Gordon Wilson, SNP 1938 – 2017- teyrnged gan Dafydd Wigley

Yn 79 mlwydd oed, bu farw cyn-arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban Gordon Wilson yn ddiweddar. Bu Gordon yn gyfaill mawr i Gymru. Mae Plaid Cymru’n estyn ein cydymdeimlad i’w weddw Edith a’i deulu, ac i’n cyfeillion yn yr Alban a’r tu draw. Ceir teyrnged yma gan ei gyfaill Dafydd Wigley a weithiodd gydag ef dros ein dwy wlad.

Gordon Wilson, SNP – teyrnged gan Dafydd Wigley

Roedd Gordon yn gyfaill mawr i Gymru ac yn genedlaetholwr i’r carn.

Cofiaf i’r ddau ohonon ni gyfarfod yn ysgol haf Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1965 pan fu’n Ysgrifennydd Cenedlaethol yr SNP, a bu’n ymweld â Chymru lawer dro.

Cafodd y ddau ohonon ni ein hethol i San Steffan ym Mis Chwefror 1974 a chydweithio drwy ddyddiau drycin Deddfau Datganoli 1978 a’r Refferenda yn 1979 pan rwystrodd y rheol anghyfiawn 40% yr Alban rhag ennill eu Cynulliad Cenedlaethol, er gwaethaf cefnogaeth y rhan fwyaf o’r bobl yn y wlad honno a bleidleisiodd.

Yn yr etholiad nesaf a ddilynodd gwymp llywodraeth James Callaghan, collodd yr SNP 9 o’u 11 sedd – gyda neb ond Gordon a Donald Stewart ar ôl i gydweithio gyda Dafydd Elis Thomas a minnau.

Aethon ni ymlaen i ddadlau’r achos dros ein dwy genedl, nes i Gordon golli ei sedd yn Dundee yn 1987. Erbyn hynny, roedd Margaret Ewing ac Andrew Welsh wedi adennill eu seddi, a chawson nhw gwmni Alex Salmond, gan arwain at yr ymgyrch a sicrhaodd ein dwy senedd yn y pendraw.

Bu Gordon yn berson allweddol, ar adeg dyngedfennol o dyfiant yr SNP yn blaid seneddol o bwys. Mae ar yr Alban ddyled enfawr iddo ac rydyn ni yng Nghymru yn cofio amdano.

Penblwydd Arbennig i Blaid Cymru ym Mro Waldo

 

Bydd Plaid Cymru’n nodi hanner can mlynedd lansio ei changen ym Maenclochog gyda noson ddathlu arbennig Nos Iau, 27 Ebrill (am 7:30pm yn Neuadd Gymuned Maenclochog).

Sefydlwyd y gangen yn sgil yr isetholiad enwog ym mis Gorffennaf 1966 pan gipiodd Gwynfor Evans y sedd gyntaf erioed i Blaid Cymru ennill yn San Steffan.

Bydd y noson yn dwyn i gof y dyddiau hynny, ond hefyd yn edrych ymlaen at y sialensiau newydd sy’n wynebu Sir Benfro a Chymru yn ystod yr 21ain ganrif, meddai Hefin Wyn, a fydd yn ymladd ar gyfer sedd ar y cyngor sir yn yr etholiadau ar 4 Mai.

“Dwi’n ymwybodol mai Bro Waldo yw Bro Maenclochog. Hau’r hedyn mwstard oedd WaldoWilliams pan safodd fel ymgeisydd seneddol cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro yn 1959” meddai Hefin Wyn.  “Mae’n bryd i’r hedyn mwstard ddwyn ffrwyth ym mro ei blentyndod.”

Bydd gwesteion yn cynnwys arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor sir, y Cyng. Michael Williams a chadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru Dafydd Williams. Bydd adloniant gan ddoniau lleol.

