Archifau Categori: Newyddion Blaen

Refferendwm yr Alban

Ymhlith y Cymry a deithiodd i helpu’r ymgyrch dros annibyniaeth i’r Alban roedd Gwerfyl Hughes Jones, Llanuwchllyn a dau o Abertawe, Mari Evans a Dafydd Williams.  Dyma gofnod answyddogol o’u hwythnos yn yr ‘Hen Ogledd’.

Dydd Llun 15 Medi 2014

‘Pob lwc’.  Dyna’r ffarwel calonogol gawson ni wrth ymadael â’r Bala ar ein ffordd i’r Alban ychydig o ddyddiau cyn y refferendwm annibyniaeth, y tro cyntaf ers canrif i un o’r cenhedloedd Celtaidd herio grym y wladwriaeth Brydeinig.

Siomi ar yr ochr orau ychydig ar ôl croesi ffin yr Alban ar ôl clywed bod ardaloedd fel Dumfries a’r gororau yn llugoer.  Roedd cynifer o bosteri o blaid annibyniaeth i’w gweld ar hyd y ffordd ag yr oedd yn erbyn, ac roedd fel pe bai’r tymheredd yn codi wrth i ni deithio drwy niwl yr hydref i’r gogledd i dref fach Balerno ar gyrion Caeredin a chartref ein ffrind Morag Dunbar, cantores werin o fri sy’n gyfarwydd iawn â Chymru.

2014m09Yes Nicola Alex

Dydd Mawrth 16 Medi

Swyddfa Gordon MacDonald, aelod SNP o Senedd yr Alban oedd pencadlys yr ymgyrch Yes Scotland yn etholaeth Pentlands, Caeredin, a dyna’r lle aethon ni i weithio.  Roedd y drefn yn eithriadol – gwaith yn barod i’r dwsinau o wirfoddolwyr fyddai’n troi lan a chroeso cynnes iawn gan Gordon a’i gydweithwyr i’r Cymry.  Bron iawn fel yr awyrgylch yn is-etholiad Caerffili yn ôl yn y chwedegau – ond roedd rhywbeth tebyg ar led drwy’r Alban benbaladr.

Cyn hir roedden ni wrthi’n dosbarthu yn Saughton, ardal dosbarth gweithiol yng Nghaeredin – taflen fach bwrpasol yn crynhoi prif negeseuon yr ymgyrch ynghyd â phoster coch trawiadol yn annog pobl i bleidleisio Yes a rhoi diwedd am byth ar lywodraeth Dorïaidd!  A’r teimlad oedd bod pobl yn gwrando ar y neges a’i thrafod, mewn ardal fyddai’n cael ei hystyried yn gadarnle i’r Blaid Lafur tan ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Saib am fwyd yn y Sainsbury lleol, a’r dyn ifanc yn gweini tu ôl i’r cownter yn falch o weld ein bathodynnau – fe a’i ffrindiau’n gefnogol i’r ochr Yes, meddai.  Yn ôl wedyn i ymgyrchu mewn ardal gyfagos, Stenhouse, ac ymdopi ac ambell i denement lle oedd rhaid perswadio un o’r trigolion i agor y drws i ni ledaenu’r newydd da!

Yna dal y bws 44 i ganol Caeredin i gwrdd â Neasa, menyw ifanc o Swydd Kerry yn Iwerddon sy’n byw yn y ddinas, a hynny yn y Cafe Royale, sydd er gwaetha’r enw yn dafarn arbennig sy’n ymffrostio yn ei chwrw traddodiadol.  Ac roedd bwrlwm y refferendwm yno hefyd.  Dyma Donny wrth y bar yn sôn am rai o’r Cymry oedd wedi helpu’r ymgyrch o blaid annibyniaeth, gan gynnwys un criw oedd yn gwersylla, wyrion Gwynfor Evans yn eu plith.

