CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU, 25 MAWRTH, 2011
YN Y DECHREUAD …
Gan D.Hywel Davies B.A., M.Sc.(Econ.)
FEL syân addas i gyfarfod cyntaf Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, rwyf am eich cymryd am dro yn Ă´l iâr cyfnod cynharaf yn hanes ffurfiant y mudiad. Ond nid iâr digwyddiad enwog a gynhaliwyd ym Mhwllheli ym 1925 ond at un arall a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ym 1924. Alla i ddim cynnig lleoliad llawer mwy cyffrous, mae gen i ofn: y Maesgwyn Temperance Hotel oedd y lle a drefnwyd ym Mhwllheli; y Queenâs CafĂŠ ywâr gorau alla i gynnig i chi yng Nghaernarfon.
Mae hiân nos Sadwrn yr ugeinfed o fis Medi, 1924, ac mae cryn nifer o bobl Caernarfon aâr ardal yn cerdded i gyfeiriad y Queenâs CafĂŠ ynghanol yr hen dref. Mae hi wedi bod yn flwyddyn o gyffro gwleidyddol – sef ffurfiad Llywodraeth Brydeinig am y tro cyntaf gan y Blaid Lafur newydd dan arweinyddiaeth Ramsay Macdonald ânol ym mis Ionawr. Llywodraeth leiafrifol ydyw, ac mae sĂ´n y bydd Etholiad Cyffredinol arall yn o fuan. Dim pryderon gyda David Lloyd George am hynny. Mae Bwrdeistref Caernarfon yn gadarn iddo ef – ac mae siĹľr o fod yn cynllwyno sut y gall ail-gipio allweddNumber 10Â rywdro yn y dyfodol. Ond y Blaid Lafur sydd bellach ar i fyny ac eisoes wedi cyrraedd statws yr ail blaid yn yr unig Senedd oedd ganddynt ar y pryd.
Nid Prydain ywâr pwnc trafod ymhlith y rhai syân anelu am y Queenâs CafĂŠ heno. Cymru ywâr pwnc. Gwleidyddiaeth Cymru. Cymru heb gorff cenedlaethol gwleidyddol. Cymru heb fudiad cenedlaethol. Cymru heb is-ganghennau oâr pleidiau Prydeinig i gydnabod ei statws cenedlaethol. Cymru heb y Ddraig Goch ar dyrrau Castell Caernarfon.
Ond mae âna rywfaint o gyd-destun gwleidyddol Cymreig. Yn benodol, oherwydd ei hanes blaenorol fel prif-lefarydd Cymru yn San Steffan, methiant y Blaid Ryddfrydol fel corff i ail-godi cwestiwn datganoli. Mater crefyddol ywâr datblygiad perthnasol mwyaf diweddar. Cafodd Eglwys Loegr yng Nghymru ei datgysylltu fel rhan o eglwys y wladwriaeth Brydeinig. Yn ei lle, ym 1921, sefydlwyd yr Eglwys yng Nghymru fel eglwys annibynnol Gymreig. Ond gydaâr datganoli crefyddol hwnnw, roedd fel petaiâr awelon yn diflannu o hwyliau datganoli gwleidyddol Cymru. Ond nid yn llwyr.
Cynhaliwyd nifer o gynadleddau rhwng 1918 a 1922 i drafod datganoli. Dyrnaid o Aelodau Seneddol Rhyddfrydol unigol aâu trefnodd gan wahodd cynrychiolwyr o gynghorau lleol a mudiadau eraill. Bach iawn oedd yr ymateb iâr gynhadledd gyntaf a gynhaliwyd yn Llandrindod. Cytunwyd y byddai âself-governmentâ yn fuddiol i Gymru ond heb ddiffiniad. Heb dderbyn gwahoddiad i hon, roedd y Blaid Lafur newydd yn gweld y cyfan fel ystryw Ryddfrydol i geisio dal gafael ar bleidleisiau gwladgarwyr Cymreig. Mynegodd Llafurwyr de Cymru eu cefnogaeth nhw i ymreolaeth ym 1918 fel gwnaeth Cynghrair Llafur Gogledd Cymru ym 1924. Serch hynny, fel dywedodd y Llafurwr pwysig David Thomas, a gefnogai ddatganoli, y wir frwydr oedd honno rhwng llafur a chyfalaf.