15 Ebrill 2017

 

DJ and Noëlle: Shaping the Blaid

Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n falch i gyhoeddi fersiwn estynedig o ddarlith Cynhadledd Wanwyn 2017 a draddodwyd ar Ddydd Gwener 3 Mawrth gan D. Hywel Davies.

Yn dwyn y teitl ‘DJ and Noëlle: Shaping the Blaid’, mae’r ddarlith yn edrych ar y rhan gref y bu Dr DJ Davies a Dr Noëlle Davies yn chwarae ar ddatblygiad Plaid Cymru.

Graddiodd Hywel Davies mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth a bu’n Fyfyriwr Ymchwil yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Mae’n gyn-olygydd y Merthyr Express a bu hefyd yn newyddiadurwr ac yn gynhyrchydd/gyfarwyddwr teledu gyda HTV/ITV Cymru a Ffilmiau’r Nant. Mae’i lyfr ‘The Welsh Nationalist Party, 1925-1945: A Call to Nationhood’ yn dal yn ffynhonnell glasurol ar sefydlu Plaid Cymru a degawdau cynnar y mudiad.

Ifor Jenkins 1927 – 2017

‘Welwn ni ddim mo’i debyg ‘to’

Arian byw o ddyn, y disgrifiad gore, dyn a wasanaethodd ei gymuned ar sawl lefel am gyfnod hir.

Roedd cannoedd yn yr angladd yn Eglwys Mihangel Sant, Tongwynlais, ar Fawrth 20, a dwsinau’n gwrando tu fas. Roedd Ifor George Jenkins wedi marw’n 90 oed a derwen gadarn wedi cwympo. Yn y gwasanaeth Band Dirwest Tongwynlais oedd yn cyfeilio, yr un roedd wedi ymuno ag e yn 1953 pan oedd yn canu’r cornet.
Ifor Jenkins arweiniodd ymgyrch i adnewyddu’r hen ffynnon

Cafodd ei eni a’i fagu yn Ffynnon Taf cyn mynd i Ysgol Ramadeg y Bechgyn Caerffili. Pan oedd yn llanc gwibiai yn ôl ac ymlaen ar feic yn cludo negeseuon i’r heddlu oedd yn yr orsaf fydd yn cael ei hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru.

Un diwrnod aeth i mewn i swyddfa recriwtio a phenderfynu ymuno â’r llynges. Os yw’r stori’n wir, yn lle derbyn cyfarwyddyd negododd Ifor fel y gallai ymuno â’r adran gyflenwi. Fe aeth i Ceylon ac ar ddiwedd y rhyfel fe gafodd gynnig aros yn y llynges ond fe ddaeth yn ôl am fod ei deulu’n bwysig.

Ar ôl y rhyfel fe oedd asgellwr chwimwth y tîm rygbi. Roedd yn gynghorydd Taf-Elái o 1973 tan 1991, fe a Gordon Bunn yn gwasanaethu’r ardal i’r Blaid cyn i Gerald Edwards ymuno â’r criw. Ymfalchïodd Ifor yn y ffaith ei fod yn Faer Taf-Elái yn 1991-2, yr aelod cyntaf o Blaid Cymru i ddala’r swydd.

Pan oedd yn gynghorydd roedd wedi gweithio’n galed yn gwella tai, yn dod o hyd i dai i bobol leol. Yr adeg honno roedd gan gynghorydd fwy o rym. Yn 1993 fe ddaeth yn gadeirydd Tai Hafod a Chymdeithas Gofal ac Atgyweirio (Pen-y-bont).

Un o’i hoff feysydd oedd addysg. Fe gynorthwyodd i sefydlu’r ysgol feithrin yn Ffynnon Taf. Fe ddaeth yn llywodraethwr Ysgol Gynradd Ffynnon Taf – roedd wedi bod yn ddisgybl ac yn gwybod ei hanes i gyd.

