direidus.  Roedd yn areithiwr huawdl a safodd ar sgwâr aml i gymuned lofaol, weithiau yn siarad â chynulleidfa o un hen ŵr a chi!  Denodd ei garisma nifer o bobl ifanc i’r ymgyrch genedlaethol.  Un tro siaradodd gydag uchelseinydd mewn sgwâr gwag am fanteision hunan lywodraeth i Gymru.  O’r golwg, tu allan i dy cyfagos safai’r academydd ifanc Phil Williams, benderfynodd ,wedi clywed John yn siarad yr ymunai a Phlaid Cymru er ei fod ar y pryd yn aelod o’r Blaid Lafur.

“Dyma yn hollol annisgwyl, ymgeisydd dros genedlaetholdeb a ddrylliodd fy rhagfarnau.  Magwyd John Howell yn ddi-gymraeg ym Mhacistan wedi gweithio yn y diwydant aerospace yng Nghaliffornia.”  (Phil Williams “Voice from the Valleys” 1959-1975)

Nid Phil Williams oedd yr unig un i ddod dan ddylanwad personoliaeth, huodledd ac argyhoeddiad John.  Ar achlysur arall a John a’i  asiant Alf Williams yn canfasio gyda’r uchelseinydd ym Mhontlotyn, roedd gwr ifanc, newydd gyrraedd gartref o’i waith ac yn bwyta ei swper yn yr ystafell gefn yn gwrando’n astud.  Tipyn yn ddiweddarach roedd Dave Watkins ei hun allan yn canfasio gyda Phil Williams yn etholiad 1964 yn ailadrodd y profiad blaenorol , uchelseinydd, rhes o dai gwag, dim adyn o gwmpas a dim drws ar agor!

“Paid becso Phil ma ‘na un boi yn cael ei swper, mae’n gwrando’n ofalus a fory fydd e lawr yn dy dŷ di  eisie ymuno” (voice from the Valley)

Roedd John yn hyblyg yn y modd yr ymgyrchai.  Unwaith ag yntau yn canfasio gydag Owen John Thomas ddaethant at siop gornel gwr o Bacistan a dyma John yn cyflwyno’i hun i’r siopwr yn Urdu ( iaith gyntaf John) er mawr syndod i’r perchennog.  “O ba wlad ydych chi’n dod” gofynnodd y siopwr.  “O Bacistan” meddai John  “Ie ie meddai’r siopwr ond o ba genedl”  “Dwi ,fel chithau yn Bacistani” meddai John, er mawr ddifyrrwch i’r siopwr!

O gofio iddo gael ei fagu a’i addysgu mewn ysgol yn Lahore a sefydlwyd ar gyfer addysgu arweinwyr y Raj roedd ymroddiad John i genedlaetholdeb yn rhyfeddol.

Does dim dwywaith bod dylanwadau ei fywyd cynnar yn Yr India, ble tystiolaethodd i ddatblygiad y sefydliad cenedlaethol dan arweiniad Gandhi ac yn ddiweddarach gweld ailgydio yng nghenedlaetholdeb Ffrengig yn Quebec yng Nghanada ble bu’n gweithio fel peirianydd aerospace  wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad ei ymwybyddiaeth wleidyddol.

Fe’i gorfodwyd i roi’r gorau i gymryd rhan weithredol ym Mhlaid Cymru pan darwyd ef a Multiple Sclerosis ond parhaodd ei ddiddordeb brwd ym mywyd gwleidyddol Cymru a bu’n gefnogwr di-syfl i’r blaid gydol ei oes.

Ivy Thomas 1921 – 2012

IVY THOMAS, 1921-2012

Roedd Ivy yn gymeriad. Dyna, heb os, farn pawb a’i cwrddodd ac a gafodd y fraint o’i ‘nabod a’i galw yn gyfaill.Ivy Thomas

Neu, yn hytrach, bu’n llu o gymeriadau: yn gefn i’w theulu gydol ei hoes; yn dipyn o ddeinamo yn ei chymuned; yn weithgar mewn eglwys a chapel; yn dipyn o deithiwr byd; yn fyfyriwr iaith a hanes ac yn ymddiddori ym materion cyhoeddus ar bob cyfri’ a chyfle. Yn clymu’r cyfan ynghyd, bu ganddi agwedd bersonol oedd yn onest a phlaen tuag at bawb a phopeth – pwy bynnag oeddynt, beth bynnag bo’u hamgylchadau; a choronwyd y cyfan gan synnwyr digrifwch sych a miniog fyddai’n taro nodyn yn berffaith gan osod rhywbeth yn gwmws mewn perspectif.

