Bu farw Penri Jones, Awdur Jabas, Cynghorydd a Cymro i’r carn yn 78 mlwydd oed.
Dyma ran o deyrnged Liz Saville Roberts:
Mae Penriân adnabyddus i genedlaethau o Gymry ledled ein gwlad fel yr awdur a greodd y cymeriad Jabas. Ond roedd cymaint, cymaint mwy i Penri: yn awdur ar sawl nofel, roedd hefyd yn athro Cymraeg a gwleidydd lleol uchel ei barch.
Cefais y fraint o weithio gyda Penri pan agorwyd Coleg Meirion Dwyfor yn 1993. Roedd oân un o blith nifer o athrawon uwchradd a ddewisodd ddod iâr coleg newydd er mwyn cynnig addysg oâr salon uchaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ogystal â gweithredu fel athro arweiniol, cynrychiolai gymuned Llanbedrog ar Gyngor Gwynedd fel cynghorydd Plaid Cymru lle daliodd bortffolio addysg ar y Bwrdd am sawl blwyddyn gan chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a gweithredu polisi iaith y sir.
Roedd Penri hefyd yn gynrychiolydd undeb ar gyfer undeb athrawon, UCAC. Ar ei gais yntau ymunais ag UCAC, gan ddod yn gynrychiolydd undeb ar ei Ă´l, ac oherwydd ei anogaeth sefais fel cynghorydd sir yn 2004. Heb ei gefnogaeth, ni fyddwn erioed wedi mentro i wleidyddiaeth. Mae arnaf ddyled bersonol sylweddol iddo.
Pob cydymdeimlad â Mair aâr teulu a chyfeillion lu Penri.
‘Cariad angerddol tuag at Gymru’
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn fod Penri Jones yn
“genedlaetholwr, dyn y pethe, un oedd â dawn geiriau arbennig ac a
ddylanwadodd ar gannoedd o blant fel athro”.
“Roedd yn fraint cydweithio â Penri oedd mor gadarn ei farn, gĹľr cwbl
ddiymhongar, dyn ei filltir sgwâr ac a oedd â chariad angerddol tuag at Gymru, y Gymraeg a phopeth oedd yn ymwneud â Llšn,” meddai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Simon Glyn, cadeirydd y cyngor: “Gwasanaethodd Penri yn frwd dros ei ardal a thros Gymru am flynyddoedd lawer a bydd coffa da amdano fel aelod o Gyngor Gwynedd ac yn arbennig waith allweddol wrth ddatblygu polisi iaith y sir.”
A hithauân un o aelodau cyntaf Cyngor Gwynedd ar Ă´l ei sefydlu yn 1974, cynrychiolodd ward Penisarwaun ar sawl cyngor am flynyddoedd lawer.












Eleni maeân ganmlwyddiant geni un o Is-Lywyddion amlycaf Plaid Cymru, Dr Tudur Jones, a fu yn y swydd o 1957 hyd 1964. Fel Is-Lywydd buân gefn i Gwynfor yn yr amlwg ac yn hael gydaâi gyngor gwerthfawr iddo yn y dirgel. Gan ei fod yn byw ym Mangor, yr oedd hefyd mewn cysylltiad cyson gydaâr Ysgrifennydd Cyffredinol, Elwyn Roberts, a weithredai o swyddfa Bangor. Roedd y tri, Gwynfor, Tudur ac Elwyn, ar yr un donfedd gan gynrychioli cenedlaetholdeb a godai o sĂŞl dros yr iaith Gymraeg ac a sylfaenwyd ar werthoedd Cristnogol. Fel maeân digwydd, yr oedd y tri yn Annibynwyr Yn chwedgauâr ganrif ddiwethaf mynegodd Unbeb yr Annibynwyr Cymraeg eu cefnogaeth i hunan-lywodraeth i Gymru, gydaâr datganiad cofiadwy mai problem Cymru oedd ei bod yn rhy bell oddi wrth Dduw ac yn rhy agos i Loegr!