‘Fe o’dd Mistyr Ffynnon Taf,’ meddai’r cyn Cynghorydd Adrian Hobson, un o’i ffrindiau agosâ. ‘Ro’dd yn nabod pawb, yn creu argraff ar bobol ble bynnag o’dd e’n mynd.’

Ifor drefnodd lifoleuadau i’r clwb pêl-droed a diogelu adeilad y ffynnon. Roedd yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Crochendy Nantgarw a dadlau’n effeithiol o blaid ailagor y gwaith yn 1991. Roedd yn aelod o is-bwyllgor y clwb rygbi a chwarae rhan allweddol yn y broses adleoli. Cefnogodd y clwb bowlio i’r carn.

Fe ddaeth yn rheolwr Gwasg Ladycat ar Stad Ddiwydiannol Trefforest ac ar un adeg roedd yn rheolwr gwerthu a’i gwsmeriaid yn estyn o Gaerwysg i Birmingham a draw i orllewin Cymru. Mewn colegau yn Aberdâr a Phontypridd roedd yn ddarlithydd astudiaethau busnes.

‘Roedd yn llawn egni,’ meddai Adrian. ‘Wy ddim yn siŵr o ble da’th yr egni. Bydd y pentre’n dlotach hebddo fe.’

Oherwydd ei frwdfrydedd, ei ddyfalbarhad, ei gynhesrwydd a’i hiwmor roedd pob plaid yn ei barchu. ‘Ro’dd e’n ddyn agored iawn,’ meddai Adrian. ‘Os nag o’dd e’n cytuno â rhywbeth, fe fydde fe’n dweud yn syth. Ro’dd yn ddibynadwy.

‘Yn fwy na dim, ro’dd e’n onest ac yn egwyddorol. Dim byd mawreddog. Wy erio’d wedi cwrdd â rhywun fel Ifor. Welwn ni ddim mo’i debyg ‘to.’

Ein rhodd oedd dyn amryddawn.
Ein cur, heb ei ddur na’i ddawn.

Martin Huws

 

Darlith Syd Morgan Cymru a Chwyldro’r Pasg

Cymru a Chwyldro’r Pasg – Cenhadaeth Jack White yn 1916

Traddodwyd y ddarlith yn Saesneg gan Syd Morgan am 4yp Dydd Gwener, 21 Hydref yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Pafiliwn Llangollen.

Jack White

 

 

Wrth i ni nodi canmlwyddiant Chwyldro’r Pasg eleni, mae Cymru wedi canolbwyntio ar wersyll-garchar Frongoch. Fodd bynnag, mae ail gysylltiad rhwng y ddwy genedl. Mae hwn yn bwrw goleuni ar sut yr adweithiodd Llafur i’r Chwyldro, gan ddylanwadu’n sylweddol ar y canfyddiad gan Blaid Genedlaethol Cymru o Iwerddon a Llafur am ddegawdau. Ym Mis Ebrill 1916 daeth Jack White i Forgannwg ar genhadaeth i achub James Connolly rhag ei ddienyddio. Methodd; fe saethwyd Connolly yr un bore ag y cafodd White ei arestio.

 

Cynhaldledd Plaid Cymru Pafiliwn Llangollen

Atgofion Michael Williams Dinbych y Pysgod

Sgwrs gyda Michael Williams, Dinbych-y-pysgod

Michael Williams
Michael Williams

Mae’r Cynghorydd Michael Williams, Dinbych-y-pysgod, yn cynrychioli Ward y Gogledd ac yn arwain grŵp penderfynol o aelodau Plaid Cymru ar Gyngor Sir Penfro.  Yn y sgwrs hon gyda Chadeirydd Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams mae’n disgrifio’r newid a ddaeth i’w fywyd ar ôl iddo gytuno â’r diweddar Wynne Samuel i sefyll fel ymgeisydd y Blaid.

