- Teyrnged i Huw John 1939 – 2025 08/01/2026
- Golwg ar 100 mlynedd Plaid Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol 11/12/2025
- Trafod Llyfr Newydd am Dafydd Elis Thomas 21/11/2025
- Teyrnged i’r Barnwr Philip Richards (1946-2025) 30/10/2025
- Trafod Llyfr Newydd am Dafydd Elis Thomas 03/10/2025
- Teyrnged i Alan Jobbins 1940 – 2025 30/09/2025
- Teyrngedau i Owen John Thomas 1939 – 2024 03/09/2025
- Darlith Ieuan Wyn Jones ‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru-Y Siwrne’ 12/08/2025
- Llinell Amser hanes Plaid Cymru 1925-2025 12/08/2025
- Darlith Eisteddfod Wrecsam 19/07/2025
- Llinell Amser Plaid Cymru 18/07/2025
- Noson Lansio’r llyfr ‘Dros Gymru’n Gwlad’ 18/07/2025
- Dathlu Can Mlynedd Plaid Cymru ym Mhwllheli 03/07/2025
- Lansio Llyfr “Dros Gymru’n Gwlad – Hanes Sefydlu Plaid Cymru” 27/06/2025
- Llyfryn am Saunders Lewis 24/06/2025
- Cofio Graffitwyr Gwladgarol 11/06/2025
- Hanes Baneri’r Eisteddfod 10/06/2025
- Cofio O.P. Huws 1943 – 2025 05/06/2025
- Teyrnged i’r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas 1946 – 2025 02/04/2025
- Teyrngedau i Emrys Roberts 1931 – 2025 01/04/2025
- Gweithgareddau’r Gymdeithas 03/12/2024
- Lansio Llyfr – The Politics of Co-Opposition 14/10/2024
- Darlith Richard Wyn Jones yn Eisteddfod 2024 27/08/2024
- Darlith yn Eisteddfod 2024 26/07/2024
- Cyfraniad Merched Plaid Cymru 20/06/2024
- T. Gwynn Jones – Cenedlaetholwr Cyn Geni’r Blaid 11/03/2024
- Cylchlythyron y Gymdeithas 10/03/2024
- Dathlu 100 Mlynedd ym Mhenarth 13/01/2024
- Llyfrynnau 11/01/2024
- DATHLIAD CANMLWYDDIANT PLAID CYMRU 1924 – 2024 07/12/2023
- Gwybodaeth am y Gymdeithas 26/11/2023
- Saunders Lewis, Cymru ac Ewrop gan Dafydd Wigley 14/11/2023
- Cyhoeddi Cylchlythyr 10/10/2023
- Penyberth – Pam y Symudwyd yr Achos o Gymru? 25/08/2023
- Agweddau Cyfreithiol Achos Penyberth 12/08/2023
- Golwg Newydd ar Achos yr Ysgol Fomio 29/07/2023
- Brian Arnold (1941-2023) 26/07/2023
- Charlotte Aull Davies, 1942-2023 19/07/2023
- Ymladd Tlodi – Rhan o Hanes y Blaid 28/02/2023
- Wil Roberts 1943 – 2022 17/11/2022
- Kitch – Darlith M Wynn Thomas 12/08/2022
- Kitchener Davies – o Dregaron i Drealaw 26/07/2022
- Penri Jones 1943 – 2021 29/12/2021
- Pat Larsen 1926 – 2021 06/12/2021
- Jill Evans, Aelod Senedd Ewrop 26/09/2021
- Canmlwyddiant Geni Dr Tudur Jones 02/07/2021
- Maldwyn Lewis 1928 – 2021 15/06/2021
- 1997 Refferendwm a Cynulliad 15/06/2021
- 1974 Tri Aelod Seneddol 15/06/2021
- 1945 Gwynfor Evans yn Llywydd 15/06/2021
- 1925 Cychwyn Plaid Cymru 15/06/2021
- Caerfyrddin 11/06/2021
- Ewrop 10/06/2021
- Keith Davies. 1944 – 2021 30/03/2021
- Menna Battle, Rhyfelwraig Fwyn 1949 – 2020 03/02/2021
- Cylchlythyr 2021 30/01/2021
- Cofio Chris Rees 1931 – 2001 07/01/2021
- Cofio Ioan Roberts 1941 – 2019 03/01/2021
- Golwg Michael Sheen ar Hanes Cymru 08/11/2020
- Trafod bywyd Harri Webb ar raglen Dei Tomos 25/10/2020
- Harri Webb – Sunday Supplement 17/09/2020
- Cofio Harri Webb 1920 -1994 07/09/2020
- Harri Webb 1920 – 1994 20/08/2020
- Cartwnau Gwilym Hughes 08/07/2020
- Ffilmiau Berian Williams ar Amgen 28/06/2020
- Alcwyn Deiniol Evans 1942 – 2020 10/05/2020
- Rhys Lewis 1937 – 2020 20/04/2020
- Etholiad Merthyr 1970 11/02/2020
- Stuart Neale: Ymgeisydd Plaid Cymru ac arloeswr rhyddid hoywon 08/11/2019
- Cofio Glyn James 06/11/2019
- Y Parchedig Fred Jones un o sylfaenwyr y Blaid 20/10/2019