Y gynhadledd fwyaf llwyddiannus oedd honno ym 1919, eto yn Llandrindod. Cytunwyd yn frwd i alw am âfull local autonomyâ, eto heb ddiffiniad. A galwyd am Ysgrifennydd Gwladol i Gymru ond gyda mwyafrif llai wedi dadlau poeth. Disgrifiodd y Western Mail y cytundeb a gafwyd fel âsomething in the nature of a miracle .. [though it] left the question very much where it found it.â
Chafwyd mawr mwy o oleuni pan ofynnodd grĹľp bach o Aelodau Seneddol Rhyddfrydol iâr Prif Weinidog – yr hen genedlaetholwyr David Lloyd George – ym 1920 i greu Ysgrifennydd i Gymru. âGo for the big thing!â atebodd ef, ond ddeallodd neb mo hynny. Cynigiodd David Matthews, AS Rhyddfrydol Cenedlaethol Dwyrain Abertawe, fesur ym 1921 yn galw eto am Ysgrifennydd Gwladol i Gymru, ond doedd neb yn talu sylw. Roedd pethau eraill ar feddyliau arweinwyr y Blaid Ryddfrydol ganolog. Y Blaid Lafur yn arbennig.
Bellach roedd yr ysbrydoliaeth Gymreig yn lleihauân gyflym. Cynhaliwyd y gynhadledd olaf yn y gyfres hon yn yr Amwythig ym 1922 – yn ddigon eironig ar ddydd llofnodiâr Caniatâd Brenhinol i sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Prin oedd y gefnogaeth. Methodd yr ychydig oedd yn bresennol gytuno hyd yn oed i gefnogi mesur preifat Murray Macdonald A.S, The Government of Scotland and Wales a alwai am ddatganoli ffederal. Meddai cylchgrawn y Welsh Outlook, âThe futile Shrewsbury Conference on March 31st last and the ridiculous debate which followed it in the House of Commons on April 28th, marked the nadir of the Welsh Home Rule movement, and only a small remnant of those who supported it escaped pessimism and despair.â Methodd mesur Murray Macdonald. Roedd hiân ddiwedd cyfnod. Diflannodd datganoli yn San Steffan.
Na. Doedd dim llawer o reswm dros fod yn obeithiol gydaâr gwladgarwyr Cymreig hynny oedd yn nesĂĄu at eu dishgledi o de yn y Queenâs CafĂŠ. Ond, gydaâr brwdfrydedd sydd wedi bod yn ganolog iân mudiad, byddant, siĹľr o fod, yn fâateb. âHold on! Mae criw gwych o fyfyrwyr wedi codi helynt cenedlaethol ardderchog yn Aberystwyth yn lled ddiweddar. Ac ym Mangor – mae cymdeithas y myfyrwyr yno – cymdeithas Y Tair G – yn llawn bwrlwm Cymreig. A dynaâr sgolor Saunders Lewis yn codi nyth cacwn i boeniâr Cymry parchus, rhagrithiol. Oes, mae âna obaith!â
Yn barod iâw croesawu iâr Queenâs CafĂŠ oedd gwr 24 mlwydd oed oâr enw H.R.Jones, chwarelwr oedd wedi gorfod troiân drafeiliwr – hynny yw arwerthwr teithiol – oherwydd afiechyd. O bentref Ebenezer oedd H.R. – er roedd eân arwain ymgyrch ar y pryd i gael Deiniolen yn Ă´l fel enw arno. Fe oedd wedi galwâr cyfarfod ynghyd heno gydaâr pwnc llawer mwy o ddyfodol y genedl. Roedd H.R.Jones wedi bod yn danfon llythyrau allan un ar Ă´l y llall i bawb y gwyddai amdanynt eu bod yn wladgarwyr – yn bell ac agos, mawr a man. Dewch, meddai, i osod mudiad cenedlaethol gwleidyddol annibynnol Cymreig ar gerdded. Dyn swil oedd H.R. Dyn tawel. Ond roedd eân berwi gyda rhwystredigaeth.