 

 

 

 

 

 

Howard Davies 1950 – 2016

COLLI CAWR O’R CWM:

 

Ysigwyd ei gyfeillion a thrigolion yr ardal o glywed am farwolaeth y cyn-gynghorydd Howard Davies, Cwrt Alun Lewis, ar bnawn dydd Llun, 12 Medi, yn Ysbyty Merthyr. Roedd yn 66 oed.

 

Perthynai Howard i un o deuloedd mwyaf adnabyddus Cwmaman a thu hwnt. Hen dad-cu iddo oedd y bardd gwlad Isaac Edmunds (Alaw Sylen), Abercwm-boi, y bu ei englynion yn britho am flynyddoedd bapurau Cymraeg y fro yr oes a fu (Y Gwladgarwr a’r Darian). Merch y bardd, a mam-gu Howard i bob pwrpas, oedd un o artistiaid enwocaf Cwmaman a Chwm Cynon ei dydd: gwraig a elwid gan bawb (yn ôl ffasiwn yr oes) yn ‘Madam Elizabeth Edmunds Price’. O’r un ach y tarddai un o farnwyr amlycaf yr 20G, yr Arglwydd Ustus Edmund Davies a anwyd yn Aberpennar.

 

Edmund Davies, fel cyfreithiwr ifanc, fu’n amddiffyn un o’r ‘Tri’ a losgodd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth, Llŷn, ym 1936 – achos a roddodd yr hwb mwyaf (medd rhai) i genedlaetholdeb Cymreig yr 20G. Ef hefyd, fel barnwr profiadol, a glywodd achos y Great Train Robbers ym 1963; ac ef a benodwyd gan y prif weinidog Harold Wilson i gadeirio’r Ymchwiliad a fu i achos Trychineb Aber-fan (a ddigwyddod ar y 21 Hydref, 1966 – union hannercan mlynedd yn ôl i’r mis hwn).

 

Yn naturiol, bu Howard yn falch o’r cysylltiadau hyn ac yn eu harddel yn yr enw canol, Edmund, a gafodd gan ei rieni Trevor a Nancy Davies. Bu ei dad-cu arall (Tomos Dafis ‘Drapwr’ i’r hen drigolion) yn löwr ac yn ddiacon yn Seion ochr-yn-ochr â thad-cu’r gohebydd hwn. Bu ein mamau yn gyfeillion pennaf ar hyd eu hoesau hefyd – fel y bu Howard a minnau gydol ein dyddiau tan ei farw. Cymaint felly nes bod llawer, pan oeddem yn blant (ac oherwydd tebygrwydd enwau), yn tybied taw brodyr oeddem. Ar lawer cyfri, buom; a diau hyn sy’n peri imi ing am un a fu yn gyfaill cyntaf fy oes.

 

Carai Howard Gwmaman a’i phobl. Bu’n rhan amlwg o fywyd yr ardal ar hyd ei fywyd. Fe’i codwyd yn Byron Street a Milton Street a – lawn cymaint – Seion: yn un o ‘gywion’ Idwal Rees a saint yr achos teilwng hwnnw. Anorfod felly, wedi sefydlu Ysgol Gymraeg Aberdâr ym 1949, y byddai Howard yn mynd iddi ym 1955 gan aeddfedu’n Gymro naturiol o waed ac awydd tan y diwedd.

 

Wedi iddo fynychu Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr (cyn oes Rhydfelen ac ysgolion tebyg), aeth i Goleg Hyfforddi Cyn-coed. Ond ni apeliai gyrfa athro iddo a gadawodd i ymuno a gwasanaeth Treth y Wlad yn Llanisien. Yno yr arhosodd nes iddo ymddeol ryw chwe blynedd yn ôl.

