Hanesion am yr Alban 2014?

2014 Leanne Alban Aeth ugeiniau os nad cannoedd o aelodau o Blaid Cymru i’r Alban i helpu’r frwydr dros annibyniaeth.  Fuoch chi yn un ohonyn nhw?  Os felly oes gyda chi hanesyn bach i ni ei roi ar gof a chadw ar wefan Hanes Plaid Cymru (www.hanesplaidcymru.org)?  Byddai croeso i nodyn byr i ddweud lle aethoch chi, rhyw anecdote a llun os oes un i’w cael.  Danfoner at Dafydd Williams (daitenby@gmail.com).

Cofio DJ

DJ Williams AbergwaunEisteddfod 2014 – Pabell y Cymdeithasau 2 am 3:30pm, Ddydd Mercher, 6 Awst

COFIO DJ AR Y MAES

Cafwyd cyfle i ddathlu bywyd un o awduron Cymraeg mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.

Traddodwyd darlith goffa ar fywyd D.J. Williams (1885-1970), llenor a chenedlaetholwr amlwg a aned ym Mhenrhiw, ym mhlwyf Llansawel, Sir Gaerfyrddin.

Yn un ar bymtheg oed aeth i chwilio am waith ym maes glo de Cymru, gan weithio dan ddaear cyn troi at y byd addysg a mynd ymlaen at yrfa lenyddol ddisglair.

Roedd yn genedlaetholwr brwd ac yn un o’r bobl a sefydlodd Blaid Cymru yn 1925. Ynghyd â Saunders Lewis a Lewis Valentine, fe losgodd yr ysgol fomio ym Mhenyberth a dioddef cyfnod dan glo yn Wormwood Scrubs.

Roedd cyflwr ariannol Plaid Cymru yng nghanol y 1960au yn echrydus, ac mae’n amheus a fyddai wedi gallu ymladd yr etholiad cyffredinol yn 1966 oni bai i D.J. werthu Penrhiw sef yr Hen Dŷ Ffarm yn ei gyfrol adnabyddus, a rhoi’r arian i Blaid Cymru.

Cynheliwyd y ddarlith ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 3:30pm, Ddydd Mercher, 6 Awst dan nawdd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru.  Y darlithydd oedd Emyr Hywel, sydd wedi ysgrifennu cofiant DJ, ‘Y Cawr o Rydcymerau’.

Yn enedigol o Flaenporth, Ceredigion bu Emyr Hywel yn brifathro Ysgol Tre-groes hyd at ei ymddeoliad.  Astudiodd fywyd a gwaith DJ Williams ar gyfer gradd M Phil. ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a chyhoeddwyd sawl llyfr o’i storïau a’i farddoniaeth i blant.

Amcanion y Gymdeithas yw hybu trafodaeth, gwybodaeth ac ymchwil am hanes sy’n ymwneud â Phlaid Cymru ac i ehangu gwybodaeth am bobl a digwyddiadau a gyfranodd at hanes gyfansoddiadol y wlad cyn 1925.

Cyswllt:  Dafydd Williams (07557) 307667

Linc i’r ddarlith  –  D.J. Y Cawr o Rydcymerau – Hanes Plaid Cymru

2014 Darlith DJ Williams

 

 

 

Marian Morris

Cynghorydd a thân yn ei bol
Bu farw Marian Morris aelod blaenllaw o Blaid Cymru ym Merthyr Tydfil ym mis Rhagfyr 2013.Marian Morris

Bu’n aelod ffyddlon o’r Blaid ers sawl blwyddyn, ac yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sir Merthyr Tydfil yn ystod y cyfnod pan oedd grŵp y Blaid yn llywodraethu dan arweinyddiaeth Emrys Roberts.

Am nifer o flynyddoedd gwasanaethodd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol a bu’n Drysorydd Cangen Merthyr.

Yn ei deyrnged iddi ar ran Cangen Merthyr a Rhymni dywedodd Brian Thomas:  “Des i fel sawl aelodau eraill i adnabod Marian gyntaf yn y 1970au pan ddaeth y Blaid yn rym gwleidyddol o bwys yny dref.  Gydag aelodau eraill, fel Emrys, Dafydd Wigley, Gareth a Linda Foster, Gwyn Griffiths (fu er tristwch farw’n ddiweddar) a fy mrawd Geoff, llwyddodd i dorri gafael haearnaidd y Blaid Lafur yn etholiadau’r cyngor ym muddugoliaeth enwog 1979.

Roedd Marian yn ffrind annwyl i ni gyd a chawsom aml i bwyllgor cangen yn ei hystafell flaen gyda sawl cwpanaid o de, coffi a bisgedi.  Gweithiodd yn ddiflino i’w Heglwys leol sef Eglwys Quar yn agos i’w chartref.  Bu hefyd yn aelod o CND am flynyddoedd lawer.

Dylem oll fod yn ddiolchgar i Marian am ei chyfeillgarwch, haelioni ac am ei chariad at Gymru a’r iaith Gymraeg.”