2014m09Yes Placard

Dydd Mercher 17 Medi

Nid pawb oedd o blaid wrth reswm.  Yn ymgyrchu yn ardal Broomhouse fe gwrddon ni â menyw 92 mlwydd oed oedd yn pleidleisio ‘Nae!’, a’i fflat yn blaster o bosteri’r ymgyrch No.  Er hynny, yn Broomhouse hefyd roedd y gefnogaeth i’r ochr Yes yn ddigon amlwg.  Fel arall oedd y wasg fodd bynnag.  Y diwrnod cyn y refferendwm roedd y papurau tabloid yn ffyrnig yn erbyn, heb unrhyw ymgais i roi lle i’r ddwy ochr.  A hyn yn adlewyrchu natur yr ornest, gyda’r Sefydliad i gyd yn taflu popeth oedd gyda nhw i rwystro’r Alban rhag symud ymlaen – barwniaid y wasg yn ymuno â mawrion gwleidyddol San Steffan, bancwyr, a rhai o benaethiaid cwmnïau mawrion i greu ofnau.

Yn y prynhawn aeth Colin â ni draw i’r Oxgang Road i ddosbarthu sticeri munud olaf i draffig oedd yn aros wrth oleuadau dros dro – nid y dull hyfrytaf o ledaenu’r gair.  Hawdd canfod y gwahaniaeth rhwng pobl y ceir moethus â’r lleill; y mwyaf cysurus eu byd yn tueddu gwrthod yn swta, gydag ambell eithriad, pobl gyffredin yn barotach i dderbyn y posteri glas Yes gyda gras.  Ond roedd y llif o bobl ifainc a gerddai adref o’r ysgol ar ôl pedwar o’r gloch y prynhawn yn ochri’n gryf â’r achos cenedlaethol – a rhai ohonyn nhw dros 16 oed yn gallu pleidleisio’r trannoeth.  Dyna stori fawr y refferendwm, mae’n siŵr – gwrthwynebiad ofnus yr henoed yn erbyn gobaith herfeiddiol yr ifainc am ddyfodol gwell.  Un arolwg ar ddiwrnod y pleidleisio yn darganfod bod mwyafrif pobl dan 55 oed wedi pleidleisio Ie.

2014m09Yes Cerbyd Ymgyrchb

 

Dydd Iau 18 Medi

Y diwrnod tyngedfennol wedi gwawrio.  Roedd pecyn sylweddol o gardiau atgoffa pobl eisoes yn y car a bant â ni i ardal Wester Hailes i’w dosbarthu.  Ardal i’w chymharu â Threlái yng Nghaerdydd, medd rhai, ond ein strydoedd ni yn ddymunol iawn.  Roedd plant adref o’r ysgol wrth gwrs ar ddiwrnod y pleidleisio, ac wrth deithio’r strydoedd dyma gwrdd â geneth ifanc a’i brawd yn cynnal eu harolwg eu hun o ffordd oedd y gwynt yn chwythu, drwy edrych ar bosteri mewn ffenestri a gofyn ambell i gwestiwn wrth bawb oedd yn pasio – a 22-1 o blaid Yes oedd y canlyniad (gan gynnwys tri o Gymru wrth gwrs!).

Wrth i ni ddod at ddiwedd y gwaith, pwy ddaeth rownd y cornel ond dau wyneb adnadbyddus, Lis ac Emyr Puw o Lanuwchllyn, wedi’u hanfon ar yr un dasg!  A dyna geisio cyfrif faint o Gymry oedd wedi gweithio yn y refferendwm o blaid rhyddid, ugeiniau os nad cannoedd mae rhaid, yn gwrthbwyso lleisiau negyddol gwleidyddion Llafur.

Wedyn roedd rhaid troi am ganol Caeredin i brofi tipyn o wefr yr ymgyrch.  Yn sgwâr Charlotte ble gawson ni hyd i le parcio, yn ogystal â’r posteri Ie bu sawl Jac yr Undeb i’w gweld, prawf bod nifer yn y sector bancio a phroffesiynol yn erbyn annibyniaeth i’w gwlad.  Ond lawr o flaen adeilad trawiadol Senedd yr Alban yr ymgyrch o blaid oedd i’w gweld ymhobman, yn dorf liwgar o bosteri glas a baneri’r Alban ac ambell i gerbyd corn siarad yn gyrru heibio i gynhyrfu pethau.  Ac yn siambr y Senedd ei hun, sgwrs â dyn ifanc oedd yn gweithio yn y diwydiant olew ac yn hanu o ardal Gellifedw, Abertawe: fe soniodd am ffrind oedd wedi mynd i bleidleisio Na ond yn bennu drwy fwrw pleidlais o blaid.