Cafodd Ivy ei geni yng Ngodreaman ym Medi 1921. Bu cryn ddeall a gallu ganddi. Ond fel llawer o ferched ei chyfnod – waeth pa mor ddeallus oeddynt – ni chafodd gyfle i barhau â’i haddysg. Rhaid oedd gadael ysgol ar y cyfle cyntaf i helpu cynnal cartref. Yn eirionig, cyflafan yr Ail Ryfel Byd a roddodd rhywfaint o gyfle i ferched yr oes ymestyn eu gorwelion a’u profiadau wrth fynd i weithio am y tro cyntaf mewn ffatri, siop neu swyddfa fel agwedd ar ymdrech enfawr y rhyfel, a dyna fu hanes Ivy.

Wedi’r drin, priododd hi â’i gŵr Tom yn eglwys Sant Margaret, Aberaman gan ymgartrefu yn York Street a magu teulu yno. Roedd Tom hefyd yn gymeriad hoffus ar y naw: yn saer a chynhaliwr ym mhwll Aberaman am flynyddoedd ond â’i galon ar bethau’r wlad – ceffylau, cneifio, cynaeafu – fel oedd yn gweddu i ŵr fu’n enedigol o Aberaman ond yn ymwybodol o gefndir ei deulu yng Nghwm Senni cyn iddynt ymadael am weithfeydd Morgannwg.

Cafodd Tom ac Ivy ddau o blant: Pat a Steve. Erbyn hyn, mae Pat yn byw yn Yr Eglwys Newydd, Caerdydd lle mae’n ymroddgar ym mywyd Cymraeg y ddinas. Mae Steve yn byw gerllaw Canberra, Awstralia lle bu’n athro crefft a dyluno ers ymfudo yn ddyn ifanc.

Bu Ivy a Tom yn Gymry da â pheth Cymraeg ganddynt. Pan benderfynnodd Pat a’i diweddar ŵr Graham fagu eu plant yn Gymry rhugl, penderfynnodd Ivy, gyda phwrpas ac ymroddiad nodweddiadol ohoni, fwrw ati i wella’i Chymraeg i fod ynghanol y bwriad. Ces i’r fraint o fod yn diwtor iddi mewn dosbarth yn yr hen Ysgol Aman yn ystod y 1980au; ac oherwydd ei hymroddiad wrth fwrw ati, buan oedd hi cyn bod Ivy yn eitha’ rhugl a pharod ei llafar yn Gymraeg. Ers hynny, ni fu Saesneg rhyngom; ac ers sefydlu Clochdar ym 1987, bu’n un o ddarllenwyr a chefnogwyr mwyaf ffyddlon y papur.

Ymroddodd Ivy a Tom yn hael o’u hamser yn ystod y 1980au a’r ‘90au i gynorthwyo’r Blaid yng Ngodreaman adeg pob etholiad. Ar y pryd, gweithiwn yn helaeth fel asiant etholiad i’r Blaid a bu, yn aml, lu o broblemau wrth drefnu ymgyrch. Ond ni fu angen gofidio erioed am yr orsaf bleidleisio yn Ysgol Aman pan fu honno yng ngofal y teulu Thomas.

Ymaelododd Ivy yng nghapel Gwawr, Jubilee Road, a bu’n weithgar yno dros gyfnod o flynyddoedd. Rhywfaint ar ôl iddi golli Tom yn y flwyddyn 2000, penderfynwyd taw’r peth gorau fyddai symud i Gaerdydd a bod yn nes at Pat a’i hŵyrion, a dyna a wnaed. Ar ôl symud, byr o dro oedd hi nes bod Ivy wedi darganfod Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd a mynd yno’n gyson tra’r oedd yn medru. Mwynheuodd hefyd amryw daith i Awstralia i ymweld â Steve a’i deulu yno.