- Taflenni cyn 1970 16/10/2019
- Taflenni 1970 – 1979 16/10/2019
- Taflenni 1980 – 1989 16/10/2019
- Cardiau Aelodaeth 16/10/2019
- Glanmor Bowen-Knight 1945 – 2019: Teyrnged 16/10/2019
- Cofeb i Glyn James 13/10/2019
- Pwy Oedd Tad-cu Dafydd Iwan? 23/09/2019
- Golwg ar genedlaetholdeb cyn 1925 11/09/2019
- Cofio Wynne Samuel ar Prynhawn Da 2019 21/07/2019
- Sefydlu Plaid Cymru – Olrhain y Cefndir 10/07/2019
- Eurig Wyn 1945 – 2019 08/07/2019
- Trefnu 12/06/2019
- Cylchlythyr 2019 20/05/2019
- Teyrngedau i Steffan Lewis 1984 – 2019 04/02/2019
- Bywyd Wynne Samuel 06/01/2019
- Dogfennau Vic Davies o 1967 02/12/2018
- Cyfweliad gyda Syd Morgan 14/11/2018
- Cofio Geraint Thomas 1950 – 2018 29/10/2018
- Cofio John Harries 1925 – 2018 23/10/2018
- Nofel Newydd yn Olrhain y Cwrs i Ddatganoli 23/10/2018
- Plaid Cymru’n Cofio Wynne Samuel 19/09/2018
- Teyrngedau i Phil Williams 9 Awst 2018 17/08/2018
- Cofio Phil Williams Teyrnged Dafydd Williams 17/08/2018
- Cofio Phil Williams Teyrnged Cynog Dafis 17/08/2018
- Cofio Phil Williams (1939 – 2003) yn Eisteddfod Caerdydd 16/07/2018
- Nofel Newydd John Osmond 20/04/2018
- Lansio Llyfr John Osmond 11/03/2018
- Elwyn Roberts – Darlithiau 14/01/2018
- Mary Jones 1949 -2017 09/01/2018
- Janice Dudley 1944 – 2017 09/01/2018
- Jim Criddle 1947 -2017 09/01/2018
- Cyfarfod Cofio Elwyn Roberts 14/08/2017
- Teyrnged i Drefnydd Allweddol Plaid Cymru 14/08/2017
- Cofio Elwyn Roberts 10/07/2017
- Gordon Wilson, SNP 1938 – 2017- teyrnged gan Dafydd Wigley 29/06/2017
- Penblwydd Arbennig i Blaid Cymru ym Mro Waldo 14/04/2017
- DJ and Noëlle: Shaping the Blaid 14/04/2017
- Ifor Jenkins 1927 – 2017 31/03/2017
- Darlith Cynhadledd Casnewydd 27/02/2017
- Darlith Syd Morgan Cymru a Chwyldro’r Pasg 31/01/2017
- Rhagor o Hanes Radio’r Ceiliog 04/01/2017
- Atgofion Michael Williams Dinbych y Pysgod 28/11/2016
- Howard Davies 1950 – 2016 31/10/2016
- Cymru a Chwyldro’r Pasg – Darlith y Gynhadledd 03/10/2016
- Cofio Penyberth 08/09/2016
- Aneurin Richards 1923 – 2016 08/09/2016
- GWYNETH MENAI WILLIAMS, 1938-2016 31/08/2016
- DJ a Noelle Davies – Darlith Richard Wyn Jones 03/08/2016
- Darlith Eisteddfod am Dr DJ a Dr Noëlle Davies 22/07/2016
- Aneurin Richards 21/06/2016
- Dewi Wynne Thomas, 1925 – 2015 25/05/2016
- Teyrnged i Glyn Erasmus 1945 – 2016 01/03/2016
- Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop 11/01/2016
- Berian Williams 1928 – 2015 29/12/2015
- Llinell Amser Plaid Cymru 20/11/2015
- Johnny Mac 1941 – 2015 20/11/2015
- Cofio yr Athro Griffith John Williams a’i wraig, Elizabeth 10/11/2015
- Cofio Saunders Lewis 05/11/2015
- Teyrnged i Vic Davies 1917 – 2015 03/11/2015
- Arddangosfa 26/10/2015
- D.J. Y Cawr o Rydcymerau 04/09/2015
- Islwyn Ffowc Elis – Darlith Robin Chapman 2015 30/08/2015
- Hystings ym Mharadwys: Islwyn Ffowc Elis ac Is-etholiad Maldwyn 1962 23/07/2015
- Eisteddfod Fflint 1969 Ffilm Berian Williams 26/05/2015
- Eisteddfod Bangor 1971 Ffilm Berian Williams 26/05/2015
- Refferendwm yr Alban 19/03/2015
- Ymlaen i’r frwydr – Alban 2014 15/03/2015
- Cofio Merêd 1919 – 2015 26/02/2015
- Dr John Davies yr Hanesydd 1938 – 2015 23/02/2015
- Pob Cofnod 11/01/2015
- Archifau Lleol 11/01/2015
- Gwefannau 11/01/2015
- Llyfrau 11/01/2015
- Clive Reid, Abertawe 1935 – 2014 12/12/2014
- Y Swyddfa Rhyfel yn Peri Galanast yng Nghymru ym 1947 10/12/2014
- 1970 Etholiad Meirionydd 12/11/2014