Cynhadledd arall oedd wediâi ypsetioân arbennig. Roedd hon wedi cael ei chynnal yn ystod yr haf gan un oâr mudiadau bach gwlatgar oedd yn codi ac yn diflannu fel tan siafins wrth iâr Cymry pybyr chwilio am ffordd ymlaen. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – sef yr un cyntaf oâr enw hwnnw. Urdd y Delyn – yn rhagflas o Urdd Gobaith Cymru. Byddin Cymru y frwdfrydig Fones Mallt Williams o Landudoch (heb arf mewn golwg, er yr enw). Undeb y Ddraig Goch yn Lerpwl. Cymdeithas Cymru Well William George, sef brawd Lloyd George. Byddin yr Iaith y tro hwn, yn cynnal eu cyfarfod blynyddol yn Llandrindod. Er bygythiad ei enw, doedd dim milwrol am Fyddin yr Iaith: roedd aelodau i fod i wisgo bathodyn y mudiad, i siarad Cymraeg mor aml â phosib mewn llefydd fel swyddfeydd post a gorsafoedd trenau, ac i fynnu statws swyddogol iâr iaith Gymraeg. Yn ystod y gynhadledd, roedd mudiad pitw arall gydag enw mawr – Adran Ymreolaeth Cynghrair y Cenedlaetholwyr Cymreig – wedi cynnal eu cyfarfod nhw. Cafwyd areithiau. Cafwyd apĂŞl.
Arswyd, roedd H.R. yn flin. Danfonodd fwy eto o lythyrau. Roedd hiân bwrw llythyrau H.R. yng Nghymru! Roedd y Parch J. Seymour Rees yn Nhreorci yn falch i gael un. Roedd D.J.Williams yn hapus i dderbyn un yn Abergwaun. Roedd Iorwerth Peate wrth ei fodd, er byddai rhai cwestiynau ganddo. A threfnodd H.R. ei gyfarfod yn y Queenâs CafĂŠ gydaâr nod oâsefydlu cymdeithas ar gyfer ymreolwyr ifainc.â
Roedd yn wir, hefyd, bod yr academig aâr ceidwadwr Saunders Lewis – ceidwadwr gydag âcâ fach ond âCâ go fawr hefyd! – wedi achosi cryn syndod ond flwyddyn ynghynt trwy araith a draddododd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug. Rhoddodd sioc ysgytwol i wladgarwyr hirwyntog wrth alw am sefydlu gwersylloedd i ddysgu disgyblaeth. Ond cofiwch mai Lieutenant John Saunders Lewis oedd yn siarad, un a fu yn y ffosydd yn ystod y Rhyfel Mawr ac a anafwyd. Meddai: âNid cynhadledd a achub ein cyflwr eithr disgyblaeth ac ufudd-dod. Na cheisiwch gynhadledd lle y gall holl glebrwyr Cymru areithioân ddi-fudd, ond y flwyddyn nesaf ffurfiwch fataliwn a gwersyll Cymreig, a phob Cymro a fynno wasanaethu ei wlad i ddyfod yno a drilio ynghyd am bythefnos ac ufuddhau i orchmynion milwriaid fel y caffont wers mewn gweithio ynghyd yn dawel a heb ffraeo, pawb yn fodlon ufuddhau ac iâw gosbi onis gwnelo. A gwnewch hyn am bum mlynedd, heb glebran. Drilio heb arfau, ac felly yn gwbl agored ac heb dorri cyfraith unrhyw wlad, ond ein paratoi ein hunain felly i dderbyn deddfau ac arweiniad gan Gymry. Pe gawn gant neu hanner cant neu ugain yn unig y flwyddyn gyntaf i wneuthur hyn, dyna fudiad pwysicaf Cymru ers dyddiau GlyndĹľr. Yr wyf yn hollol ddifrifol.â
Roedd angen i Lewis ychwaneguâr frawddeg olaf honno. Doedd cenedlaetholwyr Cymru ddim i fod i siarad fel hyn. Ond dynaâr math o rwystredigaeth oedd ymhlith cenhedlaeth ifancach. Roedd ymateb arbennig Saunders Lewis yn unigryw, yn estron, ac fe gafodd ei fflangellu. âFfwlbri noeth,â meddai wythnosolyn Y Darian yng Nghymoedd y de am ei gynllun. âThe most stupid of reactionariesâ oedd ymateb y Western Mail. âHotheads who propose to give the undergraduates of the Welsh colleges military training in holiday camps!â meddaiâr South Wales News.