Cafodd Ivy ail wynt i’w hwyliau yng Nghaerdydd a blas ar deithio o gwmpas yn annibynol ar fysiau’r ddinas tra medrai. Ymunodd gyda Pat ym mywyd cynulleidfa Gymraeg yr Undodiaid yng Nghaerdydd ac yn Highland Place, Aberdâr ac roedd fel petai hi wedi cael cartref ysbrydol newydd cydnaws â’i natur yn y traddodiad pwyllog a rhesymol hwnnw. Gwnaeth lu o ffrindiau newydd yng Nghaerdydd gan edrych bob amser yn ymarferol a ffyddiog tua’r dyfodol. Ond arhosodd yn hoff o ddarllen Clochdar ac edrychai ymlaen ag awydd bob amser at dderbyn ei chopi misol.

Bu ei phryd bob amser ar ei phlant a’i hŵyrion. Cafodd bleser dibendraw ynddynt bob un a llawenydd o’r mwyaf iddi fu medru dathlu ei phenblwydd yn 90 oed mewn iechyd da yn eu mysg ar y 3ydd Medi llynedd (gweler y llun).

Ar ôl cyfnod byr o salwch, bu farw Ivy ar 27 Ebrill yng nghartref ei merch. Bu’r angladd yn Thornhill, Llanisien ar yr 8fed Mai gyda’r Parchg. Eric Jones. Aberdâr yn arwain y gwasanaeth. Bendith iddi hi a’r teulu oedd bod Steve wedi gallu dod draw o Awstralia mewn da bryd (fel y gwnaeth gyda’i deulu adeg penblwydd ei fam fis Medi).

Dathliad o fywyd a chymeriad Ivy oedd y gwasanaeth yn Thornhill y diwrnod hafaidd hwnnw: rhywbeth ffyddiog a gododd ysbryd y sawl fu yno – fel y gwaneth Ivy ei hun mor gyson pan yn fyw. Ac eto, wrth lunio’r geiriau hyn er cof amdani, nis gallaf ddiosg ymdeimlad fy mod wedi colli hen ffrind yn ogystal â ffrind a aeth yn hen.

Coffa da amdani.

DLD.

Eileen Beasley 1921 – 2012

Eileen Beasley (1921–2012)