Y noson honno yn y Filltir Frenhinol, cwrddon ni â nifer o bobl ifanc  o Gatalunya a Gwlad y Basg, draw ar eu gwyliau i gymryd rhan mewn digwyddiad hanesyddol a’u canu a dawnsio’n ychwanegu at yr hwyl a’r teimlad bod rhywbeth gwirioneddol fawr ar fin digwydd.  Bu tipyn o ddadl gyda mintai o’r grwp Better Together y tu allan i orsaf bleidleisio – a hwythau o blaid taflegrau Trident, go brin y byddwn ni’n dod i ryw gonsensws!

2014m09Yes Campaign tricycle

Dydd Gwener 19 Medi

Wedyn yn ôl i Balerno i aros am y canlyniad.  Am y tro cyntaf, roeddwn i’n dechrau gobeithio y gallai’r ymgyrch o blaid ennill y dydd, er cymaint i’r pen ddal i ddweud fel arall.  Siom felly oedd gweld y cyngor cyntaf i ddatgan, Clackmannan, fynd i’r ochr No ac i’r gobaith am chwyldro bylu.  Ychydig o gwsg cyn gweld ardal Fife yn cadarnhau y byddai rhaid i’r Alban aros rhai blynyddoedd o leiaf cyn ymuno â’r byd.  Braidd yn drist oedd cerdded strydoedd Caeredin i lawr i’r Senedd unwaith yn rhagor, a’r tywydd tarthog yn drych o’n teimladau.  Taro ar draws yr Athro Richard Wyn Jones ar y Filltir Frenhinol, a’i ddadansoddiad ef yn gryno fel arfer.  Wedyn ymlwybro i’r Senedd a gweld ambell i Ddraig Goch yn y dorf, oedd dipyn yn fwy tawedog na’r diwrnod cynt.  Ddiwedd y prynhawn, ergyd arall o glywed drwy neges destun bod arweinydd yr SNP Alex Salmond yn ymddiswyddo ac yntau gymaint o arwr drwy’r gwledydd Celtaidd.

Ond ar y daith yn ôl i Gymru’r noson honno, roedden ni’n dal i deimlo’r cyffro o fod mewn brwydr wirioneddol hanesyddol am enaid chwaer-genedl.  Gyda’r genhadlaeth iau o blaid, does dim amheuaeth gen i y bydd yr Alban yn cerdded ymlaen i annibyniaeth.  Os collwyd y frwydr hon, mae’r freuddwyd yn dal yn fyw.

Dafydd Williams

 

Ymlaen i’r frwydr – Alban 2014

Ymlaen i’r frwydr

gan Alan Jobbins.

2014m09Alan Jobbins YesTeithiodd ysgrifennydd Cymdeithas Hanes y Blaid Alan Jobbins gydag Owen John a Sian Thomas i’r Alban i roi cymorth i’r ymgyrch Ie yn ystod y refferendwm annibyniaeth. Dyma’i stori.

Wrth lanio yn Glasgow roeddwn i’n pendroni beth oedd o flaen Owen, Sian a minnau. A Glasgow’n ddinas bleidiol i Lafur, pa obaith oedd ar gyfer pleidlais ‘Ie’?

Yn fuan iawn, roedden ni yng nghanol yr ymgyrch. Canfasio, dosbarthu taflenni i gartrefi ac yn y strydoedd, canu a llafarganu mewn tyrfaoedd fflach – yn ogystal â churo drysau a staffio gorsafoedd pleidleisio. Un cof arbennig yw canfasio mewn ardal ddifreintiedig ble byddai pleidleisiwr ar ôl pleidleisiwr yn ateb ‘Ie’.

Roedd yr ymgyrch ‘Ie’ yn fendigedig, yn drefnus ac yn weithgar – hyd yn oed yn sicrhau na fyddwn ni’n llwgu!

