Rôl Gudd Penarth yn Hanes Cymru

Rôl gudd Penarth yn hanes Cymru 

Nos Fawrth, 7fed Ionawr 2014, Windsor Arms, Windsor Rd. Penarth am 7.30pm.  

Darlith gan Athro Richard Wyn Jones  a bwffe i gofio yr achlysur 90 mlynedd yn ôl – cyfarfod cyntaf ‘Mudiad Cymreig’.  

Tocyn ar gael am £10.00 . Anfonwch eich siec at Alan Jobins , 47, Wingfield Rd  Eglwys Newydd , Caedydd  CF141NJ.

Saunders Lewis Ambrose Bebb

Bydd noson arbennig yn nodi 90ain pen-blwydd cyfarfod cyntaf Y Mudiad Cymreig, a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru’r flwyddyn ganlynol, i’w gynnal ym Mhenarth ym Mis Ionawr.

Cynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol yn 11, Bedwas Place, Penarth ar noson Ionawr 7fed, 1924, ac fe fydd y digwyddiad coffa yng ngwesty’r Windsor Arms Nos Fawrth, Ionawr 7 (am 7.30pm).

Trefnir ar y cyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o’r Blaid.

Y gŵr gwadd fydd yr Athro Richard Wyn Jones, sy’n hanesydd, sylwebydd gwleidyddol a darlledwr o fri.

Yn y cyfarfod yn 1924, dechreuodd grŵp bychan o genedlaetholwyr dan arweiniad y darlithydd a dramodydd Saunders Lewis lunio polisïau ac amcanion oedd â’r nod o achub Cymru rhag difodiant diwylliannol a gwleidyddol.

Yn ogystal â Saunders Lewis, mynychwyd y cyfarfod cyntaf gan yr hanesydd Ambrose Bebb a pherchnogion y tŷ, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig G. J. Williams a’i wraig, Elizabeth.

Mewn cyfarfod diweddarach ar 5 Chwefror, ymunodd D.J. Williams a Ben Bowen Thomas ac ym Mis Mawrth daeth gweinidog o Dreorci, y Parchedig Ffred Jones, tad-cu canwr gwerin a chyn-Lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan a’r Aelod Cynulliad Alun Ffred Jones, fydd yn cadeirio’r cyfarfod pen-blwydd.

Bu’r grŵp yn cwrdd yn gyfrinachol drwy gydol 1924 tra fo grŵp arall o genedlaetholwyr yn cwrdd yng Ngwynedd tua’r un adeg.

Yn gynnar yn 1925, cysylltodd arweinydd y grŵp gogleddol, H.R. Jones, â Saunders Lewis i’w wahodd i helpu wrth greu plaid wleidyddol newydd.  Fe gadwodd y ddwy garfan mewn cysylltiad agos ac ar Awst 5, 1925, teithiodd Mr Lewis a’r Parch Ffred Jones i Bwllheli i ymuno ag H.R. Jones a thri arall – y Parchedig Lewis Valentine, y gwyddonydd Moses Griffiths a’r saer D.E. Williams – mewn cyfarfod i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn fudiad cenedlaethol i Gymru.

Cafodd rhai o’r polisïau a luniwyd ym Mhenarth gan y Mudiad Cymreig eu rhoi o’r neilltu ers llawer dydd, ond daeth ei weledigaeth o blaid annibynnol i Gymru ei gwireddu, gyda’r bwriad penodol, yng ngeiriau D.J. Williams, o roi i Gymru, yng nghyflawnder amser, hunanlywodraeth a’i senedd ei hun, ynghyd â holl freintiau cenedl rydd.

Mae modd olrhain dadeni Cymru yn genedl hunanlywodraethol i raddau helaeth yn ôl i’r trafodaethau cudd hynny yn Bedwas Place yn 1924.

Gobeithir y bydd y rhai yn y digwyddiad coffaol yn cynnwys disgynyddion prif aelodau’r Mudiad Cymreig yn ogystal â chynrychiolwyr o Gangen Pwllheli o Blaid Cymru.

Ceir tocynnau (£10 y pen i gynnwys bwffe) oddi wrth Rowland Davies o Gangen Penarth, ardbear@btinternet.com neu (029) 20702603 a 07769 195025, neu oddi wrth Alan Jobbins o Gymdeithas Hanes Cymru, asjobbins@btinternet.com

neu (029) 20623275 a 07790 868686.