Cynog Dafis Erthygl yn Barn Medi 2012. Eileen Beasley a’i gwr, Trefor, a ddechreuodd y traddodiad o weithredu’n uniongyrchol dros yr iaith Gymraeg. Eileen BeasleyPan ddaeth Eileen a Trefor Beasley ynghyd fe grewyd cyfuniad dansierus (yng ngwir ystyr y gair) o ddeallusrwydd, diwylliant, minogrwydd dadansoddol, cyndynrwydd ystyfnig, cymwynasgarwch, cynhesrwydd rhadlon, ac yn arbennig ddewrder. Ar un olwg chaech chi ddim dau mwy gwahanol. Eileen yn ferch ffarm o berfedd y wlad, yn athrawes raddedig (Cymraeg a Ffrangeg) hyddysg mewn llenyddiaeth, ac yn Gristion o argyhoeddiad dwfn, yn gadarn ac yn glir ei gwerthoedd. Trefor yntau yn löwr, yn swyddog undeb a ddaeth dan ddylanwad Marcswyr megis Nun Niclas, yn heliwr o frid, ac yn anffyddiwr cymhleth a chanddo feddwl beriniadol miniog a hiwmor eironig gogleisiol. Roedd eu penderfyniad i ymgartrefu, wedi priodi yn 1951, yn yr Allt, ar gyrion Llangennech, yng ngolwg y wlad a’r maes glo carreg, yn arwyddluniol o’u gwreiddiau gwahanol. Ond gwahanol neu beidio, fuodd yna erioed gydymlyniad cryfach. Cenedlaetholdeb a’u cydaelodaeth o Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru a’u dygodd ynghyd – Trefor wedi’i ddenu’n arbennig gan syndicaliaeth D.J. Davies – a’r Iaith wrth gwrs. Wedi bod yn ymgeisydd seneddol go lwyddiannus cefnodd Trefor ar y Pwyllgor Gwaith yn dilyn y penderfyniad i beidio gweithredu’n uniongyrchol yn Nhryweryn. Daeth y cyfle’n go fuan i weithredu’n uniongyrchol mewn modd gwahanol pan aeth y cwpwl hynod yma benben â Chyngor Dosbarth Gwledig Llanelli ar fater papur treth Cymraeg. Go brin bod na chynghorwyr na swyddogion wedi sylweddoli cymaint o fatl oedd o’u blaenau. Wyth mlynedd o ymrafael, un-deg-chwech ymddangosiad o flaen llys ac ymweliadau dro ar ôl tro gan y beili i atafaelu’u heiddo. Daeth buddugoliaeth o’r diwedd ar ddwy ffurf: papur treth dwyieithog a, gwell byth, Eileen yn cael ei hethol yn enw Plaid Cymru yn aelod o’r union gyngor a’i herlidiodd gyhyd. Beth tybed oedd trybestod meddyliau a theimladau’r cynghorwyr yna pan gerddodd hi mewn i’w canol nhw, yn wên radlon o glust i glust, dwi’n amau dim! Ond nid brwydr oedd hanes y 1950au i gyd. Ganwyd y ddau blentyn, Elidyr a Delyth, cymeriadau hynod yn eu hawl eu hunain, a sefydlwyd aelwyd glyd a llawen, dodrefn neu beidio, fel y gall aml i ymwelydd o’r cyfnod yna dystio. Ac roedd yna eifr a chwningod a ffowls yn ddiddanwch a chynhaliaeth fel ei gilydd. Lles y plant ac argyhoeddiad ynghylch pwysigrwydd addysg Gymraeg a barodd iddyn nhw symud ganol y 1960au i dy ar y topiau uwchlaw Llanharan gyda thanciau yn y to i grynhoi dwr glaw. Aeth y plant i Ysgol Rhydfelen, penodwyd Eileen yn athrawes yno, a threuliodd Trefor gyfnod yn Amgueddfa Sain Ffagan. Drwy’r cyfnod yna fe’u gwelid yn gyson yng ngwrthdystiadau Cymdeithas yr Iaith a threuliodd Trefor gyfnod yn y carchar. Dychwelyd fu eu hanes wedyn at wreiddiau Eileen yn Henllan Amgoed. Ar ei waeth yr aeth iechyd Trefor, dan effeithiau cynyddol clefyd y llwch glo ac arthritis. Bu farw yn 1994. Parhaodd Eileen yn weithgar ym mhob dull a modd, a’i phlant a’u teuluoedd yn destun llawenydd a difyrrwch iddi’n barhaus. Tan yn agos i’r diwedd roedd hi’n athrawes ar ddosbarth oedolion yn Ysgol Sul capel Henllan Amgoed. Ac i’r capel hwnnw, adeilad annisgwyl o brydferth, y daeth cyfeillion, perthnasau ac edmygwyr ynghyd ar 16 Awst i dalu’r gymwynas olaf. Cafwyd gwasanaeth bendithiol a diymffrost o dan ofal y Parchedigion Llinos Edwards a Maurice Loader. Oedodd y gynulleidfa’n hir wedyn i rannu’u hatgofion a’u meddyliau am Eileen, Rosa Parkes Cymru ys dywedodd Emyr Llywelyn, ac am Trefor bron cymaint. Welwn ni mo’u tebyg eto. Braint enfawr fu eu hadnabod. Ddaeth yna ddim corff i’r capel. Roedd hwnnw wedi mynd i Ysgol Feddygol Caerdydd ar gyfer ymchwil. Ys dywedodd hen gyfaill a chymrawd, gweithredu uniongyrchol hyd y diwedd. Bu farw Eileen Beasley ar 12 Awst 2012.

Rhobert ap Steffan 1947 – 2011

Rhobert ap Steffan

Robert ap SteffanYn oriau man dydd Mawrth yr 11eg o Ionawr collodd Cymru un o’i meibion mwyaf gwladgarol sef Rhobert ap Steffan.

Ganwyd Rhob ap Steffan yn Hove Sussex i rieni Cymreig sef y diweddar Barch Stanley a Mrs Muriel Hinton.  Cafodd ei fagu a’i addysgu yn Nhreorci Cwm Rhondda canolfan y pyllau glo a chanolfan ein brwydr oesol dros hunaniaeth gwleidyddol a diwyllianol.

Roedd yn berson afieithus, serchus a hawddgar, un a fwynheai gymdeithasu a thynnu coes ei ffrindiau a’i gydnabod niferus.  Ei bersonoliaeth gynnes a’i denodd yn naturiol at Glyn James aelod glew o Blaid Cymru ers y dyddiau cynnar.  Daeth Rhobert ac yntau yn gyfeillion oes ac ef a groesawodd Rhobert i’r Blaid.