Roedd Sgwâr San Siôr yn ysbrydoliaeth, gyda baneri, bandiau, areithiau a chymeradwyo. Dim ond ychwanegu i’r hwyl wnaeth gweiddi’r grŵp o Unoliaethwyr yn chwifio Jac yr Undeb.

Aeth y canlyniad yn Glasgow o’n plaid ni – a bydd Refferendwm arall yn anorfod. Ond pryd? Gyda stranciau Cameron ac arweinwyr y pleidiau undebol eraill, cyn hir.

Llun: Alan Jobbins yn Glasgow – cefnogi’r ymgyrch ‘Ie’

 

Clive Reid, Abertawe

2014Clive Reid GwyrCafwyd teyrngedau i’r diweddar Clive Reid, Abertawe, a fu farw ym Mis Tachwedd 2014.   Yn gyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru i Ddwyrain Abertawe ac yn gyn-gadeirydd etholaeth Gorllewin Abertawe, fe gofiwyd am ei fywyd mewn areithiau gan y Parchedig Jill Hayley Harries, Heini Gruffudd a Gruffydd ap Gwent.

Lluniau Clive Reid, drwy garedigrwydd Anne Reid a Heini Gruffudd

Clive Reid, Abertawe

Trist oedd clywed am golli Clive Reid, fferyllydd adnabyddus ac aelod amlwg o’r Blaid. Fe’i ganed yn y Barri, un o deulu morwrol ond daeth i fyw a gweithio yn Abertawe. Dyma’r deyrnged a draddodid yn ei angladd gan Heini Gruffudd.

Braint yw dweud gair am Clive, a chofio am ei foneddigeiddrwydd, ei fwynder, a hefyd ei gadernid.

Diolch byth am y diacon yna yng nghapel Cymraeg Walham Green yn Llundain roddodd y cyngor i Clive ac Anne y bydden nhw’n ymgartrefu yno’n ddi-droi-nôl o fewn dwy flynedd. Trueni na wnaeth llawer o Gymry eraill ymateb yn yr un ffordd â Clive drwy symud yn ôl i Gymru – mae rhyw eironi bod capel Walham Green wedi cau yn 1988. Mae ymateb Clive i’r cyngor yn rhoi awgrym i ni o’i ymroddiad i Gymru, ac o’r modd y gwnaeth benderfyniad i fyw yn llawn fel Cymro.

Fesul tipyn, mae’n debyg, yr aeth ati i feistroli’r Gymraeg, gyda llwyddiant mawr. Fy fyddai’n mwynhau gwersi Cymraeg yn yr ysgol ac aeth ati i astudio Lefel O yn yr iaith. Roedd ganddo berthnasau oedd yn siarad Cymraeg ar ochr ei fam ac roedd yn aelod o’r Urdd. Gwnaeth cwrdd ag Anne sicrhau bod ganddo reswm ychwanegol i ddal ati ac roedd hi’n amser hir cyn bod Sara, David a Mari yn sylweddoli arwyddocâd penderfyniad eu rhieni i fagu teulu ar aelwyd Gymraeg. Roedd Clive yn ymgorfforiad o’r modd y mae’r Gymraeg yn gallu ennill tir.

Roedd y cyfnod y daeth Clive ac Anne i Abertawe’n gyfnod o gyffro mawr yng Nghymru. Dyma gyfnod boddi Tryweryn, Gwynfor yn ennill Caerfyrddin, a sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Yn fuan enillodd y Blaid seddau Meirionnydd a Chaernarfon, ac fe wnaeth Clive, gydag eraill, yn siŵr na fyddai tonnau’r deffro cenedlaethol yn osgoi Abertawe.

Ar ôl ymgartrefu yng Nghilâ, a chanddo ef ac Anne blentyn erbyn hyn, daeth yn ymwybodol o’r gwrth-Gymreictod oedd yn amlwg ym mywyd gwleidyddol Abertawe ar y pryd. Doedd Clive ddim yn un i dderbyn y modd yr oedd cynifer o wleidyddion Abertawe, yn enwedig rhai yn y Blaid Lafur, yn barod iawn i droi eu cefn ar eu hetifeddiaeth genedlaethol, a daeth yn llythyrwr brwd i’r papur lleol.