 

2013 YCymro Penarth

Trafod Llyfr Richard Wyn Jones

    CHWALU’R CELWYDDAU YN Y GYNHADLEDD

Recordiad o’r cyfarfod

 

2013m10 Richard Wyn JonesPaham mae nifer o wleidyddion Prydeinig wedi mynd ati i bardduo Plaid Cymru gyda’r gri o fod yn ffasgaidd, a hynny heb rithyn o dystiolaeth?  A sut cawson nhw lwyddo i barhau i wneud hyn ers cymaint o amser?

Dyna thema cyfarfod ymylol niferus yn y Gynhadledd Flynyddol yn Aberystwyth eleni a anerchwyd gan yr hanesydd gwleidyddol Professor Richard Wyn Jones.  Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddodd yr Athro Jones ddadansoddiad manwl o’r cyhuddiadau hyn a fyddai’n cael eu hail-adrodd o dro i dro dros y saith degawd diwethaf.  Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan yr Athro Daniel Williams dan nawdd Cangen Aberystwyth a’r gymdeithas hanes ar y cyd.

Mae’r llyfr yn waith darllen hanfodol i bob cenedlaetholwr.  Mae’n dinoethi’r celwydd a ledaenwyd ers degawdau gan wleidyddion gwrth-Gymreig mileinig. 

‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’: Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth (2013). 

Richard Wyn Jones.  Gwasg y Brifysgol.

2013 Y Blaid ffasgaidd yng Nghymru

Cynhadledd 1958, gan Philip Lloyd

Cynhaliwyd cynhadledd ac ysgol haf y Blaid ym Merthyr Tudful ym 1958. Y lleoliad oedd yr ysgol ramadeg yng Nghastell Cyfarthfa, hen gartref y Crawshays, lle gallai’r teulu edrych ar draws y cwm ar eu heiddo proffidiol, sef gwaith haearn Cyfarthfa. Mae’r tri ffotograff yn dangos trafodaethau cynhadledd yn neuadd yr ysgol. Yn eistedd wrth y bwrdd ar y llwyfan mae’r Dr R. Tudur Jones (Is-lywydd y Blaid), Gwynfor Evans (Llywydd), J.E. Jones (Ysgrifennydd Cyffredinol) ac Emrys Roberts (Ysgrifennydd Cynorthwyol). Er i’r gynhadledd hon gael ei chynnal yng nghyfnod y gwaharddiad radio a theledu ar Blaid Cymru gan y Blaid Lafur a’r TorÏaid, mae rhaid bod rhyw gymaint o sylw’n cael ei roi iddi gan y cyfryngau: mae meicroffôn y BBC i’w weld ymhob llun. 1960Glynebwy01 Llun 1: siaradwr anhysbys. A oes rhywun yn gwybod pwy ydyw? 1960Glynebwy02 Llun 2: y siaradwr yw Trefor Beasley, rwy’n meddwl. Ydw i’n gywir? Wrth y bwrdd y tu draw i’r llwyfan mae’r cyfieithwyr, Meirion Lloyd Davies a Chris Rees. Dywedodd Meirion wrthyf yn ddiweddarach nad oedd offer cyfieithu-ar-y-pryd i’w cael yr adeg honno: byddai’r cyfieithwyr yn cymryd nodiadau tra oedd y siaradwr wrthi a chodi ar ôl iddo/iddi orffen i gyflwyno crynhoad Saesneg ar lafar er mwyn yr aelodau di-Gymraeg. Bu Meirion yn weinidiog gyda’r Presbyteriaid ar hyd ei oes wedyn. Roedd Chris wedi ymladd Gwyr yn Etholiad Cyffredinol 1955. Symudodd i  Ddwyrain Abertawe ar gyfer 1959, pan oedden ni’n dau yn gyd-athrawon yn Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl. A phan gafodd y Blaid gwta pum munud ar y radio ac ar y teledu ym 1965 fe fu’n gyfrifol am y darllediad radio, gyda Gwynfor ar y teledu. Yn rhinwedd ei swydd fel Maer Merthyr, estynnodd y Cynghorydd (Llafur) Tal Lloyd groeso dinesig i gynadleddwyr 1958. Yna, ym 1970, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei fabwysiadu’n ymgeisydd Llafur dros etholaeth Merthyr. Roedd S.O. Davies wedi bod yn AS ers 1934, gan gyflwyno mesur senedd i Gymru i Dy’r Cyffredin ym 1955, yn gwbl groes i bolisi ei blaid. Ac ym 1970 fe’i dyfarnwyd ganddyn nhw yn rhy hen i barhau yn ei swydd ac yntau’n 84 oed. Ond safodd fel Llafurwr Annibynnol – ac ennill. Chris Rees oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholiad hwnnw. Pan gyhoeddwyd y canlyniad, cymerodd Chris y cam anarferol, nid yn unig o longyfarch S.O. yn galonnog ond hefyd o ddweud mor falch ydoedd, dan yr amgylchiadau, nad oedd yntau wedi ennill! 1960Glynebwy03 Llun 3: y siaradwr yw Arthur Donaldson, cynrychiolydd yr SNP (daeth yn arweinydd ar y blaid honno ym 1960). Ar y wal y tu ôl i Emrys Roberts mae poster yn cyhoeddi cyfarfod cyhoeddus dan nawdd y Blaid yn erbyn y bom-H, i’w gynnal yn ystod cyfnod y gynhadledd mewn capel yn y dref, gydag anerchiadau gan y Dr Glyn [O.] Phillips, Gwynfor Evans a Michael Scott o’r Direct Action Committee against nuclear war Roedd y Direct Action Committee (1957-1961) yn gorff pasiffistaidd a sefydlwyd mewn ymateb i un o brofion Bom-H Prydain ar Christmas Island yn y Môr Tawel rhwng 1956 a 1967. Y nôd oedd cynorthwyo ‘the conducting of non-violent direct action to obtain the total renunciation of nuclear war and its weapons by Britain and all other countries as a first step in disarmament’.