Ymunodd a’r Blaid  yn y 60au cynnar ac oherwydd ei ysbryd gwrthryfelgar a’i ddadleuon diymwad ynglyn a iawnderau cenhedloedd i hunan benderfyniaeth, cafodd yr enw Castro ac felly y cyfeiriwyd ato’n hoffus drwy gydol ei oes.

Sbardunwyd ei agwedd wrthryfelgar tuag at wleidyddiaeth yn 1965 gan ddau ddigwyddiad allweddol – boddi pentref Capel Celyn a symyd ei thrigolion er mwyn cyflenwi diwydiant Lerpwl â dŵr Cwm Tryweryn.  Digwyddodd hyn er bod ffyrdd amgen hollol ymarferol yn bodoli i osgoi hyn ac er yr ymgyrchu brwd yn erbyn y penderfyniad a gwrthwynebiad unfrydol seneddwyr Cymreig.  Y digwyddiad arall oedd tirlithriad tomen lo ar ysgol Pantglas Aberfan yn 1966 gan ladd 116 o blant a 12 oedolyn, digwyddiad gredai Rhobert achoswyd drwy esgeulustod troseddol y Bwrdd Glo Cenedlaethol.

Yn 1966 ymwelodd â Dulyn i goffau 50 mlynedd Gwrthryfel y Pasg.  Yn 1969 cymerodd ran weithredol yn yr Ymgyrch Gwrth-arwisgo gan weld holl rwysg y pasiant yn ddathliad gweniaethol o dra- arglwyddiaeth un genedl ar genedl arall.  Roedd yn ffrind i Julian Cayo Evans ac arweinwyr eraill o Fyddin Rydd Cymru er na fu erioed yn agored gyfranog i’w gweithredoedd cudd.  Gwell oedd ganddo roi o’i sgiliau i drefnu protestiadau a  ralïau.

Blinodd ar hyn oll a’r pwysau a roddwyd arno oherwydd ei ddaliadau radical, a phenderfynodd adael y cyfan a chyflawni’r hyn fu’n uchelgais ganddo gydol ei oes sef dilyn taith y Mimosa  i’r Wladfa.  Wedi blwyddyn llawn anturiaethau ymysg y bobl leol groesawgar (un o’r anturiaethau hyn oedd cael ei gadw gan yr heddlu tra’n ffawd heglu drwy’r wlad ar amheuaeth o fod yn guerilla comiwnyddol!) dychwelodd i Gymru a’i Gymraeg yn llifeirio er iddo adael yn siaradwr uniaith Saesneg!

Ei gam nesaf oedd cymhwyso ei hun i fod yn athro ysgol.  Cafodd waith fel pennaeth Adran Gelf  yn Ysgol Gyfun Llanymddyfri a chael cryn lwyddiant.

Yng nghanol y 70au cyfarfu ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghricieth â’i wraig Marilyn a fu’n gefn iddo gydol ei oes.  Ganwyd iddynt dri o blant, Iestyn, Rhys a Sioned.

Yn ystod ei yrfa, ac wedi hynny gweithiodd yn ddiflino yn cefnogi ymgeiswyr Plaid Cymru yn lleol ac yn genedlaethol.  Safodd ei hun sawl gwaith fel ymgeisydd ar y cyngor.  Ar wahanol gyfnodau o’i fywyd bu’n gefnogol i sawl mudiad teilwng arall, yn eu mysg Y Gweriniaethwyr, Cofiwn, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Rhobert, gyda’r gymuned yn gefn iddo, fu’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r prosiect o gomisiynnu Toby a Gideon Petersen i greu cofeb mewn dur i Lywelyn ap Gruffudd Fychan sydd heddiw i’w weld ger olion Castell Llanymddyfri.  Llywelyn arweiniodd luoedd Harri’r iv ar gyfeiliorn pan oeddent a’u bryd ar ddal Owain Glyndwr.  Ei gosb oedd cael ei ddienyddio ar sgwar y dref ym modd erchyll y cyfnod o grogi, diberfeddu a chwarteru.