 

Teyrnged Emrys Roberts

Mae gan Margret a minnau atgofion cynnes iawn am Marian o’n hamser ym Merthyr yn y saithdegau. Roedd hi’n fenyw dawel a diymhongar a chanddi gariad mawr at Gymru. Doedd hi byth yn chwilio am na sylw na chlod, ond yn hytrach yn chwilio am waith. Roedd hi’n weithwraig ymarferol benigamp ac yn benderfynol o wthio’r maen i’r wal. Roedd hi’n f’atgoffa yn aml am stori’r crwban chwedlonol a enillodd y ras yn erbyn yr ysgyfarnog.

Pan ddaeth Margret a minnau i Ferthyr, cawsom groeso mawr gan bawb (wel, nid pawb o’r cynghorwyr Llafur efallai!) a phawb yn addo pob math o gymorth inni. Ac fe gafodd y Blaid gymorth mawr gan nifer sylweddol o bobl. Ond, ysywaeth, yn y byd sydd ohoni nid pawb sy’n ei chael hi’n hawdd cadw eu haddewidion. Nid felly Marian. Os oedd Marian yn rhoi ei gair, roedd Marian yn gwireddu ei gair, ac yn cyflawni llawer mwy nag a addawyd.

Er yn dawel, roedd gan Marian haearn yn ei gwythiennau – yn ffyddlon, yn weithgar ac yn llawn dyfalbarhad. Diolch Marian am y rhinweddau hynny.

Mawr yw’n dyled i Marian
A haearn yn ei hanian;
Diflino dyfalbarhad
Er mwyn gweld rhyddid i’w gwlad.

 

Dathlu Rhan Penarth Wrth Ffurfio Plaid Cymru

Cyfarfod Penarth 7 Ionawr 2014
Cadeirydd Cangen Penarth Adrian Roper, Alun Ffred Jones AC, yr Athro Richard Wyn Jones, Dafydd Williams

Daeth cant o bobl i gyfarfod arbennig i gofio 90ain pen-blwydd o’r cyfarfod cyntaf o’r Mudiad Cymreig, grŵp a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru – gan synnu’r gŵr gwadd, yr Athro Richard Wyn Jones, un o brif ysgolheigion ym maes gwleidyddiaeth.

Fe gynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol, cudd yn Bedwas Place, Penarthar Ionawr 7, 1924, ac ymhlith y rhai fu yno bryd hynny oedd y darlithydd a dramodydd, Saunders Lewis, a drigai ym Mhenarth dros flynyddoedd lawer.

Yn ystod y digwyddiad y mis yma, siaradodd yr Athro Richard Wyn Jones am bwysigrwydd cyfarfodydd y grŵp a’u dylanwad wrth ddatblygu cysylltiadau gyda chenedlaetholwyr yng ngogledd Cymru a sefydliad swyddogol Plaid Cymru’r flwyddyn ddilynol.

Eglurodd sut y daeth y polisïau a luniwyd gan y grŵp yn bolisïau i Blaid Cymru ei hun yn ei blynyddoedd cyntaf.

Yn ogystal â Saunders Lewis, yn bresennol yn y cyfarfod hanesyddol cyntaf oedd yr hanesydd, Ambrose Bebb, a pherchnogion y tŷ yn Bedwas Place, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig, G. J. Williams a’i wraig Elizabeth.

Trefnwyd y dathliad diweddar gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o’r Blaid, ac ymhlith y cant a ddaeth oedd criw teledu.

Clywodd ystafell dan ei sang yn y Windsor Arms groeso i’r Athro Jones, aelodau a chefnogwyr y Blaid a thrigolion lleol â diddordeb yn hanes gwleidyddiaeth ym Mhenarth gan Gadeirydd y Gangen leol Adrian Roper.

Cadeirydd y cyfarfod oedd  Alun Ffred Jones, sy’n Aelod Cynulliad ac yn ŵyr i’r Parchedig Ffred Jones, a ymunodd â’r grŵp ar ôl ei gyfarfod cyntaf.

Rhoddodd Cadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams, bleidlais o ddiolch i’r siaradwyr a’r trefnwyr.

Sain Darlith Richard Wyn Jones-

Ymhlith y gynulleidfa yn y dathliad oedd ymgeiswyr San Steffan a Chynulliad y Blaid ar gyfer De Caerdydd a Phenarth, Ben Foday a Dr Dafydd Trystan Davies, a etholwyd yn gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru’r llynedd.

 

Y Newyddion ar S4C

Arddangosfa Menywod Plaid Cymru

Yng Nghynhadledd y Blaid,, Hydref 2013, roedd Yvonne Balakrishnan ar ran y Gymdeithas Hanes wedi paratoi arddangosfa o Ferched ym Mhlaid Cymru yn ystod y Blynyddoed Cynnar.