- Is-Etholiad Caerffili 1968 12/11/2014
- Eisteddfod Bala 1967 12/11/2014
- Cynhadledd Dolgellau 1967 12/11/2014
- Lluniau Tudur Owen o’r 1960’au 11/11/2014
- Ffotograffydd yn cyflwyno lluniau o’r 1960’au 11/11/2014
- Hanesion am yr Alban 2014? 05/10/2014
- Cofio DJ 22/08/2014
- Marian Morris 13/07/2014
- Darlith John Davies 17/06/2014
- Atgofion Vic Davies 28/04/2014
- Ann Collins 1941 – 2013 16/03/2014
- Anthony Packer 1940 – 2014 03/03/2014
- Allan Pritchard 1943 – 2014 27/02/2014
- Teyrnged i Eirian Llwyd 1951 – 2014 10/02/2014
- Teyrnged i Nigel Jenkins 1949 – 2014 28/01/2014
- RADIO CEILIOG 16/01/2014
- Clwyd 11/01/2014
- Pontypridd 11/01/2014
- Cynon 11/01/2014
- Bro Morgannwg 11/01/2014
- Alltud 11/01/2014
- Rhondda 11/01/2014
- Abertawe Aberafan 11/01/2014
- Sir Benfro a Cheredigion 11/01/2014
- Caerdydd 11/01/2014
- Merthyr 11/01/2014
- Maldwyn 11/01/2014
- Gwent 11/01/2014
- Caerffili 10/01/2014
- Dathlu Rhan Penarth Wrth Ffurfio Plaid Cymru 08/01/2014
- Cylchlythyr Cyntaf y Gymdeithas Hanes 24/12/2013
- Arddangosfa Menywod Plaid Cymru 12/12/2013
- Cofio Macsen Wledig 12/12/2013
- Glyn Owen 1932 – 2013 08/12/2013
- Rôl Gudd Penarth yn Hanes Cymru 02/12/2013
- Trafod Llyfr Richard Wyn Jones 09/11/2013
- Iris Davies, Caerfyrddin 09/11/2013
- Cynhadledd 1958, gan Philip Lloyd 08/11/2013
- Atgofion y Parchedig Huw Jones Y Bala 16/09/2013
- Sgwrs am Radio Ceiliog – Radio Free Wales 16/09/2013
- John Howell (1928-2009) 12/09/2013
- Lewis Valentine – Cyflwyniad Arwel Vittle 05/09/2013
- Rhifyn y Merched – Y Ddraig Goch Ionawr 1952 17/08/2013
- Pererindod Flynyddol i Gofeb Gwynfor 17/08/2013
- Nans Couch 21/07/2013
- Coffa H R Jones 20/07/2013
- Archif o Abertawe 20/07/2013
- Darllediad Gwleidyddol 1987 10/04/2013
- Y Ddraig Goch 1925 ~ 1975 01/04/2013
- Hel Atgofion yn Abertawe 02/03/2013
- Oriel y Blaid 1932 – 1938 24/02/2013
- Cyfarfodydd 2013 17/02/2013
- Hanes y Blaid ym Môn 1925 – 1987 09/02/2013
- Ivy Thomas 1921 – 2012 28/01/2013
- Cychwyn Cymdeithas Hanes Plaid Cymru 2011 10/01/2013
- Eileen Beasley 1921 – 2012 09/11/2012
- Is-etholiad Glyn Ebwy 1960 27/10/2012
- Gwynfor Evans – Darlith Peter Hughes Griffiths 06/10/2012
- CDau Plaid Cymru 12/09/2012
- Cynhadledd 2012 01/09/2012
- Cofio Gwynfor: Y Dyn a’i Wleidyddiaeth 29/06/2012
- Ffilm Eisteddfod Caerfyrddin 1974 28/06/2012
- Ffilm Eisteddfod Hwlffordd 1972 17/05/2012
- Hanes Menywod ym Mhlaid Cymru 16/05/2012
- Ffilm Berian Williams Eisteddfodau 1959 – 1962 16/05/2012
- Plaid Trwy’r Ganrif 16/03/2012
- Etholiadau Seneddol Cyntaf yn Sir Fflint 1959 28/02/2012
- Rhobert ap Steffan 1947 – 2011 28/02/2012
- Ennill Caerfyrddin 16/02/2012
- Cyhoeddi Taflenni a Llyfrynnau 29/01/2012
- Dafydd Huws 1936 – 2011 09/01/2012
- JE – Pensaer Plaid Cymru Teyrnged Dafydd Williams 29/11/2011
- Chwilen Neu Ddwy yn fy Mhen – Emrys Roberts 29/10/2011
- Cofio JE 28/10/2011
- Cyfarfod Cynhadledd 2011 29/08/2011
- Cofio Brwydr Dwy Genedl 29/07/2011
- Yn y dechreuad … D.Hywel Davies 29/05/2011
- Darlith Agoriadol Mawrth 2011 29/03/2011
- Ysgol Haf 13/02/2011
- Radio Answyddogol Cymru yn Llundain 13/02/2011
- Atgofion am Is-etholiad Maldwyn 1962 12/02/2011
- Glyn James 1922 – 2010 09/02/2011
- Stephen Griffith 1908 – 2010 01/02/2011
- Cychwyn y Gymdeithas 28/01/2011
- Bedd DJ 09/11/2010
- Terry O’Neill 09/07/2010
- Cofeb i Gwynfor yn y Barri 13/03/2010
- Radio Cymru – Radio Wales 1958 – 1965 13/02/2009