Yn dilyn yr un trywydd bu Rhobert yn aelod o Gymdeithas Owain Lawgoch.  Nôd y Gymdeithas oedd codi cofeb barhaol i Owain oedd yn or nai i Lywelyn ein Llyw Olaf ac a gai ei gydnabod gan Frenin Ffrainc fel Tywysog Cymru.  Wedi oes o ymladd i Frenin Ffrainc bradlofruddiwyd Owain gan Jon Lamb ar orchymyn  Rhaglyw Lloegr yn Montagne sur Gironde yn 1378.  Ceisiodd Owain hwylio i Gymru deirgawaith ond rhwystrwyd ei ymdrechion gan stormydd.  Bu’r ymgyrch i godi cofeb yn llwyddiant ac fe’i dadorchuddiwyd ger eglwys Saint-Leger ym Mortagne gan Rosemary Butler A.C.  Cadeirydd Cyngor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol yn 2003.

Heb os bu cyfraniad Rhobert i achos Cymreigtod o fewn Plaid Cymru a thu allan yn amrywiol, a bron yn amhosibl eu rhestru.  Bu’n ganfaswr gwerthfawr i Adam Price A.S. ac i Rhodri Glyn A.C. a chyfranodd lawer i wleidyddiaeth ward Llangadog ,ble safodd ddwywaith fel ymgeisydd.  Rhobert oedd un o brif drefnwyr yr ymgyrch i annog pobl i anwybyddu ffurflenni censws 2001 gan nad oeddent yn cynnwys unrhyw flwch ar gyfer cenedlaetholdeb Gymreig.  Teithiodd Rhobert a’i wladgarwyr pybyr hyd a lled Cymru yn annog pobl i roi eu ffurflenni mewn arch i’w claddu “unrhywle” ar ôl eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol.  Cafodd nifer o ffurflenni eu gwthio i’r arch ond ni erlidiwyd neb, ac yn censws 2011 ymddangosodd y blwch “Cenedlaetholdeb Cymreig” canlyniad yr ymgyrchu-efallai.

Wedi ymddeol cymerodd Rhobert ran bwysig yn sefydlu y cylchgrawn Cambria ac fe’i apwyntiwyd yn olygydd rhydd a chyda Henry Jones Davies, oedd ar y pryd yn olygydd a sylfaenydd y cylchgrawn y daeth y syniad o sefydlu gorymdaith Gwyl Ddewi yng Nghaerdydd.  Mae’r orymdaith erbyn hyn wedi tyfu gyda chynrychiolwyr o wledydd Celtaidd eraill yn cymeryd rhan.  Mae’n cystadlu’n ffafriol a Gorymdaith Padrig Sant yn Nulyn.

Gydol ei fywyd gwleidyddol bu gan Rhobert ddiddordeb mawr ym materion y gwledydd Celtaidd.   Ymwelodd yn aml â Llydaw, Cernyw ac Ynysoedd yr Alban, ble siaredid y Gaeleg, a chadwodd gysylltiadau diwylliannol a hwy.  Roedd a’i fryd ar ddychwelyd i’r Wladfa, ac yn 2008 gwireddwyd ei freuddwyd.  Trefnodd Mencap Cymru daith gerdded noddedig drwy Dde’r Andes i godi arian i’r elusen.  Roedd rhaid i bawb a gymerai ran godi fan leiaf £3,500 ond cododd Rhobert bron i £10,000.  Wedi’r daith arhosodd Rhobert yno a chyflwynodd Wyddioniadur Cymru oedd newydd ei gyhoeddi i lyfrgelloedd ac ysgolion fel rhodd i ddangos ei  ddiolchgarwch i bobl y Wladfa am ddysgu Cymraeg iddo.  Fel hyn y’i dyfynwyd ym mhapur lleol Caerfyrddin.

“Byddaf yno fel llys gennad answyddogol a byddaf yn ymdrechu i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y Wladfa a’r Hen Wlad.  Treuliais flwyddyn yn Y Wladfa.  Gweithiais  ar Estancia fawr (ranch) ger Trefelin wrth droed yr Andes yng Nghwm Hyfryd ac o fewn ychydig fisoedd  r’on i’n siarad Cymraeg  – doedd dim dewis gen i, doedd neb yn siarad Saesneg!”

Hyd 2010, ni chollodd Rhobert unwaith, mewn 40 mlynedd y cofio blynyddol ar Ragfyr 11ed yng Nghilmeri am farwolaeth ein tywysog olaf  Llewelyn ap Gruffudd laddwyd gan luoedd Saesnig.

Roedd yn amlwg bod rhywbeth mawr o’i le pan  na throdd i fyny yn 2010. Fe, o bawb  oedd wedi gwneud cymaint i drefnu’r rali dros y blynyddoedd. Yr hyn na wyddai’r rhai  oedd wedi ymgynull ar y diwrnod arbennig hwn oedd bod Rhob wedi cael gwybod ei fod yn dioddef o fath ffyrnig o ganser ac mai mis yn unig oedd ganddo i fyw.