 

Os taw yng Nghaerdydd y bu ei draed weithiau, yng Nghwmaman y bu ei galon bob tro. Bu ganddo ddiddordeb affwysol mewn chwaraeon – paffio, reslo, ceffylau, moduro ac, yn arbennig, byd y bêl gron. Er nad oedd ef ei hun erioed yn fawr o chwaraewr ar y cae, ymroddodd at hybu pel-droed yng Nghwm Cynon a Chwmaman – lle byddai hynt FC Cwmaman bob amser yn denu ei bryd.

 

Bu’n ysgrifennydd ac yna’n gadeirydd y clwb am flynyddoedd di-ri; ac ef fu’n gwthio’n fwy na’r un i gael meysydd chwarae a chyfleusterau newydd i ieuenctid y cylch yng Nglynhafod (gan fynnu enw Cymraeg – ‘Canolfan Cwmaman’ – ar y cyfan).

 

Gwasanaethodd fel cynghorydd ardaloedd De Aberaman yn enw Plaid Cymru rhwng 1991-95 ac eto rhwng 2008 a 2012. Ar ddechrau’r ‘90au, fe’i penodwyd yn llywodraethwr ac yna’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Glynhafod: swydd a ddaliai tan ddiwrnod ei farw (er na fu modd iddo fod mor gyson â chynt yn eu cyfarfodydd yn ystod tri mis olaf ei fywyd). Bu’r swydd hon wrth fodd ei galon, ac uniaethai yn ddi-feth ag athrawon, rhieni a phlant yr ysgol gan roi o’i orau iddynt am chwarter canrif.

 

Dirywiodd iechyd Howard yn fawr yn ystod y pum mlynedd diwethaf a bu teithio ‘nôl ac ymlaen i ysbyty yn rhan annatod o’i fywyd. Cafodd gyfoeth o gefnogaeth gan ei gyfeillion – nid yn unig ar gyfnodau heulog ond pan fu’n fain arno hefyd. Dylid nodi enwau Philip a Beryl Northey, Alan Hoare, Gwyneth Edwards ac eraill mewn aur am eu ffyddlondeb di-ffael iddo dros gyfnod maith.

 

Cynhaliwyd angladd Howard yn Amlosgfa Llwydcoed fore Gwener, 23 Medi, gyda lluaws yn arddel parch ac yn talu’r gymwynas olaf iddo yno.

 

Fy mraint innau – er mor anodd – fu traddodi teyrnged o galon iddo: teyrnged a leisir hefyd yn yr englynion hyn…

 

DLD.

 

Cymru a Chwyldro’r Pasg – Darlith y Gynhadledd

Cymru a Chwyldro’r Pasg – Cenhadaeth Jack White yn 1916

Traddodir y ddarlith yn Saesneg gan Syd Morgan am 4yp Dydd Gwener, 21 Hydref yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Pafiliwn Llangollen.

Jack WhiteWrth i ni nodi canmlwyddiant Chwyldro’r Pasg eleni, mae Cymru wedi canolbwyntio ar wersyll-garchar Frongoch. Fodd bynnag, mae ail gysylltiad rhwng y ddwy genedl. Mae hwn yn bwrw goleuni ar sut yr adweithiodd Llafur i’r Chwyldro, gan ddylanwadu’n sylweddol ar y canfyddiad gan Blaid Genedlaethol Cymru o Iwerddon a Llafur am ddegawdau.

Ym Mis Ebrill 1916 daeth Jack White i Forgannwg ar genhadaeth i achub James Connolly rhag ei ddienyddio. Methodd; fe saethwyd Connolly yr un bore ag y cafodd White ei arestio. Mae’r cyflwyniad hwn yn edrych ar cri de cœur White: “Cafodd Connolly ei saethu gan fintai saethu Brydeinig a llofruddiwyd sosialaeth yn Iwerddon gyda chydsyniad a chymorth negyddol sosialwyr asgell-chwith Prydeinig”.

 

Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, 4pm Dydd Gwener 21 Hydref 2016

Cynhadledd Plaid Cymru Pafiliwn Llangollen

Hanes Plaid Cymru