‘Welwn ni ddim mo’i debyg ‘to’
Arian byw o ddyn, y disgrifiad gore, dyn a wasanaethodd ei gymuned ar sawl lefel am gyfnod hir.
Roedd cannoedd yn yr angladd yn Eglwys Mihangel Sant, Tongwynlais, ar Fawrth 20, a dwsinau’n gwrando tu fas. Roedd Ifor George Jenkins wedi marw’n 90 oed a derwen gadarn wedi cwympo. Yn y gwasanaeth Band Dirwest Tongwynlais oedd yn cyfeilio, yr un roedd wedi ymuno ag e yn 1953 pan oedd yn canu’r cornet.
Ifor Jenkins arweiniodd ymgyrch i adnewyddu’r hen ffynnon
Cafodd ei eni a’i fagu yn Ffynnon Taf cyn mynd i Ysgol Ramadeg y Bechgyn Caerffili. Pan oedd yn llanc gwibiai yn ôl ac ymlaen ar feic yn cludo negeseuon i’r heddlu oedd yn yr orsaf fydd yn cael ei hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru.
Un diwrnod aeth i mewn i swyddfa recriwtio a phenderfynu ymuno â’r llynges. Os yw’r stori’n wir, yn lle derbyn cyfarwyddyd negododd Ifor fel y gallai ymuno â’r adran gyflenwi. Fe aeth i Ceylon ac ar ddiwedd y rhyfel fe gafodd gynnig aros yn y llynges ond fe ddaeth yn ôl am fod ei deulu’n bwysig.
Ar ôl y rhyfel fe oedd asgellwr chwimwth y tîm rygbi. Roedd yn gynghorydd Taf-Elái o 1973 tan 1991, fe a Gordon Bunn yn gwasanaethu’r ardal i’r Blaid cyn i Gerald Edwards ymuno â’r criw. Ymfalchïodd Ifor yn y ffaith ei fod yn Faer Taf-Elái yn 1991-2, yr aelod cyntaf o Blaid Cymru i ddala’r swydd.
Pan oedd yn gynghorydd roedd wedi gweithio’n galed yn gwella tai, yn dod o hyd i dai i bobol leol. Yr adeg honno roedd gan gynghorydd fwy o rym. Yn 1993 fe ddaeth yn gadeirydd Tai Hafod a Chymdeithas Gofal ac Atgyweirio (Pen-y-bont).
Un o’i hoff feysydd oedd addysg. Fe gynorthwyodd i sefydlu’r ysgol feithrin yn Ffynnon Taf. Fe ddaeth yn llywodraethwr Ysgol Gynradd Ffynnon Taf – roedd wedi bod yn ddisgybl ac yn gwybod ei hanes i gyd.
‘Fe o’dd Mistyr Ffynnon Taf,’ meddai’r cyn Cynghorydd Adrian Hobson, un o’i ffrindiau agosâ. ‘Ro’dd yn nabod pawb, yn creu argraff ar bobol ble bynnag o’dd e’n mynd.’
Ifor drefnodd lifoleuadau i’r clwb pêl-droed a diogelu adeilad y ffynnon. Roedd yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Crochendy Nantgarw a dadlau’n effeithiol o blaid ailagor y gwaith yn 1991. Roedd yn aelod o is-bwyllgor y clwb rygbi a chwarae rhan allweddol yn y broses adleoli. Cefnogodd y clwb bowlio i’r carn.
Fe ddaeth yn rheolwr Gwasg Ladycat ar Stad Ddiwydiannol Trefforest ac ar un adeg roedd yn rheolwr gwerthu a’i gwsmeriaid yn estyn o Gaerwysg i Birmingham a draw i orllewin Cymru. Mewn colegau yn Aberdâr a Phontypridd roedd yn ddarlithydd astudiaethau busnes.
‘Roedd yn llawn egni,’ meddai Adrian. ‘Wy ddim yn siŵr o ble da’th yr egni. Bydd y pentre’n dlotach hebddo fe.’
Oherwydd ei frwdfrydedd, ei ddyfalbarhad, ei gynhesrwydd a’i hiwmor roedd pob plaid yn ei barchu. ‘Ro’dd e’n ddyn agored iawn,’ meddai Adrian. ‘Os nag o’dd e’n cytuno â rhywbeth, fe fydde fe’n dweud yn syth. Ro’dd yn ddibynadwy.
‘Yn fwy na dim, ro’dd e’n onest ac yn egwyddorol. Dim byd mawreddog. Wy erio’d wedi cwrdd â rhywun fel Ifor. Welwn ni ddim mo’i debyg ‘to.’
Ein rhodd oedd dyn amryddawn.
Ein cur, heb ei ddur na’i ddawn.
Martin Huws



Perthynai Howard i un o deuloedd mwyaf adnabyddus Cwmaman a thu hwnt. Hen dad-cu iddo oedd y bardd gwlad Isaac Edmunds (Alaw Sylen), Abercwm-boi, y bu ei englynion yn britho am flynyddoedd bapurau Cymraeg y fro yr oes a fu (Y Gwladgarwr a’r Darian). Merch y bardd, a mam-gu Howard i bob pwrpas, oedd un o artistiaid enwocaf Cwmaman a Chwm Cynon ei dydd: gwraig a elwid gan bawb (yn ôl ffasiwn yr oes) yn ‘Madam Elizabeth Edmunds Price’. O’r un ach y tarddai un o farnwyr amlycaf yr 20G, yr Arglwydd Ustus Edmund Davies a anwyd yn Aberpennar.
Aneurin oedd William Aneurin Richards i bawb, heblaw ei wraig. Bill oedd e iddi hi. Roedd yn Uwch-beiriannydd gyda’r Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dreulio’r rhan fwyaf o’i oes yng Ngwent, er mai brodor o Gapel Hendre oedd e’n wreiddiol. Roedd yn Gynghorydd Sir yn Islwyn rhwng 1973 a 1996 ac yng Ngwent rhwng 1977 a 1981. Fe wnaeth e sefyll fel ymgeisydd Seneddol yn Abertyleri yn y ddau etholiad cyffredinol a ddigwyddodd yn 1974, a hefyd yn Islwyn ar gyfer 1983 a 1987.
Ymroddai at ei chymuned ac at wleidydda, gan sefyll droeon yn enw Plaid Cymru i’w hethol i hen Gyngor Bwrdeisdref Cwm Cynon. Er i’r Blaid bryd hynny roi tîmau cryf gerbron a threfnu yn egnïol yn wardiau Aberaman a De Aberaman, Gwyneth, gan amla’ oedd ymgeisydd blaen yr ymdrech a’i hwyneb cyhoeddus amlycaf. Cymaint felly nes iddi gael ei ‘nabod gan lawer tan y diwedd fel ‘Gwyneth Plaid’.