Gweithgareddau

  • Mallt Williams – Y Fonesig a Achubodd Blaid Cymru

    Mallt Williams – Y Fonesig a Achubodd Blaid Cymru

    Darlith draddodwyd gan Arwel Vittle yn Eisteddfod y Garreg Las 6 Awst 2026. Cyflwynwyd y digwyddiad gan Ben Lake A.S.

    Sain y Ddarlith gan Arwel Vittle –

    Cyflwyniad

    Pan wnaeth Gwen Angharad Gruffudd a minnau gynllunio ysgrifennu cyfrol ar sefydlu’r Blaid Genedlaethol flwyddyn neu ddwy yn ôl, roedd y ddau ohonom yn ymwybodol bod yno straeon nad oedd wedi cael eu hadrodd o’r blaen am gyfraniadau rhai unigolion allweddol yn hanes y Blaid na chafodd sylw dyledus. Ac – fel sy’n boenus o gyffredin – roedd llawer o’r unigolion hyn yn ferched.

    Wrth i ni dyrchu i’r hanes daeth yn glir bod amryw o ferched heb gael sylw dyledus am eu rhan yn sefydlu’r Blaid. Un o’r pwysicaf – os nad y pwysicaf – yn sicr o ran goroesiad y Blaid fel plaid hyfyw oedd  Mallt Williams, Bonesig Llandudoch.

    Rwy’n gredwr mawr mewn cydnabod ffynonellau ymchwil ac ati felly cyn cychwyn y sgwrs yma heddiw, mae angen i mi gydnabod a diolch i nifer ...

    13/08/2026

 

 

Pob Cofnod