Yr unig un i fynegi syniadau tebyg oedd Ambrose Bebb, cyfaill Lewis a cheidwadwr arall gydag âcâ fach ond oedd â goblygiadau mwy. Roedd Bebb wedi symud ymlaen o Aberystwyth i astudio a darlithio ym mhrifysgol y Sorbonne ym Mharis. Yno, daeth Bebb o dan ddylanwad mudiad asgell dde Charles Maurras. Cafodd ef, hefyd, ei ysbrydoli i ddatgan yr angen am ddisgyblaeth gymdeithasol dan arweiniad cryf gwleidyddol mewn erthygl ysgrifennwyd ganddo ym 1923. Gyda mwy o rethreg nag o ymresymu, llwyddodd Bebb i gysylltu enwau Lenin a Mussolini ââi gilydd fel patrwm o arwyr iâw hystyried gan y Cymry. Yn fuan, roedd Saunders Lewis a Bebb yn cael eu hadnabod fel pobl Sinn FĂŠin.
Felly, gyda chynadleddau datganoliâr Rhyddfrydwyr gwanllyd wedi methu, y Blaid Lafur newydd ar gynnydd, ynghyd â datganiadau ymfflamychol Lewis a Bebb â roedd gan dyrfaâr Queenâs CafĂŠ gryn dipyn ar eu platiau.
A dyna nhwân cyrraedd y Queenâs. Ymhlith y bobl ifainc mae Gwilym R. Jones, un a fyddaiân dod yn Olygydd ar bapur wythnosol pwysig Y Faner. Dyma sut y disgrifiodd ef y cyfarfod: âRoedd yn y cyfarfod tua deugain ohonom. Yr oedd yno athrawon, chwarelwyr, gweinidogion, meddyg – ac un trafeiliwr gwelw,â sef H.R. ei hun. âY trafeiliwr hwn a gynullasaiâr cyfarfod, ond ni ddywedai fawr ddim. Nerfus, floesg, bwnglera. Eisiau âbyddinâ i amddiffyn Cymru aâr iaith.â Fel rhyw ymgais i gael person o statws wrth y llyw, y meddyg gwlatgar, y Dr Llwyd Owain, Cricieth, oedd yn cadeirio. Ond H.R. oedd sbardun yr achlysur.