- Dr Ceinwen H. Thomas 1911 – 2008 09/02/2009
- Carreg Goffa i Gwynfor 15/07/2006
- Cychwyn Plaid Genedlaethol Cymru 09/02/2001
- Darllediad Gwleidyddol 1987 16/12/1987
- Waldo 09/02/1972
Awdur: Rheolwr Gwefan
Archifau Lleol
Mae yr Archifdai Lleol yn barod i dderbyn cyhoeddiadau Plaid Cymru o ddidordeb lleol er mwyn i haneswyr y dyfodol eu ddarllen.
Cyn mynd â’r defnydd mewn bydd yn well cysylltu gyda’r person a enwebwyd i sicrhau eu polisau a’r termau ac amodau.
Nodir mae’r Llyfrgell Genedlaethol â ddiddordeb mewn defnydd o bwys cenedlaethol.
| ARDAL | CYFEIRIAD | GWEFAN | FFÔN | CYSWYLLT | EBOST |
| Ynys Mon/Anglesey | Bryn Cefni Industrial Estate, Llangefni. LL77 7JA |
www.anglesey.gov.uk/archives | 01248 7519131 | Hayden Burns | archives@anglesey.gov.uk |
| Morgannwg/Glamorgan | Clos Parc Morgannwg Caerdydd/Cardiff. CF11 8AW |
www.glamarchives.gov.uk | 02920 872200 | Charlotte Hodgson | glamro@cardiff.gov.uk |
| Dinbych/Denbighshire | The Old Gaol, 46 Clwyd St, Ruthin. LL151HP |
www.denbighshire.gov.uk/archives | 01824 708250 | Jane Brunning | archives@denbighshire/gov.uk |
| Caerfyrddin/ Carmarthenshire |
Parc Myrddin Richmond Tce. Caerfyrddin/Carmarthen SA3 1HW |
http://www.carmarthenshire.gov.uk/ | 01267 228232 | David Cooke | archives@carmarthenshire.gov.uk |
| Penfro/Pembrokeshire | Prendergast, Haverfordwest SA61 2PE |
www.pembrokeshire.gov.uk/archives | 01437 775456 | Nikki Bosworth | recordoffice@pembrokeshire.gov.uk |
| Powys | County Hall, Llandrindod. LD15LG | http://archives.powys.gov.uk | 01597 826085 | Roz Williamson | archive@powys.gov.uk |
| Gwent | Steelworks Rd, Ebbw Vale. NP23 6DN |
www.gwentarchives.gov.uk | 01495 353361 | Angela Saunderson | enquiries@gwentarchives.gov.uk |
| Conwy/Conway | The Old Board School, Lloyd St, Llandudno. LL30 2YG | www.conwy.gov.uk/archives | 01492 577550 | Susan Ellis | archifau.archives@conwy.gov.uk |
| Fflint/Flintshire | The Old Rectory, Hawarden. CH5 3NR | www.flintshire.gov.uk/archives | 01244 532264 | Steven Davies / Claire Harrington | archives@flintshire.gov.uk |
| Ceredigion | Old Town Hall,Queens Sq. Aberystwyth SY23 2EB | www.archifdy-ceredigion.org.uk | 01970 633697 | Helen Palmer / Ania Skarzynska | archives@ceredigion.gov.uk |
| Caernarfon | Council Offices Shirehall St Caernarfon LL55 1SH |
www.gwynedd.gov.uk/archives | 01286 679087 | Lynn C Francis | LynnCFrancis@gwynedd.gov.uk |
| Meirionydd | Ffordd y Bala Dolgellau LL40 2YF |
www.gwynedd.gov.uk/archives | 01341 424682 | Merfyn Wyn Tomos | MerfynWynTomos@gwynedd/gov.uk |
Gwefannau
Gwefannau
Gwynfor >> Linc
Cofiant DJ >> Linc
Adnoddau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru >> Gwefan
Archifdy Morgannwg (RhCT, Caerdydd a Bro Morgannwg) >> Gwefan
Plaid Cymru >> http://www.plaid.cymru
Undeb Credyd Plaid Cymru >> Undeb Credyd
Wiki Plaid Cymru >> Wiki
Wici Plaid Cymru >> Wici
Wici Hanes Cymru >> Wici
Wiki History of Wales >> Wiki
Archif Prifysgol Caerdydd >> Archif
Llyfrau
| Teitl | Awdur | Blwyddyn | Iaith | Cyhoeddwr |
| Tân yn Llŷn | Dafydd Jenkins | 1937 | C | Gwasg Aberystwyth |
| Seiliau Hanesyddol Cenedlaetholdeb Cymru | Chwech Darlith | 1950 | C | Plaid Cymru |
| The Historical Basis of Welsh Nationalism | Six Lectures | 1950 | S | Plaid Cymru |
| Welsh and Scottish Nationalism A Study | Sir Reginald Coupland | 1954 | S | Collins |