 

GEMAU’R GYMANWLAD, CAERDYDD 1958, gan Philip Lloyd Roedd prif swyddfa’r Blaid i fyny’r grisiau mewn adeilad yn Stryd y Frenhines, Caerdydd yr adeg honno. Cafwyd cyflenwad o raglenni i’w gwerthu i’r cyhoedd, a’r elw’n mynd i’r Blaid. Yn y llun yma  gwelir Glyn James yn eu gwerthu wrth y fynedfa ar waelod y grisiau. Sylwch ar y fersiwn Saesneg o enw’r Blaid. 1960Glynebwy04

Atgofion y Parchedig Huw Jones Y Bala

Atgofion Y Parchedig Huw Jones, Y Bala
Colli Cildwrn. Cangen Prifysgol Bangor. Anerch yng Nghaernarfon.

Torri Crib y Gwr. Baner Tŵr Eglwys Dolgellau 1949.

 

Protest Trawsfynydd 1951. Darlledu Anghyfreithiol 1959.

Y Parch Huw Jones

Recordiwyd gan
John Eric Hughes 2013

John Howell (1928-2009)

John HowellAtgofion am John Howell  (1928 – 2009)

Ganwyd John yn Lahore yn 1928 yn ystod cyfnod y Raj Prydeinig i rieni Cymreig, a fe’i magwyd ymhell o Gymru.  Treuliodd y rhan fwyaf o’i flynyddoedd cynnar yn Yr India  ble cafodd ei addysg. Yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Bryste i astudio Peirianneg Fecanyddol.  Roedd ymysg y rhai a gymerodd ran yng nghynnydd etholiadol Plaid Cymru yn ystod y 50au a’r 60au.  Safodd ddwywaith fel ymgeisydd seneddol yng Nghaerffili yn 1959 a 66.  Disgrifiwyd y blynyddoedd hyn fel gwir drobwynt Plaid Cymru.

Nid gwleidydd cadair freichiau oedd John.  Meddai ar bersonoliaeth garismataidd a hiwmor direidus.  Roedd yn areithiwr huawdl a safodd ar sgwâr aml i gymuned lofaol, weithiau yn siarad â chynulleidfa o un hen ŵr a chi!  Denodd ei garisma nifer o bobl ifanc i’r ymgyrch genedlaethol.  Un tro siaradodd gydag uchelseinydd mewn sgwâr gwag am fanteision hunan lywodraeth i Gymru.  O’r golwg, tu allan i dy cyfagos safai’r academydd ifanc Phil Williams, benderfynodd ,wedi clywed John yn siarad yr ymunai a Phlaid Cymru er ei fod ar y pryd yn aelod o’r Blaid Lafur.