Daeth yn gadeirydd y Blaid yng Ngorllewin Abertawe am dair blynedd a sefydlu hefyd ei siop fferyllydd yn Nhreforys. Roedd ystafell fach yn y cefn yno, a fanna bydden ni’n cynnal sawl seiat yn trafod y Blaid a’r genedl, tra byddai fe’n gweinyddu moddion.

Safodd Clive sawl gwaith mewn etholiadau lleol yn Nhreforys, gan guro Llafur yn 1976, ond heb guro’r Trethdalwyr. Yna safodd ddwy waith, yn gwbl aflwyddiannus druan, yn Nwyrain Abertawe. Daeth yr un pryd yn llefarydd y Blaid ar iechyd.

Roedd ei argyhoeddiadau’n gadarn. Ymgyrchodd dros beidio â lleihau nifer y gwelyau yn ysbytai Gorllewin Morgannwg, ac yn erbyn arddangosfa’r fyddin ym Mharc Margam, a oedd, yn ei farn ef, yn denu ieuenctid i’r lluoedd arfog heb iddynt sylweddoli’r peryglon na’r goblygiadau moesol.

Yma yn Abertawe roedd ymgyrchoedd i sefydlu ysgol gyfun Gymraeg, a’r ymgyrch yn cael cyngor doeth Clive am beidio â bodloni mynd i’r Sandfields o dan gysgod y gwaith cemegol.

Cyn hynny pan ddaeth yr Arwisgo ar ein traws yn 1969, roedd Clive yn ddigon dilornus ohono. Nid y pantomeim hwnnw oedd y peth pwysig iddo fe’r flwyddyn honno, ond sefydlu Ysgol Gyfun Ystalyfera. Beth oedd e i’w wneud, felly, pan gafodd ei wahodd gan drigolion Lôn Camlad, i agor eu parti stryd? Roedd rhai ohonyn nhw’n gwsmeriaid yn ei siop, ac roedden nhw’n gweld yr achlysur yn ddathliad cenedlaethol. Doedd dim amdani, wrth gwrs, ond mynd yno i agor y parti, a minnau’n tynnu lluniau, a deall bod mwy nag un syniad o Gymru.

Meddai fe iddo glywed ymgeisydd Llafur un tro yn ceisio argyhoeddi ei gwsmeriaid yn ei siop, heb wybod ei fod yntau’n clywed, gan ddweud wrthyn nhw “We are not Nationalists, we are Internationalists”. Gwyddai Clive mai ‘British nationalist’ oedd hwnnw ac nad oedd ei ryng-genedlaetholdeb yn mynd ag ef ymhellach na Llundain.

Ac roedd Clive yn sicr yn arddel safonau gorau rhyng-genedlaetholdeb. Roedd yn ymddiddori yng ngwledydd bach Ewrop, a Llydaw yn hoff gyrchfan iddo fe. Roedd ganddo gyfranddaliadau yng nghwmni llongau P&O, a oedd yn caniatáu iddo deithio am hanner pris i’r cyfandir gyda’i gar a’i garafán, a chymerodd ei deulu ar sawl taith i Lydaw a Ffrainc yn arbennig. O dan ei ddylanwad fe fentrais i hefyd i fyd y cyfranddaliadau, a chael teithio’n rhad gyda’r teulu i Ewrop. Daeth twnnel y sianel a hedfan rhad i chwalu gwerth y cyfranddaliadau, ond fe barhaodd Clive â’i deithio.

Ar ôl ymddeol byddai’n dal ar gyfleoedd i ddadlau achos Cymru a’r Gymraeg. Yn ddiweddar bu’n gohebu yng nghylchgrawn Cymdeithas y Fferyllwyr ar fater cael presgripsiynau Cymraeg wedi i gwmni Morrisons ym Mangor wrthod derbyn presgripsiwn Cymraeg. Roedd Clive, wrth gwrs, ers llawer dydd, wedi bod yn argraffu rhai Cymraeg yn ôl yr angen. Yn ei lythyr mae Clive yn holi pam mae’r Gymraeg yn cael ei gweld yn broblem, a Chymru’n wlad ddwyieithog, fel llawer o wledydd eraill y byd. Ac yna mae’n atgoffa’r darllenwyr mai Lladin oedd iaith presgripsiynau hanner can mlynedd yn ôl.