| Towards Welsh Freedom | Dr D J Davies | 1958 | S | Plaid Cymru |
| Triwyr Penllyn | Gwynedd Pierce | 1960 | C | Plaid Cymru |
| Rhagom i Ryddid | Gwynfor Evans | 1964 | C | Plaid Cymru |
| Wales a Nation Again | P. Berresfod Ellis | 1968 | S | Tandem |
| Tros Gymru J.E. a’r Blaid | J. E. Jones | 1970 | C | Gwasg John Penry, Abertawe |
| Aros Mae | Gwynfor Evans | 1971 | C | Gwasg John Penry, Abertawe |
| Wales Can Win | Gwynfor Evans | 1973 | S | Christopher Davies, Llandybie |
| Land of my Fathers | Gwynfor Evans | 1974 | S | Y Lolfa |
| A National Future for Wales | Gwynfor Evans | 1975 | S | Plaid Cymru |
| Gwynfor Evans | Pennar Davies | 1976 | C | Tŷ John Penry |
| Voice From the Valleys | Phil Williams | 1981 | S | Plaid Cymru |
| Cymru’n Deffro | John Davies | 1981 | C | Y Lolfa |
| Rebirth of a Nation 1880 – 1980 | Kenneth O. Morgan | 1981 | S | Oxford University Press. University of Wales Press |
| The Welsh Nationalist Party 1925 – 45 A Call to Nationhood | D.Hywel Davies | 1983 | S | University of Wales Press, and St Martin’s Press, New York |
| The Matter of WALES | Jan Morris | 1984 | S | Penguin Books |
| When Was Wales? | Gwyn A. Williams | 1985 | S | Penguin Books |
| Seiri Cenedl | Gwynfor Evans | 1986 | C | Gwasg Gomer |
| Welsh Nationalism in the Twentieth Century, The Ethnic Option and the Modern State | Charlotte Aull Davies | 1989 | S | Praeger |
| Hanes Cymru | John Davies | 1990 | C | Penguin |
| The Story of Plaid Cymru | Dafydd Williams | 1990 | S | Plaid Cymru |
| O Ddifri 1 | Dafydd Wigley | 1992 | C | Gwasg Gwynedd |
| Dal Ati 2 | Dafydd Wigley | 1993 | C | Gwasg Gwynedd |
| Plaid Cymru. The Emergence of a Political Party | Laura McAllister | 2001 | S | Seren |
| Gwynfor. Rhag pob brad | Rhys Evans | 2005 | C | Y Lolfa |
| Geiriau Gwynfor | Peter Hughes Griffiths | 2006 | C | Y Lolfa |
| A History of Wales. | John Davies | 2007 | S | Penguin |
| Plaid Cymru . An Ideological Analysis | Alan Sandry | 2011 | S | Welsh Academic Press |
| The Fascist Party in Wales? | Richard Wyn Jones | 2014 | S | UWP |
| Ein Stori Ni | Emrys Roberts | 2017 | C | Y Lolfa |
| From Depression to Devolution. | Leon Gooberman | 2017 | S | UWP |
| Cows Cobs & Corner Shops Y Lôn Laeth i’r Ddinas | Megan Hayes | 2018 | S | Y Lolfa |
| Hanes yn y Tir | Elin Jones | 2021 | C | Gwasg Carreg Gwalch |
| History Grounded | Elin Jones | 2021 | S | Gwasg Carreg Gwalch |
| The Welsh Language in Cardiff | Owen John Thomas | 2021 | S | Y Lolfa |
| Eutopia: Studies in Euro-Welshness. | M.Wynn Thomas | 2021 | S | UWP |
| The Impact of Devolution in Wales | 2022 | S | UWP | |
| Hands Off Wales | Dr Wynn Thomas | 2022 | S | Y Lolfa |
| Causes in Common. | Daryl Leeworthy | 2022 | S | UWP |
| Brittle with Relics A History of Wales 1962 – 1997. | Richard King | 2023 | S | Faber |
| Putting Wales First: The Political Thought of Plaid Cymru. | Richard Wyn Jones | 2024 | S | UWP |
| The Politics of Co-Opposition | John Osmond | 2024 | S | Welsh Academic Press |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |

Clive Reid, Abertawe 1935 – 2014
Cafwyd teyrngedau i’r diweddar Clive Reid, Abertawe, a fu farw ym Mis Tachwedd 2014. Yn gyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru i Ddwyrain Abertawe ac yn gyn-gadeirydd etholaeth Gorllewin Abertawe, fe gofiwyd am ei fywyd mewn areithiau gan y Parchedig Jill Hayley Harries, Heini Gruffudd a Gruffydd ap Gwent.
Lluniau Clive Reid, drwy garedigrwydd Anne Reid a Heini Gruffudd
Clive Reid, Abertawe
Trist oedd clywed am golli Clive Reid, fferyllydd adnabyddus ac aelod amlwg o’r Blaid. Fe’i ganed yn y Barri, un o deulu morwrol ond daeth i fyw a gweithio yn Abertawe. Dyma’r deyrnged a draddodid yn ei angladd gan Heini Gruffudd.
Braint yw dweud gair am Clive, a chofio am ei foneddigeiddrwydd, ei fwynder, a hefyd ei gadernid.
Diolch byth am y diacon yna yng nghapel Cymraeg Walham Green yn Llundain roddodd y cyngor i Clive ac Anne y bydden nhw’n ymgartrefu yno’n ddi-droi-nôl o fewn dwy flynedd. Trueni na wnaeth llawer o Gymry eraill ymateb yn yr un ffordd â Clive drwy symud yn ôl i Gymru – mae rhyw eironi bod capel Walham Green wedi cau yn 1988. Mae ymateb Clive i’r cyngor yn rhoi awgrym i ni o’i ymroddiad i Gymru, ac o’r modd y gwnaeth benderfyniad i fyw yn llawn fel Cymro.
Fesul tipyn, mae’n debyg, yr aeth ati i feistroli’r Gymraeg, gyda llwyddiant mawr. Fy fyddai’n mwynhau gwersi Cymraeg yn yr ysgol ac aeth ati i astudio Lefel O yn yr iaith. Roedd ganddo berthnasau oedd yn siarad Cymraeg ar ochr ei fam ac roedd yn aelod o’r Urdd. Gwnaeth cwrdd ag Anne sicrhau bod ganddo reswm ychwanegol i ddal ati ac roedd hi’n amser hir cyn bod Sara, David a Mari yn sylweddoli arwyddocâd penderfyniad eu rhieni i fagu teulu ar aelwyd Gymraeg. Roedd Clive yn ymgorfforiad o’r modd y mae’r Gymraeg yn gallu ennill tir.
Roedd y cyfnod y daeth Clive ac Anne i Abertawe’n gyfnod o gyffro mawr yng Nghymru. Dyma gyfnod boddi Tryweryn, Gwynfor yn ennill Caerfyrddin, a sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Yn fuan enillodd y Blaid seddau Meirionnydd a Chaernarfon, ac fe wnaeth Clive, gydag eraill, yn siŵr na fyddai tonnau’r deffro cenedlaethol yn osgoi Abertawe.
Ar ôl ymgartrefu yng Nghilâ, a chanddo ef ac Anne blentyn erbyn hyn, daeth yn ymwybodol o’r gwrth-Gymreictod oedd yn amlwg ym mywyd gwleidyddol Abertawe ar y pryd. Doedd Clive ddim yn un i dderbyn y modd yr oedd cynifer o wleidyddion Abertawe, yn enwedig rhai yn y Blaid Lafur, yn barod iawn i droi eu cefn ar eu hetifeddiaeth genedlaethol, a daeth yn llythyrwr brwd i’r papur lleol.
Daeth yn gadeirydd y Blaid yng Ngorllewin Abertawe am dair blynedd a sefydlu hefyd ei siop fferyllydd yn Nhreforys. Roedd ystafell fach yn y cefn yno, a fanna bydden ni’n cynnal sawl seiat yn trafod y Blaid a’r genedl, tra byddai fe’n gweinyddu moddion.
Safodd Clive sawl gwaith mewn etholiadau lleol yn Nhreforys, gan guro Llafur yn 1976, ond heb guro’r Trethdalwyr. Yna safodd ddwy waith, yn gwbl aflwyddiannus druan, yn Nwyrain Abertawe. Daeth yr un pryd yn llefarydd y Blaid ar iechyd.
Roedd ei argyhoeddiadau’n gadarn. Ymgyrchodd dros beidio â lleihau nifer y gwelyau yn ysbytai Gorllewin Morgannwg, ac yn erbyn arddangosfa’r fyddin ym Mharc Margam, a oedd, yn ei farn ef, yn denu ieuenctid i’r lluoedd arfog heb iddynt sylweddoli’r peryglon na’r goblygiadau moesol.
Yma yn Abertawe roedd ymgyrchoedd i sefydlu ysgol gyfun Gymraeg, a’r ymgyrch yn cael cyngor doeth Clive am beidio â bodloni mynd i’r Sandfields o dan gysgod y gwaith cemegol.
Cyn hynny pan ddaeth yr Arwisgo ar ein traws yn 1969, roedd Clive yn ddigon dilornus ohono. Nid y pantomeim hwnnw oedd y peth pwysig iddo fe’r flwyddyn honno, ond sefydlu Ysgol Gyfun Ystalyfera. Beth oedd e i’w wneud, felly, pan gafodd ei wahodd gan drigolion Lôn Camlad, i agor eu parti stryd? Roedd rhai ohonyn nhw’n gwsmeriaid yn ei siop, ac roedden nhw’n gweld yr achlysur yn ddathliad cenedlaethol. Doedd dim amdani, wrth gwrs, ond mynd yno i agor y parti, a minnau’n tynnu lluniau, a deall bod mwy nag un syniad o Gymru.
Meddai fe iddo glywed ymgeisydd Llafur un tro yn ceisio argyhoeddi ei gwsmeriaid yn ei siop, heb wybod ei fod yntau’n clywed, gan ddweud wrthyn nhw “We are not Nationalists, we are Internationalists”. Gwyddai Clive mai ‘British nationalist’ oedd hwnnw ac nad oedd ei ryng-genedlaetholdeb yn mynd ag ef ymhellach na Llundain.
Ac roedd Clive yn sicr yn arddel safonau gorau rhyng-genedlaetholdeb. Roedd yn ymddiddori yng ngwledydd bach Ewrop, a Llydaw yn hoff gyrchfan iddo fe. Roedd ganddo gyfranddaliadau yng nghwmni llongau P&O, a oedd yn caniatáu iddo deithio am hanner pris i’r cyfandir gyda’i gar a’i garafán, a chymerodd ei deulu ar sawl taith i Lydaw a Ffrainc yn arbennig. O dan ei ddylanwad fe fentrais i hefyd i fyd y cyfranddaliadau, a chael teithio’n rhad gyda’r teulu i Ewrop. Daeth twnnel y sianel a hedfan rhad i chwalu gwerth y cyfranddaliadau, ond fe barhaodd Clive â’i deithio.
Ar ôl ymddeol byddai’n dal ar gyfleoedd i ddadlau achos Cymru a’r Gymraeg. Yn ddiweddar bu’n gohebu yng nghylchgrawn Cymdeithas y Fferyllwyr ar fater cael presgripsiynau Cymraeg wedi i gwmni Morrisons ym Mangor wrthod derbyn presgripsiwn Cymraeg. Roedd Clive, wrth gwrs, ers llawer dydd, wedi bod yn argraffu rhai Cymraeg yn ôl yr angen. Yn ei lythyr mae Clive yn holi pam mae’r Gymraeg yn cael ei gweld yn broblem, a Chymru’n wlad ddwyieithog, fel llawer o wledydd eraill y byd. Ac yna mae’n atgoffa’r darllenwyr mai Lladin oedd iaith presgripsiynau hanner can mlynedd yn ôl.
A dyna sut un oedd Clive: yn wybodus, yn gydwybodol, un ar argyhoeddiad, yn un a wasanaethai ei gymdeithas a Chymru, gyda’r safonau uchaf.
Gallwch chi, ei etifeddion a’i ddisgynyddion, fod yn falch ohono, gan gofio’i ofal di-ben-draw amdanoch. Fe gofiwn ninnau amdano gyda’r parch dyfnaf, gan ddiolch am ei gyfraniad, a chofio’r un pryd am ei ferch, oedd mor annwyl iddo, i chithau ac i ninnau.
Heini Gruffudd
Cofio Clive Reid
Fe gwrddais i â Clive am y tro cyntaf yn y ‘60au cynnar, ar ôl i mi ddychwelyd o’r coleg yn Aberystwyth, trwy gysylltiad ein dau â Phlaid Cymru. Mae’n debyg ei fod e’ wedi dod i fyw yn Abertawe, ar ôl byw yn Llundain am ddwy flynedd, yn llawn brwdfrydedd am bopeth oedd yn dda yng Nghymru ac awydd i rannu ac amddiffyn yr hyn a ystyriai i fod yn drysorau’r genedl. Dyma oedd ei freuddwyd a gwelai Blaid Cymru fel y cyfrwng gorau i’w gwireddu.
Ar y cyfan ‘roedd gwleidydda yn Abertawe yn weddol ddigynnwrf y pryd hynny ond newidiodd popeth yn sydyn yng Ngorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans Is-etholiad Caerfyrddin. ‘Roedd Cymru ar dân ac ‘roedd y cyfnod a ddilynodd, gydag is-etholiadau yn y Rhondda a Chaerffili, yn eithriadol o gynhyrfus. ‘Roedd popeth yn bosibl. ‘Roedd Clive yn ei chanol hi ac wrth ei fodd yn y bwrlwm a’r cynnwrf. ‘Roedd ambell un wedi nodi’n dawel bod Clive, fel Gwynfor, yn dod o’r Barri ac wedi dysgu Cymraeg. Hwb pellach i’n disgwyliadau!
Daeth gorchymyn o’r Swyddfa yng Nghaerdydd bod yn rhaid i’r Blaid sefyll ym mhob sedd seneddol yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Yn hollol annisgwyl fe gymerodd pethau dro personol i mi. Un noson yn Yr Olchfa fe atebais y drws a darganfod y Dr J.Gwyn Griffiths a Clive ar y trothwy. Fe ildiais i’w ble i sefyll fel ymgeisydd yng Ngorllewin Abertawe ac fe agorodd ffenestr newydd yn fy mywyd.
Ymhen amser fe drodd Clive ei sylw fwy fwy i Ddwyrain Abertawe a daeth yr ystafell gefn yn siop Reid Chemist ar Sgwâr Treforys yn ganolfan gweithgarwch y Blaid. ‘Roedd llythyron treiddgar Clive yn yr Evening Post yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i Bleidwyr ym mhob man ac ‘roedd ei ymroddiad i ymladd dros bobl Dwyrain Abertawe yn arbennig yn siampl i ni gyd. Maes o law fe safodd Clive ei hun fel ymgeisydd seneddol .
‘Rydym yma heddiw i gofio ac i ddiolch am Clive y gwladgarwr, yr ymgyrchydd dros gyfiawnder, y fferyllydd a’r Cristion ond, yn fwy na dim, am Clive y dyn, y gŵr bonheddig gwâr, y ffrind a’r penteulu. Iddo ef ei deulu oedd gyntaf – Anne, Sara, David, Mari a’r wyrion. ‘Rydym yn gwybod nad oedd bywyd wastad yn rhwydd i’r teulu yma ond mewn storm ac hindda ym mynwes ei deulu oedd Clive am fod.
‘Rydym i gyd yn gyfoethocach o adnabod Clive ac mae’r byd yn well lle o’i herwydd ef.
Diolch i ti Clive.
Gruffydd ap Gwent
Y Swyddfa Rhyfel yn Peri Galanast yng Nghymru ym 1947
PAM?
Am fod y Swyddfa Ryfel yn ystyried meddiannu 27,000 acer o dir amaethyddol yn ardal Tregaron er mwyn creu gwersyll i hyfforddi’r Royal Engineers. Roedd hyn yn dilyn gweithredoedd tebyg ym Mhenyberth, Epynt, y Preselau ayyb. Yn nes ymlaen, ystyriwyd ehangu’r gwersyll milwrol ym Mronaber ger Trawsfynydd hefyd. Roedd Plaid Cymru ar flaen y gad yn gwrthwynebu’r rhain i gyd yn eu tro.
PRYD?
Parhaodd yr ymgyrch i achub Tregaron yn benodol rhwng hydref 1947 a haf 1948. Dyddiad y brotest a welir yn y ddau lun hyn oedd dydd Iau, 16 Hydref 1947.
BLE?
Cynhaliwyd y brotest sydd yn y ddau lun (‘gorymdaith faneri’) yn Park Place, Caerdydd, ddydd Iau, 16 Hydref 1947. Y diwrnod hwnnw, roedd y Swyddfa Ryfel mewn cynhadledd â gweinyddiaethau eraill y llywodraeth yn trafod y cynlluniau. Cyflwynwyd ‘degau o delegramau … o bob rhan o Gymru yn gwrthdystio yn erbyn y bwriad’ i Swyddog Cynllunio Gwlad a Thref yn Park Place y bore hwnnw
PWY?
Plaid Cymru oedd yn arwain yr ymgyrch yn Nhregaron, mewn cydweithrediad â ffermwyr lleol ac Undeb Cymru Fydd. Protest gan Blaid Cymru yn benodol oedd yr un yng Nghaerdydd, ac 20 o aelodau’r Blaid a gymerodd ran ynddi. Yn yr ail lun, mae’r gorymdeithwyr yn cael eu harwain gan Nans Jones oedd yn gweithio yn Swyddfa’r Blaid yng Nghaerdydd. Mae hi i’w gweld yn y llun cyntaf hefyd, yn sefyll yn ail o’r dde wrth ymyl J. E. Jones, yr Ysgrifennydd Cyffredinol (sy’n sefyll ar y palmant).
Roedd rhai o’r brwydrau yn cael eu hennill ac eraill yn cael eu colli. Un a enillwyd oedd hon, a bu’n rhaid i’r Swyddfa Ryfel roi’r gorau i’r cynlluniau i feddiannu’r tir yn Nhregaron erbyn haf 1948.














