Roedd H.R.Jones yn cael ei ystyried yn arbenigwr ar hanes Iwerddon. Rhaid cofio bod brwydr waedlyd Iwerddon i sicrhau rhyddid o rwymau Llundain yn gefndir iâr cyfan oâr trafodaethau ynglšn ag ymreolaeth yng Nghymru wedi diwedd y Rhyfel Mawr. Barn HR yn Ă´l ei gyfeillion oedd bod angen gweithgarwch radical tebyg, gan gynnwys trais, i hyrwyddo achos cenedlaetholdeb Cymru hefyd. Byddaiân cael ei ddyfynnu gan Gwilym R. Jones yn ddiweddarach yn datgan yn groyw,âFedrwn ni byth ddeffro cenedl syâ wedi cysgu mor hir heb aberthu mwy. Rhaid inni ddioddeâ … rhaid colli gwaed. Maeân mudiad niân rhy ddof, a ninnauân llwfr.â
Byddai Saunders Lewis yn dweud amdano, âH.R. oedd yr unig un yn ein plith y gellid dychmygu am Michael Collins yn rhoi swydd iddo, un na ellid naâi siocio naâi ddychryn, un a wnâi unrhyw beth, heb falio am ganlyniadau, os dygai ddydd rhyddid Cymru yn agosach.â
Gyda hyn i gyd yn gefndir, datganodd y Dr Llwyd Owen oâr gadair efallai y gellid croesawu âagwedd filwriaetholâ iâr mudiad cenedlaethol newydd, ond na fyddai lle i ddulliau âtraisâ. Ategwyd ei sylw gan o leiaf un arall a feirniadodd yn swta unrhyw awgrym oâr hyn a ddisgrifiwyd ganddo fel âdulliau Rwsaidd neu Wyddelig.â Ond dadleuodd un o gymrodyr H.R., Evan Alwyn Owen, iâr gwrthwyneb y byddai âcyflwyno tipyn o Sinn FfĂŠinâ iâr mudiad yn gallu bod yn gynorthwyol. Meddai cyfaill arall, y newyddiadurwr Gwilym Williams, ei fod o blaid âgorymdeithio gyda drylliauâ aâi fod yn cytuno gydagâathroniaeth [Patrick] Pearseâ.
Ond ni chafwyd unrhyw oleuni pellach yn y Queenâs y noson honno ar gwestiwn dulliau. Ni chafwyd, âchwaith, gytundeb manwl ar ba fath o ymreolaeth fyddai o fudd i Gymru. Serch hynny, fe gytunwyd ar sefydlu mudiad newydd. Gan adlewyrchuâr teimlad maiâr hyn oedd yn hanfodol oedd cymdeithas a fyddaiân hollol ymroddedig, cytunwyd ar yr enw Byddin Ymreolwyr Cymru a mabwysiadwyd llw o ffyddlondeb yn y gobaith o sicrhau trefnu effeithiol. Ond ar ddulliau gwleidyddol oedd y pwyslais. Meddai H.R.Jones mewn nodyn iâr wasg, âAmcanu am ymreolaeth a wnawn ni heddiw, nid yn adfail y Deyrnas Gyfunol ond trwy ymresymu ein hawliau. Hawlir gennym ni, y genedl hynaf yn Ewrop, Senedd a chartref, trwy ba un y trefnir ffordd iân cenedl ddatblygu ei bywyd ar linellau Cymreig.â
Roedd y ffaith bod cyfarfod y Queenâs CafĂŠ yn achlysur cyhoeddus yn golygu bod gan y wasg ddigon o ddeunydd i fod yn feirniadol. Dilornus oedd y North Wales Chronicle: âThose present,â meddai, âoutnumbered the famous tailors of Tooley Street, but, like the latter, their ambition has brought a touch of comedy into a movement which has as much attraction for faddists as a lamp light has for moths.â
Roedd yr Herald Cymraeg lleol yn fwy siomedig na dig:Â âNid oedd y cyfarfod o ymreolwyr y cylch a gynhaliwyd yng Nghaernarfon y dydd Sadwrn oâr blaen yn unrhyw help iâr mudiad; ond yn hytrach fel arall. Yr oedd y cwbl yn rhy anghyfrifol a phlentynnaidd. Gresyn mawr yw symud ymlaen gyda mudiad mor bwysig heb baratoad priodol ar ei gyfer, a heb sicrhau siaradwyr dylanwadol.â
âChwarae plant,â cwynodd y Darian yn y De.