Cadw le i ni wrth y bar yn Nhir na Nôg Castro…. Mae colled fawr ar dy  ôl.

John Page a Gareth ap Siôn

Cofeb Rhobert ap Steffan
“Rhobert, gyda’r gymuned yn gefn iddo, fu’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r prosiect o gomisiynnu Toby a Gideon Petersen i greu cofeb mewn dur i Llywelyn ap Gruffudd Fychan sydd heddiw i’w weld ger olion Castell Llanymddyfri.  “

John Page a Robert ap Steffan

gareth ap Sion a Robert ap Steffan

Dafydd Huws 1936 – 2011

DAFYDD HUWS 1936 – 2011

Teyrnged bersonol gan Dafydd Williams Dafydd Huws

Canol y chwedegau y cwrddais gyntaf â Dafydd Huws, a minnau newydd ymuno â chriw hwyliog Côr Aelwyd Caerdydd.  Dafydd oedd seren adran y tenoriaid, gyda’r gallu i ddarllen cerddoriaeth yn rhwydd, boed sol-ffa neu hen nodiant.  I rywun fel minnau oedd heb ei hyfforddi mewn cerddoriaeth roedd hi’n dipyn o wyrth ei weld yn canu emyn dôn ar y piano yn syth o sgôr sol-ffa. Roedd cwrdd â Dafydd wastad yn codi’r ysbryd.  Byddai ganddo bob amser stôr o straeon, ambell un am gymeriad o’r enw Trekarkis oedd yn rhaid eu hadrodd mewn acen bersain Grangetown.  Ef oedd y cyntaf i mi ei glywed yn canu ‘Cardiff born, Cardiff bred’.  Ac os o’wn i o gwmpas byddai perygl iddo sôn am y cyfnod y byddai’r ddau ohonom yn rhannu flat ac yn byw ar tships, gan hidlo’r sosban unwaith y flwyddyn i gael gwared â’r cacwn! Ond yn ogystal â ffraethineb roedd gwytnwch a phenderfyniad. 

Cyfunai dair gyrfa – seiciatrydd, amaethwr a gwleidydd.  Yn fuan ar ôl i mi ddod i’w adnabod, cymerodd y cam mentrus o gyd-brynu fferm Mynydd Gorddu yn ardal Bontgoch ger Aberystwyth, yn agos i’w filltir sgwâr.  Aeth criw ohonon ni yno sawl tro i aros yn y ffermdy.  Ychydig a gyfrannais at amaethyddiaeth Cymru ond dysgais lawer am fywyd cefn gwlad a gwella’r Gymraeg.  A lot fawr o sbort.  Hyfryd meddwl bod un o’i ferched Elen a’i gŵr Steffan bellach wedi ymgartrefu yno. Nid amaethu oedd prif yrfa Dafydd, er cymaint yr ymhyfrydai wrth berswadio rhyw hen beiriant i gael ail wynt.  Roedd yn seiciatrydd uchel ei barch, gan ddod yn Gyfarwyddwr Seiciatryddol De Morgannwg – swydd a olygai bwysau mawr a baich cyson.  Gweithiai o uned Tegfan yn ysbyty’r Eglwys Newydd.  Roedd bob amser yn brofiad mynd yno, fel y byddwn i ar waith y Blaid ryw awr ginio, a’i weld yn trafod ei gleifion a’i gyd-feddygon a’i staff gyda’i hiwmor a hynawsedd nodweddiadol.

