Cymeriad diddorol, unigryw oedd Dewi Wynne Hughes Thomas – er taw âDewiâ yn unig fyddaiân ddigon i bawb yn Aberdar ar un adeg, ac ar Hirwaun yn benodol, wybod yn syth am bwy y byddech yn sĂ´n.
Feâi ganed yng Nghwmbach ar 2 Mawrth, 1925 i rieni oedd ââu gwreiddiau (fel cynifer bryd hynny) yng ngorllewin Cymru: gyda theulu ei dad yn hanu o Sir Benfro a theulu ei fam yn tarddu o Bontrhydfendigaid, Ceredigion. A gellid dweud â chryn wirionedd nad oedd Dewi ei hun heb arlliwâr gwladwr ar ei iaith, ei osgo aâi Gymreictod.
Feâi codwyd o fewn teulu o Fedyddwyr a fynychai capel Bethania, Cwmbach cyn i Dewi ei hun ymaelodi yn Ramoth ar Ă´l iddo symud i Hirwaun i fyw, a chyn iddo, maes o law, ymuno ââr Eglwys Gatholig. Nid ef oedd yr unig Gymro Cymraeg i gymryd y cam annisgwyl hwn gan fod eraill oâr ardal (Dewi Davies, Heol-y-felin; Ieuan Wyn Jones, Penrhiwceiber; Mair Owen, Cwmaman) wedi gwneud yn debyg oâi flaen. Ond daliai i fod yn gam digon prin yn y ganrif ddiwethaf iâw wneud yn neilltuol.
Aeth Dewi i Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberdâr cyn mynd iâr RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yno, hyfforddodd fel mordwywr (navigator). Wediâr Rhyfel, ail-hyfforddodd fel syrfĂŤwr gydaâr NCB yn yr Ysgol Fwyngloddio yn Nhrefforest a aeth yn Brifysgol De Cymru wedyn. Ym 1949, priododd ââi wraig Josie, un o deulu Susan a Michael Burke, Hirwaun a ganed iddynt ferch, Madeleine, a godwyd yn Gymraes oâr iawn ryw.
Wedi cyfnod gydaâr NCB, gweithiai Dewi fel syrfĂŤwr i gwmni John Laing ar sawl cywaith mawr a fu ar droed yn Lloegr yn ystod y 1950au, gan gynnwys Atomfa Sizewell, y Bull Ring, Birmingham, aâr M1. Cofiai Madeleine ei thad yn ei gyrru hi aâi mam ar hyd rhan oâr draffordd honno y noson cyn iddi gael ei hagor yn swyddogol gan y Frenhines yn Nhachwedd 1959 !
Symudodd Dewi aâi deulu yn Ă´l i Gymru ddiwedd 1959 gan ymgartrefu yn Aberhonddu. Yno, a than ei ymddeol, gweithiai fel syrfĂŤwr o fewn llywodraeth leol, gan gynnwys i gynghorau Brycheiniog, Morgannwg, Abertawe ac Aberdâr (neu Gwm Cynon fel y daeth i fod ym 1974). Ond bu ei orwelion yn ehangach naâi waith dyddiol yn unig; a thraân byw yn Aberhonddu ddechrauâr â60au, cymerodd gam arall aâi osododd ar wahan i relyw ei gyfoedlion â hyd yn oed ei gyd-Gymry. Ymunodd â Phlaid Cymru. Nid oedd Dewi yn un i gelu barn na chuddio egwyddor pe bai argyhoeddiad yn ei daro.
Ymunodd ââr Blaid cyn iâr fath beth dyfuân gyffredin fel y mae bellach. Dyma gyfnod cyn is-etholiad Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin (1966), cynnwrf etholiadol y â60au aâr â70au ac ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd, maes o law, at senedd (o fath) i Gymru a chodi statws y Gymraeg. Yn hyn o beth, gellid dweud yn deg y bu Dewi yn un o gnewyllyn o arloeswyr â yn sicr yn yr ardaloedd yma â a heriaiâr Blaid Lafur yn ei chaerau pan nad oedd modd disgrifioâr fath weithred ond fel âtalcen go galedâ !
Ond dyna sut un ydoedd: yn eirias dros y Gymraeg a thros yr hyn a gredai oedd er lles Cymru aâi phobl. Nid llugoer mohono mewn dim a wnai !
Ar symud i Tudor Tce., Hirwaun, ym 1963, aeth yn gynghorydd yn enwâr Blaid ar Gyngor Gwledig y Rugos (peth tra anghyffredin ar y pryd); ac ym 1964, safodd fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Aberdâr (fel yâi gelwid ar y pryd). Er iddo ennill ond 2,723 pleidlais (7.2%) o gymharu ââr 29,106 (77.4%) a gafodd Arthur Probert iâr Blaid Lafur, gwnaeth ei farc yn anrhydeddus: cadwodd ernes y Blaid (peth digon prin bryd hynny) ac aeth heibio iâr 2,165 a gafodd ei gyfaill aâi gyd-Aberdariad, Trefor Morgan, yn etholaeth anos fyth Brycheiniog a Maesyfed.