Cyfeiriodd Gwilym R.Jones ei hun at yr hyn a alwaiân fwnglera. Ond cafwyd cyfarfod, a hwnnwân gyfarfod cyhoeddus. Roedd bod mor agored – gan wahodd pobl iâr Queenâs CafĂŠ – yn ddull gwahanol iawn o weithredu i fudiad cenedlaethol arall oedd wedi cael ei sefydlu ar ddechrauâr un flwyddyn. CrĂŤwyd hwnnw gan Saunders Lewis, Ambrose Bebb a Gruffudd John ac Elisabeth Williams ym Mhenarth, ym mhreifatrwydd cartref teuluâr Williams. Doedd fawr neb yn gwybod amdano oherwydd mudiad cyfrinachol ydoedd. Y Mudiad Cymreig oedd yr enw a gai ei sibrwd yn dawel rhwng ei ddyrnaid o aelodau. Eu bwriad oedd aros yn gyfrinachol am gyfnod amhenodol. Fyddai hynny ddim yn anodd gan iddynt benderfynu defnyddio Breiz Atao, papur Llydaweg mudiad cenedlaethol Llydaw, fel prif gyfrwng eu syniadau. Meddai Gruffudd John Williams yn ddiweddarach, âRoedd y Ffrangeg aâr Llydaweg wedi troi llawer o bobl i ffwrdd.â O leiaf roedd Byddin Ymreolwyr Cymru wedi cyrraedd penawdauâr wasg, ac, fel yr honnir, mae pob cyhoeddusrwydd yn gyhoeddusrwydd da.
Serch hynny, proses nid digwyddiad oedd y Queenâs CafĂŠ. Roedd H.R.Jones wedi rhoi cychwyn ar weithgarwch a fyddaiân ganolog o bwysig yn natblygiad ein mudiad cenedlaethol. Bu cryn drafod ar noson gyntaâr Queenâs. Y broblem oedd na chytunwyd ar amcanion clir. Yn wir, bu bron i Fyddin Ymreolwyr Cymru ddod i ben, yn gymdeithas fach fyrhoedlog arall. Dadleuai rhai o blaid ymuno gyda mudiad myfyrwyr Prifysgol Bangor, sef Y Tair G. Ond gwrthwynebwyd hyn gan drysorydd y Fyddin, sef Evan Alwyn Owen. Nod Evan, fel H.R., oedd sefydlu plaid wleidyddol annibynnol. Cytunwyd cwrdd yn y Queenâs CafĂŠ eto ar Ragfyr 20 i drafod materion ymhellach. Ar y noson honno, cynigiodd Evan y dylid gollwng yr enw Byddin Ymreolwyr Cymru gan fabwysiaduâr enw Plaid Genedlaethol Cymru yn ei le. Dylaiâr blaid hon, meddai, godi arian, noddi ymgeiswyr seneddol, cydweithredu gyda chenedlaetholwyr yr Alban, a datgan mai aelodaeth Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd oedd ei nod. A dyna a fu. Tri mis wediâi sefydlu, diflannodd Byddin Ymreolwyr Cymru gan ail ffurfio ar unwaith fel Plaid Genedlaethol Cymru. Roedd lleâr Queenâs CafĂŠ yn saff, wel yn weddol saff yn y llyfrau hanes.
Y Parch Lewis Valentine M.A., gweinidog gydaâr Bedyddwyr, ddewiswyd fel Llywydd y Blaid Genedlaethol newydd, ac H.R.Jones, wrth gwrs, ddaeth yn Ysgrifennydd. Aeth H.R. ati ar unwaith i geisio denu gwladgarwyr o bob cwr oâr wlad i ymuno ââr Blaid Genedlaethol. Maeân ymddangos ei fod wedi clywed rhyw ychydig am fodolaeth y Mudiad Cymreig swil yn y de, ac fe dderbyniodd Saunders Lewis un oâi lythyrau. Heb wastraffu dim amser, dechreuodd y Blaid Genedlaethol fach annibynnol newydd ar ei weithgarwch a oedd yn hollol wleidyddol ei natur. Llwyr wleidyddol oedd natur eu gweithgarwch. Protestiwyd yn erbyn bwriad y Llywodraeth ganolog i ddarnioâr Bwrdd Addysg Canolog Cymreig ac i gau swyddfa ranbarthol yr Adran Bensiynau yng Nghaerdydd. Galwyd am farnwyr Cymraeg i lysoedd gogledd Cymru. Cysylltwyd â gwleidyddion gan alw arnynt i gefnogi ymreolaeth i Gymru. Yn ganolog oedd y syniad mae ar sail yr uned genedlaethol, a gyda pharch at yr iaith Gymraeg, y dylid trefnu llywodraethu Cymru. Yn benodol ynglšn ag ystyriaethau ieithyddol, y ffaith arloesol oedd maiâr Gymraeg oedd iaith y blaid wleidyddol newydd hon oedd wediâi sefydlu yng Nghaernarfon. Trwyâr iaith Gymraeg y cafodd ei ffurfio ac y dechreuodd ymgyrchu.