Gyda’i ddawn gyfathrebu yn y ddwy iaith, doedd hi’n syndod yn y bydd iddo ymddangos yn rheolaidd ar y cyfryngau i ymateb i bynciau’r dydd yn y maes iechyd.  Roedd ei gariad at y Gymraeg, ei llen a’i thafodieithoedd amrywiol yn amlwg; a nes ymlaen fe ddaeth yn gyfarwydd â’r grefft o gynganeddu, gan ymddangos ar Dalwrn y Beirdd. Wrth reswm byddwn ni’n cofio Dafydd Huws y gwleidydd, neu efallai dylwn ddweud y Cymro a chenedlaetholwr o’i hanfod, gan fod gas ganddo rai agweddau o wleidyddiaeth.  Yng nghanol holl fwrlwm y chwedegau fe lwyddodd ei gymeriad allblyg i ddenu mintai frwd i weithio dros y Blaid; a’r canlyniad oedd ennill sedd gyntaf erioed ar Gyngor Dinas Caerdydd ym mis Mai 1969.  Mae gennyf gof byw o’r posteri melyn llachar oedd yn frith drwy ward Plasmawr, a’r orymdaith ceir gyda’r plant yn rhedeg ar ei hôl – a hefyd o’r cofnodion canfasio trylwyr a gadwyd gan DJ Davies, Tyllgoed a fu’n sail i fuddugoliaeth hanesyddol. Safodd Dafydd deirgwaith yn Ymgeisydd Seneddol Gorllewin Caerdydd – yn 1970 a ddwywaith yn 1974 – ac yna fe’i dewiswyd wedyn i  ymladd Ceredigion, sir ei febyd, yn 1979 (cafodd ei eni yn Kenya, ble gweithiai ei dad fel peiriannydd cyn dychwelyd i Gymru i sicrhau magwraeth Gymraeg i’w deulu.) 

Mae’r ffordd y cafodd ei berswadio i sefyll yng Ngheredigion yn dweud cyfrolau: roedd yn bell o fod yn awyddus, a’r hyn drodd y fantol oedd llythyr gan Gwynfor gyda’r diweddglo, ‘Derbyniwch hyn fel eich tynged’. Fel tynged hefyd y derbyniodd Dafydd barchus ac arswydus swydd Cadeirydd Plaid Cymru.  Rwy’n siŵr nad oedd yn awyddus i lywio’r pwyllgorau di-rif a’r cyfarfodydd anodd; ond dyna a wnaeth am bedair blynedd yn ystod cyfnod hesb yr wythdegau, a hynny gyda graen a gras, a phwyslais ar wneud yr hyn oedd yn ymarferol. Uwchlaw hyn oll roedd Dafydd y dyn teulu.  Cefais y fraint o fod ei was priodas, ac agorodd Rhian orwelion newydd iddo.  Bendithiwyd eu priodas â thair merch a dau fab, a byddai’n bleser ymweld â’u cartref cariadus yn Ffwrnes Blwm ar lethrau Mynydd Caerffili – man cynnal sawl barbeciw haf i’r Blaid ac ystordy i blacardiau etholaeth Caerffili.  Roedd Dafydd yn falch dros ben o’i blant a’i wyrion, a Rhian a hwythau yn gefn iddo yntau.

Roedd yn arloeswr wrth reddf, â diddordeb byw mewn gwyddoniaeth.  Iddo ef roedd amaethu’n gyfrwng i ddatblygu’r gymuned, ac fe welodd yn glir sut y gallai’r  rheidrwydd am ynni adnewyddadwy gyfrannu at sylfaen economaidd ein bröydd Cymraeg.  Fe frwydrodd yn galed yn erbyn sustem ganolig ei naws i alluogi cymunedau lleol yn hytrach na’r cwmnïau mawrion i elwa o ddatblygu melinau gwynt.  Mae’n chwith dweud nad oedd polisi Tan Wyth fawr o gymorth yn hyn.  Stori anhygoel oedd iddo deithio’r holl ffordd i gynhadledd ynni yn Aberdeen i gael gair wyneb yn wyneb ag un o brif swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn oedd yn digwydd bod yn gyn-fyfyriwr yn Aberystwyth; a chael cadarnhad ganddo fod y gweision sifll wedi camddehongli agwedd y Weinyddiaeth Amddiffyn at wahardd melinau gwynt mewn ardaloedd hedfan isel. Ar yr un diwrnod â’r daith i Aberdeen saith mlynedd yn ôl fe sylwodd am y tro cyntaf yr arwyddion cyntaf o’r afiechyd angheuol y brwydrodd mor ddewr yn ei erbyn. 

Bydd llawer yn cofio’r rhaglen hynod Beti a’i Phobl pan drafododd y frwydr honno yn gwbl agored, gan osod gweledigaeth a chredo unigryw.  Rwy’n dal i deimlo fod oes Dafydd wedi dod i ben yn llawer rhy gynnar.  Roedd ganddo gymaint i’w gyfrannu o hyd.  Ond mae Cymru’n wlad well oherwydd ei fywyd.

Hanes Plaid Cymru