ArddangosfaMenywod072b

 

Arddangosfa Menywod

 

Ymhlith y merched a gofnodir yn yr arddangosfa mae – 

Cassie Davies, Tegwen Clee, Eileen Beasley, Nesta Roberts

Priscie Roberts, Mai Roberts, Efelyn Williams, Kate Roberts

Dr Ceinwen H. Thomas, Cathrin Huws, Caerdydd, Jennie Gruffydd

Nans Jones, Nora Celyn Jones, Llinos Roberts, Lerpwl

Dyma rhai o’r protreadau – 

Rôl Gudd Penarth yn Hanes Cymru

Rôl gudd Penarth yn hanes Cymru 

Nos Fawrth, 7fed Ionawr 2014, Windsor Arms, Windsor Rd. Penarth am 7.30pm.  

Darlith gan Athro Richard Wyn Jones  a bwffe i gofio yr achlysur 90 mlynedd yn ôl – cyfarfod cyntaf ‘Mudiad Cymreig’.  

Tocyn ar gael am £10.00 . Anfonwch eich siec at Alan Jobins , 47, Wingfield Rd  Eglwys Newydd , Caedydd  CF141NJ.

Saunders Lewis Ambrose Bebb

Bydd noson arbennig yn nodi 90ain pen-blwydd cyfarfod cyntaf Y Mudiad Cymreig, a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru’r flwyddyn ganlynol, i’w gynnal ym Mhenarth ym Mis Ionawr.

Cynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol yn 11, Bedwas Place, Penarth ar noson Ionawr 7fed, 1924, ac fe fydd y digwyddiad coffa yng ngwesty’r Windsor Arms Nos Fawrth, Ionawr 7 (am 7.30pm).

Trefnir ar y cyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o’r Blaid.

Y gŵr gwadd fydd yr Athro Richard Wyn Jones, sy’n hanesydd, sylwebydd gwleidyddol a darlledwr o fri.

Yn y cyfarfod yn 1924, dechreuodd grŵp bychan o genedlaetholwyr dan arweiniad y darlithydd a dramodydd Saunders Lewis lunio polisïau ac amcanion oedd â’r nod o achub Cymru rhag difodiant diwylliannol a gwleidyddol.

Yn ogystal â Saunders Lewis, mynychwyd y cyfarfod cyntaf gan yr hanesydd Ambrose Bebb a pherchnogion y tŷ, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig G. J. Williams a’i wraig, Elizabeth.

Mewn cyfarfod diweddarach ar 5 Chwefror, ymunodd D.J. Williams a Ben Bowen Thomas ac ym Mis Mawrth daeth gweinidog o Dreorci, y Parchedig Ffred Jones, tad-cu canwr gwerin a chyn-Lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan a’r Aelod Cynulliad Alun Ffred Jones, fydd yn cadeirio’r cyfarfod pen-blwydd.

Bu’r grŵp yn cwrdd yn gyfrinachol drwy gydol 1924 tra fo grŵp arall o genedlaetholwyr yn cwrdd yng Ngwynedd tua’r un adeg.

Yn gynnar yn 1925, cysylltodd arweinydd y grŵp gogleddol, H.R. Jones, â Saunders Lewis i’w wahodd i helpu wrth greu plaid wleidyddol newydd.  Fe gadwodd y ddwy garfan mewn cysylltiad agos ac ar Awst 5, 1925, teithiodd Mr Lewis a’r Parch Ffred Jones i Bwllheli i ymuno ag H.R. Jones a thri arall – y Parchedig Lewis Valentine, y gwyddonydd Moses Griffiths a’r saer D.E. Williams – mewn cyfarfod i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn fudiad cenedlaethol i Gymru.

Cafodd rhai o’r polisïau a luniwyd ym Mhenarth gan y Mudiad Cymreig eu rhoi o’r neilltu ers llawer dydd, ond daeth ei weledigaeth o blaid annibynnol i Gymru ei gwireddu, gyda’r bwriad penodol, yng ngeiriau D.J. Williams, o roi i Gymru, yng nghyflawnder amser, hunanlywodraeth a’i senedd ei hun, ynghyd â holl freintiau cenedl rydd.

Mae modd olrhain dadeni Cymru yn genedl hunanlywodraethol i raddau helaeth yn ôl i’r trafodaethau cudd hynny yn Bedwas Place yn 1924.

Gobeithir y bydd y rhai yn y digwyddiad coffaol yn cynnwys disgynyddion prif aelodau’r Mudiad Cymreig yn ogystal â chynrychiolwyr o Gangen Pwllheli o Blaid Cymru.

Ceir tocynnau (£10 y pen i gynnwys bwffe) oddi wrth Rowland Davies o Gangen Penarth, ardbear@btinternet.com neu (029) 20702603 a 07769 195025, neu oddi wrth Alan Jobbins o Gymdeithas Hanes Cymru, asjobbins@btinternet.com

neu (029) 20623275 a 07790 868686.

 

2013 YCymro Penarth

Hanes Plaid Cymru