A dyna sut un oedd Clive: yn wybodus, yn gydwybodol, un ar argyhoeddiad, yn un a wasanaethai ei gymdeithas a Chymru, gyda’r safonau uchaf.

Gallwch chi, ei etifeddion a’i ddisgynyddion, fod yn falch ohono, gan gofio’i ofal di-ben-draw amdanoch. Fe gofiwn ninnau amdano gyda’r parch dyfnaf, gan ddiolch am ei gyfraniad, a chofio’r un pryd am ei ferch, oedd mor annwyl iddo, i chithau ac i ninnau.

Heini Gruffudd

 

2014Clive Reid Llun Ymgyrch

Cofio Clive Reid

Fe gwrddais i â Clive am y tro cyntaf yn y ‘60au cynnar, ar ôl i mi ddychwelyd o’r coleg yn Aberystwyth, trwy gysylltiad ein dau â Phlaid Cymru. Mae’n debyg ei fod e’ wedi dod i fyw yn Abertawe, ar ôl byw yn Llundain am ddwy flynedd, yn llawn brwdfrydedd am bopeth oedd yn dda yng Nghymru ac awydd i rannu ac amddiffyn yr hyn a ystyriai i fod yn drysorau’r genedl. Dyma oedd ei freuddwyd a gwelai Blaid Cymru fel y cyfrwng gorau i’w gwireddu.

Ar y cyfan ‘roedd gwleidydda yn Abertawe yn weddol ddigynnwrf y pryd hynny ond newidiodd popeth yn sydyn yng Ngorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans Is-etholiad Caerfyrddin. ‘Roedd Cymru ar dân ac ‘roedd y cyfnod a ddilynodd, gydag is-etholiadau yn y Rhondda a Chaerffili, yn eithriadol o gynhyrfus. ‘Roedd popeth yn bosibl. ‘Roedd Clive yn ei chanol hi ac wrth ei fodd yn y bwrlwm a’r cynnwrf. ‘Roedd ambell un wedi nodi’n dawel bod Clive, fel Gwynfor, yn dod o’r Barri ac wedi dysgu Cymraeg. Hwb pellach i’n disgwyliadau!

Daeth gorchymyn o’r Swyddfa yng Nghaerdydd bod yn rhaid i’r Blaid sefyll ym mhob sedd seneddol yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Yn hollol annisgwyl fe gymerodd pethau dro personol i mi. Un noson yn Yr Olchfa fe atebais y drws a darganfod y Dr J.Gwyn Griffiths a Clive ar y trothwy. Fe ildiais i’w ble i sefyll fel ymgeisydd yng Ngorllewin Abertawe ac fe agorodd ffenestr newydd yn fy mywyd.

Ymhen amser fe drodd Clive ei sylw fwy fwy i Ddwyrain Abertawe a daeth yr ystafell gefn yn siop Reid Chemist ar Sgwâr Treforys yn ganolfan gweithgarwch y Blaid. ‘Roedd llythyron treiddgar Clive yn yr Evening Post yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i Bleidwyr ym mhob man ac ‘roedd ei ymroddiad i ymladd dros bobl Dwyrain Abertawe yn arbennig yn siampl i ni gyd. Maes o law fe safodd Clive ei hun fel ymgeisydd seneddol .

‘Rydym yma heddiw i gofio ac i ddiolch am Clive y gwladgarwr, yr ymgyrchydd dros gyfiawnder, y fferyllydd a’r Cristion ond, yn fwy na dim, am Clive y dyn, y gŵr bonheddig gwâr, y ffrind a’r penteulu. Iddo ef ei deulu oedd gyntaf – Anne, Sara, David, Mari a’r wyrion. ‘Rydym yn gwybod nad oedd bywyd wastad yn rhwydd i’r teulu yma ond mewn storm ac hindda ym mynwes ei deulu oedd Clive am fod.

‘Rydym i gyd yn gyfoethocach o adnabod Clive ac mae’r byd yn well lle o’i herwydd ef.

Diolch i ti Clive.

Gruffydd ap Gwent

 

 

 

Ffotograffydd yn cyflwyno lluniau o’r 1960’au

1964 Meirionnydd yn Diolch i Gwynfor

1964 Meirion yn Diolch i Gwynfor

Mae’r Ffotograffydd Tudur Owen, o Groesor, wedi cyflwyno cyfres o luniau yn dyddio nôl i 1964 i Gymdeithas Hanes Plaid Cymru. Ymhlith y lluniau mae Cyfarfod Mabwysiadu Elystan Morgan yn Ymgeisydd 1964. Dathliadau yng Nghynhadledd Plaid Cymru 1996 yn dilyn llwyddiant Gwynfor Evans yn yr Is-etholiad, ymgyrch Is-etholiad Caerffili 1968 ac ymgyrch Dafydd Wigley ym Meirionnydd 1970.

Dywedodd Dafydd Williams, Cadeirydd y Gymdeithas, “Mae’r casgliad yma yn ychwanegiad sylweddol i’r archif ac rydym yn falch fod gweithgarwch a bwrlwm cyfnod y 1960au i’w weld yn amlwg yn y lluniau.

“Difyr yw gweld wyneb Winnie Ewing a mintai o’n ffrindiau o’r SNP yn y lluniau, a hynny mewn sawl frwydr gofiadwy – arwydd o’r cyfeillgarwch rhwng ein dwy blaid ar hyd y blynyddoedd.

“Mae’n diolch yn fawr i Tudur Owen am gyflwyno’r casgliad.”

Winnie Ewing a Vic Davies yn Nolgellau 1966

Winnie Ewing a Vic Davies yn Nolgellau 1966

 

Hanesion am yr Alban 2014?

2014 Leanne Alban Aeth ugeiniau os nad cannoedd o aelodau o Blaid Cymru i’r Alban i helpu’r frwydr dros annibyniaeth.  Fuoch chi yn un ohonyn nhw?  Os felly oes gyda chi hanesyn bach i ni ei roi ar gof a chadw ar wefan Hanes Plaid Cymru (www.hanesplaidcymru.org)?  Byddai croeso i nodyn byr i ddweud lle aethoch chi, rhyw anecdote a llun os oes un i’w cael.  Danfoner at Dafydd Williams (daitenby@gmail.com).

Cofio DJ

DJ Williams AbergwaunEisteddfod 2014 – Pabell y Cymdeithasau 2 am 3:30pm, Ddydd Mercher, 6 Awst

COFIO DJ AR Y MAES

Bydd cyfle i ddathlu bywyd un o awduron Cymraeg mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.

Traddodir darlith goffa ar fywyd D.J. Williams (1885-1970), llenor a chenedlaetholwr amlwg a aned ym Mhenrhiw, ym mhlwyf Llansawel, Sir Gaerfyrddin.

Yn un ar bymtheg oed aeth i chwilio am waith ym maes glo de Cymru, gan weithio dan ddaear cyn troi at y byd addysg a mynd ymlaen at yrfa lenyddol ddisglair.

Roedd yn genedlaetholwr brwd ac yn un o’r bobl a sefydlodd Blaid Cymru yn 1925. Ynghyd â Saunders Lewis a Lewis Valentine, fe losgodd yr ysgol fomio ym Mhenyberth a dioddef cyfnod dan glo yn Wormwood Scrubs.

Roedd cyflwr ariannol Plaid Cymru yng nghanol y 1960au yn echrydus, ac mae’n amheus a fyddai wedi gallu ymladd yr etholiad cyffredinol yn 1966 oni bai i D.J. werthu Penrhiw sef yr Hen Dŷ Ffarm yn ei gyfrol adnabyddus, a rhoi’r arian i Blaid Cymru.

Cynhelir y ddarlith ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 3:30pm, Ddydd Mercher, 6 Awst dan nawdd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru.  Y darlithydd fydd Emyr Hywel, sydd wedi ysgrifennu cofiant DJ, ‘Y Cawr o Rydcymerau’.

Yn enedigol o Flaenporth, Ceredigion bu Emyr Hywel yn brifathro Ysgol Tre-groes hyd at ei ymddeoliad.  Astudiodd fywyd a gwaith DJ Williams ar gyfer gradd M Phil. ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a chyhoeddwyd sawl llyfr o’i storïau a’i farddoniaeth i blant.

Amcanion y Gymdeithas yw hybu trafodaeth, gwybodaeth ac ymchwil am hanes sy’n ymwneud â Phlaid Cymru ac i ehangu gwybodaeth am bobl a digwyddiadau a gyfranodd at hanes gyfansoddiadol y wlad cyn 1925.

Cyswllt:  Dafydd Williams (07557) 307667

2014 Darlith DJ Williams

Marian Morris

Cynghorydd a thân yn ei bol
Bu farw Marian Morris aelod blaenllaw o Blaid Cymru ym Merthyr Tydfil ym mis Rhagfyr 2013.Marian Morris

Bu’n aelod ffyddlon o’r Blaid ers sawl blwyddyn, ac yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sir Merthyr Tydfil yn ystod y cyfnod pan oedd grŵp y Blaid yn llywodraethu dan arweinyddiaeth Emrys Roberts.

Am nifer o flynyddoedd gwasanaethodd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol a bu’n Drysorydd Cangen Merthyr.

Yn ei deyrnged iddi ar ran Cangen Merthyr a Rhymni dywedodd Brian Thomas:  “Des i fel sawl aelodau eraill i adnabod Marian gyntaf yn y 1970au pan ddaeth y Blaid yn rym gwleidyddol o bwys yny dref.  Gydag aelodau eraill, fel Emrys, Dafydd Wigley, Gareth a Linda Foster, Gwyn Griffiths (fu er tristwch farw’n ddiweddar) a fy mrawd Geoff, llwyddodd i dorri gafael haearnaidd y Blaid Lafur yn etholiadau’r cyngor ym muddugoliaeth enwog 1979.

Roedd Marian yn ffrind annwyl i ni gyd a chawsom aml i bwyllgor cangen yn ei hystafell flaen gyda sawl cwpanaid o de, coffi a bisgedi.  Gweithiodd yn ddiflino i’w Heglwys leol sef Eglwys Quar yn agos i’w chartref.  Bu hefyd yn aelod o CND am flynyddoedd lawer.

Dylem oll fod yn ddiolchgar i Marian am ei chyfeillgarwch, haelioni ac am ei chariad at Gymru a’r iaith Gymraeg.”

 

Teyrnged Emrys Roberts

Mae gan Margret a minnau atgofion cynnes iawn am Marian o’n hamser ym Merthyr yn y saithdegau. Roedd hi’n fenyw dawel a diymhongar a chanddi gariad mawr at Gymru. Doedd hi byth yn chwilio am na sylw na chlod, ond yn hytrach yn chwilio am waith. Roedd hi’n weithwraig ymarferol benigamp ac yn benderfynol o wthio’r maen i’r wal. Roedd hi’n f’atgoffa yn aml am stori’r crwban chwedlonol a enillodd y ras yn erbyn yr ysgyfarnog.

Pan ddaeth Margret a minnau i Ferthyr, cawsom groeso mawr gan bawb (wel, nid pawb o’r cynghorwyr Llafur efallai!) a phawb yn addo pob math o gymorth inni. Ac fe gafodd y Blaid gymorth mawr gan nifer sylweddol o bobl. Ond, ysywaeth, yn y byd sydd ohoni nid pawb sy’n ei chael hi’n hawdd cadw eu haddewidion. Nid felly Marian. Os oedd Marian yn rhoi ei gair, roedd Marian yn gwireddu ei gair, ac yn cyflawni llawer mwy nag a addawyd.

Er yn dawel, roedd gan Marian haearn yn ei gwythiennau – yn ffyddlon, yn weithgar ac yn llawn dyfalbarhad. Diolch Marian am y rhinweddau hynny.

Mawr yw’n dyled i Marian
A haearn yn ei hanian;
Diflino dyfalbarhad
Er mwyn gweld rhyddid i’w gwlad.