Yn ganolog i bopeth bellach oedd yr angen i ehangu aelodaeth ac i osod y Blaid ar seiliau cenedlaethol. Ac roedd y trafodaethau rhwng H.R.Jones a Saunders Lewis yn hollbwysig iâr broses honno. Nid peth rhwydd oedd delio â Saunders Lewis. Yn y cyfnod cynnar hwn, fe fynnodd eglurhad llwyr ar ddau faes polisi yn benodol cyn cytuno ymuno ââr Blaid Genedlaethol, hynny yw, ynglšn â statws yr iaith Gymraeg a natur y gweithredu gwleidyddol. O ran statws yr iaith, cytunai mai âGorfodiâr Gymraegâ ddylai fod y polisi, meddai, fel roedd H.R.Jones wedi nodi, ond mynnodd fod hyn yn golygu bod y Gymraeg yn iaith gweinyddiad cynghorau lleol, ac iaith ysgolion. Ynglšn â natur y gweithredu gwleidyddol, cytunai Saunders Lewis, eto, gydaâr nod o âDorri pob cysylltiad â phleidiau gwleidyddol Cymru a Lloegrâ. Ond aeth ymhellach. Mynnodd yn ogystal y dylid torri pob cysylltiad gyda âSenedd Loegrâ gan weithioân unig drwy gynghorau lleol Cymru. âNi ddaw dim i Gymru fyth drwy Senedd Loegr,â meddai, âYn awr, os mabwysiadwch chi fel plaid y ddwy egwyddor yna yn llwyr, mi ymunaf gyda chwi ar unwaith.â
Nid un i oedi oedd H.R.Jones. Cyn i Saunders dderbyn ateb, roedd taflen yn ei law yn datgan ei fod eisoes yn is-lywydd iâr Blaid newydd. Ffromai Lewis a mynnai eglurhad. Ond wrth ei gyd-aelodau yn y Mudiad Cymreig dirgel, roedd yn datgan yn fuan ei falchder bod eu holl syniadau wedi cael eu derbyn. Byddant yn gallu gweithredu fel âbloc nationalâ â yn Ffrangeg Saunders – y tu fewn iâr Blaid newydd oedd wedi codi mor annisgwyl iâw chadw at eu hegwyddorion hwy. âFel y gwelwch,â meddai,â heb yn wybod iddynt, maent i gyd yn aelodau oân mudiad ni.â
Un mater arall oedd ar Ă´l. Mynnai Saunders Lewis gael cyfarfod i osod y Blaid Genedlaethol ar sail genedlaethol. Roedd y Queenâs CafĂŠ, Caernarfon, wedi cyflawniâr wyrth gychwynnol. Byddai Saunders Lewis yn nodi, âCredaf ei bod yn gywir dweud mai H.R.Jones a sylfaenodd y Blaid Genedlaethol Gymreigâ. Nawr aeth H.R. ati i drefnu cyfarfod bach, preifat ar gyfer saith* cynrychiolydd i gwrdd yn y Maesgwyn Temperance Hotel, Pwllheli, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Awst 1925. Ond stori arall yw honno.
* Dim ond chwech a gyrhaeddodd, wedi i D.J.Williams golli ei drên.