“Dyma yn hollol annisgwyl, ymgeisydd dros genedlaetholdeb a ddrylliodd fy rhagfarnau.  Magwyd John Howell yn ddi-gymraeg ym Mhacistan wedi gweithio yn y diwydant aerospace yng Nghaliffornia.”  (Phil Williams “Voice from the Valleys” 1959-1975)

Nid Phil Williams oedd yr unig un i ddod dan ddylanwad personoliaeth, huodledd ac argyhoeddiad John.  Ar achlysur arall a John a’i  asiant Alf Williams yn canfasio gyda’r uchelseinydd ym Mhontlotyn, roedd gwr ifanc, newydd gyrraedd gartref o’i waith ac yn bwyta ei swper yn yr ystafell gefn yn gwrando’n astud.  Tipyn yn ddiweddarach roedd Dave Watkins ei hun allan yn canfasio gyda Phil Williams yn etholiad 1964 yn ailadrodd y profiad blaenorol , uchelseinydd, rhes o dai gwag, dim adyn o gwmpas a dim drws ar agor!

“Paid becso Phil ma ‘na un boi yn cael ei swper, mae’n gwrando’n ofalus a fory fydd e lawr yn dy dŷ di  eisie ymuno” (voice from the Valley)

Roedd John yn hyblyg yn y modd yr ymgyrchai.  Unwaith ag yntau yn canfasio gydag Owen John Thomas ddaethant at siop gornel gwr o Bacistan a dyma John yn cyflwyno’i hun i’r siopwr yn Urdu ( iaith gyntaf John) er mawr syndod i’r perchennog.  “O ba wlad ydych chi’n dod” gofynnodd y siopwr.  “O Bacistan” meddai John  “Ie ie meddai’r siopwr ond o ba genedl”  “Dwi ,fel chithau yn Bacistani” meddai John, er mawr ddifyrrwch i’r siopwr!

O gofio iddo gael ei fagu a’i addysgu mewn ysgol yn Lahore a sefydlwyd ar gyfer addysgu arweinwyr y Raj roedd ymroddiad John i genedlaetholdeb yn rhyfeddol.

Does dim dwywaith bod dylanwadau ei fywyd cynnar yn Yr India, ble tystiolaethodd i ddatblygiad y sefydliad cenedlaethol dan arweiniad Gandhi ac yn ddiweddarach gweld ailgydio yng nghenedlaetholdeb Ffrengig yn Quebec yng Nghanada ble bu’n gweithio fel peirianydd aerospace  wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad ei ymwybyddiaeth wleidyddol.

Fe’i gorfodwyd i roi’r gorau i gymryd rhan weithredol ym Mhlaid Cymru pan darwyd ef a Multiple Sclerosis ond parhaodd ei ddiddordeb brwd ym mywyd gwleidyddol Cymru a bu’n gefnogwr di-syfl i’r blaid gydol ei oes.

Lewis Valentine – Cyflwyniad Arwel Vittle

Darlith yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 5 Awst 2013
20130805ArwelVittle
gan Arwel Vittle

‘Lewis Valentine’

Addysg

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Yn yr Ysbyty

1935LewisValentine

20130805ArwelVittle2

Pererindod Flynyddol i Gofeb Gwynfor

Ymunwch â ni eleni ar ddydd Sadwrn 14 Medi 2013.

CofebGwynfor2013b2Ymgynnull ym Maes Parcio, Ysgol Tregib, Llandeilo, SA19 6TB am 4.00yp.

Ymlaen i’r gofeb. Cyflwyniad byr.

Wedyn am 7yh noson o adloniant gyda ‘Jac y Do’ a bwffe yn y Mountain Gate, Rhydaman.

Dim ond £15 elw i Gronfa Cofeb Gwynfor.

Rhaid archebu ymlaen llaw i’r noson

sethomas@sirgar.gov.uk

01269 842151

Hanes Plaid Cymru