Gosododd sylfaen i eraill adeiladu arni o gofio taw ymgyrch 1964 oedd y gyntaf erioed i mi, fel glaslanc 16 oed – ac eraill y gallwn eu henwi – ymuno ynddi ar ran Plaid Cymru. Mwyn ywâm cof o droi i fyny yn âswyddfaâ etholiad y Blaid am y tro cyntaf a chael Dewi Thomas a Ted Walters yn cymryd yn garedig ataâi gan ddweud âDera manâyn, âachâan, i ni ddyngos iti beth i âneudâ wrth baratoi taflenni iâw dosbarthu !
Daliai Dewi i weithio fel syrfĂŤwr a bu wrthiân helpu gosod yr A465 newydd (âFfordd Blaenauâr Cymoeddâ) a agorwyd ym 1964. Gweithiai am flynyddoedd fel syrfĂŤwr ysgolion a meysydd chwarae i awdurdodau addysg y cyffiniau ac ymrodd iâr gymuned y buân byw ynddi gan weithredu fel warden Clwb Ieuenctid y Rugos, clerc Cyngor Plwyf Penderyn ac fel aelod ffyddlon Cymrodorion Aberdâr.
Ym 1979, priododd ei ferch Madeleine (cyfreithiwr erbyn hynny) â Neil Bidder a ganwyd iddynt ddau fab, Rhys a Patrick, yn y man. Gyda hyn, daeth Dewi a Josie yn dad-cu a mam-gu balch. Ymhen ychydig, ac yntau yn ei chwedegau, penderfynodd Dewi droi at yr Eglwys Gatholig fel gweddill ei deulu. Er bod hyn yn gam annisgwyl i rai, ymrodd yn ddidwyll iâw eglwys newydd. Diddorol, wrth fynd heibio, yw nodi bod Madeleine â a fagwyd yn Gatholig â yn un o arweinwyr ac ymddiriedolwyr Y Cylch Catholig: mudiad yn yr Eglwys Babyddol syân anelu at godi statws a defnydd y Gymraeg oddi mewn iâr cymundeb Catholig.
Wedi iddo ymddeol oddeutu 1990, penderfynodd Dewi a Josie symud i Gaerdydd i fod yn nes at eu merch aâi theulu yno. Cymerai Dewi bob cyfle i chwarae tenis a rygbi gydaâi Ĺľyrion; ond, o dipyn i beth, aeth Josie dan lach afiechyd yn ystod deng mlynedd olaf ei hoes. Yn dilyn ei marwolaeth, cafodd Dewi rai blynyddoedd o deithioâr byd â iâr Swisdir, Sbaen ac UDA â cyn iddo ddechrau colli ei olwg wrth heneiddio. Bu rhaid iddo hefyd golli rhan o un goes ac aeth i fyw mewn gofal yng nghartref Dyfryn Ffrwd, Nantgarw â lle (fel y dywed ei Ĺľyr Rhys) y rhoddodd Dewi âwersi dwys yn y Gymraeg iâr staff yn gyfnewid am y gofal a gaiâ !
Bu farw Dewi yn dawel, yn 90 oed, yng nghartref Dyffryn Ffrwd ar yr 28 Rhagfyr 2015 a chynhaliwyd offeren requiem iddo yn Eglwys Sant Therese de Lisieux, Hirwaun ar ddydd Llun, 11 Ionawr, 2016 gyda chladdedigaeth ym mynwent Aberdâr wedyn.
Yn un oâr gwasanaethau Cymreiciaf a gaed yn yr eglwys honno, maeân debyg, darllenwyd yn Gymraeg gan ei Ĺľyr, Patrick, a thraddodwyd teyrnged iâw dad-cu gan Rhys: y naill Ĺľyr yn athro yn Llundain aâr llall yn economegydd gyda banc canolog UDA, y Federal Reserve, yn San Francisco. Canwyd Calon Lân ar ddechrauâr offeren a Dros Gymruân Gwlad iâw diweddu: dau emyn a grynhodd cymaint a nodweddai fywyd anrhydeddus a chyfraniad gwerthfawr Dewi Wynne Thomas, Hirwaun, gĹľr y bu yn fraint ei ânabod.
(Carwn ddiolch i Madeleine am ei chymorth wrth baratoiâr ysgrif hon).
DLD.
                                                                                                                                     Clochdar-276: