Gweithgareddau

  • Ymladd Tlodi – Rhan o Hanes y Blaid

    Mae gwybodaeth werthfawr wedi dod i law am ymgyrch Plaid Cymru i oresgyn tlodi yn y tridegau.  Mae papurau a drosglwyddwyd i ofal Cymdeithas Hanes Plaid Cymru gan Siôn ap Glyn yn dangos cymaint o waith ymarferol a wnaed i helpu’r di-waith a’u teuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig yn y De a’r Gogledd.

    Sefydlwyd ‘Clybiau Cinio Difiau’ gan y Blaid yn ystod y dirwasgiad a darodd Gymru’n galed bron nawdeg o flynyddoedd yn ôl, a hynny gan fudiad oedd wedi’i sefydlu ond ryw ddegawd ynghynt.

    Fel y dywedodd Saunders Lewis, Llywydd y Blaid ar y pryd, pwrpas y clybiau oedd i bobl mewn gwaith helpu’r rhai llai ffodus drwy aberthu un pryd o fwyd yr wythnos a rhoi chwe cheiniog i ddarparu bwyd i’r di-waith.  Dydd Iau oedd y diwrnod a ddewiswyd – a hynny yn bennaf oherwydd yn aml iawn na fyddai teuluoedd tlawd yn bwyta ar y diwrnod hwnnw am y rheswm syml nad oedd dim arian ar ôl.  Aeth gwaith y Clybiau Difiau ymlaen tan ddechrau’r rhyfel yn 1939.  Talwyd cost y bwyd gan aelodau’r Blaid, gyda’r arian yn cael ei weinyddu gan ei swyddfa genedlaethol. Yn ôl yr hanesydd D. Hywel Davies, dyma’r ymgyrch elusennol fwyaf llwyddiannus a wnaed ...

    28/02/2023

 

 

Pob Cofnod